Cyfathrebu, trefi a phentrefi

Roedd cyfathrebu pellter hir yn anodd yn Llŷn cyn diwedd y 18fed ganrif.

Roedd y trefi arfordirol, sef Pwllheli a Nefyn, a phentrefi arfordirol, yn gallu cael mynediad at lwybrau morol a phorthladdoedd. Roedd nifer o lanfeydd ar hyd yr arfordir, a gwyddai llongwyr am yr angorfeydd diogel - ym Mhorthdinllaen, Porth Nefyn, Pwllheli, Porthorion ger Mynydd Anelog, Aberdaron, Porth Ceiriad ac Ynysoedd Tudwal (a ddefnyddiwyd gan Capten Bartlett pan ddaeth i ymosod ar Gastellmarch a herwgipio Griffith Jones ym 1649).

Adeiladwyd cychod bychain ar hyd yr arfordir. Darparwyd cwch i Gruffudd ap Cynan gan glaswyr Aberdaron yn niwedd yr 11eg ganrif. Cofnodir cychod â rhwydi yn Nefyn a Pwllheli yn y 13eg ganrif. Adeiladwyd llongau yn ddiweddarach ym Mhwllheli, Nefyn, Aberdaron, Abersoch ac Edern. Roedd masnachu ar yr arfordir yn gwneud iawn i ryw raddau am gyflwr gwael y ffyrdd ymhellach i mewn i’r tir, ac roedd ‘cychod Enlli’ i’w gweld mewn nifer o borthladdoedd bach ar yr arfordir. Roeddent hefyd yn masnachu â dinasoedd cyn belled â Lerpwl.

Ym 1750, ychydig o ffyrdd Llŷn oedd yn addas ar gyfer teithiau pell, yn enwedig mewn tywydd gwael. Roedd cludiant ar olwynion yn amhosibl ar lawer ohonynt. Defnyddid wagenni a throliau yn lleol, wrth gwrs, ond yng ngeiriau’r Arglwydd Clarendon ym 1685, ‘never was, or can, come a coach into that part of the country’. Profiad o ogledd sir Gaernarfon oedd ganddo ef, ond yr un oedd y sefyllfa yn Llŷn. Roedd angen i ymwelydd a oedd yn ystyried teithio fod mewn iechyd da i ‘deithio yng Nghymru’ lle’r oedd y tafarnau’n darparu ‘as little accommodation as the untracked heaths and narrow lanes’ (‘Eighteenth/nineteenth century’, dyfyniad gan Dodd 1925, 122).

Roedd gwartheg yn cael eu magu yn Llŷn, eu pesgi ar diroedd pori yn Lloegr ac yna’n cael eu gwerthu mewn marchnadoedd yn Lloegr. Golygai hyn fod miloedd o wartheg duon yn cael eu cerdded bob blwyddyn. Roedd gan y porthmyn eu llwybrau eu hunain, oddi ar y ffordd gan mwyaf er mwyn arbed traed yr anifeiliaid. Ond roedd mannau casglu a ffeiriau a marchnadoedd yn Llŷn lle’r oedd anifeiliaid a phorthmyn yn ymgasglu, ac roedd gefeiliau gofaint ar ochrau’r ffyrdd i bedoli’r gwartheg ar gyfer y daith hir. Roedd y rhain i’w gweld yn Sarn, Botwnnog, Rhydyclafdy, Efailnewydd a’r Ffôr. Roedd y pellteroedd teithio a’r llwybrau teithio wrth reswm yn sianel gyfathrebu.

Efail, Botwnnog

Yn ystod diwedd y 18fed ganrif adeiladwyd ffordd dyrpeg o Gaernarfon tua’r de i Glynnog, drwy Lanaelhaearn ac ymlaen i Bwllheli. Yn ystod degawd cyntaf y 19eg ganrif, cynigiwyd a chwblhawyd rhagor o ffyrdd tyrpeg fel rhan o’r isadeiledd angenrheidiol a oedd yn gysylltiedig â chynllun i ddatblygu porthladd ym Mhorthdinllaen i cludo teithwyr i Ddulyn. Adeiladwyd ffordd ‘letach a sythach’ yn lle’r ddarpariaeth ‘gul, gwmpasog, anghyfleus’ rhwng y Traeth Mawr a Phorthdinllaen, a chyffordd ger Boduan i fynd â’r ffordd i Bwllheli. Dechreuodd y ffyrdd hyn agor y penrhyn.

Morfa Nefyn

Roedd Mudiad Cau Tiroedd chwarter cyntaf y 19eg ganrif yn dân ar groen llawer o bobl. Gwella dulliau cyfathrebu oedd un o’r ychydig fanteision a ddaeth yn ei sgîl. Mae’n rhaid ei bod yn amhosibl teithio yn Rhoshirwaun, ar y ffordd drwy ganol Llŷn, ar rai adegau ym misoedd y gaeaf. Nid oedd ffensys ar ochrau’r ffyrdd a’r traciau a oedd yn croesi’r gweunydd gwlyb. Yn yr un modd, rhwng Pwllheli a Llanbedrog, byddai’r teithiwr yn gorfod canfod ei ffordd drwy’r sianeli a’r barrau tywod niferus a chors Talycymerau, lle’r oedd aber tair afon yn dod at ei gilydd yn y ‘Pwll’ ym Mhwllheli. Yn y naill leoliad a’r llall, cafodd tir ei gau, ei ddraenio a’i adennill, a daeth teithio’n haws o ganlyniad i hynny. Roedd pontydd hefyd, a adeiladwyd yn niwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, ar hyd a lled y penrhyn, ond yn fwyaf arbennig yn ardaloedd Llwyndyrys a Llannor, y Gors Geirch a Neigwl, yn elfen bwysig o’r cynnydd ym maes cyfathrebu.

Rhydlios, Rhoshirwaun

Daeth y rheilffordd i Lŷn ym 1867, ar hyd Rheilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru drwy Abermo a Chricieth a chafodd ei hymgorffori gan Reilffyrdd y Cambrian yn yr un flwyddyn. Cyrhaeddodd y llinell derfynell ym Mhwllheli ym 1869. Roedd cyffordd yn Afon Wen, chwe milltir i’r dwyrain o Bwllheli, yn mynd â llinell gangen i’r gogledd ar hyd Rheilffordd Sir Gaernarfon (LNWR yn ddiweddarach). Roedd y derfynell wreiddiol ym Mhwllheli ym mhen dwyreiniol yr harbwr. Ar ôl adennill tir yn rhan ogleddol yr harbwr roedd modd ymestyn y trac i safle presennol yr orsaf ym mhen gorllewinol y Pwll, ym 1909. Am gyfnod byr, rhwng 1896 a 1927, bu ceffylau’n tynnu tramiau o ardal y West End ym Mhwllheli i Lanbedrog, yn bennaf ar gyfer ymwelwyr a oedd yn awyddus i ymweld â Llanbedrog. Caewyd cangen Afon Wen yn ystod cyfnod Beecham ym 1965.

Yn niwedd y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif, gwnaethpwyd gwelliannau sylweddol i’r ffyrdd. Yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif yn fwyaf arbennig, gwnaethpwyd mwy a mwy o welliannau i’r ffyrdd gan fod mwy o draffig yn eu defnyddio. Ond yr un oedd y prif ffyrdd at ei gilydd. Mae’r A499 bellach yn dilyn ffordd dyrpeg y 18fed ganrif o Lanaelhaearn i Bwllheli ac yn mynd yn ei blaen tua’r de i Lanbedrog ac Abersoch, gan adlewyrchu datblygiad sylweddol twristiaeth yn y rhan honno o’r penrhyn. Mae ffordd dyrpeg Madocks o Bwllheli i Forfa Nefyn yn cael ei dilyn gan yr A497. Y ffordd dyrpeg o Chwilog i Forfa Nefyn, sy’n croesi’r ffordd o Lanaelhaearn i Bwllheli yn y Ffôr yw’r B4345 erbyn hyn, ac mae’n dal yn llwybr traws gwlad pwysig. Mae’r B4417 yn dilyn arfordir y gorllewin a llwybr hynafol y pererinion i’r de cyn belled â Llangwnnadl, gan ymuno â’r B4413 ym Mhen-y-groeslon. Y B4413 bellach yw’r prif lwybr i’r de drwy ganol de Llŷn i Aberdaron, ac mae’n croesi cyn rostir gwlyb Rhoshirwaun. Erys nifer fawr o ffyrdd troellog, di-ddosbarth, a chul yn aml ym mhob rhan o’r penrhyn.

Trefi â gwreiddiau masnachol
Mae dwy dref yn yr ardal dirwedd, sef Nefyn a Phwllheli. Mae gan y ddwy wreiddiau hynafol gan mai yno yr oedd y maerdrefi brenhinol dan y Tywysogion yng nghymydau Dinllaen ac Afloegion. Nid oedd y statws hwn ynddo’i hun yn ddigon i ganolfan drefol ddatblygu ar y safle, ond â chryn botensial masnachol mewn lleoliadau arfordirol â phorthladdoedd da daeth Nefyn a Phwllheli yn fwrdeistrefi cyn i Wynedd gael ei gorchfygu ym 1283. Sefydlwyd y naill a’r llall fel bwrdeistrefi rhydd yng nghanol y 14eg ganrif. Nefyn oedd y dref fwyaf poblog a phroffidiol yn wreiddiol, ond tyfodd Pwllheli yn ystod yr 17eg ganrif, ac erbyn diwedd y 18fed ganrif gellid disgrifio’r fwrdeistref fel ‘y dref orau yn y sir’. Yn ogystal â’r ffeiriau a’r marchnadoedd, adeiladwyd dros 400 o longau yn iardiau llongau Pwllheli ar lan y Pwll yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Daeth twristiaid i’r ardal yn sgîl dyfodiad y rheilffordd ym 1869 a gwelwyd cynnydd mewn twristiaeth o’r 1890au ymlaen.

Pentrefi â gwreiddiau eglwysig
Ceir arwyddion bod pentrefi a chymunedau Llannor, Llaniestyn ac Abererch wedi bod yn gymunedau ‘clas’ lled-fynachaidd cyn y 13eg ganrif, ond erbyn y 14eg ganrif roedd Llaniestyn ac Abererch wedi dod yn rhan o ddaliadaeth Esgob Bangor. Ym mhob achos, mae pentref cnewyllol wedi datblygu o amgylch yr eglwys. Mae adeiladau sy’n dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif wedi goroesi yn agos at eglwysi Llaniestyn ac Abererch, ac mae’r rhain yn rhoi cymeriad arbennig i’r pentrefi. Mae pentrefi cnewyllol hefyd ym Mryncroes a Thudweiliog, dwy is-eglwys a oedd yn gysylltiedig ag Enlli, gyda’r eglwys yn ganolbwynt iddynt. Mae eglwys Tudweiliog, fodd bynnag, wedi datblygu i’w maint presennol oherwydd ei chysylltiad â’r llwybr pwysig o Nefyn, i’r de i Aberdaron (B4417).

Abererch

Mae Aberdaron yn enghraifft arall o bentref a ddatblygodd fel cnewyllyn o amgylch eglwys bwysig, ond roedd y pentref yn dal yn fach tan ganol y 19eg ganrif er ei botensial ar gyfer pysgota, mynediad i’r môr ac angorfa ddiogel. Ehangodd cymuned Aberdaron yn yr ugeinfed ganrif ar hyd y ddwy ffordd sy’n cydgyfarfod yn y bae i gynnwys dros 100 o dai preswyl. Mae llawer o’r tai hyn yn dai modern, mawr, arddull byngalo, ond mae craidd y pentref yn cadw’i gymeriad arfordirol o hyd a cheir nifer o adeiladau o’r 19eg ganrif.

Yr eglwys yw canolbwynt pentrefi Llangian a Llanengan. Mae’r ddau’n bentrefi hynafol iawn. Roedd Llangian yn bentrefan, hynny yw, cnewyllyn anheddiad yn nhrefgordd Llangian yn y Canol Oesoedd, ond nid yw wedi tyfu llawer ers hynny. Mae Llanengan wedi ehangu ychydig, a hynny i raddau oherwydd cynnydd yn y boblogaeth pan ailagorodd y gweithfeydd plwm yn ail hanner y 19eg ganrif.

Pentrefi diwydiannol
Mae’n bosibl bod canolbwynt y Rhiw ar un adeg ar y llethrau islaw’r eglwys, yn agos at safle Plas yn Rhiw. Tyfodd y pentref gwasgaredig presennol yn y cyfrwy rhwng tir uchel Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig. Roedd rhywfaint o dir comin y mynydd wedi’i lechfeddiannu yn yr 17eg ganrif, y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif cyn pasio Deddf Seneddol Cau Tir ym 1811. Arweiniodd y mwyngloddio am fanganîs islaw Clip y Gylfinir ar Fynydd y Rhiw at adeiladu tai ar gyfer gweithwyr diwydiannol ochr yn ochr â ffermydd traddodiadol. Arweiniodd y cynnydd yn y boblogaeth yn anorfod at adeiladu capeli: Nebo, ar randir yn perthyn i’r tir comin blaenorol, ac yna Pisgah a Than y Foel. Mae bythynnod unllawr a chroglofftydd yn dal yn elfen bwysig o’r stoc adeiladau yn y dirwedd bresennol, ochr yn ochr â thai o ddiwedd y 19eg ganrif a thai mwy diweddar.

Mae twf Llanaelhaearn ar derfyn gogleddol yr ardal dirwedd hon yn deillio o gyfuniad o amgylchiadau. Mae wedi’i leoli ar gyffordd yr A499 tuag arfordir y de ac i’r de-orllewin ar hyd y B4417 i Nefyn ac yn cyfeirio tua’r de. Yr eglwys oedd canolbwynt gwreiddiol y pentref, fel llawer o bentrefi eraill yn Llŷn. Rhoddodd y ffordd dyrpeg i Bwllheli, a adeiladwyd yn niwedd y 18fed ganrif, â gwelliannau diweddarach, yn enwedig yn yr ugeinfed ganrif, hwb sylweddol i ddatblygiad y pentref. Fodd bynnag, roedd Llanaelhaearn yn cyflenwi gweithwyr ar gyfer y prif gyfnod cynhyrchu yn chwareli Trefor yn niwedd y 19eg ganrif.

Mae Llithfaen a Phistyll hefyd yn bentrefi ar y B4417. Mae Pistyll yn hen gymuned ag eglwys ganoloesol bwysig ar silff arfordirol yn edrych allan dros Fôr Iwerddon. Mae pentref presennol Pistyll, fodd bynnag, yn bentrefan ochr ffordd wedi’i adeiladu yng nghanol y 19eg ganrif i ddarparu llety i weithwyr yn chwareli Tŷ Gwyn, a oedd newydd agor. Yn yr un modd, roedd Llithfaen, tan ddechrau’r 19eg ganrif, yn glwstwr o bedair fferm yn dwyn yr enw hwnnw, ac mae bron yn sicr mai gweddill pentrefan canoloesol Llithfaen yn nhrefgordd Trefgoed ydoedd. Roedd rhywfaint o dir comin Bwlch Mawr, ar yr Eifl, wedi’i lechfeddiannu’n barod. Daeth yr Amgaeadau Seneddol yn dilyn hynny, gosodwyd lleiniau ac adeiladwyd ychydig o dai ar ochr y ffordd. Pan agorwyd y chwareli ithfaen yn ail hanner y 19eg ganrif, tyfodd Llithfaen yn sylweddol. Ym 1890 roedd 90 o dai gydag ochr y ffordd, ynghyd â gwesty, tri chapel anghydffurfiol ac eglwys Anglicanaidd.

Roedd y chwarel ithfaen fwyaf rhwng yr Eifl a Nefyn yn cyflogi gweithwyr o bentref Trefor ar y gwastadedd arfordirol ar odre’r Eifl ei hun. Er bod modd dynodi bodolaeth flaenorol cydrannau o drefgordd ganoloesol Elernion, roedd Trefor yn bentref cwbl newydd o dai teras â chnewyllyn tynn, tri chapel anghydffurfiol ac eglwys yn cael ei chynnal gan y Welsh Granite Company ar gyfer gweithlu’r cwmni.

Llithfaen

Ym mhen deheuol y penrhyn cyfunodd a thyfodd pentrefi Bwlchtocyn a Marchros unwaith eto o ddaliadaeth flaenorol pentrefannau canoloesol, a hynny yn Nhyddyn Talgoch yn fwyaf arbennig. Yr hyn a symbylodd y twf ym Marchros oedd y gweithfeydd plwm ym Mhenrhyn Du, yn niwedd y 19eg ganrif. Symudodd llawer o fwyngloddwyr i’r ardal, llawer ohonynt o Ddyfnaint a Chernyw. Mae Marchros yn dal i ehangu hyd heddiw fel cyrchfan wyliau a gwelir bythynnod o ddechrau’r 19eg ganrif, tai Fictoraidd sylweddol ac ystadau modern yn gymysg.

Tudweiliog

Pentrefi ochr ffordd
Ffyrdd da sy’n gyfrifol am greu a datblygu pentrefi’r Ffôr a Morfa Nefyn. Tyfodd y Ffôr ar gyffordd y ffordd dyrpeg sy’n mynd i’r de tua Phwllheli o Lanaelhaearn a llwybr gorllewin-dwyrain ffordd dyrpeg William Madocks o’r Traeth Mawr i Borthdinllaen, lle’r oedd yn croesi’r hen ffordd i’r de ar gyrion Nefyn. 

Mae Efailnewydd a Rhydyclafdy hefyd yn bentrefi ochr ffordd. Mae’r naill a’r llall ar lwybr traws gwlad gorllewin-dwyrain, o Sarn a Botwnnog i Bwllheli. Hen lwybr y porthmyn oedd hwn ac roedd cyfleusterau yn y ddau bentref ar gyfer gwaith gofaint. Mae Rhydyclafdy ger pont gerrig bwysig sy’n croesi’r Gors Geirch. Mae Efailnewydd yn croesi cangen Pwllheli i Borthdinllaen o ffordd dyrpeg dechrau’r 19eg ganrif, yr A497 i Nefyn erbyn heddiw.

Mae gan Sarn Mellteyrn a Botwnnog ill dau wreiddiau eglwysig, fel is-eglwysi a oedd yn gysylltiedig â Chlynnog. Mae canolbwynt y ddau bentref, fodd bynnag, ychydig bellter oddi wrth yr eglwysi eu hunain. Mae’r un peth yn wir am Edern, lle’r oedd Esgob Bangor yn cynnal maenor a thiroedd demên. Mae’n siŵr mai’r eglwysi oedd y canolbwynt gwreiddiol, ond yn ddiweddarach adeiladwyd anheddau yn nes at y ffyrdd. Yn Sarn, tyfodd clwstwr o dai, gefail gof, tafarndai a chapel o amgylch cyffordd a phont dros afon Soch.

Ym Motwnnog, ni throdd yr eglwys, a’r ysgol waddoledig gyfagos sy’n dyddio o ddechrau’r 17eg ganrif, yn ganolbwynt datblygiadau diweddarach. Adeiladwyd tai ar ochr ffordd Sarn (B4413) yn y 19eg ganrif, yn agos at efail ar ochr y ffordd - Efail Pont Y Gof. Mae tai diweddarach yn ymestyn tua’r dwyrain y ddwy ochr i’r ffordd erbyn heddiw.

Yn Edern ceir clwstwr o adeiladau o’r 19eg ganrif ar ochr ddeheuol mynwent gromliniog yr eglwys, gan gynnwys Ysgol Genedlaethol, a adeiladwyd ym 1845, a theras o bedwar tŷ deulawr o’r 19eg ganrif. Mae’r Rheithordy wedi’i droi’n westy erbyn heddiw. Saif ffermdy pwysig Penybryn, sy’n dyddio o’r 17eg ganrif, 350m i ffwrdd. Mae’r prif anheddiad presennol, fodd bynnag, o bobtu’r ffordd fawr sy’n arwain o Nefyn, i’r de i gyfeiriad Tudweiliog, ac ymlaen i Aberdaron. Mae’r anheddiad hwn yn ymestyn tua’r de-orllewin o’r felin ddŵr a oedd yn malu ŷd ar afon Geirch, a cheir cnewyllyn eilaidd yn y Groesffordd, 300m ar hyd yr un ffordd, lle ceir capel anghydffurfiol o ddiwedd y 19eg ganrif.

Anheddiad ar dir comin wedi’i gau a phentrefi hapfasnachol
Canlyniad deddf Amgaeadau Seneddol a basiwyd ym 1808 yw Mynytho i raddau helaeth. Roedd llawer o dir wedi’i lechfeddiannu’n barod, ambell ddarn ers tro byd ac ambell ddarn ychydig cyn y Ddeddf. Erbyn canol y 19eg ganrif, roedd yr hen dir comin wedi’i drawslunio gan leiniau a phadogau unionsyth ac roedd rhandiroedd wedi’u gosod. Adeiladwyd tua 100 o dai ym Mynytho. Daliwyd i adeiladu tai newydd, ond mae llawer o fythynnod unllawr o ddechrau’r 19eg ganrif, y rhan fwyaf wedi’u hadeiladu â cherrig llanw ac wedi’u toi â gwellt yn wreiddiol, wedi goroesi.

Yn dilyn yr Amgaead Seneddol yn Rhoshirwaun, a ddaeth yn ddeddf ym 1802 ac a weithredwyd ym 1814, adeiladwyd ffyrdd syth i groesi’r rhostir a diffiniwyd lleiniau a phadogau â chloddiau isel, â gwrychoedd ar eu pennau (ac yn ddiweddarach â physt a weiren). Gosodwyd lleiniau ac adeiladwyd tyddynnod. Ceir nifer o aneddiadau gwasgaredig: Pen-y-groeslon, lle mae tair ffordd yn cyfarfod, Rhydlios, a Hebron i’r gorllewin a’r gogledd-orllewin o ardal y Cau a Rhoshirwaun ar y terfyn deheuol. Mae capeli’n arwydd o gymunedau mewn aneddiadau â dosbarthiad gwasgaredig. Mae’r rhain yn ardaloedd lle mae nifer o fythynnod unllawr, bythynnod croglofft a thyddynnod o ddechrau’r 19eg ganrif a lle mae bythynnod waliau mwd sydd wedi goroesi i’w gweld o hyd.

Roedd cnewyllyn gwreiddiol Llanbedrog ger yr arfordir, yn agos at yr eglwys, yng nghysgod ochr ogleddol Mynydd Tir-y-cwmwd. Tua dechrau’r 19eg ganrif dechreuodd T P Jones Parry o Fadryn ddatblygu Pig Street (Ffordd Pedrog yn ddiweddarach) ar y tir uwch ymhellach oddi wrth y môr, a hynny tua’r un adeg ag yr oedd sôn am gau tiroedd comin Mynytho. Tyfodd y pentref yn araf, ond erbyn y 1840au roedd yno eisoes ddeg ar hugain o dai a dau gapel. Cynyddodd poblogaeth y pentref yn ystod ail hanner y ganrif ac adeiladwyd teras o ddeunaw o dai. Roedd y chwareli ithfaen ar Fynydd Tir-y-cwmwd wedi agor. Yn ystod diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif gwelwyd twf y diwydiant ymwelwyr. Mae sawl elfen o ddatblygiad Llanbedrog wedi goroesi: bythynnod unllawr, ffermdy mewn llinell o ddechrau’r 19eg ganrif, tai teras o gyfnod diweddarach yn y 19eg ganrif a thai o ddiwedd Oes Fictoria.

 

Pentref twristiaid

 

 

 

 

 

Llond dwrn o adeiladau oedd yn Abersoch yn y 1790au. Un o’r rhain oedd Melin Soch, yn agos at yr aber. Bu rhywfaint o ddatblygu graddol ar drwyn Bennar drwy gydol hanner cyntaf y 19eg ganrif, ac ehangodd y pentref â dyfodiad y mwyngloddwyr i’r ardal, a’u hangen am lety, yn ail hanner y ganrif. Dechreuodd ymwelwyr ddod i’r ardal yn nechrau’r 20fed ganrif, ond tua diwedd yr 20fed ganrif, o ganlyniad i’r traeth a’r amgylchiadau hwylio da, y datblygodd Abersoch i fod yn gyrchfan hynod boblogaidd i ymwelwyr.

Abersoch