English

Cloddfa Archaeolegol, Ffordd Llwyn Bleddyn, Rachub

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cynnal cloddfa ar Ffordd Llwyn Bleddyn, Rachub, o flaen datblygiad ar gyfer tai cymdeithasol. Cyllidir y gloddfa gan Adra.


Awyrlun o'r safle

 

Gweler y ffotograff o'r awyr o'r safle, uchod, sy'n cyfateb â'r testun wedi'i rhifo, isod.

 

1. Cafwyd hyd i olion dau derfyn cae yn rhan orllewinol y safle. Efallai bod rhain yn tarddu o'r Oes Haearn a'u bod yn gysylltiedig â'r tai crynion. Gwyddwn fod nifer o aneddiadau tai crynion o gwmpas Rachub, ac yn ystod yr Oes Haearn a'r cyfnod Rhufeinig byddai'r ardal gyfan yn frith o gaeau bychain rhwng yr aneddiadau.


Olion terfyn cae hynafol

 


Rhan o fap Stad Penrhyn yn dyddio i 1855


2 a 3. Mae mapiau Stad Penrhyn yn dangos fferm o'r enw Cefn Bedw, oedd dan feddiant hyd ganol y 19eg ganrif. Cafodd y gloddfa hyd i'r fferm gerllaw'r ffordd a'r tai allan tu cefn iddi. Roedd aelwyd a phopty yn un pen i'r fferm, a thraeniau dan y llawr. Roedd trac yn arwain o'r ffordd i'r buarth tu ôl i'r tai allan.


Olion ffermdy Cefn Bedw gyda sylfaen un mur yn goroesi. Mae'r aelwyd yn y pen pellaf

 

4. Yn union o dan llawr y ffermdy roedd pydewau niferus, aelwyd a phopty neu sychwr grawn yn dyddio i'r cyfnod Rhufeinig. Mae'n debyg bod hyn yn dangos adeilad a godwyd ac a ddefnyddiwyd gan bobl lleol.


Sychwr grawn neu bopty gyda leinin llechen yn un pen iddo. Cafwyd hyd i grochenwaith Rhufeinig yn hwn

 

5. Efallai bod adeilad cyfnod Rhufeinig yma (gweler delwedd, marc cwestiwn). Cafwyd hyd i grochenwaith Rhufeinig ac mae aelwydydd a slabiau llechen a digon o gerrig, ond bydd angen cloddio pellach er mwyn darganfod beth yn union sydd yma.


Efallai bod adeilad cyfnod Rhufeinig yma



6. Cafwyd hyd i ddau dŷ crwn. Mae eu holion yn gorgyffwrdd, a defnyddiwyd un a'i ddymchwel cyn adeiladu'r llall. Ymddengys i'r tŷ crwn mwyaf diweddar losgi'n ulw a cafodd ei ddefnyddio i'r cyfnod Rhufeinig, ond codwyd yr un cynharaf yn ystod yr Oes Haearn. Mae'n debyg i'r tai crynion hyn gael eu defnyddio rhwng oddeutu 500 CC a 100 OC, ond cawn ddyddiadau radiocarbon i gadarnhau hyn. Roedd muriau coed a thoeau conigol uchel i'r tai crynion hyn.


Tai crynion yn gorgyffwrdd (yr un ar y dde yw'r cynharaf).
Cânt eu diffinio gan hiciau ar gyfer y muriau ac mae ganddynt lawer o dyllau pyst a nodweddion eraill oddi fewn iddynt



7. Oddi fewn i'r tŷ crwn cynharaf roedd ffwrnais ar gyfer mwyndoddi haearn yn ôl pob tebyg.


Ffwrnais yr Oes Haearn yn llawn sborion ar ôl mwyndoddi


8. Mae pen dwyreiniol y safle yn isel a gwlyb a doedd gennym ni ‘run syniad beth allai gael ei ddarganfod yno. Wedi tynnu'r mawn, daeth olion muriau sylweddol i'r golwg. Mae un mur yn amgáu yr ardal gyfan ac mae'n bosib bod un arall wedi ffurfio corlan fechan ar gyfer anifeiliaid. Wrth i ni ddechrau clirio'r ardal, sylwom fod tŷ crwn â muriau carreg yno ac efallai bod adeiladau eraill hefyd.

 


Sylfeini tŷ crwn â muriau carreg, gyda lloc amddiffynnol

 


Ymweliadau Ysgol Llanllechid

 

Mae Adra, darparwr tai fforddiadwy o safon, yn bwriadu adeiladu tai fforddiadwy ar y safle er mwyn cyfarfod â'r angen am dai lleol.

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol

GAT

 

Gwynedd Archaeological Trust is certified to ISO 9001:2015 and ISO 14001:2015

To view a copy of the ISO 9001:2015 certificate, please click here.
To view a copy of the ISO 14001:2015 certificate, please click here.