Twristiaeth

Yn ôl Hyde Hall ym 1810, ‘Few travellers find their way to this secluded spot, which must indeed, if visited at all, be visited for its own sake; but I can scarcely credit what I have been assured, that I was the second person of the present generation who had thus reached it for the purpose of inspection’. Mae’r sylwebydd yn cyfeirio at Benrhyn Du ym Marchros, ddwy gilomedr i’r de o Abersoch ar hyd traeth tywodlyd hir yn agos at un o’r cyrchfannau gwyliau prysuraf ar y penrhyn.

Daeth twristiaeth i benrhyn Llŷn gyda’r rheilffordd. Pwllheli oedd terfynell llinell y Cambrian Coast i’r gorllewin o Abermaw a Chricieth. Adeiladwyd yr orsaf ym 1869 a chafodd y llinell ei hymestyn ychydig ymhellach i’r gorllewin i ochr arall yr harbwr ym 1909 i ddarparu gwell mynediad i’r dref a’r datblygiadau a oedd yn cael eu gwneud yn y West End. Ym 1890, aeth Solomon Andrews, entrepreneur o Gaerdydd, ati i ddatblygu’r bar tywod ar ochr orllewinol y dref fel canolfan wyliau ar lan y môr, yn cynnwys gwesty, ystafelloedd aros, promenâd a chyfleusterau eraill. Prynodd Andrews hefyd dŷ Gothig Fictoraidd Plas Glyn y Weddw, a oedd wedi’i adeiladu ar gyfer y Fonesig waddolog Elizabeth Love Jones Parry gan y pensaer Henry Kennedy. Rhan o weledigaeth Solomon Andrews oedd defnyddio’r tŷ fel canolfan gelfyddydol a lle i ddarparu adloniant i bobl leol a phobl ar eu gwyliau. I’r perwyl hwn, cynlluniodd ac adeiladodd dramffordd ceffyl i gludo ymwelwyr o’r West End ym Mhwllheli i Lanbedrog. Roedd y dramffordd yn dal i gael ei defnyddio tan 1927.

Pwllheli

Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, roedd yr ymwelwyr yn dechrau dod ymhellach ar hyd yr arfordir i Abersoch. Roedd arfordir y de’n dechrau gweld arwyddion cyntaf twf mewn twristiaeth. Fodd bynnag, yn ail hanner yr 20fed ganrif y datblygodd Abersoch i fod yn gyrchfan hynod boblogaidd i ymwelwyr. Roedd Abersoch yn dal yn bentref bach â thua 50 o dai ar ochr ddeheuol yr aber yn y 1890au. O ganlyniad i’r traeth godidog ac amgylchiadau hwylio da, ehangodd Abersoch y tu hwnt i bob rheswm yn yr 20fed ganrif, a bellach mae tua 500 o dai ar ochr ddeheuol yr afon a 100 arall ar yr ochr ogleddol.

Erbyn heddiw, twristiaeth yw un o’r prif alwedigaethau ar hyd yr arfordir o Bwllheli i Lanbedrog, Abersoch a Marchros. Ceir cyrsiau golff a thraethau tywod, llawer o chalets a nifer o feysydd carafanau.

Ar yr arfordir gogleddol bu’n rhaid i dwristiaeth aros tan ddyfodiad y cerbyd modur. Er hynny, darparwyd ar gyfer gwyliau ffasiynol ar lan y môr yn Nefyn â datblygiadau newydd yn union i’r gogledd o’r dref ac ym Morfa Nefyn a Phorthdinllaen. Adeiladwyd tai mewn arddull fila yn agos at y môr, rhwng y dref a glan y môr. Sefydlwyd clwb golff ym 1907, ac mae rhan ohono’n ymestyn ar hyd pentir Porthdinllaen. Adeiladwyd Gwesty’r Nanhoron Arms ym 1914 ar gyfer y fasnach wyliau.

Ymhellach i’r de, mae llawer o feysydd carafannau a gwersylla ar hyd yr arfordir gorllewinol o Borth Colmon a Phenllech i Borthdinllaen a phentref Edern. Nid yw’r rhain yn fawr iawn, ac nid ydynt mor grynodedig â’r meysydd carafanau a geir mewn rhai mannau ar arfordir y de.