Parc Cybi, Caergybi
Y Darganfyddiadau

Neuadd Neolithig Gynnar

Mae'n bur debyg mai'r safle pwysicaf gafwyd ym Mharc Cybi oedd olion adeilad Neolithig cynnar. Diffiniwyd hwn gyda thyllau pyst a slotiau sylfeini oedd wedi goroesi yn y ddaear wedi i'r goruwchadeilad ddiflanu.

Roedd yr adeilad hwn oddeutu 15m o hyd a 6m o led, a byddai wedi bod yn adeilad trawiadol y gellid efallai ei ddisgrifio fel neuadd.

Mae adeiladau fel hyn yn eithaf prin ond maent yn ymddangos led-led Prydain a'r Iwerddon gydag enghreifftiau mawr yn cael eu darganfod yn yr Alban. Defnyddiwyd neuadd Parc Cybi rhwng oddeutu 3700 a 3600 CC, sef tua cychwyn y cyfnod Neolithig.

Roedd y neuadd yn cynnwys gwasgariadau o sbwriel cartref ar ffurf darnau m â n o grochenwaith, naddion fflint a darnau asgwrn llosg; roedd hefyd breuanau cyfrwy ar gyfer malu grawn. Roedd pobl yn byw yn yr adeilad felly, ond ai cartref cyffredin oedd hwn yn unig? Roedd y neuadd wedi ei gosod i gyflinio gyda beddrod siambr Trefignath, sy'n ymddangos wedi ei ail-adeiladu i gyd-fynd â 'r cyfliniad hwn. Mae'r cysylltiad yma rhwng y neuadd a'r beddrod yn awgrymu bod y neuadd â swyddogaeth ehangach na chartref yn unig.

 

Adluniad o'r neuadd Neolithig fel y gallai fod wedi ymddangos, wedi ei ddarlunio gan Helen Flook
Hawlfraint: Helen Flook