English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol - Penmon

Themâu Hanesyddol

Tirwedd y Canol Oesoedd

Mae gan Brydain frenhinoedd, cyhoeddodd Gildas y clerigwr yn hanner cyntaf y chweched ganrif, bedair neu bum cenhedlaeth ar ôl i awdurdod yr ymerodraeth Rufeinig dorri ei gysylltiadau gweinyddol â thalaith Britannia. Roedd brenhinoedd gorllewin Prydain wedi datblygu seilwaith, ond nid oedd y seilwaith hwnnw'n cael ei gymeradwyo gan Gildas. Roedd gan y brenhinoedd eglwysi ond, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym, yn anaml y byddent yn dilyn protocolau doethineb. Roeddent yn cynnal cymdeithion y teulu neu'r rhyfelwyr, dynion gwaedlyd, balch a llofruddiog a oedd yn ysbeilio ac yn codi braw ac yn cael eu gwobrwyo ag ysbail. Un o'r brenhinoedd a'r gormeswyr niferus hyn oedd Maelgwn, draig yr ynys. Mae'n debygol iawn mai craidd teyrnas Maelgwn oedd ynys Môn, ac roedd gan y brenin 'fwy o rym na llawer o frenhinoedd, ac roedd yn fwy na'r rhan fwyaf o arweinwyr Prydain'.

Er bod gan Wynedd ei brenin, ni waeth pa mor rymus ydoedd, ef fyddai'r gwr mwyaf blaenllaw ymhlith cymheiriaid. Roedd arglwyddiaethau breninlinol a thiriogaethol yn ymddangos yn y deyrnas, ar sail awdurdod treftadol a chysylltiadau gwaedoliaeth. Byddai'r rhwydweithiau hyn mewn arglwyddiaeth o'r fath yn cael eu hystyried yn faenol. Y rhain oedd sefydliadau grym y deyrnas. Wrth i deyrnas dyfu, cafodd cyn diriogaethau annibynnol, a oedd yn cael eu diffinio gan derfynau naturiol megis afonydd a chefndeuddyfroedd y mynyddoedd eu cymathu, i ffurfio cantrefi, a oedd yn ddamcaniaethol yn 100 o aneddiadau. Erbyn y 12fed ganrif roedd tri chantref ym Môn, ac roeddent wedi eu rhannu'n chwe chwmwd. Mae ardal astudiaeth tirwedd Penmon yn cynnwys tua un rhan o dair o gwmwd Dindaethwy. Cymydau niferus Gwynedd yn ystod y 12fed ganrif a'r 13eg ganrif oedd unedau gweinyddol gweithredol y deyrnas. Roedd maenor frenhinol, neu faerdref, wedi ei sefydlu ym mhob cwmwd, a daeth y faerdref yn ganolbwynt ar gyfer gweinyddu a chasglu neu oruchwylio dyledion a rhenti o fewn y cwmwd. Roedd y cysyniad o dref neu drefgordd wledig wedi sefydlu ei hun, â therfynau pendant, ac roedd nifer o dyddynnod wedi cael eu sefydlu o fewn y terfynau hyn o bosibl, yn dilyn rhannu ac isrannu drwy etifeddiaeth gyfrannol. Roedd y drefgordd a'i hisraniadau cydrannol, y gwelyau a oedd yn perthyn i'w gilydd drwy waedoliaeth, yn cael eu hystyried fel yr unedau priodol ar gyfer codi trethi a rhenti.

Daliadaeth tir a thenantiaid
Gallai cwmwd unigol gynnwys nifer o wahanol fathau o drefgorddau a daliadaethau. Mae ardal yr astudiaeth o'r dirwedd yn cynnwys trefgorddau rhydd a threfgorddau caeth, rhai'n cael eu dal gan y brenin, ac eraill yn cael eu dal gan Esgob Bangor. Roedd y faerdref frenhinol yn Llanfaes yn rhan o ystâd diriog y brenin. Roedd yn cynnwys rhan helaeth o'i dir demên yn y cwmwd ac roedd yn gweithredu yn debyg i faenor. Roedd yno hefyd sefydliadau lled-fynachaidd nad oeddent yn talu unrhyw beth i'r brenin, ac a oedd yn cael eu hystyried fel sefydliadau a oedd yn cael eu dal gan y Sant perthnasol. Yn ogystal â phwy oedd eich landlord, roedd gwahaniaethau yn y ffordd roedd y tir yn cael ei ddal. Roedd rhydd-ddeiliaid yn rhydd gan y gallent deithio, neu adael eu tir, ac roedd gan lawer eu tenantiaid caeth eu hunain. Roedd eu tir yn etifeddadwy ac yn rhanadwy rhwng etifeddion gwryw - hen drefniant a barhaodd tan ddechrau'r 16eg ganrif. Roedd tenantiaid rhydd, er hynny, yn talu dyledion i'r Tywysog. Roedd rhai rhydd-ddeiliaid yn dal eu tir yn eithriadol o rydd, fel rheol o ganlyniad i dir wedi ei roi gan y Tywysog, yn dilyn amgylchiadau arbennig neu am wasanaeth a roddwyd. Roedd Penhwnllys, Twrgarw, rhan o Ddin Sylwy, rhan o Fodynwy a phentrefannau Bodarddar a Chefn Coch yng Nghrymlyn yn rhydd-ddaliadau, yn bennaf mewn llain helaeth ar draws y tir uwch uwchben yr arfordir o Grymlyn a Rhos Llaniestyn i gefnen galchfaen Din Sylwy. Mae'n rhaid bod Trecastell, ar yr arfordir dwyreiniol i'r gogledd o Lanfaes, ar un adeg yn dir caeth wedi ei roi gan Lywelyn ap Iorwerth, ynghyd â rhai trefgorddau eraill ym Môn, i feibion ac wyrion Ednyfed Fychan, prif weinyddwr Llywelyn.

Roedd tir caeth a oedd yn cael ei ddal dan ddaliadaeth tir gwelyog hefyd yn etifeddadwy. Y gwahaniaethau pwysig oedd na allai tenantiaid caeth a'u hetifeddion adael eu tir a bod y rhenti a'r dyledion arferol yn fwy na'r hyn a delid gan y rhydd-ddeiliaid. Roedd Llangoed a Chrafgoed yn drefgorddau caeth tir gwelyog yn nwylo'r Esgob. Er bod llawer o renti wedi eu cyfnewid i sylltau a cheiniogau erbyn diwedd y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif, roedd sail arferol y taliadau ariannol hynny i'w gweld o hyd. Er enghraifft, gofynnid am fesurau o wenith, brag ceirch adeg y Nadolig a cheirch adeg y Grawys. Roedd pawb yn gweithio am dri diwrnod yn lladd gwair yn yr hydref a disgwylid iddynt roi iâr adeg y Nadolig. Roedd y tenantiaid hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer pori ceffylau'r disteiniaid.

Roedd math arall o ddaliadaeth gaeth, sef tir cyfrif, yn eithriadol yn y 13eg ganrif ac wedi ei neilltuo ar gyfer demên y Tywysog. Roedd tenantiaid tir cyfrif yn weithwyr ystâd gweithglwm. O bryd i'w gilydd, roedd pentrefannau o denantiaid tir cyfrif yn cael eu sefydlu ar wahân i'r demên ac mae'n bosibl bod ganddynt swyddogaethau arbenigol. Ym Mhorthaethwy roedd llond dwrn o denantiaid wedi eu lleoli ar hanner gafael o dir ar lan yr afon i weithio'r fferi yn y lleoliad hwnnw. Ar y tir uchel uwchben Llanfaes mae'n bosibl bod cydrannau tir cyfrif Crymlyn a Bancenyn (a roddwyd i Benmon yn ddiweddarach), Bodynwy a Din Sylwy, yno i reoli eiddo'r Tywysog ar y tiroedd gwartheg yn yr ardal honno.

Tiroedd âr y Canol Oesoedd
Roedd gan bawb rywfaint o fynediad at dir âr ond gallai maint daliad tenant amrywio'n fawr rhwng daliadaethau caeth a daliadaethau rhydd, a rhwng gwahanol drefgorddau. Ar gyfartaledd, roedd tenantiaid caeth Esgob Bangor yn nhrefgordd Llangoed a Chrafgoed yn dal 6.5 acer o dir âr yr un. Roedd tua 300 acer o dir âr yn Llangoed a thua 100 acer yng Nghrafgoed. Nid oes gwybodaeth mor fanwl ar gael ar gyfer y rhydd-ddeiliaid, ond fel enghraifft, roedd trefgordd a maenol Llys Dulas (y tu allan i'r ardal gymeriad bresennol) yn dal bron i hanner cwmwd cyfan Twrcelyn. Yn nhrefgordd Porthamel ym Menai, yn y 14eg ganrif, roedd saith gwely rhydd-ddaliadol, ac roedd un o'r saith, sef Gwely Iorwerth ap Llywarch, yn ymestyn dros bron i 600 acer. Byddai'r aceri âr wedi eu rhannu'n stribedi crwm hir. Pennid hyd a chrymedd y stribedi gan symudiadau trwm y wedd o ych a oedd yn tynnu'r aradr. Roedd y stribedi'n amrywio o ran hyd a lled, ond yn gyffredinol, roeddent yn llai na'r tiroedd âr traddodiadol yn Lloegr. Yn yr ardal bresennol roedd y stribedi'n chwech neu saith metr o led. Nid oedd ffens o amgylch y stribedi ac roedd stribedi pob tenant wedi eu gwasgaru er mwyn caniatáu cyfran deg o dir da a gwael.


Llanddona

Erbyn y 15fed ganrif, a'r 16eg ganrif yn fwyaf arbennig, darganfu'r bonedd mwy niferus a gwydn ffyrdd o fynd o gwmpas cyfraith etifeddiaeth anaralladwy Cymru, ac aethant ati i brynu tir rhydd neu gaffael prydlesau mewn tir caeth wrth adeiladu ystadau mwy. Cyfunwyd parseli o dir, a'u cau â chloddiau gan ddilyn 'arferion swydd Dyfnaint'. Mae'r dirwedd amaethyddol bresennol yn wahanol iawn i dirwedd amaethyddol y canol oesoedd. Cafodd cloddiau a gwrychoedd tiroedd caeëdig, a oedd yn aml yn dilyn llinellau crwm meysydd âr agored, eu chwalu mewn llawer achos ar ddechrau'r 19eg ganrif er mwyn cyfuno'r caeau unwaith eto i ffurfio caeau mawr â therfynau unionsyth. Er hynny, mae modd gweld patrwm cynharach y cyn feysydd âr agored o hyd mewn rhai ardaloedd mewn cloddiau a llinellau gwrychoedd. Mae enghreifftiau i'w gweld ar ochr orllewinol pentref Llangoed; ar ochr ogleddol eglwys Llangoed lle mae terasau amaethyddol, 6 i 7m o led a thros 100m o hyd ar y llechwedd wedi cael eu llechfeddiannu ar yr ochr ddwyreiniol gan erddi tai teras; ar ochr ogledd-ddwyreiniol a gorllewinol pentref hynafol Llanddona, ar forlin y Traeth Coch ac yn y patrwm toredig o goed sy'n sefyll ar eu pen eu hunain yn Llanfaes, lle mae'r cloddiau a'r gwrychoedd wedi eu chwalu.

Trefi
Nid oedd sôn am drefi canoloesol, yn yr ystyr fodern, yn y rhan hon o Ogledd Cymru yn y Canol Oesoedd, ond byddai pentrefannau , neu glystyrau bach o aneddiadau, er enghraifft ym Mhentir a Chaim, yn nhrefgordd Penmon; clwstwr o anheddau ger yr eglwys yn Llangoed o bosibl a phentrefan yn fwy tebygol ger glan y môr ac eglwys Dona Sant yng Nghrafgoed y canol oesoedd (Llanddona). Er hyn, roedd Llanfaes, maerdref frenhinol cwmwd Dindaethwy, yn rheoli fferi traeth Lafan, yn cynnal ffeiriau a marchnadoedd rheolaidd, ac yn annog masnachu ar y môr. Gallai'r faerdref hefyd gael ei hystyried yn ystod y 13eg ganrif fel egin tref fasnachol. Mae ty cardod y Brodyr Llwyd a sefydlwyd ar y draethlin yn cadarnhau'r statws hwnnw.

Mae'n debyg bod cnewyllyn Llanfaes yn agos at yr eglwys, nid nepell o'r Llys i'r de-orllewin. Ddeuddeng mlynedd ar ôl concwest Gwynedd, yn dilyn gwrthryfel Madog ap Llywelyn, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu castell newydd, sef Biwmares, a chyfosod tref wedi ei chynllunio gerllaw. Roedd Biwmares 1.5 km i'r de o Lanfaes. Daeth y datblygiadau yn Llanfaes i ben a chafodd y gymuned ei symud a'i hadleoli mewn lleoliad wedi ei adeiladu'n bwrpasol yn Rhosyr yng nghwmwd Menai. Meddiannodd Biwmares y fasnach forol a'r fferi. Derbyniodd ei siarter ym 1296 ac roedd ganddi ei ffeiriau a'i marchnadoedd ei hun. Yn ystod chwarter cyntaf y 14eg ganrif roedd dros 150 o diroedd bwrdais wedi eu cymryd yn y dref. Datblygodd Biwmares i fod yn gnewyllyn pwysig o ran dylanwad a masnach.


Beaumaris

 

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Penmon

 

Hanes Adeiladu

Ar wahân i adeileddau creiriol o'r Oes Haearn ddiweddar a'r canrifoedd Brythonig-Rufeinig, sy'n cynnwys enghreifftiau da o aneddiadau cylchoedd cytiau a bryngaer fawr Din Sylwy, sydd i'w gweld ar y gefnen galchfaen, nid oes unrhyw adeiladau hyn na dechrau'r 12fed ganrif wedi goroesi i gael eu cofnodi.

Er hynny, mae'r gallu i drin cerrig i'w weld yn amlwg ym Mhenmon lle'r oedd croesau uchel o'r 10fed ganrif neu'r 11eg ganrif yn sefyll ar un adeg y tu allan i eglwys gyfoes. Mae'r croesau'n arwyddocaol iawn mewn cyd-destun litwrgaidd, ond mae ystyriaethau mwy rhyddieithol sydd hefyd yn arwyddocaol. Mae croes y Parc Ceirw, neu groes Sant Antwn, yn 2.77 m o uchder, gan gynnwys y pedestal a phen y groes. Mae pedair ochr y goes toriad sgwâr wedi eu haddurno. Roedd cydblethiadau cromlinog, yn trawsffurfio'n batrymau rhwyllwaith, ar ochr dde ac ochr chwith y groes; tri edefyn ar y chwith, dau edefyn ar y dde. Mae golygfa ffigurol fechan ar waelod y panel chwith. Ar gefn y goes mae patrwm rhwyllwaith unionlin edefyn dwbl yn trawsffurfio'n gadwyn gylchoedd arddull Borre. Mae'r addurniadau ar y tu blaen yn wahanol eto. Mae pum panel o addurniadau, wedi eu hamgáu mewn paneli neu wedi eu gwahanu gan fandiau llydan o fotiffau tramffyrdd a phelenni. Mae'r dilyniant o'r brig i'r gwaelod fel a ganlyn: cydblethiad rhuban; rhannwr tramffyrdd-a-phelenni; cydblethiad rhuban; golygfa ffigurol; cydblethiad rhuban; rhannwr tramffyrdd-a-phelenni; golygfa ffigurol. Mae'r olygfa ffigurol ganolog yn darlunio Sant Antwn yn y Diffeithwch, yn cael ei demtio gan ddau gythraul, un bob ochr iddo. Mae'r motiff hwn yn amlwg yn fynachaidd, neu'n feudwyaidd efallai, ac mae elfennau tebyg iawn i'w gweld yn eiconograffi croesau uchel Iwerddon. Mae Moone a Castledermot, y naill a'r llall yn swydd Kildare, yn enghreifftiau da.

Mae'r groes sydd bellach yn sefyll yn y transept deheuol bron yn gwbl geometrig ac unionlin o ran ei harddull addurniadol. Yr eithriadau yw dau ben anifail sy'n terfynu patrymau rhwyllwaith ar ochrau'r groes. Mae pen y groes, sy'n un darn â'r goes, yn amgáu croes â breichiau cyfartal o fewn cylch. Mae echelinau'r groes hon yn cael eu hymestyn y tu allan i'r cylch fel ymwthiadau ehangedig, byr. Mae'r garreg ar y groes hon, ac ar gyfer dwy groes sydd wedi eu colli, a gofnodwyd gan Lhwyd, bron yn sicr wedi eu cloddio'n lleol, o'r brigiad rhwng y priordy a'r Trwyn Du. Mae croes Sant Antwn yn eithriadol o eclectig gan ei bod yn ymgorffori arddulliau Llychlynnaidd Gwyddelig a Manawaidd (cadwyn gylchoedd Borre), arddull fynachaidd Wyddelig (paneli ffigurol, yn fwyaf arbennig, Sant Antwn) ac arddull ranbarthol Gymreig (patrymau cydblethu). Mae elfennau tebyg i ben y groes ar y groes yn y transept deheuol i'w gweld ar hyd arfordir Gogledd Cymru ym Maen Achwyfan ac, fel nodwyr beddi, yn St John's yng Nghaer. Mewn geiriau eraill, roedd pentir Penmon yn agored i ddylanwadau, ac yn rhannu dylanwadau o bob rhan o fasn Môr Iwerddon yn y 10fed ganrif.

Ym Mhenmon hefyd y mae'r adeilad cynharaf sydd wedi goroesi yn yr ardal dirwedd. Codwyd adeilad newydd yn lle'r eglwys hynafol yn y 12fed ganrif, os nad yn gynharach. Mae'r dehongliad presennol yn awgrymu mai'r canol presennol yw'r gydran gynharaf sydd wedi goroesi, ac adeiladwyd twr a thranseptau ynghlwm wrtho yn y pen dwyreiniol. Er hynny, mae nifer o anawsterau â'r dilyniant hwn. Mae'n fwy tebygol, efallai, bod eglwys gynharach (canol un siambr a changell) yn sefyll yn lleoliad y gangell bresennol a bod y twr wedi ei ychwanegu yn y pen gorllewinol. Dyma'r lleoliad mwy arferol ac mae'n cael ei adlewyrchu yn y trefniadau yn Llaneilian. Gellid gweld y canol presennol wedyn fel ychwanegiad, yn ffinio ag ochr orllewinol y twr, ateb sydd, i raddau helaeth, yn cysoni anghysonderau cyswllt y canol a'r twr. Yn olaf, ychwanegwyd tanseptau i'r gogledd ac i'r de, at waliau canol yr eglwys, ac nid y twr. Mae'r agoriad bwaog o ganol yr eglwys i'r twr ac o'r twr i'r transeptau wedi ei addurno'n hardd ag addurniadau Romanésg gan gynnwys mowldin rholiog, cyplysau a biledau siecrog. Cynhelir y bwa gorllewinol, mewn dau ddull, gan golofnau sydd ag addurniadau ffigurol ac arbyst siamffrog. Cynhelir y bwa deheuol (adnewyddwyd y transept gogleddol yn y 1850au) gan golofnau sydd â phennau sgolop ac arbyst siamffrog. Mae arcedau ffug yn ymestyn ar hyd dwy ochr i'r transept deheuol. Eglwys Penmon yw'r eglwys Romanésg fwyaf addurniadol yng ngogledd-orllewin Cymru.

Ceir arwyddion o darddiad cynnar yn yr ardal dirwedd yn Llaniestyn ac yn Llangoed. Yn Llaniestyn mae porth bwa crwn, gyda'r bwa'n cael ei gynnal gan arbyst, wedi ei adeiladu i mewn yn wal orllewinol yr eglwys ddiweddarach a cheir bedyddfaen Romanésg â phatrymau arcedau a chyplysau siecrog. Yn Llangoed, mae'r adeiladwaith cynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o'r 16eg ganrif ond cedwir croes arysgrifenedig â throellau arni, sy'n dyddio o'r 12fed ganrif, a bedyddfaen o'r 14eg ganrif i mewn yn yr eglwys.

Yn nechrau'r 13eg ganrif gwnaethpwyd newidiadau mawr i drefniadaeth cymuned fynachaidd Penmon. Darostyngwyd yr hen glas a chyflwynwyd cymuned o ganonau Awstinaidd yn ei le. Yr un pryd, rhoddwyd rhagor o dir ac mae'n debyg bod gwaith adeiladu newydd wedi ei wneud i gyd-fynd â'r newidiadau. Adeiladwyd cangell estynedig yn lle'r un gynharach ac adeiladwyd bloc ffreutur a hundy anferth i'r de o'r gangell. Disgrifiwyd yr adeilad hwn fel un o'r adeileddau gorau sydd wedi goroesi o'r 13eg ganrif ym Môn. Mae wedi ei derasu i mewn i'r llethr ac mae'n adeilad tri llawr, 12 m o uchder, sy'n cynnwys storfa, ffreutur a hundy yn yr atig. Ceir mynediad i'r storfa drwy ddrws unigol ar yr ochr ddeheuol ar y llawr gwaelod. Mae'r tir uwch ar yr ochr ogleddol, fodd bynnag, ar yr un lefel â tho'r storfa, gan wneud y storfa'n lled-danddaearol. Mae gan y waliau isaf ar yr ochrau deheuol a dwyreiniol ôl-ogwydd amlwg iawn. Mae dwy ffenestr ar lefel y storfa ar yr ochr ddeheuol, y naill a'r llall â goledd eang, y tu mewn a'r tu allan, a darn cul iawn tua hanner ffordd drwy'r agoriad.

Defnyddid y llawr cyntaf fel ffreutur. Cyrhaeddid y llawr hwn o'r ochr ddeheuol drwy risiau allanol at ddrws ger pen gorllewinol yr ochr ddeheuol. Nid yw'r grisiau'n bodoli mwyach ac mae'r drws wedi ei lenwi. Mae drws gwrthwynebol ar yr ochr ogleddol a oedd yn arwain at y clwysty a changell yr eglwys. Goleuid y ffreutur gan bum ffenestr hir a chul yn y wal ddeheuol a dwy yn y wal orllewinol, i gyd yn gogwyddo ar yr ochr fewnol. Goleuid yr hundy yn yr atig gan ffenestri llai a chulach yn yr ochrau deheuol a dwyreiniol a chan lansed mawr hir â mowld capan ar yr ochr orllewinol. Mae'r gwaith maen o rwbel calchfaen mewn cyrsiau â rhywfaint o gerrig grut. Cloddiwyd y cerrig, fel y croesau, o chwareli lleol, a oedd mwy na thebyg ar dir y Priordy. Defnyddir cerrig grut manach hefyd ar gyfer y naddiadau.

Mae eglwys Biwmares yn wahanol iawn i eglwysi traddodiadol yr ardal dirwedd. Mae'n eglwys fawr mewn arddull Seisnig. Deisyfwyd yr eglwys, yn fuan ar ôl sefydlu'r dref ym 1296, gan fod teithio i eglwys y plwyf yn Llandegfan yn anhwylus. Dechreuodd y gwaith adeiladu yn gynnar iawn yn y 14eg ganrif, ac roedd yn cynnwys twr gorllewinol, canol yr eglwys a dwy eil ochr a changell. Ceir mynediad i'r eiliau drwy arcedau o bedwar bwa dau ganolbwynt. Mae ffenestri crwn y llofft olau, sydd ar ffurf agoriadau pedairdalen yn rhai gwreiddiol; adnewyddwyd y rhai sydd ar yr ochr ogleddol yn yr 17eg ganrif. Ailfodelwyd rhan uchaf y twr yn y 19eg ganrif. Ailadeiladwyd y gangell tua'r flwyddyn 1500 ac addaswyd gogwydd to canol yr eglwys a'r eiliau tua'r un adeg gan osod paraped murfylchog ar ei ben. Mae'r ffenestri sydd ym mhen dwyreiniol pob eil ac yn y transept yn ffenestri bwa pedwar canolbwynt o'r 16eg ganrif mewn arddull sythlin, ac mae'r rhan fwyaf wedi cael eu hadnewyddu. Mae cofebau pwysig yn yr eglwys, sy'n cynnwys cofeb efydd i Richard Bulkeley, y masnachwr, ei wraig Elizabeth a'r teulu, o tua 1530; beddrod Rowland Bulkeley ac Alice Beaconsall (1537) a sarcoffagws, y tybir ei fod yn gysylltiedig â Joan, gwraig Llywelyn ap Iorwerth, (1237) a gludwyd, yn y pen draw, o Lanfaes.

Yn eglwys Llaniestyn mae llunddelw cerfwedd isel eithriadol o Iestyn Sant sy'n dyddio o ddiwedd y 14eg ganrif. Mae'r llunddelw i'w weld bellach yn y capel deheuol sy'n dyddio o'r 15fed ganrif. Mae gan y drws sydd ar ochr ddeheuol canol yr eglwys fwa eliptigol o fewn ffrâm sgwâr ac mae'r sbandreli suddedig yn dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif neu ddechrau'r 16eg ganrif. Er ei bod wedi cael ei hailadeiladu ym 1873, mae eglwys Llanddona, wedi cadw ei drws o ddiwedd y 15fed ganrif, sy'n debyg o ran arddull i un Llaniestyn.

Yr adeilad seciwlar cynharaf sydd wedi goroesi yn yr ardal dirwedd, hyd y gwyddom, yw Hafoty, Llansadwrn. Cynlluniwyd y ty fel neuadd, yn agored hyd at y to, ag aelwyd yn y canol a chyntedd croes ar yr ochr ddwyreiniol. Y tu draw i'r cyntedd croes, roedd adain ddwyreiniol yn darparu ystafelloedd gwasanaeth ar y llawr gwaelod ac ystafell, neu ystafelloedd, preifat ar y llawr cyntaf. Cofnodir y ty ym 1453 fel ty a oedd yn nwylo Thomas Norreys, gwr o West Derby, yn Swydd Gaerhirfryn, a oedd eisoes wedi sefydlu ei hun ym Miwmares yn y 1430au. Mae Hafoty yn enghraifft anghyffredin, yn yr ardal hon, o neuadd fframwaith coed sydd wedi goroesi. Ailwampiwyd y ty yn ddiweddarach yn y 15fed ganrif a'i orchuddio â cherrig, gan gadw tystiolaeth o byst waliau pren a dangos y newid o bren i gerrig (rwbel lleol heb ei osod mewn cyrsiau). Mae cyplau'r to, yn y neuadd a'r adain ddwyreiniol, yn gyplau tynlath a brenhinbyst. Mae gan y cwpl sydd wedi goroesi yn y neuadd gleddau bwaog yn codi o'r pyst wal sydd ar ôl ynghyd â mowldin chwarter crwn ar ochr isaf y cleddau a'r dynlath. Mae'r nodweddion hyn ac arddull y cyplau yn anghyffredin ym Môn, ac mae'n bosibl mai hwn yw'r unig leoliad lle maent i'w gweld ym Môn. Maent i'w gweld yn amlach yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn Nyffryn Dyfrdwy a Swydd Gaerhirfryn. Mae'n dal yn bosibl bod ty fframwaith pren Hafoty yng nghanol y 15fed ganrif yn arddull dieithr yn yr ardal a'i fod yn gysylltiedig â'r bobl a symudodd i ardal Biwmares yn y 15fed ganrif.

Ar ddiwedd y 15fed ganrif, neu yn ystod dechrau'r 16eg ganrif o bosibl, cafodd adain gerrig ei hychwanegu, neu ei chodi yn lle adeiledd ym mhen gorllewinol neuadd Hafoty. Roedd tri chwpl trawst croes mawr yn ffurfio to dros y llawr cyntaf ac roedd yn cael ei gynhesu gan le tân ochrol â chorn allanol. Ym 1511 daeth y ty yn eiddo i'r teulu Bulkeley a osododd le tân anferth yn wal ddeheuol y neuadd, ynghyd â chorn allanol enfawr a chorn simnai uchel, wedi ei osod yn groes gongl. Adeiladwyd y llefydd tân ochrol cynharaf â chyrn simnai allanol yng ngogledd-orllewin Cymru yn ystod chwarter olaf y 15fed ganrif, yng Nghochwillan, Llanllechid a Phlas Berw, Llanidan. Cynrychiolir lle tân cynnar posibl arall gan y corn simnai deheuol ar wal orllewinol Ty'r Prior ym Mhenmon ac, ar raddfa lai, ar wal ogleddol y ty twymo ym Mhenmon. Mae'n debyg bod y naill adeiledd a'r llall wedi eu hadeiladu ar ddechrau'r 16eg ganrif, fel parhad o bosibl o waith adeiladu yn yr eglwys yn niwedd y 15fed ganrif.

Ym Miwmares, mae tystiolaeth ar gyfer tai fframwaith pren neu dai hanner pren yn amlwg yn rhif 32 Castle Street (y Tudor Rose) lle mae rhan o'r neuadd ac adain ddeheuol adeilad o'r 15fed/16eg ganrif wedi goroesi. Yn union ar draws y ffordd i Church Street mae rhif 34 Castle Street, lle mae cyplau trawstiau croes â chynheiliaid ar oleddf, tulathau trwodd, ategion gwynt a mewnlenwad paneli plethwaith wedi goroesi. Yn rhif 32 a rhif 34 mae dyrnau addurnedig y Rhosyn Tuduraidd i'w gweld dan eu trawstiau croes priodol.

Mae Tros y Gors, Llangoed, wedi'i nodi fel ty â fframwaith pren yn wreiddiol, wedi ei orchuddio â cherrig yn ddiweddarach. Yr elfen sydd wedi goroesi, o'r 15fed ganrif o bosibl, yw adain ogleddol neuadd a gollwyd. Roedd yr adain ei hun yn fargodol ac mae ffenestr bwa pigfain dwy ran wedi goroesi.

Roedd Hen Blas, Biwmares, a ddymchwelwyd ym 1869, yn neuadd adeiniog fawr ac yn gartref ar un adeg i'r teulu Bulkeley, ar Church Street. Yn ei gyflwr gwreiddiol yn y 15fed ganrif roedd y neuadd yn agored i'r to. Cynhelid y to gan gyplau trawstiau croes a gosodwyd nenfwd yn ddiweddarach ar uchder y trawstiau croes. Defnyddiwyd cwpl picell (spere truss) yn yr adain ddwyreiniol a gosodwyd lle tân ochrol ar lefel y llawr cyntaf.

Mae'r nodweddion pwysig a ddarganfuwyd yn ddiweddar wrth wneud gwaith datblygu mewn plasty trefol ar Castle Street yn dangos cyfnod o newid o arddull is-ganoloesol i gyflwyno arddull y Dadeni. Mae'r ty, sydd â dau lawr ac atig, yn cadw cyfosodiad neuadd ganoloesol, cyntedd croes ac ystafelloedd preifat a gwasanaethu mewn pum cilfach, gyda thrawstiau'r nenfwd yn dangos statws y gwahanol ystafelloedd. Mae gan y wal ogleddol (y cefn) lefydd tân ochrol ar ddau lawr, sy'n cael eu gwasanaethu gan gorn allanol anferth sy'n codi i linell y to. Mae'r ddwy wal ben yn cynnwys llefydd tân â ffliwiau o fewn trwch y wal. Mae'r cyrn simnai ar big y ddau dalcen, ac mae'r siafftiau ar y talcen gorllewinol wedi eu gosod yn groes gongl.

Mae'r nodweddion moderneiddio'n cynnwys llefydd tân pedwar canolbwynt ffug ar y llawr cyntaf a lle tân tebyg â phen ymestynnol ar gorbelau chwarter crwn. Yn fwy penodol, ychwanegwyd twr grisiau allanol mawr yn erbyn y wal ogleddol (y cefn) ac yn agos at y corn, neu o bosibl, yn rhan annatod ohono. Mae dwy ffenestr pyst cerrig mowldin ofolo, y naill o gerrig, a'r llall o bren, a ffenestr bren arall debyg mewn ystafell breifat ar y llawr cyntaf.

Tua'r adeg y gosodwyd ffenestri pyst cerrig mowldin ofolo yn rhif 10 Castle Street codwyd ty newydd ger Hen Blas ar Church Street. Nid yw'r adeilad wedi goroesi, ond dengys darluniau o'r safle yn y 19eg ganrif dy dau lawr ac atig â'r hyn sy'n edrych yn debyg i dwr grisiau yn y gornel flaen. Dangosir y ffasâd â drws pedimentog a nifer llawn o ffenestri myliynog a chroeslathog, â phedimentau ar eu pennau.

Ym 1612 adeiladwyd plasty newydd yn Baron Hill yn lle'r adeiladau ar Church Street. Nid oes gennym fanylion am y ty cyntaf yn Baron Hill. Dywedir bod un ffenestr pyst cerrig o'r ty a adeiladwyd ar ddechrau'r 17eg ganrif wedi goroesi. Ailfodelwyd y ty mewn arddull Eidalaidd yn y 1770au a gwnaethpwyd nifer o addasiadau, gan gynnwys gosod talwyneb bwaog hanner crwn uchel tri llawr ac atig. Bu'n rhaid gwneud rhagor o waith ailadeiladu yn dilyn tân yn y 1830au a gostyngwyd y ffasâd i ddau lawr. Un nodwedd benodol yn Baron Hill yn y 18fed ganrif, y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif oedd y gerddi helaeth a'r dirwedd o amgylch y ty.

Mae Tros y Marian ar y gefnen galchfaen yn dy pwysig iawn o ddiwedd yr 17eg ganrif. Fe'i disgrifiwyd fel ty bonedd cynllun trwch dwy ystafell o'r cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, mae nifer o awgrymiadau, gan gynnwys ategwaith uniad union y rhesi gogleddol a deheuol, sy'n awgrymu bod y rhes gefn ogleddol wedi ei hychwanegu yn ddiweddarach a bod y rhes flaen ddeheuol yn cynnwys neuadd ganolog, y ceid mynediad iddi o'r de, gydag ystafelloedd o bobtu iddi i'r gorllewin ac i'r dwyrain, drwy holl led yr adeilad, ynghyd â grisiau yn y cefn. O ganlyniad, gellid ei ystyried yn ddigon tebyg i dai mawr eraill ym Môn megis Plas Berw (ty 1615 Thomas Holland) ac, yn ddiweddarach, Mynachdy, Llanfairynghornwy.

Mae Tros y Marian yn dy dau lawr ac atig. Mae'r ffasâd yn codi fel talcen uwchben y bondoeau ac uwchben y fynedfa flaen sydd wedi ei gosod yn ganolog. Mae gan y drws bendrawst gwarrog clasurol ymestynnol a chornis cafeto gyda phediment uwch ei ben â mowldin cyma reversa. Ceir ffenestr wag, ar gyfer cydbwysedd, a chloer wedi ei lenwi dan big y talcen yn union uwchben y drws ar lefel y llawr cyntaf a'r atig. Mae ffenestri wedi eu gosod yn gymesur ar y ddau lawr, tair uwchben tair o bobtu'r drws. Roedd y rhain yn cynnwys ffenestri dalennog di-gorn (parau tri dros dri, ym mhob un o'r ddwy ddalen) er bod uchder y rhan fwyaf o'r agoriadau ar y llawr gwaelod wedi ei ostwng o un cwarel. Mae'r agoriadau hyn wedi eu hadfer erbyn heddiw. Mae'r talcenni o rwbel lleol ar hap (calchfaen gan mwyaf). Mae'r ffasâd, fodd bynnag, o galchfaen mewn cyrsiau â llin-gyrsiau o gerrig grut mân ar lefel y linteri ar y ddau lawr. Mae'r ffasâd yn arwain ymlaen i ardd hir â wal o'i chwmpas, ac ym mhen draw'r wal mae hafdy wedi ei addurno'n glasurol. Mae'r tai allan yn cynnwys ysgubor a stabl o ddiwedd yr 17eg ganrif a dechrau'r 18fed ganrif a cholomendy cyfoes mawr, sydd heb do erbyn heddiw.

Mae Eirianallt, 525 metr i'r de-orllewin o Dros y Marian, o'r un cyfnod fwy neu lai, ond ei fod mewn arddull lawer mwy gwerinol. Mae'r fynedfa yng nghanol y prif ffasâd (de-dwyrain) a chafodd ei adeiladu'n wreiddiol fel adeilad un llawr a hanner â ffenestri dormer mae'n debyg. Mae ysgubor gerllaw, ar yr un llinell â'r ty. Codwyd y bondoeau yn ddiweddarach i greu bwthyn deulawr llawn. Mae tair ffenestr ar y llawr cyntaf a dwy ar y llawr gwaelod, un bob ochr i'r drws. Mae agoriadau gwreiddiol ar y llawr gwaelod wedi eu lleihau ar gyfer ffenestri dalennog culach sy'n llithro dan fargodfeini ymestynnol mawr. Mae'r ystlysbyst sgwâr a rhan o lintel i'w gweld o hyd. Mae uchder y drws wedi ei ostwng ac mae bargodfaen tebyg uwch ei ben. Mae'r ty wedi'i adeiladu â rwbel calchfaen ond defnyddiwyd cerrig grut ar gyfer ystlysbyst gwreiddiol y ffenestri a'r drws. Mae ystlysbyst y drws a'r ffenestri wedi eu siamffro.

Mae'r dystiolaeth orau o amrywiaeth yr adeiladau diweddarach i'w weld ym Miwmares a'r cyffiniau. Mae gan Wexham Street ei chymeriad arbennig ei hun, ar yr hen lôn bost o Fiwmares. Saif yr Hen Swyddfa Bost ar ochr y ffordd, sy'n cynnwys bythynnod unllawr ac un llawr a hanner gan mwyaf o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif. Mae gan y swyddfa bost ffenestri dormer â ffasâd talcen canolog a drws canolog â philastrau ffliwtiog o bobtu iddo, sy'n cynnal pediment.

Yn Nhros yr Afon, ym mhen de-orllewinol Biwmares ceir clwstwr o adeiladau sydd wedi cyfuno i ffurfio teras o bedwar ty deulawr o ddechrau'r 19eg ganrif, â thu blaen wedi ei rendro ac agoriadau ffenestri a drysau cymesur.

Mae'r grwp yn ddeniadol iawn, yn anad dim oherwydd y mân amrywiadau ym maint a goleddf y to a maint y ffenestri oriel, yn enwedig yn rhif 1 yn y pen gogledd-ddwyreiniol. Mae ffenestri oriel tebyg i'w gweld yn Castle Street, Church Street a Castle Square, lle mae'r ffasiwn yn dyddio mae'n debyg o ganol y 19eg ganrif.

Ym 1829 ymgymerodd Corfforaeth Biwmares â gwaith adeiladu i wella golwg a delwedd y dref. Mae'r teras yn Green Edge yn cynnwys chwe thy tri llawr ac ystafell newyddion a biliards (Clwb Hwylio Môn erbyn hyn) yn y pen dwyreiniol. Mae'r ffasâd yn wynebu'r Grîn ac Afon Menai. Uwchben y pâr canolog o dai ceir talcen pedimentog ac o'u blaen ar y llawr gwaelod, ceir feranda â tho llechi.

Adeiladwyd carchar Biwmares gan Joseph Hansom. Ym 1829 aeth ymlaen i adeiladu Victoria Terrace, ger Green Edge, ar yr ochr dde-orllewinol, ar ddechrau'r 1830au. Awgrymwyd yr enw yn dilyn ymweliad a Biwmares gan y Dywysoges Fictoria. Mae'r teras yn cynnwys deg ty tri llawr ac atig. Mae'r ffasâd clasurol yn wynebu Afon Menai. Mae bloc canolog yn ymestyn allan o'r tu blaen ac yn codi ychydig uwchben y bondoeau ochrol, lle mae rhes o bum pilaster yn cynnal pediment pendrawst, cornis a thalcen plaen. Mae agoriadau'r ffenestri a'r drysau yn gwbl gymesur ar wahân i'r bloc ymestynnol sydd â ffenestri pedimentog talach ar y llawr cyntaf. Mae'r teras cyfan wedi ei wynebu â chalchfaen nadd ar wahân i effaith rwstig gymedrol ar lawr gwaelod y bloc canol. Adeiladodd Joseph Hansom hefyd westy'r Bulkeley, mewn arddull glasurol debyg sydd â nodweddion tebyg i Victoria Terrace (blociau rwstig ar y llawr gwaelod, cerrig calchfaen nadd llyfn uwchben). Mae'r prif dalwyneb yma'n wynebu Castle Street, er bod cefn yr adeilad i'w weld yn glir o Afon Menai. Mae'r agoriadau'n gymesur, ac mae ffenestri'r llawr cyntaf yn bedimentog. Mae grisiau'n arwain at y fynedfa ar Castle Street, a cheir cyntedd a balconi clasurol, sydd braidd yn anghydweddol. Cyfeirid at y gwesty ar un adeg fel Gwesty Williams Bulkeley, ond mae'n cael ei adnabod fel y Bulkeley ers amser maith.

Yn ystod canol y 19eg ganrif, dymchwelwyd nifer o adeiladau bob ochr i linell hen wal y dref ar ochr ddeheuol Watergate Street a Castle Street, a chodwyd tai newydd yn eu lle ar dir wedi ei adennill yn rhannol o'r môr. Roedd ffyrdd newydd, Alma Street a Raglan Street a, rhwng y rhain Bulkeley Terrace, yn wynebu Castle Street. Erbyn y 1850au roedd y talwyneb a oedd yn wynebu Afon Menai wedi ei drawsnewid bron yn gyfan gwbl gan fentrau Bulkeley ac ysbrydoliaeth Joseph Hansom.

Yn y pen gorllewinol, rhwng Chapel Street a Castle Street, codwyd adeiladau newydd yn lle hen rai yn rhes Townsend. Mae Porth Hir, ty sy'n dyddio o'r 17eg o bosibl, wedi cadw ei gymeriad lleol, er gwaethaf gwaith atgyweirio sylweddol yn ddiweddar.

 

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Penmon

 

Ffyrdd a chyfathrebu

Rhaid bod cludiant a chyfathrebu wedi bod yn anodd erioed yn ardal dirwedd Penmon. Datblygodd y rhwydwaith o lonydd a thraciau fferm i wasanaethu buddiannau lleol iawn ac, i raddau helaeth, mae'r lonydd hyn yn dal i weithredu fel sail i deithio yn yr ardal hyd heddiw. Yr eithriad yw Biwmares a'i rhagflaenydd, Llanfaes, sydd wedi bod yn ganolbwynt cyfathrebu yn y rhanbarth ers canrifoedd.


Ffordd Deg, Sling

Ffyrdd lleol
Mae rhai o'r ffactorau a oedd yn achosi anhwylustod ac anawsterau i'w gweld yng nghais bwrdeiswyr Biwmares yn gynnar yn y 14eg ganrif (Carr, 1982, 240). Roeddent yn honni, gan fod eu heglwys yn Llandegfan, 4.5 km i ffwrdd, eu bod yn methu â theithio mewn tywydd gwael ac yn gofyn am eu heglwys eu hunain. Mor ddiweddar â 1802 roedd y brodyr Skinner yn cerdded o eglwys Llaniestyn i ymweld â 'hen blasty' Hafoty, pan ganfuont eu hunain yn cerdded milltir a hanner ar draws rhostir corsiog. Ymwelodd y Skinners a Colt Hoare â Llanddona a Din Sylwy rhwng 1802 a 1810 a dewisasant ddilyn y llwybr ar dywod y Traeth Coch yn hytrach nag unrhyw lwybr pellach oddi wrth y môr.

Ym Mhenmon, mae dau drac yn cydgyfeirio hrt Eglwys y Priordy a'i chlas blaenorol, y naill o bentref Pentir ar y gefnen galchfaen a'r llall i'r de, yng ngwaelod y sgarp, o gyfeiriad Bryn Mawr. Dangosid y ddau lwybr gan groesau o'r 10fed/11eg ganrif ac roedd y ddau ar derfynau pwysig: terfyn y drefgordd ym Mrynmawr a therfyn y noddfa ym Mhentir.

Ar lefel leol, sicrhawyd rhagor o ffyrdd neu welliannau i ffyrdd o ganlyniad i amgylchiadau arbennig neu er mwyn hwyluso buddiannau penodol tirfeddianwyr. Yn Llanfaes gwnaethpwyd trefniadau yn niwedd y 19eg ganrif, rhwng Baron Hill a Henllys, i gyfnewid parseli o dir a rhesymoli a gwella mynediad i eglwys y plwyf yn Llanfaes, gan greu mwy o breifatrwydd yr un pryd i Henllys ac i ystâd lai Fryars. Mae mapiau ystâd Baron Hill, a luniwyd yn y 1770au, yn dangos nifer o nodiadau mewn pensel sy'n cyfeirio at well mynediad i'r tiroedd amaethyddol.

Ar y gefnen galchfaen ym 1816 roedd nifer o lonydd neu draciau a oedd yn rhedeg yn berpendicwlar ag ochrau serth y draethlin ogleddol. Mae pob un yn darparu mynediad i chwarel carreg galch. Lle bynnag y byddai'n bosibl, cludiant ar y môr fyddai'r dull mwyaf effeithlon a hwylus o gludo nwyddau. Cerddodd Thomas Telford a William Provis ar hyd y forlin ym 1818, cyn belled â'r Trwyn a thu hwnt iddo, i chwilio am graig addas i adeiladu'r Bont Grog dros Afon Menai. Ni allai cerbydau gael mynediad i chwarel Telford, ar yr arfordir islaw Mariandyrys: cloddiwyd dociau, gosodwyd traciau rheilffordd byr, ar y creigiau a wastatawyd a chludwyd y calchfaen i afon Menai mewn cychod hwylio ar lanw. Dair canrif yn gynharach, ar ôl diddymu Mynachlog Llanfaes, roedd Richard Kerver, Meistr gwaith y Brenin, wedi cario llond saith llong o gerrig o'r Fynachlog i'r cei ym Miwmares.

Ffyrdd sy'n arwain i Fiwmares
Ym 1804 i 1805 adeiladwyd ffordd newydd o Fiwmares i gyffiniau fferi Bangor, hynny yw, Fferi George - Porth y Wrach ym Mhorthaethwy. Roedd y ffordd wedi ei therasu i mewn i'r llethr serth i lawr at Afon Menai a darperid rhagfur ar ei chyfer ar yr ochr ddeheuol. Talwyd am y ffordd gan yr Arglwydd Bulkeley, ar gyfer ymwelwyr a gwesteion a oedd yn dod i Baron Hill ac i'r dref. Roedd trywydd diweddarach, ychydig i'r dwyrain o fferi Garth - Borth Wen (y Gazelle), yn mynd â thraffig preifat heibio i Garth Lodge, oddi ar ffordd newydd Biwmares ar hyd ffordd hir ond syth i Baron Hill, gan groesi'r Allt Goch, y ffordd rydwelïol orllewinol o Fiwmares. Cafodd y llwybr, ar hyd Cefnen Llandegfan, heibio i eglwys Llandegfan, ei wella yn ddiweddarach hefyd, yn enwedig yn y pen gogledd-ddwyreiniol lle'r oedd y Ffordd Filltir yn ymuno ag Allt Goch.

Roedd Biwmares, am gyfnod maith, yn lleoliad i'r swyddfa bost a'r lôn bost rhwng Llundain, Caergybi a Dulyn. Roedd fferi Biwmares yn cludo teithwyr i Fiwmares o'r tir mawr ac roedd y lôn bost yn mynd â'r teithwyr i fyny Church Street, ar hyd Wexham Street, i fyny Allt Goch, heibio Pen y Garnedd ac ymlaen i Langefni a Chaergybi. Ym 1718 symudwyd y swyddfa bost i Fangor a chollodd y ffordd ei statws fel Lôn Bost.

Mae dwy ffordd wythiennol bwysig arall yn yr ardal hon. Y gyntaf, a'r gynharaf, yw'r llwybr hynafol o faerdref Llanfaes yn y 13eg ganrif, i gwmwd Menai ac ymlaen i faerdref Rhosyr, a ddaeth i gael ei hadnabod yn ddiweddarach fel Niwbwrch. Mae'r ffordd yn anodd i'w holrhain, wedi ei cholli ac yn ddatgymalog mewn mannau, ond gellir rhoi'r darnau at ei gilydd drwy ddefnyddio tystiolaeth o fapiau cynnar. Mae'r ffordd yn mynd i fyny allt drwy goetir Coed Cadw, o ochr dde-orllewinol Henllys. Mae'n dilyn ffordd Llansadwrn, ymlaen i Dreffos, Penhesgyn a Llanddaniel ac ar hyd ochr ogleddol Braint i Rosyr. Yr ail ffordd yw Ffordd Deg, llwybr o Allt Goch, sy'n mynd yn ei flaen i gyfeiriad gogledd-orllewinol, gan ddarparu mynediad i dir amaethyddol, tuag at Gomin Llanddona, cyn mynd i lawr i'r draethlin yn y Traeth Coch.

Ffordd fwy lleol, ond yr un mor bwysig yn hanesyddol, yw ffordd hynafol Lôn Henllys. Mae'n rhannu'r un gwreiddiau â'r ffordd o Henllys i Rosyr. Fodd bynnag, mae Lôn Henllys, yn dangos y llwybr yn y 13eg ganrif i fferi Llanfaes (yn y safle a ddatblygodd i fod yn Grîn Biwmares) ganrif cyn i Fiwmares gymryd y fferi drosodd.

Fferi Llanfaes a Biwmares
Ceir tystiolaeth o fferi Llanfaes mewn ffynonellau dogfennol o 1292 ymlaen, naw mlynedd ar ôl concwest Gwynedd. Roedd y fferi (passagium) yn werth £12 i'r brenin ac roedd dynion y fferi'n talu rhent am eu tir, fel y gwelir yn y dyfyniad hwn: 'from five ferrymen of the port who owe ferrying work in the King's boat at their own charge, for 1 carucate and 2 bovates of land which they hold: 15s.8d.'

Roedd y pum dyn hyn yn gweithio'r fferi ar eu cost eu hunain fel rhan o'r rhent cymudol a delid ganddynt am y tenementau yr oeddent yn eu dal. Roedd y brenin yn talu'r gost o ddarparu'r cwch ac mae'n ymddangos yn ddigon clir bod y gweithwyr fferi hyn yn weithwyr ystâd clwm, ond arbenigol er hynny, ar ddemên y cyn Dywysog. Mae lle da i dybio bod fferi Llanfaes yn teithio o ben deheuol trefgordd Llanfaes, lle mae'r Grîn heddiw ym Miwmares, ychydig bellter o'r angorfa ym Mae Llanfaes. Er gwaethaf twf Biwmares ar ôl 1295 a dirywiad Llanfaes, roedd y fferi'n dal i gael ei hadwaen fel fferi Llanfaes tan ddiwedd 1302. O 1303 ymlaen, rhoddid cyfrif am y fferi gyda demên Biwmares ac roedd yn cael ei dal gan gymuned y dref tan 1562 pan gafodd ei throsglwyddo'n barhaol i'r bwrdeiswyr.


Gallows Point

Mae mapiau diweddar yn dangos y llwybr neu'r llwybrau ar draws Traeth Lafan i Fiwmares. Mae Coasting Pilot Greenville Collins yn 1693 a mapiau ffyrdd John Ogilby a arolygwyd yn gynharach na 1675, ymhlith y rhai mwyaf defnyddiol. Mae Ogilby a Collins yn dangos bod teithwyr yn gadael y llwybr ar y tir ac yn dilyn llwybr ar hyd y traeth mor fuan â Phenmaenbach, yn hytrach na wynebu anawsterau pentiroedd Penmaenbach a Phenmaenmawr. Byddai teithwyr o Gonwy yn croesi morfa heli a thwyni Morfa Conwy, i gyfeiriad y môr o fynydd Conwy cyn belled â Phenmaenbach cyn mentro i'r traethau llanw, gan gadw'n agos at y glannau nes cyrraedd Penmaenmawr. Os oedd y tywod yn sych, byddai'r teithwyr yn mynd yn eu blaenau ar hyd y traeth, gan fynd heibio Penmaenmawr. Os oedd y llanw i mewn, gellid dilyn llwybr o Gonwy i Ddwygyfylchi, i'r de o fynydd Conwy a thrwy fwlch Sychnant ac ymlaen i Benmaenmawr lle'r oedd y ffordd yn codi i fynd o amgylch y pentir. Roedd y llwybr hwn yn hynod o beryglus, yn enwedig mewn tywydd gwael. Ar ôl pasio Penmaenmawr roedd y llwybr yn ymestyn ar draws y traeth agored nes bod y teithwyr o fewn pellter gweiddi o Fiwmares. Nid oedd y sianel ddofn ym Miwmares byth yn sych. Mae Ogilby yn dangos y man cyrraedd Môn ym Miwmares. Mae'r ffordd oddi yno'n dilyn Church Street ac yn mynd i'r gorllewin i gyfeiriad Llansadwrn. Mae John Evans, ganrif yn ddiweddarach, yn dangos yr un man gadael y tir mawr ym mhen gorllewinol pentir Penmaenmawr. Erbyn hyn, fodd bynnag, roedd cryn dipyn o welliannau wedi eu gwneud i'r ffyrdd rhwng Conwy a Bangor.

Ar adeg arolygon Collins ac Ogilby, roedd man croesi ar draws y tywod o Benmaenmawr yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd. Gallai'r daith ar draws fod yn beryglus fodd bynnag, mewn niwl a thywydd gwael, ac wrth gwrs, pan oedd y llanw i mewn. Os hynny, dywed Ogilby bod yn 'rhaid mynd drwy Fangor'. Sefydlwyd Postfeistr ym Miwmares ym 1562, ac ym 1620 ac unwaith eto bedair blynedd yn ddiweddarach gofynnodd y postfeistr, Rowland ap Robert, am byst milltir a pholion canolraddol yn y tywod i nodi'r llwybr (Davies, 1942, 111). Tua 1690 symudwyd lleoliad y fferi o'r Grîn i Benrhyn Safnes (Penryn Savynast) (John Leland c.1540) neu Osmund's Aire yn lle hynny (Baron Hill MS.). Mae'n debyg mai'r rheswm dros newid y lleoliad oedd newidiadau yn y sianel a'r tywod ei hun. Mae'r sianel yn y Penrhyn ychydig yn gulach ac yn serthach nag yn y Grîn ac mae'r tywod, ychydig yn uwch, ac yn sychach am fwy o amser.

 

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Penmon

 

Twf y Bonedd

Yn draddodiadol, ac mewn gorffennol pell iawn yn ôl, pennid statws uchelwr Cymreig gan ei enw da a'i linach, tra pennid statws yr Eingl-Sacson, mewn theori, yn ôl faint o dir a oedd ganddo a statws y Gwyddel yn ôl nifer ei wartheg. Mewn cyd-destun Cymreig, ni ellid trosglwyddo tir rhydd-ddaliadol, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, ac roedd y broses o etifeddiaeth gyfrannol yn sicrhau bod unedau mwy'n cael eu rhannu'n unedau llai.

Er hynny, roedd gan arglwyddi patriarchaidd a threftadol gryn dipyn o ddylanwad dros aneddiadau a oedd yn gysylltiedig â pherthynas a'u tiroedd. Gallai'r tiroedd clan hyn fod yn helaeth. Roedd trefgordd neu faenol Porthamel yn cynnwys hanner cwmwd Menai, er enghraifft. Roedd cwmwd Twrcelyn, yn bennaf, yn cynnwys maenolau rhydd-ddaliadol Llys Dulas a Bodafon. Roedd rhan ogledd-orllewinol cwmwd Dindaethwy, gydag afon Nodwydd yn ffin iddi, yn dir wedi ei gyfyngu i'r rhydd-ddeiliaid. Mae drwy drefgordd rydd-ddaliadol yn ardal dirwedd Penmon, sef Penhwnllys a Thwrgarw. Ym 1352 roedd un gwely rhydd ym Mhenhwnllys, sef Gwely Tudur ap Madog. Erbyn heddiw mae pedair fferm yn dwyn yr enw Penhwnllys yn agos at ei gilydd. Maent yn dangos bod cyn ddaliadau tameidiog yn y drefgordd wedi eu huno, ac yn rhoi syniad o faint y drefgordd. I'r de mae Twrgarw. Roedd y drefgordd hon hefyd, ar un adeg, yn cynnwys un gwely, sef gwely Tudur ap Madog. Roedd y ddwy drefgordd yn rhannu'r un felin, Melin Tudur, ac mae'n debyg bod disgynyddion Tudur ar un adeg i'w cael yn y ddwy drefgordd. Roedd gan Dafydd ap Rhys (wyr Tudur ap Madog, sylfaenydd y gwely) dir yn y ddwy drefgordd a Gwilym ap Gruffydd o Laniestyn oedd ei gyd-etifedd ym Mhenhwnllys. Roedd y teulu hwn yn ddisgynyddion i'r arglwydd treftadol, Iarddur, yn Llanddyfnan a Phenhesgyn, un o brif deuluoedd Môn.


Priododd merch Gruffydd ap Tudur ap Madog, Eva, â Gwilym ap Gruffydd ap Heilyn yng nghanol y 14eg ganrif. Yn gynharach yn y ganrif roedd tir wedi ei ryddhau i Gwilym ap Gruffydd ap Tudur ap Madog yn Llaniestyn. Daeth y tiroedd hynny a thiroedd eraill i feddiant mab Eva, sef Gruffydd ap Gwilym ap Gruffydd. Priododd ei fab ef, Gwilym, â Jonet, merch Syr William Stanley. Byddai tiroedd ar y tir mawr a oedd wedi crynhoi yn y genhedlaeth flaenorol drwy briodas Eva a thrwy Generys, gwraig Gruffydd ap Gwilym, yn dod yn gnewyllyn cyn bo hir i ystâd y Penrhyn a oedd yn eiddo i'r teulu Gruffydd yng Nghororion a Bodfaeo (Glyn Roberts, Y Bywgraffiadur Cymreig, Grifith (Teulu), Penrhyn).

Rhoddwyd Cochwillan i Robin brawd Gwilym, a phenodwyd wyr Robin, William Griffith, yn Siryf Caernarfon am oes ar ôl dod â thrwp o wyr meirch i gynorthwyo Harri'r VII ym mrwydr Bosworth ym 1485. Etifeddodd mab Gwilym a Jonet, sef William, ystâd ei dad a phenodwyd ef yn Siambrlen Gogledd Cymru. Cafodd mab ac wyr William eu hurddo'n farchogion a bu'r ddau'n dal y teitl Siambrlen ar ôl ei gilydd.

O ganlyniad i etifeddu darnau helaeth o dir yn Nindaethwy yng nghanol y 14eg ganrif, ynghyd â daliadau yng Nghororion a Bodfaeo ar y tir mawr, sicrhawyd bod brenhinlin y teulu Gruffydd yn cynnal eiddo tiriog sylweddol a dylanwadol y ddwy ochr i Afon Menai yn ystod y 15fed ganrif. Roedd brenhinlin teulu Griffith y Penrhyn ar ei anterth ar ddiwedd yr 16eg, a dechreuodd ddirywio ar ôl hynny. Fodd bynnag, mae'r amgylchiadau hyn yn dangos rhai o'r prosesau a'r gweithredoedd sy'n cyfrannu at dwf teuluoedd penodol. Mae'r rhain yn cynnwys aelodaeth o deuluoedd hynafol uchel eu parch, priodasau call a gwobrau am wasanaeth.

Mae enghraifft hynod bwysig a chynnar o adeiladu ystâd o ganlyniad i wasanaethau a roddwyd i'w gweld yn Nhrecastell. Mae'n debyg bod Trecastell, ar ddechrau'r 13eg ganrif, yn rhan o ddaliadau caeth y Tywysog yng nghwmwd Dindaethwy. Yn gyfnewid am wasanaeth ffyddlon fel prif weinyddwr Llywelyn ap Iorwerth, rhoddwyd nifer o drefgorddau yng Ngwynedd, yn rhydd, i Ednyfed Fychan a'i etifeddion. Un o'r rhain oedd Trecastell. Roedd y drefgordd yn wreiddiol yn nwylo Goronwy, mab Ednyfed, a chafodd ei throsglwyddo drwy genedlaethau'r llinell honno. Yn y 14eg ganrif roedd Tudur Fychan yn cynnal Trecastell fel ei brif drigfa. Roedd Trecastell wedi cael y fraint eithriadol o gynnal ei llys ei hun. Mewn priodasau olynol diweddarach priododd wyr Tudur, Ieuan Fychan, ag Angharad, aeres Mostyn, gan wneud Trecastell yn rhan o frenhinlin Mostyn yn hanner cyntaf y 15fed ganrif.

Tua'r adeg pan oedd ystâd y Penrhyn ar y tir mawr yn cael ei sefydlu yn y 15fed ganrif, priododd Elin, merch William ap Gruffydd a Jonet Stanley, â William Bulkeley, oddeutu'r flwyddyn 1440. William oedd Cwnstabl Castell Biwmares ac roedd ar fin dod yn sylfaenydd y teulu mwyaf pwerus a dylanwadol yng nghwmwd Dindaethwy, os nad yng Ngogledd Cymru. Nid y Bulkeleys oedd y teulu cyntaf na'r olaf i gael eu denu i Fwrdeistref fasnachol Anglicanaidd Biwmares o Swydd Gaerhirfyn, Swydd Gaer a thu hwnt. Roedd swydd weinyddol yn arwain at statws a grym, ond tir oedd y peth pwysicaf. Mae'r gweithredoedd niferus sydd wedi eu casglu yn archifau Baron Hill yn gatalog o'r ymdrech ddiwyd a llwyddiannus i gasglu eiddo. Yn fuan ar ôl i William Bulkeley ddod i'r ardal, priododd ei fab ag Alice, merch Bartholomew Bold a chyda hi daeth llawer o dir ar y tir mawr yn Arllechwedd. Yn ystod y 15fed ganrif, ar ôl diddymu'r tai crefyddol, daeth cyfleoedd i gael tir mynachaidd ar brydles. Roedd y teulu Bulkeley'n honni bod ganddynt fudd ers tro byd ym Mhenmon, fel stiwardiaid y lle, a gofynasant i Thomas Cromwell am fferm y Priordy. Yn y diwedd, ym 1565, cafodd Syr Richard Bulkeley yr 2il dy'r prior, yr adeiladau cwfeiniol, yr ynys a'r tir. Erbyn diwedd y ganrif, roedd gwaith yn cael ei wneud i Dy'r Prior, gan gynnwys adeiladu corn simnai allanol, colomendy arddangos, adeiladau amaethyddol ac, yn ddiweddarach, wal galchfaen helaeth o amgylch Parc Ceirw, gan greu ystâd fechan wedi ei hadnewyddu ym mhen Dindaethwy.


Penmon

Yn Llanfaes, rhoddwyd tir ac adeiladau mynachlog y Brodyr Llwyd i Elis Wynne ym 1563. Yn fuan wedi hynny, cafodd Richard Whyte, Uchel Siryf Ynys Môn o 1567 hyd 1568, y brydles ac, ym 1623 adeiladodd Roland White mab Richard, a Chwnstabl Castell Caernarfon, dy ar y safle yng nghanol rhai o adfeilion yr hen Fynachlog. Priododd ei fab, Henry, ag Anne, merch Syr Richard Bulkeley ar ddechrau'r 17eg ganrif ac ailadeiladodd ei wyr, Henry arall, Fryars ym 1693. Ymestynnwyd y tir i'r gorllewin tua'r flwyddyn 1800 er mwyn cael rhywfaint o breifatrwydd ac adeiladwyd ty newydd, ar safle'r hen dy, a oedd yn nwylo'r teulu Bulkeley ym 1866.

Daeth William Hampton i Fiwmares yn weddol fuan ar ôl William Bulkeley. Cafodd Hampton diroedd yn Llanfaes, gan gynnwys yr Henllys yng nghraidd y faerdref yn Llanfaes. Sefydlwyd plasty yma, â'i ddemên ar safle traddodiadol pwysig ac ar garreg drws Baron Hill fwy neu lai. Ailadeiladwyd y Plasty ym 1852. Adeiladwyd y plasty cyntaf yn Baron Hill gan Syr Richard Bulkeley y 3ydd ym 1618. Cafodd ei ailadeiladu yn y 1770au ac eto yn y 1830au a'r 40au, â therasau a gerddi. Roedd y ffordd sy'n arwain ato o Garth Lodge oddi ar y ffordd o Borthaethwy i Fiwmares ar un adeg yn rhodfa hir a hardd yn croesi pont addurniadol dros Allt Goch. Ar y gefnen uwchben Coed Cadw a rhwng Baron Hill a Henllys, mae obelisg coffa 28 m o uchder a adeiladwyd ym 1880. Mae Baron Hill a Henllys, gyda'i gilydd, yn arddangos tirwedd boneddigion yn ddi-dor ar ochr orllewinol Biwmares a Llanfaes.

Mae effaith yr ystadau mawr i'w gweld yn fwyaf arbennig yn nhref Biwmares lle gwelir bod dylanwad y teulu Bulkeley yn hanner cyntaf y 19eg ganrif wedi cael effaith gadarnhaol ar Castle Street a'r adeiladau sy'n wynebu Afon Menai. Roedd Green Edge, ar ochr y môr i'r castell a'r llys, wedi ei adeiladu gan Gorfforaeth Biwmares ym 1829. Gwelwyd datblygiad i gyd-fynd â'r datblygiad hwnnw yn y de-orllewin yn Victoria Terrace, mewn arddull glasurol a chrandiach a oedd bron yn goffaol. Yn nes ymlaen ar hyd glan yr afon gwelir gwesty Williams Bulkeley, sydd unwaith eto â ffasâd clasurol o 1835 ond ei fod yn wynebu Castle Street yn hytrach na'r afon. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, adeiladwyd datblygiad newydd yn y 1850au ym mhen deheuol Castle Street, a oedd yn cynnwys Alma Street, Raglan Street a Bulkeley Terrace. Erbyn canol y 19eg ganrif, ym mhob plwyf a oedd yn cyffwrdd yr ardal dirwedd, roedd Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley yn dal mwy o dir o bell ffordd na neb arall, gyda 2500 o aceri ym mhlwyfi Penmon, Llansadwrn, Llanfaes, Llaniestyn a Llangoed. Roedd wedi bod yn dal tir yn Nin Sylwy hefyd yn yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, ond roedd wedi ei drosglwyddo erbyn y 19eg ganrif. Ni lwyddodd unrhyw rai o gynrychiolwyr hen deuluoedd y pendefigion, a oedd mor bwerus yn y canol oesoedd, i ddod i'r amlwg na goroesi i sefydlu eiddo tiriog sylweddol i'r cyfnod modern. Ond ni ellid dweud mai newydd-ddyfodiaid oedd y teulu Bulkeley erbyn hyn, oherwydd roeddent wedi sefydlu yn Nindaethwy ers pedair canrif. Gellid gwneud yr un honiad yn achos y teulu Hampton a oedd yn byw yn Henllys. Echelin Biwmares oedd y dylanwad pwysicaf a'r canolbwynt rheoli yn yr ardal dirwedd, a pharhaodd i fod felly.

 

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Penmon

 

Tirweddau Mynachaidd

Er bod brenhinoedd a thywysogion Gwynedd yn gymwynaswyr tai crefyddol, ac y gallent fod yn defnyddio gwasanaeth eu personél, nid oedd mynachlogydd yn rhan o gylch dylanwad gweinyddiaeth frenhinol a threthiant. Roedd hyn yn berthnasol i'r cymunedau clas hynafol, yn ogystal ag urddau pan-Ewropeaidd y 13eg ganrif: ym Môn, y Sistersiaid, yr Awstiniaid a'r urddau cardod a oedd yn cael eu cynrychioli gan y Brodyr Llwyd.

Roedd cymunedau clas yn un o nodweddion y Canol Oesoedd cynnar. Gallai natur eu mynachaeth amrywio'n fawr. Un ffordd yr oedd clas yn dod i fodolaeth oedd drwy gytundeb ymhlith arweinwyr y gymuned i roi eu tir, neu rannau ohono, er mwyn adeiladu a chynnal eglwys, ac er lles eu heneidiau. Er bod y gymuned yn cael ei hystyried fel claswyr (aelodau o'r clas) nid oedd angen mwy nag un offeiriad ordeiniedig yn y gymuned a byddai'r pennaeth treftadol yn cael y teitl abad. Ffordd arall oedd drwy gael tir gan frenin neu arglwydd er mwyn adeiladu eglwys a chreu bywoliaeth, i aelod iau o'r teulu brenhinol efallai, neu unigolyn arall a oedd yn cael ei ffafrio. Gallai'r tiroedd fod yn helaeth a byddai cefnogaeth rhwydwaith mewnol yn cael ei ddarparu gan gymuned o denantiaid caeth a oedd yn bodoli'n barod.

Catalydd arall posibl ar gyfer sefydlu eglwys a chymuned glas, ar wahân i 'les eneidiau' fyddai bodolaeth flaenorol lle sanctaidd naturiol, megis ffynnon, neu gysegr neu fedd gwr sanctaidd cydnabyddedig neu hynafiad uchel ei barch. Yng nghyd-destun yr astudiaeth dirwedd bresennol, ym Mhenmon y ceir yr enghraifft orau. Mae eglwysi ar y tir mawr ym Mhenmon ac ar Ynys Lannog. Mae'n bosibl bod yr ynys, a'r ffynnon sanctaidd sy'n agos at yr eglwys ar y tir mawr, ill dwy wedi cadw rhinwedd dwyfol o orffennol paganaidd cynhanesyddol. Safai croesau cerrig o'r 10fed ganrif neu'r 11eg ganrif y tu allan i'r eglwys ac mae o leiaf ddwy wedi eu cofnodi ar derfynau pwysig tiroedd mynachaidd, neu'n agos at y terfynau hynny. Mae'n debyg y byddai'r tenantiaid caeth yn byw mewn pentrefannau ar gyrion gorllewinol y 'noddfa'.

Cafodd y ddwy eglwys eu hailfodelu yn y 12fed ganrif, bob yn dipyn, gan ddilyn cynllun tebyg a oedd, yn eu ffurf gyflawn, yn cynnwys cangell ddwyreiniol, twr canolog, canol gorllewinol a thranseptau gogleddol a deheuol. Roedd yr agoriadau o ganol yr eglwys i'r twr ac o'r twr i'r transeptau wedi eu haddurno'n goeth mewn arddull Romanésg.

Cafodd y ddwy eglwys eu hailfodelu yn y 12fed ganrif, bob yn dipyn, gan ddilyn cynllun tebyg a oedd, yn eu ffurf gyflawn, yn cynnwys cangell ddwyreiniol, twr canolog, canol gorllewinol a thranseptau gogleddol a deheuol. Roedd yr agoriadau o ganol yr eglwys i'r twr ac o'r twr i'r transeptau wedi eu haddurno'n goeth mewn arddull Romanésg.

Yn niwedd y 1230au sefydlwyd mynachlog y Brodyr Llwyd yn Llanfaes, gyda'r costau'n cael eu talu gan Lywelyn ap Iorwerth, er cof am ei wraig, Joan, merch y Brenin John. Safai'r fynachlog ar y draethlin, yn nherfyn gogledd-ddwyreiniol y drefgordd, o fewn cyrraedd rhwydd i gnewyllyn tebygol cymuned y faerdref, yn agos at eglwys Llanfaes. Roedd Llanfaes yn datblygu'n gyflym fel tref fasnach ac roedd y dewis o urdd gardod yn amlwg yn gysylltiedig â'r amgylchiadau hynny. Roedd y fynachlog, yn ystod ei hoes o 300 mlynedd, wedi ei hamgáu â wal gerrig. Mae'r adeiladau sydd wedi eu dogfennu'n cynnwys eglwys y fynachlog, neuadd, cegin, bragdy, tai allan amrywiol ac iard â cherti. Roedd y fynachlog hefyd yn berchen ar ddarnau penodol o dir ger y cyffin. Roedd clafdy neu dy gwahangleifion gerllaw, ac mae'n debyg bod hwnnw hefyd yn nwylo'r brodyr.

Tua'r adeg y gwahoddwyd y Brodyr Llwyd i setlo ym maerdref Llanfaes, roedd newidiadau'n dechrau cael eu gwneud i hen strwythur y clas. Disodlwyd claswyr Penmon gan gymuned o ganonau Awstinaidd. Dewisid Awstiniaid i gymryd lle hen gymunedau clas yn aml gan nad oedd yr urdd benodol hon yn urdd gaeëdig ac roedd hyblygrwydd eu trefniadau rheoli'n caniatáu iddynt ymgymryd â chyfrifoldebau plwyfol. Yn ystod trydydd chwarter y 13eg ganrif dechreuwyd ar waith adeiladu sylweddol a oedd yn cynnwys cangell newydd fwy a bloc ffreutur a hundy tri llawr. Cadarnhawyd hawliau yn abadaeth Penmon a rhoddwyd rhagor o dir ar y llwyfandir uwch uwchben Llanfaes yng Nghrymlyn a Bancenyn.

Ym 1537 a 1538 diddymwyd Priordy Penmon a mynachlog Llanfair, ynghyd â phob ty crefyddol arall yng Nghymru a Lloegr. Ym 1539 rhoddwyd prydles mynachlog Llanfaes i Thomas Bulkeley o Fiwmares. Cludwyd cerrig adeiladu da o'r safle mewn cychod i'w defnyddio ym Miwmares. Yn dilyn hynny trosglwyddwyd y brydles i'r teulu Whyte a adeiladodd y ty seciwlar cyntaf ar safle'r fynachlog. Goroesodd rhan o eglwys y fynachlog tan y 19eg ganrif, gan gael ei defnyddio fel ysgubor. Erbyn y 1860au roedd gweddill yr eglwys wedi ei chlirio ac roedd plasty newydd wedi ei adeiladu ar safle hen dy Rowland Whyte. Erbyn hynny roedd y tir yn nwylo teulu Bulkeley unwaith eto. Yn ystod yr 20fed ganrif, ailddatblygwyd y safle cyfan ar gyfer gwaith peirianyddol. Er hynny, parhaodd plasty'r 1860au fel swyddfa'r gwaith, ac erbyn heddiw mae'n dy preifat unwaith eto.

Ymdrechodd y teulu Bulkeley yn galed iawn i gael prydles ar dir yr hen Briordy ym Mhenmon. Ni fuont yn llwyddiannus, ac am gyfnod, cafodd y tir ei drosglwyddo o'r naill ffefryn brenhinol i'r llall. Roedd y rhain yn gynnwys John Dudley, Iarll Warwick, a John Moore. O'r diwedd, ym 1565, llwyddodd yr ail Syr Richard Bulkeley i gael y brydles, a oedd yn cynnwys y priordy, yr adeiladau cwfeiniol a'r ynys. Er hynny, parhaodd yr eglwys i wasanaethu'r gymuned leol fel eglwys y plwyf.

Gwelwyd llawer o waith adeiladau newydd tua 1600. Roedd y gwaith adeiladu hwn yn cynnwys gwaith ar y priordy, ychwanegu corn simnai gogleddol, allanol ac ailwampio'r gosodiad mewnol mae'n debyg. Adeiladwyd y colomendy yn ystod y cyfnod hwn. Mae'n debyg bod y Parc Ceirw wedi ei adeiladu rywbryd yn ddiweddarach, ond ceir cyfeiriadau at wal gerrig yr ardal magu ysgyfarnogod ('the stone wall of the hare warren') cyn gynhared â'r 1580au.

 

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Penmon

 

Chwareli Arfordirol

Agorwyd nifer o chwareli mawr ar hyd yr arfordir o Landdona i Benmon yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif.

 

Y chwarel cerrig grut yn Nhrwyn Du a ddarparodd y cerrig ar gyfer y croesau o'r 10fed ganrif a'r 11eg ganrif ym Mhenmon.
 chalchfaen a cherrig grut Penmon yr adeiladwyd y bloc ffreutur o'r 13eg ganrif ym Mhriordy Penmon.
Defnyddiodd Thomas Telford a William Provis galchfaen Penmon i adeiladu'r Bont Grog dros Afon Menai.

Mae calchfaen a brigiadau bach o gerrig grut wedi eu cario o'r gefnen ers canrifoedd. Mae chwarel gerrig grut mewn lleoliad uchel hanner ffordd rhwng Priordy Penmon a'r Trwyn Du, ger ty Trwyn Du, sydd bellach yn adfail. Mae'n debygol iawn bod y groes nodedig o'r 10fed ganrif neu'r 11eg ganrif sydd bellach yn nhransept deheuol eglwys Penmon, wedi ei ffurfio o garreg grut y Trwyn Du. Cofnodwyd ail groes, y dywedir ei bod yn sefyll i'r de o'r eglwys ar un adeg, gan Edward Lhuyd ym 1699. Disgrifiodd yntau'r groes hon fel un a oedd yn debyg i'r cerrig yn y chwarel meini melinau.

Ym 1610 roedd cwyn wedi ei dwyn gerbron Llys y Siecr ynglyn â'r chwareli yn y Trwyn Du a chwarel Fedw Fawr, hanner ffordd ar hyd y draethlin rhwng Penmon a Llanddona. Asgwrn y gynnen oedd y cwestiwn pa un oedd y trechaf, pa un ai hawl y Goron i chwareli llechi neu hawliau'r tirfeddiannwr. Roedd prydles gan y Goron wedi ei rhoi i ddieithryn a drowyd ymaith gan Syr Richard Bulkeley ac a aeth ati wedyn i gloddio 200 o feini melinau o'i chwareli.

Gwnaethpwyd defnydd helaeth o galchfaen Penmon yn y gwaith newydd ym Mhriordy Penmon yn nechrau'r 13eg ganrif. Mae hyn i'w weld yn amlwg iawn yn adeilad trillawr y ffreutur lle defnyddir rwbel calchfaen mewn cyrsiau, â cherrig grut yma ac acw. Yn nechrau'r 16eg ganrif ychwanegwyd bloc ystafell dwymo i ben dwyreiniol y ffreutur lle mae cerrig grut yn amlwg ac yn cael eu defnyddio ar gyfer conglfeini, ystlysbyst a linteri.


Penmon


Mae'n debyg bod chwareli bychain yn cael eu defnyddio'n aml ar gyfer defnydd lleol. Adeiladwyd waliau Parc Ceirw Penmon o galchfaen, wedi ei gloddio ar y safle. Mae cafnau'r cloddio i'w gweld o hyd ochr yn ochr â waliau'r 18fed ganrif. Dechreuodd chwarelyddiaeth ar raddfa ddiwydiannol yn nechrau'r 19eg ganrif.

Yn y 1820au roedd y chwareli calchfaen ger y Traeth Coch, islaw Din Sylwy, ar waith. Agorodd Richard Davies, groser o Langefni a thad y Brodyr Davies, o Borthaethwy, perchenogion llongau, cyfanwerthwyr a masnachwyr coed, siop yn y chwarel, gan ddefnyddio'r môr i gludo nwyddau i'w gwerthu i farchnad gaeth, am arian parod. Ychydig ymhellach draw ar hyd yr arfordir, islaw Sinach, ger aber y nant, Fargen Wen, sefydlwyd chwarel arall, ar y draethlin, ac un arall eto yn Seiriol. Ar hyd y draethlin hon y cerddodd Thomas Telford a'i beiriannydd preswyl, William Provis, i chwilio am y graig fwyaf addas i adeiladu Pont Grog Afon Menai, a gwblhawyd ym 1826


Seiriol

Ym Mharc Dinmor ar ochr ddwyreiniol y Trwyn, agorwyd chwareli a chaewyd hwy wedyn heb dyllu fawr mwy na rhyw acer o dir.

Y chwareli mwyaf yn y 19eg ganrif oedd y rhai hynny yn Nin Sylwy ger y Traeth Coch, chwarel Flagstaff ym Mhenmon a Chwareli Penmon ym Mharc Penmon. Roedd chwarel Din Sylwy yn dal ar agor ar ddechrau'r 20fed ganrif ond caeodd cyn 1920. Agorodd chwareli hefyd tua'r tir.

Roedd cloddio'n digwydd mewn chwareli bychain ger Marian ac ar lethrau Mariandyrys, o Eirianallt i Hendre Boeth - roedd odynau calch yn gysylltiedig â'r rhan fwyaf ohonynt; roedd gefail ger Eirianallt. Roedd y chwareli ym mhen gorllewinol Mariandyrys, fodd bynnag, hefyd wedi cau erbyn dechrau'r 20fed ganrif.


Penmon Park

Mae chwarel Parc Penmon 160 m i'r de-orllewin o Briordy Penmon. Mae gwaith cloddio cynharach yn dal yn amlwg islaw'r sgarp calchfaen i'r gogledd o'r eglwys.

Roedd plân ar oleddf yn cludo'r cerrig o'r brif chwarel drwy doriad wedi ei wneud gan ddyn i lanfa ar lefel y draethlin. Mae olion swyddfeydd a barics i'w gweld o hyd yn y chwarel ac mae mwy o adeiladau diwydiannol ar y draethlin, ger y lanfa gerrig. Ar droad y 19eg/20fed ganrif cafodd y ffordd isaf i Benmon ei gwella a chodwyd pont dros yr inclein. Roedd y chwarel wedi ehangu i tua 6 ha ym 1911 ond roedd wedi cau erbyn tua 1920.


Flagstaff

Roedd chwarel Flagstaff yn cloddio tua wyth acer (3.2 ha) ar ddiwedd y 19eg ganrif ac roedd ganddi swyddfeydd, adeiladau a phlanau ar oleddf yn cludo'r cerrig i lanfa ar y draethlin ym Mhorth Penmon.

Erbyn 1911, roedd y rhwydwaith o dramffyrdd ar oleddf wedi ei ymestyn yn sylweddol. Roedd odynau mawr wedi eu hadeiladu ac roedd y chwarel wedi ehangu i 15 acer (6 ha). Erbyn y 1920au roedd y chwarel wedi agor 26 acer (10.7 ha).

Ar ddiwedd y 19eg ganrif, ail-agorwyd yr hen chwarel yn Ninmor. Erbyn y 1920au roedd yn gweithio 5.8 acer (2.4 ha) ac roedd tramffyrdd yn cludo'r deunydd i lanfa ar yr arfordir gogleddol. Erbyn trydydd chwarter yr 20fed ganrif, roedd Dinmor wedi ehangu i arwynebedd o 37 acer (15 ha). Caeodd y chwarel yn y 1970au. Erbyn heddiw mae fferm bysgod wedi ei sefydlu ar yr hen safle diwydiannol.

 

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Penmon


 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol