Amaethyddiaeth Gynhanes ac Archaeoleg Greiriol

Amaethwyr oedd y cymunedau sefydlog cynharaf ym Mhenrhyn Llŷn, yn y pumed mileniwm CC. Roeddent yn byw bywydau sefydlog, yn hytrach na chrwydrol, yn bugeilio ac yn corlannu anifeiliaid, yn torri a throi’r dywarchen, yn hau eu hadau ac yn cynaeafu eu cnydau yn yr hydref. Mae cyfrinion cylch y tymhorau a chonsyrn am ffrwythlondeb y pridd fel pe baent yn treiddio drwy eu henebion crefyddol, defodol ac angladdol, sy’n adlais mor drawiadol o’r gorffennol yn y dirwedd. Er hyn, prin yw’r dystiolaeth o anheddu, ac o ddylanwad amaethyddiaeth ar y dirwedd Neolithig hon. Gallai’r beddrodau siambr megalithig sydd wedi goroesi, neu’r traddodiad bod rhai’n bodoli ar un adeg, fod yn arwydd o boblogaeth ddwys mewn rhai ardaloedd yn ystod y cyfnod hwn, ond mae’r dystiolaeth mor wasgaredig fel na ellir dibynnu llawer arni i’r perwyl hwn. Ceir beddrod ar fferm y Gromlech, ger y Ffôr; un arall ym Mhont Pensarn ar y codiad tir y tu ôl i Bwllheli ac un arall ar bentir Mynydd Tir-y-cwmwd. Mae dau feddrod ar drwyn Cilan, i’r de o Lanengan, a dau feddrod arall ar ochr ddwyreiniol Mynydd y Rhiw. Mae’r rhain i gyd wedi’u cofnodi ar ochr ddwyreiniol y penrhyn, ar dir uwch i ryw raddau. Cofnodwyd dau feddrod yn nes at arfordir y gorllewin, ger blaenddyfroedd afon Soch. Mae un ohonynt, sef Tregarnedd, wedi diflannu erbyn heddiw; mae’r llall, ar ochr ogleddol Mynydd Cefnamwlch, yn dirnod lleol.

Mynydd Cefnamwlch

Mae’r henebion sydd wedi goroesi o’r Oes Efydd Gynnar, tua diwedd y trydydd mileniwm a dechrau’r ail fileniwm, hefyd yn wasgaredig, ond maent yn fwy niferus. Mae’r henebion angladdol, a welir ar ffurf carneddau cerrig, crugiau pridd a ffosydd crwn, yn dangos rhyw gymaint o grynhoi ar dir uchel yr Eifl, yn enwedig ar gopaon y mynyddoedd hynny ac ar fynydd cyfagos Carnguwch. I’r de-orllewin, mae maen hir ar ochr dde-ddwyreiniol Moel Gwynus, 160m uwchlaw’r seilnod ordnans, ac ar y gweundir is ger blaenddyfroedd afon Erch, ac afon Rhyd-hir ymhellach i’r de-orllewin. Ceir meini hir yr ochr arall i’r afon ger eglwys Carnguwch, a dau faen, 170 m oddi wrth ei gilydd, yn Nhŷ Gwyn, i’r gogledd-ddwyrain o frigiad gweladwy Moel y Penmaen. Ceir meini hirion ger afon Erch, rhwng Pencaenewydd a’r Ffôr. Mae casgliad pwysig arall o garneddau ar Fynydd y Rhiw, yn agos at feini hirion a chistgladdiad rhwng Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig ac yrngladdiad ar lethrau gogleddol Mynydd y Rhiw.

Carnguwch

Ceir meini hirion yn Llangwnnadl, ym Maen Hir, Pen-y-groeslon, ac ym mynwent eglwys Sarn Mellteyrn. Cofnodwyd carnedd ag yrngladdiadau ar lethrau Foel Mellteyrn a datgloddiwyd clwstwr o saith ffos gron â beddau canolog a chrugiau wedi eu haredig ym Modnithoedd, ym mhen gorllewinol Botwnnog. Datguddiwyd y claddiadau olaf hyn gan ffosydd olion cnydau ac mae’n bosibl bod mwy o safleoedd tebyg yn agos at ei gilydd, ond eu bod wedi cael eu dileu o’r dirwedd o ganlyniad i weithgaredd amaethyddol diweddarach ar dir is.

Cofnodwyd yrngladdiadau, unwaith eto ar dir is, ym Mhen yr Orsedd, ym Morfa Nefyn, ynghyd â chrug crwn posibl gerllaw. Mae clwstwr o dri chrug o fewn 30m i’w gilydd 50m uwchlaw’r seilnod ordnans ger tŷ Cefn Mine, i’r de o Fodfel.

Mae carnedd a chist ag ochrau cerrig iddi ar y llwyfandir, 340m uwchlaw’r seilnod ordnans, ychydig yn is na chopa Carn Fadryn, ac mae carnedd bosibl yn is i lawr ac i’r de o gôn trawiadol Garn Saethon 165m uwchlaw’r seilnod ordnans.

Mae llociau aneddiadau, sy’n amrywio o ran cadernid eu hamddiffynfeydd, ac aneddiadau cylchoedd cytiau amgaeedig neu agored, yn arwyddion mwy pendant o ffermydd o’r cyfnod cynhanesyddol diweddarach yn nhirwedd Llŷn. Er hyn, mae mwy ohonynt i’w gweld ar dir ymylol ac ar dir uchel, lle mae mwy o siawns i dystiolaeth oroesi. Yn hafau sych 1989, 1990 a 2006 cofnodwyd nifer o lociau newydd ar ffurf olion cnydau ac olion crasu. Nid oedd unrhyw olion eraill wedi goroesi uwchben y ddaear gan fod canrifoedd o aredig wedi dileu’r dystiolaeth.

Ychydig o waith cloddio sydd wedi’i wneud yn yr aneddiadau hyn, ac ychydig iawn o dystiolaeth o’r gyfundrefn ffermio sydd wedi dod i’r amlwg. Un eithriad pwysig yw’r lloc consentrig ffos ddwbl sydd ar bentir bychan uwchben afon Soch yn Sarn Mellteyrn. Mae’r anheddiad yn rhychwantu diwedd yr ail fileniwm CC a dechrau’r mileniwm cyntaf CC. Mae tystiolaeth paill yn awgrymu amgylchedd glaswelltir agored â gwenith a haidd yn cael ei dyfu yn y cyffiniau.

Mae’r casgliad dwysaf o ffermydd bychain sydd wedi goroesi o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar ac o ganrifoedd cynnar y Rhufeiniaid, i’w weld ar lethrau’r mynyddoedd ithfaen sy’n ymestyn o’r Eifl yn y gogledd i Garn Boduan yn y de-orllewin. Ceir grwpiau cnewyllol a chytiau crwn unigol ar y llethrau sy’n wynebu’r môr yng Ngallt Bwlch a rhwng Llithfaen a Phistyll. Mae cytiau unigol gwasgaredig a grŵp amgaeedig cnewyllol heb fod yn bell, ar lethrau sy’n wynebu’r de-ddwyrain islaw fferm y Bwlch yn yr un ardal, tua 200m uwchlaw’r seilnod ordnans. Mae’r aneddiadau hyn ar dir a oedd yn ddigon isel i’w ffermio, ond a oedd hefyd mewn man cyfleus i allu pori’r ucheldir yn yr haf.

Mae pedwar anheddiad ar ddeg ar y llethrau deheuol a de-ddwyreiniol, i’r de o Lithfaen a Phistyll, tua 150m uwchlaw’r seilnod ordnans, fwy neu lai, yn dilyn y gyfuchlin o Foel Gwynus i Foel Tŷ Gwyn, Cerniog, Mynydd Nefyn a llethrau isaf Garn Boduan ac yn edrych dros dir gwastad Boduan ac afon Rhyd-hir. Mae deg o’r aneddiadau hyn yn gnewyllol ac amgaeedig a gallwn fod yn sicr mai olion ffermydd bychain sefydledig o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar a’r cyfnod Brythonig-Rufeinig yw’r rhain. Mae’r ffermydd bychain hyn mewn sefyllfa dda i allu manteisio ar drawstoriad o dirwedd amrywiol sy’n cynnwys amaethu âr a magu stoc, ac yn y cyd-destun hwn, dylid ystyried llethrau uchel anhydrin y mewnwthiadau igneaidd fel adnodd yn hytrach na rhwystr.

Mae dwy amddiffynfa fawr iawn â waliau cerrig i’w gweld yn yr ardal hon, ac mae’r ddwy’n cyfoesi’n fras â’i gilydd. Yn y pen gogleddol, saif Tre’r Ceiri ar gopa mwyaf dwyreiniol yr Eifl, 480m uwchlaw’r seilnod ordnans. Yn y pen deheuol, mae Garn Boduan yn codi uwchben Nefyn a’r gwastadedd arfordirol i 270m uwchlaw’r seilnod ordnans. Mae gan y ddwy fryngaer amddiffynfeydd helaeth a chadarn a gwelir tystiolaeth amlwg o anheddiad cylch cytiau o fewn eu rhagfuriau. Yn Nhre’r Ceiri mae dilyniant cronolegol i’w weld lle mae tai crwn mawr â waliau cerrig wedi cael eu disodli gan unedau llai wedi eu rhannu’n gydrannau. Ceir tystiolaeth hefyd bod gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio wedi’i wneud i ran o’r rhagfur yn ystod yr ail ganrif OC. Gellid dadlau bod y caerau hyn, ar dir uchel, yn gysylltiedig â rheoli stoc a phori yn ystod yr haf, yn enwedig oherwydd y perygl y gallai gwartheg gael eu dwyn yn ystod misoedd yr haf, a chan fod y tiroedd uchel hyn, yn ôl cofnodion hanesyddol, yn cael eu defnyddio fel tir pori yn ystod y canrifoedd diweddarach.

Tre'r Ceiri

Mae’n bosibl bod cyd-destun tebyg yn ardal Carn Fadryn, Garn Bach a Garn Saethon, sy’n 370m, 280m a 220m yn y drefn honno. Ar Garn Fadryn ceir llwyfandir helaeth, ar uchder o 340m, sy’n cael ei amddiffyn gan ragfuriau cerrig. Mae cylchoedd cytiau unigol, gwasgaredig ar lethrau isaf Carn Fadryn ac yn y cyfrwy rhyngddi hi a Garn Bach. Ceir grŵp gwasgaredig arall ar lethrau de-ddwyreiniol Garn Bach. Mae cylchoedd cytiau cnewyllol, amgaeedig ac agored yn ffurfio ffermydd ar y tir gwastatach sy’n edrych dros ochr orllewinol ceunant Nanhoron.

Carn Fadryn

Ceir llociau amddiffynnol ym mhen gogleddol Mynydd y Rhiw, ar doriad yn y llethr ar ochr dde-ddwyreiniol yr hobgefn ac, wrth i’r tir godi eto, ceir trydedd fryngaer, Creigiau Gwinau, ar fewnwthiad basalt ar gopa Mynydd y Graig. Mae nifer o lociau aneddiadau crwn a grwpiau o gylchoedd cytiau cnewyllol ar y llethrau de-orllewinol a de-ddwyreiniol uwchlaw’r cyfrwy rhwng pen deheuol Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig a stribed o gylchoedd cytiau unigol a gwasgaredig ar lethrau de-ddwyreiniol serth Mynydd y Graig, yn edrych allan dros Borth Neigwl a Bae Ceredigion. Roedd Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig yn ucheldir pori yn ystod y canrifoedd diweddarach, ac ni fyddai’n afresymol awgrymu bod anheddiad o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar yn gwerthfawrogi’r dirwedd honno am yr un rheswm.

Bryngaer ddeuglawdd gymharol fechan, ar fryn llyfngrwn isel, ond amlwg yn lleol er hynny, sy’n codi o lwyfandir Aberdaron, 146m uwchlaw’r seilnod ordnans, yw Castell Odo. Cafodd yr amddiffynfeydd eu had-drefnu a’u hadnewyddu droeon. Mae ei leoliad yn awgrymu mai ei brif swyddogaeth o bosibl oedd bod yn ganolbwynt arglwyddiaeth a rheolaeth leol neu ranbarthol. Er yr ystyriaethau gwleidyddol strategol, mae’r gaer wedi’i lleoli rhwng tir amaethyddol ffrwythlon y gwastadedd a gweundiroedd gwlyb helaeth Rhoshirwaun, a oedd yn cael eu defnyddio, yn yr oesoedd cynnar, i ddibenion pori a chasglu tanwydd, ond fawr ddim arall.

Yng nghyrion de-orllewinol penrhyn Llŷn ceir cylchoedd cytiau unigol a gwasgaredig ar dir creigiog uchel Mynydd Anelog, Mynydd Mawr, Mynydd Bychestyn a Phen y Cil sy’n ffinio ar lwyfandir amaethyddol Uwchmynydd. Canrifoedd o amaethu âr dros arwynebedd eang yw’r rheswm yn ddi-os am y diffyg tystiolaeth yn nhiroedd amaeth Aberdaron.