English

Ysgol yr Hendre, Llanbeblig, Caernarfon

Mynwent ganoloesol gynnar a gwersyll adeiladu Rhufeinig

Cyflwyniad | Canlyniadau'r Cloddiad | Pydew Neolithig | Poptai Pydew Rhufeinig a Gwersyll Adeiladu Posibl

Mynwent Ganoloesol Gynnar | Nodweddion Canoloesol | 19eg a'r 20fed Ganrif | Cydnabyddiaethau a Darllen Pellach

Y Pydew Neolithig

Roedd yna haenen o gerrig wedi'u cracio gan wres a golosg ar waelod pydew bychan bas a'i hyd yn 1.1m, ei led yn 0.9m a'i ddyfnder yn 0.16m. Roedd y pydew yn cynnwys casgliad o naddion a sglodion fflint a thamaid bychan o grochenwaith Neolithig. Mae'r holl ddarnau o fflint yn wastraff creu offer (proses a elwir yn naddu fflint) ac nid oedd dim offer gorffenedig yn y pydew. Defnyddiwyd cerrig bychain o ansawdd gwael, a gaslwyd mae'n debyg oddi ar y traethau agosaf ar ôl cael eu cario yno wedi iddynt erydu oddi ar glog-gleiau rhewlifol. Collen oedd y rhan fwyaf o'r golosg yn y pydew, a hefyd canfuwyd llawer o ddarnau o gregyn cnau collen, a gariwyd o bosibl ar ganghennau ar gyfer tanwydd. Dangosodd dwy broses ddyddio radiocarbon ar gragen cneuen gollen ruddedig bod y pydew yn dyddio'n ôl i'r cyfnod Neolithig; rhwng tua 2800 a 2300 CC.

Mae presenoldeb y pydew yma o leiaf yn awgrymu lleoliad gwersyll dros dro, ble bu pobl yn coginio ac yn trin offer fflint. Mae tystiolaeth arall o'r ardal ehangach, yn arbennig siamberi claddu, yn dynodi poblogaeth breswyl ar yr adeg yma, fyddai wedi symud naill ai mewn grwpiau hela, neu'n symud eu hanheddiad o dro i dro. Er y byddai moryd lanw'r Seiont, a'r arfordir cyfagos, wedi sicrhau cyflenwad digonnol o fwyd ac adnoddau eraill, dyma'r unig dystiolaeth y mae archaeolegwyr wedi ei ganfod hyd yma o bresenoldeb Neolithig yn yr ardal sy'n agos i'r safle.


Y Pydew Neolithig yn ystod y cloddiad

 


Fflintiau o'r Pydew Neolithig