Parc Cybi, Caergybi
Y Darganfyddiadau

Henebion yr Oes Efydd

Gerllaw y fynwent cist roedd dau heneb arall yr Oes Efydd. Mae'n debyg fod tomen gladdu arall wedi ei hychwanegu'n hwyrach yn yr Oes Efydd. Er nad oedd y domen yn parhau mewn bodolaeth, roedd wedi ei nodi gan ffos gylchog, ac o'r ffos hon y cloddiwyd y pridd ar gyfer y domen. Yn ddiweddarach yn yr Oes Efydd, daeth corfflosgiadau'n fwy cyffredin, ac mae'n bur debyg fod y domen hon wedi cynnwys gweddillion corfflosgiad mewn un ai yrnau neu gistiau bychain. Ond mae'n bur debyg fod rhain wedi eu gosod oddi mewn i'r domen a wastadwyd, ac ni chafwyd unrhyw argoel o gladdedigaethau na chrochenwaith.


Ffos gron yn diffinio lleoliad crug Oes Efydd

Rhwng y ddau heneb yma, roedd nodwedd ffosiog rhyfedd. Ymddengys fod hon wedi cychwyn fel ffos gylchog, yna mewnlenwyd rhan ohoni cyn ail-gloddio gweddill y ffos i ffurfio lloc mwy siâp D. Dangosodd crochenwaith a dyddio radiocarbon mai lloc yr Oes Efydd oedd hwn, ond nid ydym yn gwybod beth oedd ei swyddogaeth. Mae ei leoliad rhwng dwy domen gladdu yn awgrymu mai heneb seremonïol oedd hwn.


Ambell nodwedd ffos siap D

300m i'r gogledd-ddwyrain o'r henebion hyn roedd tomen gladdu arall wedi ei hamgylchynu gyda ffos gylchog. Mae hon wedi ei lleoli ar lwybr presennol yr A55 a chafodd ei chloddio yn 1999 cyn adeiladu'r ffordd. Roedd y domen hon hefyd wedi ei lefelu, a dim ond y ffos sy'n goroesi. Mae'n cadarnhau presenoldeb gr w p o henebion mewn llain cymharol fychan.


Ffos Gron Tŷ Mawr gyda mynwent llawer hwyrach wedi ei thyllu drosto