Parc Cybi, Caergybi
Y Darganfyddiadau

Twmpathau Llosg

Mae twmpathau llosg yn nodweddion cyffredin yng ngorllewin Cymru ac fel arfer maent yn dyddio o oddeutu 2500 i 1000 CC, ond mae rhai'n gynharach. Fel arfer maent yn cynnwys un neu ragor o dyllau neu gafnau i ddal dŵr a safle ar gyfer tân. Cynheswyd cerrig ar y tân cyn eu gosod yn y cafn i ferwi'r dŵr. Yna byddai'r cerrig yn cael eu taflu o gwmpas yr ardal weithio i ffurfio tomen isel. Mae'n debyg fod y dŵr poeth yn cael ei ddefnyddio ar gyfer coginio, ond mae'n bosib iddo gael ei ddefnyddio at bwrpas arall, fel bragu cwrw neu liwio brethyn.

 

Pen saeth fflint siâp deilen gafwyd o dan y twmpath llosg bychan

 

Cafnau a ffynnon y twmpath llosg mawr

Ym Mharc Cybi dim ond dau dwmpath llosg gafwyd, ond roedd tyllau eraill yn cynnwys cerrig wedi cracio oherwydd gwres ac efallai eu bod hwy'n perthyn i dwmpathau llosg.

Roedd twmpath bychan iawn yn dyddio i oddeutu 2800 CC (y cyfnod Neolithig hwyr) ac roedd pen saeth Neolithig siâp deilen oddi tano.

Roedd y twmpath arall yn llawer mwy, a chredwn iddo gael ei ail-ddefnyddio am hyd at 700 mlynedd, a hynny o fyr amser wedi 2500 CC mae'n debyg. Ni chafodd ei ddefnyddio'n barhaol ac roedd o leiaf tri chyfnod amlwg o ddefnydd. Yn bur aml caiff dwmpathau llosg eu lleoli yn ymyl ffrwd er mwyn sicrhau tarddle dŵr, ond roedd y twmpath hwn yn derbyn dŵr croyw o ffynnon.