Crefydd a’i dylanwad ar y dirwedd

Mae’r dystiolaeth gynharaf o brofiad crefyddol yn nhirwedd Llŷn i’w gweld yn henebion y cyfnod Neolithig a’r Oes Efydd Gynnar. Mae tua phymtheg o feini hirion yn ardal yr astudiaeth. Ceir clwstwr ger glannau afon Erch, dau faen, 180m oddi wrth ei gilydd ym Mhenprys, Llannor a chasgliad gwasgaredig yn ymestyn at ben de-orllewinol y penrhyn. Mae’n amhosibl dweud beth oedd swyddogaeth y meini hyn. Gallai rhai fod yn allgreigiau neu’n arwyddbyst ar gyfer cyfadeiladau gweithgareddau defodol helaethach, nad ydynt i’w gweld mwyach. Gallai eraill fod yn gysylltiedig â chladdu. Mae’r rhan fwyaf yn fynegiant o hen hen hanes yn y dirwedd. Nid oes cylchoedd cerrig pendant na ‘hengorau’ arglawdd crwn yn yr ardal, er bod awgrym wedi’i wneud y gallai lloc ffosog crwn, a ddarganfuwyd o’r awyr fel ôl cnwd ac a gadarnhawyd gan arolwg geoffisegol, yng Nghwmistir, rhwng Edern a Thudweiliog, fod yn lloc defodau o’r cyfnod cynhanesyddol cynnar.

Sarn Meyllyeyrn

Mae deg beddrod siambr o’r cyfnod Neolithig wedi’u cofnodi yn yr ardal dirwedd, ond nid yw pob un wedi goroesi. Mae beddrod ar fferm y Gromlech, ger y Ffôr, unwaith eto ger afon Erch ac ym Mhont Pensarn, heb fod ymhell o’r fan lle mae afonydd yn dod at ei gilydd yn y Pwll, ym Mhwllheli. Ceir beddrodau ar drwyn Cilan ac, yn bwysig iawn, ar lethrau dwyreiniol Mynydd y Rhiw, islaw’r ffynhonnell bwysig o graig graen mân a ddefnyddid i wneud bwyeill Neolithig. Er eu bod yn lleoedd claddu, ac yn cael eu disgrifio fel beddrodau, y ffordd orau o ystyried yr henebion hyn yw fel canolbwynt mynegiant crefyddol lle’r oedd marwolaeth yn cael ei chydnabod fel rhan o gylch bywyd. Roedd hynny’n ystyriaeth bwysig i amaethwyr. Mae claddedigaethau’r canrifoedd diweddarach yn henebion caeëdig, ac mae’n fwy amlwg mai beddau ydynt.

Mae’n anodd iawn dynodi lleoliad yr eglwysi Cristnogol cynharaf ar benrhyn Llŷn, ac fel sawl agwedd ar y Canol Oesoedd Cynnar, mae’n anodd eu dehongli gan nad oes tystiolaeth uniongyrchol ar gael. Gellir disgrifio cymeriad eglwysi cynnar a’u trefniadaeth, mewn sawl achos, fel eglwysi lled-fynachaidd neu gymunedau ‘clas’. Nid oeddent yn rhan o system blwyfol eto, ond roeddent yn gweithredu ar linellau cymunedol. Mae’r clas (term diweddarach) yn disgrifio ystod a math eang iawn o eglwys, yn amrywio o gymunedau pwysig a dylanwadol Aberdaron a Chlynnog Fawr a’u canghennau yn Llŷn, i eglwysi bychain yn cael eu rhedeg gan gymuned leol heb unrhyw ddylanwad na budd y tu allan i ffiniau’r drefgordd. Er enghraifft, gallai eglwys glas ddod i fodolaeth pe bai pennaeth rhydd-ddaliadol tylwyth, â chydsyniad ei etifeddion a sêl bendith y brenin neu’r arglwydd, yn trosglwyddo’i hawliau yn nhir y gymuned er budd eglwys, drwy ei ffurfio a’i chynnal. Byddai’r rhenti a’r tollau arferol a fyddai’n ddyledus i’r brenin neu’r arglwydd yn cael eu trosglwyddo wedyn er mwyn cynnal a chadw’r eglwys. Byddai’n rhaid i un o’r gymuned fod yn offeiriad a byddai pennaeth y teulu, boed yn glerigwr ai peidio, yn cael ei alw’n ‘Abad’. Mewn senario arall, gallai’r brenin neu’r arglwydd roi tir ar gyfer adeiladu a chynnal eglwys ac, efallai, sefydlu aelod iau o’r teulu neu berthynas i fod yn gyfrifol am yr eglwys honno. Yn y naill achos a’r llall, ni fyddai’r eglwys na’i chymuned yn gorfod talu trethi brenhinol. Roedd rhai atodion a hawliau’n deillio o hyn. Roedd gan y gymuned, y claswyr (y ‘mynachod’), fudd breintiedig ac etifeddadwy yng ngwaddolion tiriog yr eglwys, yr abadaeth. Roedd noddfa’n ymestyn o’r eglwys ac yn darparu amddiffyniad i’r rhai hynny oedd ei angen. Mewn un achos a gofnodwyd, ym 1114, roedd Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr, arglwydd Deheubarth, yn cael ei erlid gan wŷr Gruffudd ap Cynan, a chymrodd loches yn eglwys Aberdaron. Anfonwyd gwŷr Gruffudd i’w lusgo oddi yno ond safodd Aberdaron yn gadarn ‘ac ny adawd pzela dyeid ywlad llygru nawd yr eglwys’ (Brut y Tywysogion, Peniarth MS, 20 sa.1112).

Canfuwyd dau faen coffa pwysig o’r chweched ganrif yn Anelog, ger Aberdaron, ac arnynt arysgrifau yn dynodi ‘yma y gorwedd Senacus, yr offeiriad, gyda thyrfa o frodyr’, ac ‘yma y gorwedd Veracius, yr offeiriad’. Mae’r arysgrifau’n defnyddio prif lythrennau Rhufeinig â seriffau, llythrennau dyblyg a marciau cywasgu yn arddull dynodwyr beddau sydd i’w gweld mewn llawer o drefi Taleithiau Gorllewinol diweddar y Rhufeiniaid, sy’n dangos adnabyddiaeth, o leiaf, o rai agweddau ar Gristnogaeth gyfoes y cyfandir.

Gallwn fod bron yn sicr mai eglwysi pren oedd eglwysi cynnar Llŷn. Mae’r dystiolaeth adeileddol gynharaf o ddefnyddio cerrig sydd wedi goroesi yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif. Eglwys Aberdaron, â’i drws bwaog Romanésg, mewn tri dull, o’r 12fed ganrif, yw’r enghraifft orau, er bod llawer o ychwanegiadau ac addasiadau wedi’u gwneud dros y canrifoedd. Mae cryn bosibilrwydd bod yr eglwysi hynny lle gellir nodi cysylltiad â chlas wedi eu hadeiladu ar leoliad eglwys gynharach.

Aberdaron

Yn ystod diwedd y 12fed ganrif a dechrau’r 13eg ganrif roedd mudiad diwygio a oedd yn ystyried bod yr hen eglwysi clas wedi dirywio a mynd yn hen ffasiwn o’u cymharu â’r urddau cyfandirol a oedd yn ennill tir yng Nghymru a Lloegr. Cafodd llawer o’r cymunedau clas eu hannog neu eu perswadio i ildio’u hawliau yn yr abadaeth i gymunedau canonau Awstinaidd. Dewiswyd yr Awstiniaid gan fod eu rheolaeth hyblyg yn caniatáu iddynt ymgymryd â chyfrifoldebau plwyfol, fel y gwnâi’r offeiriaid ymhlith y claswyr. Roedd cymunedau clas eraill fel pe baent yn diflannu, gan adael yr eglwys yn nwylo rheithor o fewn strwythur esgobaethol. Yn ymarferol, gwnaethpwyd consesiynau i’r claswyr ac i ddeiliaid newydd yr eglwys. Unwaith eto, Aberdaron yw’r enghraifft gliriaf yn Llŷn. Cadwodd claswyr Aberdaron eu hawliau personol a’u hawliau perchnogaeth, rhyddfreiniwyd eu tenantiaid caeth a rhoddwyd rhagor o dir brenhinol ar y tir mawr yn rhodd gan Dafydd ap Gruffydd, Arglwydd Cymydmaen.

Mae enghraifft arall bwysig yn cyfeirio at Cadwaladr ap Gruffudd ap Cynan yn rhoi eglwys Nefyn, yn y 1170au, neu o gwmpas y dyddiad hwnnw, yn rhodd i abaty Awstinaidd Haughmond. Mae rhai arwyddion sy’n awgrymu mai eglwys glas oedd yr eglwys yn wreiddiol, ac mae hyn yn arwain at y posibilrwydd nad oedd Nefyn wedi’i sefydlu fel maerdref gymydol cyn rhoi’r eglwys yn rhodd i abaty Haughmond.

Rhwng y 12fed ganrif a dechrau’r 16eg ganrif daeth eglwysi cerrig yn rhan bwysig a gweledol o dirwedd y Canol Oesoedd. Roedd materion yn ymwneud â deiliadaeth i’w hystyried hefyd. Roedd trefgordd Llannor â’i phum pentrefan gwasgaredig yn naliadaeth Beuno Sant, hynny yw, Clynnog Fawr. Roedd Carnguwch hefyd wedi dod yn rhan o gylch dylanwad Clynnog. Roedd gan Esgob Bangor lawer o dir ac eiddo ledled Gwynedd. Yng nghantref Llŷn roedd yr Esgob yn cadw maenordy a thiroedd demên yn Edern. Ef hefyd oedd landlord trefgorddau Llaniestyn, Abererch, Llangwnnadl, Penrhos, Llanbedrog ac Edern ei hun.

Mae manylion sydd wedi goroesi o’r 12fed ganrif i’w gweld yn amlwg yn Aberdaron a hefyd ym Mhistyll. Mae’r gwaith maen gweladwy cynharaf yn Llannor yn dyddio o’r 13eg ganrif, ac yn cynnwys yr adeiledd un siambr cyfan cyn ychwanegu tŵr yn y 15fed ganrif a chyntedd a chapel modern. Mae’n rhaid mai hon oedd yr eglwys fwyaf yn Llŷn yn ei chyfnod. Mae gwaith sy’n dyddio o’r 13eg ganrif yn Llangian hefyd yn y pen gorllewinol, ac mae gwahaniaeth pendant iawn rhwng gwaith y cyfnod hwnnw ac estyniad o’r 15fed ganrif. Yn yr un modd, mae gwaith maen o’r 13eg ganrif wedi goroesi yn Llaniestyn yn y pen gorllewinol, a ymestynnwyd tua’r dwyrain tua diwedd y 13eg ganrif.

Digwyddodd y gwaith mwyaf o bosibl, fodd bynnag, tua’r flwyddyn 1500. Adeiladwyd eiliau newydd yn eglwysi Llaniestyn, Llanengan, Abererch ac Aberdaron nid nepell o’r adeileddau estynedig blaenorol, ac adeiladwyd arcedau o fwâu pedwar-canolbwynt i’w cysylltu. Yn Llangwnnadl, ar adeiledd llawer cynharach, adeiladwyd dwy eil ychwanegol, i’r gogledd ac i’r de o’r canol cynnar yn y 1520au, ac yn y 1530au ffurfiwyd tri bwa pedwar-canolbwynt yn y waliau.

Llangwnnadl

Mae’r arddull yn yr eglwysi hyn sy’n dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif a dechrau’r 16eg ganrif yn sythlinol gan mwyaf, ac eithrio Llaniestyn sydd wedi cadw fersiwn o arddull gynharach, ffenestr lansed-triphlyg, yn y ddau dalcen dwyreiniol. Yn ystod y cyfnod hwn, defnyddid gwahanol arddulliau toi, er enghraifft cyplau trawstiau croes, bwa cleddog, wedi’u cryfhau weithiau ag ategion gwynt a phwyslathau ar ogwydd. Mae enghreifftiau da i’w gweld yn Llangian, Llanengan, Pistyll a Llangwnnadl, ac mae rhai wedi’u hatgyweirio neu eu hadfer.

Mae eglwys Llandudwen yn eglwys ddiddorol. Cafodd ei hailadeiladu yn yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif ar seiliau canoloesol, ac mae’n cynnwys ffenestri pyst cerrig sgwâr â mowldin ofolo. Mae pedair ar ddeg o’r wyth ar hugain o eglwysi plwyf yn ardal yr astudiaeth wedi cael eu dymchwel a’u gadael fel adfeilion neu eu hailadeiladu ar yr un safle yn ystod y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Mae eglwys Deneio, yn agos at lys tybiedig maerdref Afloegion wedi mynd yn ddim mwy nag adfail o waliau isel.

Adeiladwyd eglwys newydd ar safle newydd yng nghanol Pwllheli yn y 19eg ganrif ac fe’i hailadeiladwyd eto ym 1887. Ailadeiladwyd eglwys Sant Pedr yn ei Gadwynau ym Mellteyrn ar yr un safle, ond mae hithau’n adfail erbyn hyn. Mae llawer o’r eglwysi o’r 19eg ganrif sydd wedi cymryd lle rhai cynharach yn gysyniadau Fictoraidd soled o themâu canoloesol amrywiol, fel y gwelwn, er enghraifft, yn Edern a Thudweiliog. Dwy eglwys anarferol yn y categori hwn yw’r eglwys Romanésg rystig a adeiladwyd yn lle eglwys Romanésg wreiddiol Hywyn Sant yn Aberdaron ac eglwys Gwynin Sant yn Llandygwnning.

Hybwyd twf Ymneilltuaeth grefyddol yn niwedd y 18fed ganrif gan huodledd a brwdfrydedd yr arweinwyr. Un o’r efengylwyr hynny a daniai’r cyfarfodydd mawr oedd John Elias, a anwyd yn Abererch. Roedd angen adeilad o ryw fath ar gyfer y cyfarfodydd llai a gynhelid mewn cymunedau unigol yn dilyn y cyfarfodydd mawr hyn. Cafodd croglofftydd ac ysguboriau eu gosod, neu eu rhoi’n rhydd i’r diben. Wrth i’r mudiad a’r momentwm gynyddu mewn cymunedau a oedd wedi mynd yn rhy fawr i’r ystafelloedd a oedd yn cael eu rhentu, cymerwyd camau i gael adeiladau mwy addas â mwy o le. Un o’r capeli cynharaf i’w ddefnyddio, ac sydd wedi goroesi hyd heddiw, yw Capel Newydd, Nanhoron. Mae Capel Newydd yn debyg i ysgubor, ac mae’n ddigon posibl mai ysgubor ydoedd cyn iddo gael ei ddefnyddio fel capel. Nid oedd cael tir ar gyfer capel anghydffurfwyr bob amser yn hawdd, ac nid oedd y boneddigion bob amser yn bleidiol i Anghydffurfwyr. Fodd bynnag, roedd cefndir Piwritanaidd teulu Nanhoron yn etifeddiaeth a barhaodd. Roedd Capten Timothy Edwards Nanhoron yn gymwynaswr a daeth ei wraig, Catherine, yn aelod ar ôl marwolaeth ei gŵr. Roedd Capel Newydd (Annibynwyr) ar gyrion tir comin, ac ym 1782, adeiladwyd capel arall ar gyfer y Methodistiaid Calfinaidd o fewn y tir comin yn y Nant, dafliad carreg i ffwrdd.

 

Capel Newydd, Nanhoron

Adeiladwyd Capel Annibynwyr yn Nhudweiliog tua diwedd y 1820au i lawr y ffordd o Frynodol a heb fod ymhell o eglwys y plwyf. Mae’r adeilad hwn hefyd yn debyg iawn i ysgubor neu adeilad amaethyddol ac mae yno dŷ ar gyfer y gweinidog, wrth ymyl y capel ac ar yr un llinell. Yn ystod ail chwarter y 19eg ganrif adeiladwyd capeli Anghydffurfiol mwy i ddal cynulleidfaoedd mwy. Mewn pentref bychan fel Aberdaron roedd tri chapel wedi eu codi cyn 1890 - yr Annibynwyr, y Methodistiaid Calfinaidd a’r Wesleaid. Roedd capeli’n cael eu cynllunio erbyn y cyfnod hwn, a chynlluniau clasurol oedd y rhai mwyaf poblogaidd at ei gilydd. Nid oedd cynlluniau Gothig Fictoraidd mor boblogaidd, ond maent i’w cael. Mae gan Gapel Nebo, yn y Rhiw, er enghraifft, a ailadeiladwyd ym 1876 ffasâd cynnil, ond Gothig er hynny. Mae’r un peth yn wir am Gapel Peniel yng Ngheidio, yn union yn ymyl yr Eglwys sydd wedi ei hadnewyddu yno. Mae’r eglwysi hynny sydd ag elfennau clasurol i’w dyluniad yn cynnwys motiffau cylchol, â rhai amrywiadau, a threfniant arferol o agoriadau ar y cyfan, o leiaf tan ddiwedd y ganrif pan ddechreuwyd adeiladu capeli mwy fyth â dyluniad mwy beiddgar. Mae elfennau cyffredin ail hanner y 19eg ganrif yn cynnwys bwâu hanner crwn mawr yn codi o abaci ar bilastrau tal ar ran helaeth o ffasâd y talcen. Mae’r bwa fel ffrâm i ddwy ffenestr dal â phennau crynion, ac uwchben y rhain mae math o fowld capan ffug. Saif dau ddrws pâr â phennau crynion y tu allan i’r ffrâm o bobtu’r ffasâd. Mae’r trefniant hwn ac eraill i’w gweld yn aml, ac mae’n debyg mai gwaith penseiri lleol ydyw. Mae’r thema bwa crwn a ddisgrifiwyd uchod i’w weld yr un fath yn union mewn mannau eraill, er enghraifft yng Nghapel Berea, Efailnewydd ym 1872, Bethania ym Mhistyll ym 1875, Bryn Mawr ym 1877 a Salem, Sarn Mellteyrn ym 1879.

Bethania, Pistyll

O ran y capeli mwy a adeiladwyd ar droad y ganrif, yn Edern ym 1898 gwelwn gyntedd tal, â phediment, yn ymestyn allan ychydig o wyneb petryal corff y capel, â thair ffenestr pen crwn ar lefel y galeri llawr cyntaf a drws pen crwn â ffenestr o bobtu iddo ar y llawr gwaelod, i gyd o fewn cilfach fwaog. Ceir dwy ffenestr i fyny a dwy ffenestr i lawr bob ochr i’r cyntedd. Yn Llithfaen, sydd hefyd â galeri, gwelwn amrywiad ar yr un thema ond ar raddfa lai. Mae’r ddau gapel yn dilyn arddull rystig glasurol, neu efelychiad o’r arddull honno, gan awgrymu swyddogaeth iwtilitaraidd i adeiladau sydd fel arall yn drawiadol.

Edern