Twf y bonedd

Credai’r Athro Jones Pierce fod ystadau’r bonedd wedi datblygu o bedwar categori o dirddaliadau rhydd, sef: tir wedi’i etifeddu gan gyndeidiau drwy enedigaeth-fraint, tir wedi’i roi yn wobr am wasanaeth, tir wedi’i gaffael drwy bryniant o ryw fath ac ystadau wedi’u creu gan newydd-ddyfodiaid. Mae’r categorïau hyn wrth gwrs yn cydgyffwrdd mewn sawl achos. Yn Llŷn, gwelir bod y tirfeddianwyr eithriadol o fawr hynny sy’n tra-arglwyddiaethu yn nhirwedd yr 17eg ganrif i’r 19eg ganrif wedi datblygu o ganlyniad i’r cyfleoedd i gael prydles ar diroedd y Goron a thrwy ddyfeisio mecanweithiau cyfnewid a phrynu, a ddaeth yn rhwyddach ar ôl 1536, a chynllunio priodasau’n ofalus.

Y prif deuluoedd a’u hystadau yn yr 16eg ganrif oedd teuluoedd Bodfel, Castellmarch, Bodwrdda, Griffiths Cefnamwlch, Madryn a Llwyndyrys. Daw enw John Bodfel i’r amlwg yn ystod teyrnasiad Harri’r VIII pan gyfeiria Leland at John fab Madoc a oedd yn byw yn Llŷn - ‘dwellith yn Lleene’ - ym Modfel, un o’r ychydig dai yn Sir Gaernarfon i gael ei enwi yn ei restr. Enillodd ŵyr John, sef John Wyn ap Hugh gryn enwogrwydd iddo’i hun fel banerwr John Dudley, Iarll Warwick, yn Mousehold Hill, Norwich, ym 1549. Bu Gruffydd ap John o Gastellmarch hefyd yn gwasanaethu dan Iarll Warwick ac ef oedd cwnstabl Castell Conwy ym 1549. Fel cydnabyddiaeth o’i wasanaeth rhoddwyd Ynys Enlli a Chwrt ar y tir mawr yn rhodd i John Bodfel.

Yn dilyn Deddf Uno 1536, daeth Ynadon Heddwch newydd ‘adnabyddus ac iddynt enw da’ i fod yn bennaf gyfrifol am gyfraith a threfn, ac roeddent yn sail i lywodraeth leol. Roedd yr ynadon hyn yn dod o blith y tirfeddianwyr mwyaf.

Yn ystod yr 16eg ganrif:
• Bodwrdda: Ynad Heddwch ddwywaith; Uchel Siryf unwaith
• Cefnamwlch: Ynad Heddwch deirgwaith
• Llwyndyrys: Ynad Heddwch deirgwaith; Uchel Siryf unwaith
• Madryn: Ynad Heddwch bum gwaith; Uchel Siryf unwaith
• Bodfel: Uchel Siryf bedair gwaith
• Castellmarch: Uchel Siryf unwaith

Uchel Siryf neu beidio, cyhuddwyd John Wynn ap Hugh Bodfel gerbron Llys Siambr y Seren o fod yn ‘ben capten môr-ladron Ynys Enlli’. Dywedid ei fod yn defnyddio’r ynys i storio ysbail a bod ganddo asiant yno. Dywedid bod y nwyddau’n cael eu cludo i Gaer i’w gwerthu mewn ffeiriau a marchnadoedd. Mab John, Hugh Gwyn, oedd y cyntaf i ddefnyddio Bodfel fel cyfenw, arferiad oedd yn dod yn gyffredin yn ystod y cyfnod hwn, a defnyddio enw lle sefydlog yn hytrach nag enw teuluol. Priododd Hugh ag aeres Pistyll, gan ddod â’r tiroedd hynny’n rhan o gylch dylanwad Bodfel. Fodd bynnag, collodd Hugh ffafr Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, oherwydd materion yn ymwneud â swydd Dudley fel Ceidwad Fforest Eryri a threuliodd rywfaint o amser yn y Tŵr, ynghyd â Thomas Madryn, a oedd yn Uchel Siryf ym 1586-7.

Yn ystod yr 17eg ganrif yr un teuluoedd i raddau helaeth oedd yn dal yn flaenllaw yn y dirwedd wleidyddol, gymdeithasol a thirfeddiannol, ond roedd cydbwysedd grym yn newid a thaflwyd y rhwyd ychydig yn ehangach. Cafodd y Rhyfel Cartref, tua chanol y ganrif, fwy o effaith ar rai ystadau na’i gilydd:

Yn ystod yr 17eg ganrif:
• Bodwrdda: Ynad Heddwch deirgwaith; Uchel Siryf deirgwaith
• Cefnamwlch: Ynad Heddwch deirgwaith; Uchel Siryf deirgwaith
• Castellmarch: Ynad Heddwch deirgwaith; Uchel Siryf ddwywaith
• Madryn: Ynad Heddwch unwaith; Uchel Siryf saith gwaith
• Bodfel: Ynad Heddwch deirgwaith; Uchel Siryf deirgwaith
• Elernion: Uchel Siryf deirgwaith
• Cefn Llanfair: Ynad Heddwch ddwywaith; Uchel Siryf ddwywaith
• Meillionydd: Uchel Siryf ddwywaith
• Nanhoron: Uchel Siryf unwaith
• Saethon: Uchel Siryf unwaith

Roedd brawd Hugh Gwyn Bodfel, sef Thomas Wynn, yn byw ym Moduan, heb fod yn bell i ffwrdd, ar dir y gyn daeogdref a thir demên y Tywysog cyn y goncwest. Roedd gor-ŵyr Hugh, sef John, yn cefnogi achos y Piwritaniaid yn y Senedd ar ddechrau’r rhyfel, ac roedd wedi priodi Ann Russell, merch Syr William Russell, a oedd yn hanu o deulu o Biwritaniaid pybyr. Erbyn 1843, fodd bynnag, roedd John Bodfel ar ochr y Brenhinwyr, ac erbyn diwedd y rhyfel roedd yn gyrnol. Arweiniodd y gwrthdaro rhwng daliadau yn nheulu Bodfel at ymddieithrio, a threfnodd Ann fod eu merch yn priodi Robert Robartes, Is-iarll Bodmin, ym 1657. Genhedlaeth yn ddiweddarach, tua diwedd yr 17eg ganrif, gwerthodd etifedd Plas Bodfel ei ystadau Cymreig.

Datblygodd cangen Boduan o’r teulu, fodd bynnag, bresenoldeb sylweddol yng nghysgod Garn Boduan ac yn nhref Nefyn. Tua 1700, priododd Thomas Wynn o Foduan, gor-or-or-orwyr John Wynn ap Hugh Bodfel, Frances, merch ac aeres John Glynne o Lynllifon. Ŵyr Frances, Syr Thomas Wynn, oedd y Barwn Newborough cyntaf (geni 1736, marw 1807) a throsglwyddwyd tiroedd Boduan i gylch dylanwad Glynllifon.

Ym 1625, gosododd Syr William Jones (a luniodd gyfenw iddo’i hun o enw teuluol ei dad, William ap Griffiths ap John), Prif Ustus Mainc y Brenin, garreg sylfaen ei blasty modern newydd yng Nghastellmarch. Roedd ei fab, Griffith Jones, yn cydymdeimlo â’r Brenhinwyr, ond ochrodd â’r Piwritaniaid yn y Rhyfel Cartref a thalodd y pris mewn ymosodiad beiddgar o’r môr gan y Capten John Bartlett, a ysbeiliodd y tŷ ac a herwgipiodd Griffith Jones mewn ymdrech i sicrhau rhyddid Syr John Owen yn sgîl yr ail ryfel (Dodd, 1968, 134).

Honnai teulu Cefnamwlch y gallent olrhain eu hachau dros nifer o genedlaethau, o Rhys ap Tewdwr yn yr 11eg ganrif, yr Arglwydd Rhys yn y 12fed ganrif a Madog a Thrahaearn Goch, Arglwyddi Cymydmaen yn y 13eg ganrif. Ceir cofnod o David Fychan yng Nghefnamwlch yn y 15fed ganrif, ac roedd ei wraig, Jonet, yn ferch Castellmarch. Cafwyd nifer o briodasau i greu cysylltiadau â theuluoedd eraill yr un mor uchel eu bri, gan gynnwys Clenennau, Mostyn a Baron Hill. Roedd John Griffith yn Uchel Siryf ym 1604 a llwyddodd ei fab, John, i herio uchafiaeth wleidyddol Wynniaid Gwydir. Bu farw John Griffith arall o Gefnamwlch ym 1794 a throsglwyddwyd y tŷ i’w gyfnither, Jane Wynne o'r Foelas, a’i gŵr Charles Finch. Olynwyd eu mab, Charles Wynne Griffith-Wynne (1780-1865), gan Charles Wynne Finch a adeiladodd dŷ presennol y Foelas.

Ni lwyddodd llinach Madryn i oroesi’n hir iawn ar ôl y Rhyfel Cartref. Er hyn, roedd Thomas Madryn, un arall a oedd yn cydymdeimlo â’r Brenhinwyr ond a gymerodd ochr y Seneddwyr, yn cadw drylliau ynghudd yn ei gartref ar ôl i’r ymladd ddod i ben. Etifeddwyd yr ystâd gan ei ail fab a gwerthodd hi i’r cyfreithiwr, Owen Hughes o Fiwmares ar ddiwedd yr 17eg ganrif.

Nid oedd unrhyw amheuaeth ynghylch daliadau Geoffrey Parry Rhydolion. Roedd yn un o gyfoeswyr Thomas Madryn ac yn Biwritan selog. Priododd Parry â Margaret Hughes, a etifeddodd Gefn Llanfair a Wern Fawr, ar gyrion y Gors Geirch. Love-God Parry oedd enw eu mab a Love Parry oedd ei fab yntau. Priododd yr ail Love Parry â Sidney, gor-wyres Jane, chwaer Owen Hughes Biwmares, yng nghanol y 18fed ganrif. Etifeddodd Sidney, gan uno Madryn â thiroedd Love Parry yng Nghefn Llanfair, Wern Fawr a Rhydolion. Priododd eu merch ei chefnder, Thomas Parry Jones ym 1780. Ychwanegodd Thomas yr enw Parry at ei gyfenw ef i gydnabod teulu ei wraig a’r ystâd gyfunol. Cyflwynodd Thomas Parry Jones Parry nifer o welliannau a daeth â bywyd newydd i Fadryn ar droad y ganrif.

Hawliai teulu Nanhoron linach yr un mor hir. Mae cynghreiriau priodasol y llinach hon yn cynnwys priodasau â theuluoedd Glynllifon a Phennarth yn y 14eg ganrif a’r 15fed ganrif. Yn ystod diwedd y bymthegfed ganrif priododd Madog Fychan o Lwyndyrys, gor-or-ŵyr Gruffydd Llwyd o Dregarnedd, â Gwenllian, chwaer William ap Griffith, a ymladdodd gyda Harri Tudur ym mrwydr Bosworth, ac wyres Robin o Gochwillan. Priododd eu merch hwy i deulu Coetmor a chafodd eu mab hwy, Gruffydd, Nanhoron Ucha. Daeth Nanhoron Uchaf yn gnewyllyn yr ystâd. Etifeddodd eu mab, Thomas, Lwyndyrys a Nanhoron. Richard Edwards, a anwyd ym 1628, oedd y cyntaf o’r teulu i ddefnyddio’r math newydd o gyfenw, ar ôl ei dad, Edward ap Thomas. Roedd Richard Edwards yn Biwritan ac yn gyfreithiwr llwyddiannus iawn. Daeth Edwards dan amheuaeth yn ystod yr Adferiad ond roedd yn rhy ddefnyddiol i roi gormod o sylw i’r amheuon hynny.

Ym 1780 bu Capten Timothy Edwards farw wrth ddychwelyd o India’r Gorllewin, ar ôl bod yn ymladd yn llynges Rodney yn Rhyfel Annibyniaeth America. Priododd ei fab ag Annabella Lloyd o Hirdrefaig a Bronheulog a daeth Lloyd yn rhan o gyfenw’r teulu. Daeth trychineb arall i ran y teulu ym 1855 pan laddwyd Capten Richard Lloyd Edwards cyn Sebastopol yn Rhyfel y Crimea. Mae Pont Inkerman dros geunant Nanhoron a Ffordd Balaclava yn ein hatgoffa o’r cyd-destun.

Yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif roedd holl diroedd penrhyn Llŷn yn cael eu dal gan bedwar prif landlord. Ym 1840 roedd yr ystadau hyn yn cynnwys ystâd Richard Lloyd Edwards yn Nanhoron, a oedd yn cynnwys 6500 o aceri, yn Aberdaron a Llangian yn bennaf, ond â chryn dipyn o dir yn y Rhiw, Llaniestyn, Llannor a Llangwnnadl a chwe phlwyf arall. Roedd Charles Wynne Griffith-Wynne o Gefnamwlch a’r Foelas yn dal 5500 o aceri yn Llŷn, y rhan fwyaf yn Nhudweiliog, Penllech, Llaniestyn a Mellteyrn, y plwyfi o amgylch Cefnamwlch, a phlwyfi cyfagos Edern a Llandudwen. Roedd ystâd Syr Love Parry Jones Parry ym Madryn yn cynnwys 5000 o aceri ym mhlwyfi canol a de-ddwyrain y penrhyn, yn bennaf yn Llandudwen, Ceidio, Llanfihangel Bachellaeth, Llanbedrog a chwe phlwyf arall. Roedd ystâd yr Arglwydd Newborough yn Llŷn, 7500 o aceri i gyd, yn cynnwys 2288 o aceri ym Moduan a daliadau sylweddol yn Abererch, Penllech, Bryncroes, Nefyn, Llannor ac wyth plwyf arall. Yn ychwanegol at hyn, roedd daliadau sylweddol yn Llŷn hefyd gan ystâd y Faenol, dan ofal Thomas Assheton Smith, ystâd Penrhyn, dan ofal Douglas Pennant ac ystâd Mostyn, dan ofal Edward Lloyd.

Roedd yr effaith ar y dirwedd yn sylweddol, yn enwedig yn ystod diwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif pan oedd y tirfeddianwyr amaethyddol hyn yn cymell gwelliannau. Gallent reoli neu annog systemau cnydio, cyflwr adeiladau amaethyddol, maint caeau a chymeriad a chyflwr waliau a chloddiau, planhigfeydd ac atalwyr gwynt. Roedd cymeriad, arddull a chyfosodiad demenau’r ystâd yn eu dwylo hefyd. Roedd gan lawer o’r teuluoedd hyn gefndir hynafol. Yng Nghefnamwlch ar un adeg roedd neuadd llawr cyntaf ac ynddi ffenestr oriel, yn dyddio o’r 15fed ganrif neu’r 16eg ganrif. Ym Modwrdda, mae’n debyg mai’r nodwedd gynharaf sydd wedi goroesi yw cnewyllyn neuadd llawr cyntaf â chyplau trawstiau croes bwa cleddog sy’n dyddio o’r 16eg ganrif. Yn ystod degawdau cynnar yr 17eg ganrif, cafodd y tai hŷn hyn eu haddasu a’u helaethu neu eu chwalu i wneud lle i arddull modern newydd y Dadeni. Adeiladwyd Bodwrdda o amgylch craidd y tŷ cynharach ar ffurf dau lawr ac atig, ag estyll brics anferth ar ongl sgwâr i’r prif dŷ, ac â ffenestri cymesur pyst cerrig, mowld ofolo. Adeiladwyd Castellmarch ym 1625-1628. Roedd gan y plasty hwn hefyd ffenestri cymesur â physt cerrig, mowld ofolo, a chyntedd clasurol â goruwchadail a phediment yn cael ei gynnal gan golofnau Dorig. Mae arfbeisiau i’w gweld ar y metopau a’r pediment. Darparwyd porthdy i Gefnamwlch ym 1607, yn wynebu’r hen dŷ, ac adeiladwyd cyfadeiladau, tua’r un pryd â’r porthdy, i gyfeiriad y de cyn i’r hen dŷ gael ei dynnu i lawr. Adeiladwyd ‘castell’ neo-Gothig yn lle’r tŷ ym Madryn ond goroesodd y porthdy fel atgof o adeilad uchelgeisiol arall o ddechrau’r 17eg ganrif. Aeth Bodfel gam ymhellach, gan greu porthdy croesffurf tri llawr ac atig, ag iddo fynedfa fwaog glasurol â cholofnau Dorig ar wahân o bobtu iddi gyda’r llawr cyntaf wedi’i amlinellu gan oruwchadail yn ‘dod yn ôl’ yn erbyn y ffasâd ar uchder abaci’r colofnau. Mae’n debyg bod y ffenestri presennol sy’n dyddio o’r 18fed/19eg ganrif wedi eu gosod yn lle agoriadau gwreiddiol â physt cerrig.

Ar lefel fwy lleol a phreifat creodd y gwaith adeiladu y cyfeirir ato ar ddemên yr ystadau a’u planhigfeydd a’u gerddi addurnol cysylltiedig rhyw gymeriad penodol yn y dirwedd amaethyddol ehangach.