English

Castell Carndochan 2017

Yn ystod mis Gorffennaf, bydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn gweithio yng Nghastell Carndochan unwaith eto.

Castell gweddol anadnabyddus o'r 13eg ganrif a oedd yn perthyn i Dywysogion Cymru yw Castell Carndochan. Fe saif ar fryn creigiog uwchben Llanuwchllyn. Yn wreiddiol, roedd ganddo bedwar tŵr a mur yn rhedeg o amgylch pen y bryn. Mae amlinell y castell yn dal i'w gweld, ond dros y canrifoedd mae popeth wedi dymchwel yn bentyrrau mawr o rwbel. Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn gweithio ar brosiect, gyda chymorth grant gan Cadw, i geisio sefydlogi'r safle a dod i wybod mwy amdano.

Mae gwaith cloddio yn yr hyn a arferai fod yn ardal fawr o rwbel dinodwedd wedi arwain at ddarganfod tŵr bychan hanner cylch a'r fynedfa fawr i'r castell. Mae'r muriau sydd newydd eu darganfod wedi cael eu diogelu a'u gadael yn agored er mwyn i ymwelwyr allu gweld rhannau o'r gwaith maen canoloesol. Yn ystod blwyddyn olaf y prosiect, bydd gwaith cloddio'n parhau ar y tŵr bychan, ynghyd â rhywfaint o fân waith archwilio ar weddill y castell.

Fel rhan o weithgareddau allgymorth y prosiect, cynhelir diwrnod agored ar ddydd Sul 16 Gorffennaf. Bydd tri chyfle i fynd ar daith tywys o gwmpas y safle. Dave Hopewell, sef archaeolegydd yr Ymddiriedolaeth sy'n gyfrifol am y prosiect, ynghyd â Rhys Mwyn, fydd yn arwain y teithiau. Bydd bysiau mini ar gael i gludo pobl o Lanuwchllyn i'r safle ac yn ôl, yn gadael y man codi am 10:30am, 2:00pm a 6:30pm. Mae'r teithiau'n rhad ac am ddim ond mae'n rhaid archebu lle. Cysylltwch â Sian Evans / Bethan Jones am fwy o fanylion: outreach@heneb.co.uk 01248 366970. Fe gewch wybod ble fydd y man codi ar ôl archebu. Yr wythnos ddilynol, bydd disgyblion Ysgol OM Edwards yn ymweld â'r safle a byddant yn cael cyfle i weld sut beth yw bod yn archaeolegydd.

Mae'r prosiect hwn wedi bod yn bosibl oherwydd cymorth grant gan Cadw. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod mor garedig â darparu cymorth ariannol ar gyfer agweddau allgymorth y prosiect.

Cysylltwch â Sian Evans / Bethan Jones am fwy o fanylion: outreach@heneb.co.uk 01248 366970.

 

Cloddiad Castell Carndochan 2016

Gwaith eleni oedd canolbwyntio ar ddarfod cloddio'r fynedfa sydd newydd ei darganfod i'r castell. Bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r gwaith y llynedd oherwydd bod y pen allanol wedi ei orchuddio gan sawl tunnell o rwbel. Wedi pedwar diwrnod o glirio dyfal, rydym wedi dadorchuddio'r rhodfa at y fynedfa yn ei chyfanrwydd, ac nid yw wedi dymchwel cymaint ag oeddem wedi ofni. Annisgwyl oedd sylweddoli bod y muriau sydd yn arwain at y fynedfa yn cydgyfarfod ar y tu allan, ac ymddengys bod bwa dros pen allanol y rhodfa. Roedd wedi dymchwel ganrifoedd yn ôl, ond syrthiodd i'r fynedfa ar un achlysur yn unig, ac felly mae'r olion yn ddealladwy o hyd. Mae'r darlun yn dangos golygfa o'r tu mewn. Mae'r garreg allwedd siâp triongl gyda slabiau llechen i'r naill ochr a'r llall i'w gweld yn glir. Gwelir ochr y fynedfa ychydig i'r chwith. Gosodwyd cerrig dros dro dan olion y bwa er mwyn ei gynnal nes cawn gyfle i'w gofnodi'n llawn yr wythnos nesaf. Hefyd cawsom ddau ddarganfyddiad : hoelen hardd wedi ei gwneud gyda llaw, a thamaid o blwm dalennog. Efallai bod y plwm wedi dod oddi ar y to sydd ar y tŵr mawr siâp D.

Castell Carndochan - Wythnos 2 - David Hopewell, cyfarwyddwr safle

Llun – Mawrth, Medi 26 - 27ain

Ar ddiwedd yr wythnos ddiwethaf roeddem ymhell ar y blaen. Ond mae dau ddiwrnod o law trwm a gwyntoedd cryfion wedi arafu pethau'n sylweddol. Mae'r llun o Neil McGuinness yn dweud y cyfan !

Ar nodyn positif, cawsom fod mwy o'r bwa dymchweledig a'r rhodfa at y fynedfa wedi goroesi dan y rwbel. Bellach gallwn weld fod y fynedfa'n culhau yn y pen allanol, ac mae cyrsiau isaf mur y rhodfa wedi goroesi bron ar ei hyd.

 

Mercher, Medi 28ain

Mae'n parhau i lawio a chwythu'n gryf. Rhaid i ni gofnodi popeth ond mae'n rhy wlyb i dynnu lluniau, a'r unig ffordd gallwn ysgrifennu yw ar daflen ddarlunio wrth-ddŵr, ond mae honno'n chwythu i ffwrdd o hyd. Rydym wedi cychwyn cloddio ffos asesu fechan ar y gorthwr sgwâr canolog.

 

Iau – Gwener, Medi 29 – 30ain

O'r diwedd, mae'r glaw (mwy neu lai) wedi peidio. Mae mân bethau sydd yn ymwneud â'r cloddiad yn aros i'w cwblhau, ac mae gan Neil a finnau lawer o gofnodi i'w wneud.

Rydym wedi penderfynnu gadael y bwa rhannol –ddymchweledig yn ei le a'i ail-gladdu. Aeth John Burman ati i ddarfod cloddio gweddill y rhodfa at y fynedfa. Roedd lefel wreiddiol y llawr yn cynnwys ychydig o slabiau llechen a wyneb o raean. Tybed oedd Llywelyn ap Gruffudd yn un o'r rhai olaf i gerdded ar yr wyneb hwn ?

Bu'r gorthwr sgwâr yng nghanol y safle yn dipyn o ddirgelwch erioed. Efallai dyma elfen gyntaf y castell – tŵr unigol fel Dinas Emrys. Rydym wedi cloddio rhan fach ohonno, gan edrych ar wynebau allanol a mewnol y mur a rhan fach o'r tu mewn. Cafodd ei adeiladu ar ben creigwely anwastad, felly mae'n rhaid fod y llawr wedi gorwedd uwchlaw lefel bresennol y rwbel. Daethom o hyd i fur mewn cyflwr da – roedd hwn wedi ei rwymo gyda morter ac yn sefyll tua 0.8m o uchder. Roedd wedi ei godi ar wyneb gwreiddiol y ddaear, a hynny heb unrhyw sylfaen; roedd lefel wreiddiol y glaswellt yn rhedeg o dan y mur. Doedd dim rheoliadau adeiladu yn y 13eg ganrif ! Tu mewn roedd cerrig wedi cracio a siarcol.

Yn ystod awr olaf y cloddiad, daethom o hyd i ddarn o arian. Roeddwn wedi gobeithio cael tystiolaeth dyddio pendant, ond roedd hwn yn gofyn mwy o gwestiynau nag oedd yn ateb. Wedi ei lanhau'n fras, daeth yn amlwg mai jeton copr oedd hwn – math o fotwm fel darn arian oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfrifo. Yn hytrach na'r dyluniad 13eg ganrif disgwyliedig, roeddem yn gweld cronnell – nodwedd ar y jetons hynny a gynhyrchwyd yn Nuremberg yn ystod y 16eg a'r 17eg ganrif. Sut gebyst collwyd hwn ar y safle 300 mlynedd wedi'r cyfnod y tybiwyd i'r castell gael ei adael ?

Llun Hydref 3ydd

Y bwriad tymor hir ar gyfer y safle yw gadael o leiaf rhyw faint o'r muriau rydym newydd eu darganfod yn agored fel bo modd i ymwelwyr eu gweld a defnyddio'r fynedfa. Mae'r morter ar gopa'r muriau wedi golchi i ffwrdd, felly bydd rhaid ail-bwyntio'r gwaith maen gyda morter calch er mwyn ei sefydlogi. Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi dyfeisio cynllun atgyfnerthu, ac mae Alwyn Ellis a'i dîm o Stonewyrcs, arbenigwyr mewn gweithio gyda deunyddiau traddodiadol, wedi cychwyn gweithio ar y safle. Caiff y mannau a gloddwyd eu hôl-lenwi er mwyn sefydlogi'r safle, ond caiff cymaint o'r muriau â phosib eu gadael yn agored.

Gwnaethpwyd y gwaith cloddio gyda chymorth grant gan Cadw, ac fe'i ymgymerwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a grŵp o wirfoddolwyr profiadol. Cyfarwyddwyd y gwaith sefydlogi a gweithgareddau all-gyrraedd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac fe'u cyllidwyd gan Cadw ac APCE.

Diolch i Gwyn Roberts perchennog y safle, Ian Halfpenny a Will Davies (Cadw), a John G Roberts, Naomi Jones a Jessica Enston (APCE), a Neil McGuinness (YAG).

Diolch arbennig i bawb fu'n gwirfoddoli ar y cloddiad a fu'n brysur yn symud tunelli o gerrig beth bynnag y tywydd : John Burman, Beaver Hughes, David Elis-Williams, Jeff Marples, Rhys Mwyn a George Smith.

 

21 Medi 2016

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi dechrau 2 wythnos arall o waith yng Nghastell Carndochan, castell o Oes Tywysogion Cymru yn Llanuwchllyn nad yw'n hysbys iawn. Byddwn yn gorffen cloddio o gwmpas y fynedfa (newydd eu darganfod). Rydym yn gweithio efo'r Gwasanaeth Parc Cenedlaethol Eryri (sy'n gyfrifol am y broses o gydgyfnerthu'r gwaith maen agored). Cafwyd cymorth ariannol gan Cadw, ac rydym yn ddiolchgar am y cymorth a gafwyd gan Barc Cenedlaethol Eryri hefyd.

Byddwn yn eich diweddaru gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith cloddio yma.

 

Castell Carndochan ar 'Prynhawn Da'

Ar Hydref 15fed dangoswyd S4C darn am Gastell Carndochan wnaeth cael ei ffilmio ar y diwrnod ‘Drysau Agored' yn ystod y gwaith cloddio. Mae dal ar gael i'w weld trwy ddilyn y ddolen isod. Mae'r darn am Gastell Carndochan yn cychwyn yn y 16eg munud. Dilynwch ni ar weplyfr a thrydar ar gyfer weld ragor o luniau o'r digwyddiadau diweddar ar y safle.

http://www.s4c.cymru/clic/e_level2.shtml?programme_id=525756699

Cadwraeth a gwaith cloddio yng Nghastell Carndochan, Llanuwchllyn

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd newydd orffen 6 diwrnod o waith gyda thîm o wirfoddolwyr yng Nghastell Carndochan, castell o Oes Tywysogion Cymru yn Llanuwchllyn nad yw'n hysbys iawn. Mae David Hopewell, cyfarwyddwr y gwaith ar y safle, yn disgrifio'r safle a chanlyniadau'r gwaith cloddio. Cafwyd cymorth ariannol gan Cadw tuag at y gwaith ac mae'r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i Ian Halfpenny (Archwilydd Henebion) am ei holl gymorth, ac rydym yn ddiolchgar am y cymorth a gafwyd gan Barc Cenedlaethol Eryri hefyd, trwy wasanaeth John Roberts, yr archaeolegydd yno. Cafwyd cyngor gan Mike Garner o Bartneriaeth Garner Southall, ar anghenion cadwraeth y safle. Mae'r castell yn heneb gofrestredig.

Adroddiad Castell Carndochan mewn ffurf PDF

 

Y safle, argraffiadau cyntaf a'r gwaith cofnodi cychwynnol

Ar y safle ceir castell carreg canoloesol nad yw'n cael fawr o sylw, ar ben brigiad amlwg uwchben Llanuwchllyn. Er bod y safle'n un gwych, nid yw'r olion cerrig, ar yr olwg gyntaf, o'r ansawdd orau. Serch hynny, wrth archwilio'n fwy manwl gwelir ffos naddedig mewn craig ar draws pen pellaf y pentir. Amddiffynnir y pentir gan wal len o amgylch y perimedr gyda dau dŵr posib wedi'u hadeiladu arni. Ar yr ochr dde-orllewin ceir gweddillion tŵr mawr cadarn ar ffurf D. Mae gwaith cerrig y tŵr hwn yn ymddangos ychydig yn wahanol i weddill y castell.

Ychydig iawn a wyddom am hanes y safle, ac nid oes sôn amdano mewn dogfennau canoloesol, er y gred yw y cafodd y castell ei adeiladu'n wreiddiol ar ddechrau i ganol y drydedd ganrif ar ddeg, gan Llewelyn ap Iorwerth o bosib. Efallai y safodd y tŵr sgwâr mewnol ar ei ben ei hun yn wreiddiol, fel Dinas Emrys, gyda gweddill y safle wedi ei adeiladu'n o'i amgylch yn ddiweddarach, dros sawl cyfnod efallai. Nid oes tystiolaeth o ddefnydd parhaus wedi 1283.

Bu i ni gynhyrchu cynllun newydd o'r safle drwy ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf a alluogodd i ni gyfuno canlyniadau tirfesur GPS gyda chofnod ffotograffig manwl. Defnyddiwyd rhaglen gyfrifiadurol i gynhyrchu model 3D o'r safle o rai cannoedd o ffotograffau digidol. Ychwanegwyd rhagor o fanylion drwy ddefnyddio papur a phensel yn y dull hen ffasiwn.

 


Golygfa o'r safle o'r awyr drwy ddefnyddio model 3D

 


Cynllun newydd o Gastell Carndochan yn dangos y ffosydd a gloddiwyd

 

Gwaith cadwraeth

Prif nod y gwaith oedd diogelu rhannau o'r safle a oedd yn erydu'n naturiol. Y rhan waethaf yn hyn o beth oedd y tŵr ar ffurf D, lle'r oedd rhan o'r strwythur wedi cwympo, a'n tasg gyntaf oedd archwilio hyn a'i sefydlogi cyn misoedd y gaeaf, er mwyn medru cynnal rhagor o waith cadwraeth y flwyddyn nesaf.

Bu i ni glirio'r gwaith cerrig yn ofalus o rannau gwaethaf y cwymp ar ochr ogledd-ddwyrain y tŵr (Ffos 1); daeth yn amlwg bod y wal wedi ei danseilio gan archwiliad anawdurdodedig i lawr o dan lefel yr wyneb rhyw dro yn y gorffennol. Yn ffodus, er bod rhan o wyneb y wal wedi cwympo, roedd y mortar yng nghanol y wal yn parhau'n eithaf cadarn. Defnyddiwyd y cerrig rhydd i greu bwtres yn erbyn y cwymp er mwyn atal rhagor o ddirywiad. Cwblhawyd proses debyg ar ardal arall lai o gwymp ar ochr arall y tŵr (Ffos 2).


Y wal ar ôl y gwaith clirio, pwrpas y weiren oedd atal cerrig rhydd rhag cwympo ar ben yr archaeolegwyr

 

Gwaith cloddio i asesu

Mae rhan ganolog y castell wedi dadfeilio'n sylweddol. Rhoddwyd Caniatâd Heneb Gofrestredig i glirio'r cerrig a oedd ar yr wyneb mewn tri llecyn bach i ganfod a oedd unrhyw olion archaeolegol sylweddol yn weddill o dan y cerrig hyn. Y bwriad oedd peidio â chloddio yn ddyfnach ar hyn o bryd.

Ffos 3

Roedd y rhan hon yn cynnwys twmpath mawr o gerrig heb unrhyw strwythur amlwg yn weladwy. Roedd amryw wedi ei ddehongli fel tŵr, mynedfa neu ran o fryngaer gynharach hyd yn oed. Er hynny, ni welwyd unrhyw olion clir ar yr wyneb a chawsom ein siomi ar yr ochr orau pan symudwyd y twmpath cerrig a chawsom hyd i ymyl wal gadarn o wneuthuriad mortar gyda chanol mortar sylweddol i'r wal hefyd. Rydym wedi dehongli'r gweddillion fel dau strwythur. Credir mai tŵr arall ar ffurf D yw'r cyntaf sydd â mesuriadau mewnol o 4.8m x 4.4m. Roedd y waliau hyd at 2.2m o drwch.


Rhannau o ddwy wal yn dangos mai tŵr ar ffurf D oedd yma unwaith eto

Credir bod yr ail strwythur, lle datgelwyd rhan fach ohono yn unig, yn cynrychioli un ochr strwythur petryal sydd â mesuriadau mewnol o 4.4m x 4.4m.


Cornel yr adeilad petryal

Roedd wyneb y wal wedi goroesi hyd at 0.5m uwchben y lefel a gliriwyd ac wrth brocio rhagdybir bod 0.5m pellach yn ymestyn i lawr o dan y twmpath cerrig. Ni ddatgelwyd yr un o'r ddau strwythur yn llwyr.

Ffos 4

Cliriwyd cerrig rhydd o ymyl allanol sgwâr mewnol yr amddiffynfa gan ddatgelu ymyl wal wedi cwympo'n rhannol o bosib yn gorwedd ar sylfaen cerrig a falwyd ac a osodwyd. Roedd y gwaith cerrig yn gadarn ond wedi cwympo i raddau ac yn anodd ei ddehongli yn sgil hynny. Y dehongliad mwyaf credadwy mae'n debyg yw mai canol y wal sydd yma yn goroesi gyda'r wyneb allanol wedi cwympo. Adeiladwyd y rhan waelod ar y creigwely. Darganfuwyd haen yn llawn golosg o dan y cerrig cwymp ar waelod wal. Ni chloddiwyd y rhan hon ond cymerwyd sampl. Ymddengys bod darn uchaf y wal yn 1.8m o drwch sy'n ymestyn i 3m ar y gwaelod.


Roedd wyneb allanol yr amddiffynfa wedi cwympo'n rhannol ac wedi ei adeiladu ar graigwely

Ffos 5

Cliriwyd ar hyd rhan fach o wyneb mewnol y wal len gan ddatgelu wyneb wedi goroesi'n dda 0.6m o uchder. Dyma uchder uchaf y gwaith cerrig sy'n goroesi yn y llecyn hwn.


Cafodd wyneb mewnol y wal len ei adeiladu'n daclus iawn ac mae wedi goroesi'n dda er at uchder o 0.6m yn unig

Nodwyd bod y mortar yn ffosydd 3 a 4 yn cynnwys cregyn cocos gan ddynodi bod y calch wedi dod o'r arfordir (30km i ffwrdd o leiaf). Ni chanfuwyd unrhyw gocos yn y tŵr ar ffurf D (ffosydd 1 a 2) gan awgrymu felly bod y mortar wedi dod o ddau le gwahanol ac efallai'n awgrymu dau gyfnod gwahanol o adeiladu. Casglwyd samplau o'r mortar i'w dadansoddi.

Wedi i'r darganfyddiadau gael eu cofnodi cafodd y safle ei ail-lenwi yn ofalus er mwyn gwarchod yr olion archaeolegol, gan sicrhau bod y safle'n edrych fel ag yr oedd cyn cychwyn....bu i ni hyd yn oed roi'r cerrig a oedd wedi eu gorchuddio â chen yn ôl yn ofalus. Y bwriad yw cynnal rhagor o waith cadwraeth a chloddio yn 2015, ond am y tro rydym yn falch iawn o ganlyniadau'r gwaith cychwynnol eleni.


Neil McGuiness yn darlunio pen draw'r tŵr ar ffurf


Ar ôl ail-lenwi'r safle: dychwelyd y safle i'w gyflwr gwreiddiol

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol