Mae’r dirwedd a welir heddiw yn wahanol iawn i batrwm tirwedd amaethyddol y Canol Oesoedd. Ond er bod y systemau a’r blaenoriaethau amaethyddol wedi newid, mae’r dirwedd yn balimpsest, sy’n ein galluogi ni heddiw i ddysgu am y gorffennol. Mae system drethi’r drydedd ganrif ar ddeg a Chofnodion Swyddwyr y 14eg ganrif yn rhoi cipolwg inni ar y cnydau, y da byw a’r prosesau a ddefnyddid. Mae’r mesurau tir Lladin, bufedd a charwgad, yn ymwneud â thir âr, ac yn cyfeirio at ych ac erydr, ac mae’r termau Cymraeg, ‘llain’ (‘lleiniau’) a ‘talar’, a welir mor aml mewn enwau caeau hyd heddiw, yn adlewyrchu bodolaeth y gerddi âr niferus a’r talarau lle’r oedd y gweddoedd aredig yn troi. Gallai tiroedd âr fod yn helaeth, ac roeddent yn agored. Roedd yr aredig yn cael ei wneud gan wedd o ych yn tynnu’r aradr, gyrrwr y wedd a bachgen yn cerdded wysg ei gefn gan alw’r wedd. Roedd nifer yr ych yn dibynnu ar adnoddau’r gymuned a fyddai’n crynhoi ei hasedau. Rhennid y gwaith o aredig, ond roedd y lleiniau neu erddi hir, main, ar dro yn cael eu diffinio’n ofalus, ac roeddent yn eiddo i unigolion. Yn anaml y byddai lleiniau’r un tenant wedi’u lleoli ochr yn ochr, ac roedd natur wasgaredig y gerddi’n sicrhau bod tir da a thir heb fod cystal yn cael ei ddosbarthu’n rhesymol. Mae’r lleiniau ar dro, ar ffurf S o chwith, er mwyn i’r wedd o ych a oedd yn llusgo’r aradr allu troi ar y dalar a mynd yn ôl i lawr y gŵys nesaf.
Carn Fadryn
Y cnydau a oedd yn cael eu hau a’u cynaeafu oedd gwenith, ceirch a rhywfaint o haidd. Tyfid ychydig o ryg hefyd, ynghyd â phys. Roedd gerddi’n ategu’r ddiet. Gwneid brag o rawn ac ymddengys bod bragu’n arferiad cymharol gyffredin. Roedd gan bob cymuned felin. Roedd yn ofynnol i denantiaid taeogdrefi, yn ddieithriad, falu eu grawn ym melinau’r Goron. Y melinau hyn oedd melinau Ceirch, Hirdref, Boduan, Nefyn a Gwynus yng nghwmwd Dinllaen, melinau Gwerthyr, Ceirch, Deneio a Llannor yng nghwmwd Afloegion, a melinau Neigwl, Crugeran a Thywyn yng nghwmwd Cymydmaen. Melinau dŵr oedd y rhain i gyd. Roedd gan rydd-ddeiliaid yn aml eu melin eu hunain, neu gyfranddaliadau mewn melin, ond mewn rhai amgylchiadau, roeddent hwythau hefyd yn malu ym melin y Goron. Defnyddiwyd lleoliad llawer o felinau’r Canol Oesoedd yn ddi-dor tan y 19eg ganrif, er iddynt gael eu hailadeiladu a’u hadnewyddu droeon. Roedd melinau’r rhydd-ddeiliaid yn Llannor, Pistyll, Trefgoed, Madryn a Mochras yng nghwmwd Dinllaen; yn Abersoch (Melin Isa a Melin Ucha), Castellmarch, Bodfel a Llangian yng nghwmwd Afloegion ac yn y Rhiw, Bodwrdda a Bodrhydd yng nghwmwd Cymydmaen. Roedd nifer o felinau wedi’u henwi ar ôl teuluoedd, ac ni allwn fod yn sicr ynghylch eu lleoliad. Un o’r rhain oedd Melin Wyrion Gorid. Roedd melin hefyd ar ystâd Esgob Bangor yn Edern.
O ran trefgorddau Afloegion, gallai pob teulu ar gyfartaledd yn rhan ganol dde-ddwyreiniol Llŷn gynhyrchu bron i 3 crynog o flawd (11.5 bwysel) a hanner crynog (2 fwysel) o rawn. Roedd pob teulu, ac eithrio’r tlodion, yn berchen ar un neu ddau o wartheg eidion a phedair buwch, ar gyfartaledd. Gallai penteulu fod yn berchen ar geffyl ac anifail gwedd ychwanegol. Yn ymarferol, fodd bynnag, roedd rhai teuluoedd yn well eu byd nag eraill. Roedd Angharad ferch Adda a’i mab, yn nhrefgordd Bodfel, yn berchen ar 42 o wartheg eidion a 48 buwch, 6 ceffyl a 12 anifail gwedd, a gallai ei fferm gynhyrchu 82 bwysel o flawd wedi ei falu a 24 bwysel o rawn. Eithriad fodd bynnag oedd cyfoeth a chynhyrchiant ar y raddfa hon. Megid defaid hefyd, mewn niferoedd cymharol fach, ac eithrio rhai ardaloedd lle’r oedd gan David Fychan, ym Marchros, ac Iorwerth Du ym Mryn Celyn, y naill a’r llall ar drwyn Cilan, 20 dafad yr un. Roedd gan Gwyn ap Rhirid, ym Machellaeth hefyd 20 dafad, ond nid oedd neb arall yn cadw cynifer.
Roedd gwartheg yn bwysig er mwyn cael cig a hefyd er mwyn cael cynnyrch llaeth. Yng nghyd-destun gweinyddiaeth frenhinol Oes y Tywysogion, mae arwyddocâd cynhyrchu da byw i’w weld yn y broses o sefydlu’r hyn a oedd yn y bôn yn ranshis gwartheg, wedi’u lleoli mewn ardaloedd a oedd yn caniatáu mynediad i ucheldiroedd pori heb eu trin, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, pan fyddai cnydau’n aeddfedu yn y caeau âr agored. Yng nghwmwd Dinllaen, er enghraifft, gwyddys bod beudai neu Hafodydd yn Gwynus, Rhoswyniasa, Bleiddiog a Chastellmawr, i’r de-ddwyrain o Bistyll rhwng Llithfaen a Cherniog.
Mewn ardaloedd arfordirol, roedd pysgota’n ychwanegiad tymhorol pwysig iawn i ddiet pobl. Ym Mryn Celyn ar drwyn Cilan, ym 1293, roedd gan Iorwerth Du gwch â rhwydi. Ym Mhwllheli, roedd gan naw o’r un ar hugain o denantiaid, a oedd â digon o gyfoeth symudol i gael eu trethu, rwydi; roedd gan Madoc ap Einion saith. Yn Nefyn, roedd gan 42 o’r 93 tenant offer pysgota, a chyda’i gilydd, roedd ganddynt bedwar cwch a 64 o rwydi.
Uwchmynydd
Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg rhoddwyd llawer o dir y Goron ar brydles i unigolion preifat. Doedd dim byd yn newydd yn hun ynddo’i hun, ond tua’r un adeg, roedd tir rhydd-ddaliadol yn cael ei drosglwyddo, a daeth y caffaeliadau hyn yn sail i ystadau cyfunedig. Dechreuwyd cau lleiniau o dir i greu caeau ac amgaefeydd afreolaidd o’r gerddi âr a arferai fod yn dir agored. Parhaodd y broses am gyfnod ac, mewn rhai lleoliadau, parhaodd yr arfer o gael ardaloedd o leiniau agored a oedd yn perthyn i nifer o denantiaid gwahanol tan ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Er hyn, dynodwyd amlinellau digon o erddi âr creiriol â chloddiau iddynt allu goroesi hyd heddiw. Mae enghreifftiau arbennig o dda i’w gweld yn Uwchmynydd, Aberdaron, Nefyn a Morfa Nefyn ac ar drwyn Cilan.
Daliodd yr ystadau mawr ar benrhyn Llŷn i gynyddu eu daliadau yn ystod yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif. Erbyn diwedd yr 17eg ganrif roedd Ystâd y Faenol, i’r de o Fangor, wedi prynu llawer o dir ym mhlwyfi Llangian, Llanengan a thrwyn Cilan, ac roedd yn rheoli Castellmarch. Roedd teulu Griffiths Cefnamwlch yn ehangu i gyfeiriad Nyffryn, Cefnleisiog a’r gwastadedd arfordirol. Roedd gan deulu Edwards Nanhoron dir ac eiddo ym mhob un bron o blwyfi Llŷn, a phrynodd ystâd bwysig Bodwrdda yn Aberdaron ym 1748. Tua diwedd y 18fed ganrif unwyd ystâd Madryn â Wern Fawr ar gyrion y Gors Geirch a Rhydolion ar wastadedd Neigwl. Roedd ystâd Bodfel ac ystâd gysylltiedig gyfagos Boduan yn bwysig yn yr 16eg ganrif, yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif nes i ystâd Boduan gael ei throsglwyddo, drwy briodas, i gylch dylanwad Glynllifon a theulu Newborough.
Yn ôl Hyde Hall, ym 1810, pe bai tenantiaeth wedi mynd yn wag genhedlaeth ynghynt, byddai wedi bod yn bwysau mawr ar ysgwyddau tirfeddiannwr. Yn hinsawdd 1810, roedd y datblygiadau a oedd wedi’u gwneud yn y cyfamser yn gymhelliant mawr i dderbyn tenantiaeth. Roedd yr awydd i wella yn amlwg iawn yn niwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Roedd tirfeddianwyr yn buddsoddi eu harian yn eu ffermydd, ‘in preference to the noble hazard of faro or the too alluring chance of the turf!’ (Hyde Hall, 1810, gol E.G. Jones 1952, 293; Walter Davies, 1810, 94). Ffurfiwyd cymdeithasau amaethyddol i hyrwyddo gwell arferion. Ffurfiwyd Cymdeithas Sir Gaernarfon ym 1808. Yn y Rhiw, cafodd un o denantiaid Syr Robert Vaughan gymhorthdal gan y Gymdeithas Amaethyddol am bwyntio mur ar gyfer lloc gwartheg yr oedd newydd ei adeiladu. Roedd llawer o ystyriaethau gwyddonol yn cael eu trafod, yn ymwneud â bridio da byw; priodoldeb mathau penodol o erydr, y Lomax cyfarwydd neu’r aradr ‘Scotch’ newydd, ac roedd gan bob gyrrwr gwedd ei ffefryn; a rhagoriaethau gwedd o ych neu wedd o geffylau wedi eu harneisio, ynghyd â chymariaethau ariannol. Roedd cylchdroi cnydau’n bwnc trafod. Awgrymodd Walter Davies gylchdro pedair blynedd ar gyfer Llŷn a oedd yn cynnwys gwenith ar fraenar, neu wyndwn meillion, wedi cael calch yn ystod y flwyddyn gyntaf; maip neu gnydau gwyrdd eraill, wedi’u gwrteithio â thail neu gompost yn yr ail flwyddyn; haidd yn y drydedd flwyddyn a meillion â meillion gwynion a hadau glaswellt yn cael eu hychwanegu yn y bedwaredd flwyddyn (Davies, 1810, 163).
Mae llythyr drafft, o Gefnamwlch, wedi’i ysgrifennu ar dudalennau llyfr rhent ym 1776 yn rhoi cipolwg i ni ar waith arferol ar y fferm o ddydd i ddydd yn ystod y cyfnod hwn:
Hon. Sir, … since you left … weeding or cleaning potatoes, turning the dunghill in Cae’r Gwindy, mucking Cae’r Lloia all over and almost ploughing it. Ploughed and harrowed Cae’r Ychain and Cae’r Coed and planted it over with cabbage … opening the water course. Heavy rain so obliged to take such work as clean the sheep pens and courts at Cae’r Rhyd Ddu.
… barley has been sown since last week, likewise potatoes put down two or three days ago. They are ploughing Cae’r Ychain for turnips and carrying the stuff which was taken out of the drains in Gors Las.
… 42 hobets of oats sowed between Cae’r Pant, Cae’r Gongl, Ffridd Wen and Cae’r Gate Wen … by this time we thought the horses were much abused … thought it easier for them to muck for potatoes and drawing stones to make a wall by Llyn Pen y Mount, then they began to plough Barley at Cae’r Goetan and Ffriddwen which will be completed tonight.
… Droughty and hoar frost weather which we have had for a long time but now these three or four days passed it is fine warm growing weather (Papurau Cefnamwlch 307, Archifdy Gwynedd).
Mae llyfrau rhent daliadau ystâd y Faenol ym mhlwyfi Llanengan a Llangian yn rhoi rhyw syniad inni pa gnydau oedd yn cael eu cynaeafu yn y 1820au. Mae Tyddyn Talgoch ar drwyn Cilan yn cofnodi: ceirch, haidd, gwair a dôl; porfa, tatws a braenar; ceirch; gwair, haidd a phorfa. Mae Llawr y Dref ar wastadedd Neigwl yn cofnodi: gwenith, dôl, haidd, gwair, porfa a thatws. Mae Deuglawdd nid nepell yn cofnodi: haidd, gwenith, porfa, porfa, dôl, ceirch a thatws. Mae gwartheg wedi bod yn bwysig ym mhenrhyn Llŷn erioed. Prif gynnyrch Llŷn yn ôl Pennant, yn y 1770au, oedd ceirch, haidd a gwartheg duon, ac yn ôl Pennant, ‘above three thousand are annually sold out of these parts’ (Pennant 1773, gol. J. Rhys, 1883, cyf. 2, 374-5). Roedd y gwartheg dan sylw’n cael eu gyrru gan borthmyn i’w pesgi ar dir pori yn Lloegr cyn eu gwerthu ym marchnadoedd Llundain a Chanolbarth Lloegr. Mae gefeiliau ochr ffordd ar lwybrau’r porthmyn ac mewn safleoedd casglu’n atgof parhaus o’r fasnach.
Er bod llawer o welliannau wedi eu gwneud, roedd lle i feirniadaeth o hyd. Nododd Walter Davies restr fer o’r rhwystrau a oedd yn atal amaethu effeithlon ar ddechrau’r 19eg ganrif, ac ysgogodd taith Hyde Hall o amgylch Sir Gaernarfon ef i wneud sylwadau am rai diffygion. Yn ei eiriau ef: ‘of the agriculture here [yn Nefyn] no favourable account can be given, if a traveller judges from the slovenly management of the fields, the ragged lines of earth which … pass for fences [cyfeiriad at erddi anwahanedig yr hen feysydd agored]. There is wanting, too, all the shelter which trees afford, and the bareness … in this respect that the very first improvement called for seems to be that of plantations’. Cyfeiriodd hefyd at Dudweiliog fel ‘a flat and woodless tract’, a’i eiriau wrth gyfeirio at Lanfihangel Bachellaeth oedd, ‘the forlornness of its exposure, not a single tree’. Yr unig beth a oedd yn gwneud iawn am y diffyg gorchudd coed bryd hynny, mewn nifer o blwyfi, oedd planhigfeydd a gerddi tai’r bonedd.
Mud-wall
Roedd Davies yn feirniadol o gyflwr llawer o’r bythynnod yr oedd llafurwyr amaethyddol a thenantiaid ffermydd bychain yn byw ynddynt: ‘… a species of cottages which are truly the habitations of wretchedness; one smokey earth, for it should not be styled a kitchen; one damp litter-cell for it cannot be called a bed room’ (Davies 1810, 82). Gwelodd Hyde Hall nifer o fythynnod traddodiadol yn dal i gael eu hadeiladu â thoeau gwellt, a theimlai mai cam yn ôl oedd hyn. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud am y tai a oedd newydd gael eu hadeiladu yn Llanbedrog: ‘a hamlet called Pig Street … sixteen new houses have been erected since 1800, but as the number seems small, so the circumstances of thatch being generally used when the opportunities of conveying slate by sea are so convenient … bespeaks but little zeal or spirit of improvement about the place’. Mae ystyriaethau tebyg iawn yn berthnasol i’r dirwedd amaethyddol a byddant yn cael eu trafod yn fanylach yn yr adran ar adeiladau.

Elfen arall a oedd yn atal ac yn llesteirio’r broses o ddatblygu dulliau ffermio effeithlon oedd cyflwr y ffyrdd a’r lonydd drwy Lŷn. Oherwydd cyflwr y ffyrdd roedd yn anodd i gynnyrch ffermydd gyrraedd marchnadoedd pellennig ac i ddeunyddiau a chyfarpar gyrraedd y ffermydd. Yn ystod hanner cyntaf y 18fed ganrif awgrymir mai ychydig o ffyrdd oedd yn addas i unrhyw beth ar wahân i draffig lleol yn yr ardal gyfan. Ambell dymor yn ystod y flwyddyn, ac mewn tywydd garw, byddai’n rhaid dilyn ffyrdd eraill llawer pellach, er enghraifft, er mwyn croesi rhostir gwlyb Rhoshirwaun neu ddilyn llwybr yr arfordir i’r de o Bwllheli. Yn ystod y 19eg ganrif gwelwyd gwelliant syfrdanol mewn dulliau cyfathrebu tua’r tir.
Er gwaethaf y dirywiad amaethyddol, ar ôl i ryfeloedd Napoleon ddod i ben, yn ystod ail chwarter y 19eg ganrif, parhaodd holl blwyfi Llŷn i aredig cannoedd ar gannoedd o aceri. Yn y 1840au roedd hanner cant y cant o’r holl arwynebedd tir yn dir âr. Yr un oedd y prif gnydau â’r rhai a dyfid 500 mlynedd a mwy yn gynharach, sef ceirch, haidd a gwenith, yn y drefn blaenoriaeth honno.
Roedd rhai ardaloedd yn naturiol yn fwy cynhyrchiol na’i gilydd. Roedd Llaniestyn, Penllech, Llandygwnning a phlwyf bach Botwnnog yn aredig saith deg y cant o’u tiroedd. Roedd Llanfaelrhys, Boduan a Mellteyrn yn aredig llai na deg ar hugain y cant o’u harwynebedd. Ym Moduan, parcdir a thir pori ar fynydd Garn Boduan oedd 1300 o 1850 acer y plwyf. Yn Llanfaelrhys, roedd 1500 acer o’r plwyf yn dir pori uchel, ar lethrau Mynydd y Rhiw a Phenarfynydd, ac mae’n debyg nad oedd blaenoriaethau taeogdref ganoloesol Penarfynydd wedi newid ers chwe chanrif.
Nanhoron