Parc Cybi, Caergybi
Ynys Gybi

Ynys fechan oddi ar arfordir Ynys Môn yw Ynys Gybi. Mae cyfoeth o archaeoleg yn perthyn iddi.

Yn wreiddiol, mae'n debyg y bu yno bedwar beddrod siambr, ond olion dau yn unig sydd wedi goroesi hyd heddiw. Ceir meini hirion, gan gynnwys y pâr o feini tal ym Mhenrhos Feilw, a nifer fawr o aneddiadau o'r Oes Haearn, rhai wedi'u gwarchod yn dda, megis cylchoedd cytiau Ty Mawr ger Ynys Lawd. Ar gopa Mynydd Twr, ceir bryngaer fawr a gorsaf rybuddio fechan, Rufeinig. Cododd y Rhufeiniaid gaer yn y lle rydym yn ei adnabod fel Caergybi heddiw, a defnyddiwyd hon yn yr Oesoedd Canol cynnar gan gymuned fynachaidd, yna ar gyfer yr eglwys blwyf.

Ar ddechrau'r 19eg ganrif, daeth Caergybi yn brif borthladd ar gyfer teithio i Iwerddon. Roedd teulu Stanley yn byw yn Nhy Penrhos ac ymchwiliodd W.O.Stanley i lawer o hynafbethau'r ynys.