Gan David Hopewell – Cyfarwyddwr y Safle

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cynnal cloddiad yn Rhuddgaer ger Dwyran, Ynys Môn, yng nghwmni grŵp o wirfoddolwyr o'r gymuned a chyda myfyrwyr a staff o Brifysgol Bangor. Ymddengys mai aneddiad a system gae o'r Canol Oesoedd cynnar yw'r safle arbennig yma. Gellir gweld manylion y safle a'r gwaith sydd wedi ei wneud eisoes yma :

 

Mehefin 16-19eg

Mi wnes i a'm cydweithiwr Neil McGuinness gynnal arolwg geoffisegol o ardal eang i'r gorllewin o'n gwaith blaenorol. Datgelwyd ffîn y system gae canol-oesol sydd yng nghornel dde-orllewinol yr arolwg. Er gwybodaeth, adeiladau yw'r nodweddion bychain hirgrwn.

 

Mehefin 26ain a'r 29ain

Nôd y cloddio yw canolbwyntio ar un o'r adeiladau a ddangoswyd ar y geoffis. Mae'r ardal gyfan yn gorwedd dan haen o dywod sydd hyd at fedr o drwch. Buom yn tyrchu'r tywod hwn gyda thyrchwr mecanyddol a dadlwythwr. Gwaith araf iawn. Cyrhaeddodd ein criw llon o wirfoddolwyr ar Fehefin 29ain , a buom wrthi'n codi pebyll drwy gydol y dydd bron. Mae'r safle braidd yn anghysbell felly mae'n rhaid cario popeth mewn cerbyd gyriant pedair olwyn. Bydd yr archaeoleg go iawn yn cychwyn fory.

 

Mehefin 30ain

Rydym wedi darfod tyrchu'r rhan fwyaf o'r tywod, gan ddadorchuddio copa muriau'r adeilad. Roedd cryn dipyn o dywod yn weddill oddi mewn iddo felly bu'r criw caib-a-rhaw yn ddygn yn clirio'r tywod hwnnw. Roedd yn chwilboeth felly bu'n rhaid cael seibiannau cyson i gael diod o ddŵr a chymryd cyfle i stelcian yng nghysgod y cerbyd. Cawsom y cyntaf o sawl ymweliad gan blant o'r ysgolion lleol dan ofal Anita Daimond.

 

Gorffennaf 1af

Roedd ychydig yn fwy claear heddiw felly aeth y gwaith yn ei flaen yn dda. Mae muriau'r adeilad petryal i'w gweld yn glir erbyn hyn, ac rydym wedi clirio'r rhan fwyaf o'r tywod a chwythwyd gan y gwynt. Ond roedd bygythiad glaw fel roeddem yn gadael y safle.

 

Gorffennaf 2ail

Fe wnaethom gychwyn clirio'r tywod oddi ar yr hen glawdd terfyn sydd yn rhedeg tuag at gornel ddeheuol y safle. Hefyd rydym wedi bod yn clirio'r arwyneb byr-sefydlog, sydd o dywod yn bennaf, ac sydd yn gorwedd dros y rhan fwyaf o'r safle. Oddi tano mae olion y system cefn a rhych a ddarganfyddwyd ar yr arolwg geoffisegol. Mae creithiau aredig i'w gweld yn glir yn arwyneb anwastad y pridd. Rydym yn darganfod cae wedi ei aredig sydd yn edrych yn union fel pebai ond wedi ei droi ddoe. Mewn gwirionedd, cafodd ei gladdu gannoedd y flynyddoedd yn ôl – efallai yn ystod storm dywod enwog 1330.

Gorffennaf 3ydd

Un o nodau'r cloddiad yw cynnig hyfforddiant a phrofiad cloddio i fyfyrwyr o Brifysgol Bangor. Mae Jane Kenney, sydd hefyd o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, yn cyflawni llawer o'r gwaith cofnodi manwl a threfnu cyffredinol ar y safle, tra byddaf innau'n bwrw ‘mlaen gyda'm dyletswyddau fel cyfarwyddwr y safle (pwyntio at bethau, sgwennu'r blog, sgwrsio gydag ymwelwyr ayyb). Heddiw, bu Jane yn rhoi gwersi i'r myfyrwyr ar ddefnyddio offer arolygu GPS.

Heddiw aethom ymlaen gyda'r gwaith o glirio'r terfyn a'r cae sydd wedi ei aredig. Rydym wedi dadorchuddio rhagor o gopa mûr yr adeilad hefyd. Mewn mannau gallwn weld yn glir bod arwyneb mewnol ac allanol i'r mûr, gyda cherrig mân yn graidd iddo. Mae'n dechrau ymddangos nad mûr o rwbel blêr sydd yma, ond adeilad go iawn. Mae'r rhagolygon yn bygwth tywydd garw dros y penwythnos. ‘Sgwn i fydd y babell yn parhau i sefyll erbyn bore Llun?

 

Gorffennaf 6ed

Doedd ‘run dim wedi ei chwythu i ffwrdd nag wedi ei daro gan fellten yn ystod y penwythnos! Yn anffodus, parhaodd y tywydd garw a gwlyb trwy gydol dydd Llun gan olygu nad oedd modd i ni wneud llawer o waith ar yr adeilad oherwydd roedd hwnnw'n llenwi gyda dŵr. Roedd mwy neu lai yn ddigon sych i ni allu gweithio ar y clawdd terfyn ac ar y caeau cefn a rhych. Uchafbwynt y diwrnod oedd dadorchuddio rhan o sgerbwd ceffyl anferth, enghraifft cynnar o geffyl gwêdd efallai. Roedd yn gwisgo pedolau anarferol oedd ar ffurf cylch cyfan gydag un pen wedi ei wastadu. Mae'n bosib bod y ceffyl wedi gweithio yn Rhuddgaer yn ystod y gwelliannau wnaethpwyd ar y stâd yn ystod blynyddoedd olaf y 18 fed a chychwyn y 19 fed ganrif.

Gorffennaf 7fed

O'r diwedd, cliriodd y gwynt a'r glaw, a chawsom ddychwelyd i'n gwaith. Roedd un darn bach o arolygu geoffisegol angen ei gwblhau, felly mi wnes i'n fawr o'r cyfle i gyflwyno ychydig o hyfforddiant - egluro dirgelion astrus nanoTeslau, ac arolygu gyda magnetomedr.

 

Gorffennaf 8fed - 9fed

Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar yr adeilad, gan geisio datrys dirgelion ei adeiladwaith. Roedd ‘na lawer o bridd yn gorchuddio'r muriau chwâl, sydd yn dangos bod yr adeilad wedi ei adael i ddirywio ymhell cyn y storm dywod a'i gorchuddiodd yn y Canol Oesoedd. Cawsom hyd i'r fynedfa yn hwyrach yn y dydd. Roedd yn eithaf cul a chyfyng - wedi ei fwriadu ar gyfer pobl yn hytrach na gwartheg. Tystiolaeth gref mai t ŷ oedd yr adeilad ac nid beudy.

Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi gwneud gwaith tan gamp wrth gynllunio'r system cefn a rhych ganoloesol.

Gorffennaf 10fed

Dyma'n diwrnod olaf gyda'r tîm cyfan, ac mae llawer o drafod wrth geisio dehongli'r safle. Bu'r Athro Nancy Edwards yn cloddio gyda ni trwy gydol y cloddiad, ac mae hi'n parhau i fod yn dawel hyderus mai safle yn dyddio o'r Canol Oesoedd cynnar sydd yma.

Mae pant artiffisial wedi ei becian mewn carreg gynharach sydd yn rhan o'r mur. Mae'n edrych fel cafn-nod cynhanesyddol ond mae mewn carreg y tro hwn, yn hytrach na'r graig frig arferol.

Diolch o galon i bawb sydd wedi gweithio ar y cloddiad, gan gynnwys myfyrwyr, gwirfoddolwyr, a phobl ar brofiad gwaith. Dydd Llun a dydd Mawrth, byddwn yn dychwelyd gyda thîm bychan er mwyn darfod y gwaith cofnodi .

Gorffennaf 12fed - Diwrnod Agored

Cawsom ymateb boddhaol iawn ar gyfer y Diwrnod Agored. Diolch o galon i Anita Daimond am ei gwaith caled yn datrys y broblem o gludo'r holl ymwelwyr i'r safle mewn bws gwennol, ac i bawb fu'n helpu ar y diwrnod. Bu Jane, Anita a minnau yn arwain teithiau o amgylch y safle ar gyfer yr holl ymwelwyr ddaeth i'n gweld.

 

Gorffennaf 13eg

Roedd yn hanfodol bwysig ein bod yn symud ymlaen gyda'r gwaith ar yr adeilad er mwyn darfod y tacluso terfynol a'r cofnodi ffotograffig. Yn anffodus, roedd gan y tywydd syniadau hollol wahanol, ac fe'i trôdd yn bwll nofio. Llwyddodd peth gwaith ar wyneb allanol y mur i ddadorchuddio yr hyn sydd efallai yn gyfnod cynharach o waith maen yng nghornel de-ddwyreiniol yr adeilad.

Gorffennaf 14eg

Cawsom dywydd gwell heddiw, a chawsom rwydd hynt i lafurio'n ddygn er mwyn darfod ein gwaith ar y safle. Ar yr unfed-awr-ar-ddeg, cawsom hyd i fynedfa arall – yn wynebu'r cyntaf. Roedd y fynedfa hon yn cynnwys ychydig o siarcol fydd efallai'n ddefnyddiol ar gyfer dyddio.

Gyda thristwch bu'n rhaid ffarwelio gyda'r cloddiad. Rydym wedi dysgu llawer am y safle, ond byddai pawb wedi hoffi rhyw bythefnos yn ychwanegol er mwyn ceisio ateb yr holl gwestiynau newydd mae'r cloddiad wedi godi ! Gyda rhyw lwc, bydd y dadansoddiad ôl-gloddiad yn caniatau i ni ychwanegu at ein dehongliad a'n dyddiad o'r safle.

 

Gorffennaf 15fed a'r 16eg

Dyna'r cloddiad wedi orchuddio eto - wedi ei gladdu dan ei haen amddiffynol o dywod.

Mewn partneriaeth gyda

 

Gyda chymorth grant gan Gadw

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol