Yn ystod y Canol Oesoedd cynnar y rhaniadau tiriogaethol yn Nheyrnas Gwynedd oedd y cantrefi. Roedd cantref yn ddynodiad hynafol iawn. Ni cheir cyfeiriad at israniad diweddarach y cantref, sef y cwmwd, tan y 12fed ganrif neu’r 13eg ganrif. Yn y Canol Oesoedd cynnar sail grym arglwyddiaethau tiriogaethol, rhydd-ddaliadol, breninlinol fyddai’r faenol, rhwydwaith o aneddiadau wedi’u cysylltu drwy garennydd, tir yn perthyn i dylwyth, ag eiddo wedi ei wasgaru’n eang iawn. Mae’n bosibl y byddai nifer o faenolau mewn un cantref, ac mae’n bosibl y byddai pob un, neu rai o leiaf, o benaethiaid etifeddol tylwyth estynedig o’r fath yn ystyried eu hunain o statws digon tebyg i’r brenin ei hun. Mae natur y berthynas hon, amser maith yn ôl, i’w gweld i raddau yn eiddo tiriog disgynyddion Cenythlin a Dwyrig yn y 14eg ganrif yn nhrefgorddau Carnguwch, Bodfel, Llangian, Cilan, Bryn Celyn ac Ystradgeirch, a’u pentrefannau. Yn ystod Oes y Tywysogion byddai’n arferol i aneddiadau cysylltiedig maenol ddiffinio ei ffiniau o fewn terfynau trefgordd. I’r gwrthwyneb, yn yr achos hwn, mae eiddo tiriog disgynyddion Cenythlin a Dwyrig yn ymestyn ar draws ffiniau trefgorddau a ffiniau cymydau, o Garnguwch yn y gogledd i Gilan yn y de, fel pe na bai’r ffiniau hynny erioed wedi bodoli. Fodd bynnag, mae’r gwahanol welyau hyn wedi’u cyfyngu i ochr ddwyreiniol Cantref Llŷn, ac mae’n bosibl bod maenolau rhydd-ddaliadol tebyg eraill, wedi’u celu yn awr gan drefniadau deiliadol diweddarach, yn dal tiroedd tua gorllewin y penrhyn ar un adeg.
Mae’n debyg bod tirwedd weinyddol Gwynedd wedi’i thrawsnewid yn ystod y 12fed ganrif. Mae’n bosibl mai’r cyd-destun oedd y sefydlogrwydd a gafwyd yn ystod blynyddoedd diweddarach teyrnasiad Gruffudd ap Cynan ac ehangiaeth Owain Gwynedd. Rhannwyd yr hen gantrefi’n gymydau ledled y Deyrnas - dau neu dri chwmwd ym mhob cantref. Roedd cantref Llŷn wedi’i rannu’n dri chwmwd. Roedd cwmwd Dinllaen yn rhan ogleddol y cantref, cwmwd Afloegion yn y de-ddwyrain a chwmwd Cymydmaen yn y de-orllewin. Sefydlwyd maerdref frenhinol ym mhob un o’r tri chwmwd.
Trefgordd frenhinol oedd maerdref, yn cael ei rhedeg ar sail y cysyniad o faenor, ac yn cynnwys tir demên a llys, neu blasty, a phentrefan neu bentrefannau o denantiaid caeth. Roedd y llys yn darparu annedd i’r tywysog pan fyddai’n ymweld â rhan arbennig o’r deyrnas. Y faerdref hefyd oedd canolbwynt gweinyddol y cwmwd. Byddai rhenti a thollau, a oedd yn ddyledus gan denantiaid y tywysog yn y cwmwd, yn cael eu talu yn y faerdref. Gallai’r rhenti a’r tollau fod yn waith cario ac atgyweirio, yn fwyd neu’n daliadau ariannol.
Yn Nefyn yr oedd maerdref Dinllaen. Roedd maerdref Afloegion yn Neneio (Pwllheli) ac roedd maerdref Cymydmaen yn Neigwl.
Nefyn
Roedd gan y tywysog hefyd lawer o diroedd pori ym mhob cwmwd. Mae’n debyg bod yr hafodydd neu’r ffriddoedd hyn yn gweithredu’n debycach i ranshis gwartheg na thiroedd pori yn ystod yr haf. Yng nghwmwd Dinllaen roedd yr hafodydd ar lethrau Gwynus, i’r de o’r Eifl, ac o amgylch y llethrau hynny. Yng Nghymydmaen, mae’n bosibl y byddai trefgordd Penarfynydd wedi cyflawni’r swyddogaeth honno.
Byddai tenantiaid caeth i’r tywysog yn nhirwedd ehangach y cwmwd, yn gweithio ar eu tyddynnod eu hunain, ynghyd â rhydd-ddeiliaid a oedd hefyd, yn gyffredinol, yn talu tollau. Roedd gan Esgob Bangor hefyd denantiaid rhydd a chaeth, ac roedd tir demên a maenordy’r Esgob yng nghantref Llŷn, yn Edern.
Ar ôl i Wynedd gael ei gorchfygu ym 1283 newidiodd rhai pethau, ac arhosodd pethau eraill fel ag yr oeddent. Newid landlord oedd y newid i lawer. Gorfodwyd gweinyddiaeth newydd, â’i phencadlys yng Nghaernarfon, a sefydlwyd siryf ym mhob un o’r tair sir newydd. Roedd Llŷn yn rhan o Sir Gaernarfon. Er hynny, cadwyd y cwmwd fel uned ranbarthol yn y sir a pharhaodd rôl dau swyddog cymydol pwysig dan y tywysogion, yn enwedig yn achos y Rhingyll (Carr, 1982, 59-60).
Daeth cyn diroedd caeth a demên y Tywysog i law Coron Lloegr a chafodd llawer o wŷr a oedd wedi ennill ffafr y Goron a deisyfwyr eiddo’r Goron y tiroedd hyn ar brydles ffi fferm. Cafodd yr hafodydd brenhinol hefyd eu prydlesu ar wahân i’w trefgorddau cysylltiedig. Roedd Nefyn a Phwllheli wedi dod yn fwrdeistrefi cyn y goncwest er mwyn hybu eu buddiannau masnachol ac, yng nghanol y 14eg ganrif, rhoddwyd statws bwrdeistref rydd i’r naill a’r llall.
Yn ystod y 14eg ganrif a’r 15fed ganrif roedd rhydd-ddeiliaid yn meddwl am ffyrdd o gael gafael ar fwy o dir yn y farchnad eiddo heb dorri’r gyfraith Gymreig a oedd yn ymwneud â throsglwyddo tir a etifeddwyd ac, yr un pryd, yn ceisio cael tir caeth ar brydles.
Cynyddodd y cyfleoedd yn y 1530au ar ôl diddymu tai crefyddol. Er enghraifft, rhoddwyd Ynys Enlli’n rhodd i John Wyn ap Hugh o Fodfel ym 1553.
Yn ystod yr 16eg ganrif, wrth i leiniau o dir gael eu caffael drwy bryniant a dulliau eraill o drosglwyddo, gwelwyd dechrau’r broses o gau grwpiau o erddi unigol o fewn cloddiau, a’r broses o gyfuno daliadau a fyddai, maes o law, yn creu’r dirwedd caeau sy’n rhan gyfarwydd o’r dirwedd bresennol.