English

Ysgol yr Hendre, Llanbeblig, Caernarfon

Mynwent ganoloesol gynnar a gwersyll adeiladu Rhufeinig

Cyflwyniad | Canlyniadau'r Cloddiad | Pydew Neolithig | Poptai Pydew Rhufeinig a Gwersyll Adeiladu Posibl

Mynwent Ganoloesol Gynnar | Nodweddion Canoloesol | 19eg a'r 20fed Ganrif | Cydnabyddiaethau a Darllen Pellach

Y Fynwent Ganoloesol Gynnar

Daeth teyrnasiad y Rhufeiniaid i ben yng Nghaernarfon ar ddiwedd y 4edd ganrif – mae'n debyg bod y milwyr Rhufeinig olaf wedi cael eu tynnu o Segontium yn OC 393, gan adael y gaer yn anghyfannedd. Roedd yna anheddiad allanol y tu allan i'r gaer, ond hyd yma ni chafwyd fawr o dystiolaeth am ei datblygiad ar ôl iddynt adael y gaer.

Mae'r dystiolaeth archaeolegol ar gyfer y canrifoedd sy'n dilyn teyrnasiad y Rhufeiniaid yn gymharol denau, a'r dystiolaeth honno'n nodweddiadol yn dod o fynwentydd yn hytrach nag o aneddiadau . A dyma'r achos yn Ysgol yr Hendre.


Cynllun o’r brif fynwent gyda thair corfflan wedi’u hamgylchynu â beddau

Mae yna siapiau gwahanol i fynwentydd o’r cyfnod yma, a mathau gwahanol o feddau ynddynt, ond mae gan bob un nodweddion sy’n gyffredin. Mae’n nodweddiadol i’r beddau fod wedi cael eu gosod mewn bras aliniad o’r dwyrain i’r gorllewin, mae’r beddau’n cynnwys claddedigaethau gyda’r pen yn y gorllewin, ac nid yw’r beddau’n cynnwys unrhyw nwyddau claddu.

Fodd bynnag, ceir mân wahaniaethau. Gellir leinio rhai beddau a’u gorchuddio â slabiau cerrig (fel rheol gelwir beddau o’r fath yn feddau cistfaen hir), gellir leinio eraill â choed, tra mae’n ymddangos nad oes gan eraill unrhyw leinin amlwg, ond yn hytrach maent wedi cael eu tyllu a’u hôl-lenwi. Mewn rhai mynwentydd, mae rhai beddau wedi’u hamgáu gan ffos amgylchynol, fel yn yr achos hwn. Gellir cyfeirio at y caeadle fel ‘corfflan’, ac ar brydiau cyfeirir at safleoedd tebyg fel ‘crugiau sgwâr’.

Roedd yna dair corfflan ym mhrif ran y fynwent wedi’u hamgylchynu â 41 o feddau, a darganfuwyd dwy gorfflan arall i’r gogledd. Er bod ffiniau’r fynwent wedi cael eu darganfod ar y terfynau deheuol, dwyreiniol a gogleddol, efallai ei bod wedi parhau tua’r gorllewin o dan y stad o dai presennol.


Cynllun o’r corfflannau gogleddol a dim beddau amgychynol

Roedd tair o'r corfflannau yn sgwâr, a'u maint hyd at 7.3m wrth 7.3m, ac roedd dwy yn rhai petryal. Diffiniwyd pob un gan ffosydd, oedd mwy neu lai ar yr un aliniad dwyrain-gogledd-ddwyrain i’r gorllewin-de-orllewin, a mynedfa ar yr ochr ddwyreiniol. Roedd gan bedair corfflan fedd canolog unigol, ond roedd gan un corfflan betryal dri bedd wedi eu gosodd yn gyfochrog y tu mewn iddi. Mae’r rhain yn edrych fel grŵp teuluol, ond gan nad oes unrhyw esgryn wedi goroesi yn unrhyw un o’r beddau (mae’r pridd yn rhy asidig i esgyrn oroesi) ni ellir profi hyn. Tybir fod y corfflannau yn dynodi ffafriaeth ar gyfer unigolion penodol, sydd efallai’n adlewyrchu eu statws pan oeddent yn fyw.


Y gorfflan ogleddol wedi’i chloddio’n lân


Stripio uwchbridd â pheiriannau a
chloddio’r fynwent â llaw

Roedd y beddau, yn gaeëdig ac anghaeëdig, yn amrywio rhwng 2.6m a 0.6m mewn hyd. Mae'n debyg bod yr amrywiaeth mewn hyd yn gysylltiedig â thaldra'r unigolyn a gladdwyd ac awrymwyd mai beddau plant oedd y rhai llai.

Er bod union orweddiad y beddau yn amrywio, roedd pob un wedi'i alinio'n fras o'r dwyrain i'r gorllewin, a'r pen yn y gorllewin. Roedd y beddau'n rhannu'n grwpiau, a'r beddau ym mhob grŵp yn gytbell ac ar yr un aliniad. Yr argraff yw bod beddau'n cael eu hychwanegu fesul ychydig, gyda pheth ymwybyddiaeth o ble yr agorwyd beddau cynharach.

Roedd y beddau oedd agosaf at y corfflannau yn tueddu i adlewyrchu gorweddiad y gorfflan, fel petaent wedi eu gosod yn fwriadol mewn perthynas â hwy. Mae'n debyg bod un neu ragor o'r corfflannau wedi bod yn ganolbwynt y fynwent ond heb dystiolaeth ddyddio mae'n amhosibl dweud pa un oedd y cynharaf.

Roedd gan nifer o'r beddau, yn cynnwys y rhai yn y corfflannau, gerrig wedi'u gosod ar hyd yr ochrau hir, mewn rhai achosion wedi cael eu pentyrru hyd at dair carreg mewn uchder. Mae'n debyg bod y cerrig yma yn dynodi bod leinin o goed wedi bod yn y beddau. Darganfuwyd cerrig o'r fath mewn beddau yn Nhŷ Mawr, Caergybi, ac ar rai ohonynt roedd yna staeniadau oedd yn dynodi planciau coed. Efallai nad oedd y rhain yn eirch ag uniadau, ond planciau heb uniadau yn cael eu cynnal drwy bacio cerrig. Nid oedd yr un o feddau Ysgol yr Hendre yn cynnwys cistiau wedi'u leinio â cherrig.

Dargafuwyd rhai darnau o grochenwaith Rhufeinig yn y beddau a ffosydd y corfflannau, ond mae'n debyg bod y rhain wedi bod yn yr uwchbridd pan agorwyd y beddau , a'u bod wedi cael eu cynnwys yn ddamweiniol wrth ôl-lenwi.

Roedd prinder y darganfyddiadau ac olion ysgerbydol dynol yn golygu nad oedd hi'n bosibl dyddio'r fynwent yn fanwl. Fodd bynnag, roedd ychydig o olosg wedi cae ei daflu i un o ffosydd y corfflannau.

Mae dyddio radiocarbon ar olosg collen o'r dyddodyn hwn yn ei ddyddio'n ôl i'r 6ed i'r 7fed ganrif OC. Mae'r darganfyddiadau (darnau bychain o esgyrn ac onnen wedi'u llosgi) yn awgrymu bod y dyddodyn hwn efallai wedi dod o domen sbwriel. Roedd hefyd yn cynnwys ambell delchyn o grochenwaith Rhufeinig, sy'n dangos bod peth deunydd o gyfnod llawer cynharach yn gymysg ynddo. Yn anffodus nid yw'n eglur pam fod y deunydd hwn wedi cael ei daflu i'r ffos, nac o ble y daeth cyn iddo gael ei daflu. Felly mae'n anodd defnyddio'r canlyniadau hyn i ddyddio'r gorfflan, er bod y 6ed i'r 7fed ganrif fel dyddiad i'r golosg yn gyson â mynwentydd tebyg eraill sydd wedi cael eu dyddio'n fwy cywir.



Y cyd-destun ehangach

Roedd defodau claddu Rhufeinig yn ordeinio y dylai mynwentydd gael eu lleoli y tu allan i ardaloedd caerau, trefi ac aneddiadau eraill. Corfflosgi oedd y prif ddefod gladdu yn y ganrif 1af a'r 2il ganrif OC, ac yn dilyn hyn daeth claddedigaeth i fod yn norm. Darganfuwyd corfflosgiadau Rhufeinig mewn yrnau a photiau eraill yn dyddio'n ôl i ddiwedd y ganrif 1af a dechrau'r 2il ganrif OC pan agorwyd beddau newydd yn y Fynwent Newydd i'r de o Ffordd Llanbeblig o tua 1850 hyd at 1947. Bu i hyn datguddio lleoliad mynwent Rufeinig oedd yn nodweddiadol wedi'i lleoli ar ymyl y ffordd o Segontium i'r gaer yn Nhomen y Mur. Mae gwasgariad o gladdedigaethau eraill wedi cael eu darganfod yn bennaf i'r gogledd o'r gaer.

Roedd mynwent Ysgol yr Hendre gryn bellter o'r fynwent Rufeinig, felly mae'n debyg na fyddai hynny wedi dylanwadu ar leoliad y fynwent ddiweddarach. Fella tybed beth allai'r dylanwad hwnnw fod?

Gall Eglwys Llanbeblig, sydd tua 200m i'r de-ddwyrain o'r fynwent ganoloesol gynnar, ddynodi safle anheddiad cynnar. Nid yw olion presennol yr eglwys yn cynnwys dim deunydd o gyfnod cynharach na'r 13eg ganrif, ond cysegrwyd yr eglwys i Peblig Sant (Publicius), yr honnir yn draddodiadol iddo fod yn fab i Macsen Wledig (h.y. Magnus Maximus, a ddaeth am gyfnod byr yn ymerawdr Rhufeinig y gorllewin rhwng OC 383 a 388). Mae’r eglwys yn agos i safle’r fynwent Rufeinig, ac awgrymwyd y gall ei lleoliad a’i chysegriad i Gristion Rhufeinig ddynodi parhad Cristnogaeth Rufeinig. Daeth Cristnogaeth i fod yn grefydd swyddogol yr ymerodraeth yn y 4edd ganrif OC ac roedd yn boblogaidd ymysg milwyr. Awgrym efallai o bresenoldeb Cristnogion yng Nghaer Segontium yn y cyfnod Rhufeinig hwyr yw i deml i Fithras gael ei dinistrio gan dân, teml a ddarganfuwyd ac a gloddiwyd ym 1959, tua 150m o’r safle presennol.


Un o'r beddau gyda'r cerrig fyddai
wedi cynnal leinin coed


Enghreifftiau o'r crochenwaith Rhufeinig
a ddarganfuwyd yn y fynwent ac o'i chwmpas


Mae'r berthynas rhwng y fynwent yn Ysgol yr Hendre a'r eglwys ganoloesol yn parhau i fod yn amwys, ond os oedd yr eglwys yn dynodi safle anheddiad, gellid disgwyl y byddai'r fynwent gyfoes bellter parchus i ffwrdd. Ni all y crynodiad o henebion claddu a chrefyddol yn yr ardal i'r dwyrain o'r gaer fod yn hollol ddamweiniol, a gall ddynodi parhad arferion crefyddol yma a hynny'n arwain at godi'r eglwys a gysegrwyd i Beblig Sant yn y 12fed neu'r 13eg ganrif.

Yn ystod y cyfnod o droi at Gristnogaeth, ac mewn gwirionedd am nifer o genedlaethau wedyn hyd at y 7fed ganrif OC, roedd mynwentydd yn cael eu cysylltu ag aneddiadau, ac nid ag eglwysi. Ar y cychwyn roedd paganiaid a Christnogion yn cael eu claddu ochr yn ochr â'i gilydd, a dim ond ar ôl OC 700 y ceisiodd yr eglwys reoleiddio claddu ac annog claddu ger neu mewn lle o addoliad. Ar brydiau gelwir y mynwentydd cynnar hyn yn ‘fynwentydd aneddiadau' oherwydd fe'u dynodwyd fel tir claddu'r gymuned, ac nid yr eglwys o anghenraid. Fel hyn, mae'n debyg, y dylem ystyried y fynwent yn Ysgol yr Hendre.



Y safle yn ystod y cloddiad ac Eglwys Llanbeblig a’r Fynwent Newydd fodern
(safle’r fynwent Rufeinig) ar ochr arall y ffordd