Y Lleoliad Ehangach
Adeiladwyd y fwrdeistref ar dir oedd cynt yn rhan o faenor frenhinol Tywysogion Cymru. Safai’r llys, sef calon y faenor, ychydig i’r gorllewin o’r dref. Cloddwyd peth o safle’r llys yn ystod y 1990au, a dadorchuddwyd olion neuadd a siambr, yn ogystal ag adeiladau eraill.
Bydd y prosiect hwn yn rhoi sylw i’r tirwedd ehangach o amgylch y llys, ac yn chwilio am dystiolaeth i egluro tarddiad cyfaneddu yn yr ardal gyda’i systemau cae a’i rwydweithiau cyswllt.

Cloddio yn Llys Rhosyr yn ystod y 1990au
|