English

Darlithoedd Gaeaf - Tachwedd a Rhagfyr 2023

 

Lleoliad newydd : ysgol undydd Cymdeithas Archaeoleg Bangor, fory 11/03/2023



Cymhorthfa Darganfyddiadau, Dydd Sadwrn Ebrill 1af 2023

 

 

David Longley

Trist iawn oedd clywed am farwolaeth ein cyn Brif Archaeolegydd yn yr Ymddiriedolaeth, David Longley, a fu farw'n dawel yn gynharach yr wythnos hon.

Gweithiodd i'r Ymddiriedolaeth rhwng 1983 a'i ymddeoliad yn 2011 a bu'n Brif Archaeolegydd o 1992 hyd nes iddo ymddeol. Roedd ei ymroddiad a'i ddysg yn ysbrydoliaeth i bawb a weithiodd i'r sefydliad a llwyddodd hynny i gynyddu enw da'r Ymddiriedolaeth dros y blynyddoedd.

Arweiniodd yr Ymddiriedolaeth drwy amseroedd anodd gan sicrhau ei goroesiad a'i thwf i'r dyfodol. Yn dilyn ei ymddeoliad bu i salwch ei atal rhag cyflawni llawer o waith a oedd ganddo ar y gweill, ond braf oedd gweld bod llawer o'i ymchwil yn ddiogel mewn amryw o erthyglau a gwblhaodd.

Caiff ei gofio yn yr Ymddiriedolaeth fel gŵr cyfeillgar, un a roddodd gymaint o gefnogaeth i'w staff, ynghyd â safon uchel ei waith.

 


David Longley yn arwain grŵp o amgylch Llys Rhosyr, 2014

 

 

Cyfres Darlithoedd Gaeaf

Rydym wedi trefnu cyfres o ddarlithoedd gaeaf wyneb yn wyneb (Ionawr – Chwefror 2023, nosweithiau Fercher, 7:30pm, Canolfan Thomas Telford, Porthaethwy). Gweler uchod am fanylion. Nid oes angen archebu lle. Te a choffi ar gael wedyn.

Rydym hefyd yn gobeithio recordio pob darlith gyda golwg ar gyhoeddi ar-lein wedyn.

Os oes gennych unrhyw bryderon am Covid, byddem yn eich annog i wisgo mwgwd. Gallwch hefyd gysylltu â mi:

outreach@heneb.co.uk

Peidiwch â mynychu os ydych yn dioddef o symptomau Covid, os gwelwch yn dda.

NB nid ydym yn siŵr a fydd Pont Grog y Borth ar agor pan fydd y gyfres o ddarlithoedd yn dechrau.

Nadolig Llawen!

 

Bryngaer Arfordirol Cynhanesyddol Dinas Dinlle Gwaith Cloddio

Gorffennaf 11eg - Awst 5ed 2022


Delwedd © Ymddiriedoleath Archaeolegol Gwynedd

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn ymgymryd â gwaith cloddio unwaith eto ym mryngaer arfordirol, cynhanesyddol, Dinas Dinlle. Y tro hwn, rydym yn canolbwyntio ar olion gweddillion y tŷ crwn mawr o'r Oes Haearn, sydd mewn cyflwr da, ar ochr orllewinol y tu mewn i'r fryngaer.

Caiff y prosiect ei ariannu a'i gynnal ar y cyd rhwng Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r prosiect CHERISH. Mae gwirfoddolwyr, plant ysgolion lleol a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ein helpu ni gyda'n gwaith.

Mae'r gaer yn cwympo i'r môr, ac mae olion y tŷ crwn byddem yn eu harchwilio i'w gweld ar ochr y fryngaer sydd fwyaf mewn perygl o erydiad.

Mae bryngaer arfordirol Dinas Dinlle wedi'i lleoli mewn man dramatig, yn edrych dros y môr a gwastadedd arfordirol gogledd Llŷn. Tybir bod yr adeiladau mewnol ac amddiffynnol wedi cael eu hadeiladu'n wreiddiol yn ystod diwedd y cyfnod cynhanesyddol, ond mae crochenwaith sydd wedi'i ganfod ar y safle'n cadarnhau bod meddiannaeth wedi parhau yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid. Yn ystod dechrau'r 20fed ganrif, roedd y gaer yn ffurfio rhan o gwrs golff, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd amddiffynfeydd ar y llethrau gogleddol er mwyn diogelu RAF Llandwrog gerllaw - sef maes awyr Caernarfon erbyn heddiw.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd berchen ar y gaer, sydd wedi'i diogelu fel Heneb Gofrestredig ac mae'r bryn o waddodion rhewlifol y mae'r safle'n sefyll arno wedi'i nodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Ymholiadau'r wasg: outreach@heneb.co.uk 07741 292802

 

Dyddiadur cloddio - Byddwn yn postio diweddariadau dyddiol fel y gallwch ddilyn y prosiect - cliciwch yma.

 

 

Dinas Dinlle Diwrnod Agored 30 Mehefin 2022

 

Bryn Celli Ddu 2022

Peidiwch ag anghofio – byddwn ni yn Niwrnod Agored Bryn Celli Ddu dydd Sadwrn yma (18fed Mehefin), 11:00yb – 4:00yp.

Dewch i wneud model o siambr gladdu yn ein stondin. Gwerthiant llyfrau hefyd.

Mae rhai digwyddiadau gyda'r nos hefyd.

Gweler y dolenni, isod:

https://cadw.llyw.cymru/dydd-agored-hanes-byw-neolithig

https://cadw.llyw.cymru/heuldro-bryn-celli-ddu

 

Darlithoedd Ar-lein

Mwynhewch rhai o'n darlithoedd cyhoeddus ar-lein diweddar.

https://youtube.com/playlist?list=PLka_KBJQA-SNXddc6GPMihok5D9NA9Oy1

 

Cloddfa Archaeolegol, Ffordd Llwyn Bleddyn, Rachub


Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cynnal cloddfa ar Ffordd Llwyn Bleddyn, Rachub , o
flaen datblygiad ar gyfer tai cymdeithasol. Cyllidir y gloddfa gan Adra.


Awyrlun o'r safle


Tai crynion yn gorgyffwrdd

 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth

 

Taflwch olwg ar ein model 3D rhyngweithiol diweddaraf!


Mae'n dangos y tŷ crwn mawr a gloddiwyd yn ddiweddar fel rhan o'r cloddfeydd ym mryngaer
ar fordirol cynhanesyddol Dinas Dinlle eleni.

 

Diwrnod Agored Dinas Dinlle 4 Medi 2021

 

 

Darlith Cyhoeddus: William George Owen, Caernarfon (1810-85): Peiriannydd Sifil

Mae darlith David Elis-Williams: 'William George Owen, Caernarfon (1810-85): Peiriannydd Sifil' bellach ar ein sianel YouTube.

Cyhoeddiad Newydd: Jane Kenney: A Welsh Landscape Through Time: Excavations at Parc Cybi, Holy Island, Anglesey (2021)

Mae Oxbow Books yn cynnig yr argraffiad clawr caled o lyfr Jane Kenney: A Welsh Landscape Through Time: Excavations at Parc Cybi, Holy Island, Anglesey (2021) am bris cyflwyniadol arbennig. Er mwyn manteisio ar y cynnig hwn cyn cyhoeddi swyddogol y llyfr mis nesaf, cliciwch yma.

Darlith Cyhoeddus: Dulliau yn ymwneud ag archaeoleg arfordirol gogledd orllewin Cymru: adolygol ac i'r dyfodol

Dyma recordiad o ddarlith ddiweddar Gary Robinson (Prifysgol Bangor).

Ymestynnwch dros 6,000 o flynyddoedd a gwelwch sut bu pobl yn byw ar Ynys Cybi

Arddangosfa Archaeolegol Parc Cybi, Oriel Môn

Mae Oriel Môn yn agor i'r cyhoedd eto ddydd Mawrth, 18fed o Fai . Mae hyn yn golygu y byddwch, o'r diwedd, yn gallu gweld arddangosfa Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd: Parc Cybi: Tirlun Drwy'r Oesoedd .

Sut bu cyndeidiau trigolion Caergybi heddiw yn byw yn y gorffennol? Mae arddangosfa'n barod i adrodd stori sut bu trigolion yr ynys yn byw, yn gweithio, ac yn cael eu claddu filoedd o flynyddoedd yn ôl. Dewch i ddysgu am y dirwedd archaeolegol anhygoel sydd wedi ei datguddio gan y cloddiadau ym Mharc Cybi ar Ynys Cybi. Bu 120 o ddisgyblion Ysgol Cybi yn helpu i baratoi ar gyfer yr arddangosfa, a bydd enghreifftiau o'u gwaith yn cael eu harddangos hefyd. Cewch weld arteffactau a ddatguddiwyd yn ystod y cloddiad, a cewch ddysgu am rai o'r nodweddion o bwysigrwydd rhyngwladol a ddarganfyddwyd.

O 2006 i 2008 a 2009 i 2010, bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cynnal cloddiadau archaeolegol o flaen adeiladu Parc Cybi, safle datblygu pwysig Llywodraeth Cymru ger Caergybi. Ymchwilwyd dros 20 hectar a datgelwyd tirwedd archaeolegol gyfareddol. Cyllidwyd y cloddiadau, y dadansoddiadau canlynol, a'r arddangosfa gan Lywodraeth Cymru.

Nodweddion o Bwysigrwydd Rhyngwladol a chyfle i weld darganfyddiadau hyd at 6,000 mlwydd oed
Mae'r nodweddion a ddatguddiwyd yn cynnwys olion o bwysigrwydd rhyngwladol tŷ coed Neolithig 5,700 mlwydd oed, ond yr arteffact mwyaf pwysig oedd mwclen fawr glo canel (math o siâl olew sydd yn edrych fel muchudd). Wedi ei ffurfio gan drigolion y tŷ Neolithig, dyma'r unig fwclen Neolithig fel muchudd o Gymru y gwyddwn amdani, a bydd yn rhan o'r arddangosfa.

Gallwch weld yr arddangosfa yn Oriel Môn , Llangefni, Ynys Môn (LL77 7TQ) o ddydd Mawrth, 18fed o Fai 2021.

 

Cliciwch yma i weld ein tudalennau gwe Parc Cybi.

 

Darlith Gymraeg

Ebostiwch outreach@heneb.co.uk os ydych yn awyddus i ymuno.

 

Cylchlythyr Cyfeillion Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd 2019 - 2020

Cliciwch yma am fersiwn ddigidol o'n cylchlythyr diweddar Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd 2019 - 2020.

Am ragor o wybodaeth am Gyfeillion Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd cliciwch yma.

 

Darlith Cyhoeddus: Ffermwyr Cyntaf Cymru - y cyfnod Neolithig yn y gogledd-orllewin

Dyma recordiad o ddarlith ddiweddar Jane Kenney.

 

Dyddiadur Cloddio Treforys Chwefror 2021

Cliciwch yma

 

 

Dyddiadur Cloddio, Lleoliad heb ei Ddatgelu, Ionawr 2021

Cliciwch yma

 

Modelau 3D Rhyngweithiol

 

Rydym wedi creu rhai modelau 3D rhyngweithiol o arteffactau ac adeiladweithiau amrywiol. CLICIWCH YMA

 

 

 

Gweithgaredd Gwneud Pot (Clwb Archaeolegwyr Ifanc)

Gwnewch eich pot clai eich hun! (Sesiwn Clwb Archaeolegwyr Ifanc).

Mae ‘na daflen wybodaeth sy'n cyd-fynd â'r fideo hwn. Rydym wedi ei hanfon at aelodau ein cangen.
Cliciwch
YMA. i lawrlwytho copi.

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd sydd yn rhedeg Clwb Archaeolegwyr Ifanc Cangen Bangor. Os hoffech chi ymuno, cliciwch YMA.

Gwefan CAI – cliciwch YMA.

 

Darlithoedd Arlein – Gwynedd Rhufeinig (Is-deitlau Cymraeg)

Bydd Dave Hopewell - un o'n archaeolegwyr hŷn - yn cyflwyno cyfres fer o ddarlithoedd anffurfiol ar waith diweddar yr Ymddiriedolaeth.
Bydd ein pum darlith gyntaf yn edrych ar y Wynedd Rufeinig – cliciwch yma .

Archwilio


Porwch filoedd o safleoedd hanesyddol led-led Cymru o'ch cartref cysurus. Mynediad arlein cyhoeddus i Gofnod yr Amgylchedd Hanesyddol (CAH) ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru.

Cyfarwyddiadau Cam-wrth-Gam ar gyfer Defnyddwyr: CLICIWCH YMA

I dderbyn mynediad i Archwilio: CLICIWCH YMA

Gwybodaeth bellach am Archwilio a'r CAH: CLICIWCH YMA

YSGOL UNDYDD - CLODDIAD YM MHARC CYBI, CAERGYBI

Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

Cliciwch yma i lawrlwytho'r poster

 

Cloddiad cymunedol ar hen safle Ysgol Pendalar ger Segontium yng Nghaernarfon

Mae gwaith cloddio wedi cychwyn ar hen safle Ysgol Pendalar ger Segontium yng Nghaernarfon! Mae'r cloddiad a ariannir gan Cadw, yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i ddatgelu fwy am hanes y Rhufeinwyr amgylch y caer sylweddol hyn.

Mae Caer Rufeinig Segontium yn safle unigryw a diddorol. Sefydlwyd bron i ddwy fil o flynyddoedd yn nol, fel sylfaen milwrol er mwyn cadw rheolaeth dros y tir ac yr arfordir roeddynt wedi ei oresgyn. Mae safle cloddiad yr Ymddiriedolaeth yn agos i'r lon Rhufeinig yn arwain o giât y caer. Ymgymryd Mortimer Wheeler cloddiad cyfyngedig o'r safle hyn yn yr 1920au a nodwyd bod adeiladwyr y tai ar hyd Ffordd Constantine a Ffordd Faenol wedi darganfod archaeoleg Rufeinig. Cofnodwyd Wheeler lon, ffynhonnau, poptai ac olion o adeiladau pren a byddai'n nodweddiadol o vicus. Beth yw vicus yw math o anheddiad Rhufeinig a darganfyddwyr yn aml wrth ymyl lonydd yn arwain o gaerau Rhufeinig. Byddai hyn wedi bod yn stryd o adeiladau pren ble fyddai crefftau a masnachu wedi digwydd.

 

Diwrnod Agored i'r Cyhoedd ym Mryngaer Arfordirol Dinas Dinlle

Cliciwch yma i lawrlwytho'r poster.

 

Ymunwch â ni mewn cloddiad archaeolegol ym mryngaer Arfordirol eiconig Dinas Dinlle

Cliciwch yma i lawrlwytho'r poster.

Os hoffech gymryd rhan yn y cloddiad, cysylltwch â outreach@heneb.co.uk 01248 366970

Mwy am brosiect CHERISH: http://bit.ly/2KQOkQe

 

Barics Chwarel Pen y Bryn, Dyffryn Nantlle
Diwrnod Agored Cyhoeddus, Dydd Sul 21/7/19

Cliciwh yma i lawrlwytho'r poster

Dewch i Wirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
Barics Pen y Bryn, Dyffryn Nantlle
Gorffennaf 2019

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg

Os ydych yn awyddus i gymryd rhan, cysylltwch â outreach@heneb.co.uk 01248 366970

 

Teithiau Cerdded Archaeolegol 2019-20

Lawrlwythwch y Rhaglen Teithiau Cyhoeddus

Rhad ac am ddim, archebu'n hanfodol: cysylltwch â: outreach@heneb.co.uk 01248 366970

 

Archif Digwyddiadau a Newyddion

Events and News Archive

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol

GAT

 

Gwynedd Archaeological Trust is certified to ISO 9001:2015 and ISO 14001:2015 To view a copy of the ISO 9001:2015 certificate, please click here.
To view a copy of the ISO 14001:2015 certificate, please click here.