Parc Cybi, Caergybi
Y Darganfyddiadau

Mynwent Rufeinig Hwyr

Y Rhufeiniaid gyflwynodd Cristnogaeth i Gymru, yn ogystal â chladdedigaethau mewn beddau o hyd llawn wedi eu leinio â charreg (cistiau hirion). Nid oedd Prydain yn rhan o Ymerodraeth Rhufain ar ôl 410 OC, ond bu parhad yn y grefydd a'r arferion claddu newydd.


Mynwent cist hir Parc Cybi

Mae'r rhan fwyaf o'r mynwentydd cist hir yng ngorllewin Cymru yn dyddio o'r cyfnod yn dilyn diwedd Ymerodraeth Rufeinig ym Mhrydain (y cyfnod canoloesol cynnar), ond mae'n debyg fod mynwent fechan o feddau cist hir gafwyd ym Mharc Cybi yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig hwyr. Cafodd ei defnyddio gan y brodorion lleol sydd yn awgrymu eu bod hwy wedi mabwysiadu arferion Rhufeinig.


Y twll, wedi ei bacio â slabiau cist wedi eu hail-ddefnyddio - roedd y gof wedi gosod ei engan yn hwn

Roedd gof wedi gosod ei engan ar floc a hwnnw wedi ei wthio i dwll gloddiwyd mewn bedd. Dengys yr aflonyddu yma fod defnydd o'r fynwent wedi dod i ben erbyn i'r gof ddechrau gweithio. Trwy ddyddio radiocarbon rydym yn gwybod bod gwaith gof yn digwydd o'r 4 ydd i'r 5 ed ganrif OC, felly mae'n rhaid fod y fynwent yn perthyn i gyfnod cynharach. Gan nad oes llawer o esgyrn wedi goroesi nid ydym wedi gallu dyddio'r fynwent yn uniongyrchol.


Bedd cist hir gyda'r ysgerbwd oedd wedi goroesi orau gafwyd ym Mharc Cybi, ond roedd hyd yn oed hwn yn ddarniog iawn