DARGANFYDDWCH DREFTADAETH Y RHYFEL BYD CYNTAF YNG NGHYMRU

DISCOVER THE LEGACY OF THE WAR IN WALES

1914

1918

 

 

 

English

Awyrennau

Roedd defnydd yr Almaenwyr o longau tanfor yn ddatblygiad newydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn fygythiad difrifol i longau yn y dyfroedd o amgylch Prydain a'r Iwerddon. Roedd yn hanfodol bwysig bod Prydain yn datblygu ffordd o ymateb i'r bygythiad, ac roedd awyrennau yn ran bwysig o'r ymateb hwn, Llongau rhyfel oedd yr unig ffordd effeithiol o ymosod ar longau tanfor, ond roeddynt yn gymharol araf a chyfyngedig oedd eu gallu i leoli'r llongau tanfor.

Roedd awyrennau yn ddatblygiad newydd ac annibenadwy, ac ni chawsant eu hystyried yn wreiddiol, ond roedd llongau awyr yn gallu lleoli'r llongau tanfor islaw iddynt, ac anfon gwybodaeth o'u lleoliad i'r llongau rhyfel trwy gyfrwng neges radio, yn ogystal â chynnig rhyw faint o fedrusrwydd bomio. Roedd yn bwysig bod llong awyr wedi ei dylunio'n briodol ar gyfer y dasg, a chawsant eu datblygu'n gyson trwy gydol y rhyfel. Sefydlwyd y llongau awyr hynny oedd yn cylchrodio Môr Iwerddon ar safle ger Llangefni ar Ynys Môn - safle a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach fel RAF Mona, ac yna Maes Awyr Mona. Roedd pedair llong awyr yno, yn cael eu cadw mewn sied awyrennau anferth.

Parhaodd Gorsaf Llong Awyr y Llynges Frenhinol (RNAS) yn Llangefni gyda'r gwaith Ymchwil a Datblygiad trwy gymryd rhan mewn arbrofion llwyddiannus gyda hydroffonau yn hongian o'r llongau awyr er mwyn ceisio darganfod y llongau tanfor. Roedd arbrofion eraill yn cynnwys gwasgaru ffosfforws ar y môr er mwyn creu sgrîn, a defnyddio hydrogen o fag nwy'r llong awyr fel tanwydd i'r peiriant. Ystyriwyd yr olaf yn beryglus ac ni fu'n llwyddiannus.

Roedd awyrennau’n syniad newydd iawn ar gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Robert Loraine oedd y person cyntaf i hedfan i Gymru yn 1910, ac roedd y rhan fwyaf o’r awyrennau welwyd cyn y Rhyfel yn cymryd rhan mewn arddangosfeydd hedfan. Cynhaliwyd Ymchwil a Datblygu awyrennau yng Ngogledd Orllewin Cymru pan fu i Ellis Williams o Brifysgol Bangor ddatblygu awyren brawf ("Bamboo Bird") a’i hedfan ar dywod Traeth Coch.

Arweiniodd cynnydd yn symudiadau llongau tanfor yn 1917 i'r galw am awyrennau i helpu'r llongau awyr. Dewiswyd safle ger Bangor, ar y gwastatir arfordirol yn Abergwyngregyn, ar fferm Glan y Mor Isaf. Cliriwyd y gwrychoedd yn 1918 er mwyn creu maes glanio, ac adeiladwyd siediau awyrennau addas ar gyfer 18 awyren, ond bu'n rhaid i'r peilotiaid fyw mewn pebyll.

 


Gorsaf Llong Awyr y Llynges Frenhinol Llangefni yn 1918 o un o'r llongau awyr (trwy garedigrwydd Archifdy Môn (WM 2010/1))

 


Llong Awyr yn RNAS Llangefni ( trwy garedigrwydd Archifdy Môn (WM 2010/1))

 


Awyren gynnar o'r math fu'n hedfan o Glan y Mor Isaf ( trwy garedigrwydd Archifdy Môn (WM 1609/14))

 

 

Every effort has been made to contact the copyright holders of materials included on this Website.
If visitors consider materials to be their copyright and have not been contacted by the GAT, please contact us at WWI@heneb.co.uk