Amgaeadau Seneddol

Rhwng 1802 a 1861 caewyd miloedd o aceri o dir comin ar benrhyn Llŷn, rhwng Llanaelhaearn a Phorth Neigwl. Y cymhelliant oedd gwella tir comin a gwneud defnydd mwy proffidiol ohono. Heb os nac oni bai, roedd landlordiaid a thirfeddianwyr a oedd yn gwella’u hystadau yn gweld y broses fel cyfle i sicrhau mwy o effeithlonrwydd amaethyddol, a chredent y gallai aredig mwy o dir ostwng y prisiau uchel a welwyd yn ystod y rhyfeloedd gyda Ffrainc. Er hyn, roedd cau tiroedd comin wedi bod yn digwydd ers canrifoedd. Roedd hi’n anorfod y byddai tir comin yn cael ei droi’n ffriddoedd. Byddai rhai achosion wedi digwydd ers talwm iawn, a phobl wedi hen anghofio amdanynt, ond llechfeddiannu diweddar fyddai’r rhan fwyaf. Mewn rhai ardaloedd, ac mewn rhai amgylchiadau, gwneid cytundebau preifat lleol, anffurfiol a ffurfiol. Fodd bynnag, roedd y tirfeddiannwr mawr neu’r arglwydd lleol yn elwa o’r trefniant hwn ar draul y tyddynnwr, ac ni fyddai dim yn newid hynny.

Mynytho

Yn ystod dechrau’r 18fed ganrif roedd modd cau tir comin drwy Ddeddf Seneddol Breifat pe na bai modd dod i gytundeb lleol. Fodd bynnag, roedd Deddfau Preifat yn gostus, ac ym 1801 pasiwyd Deddf Cau Tir (Cydgrynhoi) yn y Senedd gyda’r bwriad o gyflymu a symleiddio’r broses drwy gydgrynhoi a safoni prif gymalau Deddfau o’r fath. Gwnaethpwyd rhagor o welliannau drwy Ddeddf Cau Tir Gyffredinol 1836 a Deddf Cau Tir 1845. Deddf 1845 oedd yr un gyntaf i gynnwys unrhyw amddiffyniad i’r person cyffredin.

Gallai’r broses gymryd llawer o amser. Yn Llangian a Llaniestyn, er enghraifft, lluniwyd y Ddeddf ym 1808 ond ni chafodd ei dyfarnu tan 1825. Yn Aberdaron, y Rhiw, Llanfaelrhys a Bryncroes, ni wnaethpwyd y dyfarniad tan 1861. Roedd angen penodi Comisiynwyr Cau Tir, cynnal arolygon, dosbarthu hysbysebion, marcio terfynau ar y ddaear, cyflwyno a gwrando gwrthwynebiadau a sicrhau bod y ffyrdd a’r priffyrdd o safon foddhaol. Ym Mynytho roedd llawer o lechfeddiannu wedi digwydd cyn i’r Ddeddf Cau Tir gael ei llunio a’i dyfarnu.

Gwylwyr

Roedd bythynnod wedi’u hadeiladu, ac roedd y posibilrwydd o gael eu troi o’u cartrefi’n gwmwl du uwchben trigolion Rhoshirwaun, Nefyn a Phistyll. Bu terfysg yn Llithfaen, a chafodd yr arweinwyr honedig eu dedfrydu i farwolaeth. Newidiwyd y ddedfryd yn ddiweddarach o grogi i drawsgludo. Roedd eraill nad oeddent wedi llechfeddiannu tir, ond a oedd yn torri mawn o’r tir comin i’w ddefnyddio fel tanwydd, ac a fyddai dan anfantais sylweddol o ganlyniad i’r broses. Yn gyffredinol, gwnaethpwyd rhyw gymaint o ddarpariaeth ar gyfer ‘tir tanwydd’ i liniaru’r effaith.

Yn ôl un a oedd yn llythyru â Walter Davies, tua’r flwyddyn 1803:
‘I am no advocate for the enclosure of Rhos Hirwaun. Its poor inhabitants support themselves by the fisheries on the coast without being burdensome to the parishes, and are ready hands for the farmers in the labouring seasons. If these are ejected.... where will they remove to. The old and infirm must
remain and live upon the scanty allowance of the parishes. By thus enclosing, the landed proprietors will enlarge their bounds, but will not conduce to add a handful of corn to their stock of provisions’ (Davies, 1810, 275).

Ni wireddwyd y syniad o ychwanegu at y tir âr. Roedd y tir dan sylw, tir pori cyffredin a mawnogydd, yn dir creigiog anhydrin, ac oni bai am hynny byddai wedi cael ei ddefnyddio ymhell cyn hynny. Er hynny, cafodd y tirfeddianwyr mawr yn y plwyfi dan sylw ragor o dir, ac mewn rhai ardaloedd, llwyddwyd i wella tir pori. Adeiladwyd ffyrdd ar draws yr ardaloedd caeëdig newydd, dosrannwyd rhandiroedd a gwerthwyd rhai i dalu costau. Yn Rhoshirwaun adeiladwyd nifer o dai newydd ar ôl cau’r tir comin a sicrhaodd y gwelliannau i’r ffordd mai llwybr Rhoshirwaun fyddai’r brif ffordd o deithio i Aberdaron yn y de. Gwelwyd gwelliannau mewn dulliau cyfathrebu yn lleol ac ehangwyd Llanbedrog o ganlyniad i adeiladu tai.

Y tiroedd a gaewyd dan y gwahanol Ddeddfau Seneddol Cau Tir yn yr ardal astudiaeth bresennol yw:

• Mynydd Mawr, Mynydd Bychestyn a Mynydd Gwyddel ym mhlwyf Aberdaron
• Tir Comin Rhoshirwaun, ym mhlwyfi Aberdaron a Bryncroes
• Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig ym mhlwyfi’r Rhiw a Llanfaelrhys
• Mynydd Cilan a Morfa Neigwl ym mhlwyf Llanengan
• Mynydd Tir-y-cwmwd, Mynytho a Charn Fadryn ym mhlwyfi Llanbedrog, Llangian a Llaniestyn
• Tir arfordirol ym mhlwyfi Penrhos, Deneio ac Abererch
• Mynydd Nefyn
• Mynydd Carnguwch
• Bwlch Mawr ym mhlwyfi Llanaelhaearn a Phistyll.