23 Tirwedd caeau uwchben Llwyngwril (PRN 18353)

Cefndir hanesyddol

Ymddengys bod y rhan fwyaf o'r caeau ar fap degwm 1839 Llangelynnin yn fwy o ran maint na'r caeau sy'n bodoli heddiw, sy'n awgrymu bod y rhan fwyaf o'r caeau hyn wedi'u creu ers hynny. Ychydig o aneddiadau a safleoedd archeolegol sydd yma.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

waliau sychion, patrymau caeau

Nodweddir yr ardal gan ei phatrwm neilltuol o waliau sychion y caeau ar y llethrau sy'n wynebu'r môr uwchben ac o amgylch Llwyngwril

.