GWAITH MAES AR GYNIGION SAFLEOEDD RHESTREDIG (G2246) – OLION CNYDAU CEMLYN

Cafwyd hyd i ôl cnwd ar awyrlun yn 1990 yn ystod cyfnod o dywydd sych iawn. Tynnwyd y llun gan yr archifydd, hanesydd a thynnwr awyrluniau, Mary Aris. Roedd y llun yn dangos lloc bychan ar ben bryn, gydag awgrym o nodweddion mewnol, a dau glawdd cylchol. Lleolir y safle 1km o Fae Cemlyn ar arfordir gogleddol Ynys Môn.

Cwblhawyd arolwg geoffisegol ar y safle gan David Hopewell a John Burman fel rhan o raglen waith 2014-15 dan nawdd Cadw. O'r arolwg gwelwyd lloc hirsgwar 45m x 50m o faint a chorneli crwn a chryf gyda mynedfa yn troi i mewn rhyw gymaint yng nghanol yr ochr ogleddol. Nodwyd gweddillion adeiladau hirsgwar oddi mewn i'r lloc. Ymddengys mai caer fach (is-gaer) yn nodweddiadol iawn o rai Rhufeinig yw hon, yn debyg iawn i rai sydd a ganfuwyd fwy i'r de yng Nghymru, yn Erglodd a Waen Ddu. Mae'r enghreifftiau hynny hefyd tua 50m sgwâr gydag un ai un fynedfa neu dwy fynedfa gyferbyn â'i gilydd.

Amgylchynir y gaer fach gan loc is-gylchol lled droellog â ffos, sydd yn 74m o ddiamedr. Y farn i ddechrau oedd mai lloc cynharach a chynhanesyddol oedd hwn ond wrth ei gymharu â chaerau tebyg mewn ardaloedd eraill, cafwyd rhai nodweddion tebyg iawn. Mae cyfres o bedwar strwythur ar hyd arfordir gogleddol Cernyw a Dyfnaint yn Old Burrow, Martinhoe, Morwenstow a St Gennys oll wedi eu disgrifio fel gorsafoedd signal a chaerau bach. Martinhoe sydd â'r ddogfennaeth orau ac yn cynnwys caer fach sy'n 42m sgwâr ac amddiffynfeydd allanol is-gylchol sydd bron yn union yr un fath â rhai Cemlyn. Roedd y gaer fach yn cynnwys dau farics gyda chant o filwyr. Roedd yno dystiolaeth bosib o danau signal o fewn y lloc allanol. O'r crochenwaith a ddarganfuwyd o waith cloddio ar y safle, credir iddi gael ei defnyddio rhwng 55 a 75 OC. Fel arfer dehonglir y safleoedd hyn fel caerau bach Rhufeinig gyda swyddogaeth ychwanegol efallai fel gorsafoedd signal yn gysylltiedig â llongau.

Awgryma nodweddion caer fach Cemlyn, yn eithaf pendant, ei bod yn gysylltiedig â choncwest Julius Agricola ar Ynys Môn yn 77 OC, neu wedi ei hadeiladu yn fuan wedyn. Dyma'r safle milwrol Rhufeinig cyntaf i'w ddarganfod ar Ynys Môn o'r cyfnod hwn ac felly'n ddarganfyddiad cyffrous, yn enwedig gan fod ei fodolaeth yn awgrymu bod rhagor o safleoedd cysylltiedig yn cuddio o dan yr wyneb. Mae caerau bach eraill yng Nghymru wedi eu lleoli yn agos i ffyrdd Rhufeinig, felly gallai'r lleoliad hwn awgrymu bod llwybr Rhufeinig yn mynd heibio yn agos iawn i'r safle hwn. Fel arfer roedd caerau bach yn cael eu diogelu gan filwyr o gaer fwy a fyddai o fewn cyrraedd mewn un diwrnod o ymdeithio. Mae'n bosib felly bod y gaer fach yng Nghemlyn yn gysylltiedig â chaer Rufeinig rhywle yng nghanol Ynys Môn sydd heb ei darganfod.

 

 

 

The Trust is a registered organisation with the Institute for Archaeologists.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn gofrestredig gyda Sefydliad yr Archaeolegwyr.

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol