English

Ysgol yr Hendre, Llanbeblig, Caernarfon

Mynwent ganoloesol gynnar a gwersyll adeiladu Rhufeinig

Cyflwyniad | Canlyniadau'r Cloddiad | Pydew Neolithig | Poptai Pydew Rhufeinig a Gwersyll Adeiladu Posibl

Mynwent Ganoloesol Gynnar | Nodweddion Canoloesol | 19eg a'r 20fed Ganrif | Cydnabyddiaethau a Darllen Pellach

Nodweddion Canoloesol

Darganfuwyd rhai nodweddion nad oeddent yn perthyn i’r fynwent na chyfnod y Rhufeiniaid. Un o’r nodweddion hynny oedd sychwr ŷyd gyda sianel hir yn rhedeg o bydew isgylchog bas. Byddai grawn wedi cael eu hongian uwchben y pydew, a thân wedi cael ei gynnau ar ben pellaf y ffliw. Byddai hyn wedi galluogi i aer poeth o’r tân sychu’r grawn heb orfod poeni am wreichion yn eu rhoi ar dân. Roedd yna dystiolaeth o losgi yn y ffliw ond nid yn y pydew.

Roedd y sychwr yŷd yn torri drwy ddau fedd, ac felly yn ystod y cloddiad fe ddynodwyd yn glir ei fod o gyfnod diweddarach na’r fynwent. Cadarnhawyd hyn gan ddyddiadau radiocarbon a gafwyd o rawn wedi’i losgi a’i gosododd yn yr 11eg i’r 13eg ganrif. Yn amlwg, erbyn y cyfnod hwnnw roedd gwybodaeth am y fynwent wedi cael ei anghofio.

Mewn samplau pridd o’r nodwedd hon cafwyd grawn ceirch rhuddedig, ac ychydig o farlys o darnau o gregyn cnau collen. Mae’r prinder hadau chwyn yn awgrymu bod grawn wedi’i olchi yn cael ei sychu, a bod rhuddo’r grawn efallai wedi digwydd o ganlyniad i losgi’r grawn yn ddamweiniol wrth ei sychu. Mae sychu yŷd yn helpu i gadw’r grawn ac i hwyluso melino. Roedd sychwyr yŷd yn arbennig o bwysig pan fo ceirch yn brif gnwd gan fod y rhain yn cael eu tyfu mewn mannau gwlypach ble mae'r tymor tyfu'n fyrrach. Daeth defnyddio ceirch i fod yn fwy poblogaidd yn y cyfnod canoloesol, ac mae hyn yn helpu i egluro'r cynnydd yn nifer y sychwyr ŷyd a nodwyd yn y cyfnod hwn.


Cynllun o'r sychwr yŷd yn ei ddangos yn torri drwy feddau

Yn y fynwent hefyd roedd yna bydew is-betryal 1.6m wrth 1.0m wrth 2.5m o ddyfnder. Ar waelod y pydew roedd yna ychydig o gerrig mawr ac roedd y llenwad yn cynnwys telchyn o grochenwaith Rhufeinig a darn o asgwrn wedi'i losgi. Roedd hefyd yn cynnwys nifer sylweddol o rawnfwyd rhuddedig, cierch yn bennaf ond hefyd nifer fechan o rawn barlys a gwenith. Gall hyn ddynodi dympio grawn wedi'i ddifetha neu wastraff domestig i'r pydew. Roedd dyddiadau radiocarbon o rawnfwyd rhuddedig yn dangos bod y nodwedd, er gwaetha'r crochenwaith, yn perthyn i'r cyfnod canoloesol a hefyd yn dyddio'n ôl i'r 11eg i'r 13eg ganrif OC, ond o bosibl i gyfnod cynharach na'r sychwr ŷyd. Y demtasiwn yw dehongli'r pydew hwn fel math symlach o sychwr yŷd, ond mae diffyg tystiolaeth o dân yng ngwaelod y pydew yn awgrymu nad hynny ydoedd.


Pydew canoloesol a cherrig mawr ar y gwaelod

Roedd yna rigol fain yn rhedeg o un o'r corfflannau gogleddol. Roedd hon yn troi'n raddol a goroesodd 15m ohoni. Roeddei ei lled yn 0.5m a'i dyfnder yn hyd at 0.22m, ac fe'i hagorwyd drwy ffos y gorfflan oedd wedi cael ei llenwi. Roedd yna hefyd rigol dro fas debyg ar ochr ogleddol y gorfflan. Roedd y rhigol yn cynnwys darnau o olosg, y profwyd eu bod yn cynnwys collen a helygen neu boplysen, sy'n awgrymu mai coed tân oeddent. Roedd hi hefyd yn cynnwys swm annisgwyl o fawr o rawnfwyd rhuddedig, ceirch yn bennaf (dros 4000 o rawn) a nifer fechan o wenith a barlys, ychydig o hadau chwyn a darnau o gragen cnau collen. Yn y dyddodyn hefyd dynodwyd un bysen gardd ruddedig.


Cynllun o'r rhigol ganoloesol yn rhedeg o'r gorfflan fwyaf ogleddol

Mae cymhareb y grawn yn awgrymu mai ceirch oedd y cnwd a dyfwyd yn bennaf. Defnyddiwyd dyddio radiocarbon ar y bysen ac un gronyn o geirch, ond roedd y ddau ganlyniad yn wahanol iawn. Roedd y bysen yn dyddio’n ôl i’r 16eg neu’r 17eg ganrif OC, a’r gronyn ceirch i’r 10fed i’r 12fed ganrif OC. O ystyried swm y ceirch yn y dyddodyn mae’n debyg bod y bysen unigol yn ymyrraeth ddiweddarach, a bod y rhigol yn dyddio’n ôl i’r 10fed i’r 12fed ganrif OC. Mae’n debyg bod y deunydd planhigion rhuddedig a ganfuwyd yn y rhigol yn ganlyniad i ddamwain yn y sychwr yŷd.

Ni ellid dynodi’r gyfundrefn gaeau ganoloesol yn glir yn y cofnod archaeolegol. Darganfuwyd nifer o ffosydd o gyfnod cynharach na chyfnod y gyfundrefn gaeau bresennol, ond nid oeddent yn cynnwys unrhyw dystiolaeth ddyddio, ac ni ellid dynodi unrhyw gynllun ystyrlon. Fodd bynnag, mae tystiolaeth o fan arall yn awgrymu y tyfid y cnydau mewn lleiniau hirion mewn caeau mawr agored. Erbyn y 18fed ganrif byddai’r rhain wedi cael eu hamgáu, a chyfundrefnau caeau newydd wedi cael eu sefydlu.