Adeiladau Domestig

Yr adeiladau cynharaf sydd wedi goroesi yn nhirwedd Llŷn yw cylchoedd cytiau o ddiwedd yr Oes Efydd a dechrau’r Oes Haearn. Nid tŷ fyddai pob un o’r cytiau hyn. Mae’n bosibl y byddai rhai ohonynt yn weithdai, ac eraill, efallai, heb do ac yn cael eu defnyddio i gorlannu anifeiliaid bychain, megis moch. Byddai angen gwaith cloddio archaeolegol i wahaniaethu, ac ni fyddai’n llwyddiannus bob amser. Mae’n anorfod bod dosbarthiad y tai crynion neu’r cylchoedd cytiau hyn yn cael ei ragfarnu gan gyd-destun eu goroesiad a’r deunydd a ddefnyddiwyd i’w hadeiladu. Mae’r casgliad dwysaf o’r cytiau hyn i’w weld yn yr ardal rhwng yr Eifl a Garn Boduan; ar ochrau Carn Fadryn a Charn Saethon ac ar lethrau de-ddwyreiniol Mynydd y Rhiw. Gallant fod wedi’u clystyru gyda’i gilydd, yn gnewyllol ac yn aml wedi’u cau o fewn ‘buarth fferm’ neu wedi’u gwasgaru, ac ar eu pen eu hunain. Maent wedi’u hadeiladu o gerrig ac wedi’u lleoli mewn ardaloedd lle ceir amaethyddiaeth lai dwys, ac mae hynny’n un rheswm dros eu goroesiad. Mae ôl cnydau ac olion crasu, a nodwyd drwy arolygon o’r awyr mewn amgylchiadau ffafriol, wedi dangos bod aneddiadau o’r cyfnod hwn, mae’n debyg, wedi bod yn llawer mwy niferus yn yr iseldir âr, er nad ydynt i’w gweld ar wyneb y ddaear.

Mae rhai o’r tai waliau cerrig yn weddol fawr, 8m mewn diamedr, fel y gwelwn o’r cyfnod anheddu cynnar yn Nhre’r Ceiri. Mae tai Garn Boduan yr un mor fawr. Ar sail tystiolaeth o aneddiadau y tu allan i Lŷn, ymddengys bod y tai a adeiladwyd tua diwedd y mileniwm cyntaf CC a chanrifoedd y Rhufeiniaid yn llai. Yn Nhre’r Ceiri, roedd y tai mawr, cynharaf wedi’u rhannu’n adrannau llai drwy ychwanegu gwahanfuriau. Nid yw’n amlwg iawn pa bryd y digwyddodd hyn. Efallai ei fod yn hwyr, a bod y trefniant cellog rywsut-rywsut yn awgrymu llety dros dro, o bosibl yng nghyd-destun hafodydd yr haf.

Mae’r dystiolaeth gynnar ar gyfer tai’r Canol Oesoedd Cynnar a’r Canol Oesoedd yn brin iawn. Fodd bynnag, ni ellir derbyn sylwebaeth Gerallt Gymro am gartrefi’r Cymru yn niwedd y 12fed ganrif ar ei olwg: ‘Bodlonant ar gytiau plethwaith ar gyrion y goedwig, wedi eu codi heb lawer o lafur a chostau, ond sy’n ddigon cryf i bara am ryw flwyddyn …. Defnyddir y rhan fwyaf o’u tir fel tir pori. Ychydig iawn ohono sy’n cael ei amaethu, a heuir llain yma ac acw’.

Y dystiolaeth yn Llŷn, o leiaf, yw bod llawer o amaethu âr. Byddai’r tai y cyfeirid atynt yn fwy cydnaws â darnau o dir wedi eu llechfeddiannu ar derfynau ucheldir neu dir pori heb ei drin, neu adeileddau dros dro yn gysylltiedig â rheoli gwartheg a godro yn yr hafodydd neu’r ffriddoedd, tiroedd pori’r haf. Gellid disgwyl tai ychydig yn fwy yng nghnewyllyn trefgorddau. Ar statws uwch, mae adeileddau o’r 12fed ganrif a’r 13eg ganrif wedi cael eu datgloddio yn Nhrefadog a Rhosyr ym Môn, y naill a’r llall yn mesur, 5.5m o led a 10.5m i 11m o hyd, yn fewnol. Mae gan y rhain waliau cerrig isel â chorneli allanol sydd ychydig yn grwm ac mae’n debyg mai to gwellt oedd ganddynt. Roedd y drysau ar yr ochr hir, â drysau gyferbyn â’i gilydd yn Rhosyr, ac roedd tân agored yn y naill a’r llall. Datgloddiwyd sylfeini grŵp o bedwar adeilad amaethyddol o gyfnod tebyg yn Fferm Graeanog, ger Clynnog, y mwyaf ohonynt yn mesur 10.5m wrth 4.75m yn fewnol. Roedd y sylfeini’n cynnwys wal isel o glogfeini lleol. Cofnodir neuaddau brenhinol yn Nefyn a Neigwl, erbyn y 13eg ganrif o leiaf, a byddai neuadd ym Mhwllheli hefyd. Byddai’r rhain yn adeileddau hyd yn oed yn fwy sylweddol, wedi’u hadeiladu o bren mae’n debyg ar sylfeini cerrig oherwydd ceir cofnod bod sawl darn o bren wedi’i gludo o’r faerdref yn Aberffraw, ym Môn, ar gyfer gwaith yng Nghastell Caernarfon, ar ôl y goncwest, a chafodd neuadd Ystumgwern ei thynnu i lawr yn gyfan gwbl a’i hailgodi yn y castell yn Harlech.

Roedd patrwm daliadaeth tir yn siŵr o newid ar ôl y goncwest. Rhoddwyd tiroedd caeth ar brydles ffi fferm i wŷr a oedd wedi ennill ffafr frenhinol ac i ddeisyfwyr eiddo’r Goron. Dyfeisiodd rhydd-ddeiliaid ddulliau o brynu eiddo yn ystod y 15fed ganrif a ganiataodd iddynt ddechrau datblygu ystadau cyfunol heb dorri cyfreithiau tir Cymru. Yr un pryd, dechreuodd Cymry lleol blaenllaw gaffael prydlesau o’r fath, yn enwedig yn ystod yr 16eg ganrif ac ar ôl darostwng y mynachlogydd. Rhoddwyd Ynys Enlli yn rhodd i John Wyn ap Hugh o Fodfel ym 1553. Roedd gan lawer o’r teuluoedd bonedd hyn a oedd yn datblygu linachau hynafol a thai i gyd-fynd â’r statws hwnnw. Cyfeiriodd Leland, tua’r flwyddyn 1536, at John ap Madog, taid John Wyn, fel un a oedd yn byw yn Llŷn ym Modfel. Codwyd tŷ arall yn lle’r tŷ hwn yn hanner cyntaf yr 17eg ganrif. Yng Nghefnamwlch roedd neuadd llawr cyntaf o’r 16eg ganrif, â ffenestr oriel, a ddymchwelwyd ar ddechrau’r 19eg ganrif. Roedd y gwaith o adeiladu’r adeilad a ddisodlodd y tŷ gwreiddiol wedi ei ddechrau yn gynnar yn yr 17eg ganrif. Roedd Bodwrdda, ger Aberdaron, hefyd yn neuadd llawr cyntaf yn yr 16eg ganrif, ac wedi’i helaethu ar ddechrau’r 17eg ganrif. Cadwyd rhan o’r hen dŷ yng nghraidd y gwaith newydd, ac mae ffenestri pigfain bychain o’r 16eg ganrif a chyplau trawstiau croes bwa cleddog wedi goroesi yn rhan orllewinol y brif res.

Mae tŷ Wern Fawr yn dyddio o ddiwedd yr 16eg ganrif. Mae’n adeilad deulawr, wedi’i adeiladu o rwbel mewn cyrsiau afreolaidd, ac mae wedi cadw’i ddrws â phen-pedwar-canolbwynt sydd â bargodfaen uwch ei ben. Mae drws plaen, cyfatebol yn y wal gyferbyn. Mae’r mowldin ar y bwa a’r ystlysbyst wedi’i ddisgrifio fel mowldin tonnog, ond mae’n debycach i ofolo llydan a fyddai’n cyd-fynd â’r mowldin cafeto ar y bargodion. Byddai’r corn simnai hir ar letraws, sydd wedi’i gynnwys yn nhrwch y talcen gogleddol hefyd yn cyd-fynd â chyfnod yn niwedd yr 16eg ganrif. Ceir ail gorn ar y talcen gogleddol a ailadeiladwyd i raddau helaeth yn y 18fed ganrif. Mae’r ffenestri ar y tu blaen yn uchel ac wedi’u gosod yn gymesur, er bod tair ffenestr wedi’u llenwi ar y llawr cyntaf, ac yn dyddio o’r 18fed ganrif mae’n debyg. Awgrymwyd bod ffenestri dormer yn y to yn y 18fed ganrif. Mae’r ffenestri dalennog deuddeg-dros-ddeuddeg cwarel wedi’u hailosod ers i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru dynnu llun o’r tŷ yn y 1960au.

 

Mae tŷ Llwyndyrys yn dyddio o ddechrau’r 17eg ganrif. Mae’n adeilad deulawr, ac mae gwaith coed sydd wedi goroesi yn y tŷ yn awgrymu ei fod wedi’i adeiladu o bosibl ar safle tŷ blaenorol o’r 16eg ganrif. Mae’r tŷ wedi’i adeiladu o rwbel ar hap ac mae’r cyrn simnai wedi’u gosod yn sgwâr ym mhob talcen. Mae’r corn yn y talcen gogleddol yn ymestyn allan o’r wal; mae’r un yn y pen deheuol wedi’i gynnwys yn nhrwch y wal. Credir bod yr adeilad, ar un adeg, wedi’i rannu er mwyn i ddau deulu allu ei ddefnyddio.

Llwyndyrys

Mae’r adeiladau hyn yn sylweddol ac maent yn ddatblygiad ac yn addasiad o draddodiad y tai neuadd. Yn ystod hanner cyntaf yr 17eg ganrif, fodd bynnag, daeth gorchestion y bonheddwyr blaenllaw’n fwy amlwg ym mhensaernïaeth eu tai. Ailddatblygwyd Bodwrdda, y cyfeiriwyd ato eisoes, yn urddasol tua dechrau’r 17eg ganrif.

Cafodd y neuadd ddeulawr wreiddiol ei hymestyn a chodwyd dwy asgell anferth ym mhob pen iddi, yn ymestyn allan ar ongl sgwâr i’r brif res. Rwbel ar hap yw’r brif res ond mae’r esgyll wedi’u gwneud o frics. Dyma’r defnydd cynharaf o frics ar raddfa o’r fath ar y penrhyn. Cerrig yw’r conglfeini, wedi’u gosod bob yn ail. Mae’r ffenestriad yn gymesur a’r ffenestri o’r un arddull yn union ym mhob rhan o’r ffasâd. Mae gan ffasadau’r estyll ffenestri â physt cerrig mewn tair rhan ac mae pennau bwa pantiog a mowldin ofolo ar byst, pennau a chilbyst y ffenestri, ynghyd â bargodfeini a labeli llorweddol. Mae gan ffasâd y brif res ffenestri tebyg mewn dwy ran.

Yn ystod degawd cyntaf yr 17eg ganrif dechreuodd Cefnamwlch ar raglen adeiladu newydd a oedd yn cynnwys porthdy yn union ar gyfer yr hen neuadd gryn bellter i ffwrdd a chyfres o waith adeiladu ar ffurf cwrt ar yr ochr ddeheuol. Moderneiddiwyd Madryn hefyd mewn rhaglen a oedd yn cynnwys porthdy fel mynedfa i’r cnewyllyn, ac adeiladwyd ‘castell’ neo-Gothig yn ei le gan T P Jones Parry ar droad y 18fed/19eg ganrif. Roedd y porthdy sy’n dyddio o ddechrau’r 17eg ganrif a adeiladwyd ym Madryn yn adeilad dau lawr. Mae’r ffenestri sydd wedi’u gosod o bobtu meini bwa’r porthdy yn ffenestri pyst cerrig mewn tair rhan, â phennau wedi eu sgwario a mowldin ofolo. Mae bargodfeini wedi’u gosod yn llorweddol uwchben y ffenestri ond nid oes ganddynt labeli.

Gosododd Syr William Jones garreg sylfaen adeilad newydd yng Nghastellmarch ym 1625. Adeiladwyd y tŷ o rwbel ar hap ar ffurf adeilad deulawr ac atig. Mae cynllun llawr gwaelod y plasty newydd yn anghymesur, sy’n anarferol, gyda drws tua phen gogleddol y rhes ogledd-de ac un asgell fawr yn ymestyn ar ongl sgwâr o’r pen deheuol. Mae’r ffenestri’n gymesur ac wedi’u gosod yn fertigol yn y brif res a’u dyblu i gadw’r un uchder ond mwy o led ar dalcen yr asgell. Mae’r ffenestri i gyd yn ffenestri pyst cerrig a chroeslathog â bargodfeini a labeli llorweddol – pedair rhan ar ffasâd y brif res ac wyth rhan ar dalcen yr asgell. Mae ffenestr yr atig yn y talcen yn eithriad gan fod iddi dair rhan. Mae corn simnai sy’n ymwthio allan o’r wal yng nghefn y tŷ ac ar wal ddeheuol yr asgell. Nodwedd arbennig o bwysig yw’r cyntedd sydd o flaen y drws-pedwar-canolbwynt ffug. Mae dwy golofn Ddorig yn cynnal goruwchadail a phediment. Ar ben y goruwchadail mae mowldin proffil tonfowld ac ar wyneb y goruwchadail ceir adlais o driglyffau ag arfbeisiau yn y metopau.

Bodfel

Ym Modfel, cymerwyd cysyniad y porthdy un cam ymhellach ond, yn anffodus, ni lwyddwyd i gwblhau’r prosiect yn unol â’r cynlluniau drwy adeiladu plasty cysylltiedig. Mae porthdy Bodfel wedi goroesi, ac mae wedi’i adeiladu ar ffurf tri llawr ac atig. Mae’r cynllun yn groesffurf a cheir mynediad drwy’r porthdy o’r ochr dde-orllewinol i’r ochr ogledd-ddwyreiniol. Ymestynnwyd yr adeilad yn y cefn ac i’r chwith o’r ffasâd i’w ddefnyddio fel tŷ annedd ac mae’r porth bwaog wedi’i gau bellach gan ddrws a rhaniad. Mae’r dyluniad gwreiddiol, sydd i’w weld o hyd, yn seiliedig ar thema o gyfnod y Dadeni sydd yn ei thro’n deillio o’r bwa gorfoledd Rhufeinig a bwâu cynilach y Colisëwm. O bobtu’r fynedfa bwa crwn ceir dwy golofn Ddorig ar wahân â goruwchadail yn dod yn ôl sy’n diffinio lefel y llawr cyntaf. Mae’r ffenestri presennol yn rhai Sioraidd, ac yn cymryd lle ffenestri mowldin ofolo cerrig. Mae un o’r rhain wedi goroesi ar yr ochr ogledd ddwyreiniol. Aeth llawer o’r teuluoedd pwysig hyn ati i ailfodelu neu foderneiddio’u cartrefi yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, pe na bai ond i ailwampio’r ffenestriad, fel yn Wern Fawr, Plas Gwyn a Bodfel er enghraifft. Aeth rhai, fel Plas yn Rhiw, ati i godi uchder y bondoeau er mwyn cael yr uchder a’r maintioli ar gyfer cymesuredd Sioraidd. Ychwanegwyd ferandâu yn aml ar lefel y llawr gwaelod fel ym Mhlas yn Rhiw, Cefnamwlch a Nanhoron, lle defnyddiwyd cynhalbyst haearn bwrw. Yn Nanhoron, disodlwyd y tŷ a adeiladwyd gan Richard Edwards ym 1677 gan adeilad newydd ar safle cyfagos, tua 1800.

Roedd blynyddoedd olaf y 18fed ganrif a hanner cyntaf y 19eg ganrif yn gyfnod o welliannau mawr yn y dirwedd amaethyddol. Efallai, fodd bynnag, nad oedd yn ymddangos felly i ffermwyr tyddynnod a llafurwyr amaethyddol niferus blynyddoedd olaf y 18fed ganrif. Yn ôl Walter Davies, ‘a greater part of … Caernarvon is disgraced with a species of cottages which are truly the habitations of wretchedness; … one smoky hearth, for it should not be styled a kitchen; one damp litter-cell for it cannot be called a bedroom … frequently all the space allotted to a labourer, his wife and four or five children’ (Davies, 1810, 82).

Daeth John Evans i’r un casgliad ym 1798: ‘The cottages of Caernarvon appeared worse than those of Meirioneth …. Here turf or clay with chopped rushes supplies the place of stone. Except towards the mountains; where they are constructed of pebbles placed upon each other. The form is generally oblong, the length very considerable compared with breadth and height. The walls are about six feet high … poles, not even stripped of their bark for rafters and pegged at top and bottom …. Over these are placed heath or rushes, kept down by ropes … netwise. Openings in the wall, filled with a lattice of sticks and a hurdle for a door permitted light or, otherwise, provided protection from the weather. The fuel on the fire was peat from a nearby moor; the chimney, aperture in the roof’ (John Evans, 1804, 161-2).

Yr un math o sylwadau a fynegwyd gan Pennant, genhedlaeth ynghynt, ym 1773: ‘houses of the common people were very mean, made with clay, thatched and destitute of chimnies’ (Pennant, gol. Rhys 1883, 374). Roedd Evans yn gwahaniaethu drwy ddweud bod gan denantiaid ffermydd well lle i fyw, gydag ystafell wely neu ddwy i fyny’r grisiau, ond er hynny, ‘pigs, asses and other domestic animals take up their abode and form part of the family’ (Evans, 1804, 161).

Rhoshirwaun

Adleisir y disgrifiadau hyn yng nghofnodion manwl arolwg o ddaliadau ystâd y Faenol yn Llŷn, ym mhlwyfi Llanengan a Llangian yn fwyaf arbennig. Roedd saith tenantiaeth a thrigain yn y ddau blwyf hyn, rhai’n cael eu rhedeg ar y cyd mewn partneriaeth, a rhai’n cael eu rhannu ag aelodau o’r teulu. Roedd toeau gwellt yn gyffredin. Roedd gan ddau denement ar bymtheg un neu ragor o dai waliau mwd neu dyweirch ar eu ffermydd. Er enghraifft, ar un o ddaliadau Tyddyn Talgoch ym Marchros, roedd tŷ annedd ac ysgubor dan yr un to gwellt, a gyferbyn iddo roedd nifer o adeiladau waliau mwd yn cynnwys tŷ annedd ar gyfer brawd, a oedd yn wehydd, a stabl, beudy a chwt. Yn y Felin Isaf roedd tŷ’r felin wedi’i adeiladu o gerrig, â tho gwellt, ond roedd y melinydd yn byw mewn tŷ waliau mwd dan yr un to â’r felin, wedi’i doi â gwellt, â stabl a beudy bach. Waliau mwd oedd i’r odyn hefyd. Yng Nghastellmarch roedd dau fwthyn wedi’u hadeiladu ar y banciau tywod, i lafurwyr gadw’r defaid o Lanbedrog oddi ar y tir. Waliau mwd a tho gwellt oedd gan un o’r rhain. Yn Nhyddyn y Priciau, Cilan, roedd tŷ annedd, beudy a stabl dan yr un to. Roedd y tŷ wedi’i adeiladu o gerrig ond roedd wedi’i doi â gwellt. Roedd gan fab y teulu dŷ waliau cerrig, ysgubor a beudy ar y safle, pob un â tho gwellt, ac roedd beudy bach â waliau cerrig gerllaw.

Roedd tenant arall, hefyd ar yr un safle, yn dal tŷ, dan yr un to ag ysgubor, stabl a beudy, pob un â tho gwellt ac wedi’i adeiladu’n rhannol â waliau cerrig ac yn rhannol â waliau mwd. Roedd bwthyn ar yr un daliad ger wal y mynydd.

Yn Llawr y Dref, ar wastadedd Neigwl roedd tŷ annedd da â waliau cerrig, to llechi a llofft dda. Er hyn, roedd llawer o’r cytiau wedi’u hadeiladu’n rhannol â cherrig ac yn rhannol â waliau mwd ac roedd bron bob un o’r adeiladau, ar wahân i’r tŷ annedd ei hun, wedi’i doi â gwellt.

Mae ffermdai a bythynnod o’r cyfnod hwn, sef diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, wedi goroesi. Mae rhai ffermdai ar fân-ddaliadau cymharol fawr wedi’u hadeiladu o gerrig ar ddau lawr neu un llawr a hanner i gynnwys atig, gydag adeiladau amaethyddol ynghlwm, mewn rhes. Ceir enghreifftiau da yn Uwchmynydd ac yn Anelog; yng nghanol Abererch, lle mae tai o’r ugeinfed ganrif bellach wedi clystyru o amgylch y cyn dŷ fferm, Tŷ Gwyn, ac yn Llanbedrog lle mae tŷ deulawr ac adeilad amaethyddol llai, mewn rhes, wedi dod yn rhan o’r casgliad o adeiladau yn rhan uchaf y pentref ar Ffordd Pedrog.

Abererch

Mae bythynnod unllawr neu fythynnod â chroglofftydd wedi goroesi ac i’w gweld ar hyd a lled y penrhyn, ond mae’r crynodiad mwyaf yn y rhan ddeheuol ac yn fwyaf arbennig yn Uwchmynydd, Anelog, y Rhiw, Llanengan a Llanbedrog, ac yn ardaloedd Amgaeadau Seneddol Rhoshirwaun a Mynytho a’r cyffiniau. Mae’r rhan fwyaf yn dai cerrig wedi’u hadeiladu â rwbel ar hap ar sail tystiolaeth y waliau sydd yn y golwg, er bod llawer iawn wedi cael côt o rendrad neu ro chwipio ar yr ochr allan. Mae rhai wedi’u hadeiladu o rwbel wedi’i sgwario mewn cyrsiau rheolaidd, er enghraifft, Efail Botwnnog sydd ar ochr y ffordd. To llechi sydd i’r rhain, ac eithrio ambell un sydd â tho haearn rhychiog. Mae’n amlwg fodd bynnag, o ddisgrifiadau uniongyrchol ac o fanylion bargodfeini simneiau, a hefyd o serthiant y to, er nad yw hynny mor amlwg, mai to gwellt oedd gan lawer ohonynt yn wreiddiol a’u bod yn dal i fod felly yn y 19eg ganrif er gwaethaf sylwadau gresynus y sylwedyddion a oedd yn cymell gwelliannau.

Mae bythynnod waliau mwd i’w gweld yn Llŷn o hyd. Adfeilion ydynt yn aml, ond mae rhai’n dal i gael eu defnyddio. Mae’n bosibl bod llawer mwy ohonynt, ond bod rendrad sment-a-thywod yn cuddio’r waliau mwd.

Yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif roedd rhai adeiladau cadarn a helaeth yn cael eu hadeiladu ym mhentrefi a threfi Llŷn. Un enghraifft o’r rhain yw’r Four Crosses Inn â’i fuarth stablau a’i dai cysylltiedig. Enghraifft arall yw’r adeiladau masnachol yn Lôn Penbryn, Llanbedrog, a thai deulawr cyfagos ar Ffordd Pedrog.

Enghreifftiau eraill yw’r tai teras i’r gogledd o’r eglwys yn Abererch a rhesi o dai teras deulawr wedi’u hadeiladu o rwbel wedi’i sgwario wedi’i osod mewn cyrsiau ar ochr ddwyreiniol y pentref. Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif gwelodd rhai rhannau o’r penrhyn ffyniant diwydiannol, yn fwyaf arbennig y diwydiant mwyngloddio yn Llanengan, Llangian, y Rhiw a Llanfaelrhys, a’r chwareli ithfaen yn Llanbedrog, Llanaelhaearn a Phistyll. Yn Llanbedrog chwarelwyr a’u teuluoedd oedd yn byw yn y deunaw tŷ ym Madryn Terrace at ei gilydd. Mae’r tai’n adeiladau deulawr soled o rwbel ar hap â blociau mawr o gerrig fel linteri, toeau llechi a chyrn simnai o frics, rhai â brics o liwiau gwrthgyferbyniol yn y cyrn i ychwanegu at y manylion. Mae tu blaen y rhan fwyaf o’r tai wedi’u trin â rendrad neu ro chwipio ac mae’r rhan fwyaf o’r ffenestri a’r drysau Fictoraidd gwreiddiol wedi’u newid. Yn Abersoch, yn Bay View Terrace, mwyngloddwyr plwm a’u teuluoedd oedd yn byw ym mhob un bron o’r deg tŷ deulawr.

Llithfaen

Yn Llithfaen, yng nghysgod yr Eifl, adeiladwyd rhesi tai tebyg o gerrig o ganlyniad i’r chwareli yn Nant Gwrtheyrn a chwareli eraill yn yr ardal honno. Mae’r tai’n dai deulawr o rwbel ar hap â chyrn rwbel. Ym Mhistyll adeiladwyd rhes o bedwar ar ddeg o dai deulawr ar ochr y ffordd o Lithfaen i Nefyn, ger inclein y lein fach o chwarel Moel Tŷ Gwyn i bier ar lan y môr. Mae’r deunyddiau adeiladu wedi’u cuddio gan ro chwipio. Mae’r rhan fwyaf o’r agoriadau, os nad y cyfan, wedi’u newid a cheir ffenestri to erbyn hyn i oleuo’r atigau.

Mae troad y ganrif a’r ugeinfed ganrif yn ei chyfanrwydd wedi ysbrydoli ystod eclectig o adeiladau. Mae’n bosibl mai Plas Glyn y Weddw, a adeiladwyd ym 1856 gan y pensaer Henry Kennedy mewn arddull Gothig Fictoraidd, i’r Fonesig waddolog Elizabeth Love Jones Parry o Fadryn, yw un o adeiladau unigol pwysicaf ail hanner y 19eg ganrif yn Llŷn.

Ym 1896, prynwyd y tŷ gan yr entrepreneur a’r datblygwr, Solomon Andrews, fel canolfan ddigwyddiadau ac arddangosfeydd i ymwelwyr a phobl leol ar adeg pan oedd twristiaeth ar fin newid rhai rhannau o’r penrhyn. Datblygodd Solomon Andrews ardal y West End ym Mhwllheli drwy adeiladu lleoedd aros a chyfleusterau gwyliau. Yn ystod y ganrif, datblygodd dai tebyg i filâu ar y ffordd o Bwllheli tua’r gorllewin a chododd dai yn yr ardal i’r gogledd-orllewin o Nefyn, rhwng y dref a’r môr ac ychydig tua’r gorllewin ym Morfa Nefyn. Yn Abersoch, mae tai sylweddol o ddechrau’r ugeinfed ganrif ar drwyn Bennar yn cynnwys tai neo-Sioraidd Garth a Haulfryn, sydd ill dau’n adeiladau rhestredig.