Mynydd y Rhiw
Yn y 1950au clustnodwyd tyllau cloddio bas ym mhen gogleddol llethrau Mynydd y Rhiw fel canlyniad cloddio am siâl graen mân a ddefnyddid i wneud arfau, yn enwedig bwyeill, yn ystod y cyfnod Neolithig. Diffiniodd ymchwiliad pellach yn 2005 a 2006 ardal gloddio ehangach yn ymestyn am 400m. Awgrymodd gwaith dyddio radiocarbon fod y gwaith cloddio hwn yn digwydd yn ystod y pedwerydd a’r trydydd mileniwm CC. Mae’n bosibl mai’r broses hon o gloddio a chynhyrchu yw’r gweithgaredd diwydiannol cynharaf yn Llŷn.
Penrhyn Du
Roedd pobl yn gwybod bod plwm ar drwyn Penrhyn Du ers dechrau’r 18fed ganrif o leiaf. Mapiwyd angorfeydd Ceiriad a Thudwal gan Lewis Morris rhwng 1737 a 1748. Nododd leoliad y gwaith plwm a chofnododd enw cilfach gyfagos - Porth y Plwm. Cofnododd hefyd fod gwythiennau plwm a chopr ym Mhenrhyn Du. Roedd y gwaith plwm yn gwneud elw da ar un adeg, ond yng ngeiriau Lewis Morris, ‘now lies under water, … recoverable with proper engines’. Ymddengys bod ymdrech wedi’i gwneud i ddraenio’r dŵr gan ddefnyddio injan stêm Boulton a Watt ond roedd yn waith costus - ‘the expenses proved superior to the profits’ (Pennant, 1773, gol. John Rhys 1883, 368).
Dyma oedd gan un o syrfewyr Ystâd y Faenol i’w ddweud ym 1800 am Hen Dŷ, Tyddyn Talgoch, daliad ar drwyn Penrhyn Du: ‘the lands have suffered very much by the Mine Company of Penrhyn Du who sank several shafts in it and left them open, and the heaps of rubbish delved therefrom not trimmed or levelled’. Nododd Hyde Hall, ym 1810, yr arferid cloddio am fwynau rai blynyddoedd cyn hynny ond bod y gwaith wedi dod i ben gan nad oedd yn gost-effeithiol. Ym 1839 roedd atgof o’r gwaith cynharach mewn cae yn Hen Dŷ a oedd yn dal i gael ei alw’n Cae Chwimse (chwimsi = peiriant i godi dŵr o waith mwyn).
Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif roedd y mwyngloddiau wedi agor eto. Gosodwyd injan o Gernyw yno yn y 1860au a chodwyd cwt injan. Erbyn y 1880au, roedd 240 o fwynwyr, naddwyr, golchwyr a gyrwyr injans yn gweithio yn y mwyngloddiau ar y penrhyn o Lanengan i Benrhyn Du. Roedd llawer o’r gweithwyr hyn wedi dod i Benrhyn Du o ardaloedd eraill. Roedd hanner y boblogaeth fwyngloddio’n dod o Gernyw a Dyfnaint.
Mynydd y Rhiw a Phenarfynydd
Darganfuwyd manganîs ym Mynydd y Rhiw yn y 1820au. Yn dilyn gwaith archwilio ehangwyd y gwaith i’r Nant ym Mhenarfynydd a Benallt islaw Clip y Gylfinir. Yn ystod y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif roedd y gweithgaredd a’r cynhyrchu’n ysbeidiol. Fodd bynnag, gellid defnyddio manganîs i galedu dur ac roedd galw mawr amdano yn ystod y ddau ryfel byd. Yn ystod y blynyddoedd mwyngloddio cynnar, defnyddid mulod i gario’r manganîs at y môr ym Mhorth Cadlan. Yn ystod y cyfnod diweddarach, pan oedd y galw mwyaf am fanganîs, roedd rhaffordd awyr yn cario’r mwyn uwchben y pentref at y môr ym Mhorth Neigwl. Defnyddid incleins yn y Nant.
Chwareli ithfaen rhwng Trefor a Nefyn
Mae ymwthiadau igneaidd sy’n diffinio cymeriad gweledol y dirwedd rhwng Trefor a Nefyn yn ymestyn mewn cadwyn o gopaon a brigiadau creigiau caled, o’r Eifl i Garn Boduan.
Trefor
Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif sefydlwyd chwareli lle’r oedd modd cael gafael ar ithfaen. Roedd rhai o’r chwareli hyn yn fach, ond roedd eraill yn llawer mwy. Agorwyd chwarel y Gwylwyr, i’r gogledd o Nefyn, ym 1835; chwarel Moel Tŷ Gwyn, Pistyll, tua chanol y ganrif; Carreg y Llam, Porth y Nant ym 1860 a’r Eifl yn Nhrefor ym 1880. Daeth y chwareli hyn a chwareli lleol eraill at ei gilydd i ffurfio’r Welsh Granite Company. Y gwaith mwyaf yn y blynyddoedd cynnar oedd gwneud sets, i’w gosod ar wyneb y ffyrdd mewn trefi a dinasoedd. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd y galw am sets wedi edwino a throdd y chwareli a oedd yn dal ar agor at gerrig mâl, fel cydran o darmacadam neu fel agreg ar gyfer concrid. Roedd y chwareli’n gweithio ar yr ochrau a oedd yn wynebu’r môr mewn ponciau neu silffoedd llorweddol. Roedd deg neu fwy o bonciau yn Nhrefor a chwech ym Mhorth y Nant. Roedd tramffyrdd ar oleddf yn cludo’r cynnyrch i’r traeth i’w allforio. Roedd perthynas agos rhwng y chwareli a phentrefi Trefor a Llithfaen, a Phistyll hefyd ar raddfa lai. Safai cant o dai mewn cnewyllyn clos o resi ger gweithdai’r chwarel ar waelod yr inclein yn Nhrefor. Anheddiad amaethyddol o bedair fferm a llond dwrn o lechfeddiannau ar y tir comin oedd Llithfaen ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Erbyn 1890 roedd yno 90 o dai, y rhan fwyaf yn gysylltiedig â chwarel Nant Gwrtheyrn. Roedd gan y Nant hefyd farics, siop a becws ar y safle tan i’r chwarel gau yn y 1950au.
Mynydd Tir-y-cwmwd
Dechreuwyd cloddio am yr ithfaen caled yn ail hanner y 19eg ganrif mewn tri lleoliad ar y pentir, sef Gwaith Trwyn, Gwaith Canol a chwarel lai ar yr ochr ddeheuol. Ar y dechrau, byddai cychod yn glanio ar y traeth, yn cael eu llwytho ac yn cael eu rhyddhau wedyn pan oedd hi’n benllanw, ond codwyd glanfeydd yn ddiweddarach. Y prif gynnyrch yn ystod y 19eg ganrif oedd sets. Caeodd y chwareli ym 1949.