English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol - Themâu Hanesyddol Mawddach

Themâu tirwedd hanesyddol

Rhagarweiniad

Mae'r ardal sy'n destun i'r astudiaeth benodol hon yn cwmpasu ardal gyfan Mawddach a nodwyd ar y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol yng Nghymru gan Cadw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd, HLW(Gw) 14, yn Cadw: Henebion Hanesyddol Cymru, 1995, t121).

Ystyrir bod aber Afon Mawddach, yn haeddiannol, yn un o'r golygfeydd naturiol gorau a mwyaf trawiadol yng Nghymru, ac mae wedi denu nifer gynyddol o ymwelwyr ers dechrau'r 18fed ganrif. Mae'r ardal yn cynnwys aber afon a'r llethrau arfordirol o'i hamgylch i'r gorllewin o Gadair Idris yn ne Meirionnydd. Yn sail i'r harddwch hwn, wrth gwrs, mae hanes hir a chymhleth o ddefnydd tir, sydd wedi llunio'r dirwedd dros gyfnod o sawl mil o flynyddoedd.

Ceir tirwedd greiriol gymhleth ar y cribau uchel uwchben ochr ddeheuol yr aber, ac yno mae rhai o'r henebion cynhanesyddol cynnar pwysicaf a mwyaf helaeth yng Nghymru (gan gynnwys grwpiau o henebion angladdol a defodol o'r oes efydd, llwybr (cynhanesyddol) Ffordd-ddu, aneddiadau a chyfundrefnau caeau (gan gynnwys Llys Bradwen)) o amgylch Cyfannedd ac ar Fryn Seward, yn ogystal ag aneddiadau canoloesol a llociau cysylltiedig, yn enwedig o amgylch Llynnau Cregennen.

Dengys yr ardal hefyd broffil oed diddorol a phwysig o ran adeiladu, yn nhref Abermaw ac allan yng nghefn gwlad. Mae hanes anheddu yn yr ardal hon yn fwy cymhleth nag yn sawl rhan o Feirionnydd, gan fod adeiladau boneddigaidd' oedd yn gysylltiedig â datblygu'r ardal yn fan cyfarfod ffasiynol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi'u codi ar ben yr aneddiadau amaethyddol/brodorol; gellir cysylltu hyn, o bosibl, â'r mudiad rhamantaidd pan ddenodd yr ardal lawer o arlunwyr, llenorion a meddylwyr o fri oedd yn gwerthfawrogi'r harddwch gwyllt yn y dirwedd (ac yn ei gofnodi). Mae tyfiant twristiaeth o tua 1800 ymlaen yn gysylltiedig â hyn. Ymledodd allan o Abermaw a dogfennwyd yr hanes yn yr ardal hon yn drylwyr iawn, yn enwedig wedi dyfodiad y rheilffordd ym 1867, pan sefydlwyd cymunedau newydd' cyfan (megis Fairbourne ac Arthog) a drawsnewidiodd y dirwedd a'r isadeiledd cymdeithasol.

Ar yr un pryd, denodd yr ardal sylw diwydianwyr cyfoethog o Ganoldir Lloegr. Gwnaethant adeiladu plastai trawiadol ar lan y dr a phlannu llawer o'r llethrau coediog (dwy enghraifft yn unig yw Caerdeon a Neuadd Glandwr ar ochr ogleddol yr aber). Mae elfennau amrywiol wedi'u dylunio yn nhirwedd yr ardal, yn rhannol oherwydd ei hinsawdd naturiol dyner ac maent yn defnyddio'u manteision naturiol hyd yr eithaf. Mae llawer o'r rhain, megis Taith Gerdded Panorama, yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, pan wnaed ymgais fwriadol i ddatblygu Abermaw yn gyrchfan twristiaeth ond, yn aml, mae eu tarddiad yn gynharach. Ar ochr ddeheuol Afon Mawddach mae dwy ardd wych Garthangharad ac Abergwynant. Gwelir ardaloedd sylweddol o goetir ysblennydd yn y ddwy ardd yn ogystal ag ardaloedd gerddi ffurfiol neu led-ffurfiol.

Ceir tystiolaeth dda o ddatblygiad arferion amaethyddol yn yr ardal, yn enwedig yn y dirwedd greiriol gymhleth ar ochr ddeheuol yr aber, lle gwelir cyfres o lociau o gloddwaith a charreg (rhai ohonynt yn gysylltiedig ag aneddiadau cynhanesyddol a chanoloesol), linsiedi, ffiniau caeau a chyfres bwysig o feudai cae (yn gysylltiedig â ffermdai cynnar).



Gwelodd y bryniau sy'n union y tu ôl i lethrau gogleddol yr aber ruthr unigryw am aur yng nghanol y 19eg ganrif. Mae effaith hyn i'w gweld hyd heddiw ar ffurf ceuffyrdd a lefelau (daeth y mwyngloddio o ddifrif i ben yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf), ac roedd hefyd yn gyfrifol am ddatblygiad y Bont-ddu. Agorwyd dwy chwarel lechi yn Nyffryn Panteinion, yr ochr arall i'r aber, ar fwy neu lai yr un pryd. Ni fu'r rhain yn fentrau o ddifrif fel y rhai ymhellach i'r gogledd. Er hynny, gellir gweld eu holion yn glir o'r dyffryn islaw. Bu ychydig o fwyngloddio plwm, arian, copr a manganîs ar yr wyneb yng Nghyfannedd Fawr.

Bu thema llwybrau trafnidiaeth yn bwysig yma erioed. Yn ogystal â'r llwybr cynhanesyddol tybiedig o'r enw Ffordd-ddu, sy'n anelu o'r arfordir i mewn i'r tir ac yn dilyn nifer o henebion cynhanesyddol pwysig, roedd fferi Abermaw yn sefydliad pwysig. Byddai'n cludo pobl dros geg yr aber, o leiaf o ddechrau'r cyfnod canoloesol (soniodd Gerallt Gymro amdani). Defnyddiwyd y fferi hefyd fel rhan o lwybr y Post Brenhinol o Ddolgellau i Abermaw (defnyddiwyd y ffordd dyrpeg newydd oedd yn mynd trwy'r Bont-ddu yn ddiweddarach), cyn croesi'r aber a mynd i'r de i gyfeiriad Tywyn.

Fodd bynnag, newidiwyd tirwedd arfordirol yr ardal yn ddramatig wedi 1867 pan agorwyd Rheilffordd arfordir y Cambrian, (oedd yn cysylltu Aberystwyth â Phwllheli) gan gynnwys codi pont barhaol dros geg yr aber. Daeth hyn â mwy o dwristiaid ac arweiniodd at ddatblygu Abermaw a Llwyngwril, yn ogystal ag adeiladu Fairbourne a llawer o ddatblygiadau newydd eraill.


Cynyddodd poblogrwydd aber Afon Mawddach yn gyflym yn ystod y mudiad Rhamantaidd ar ddechrau'r 19eg ganrif (sef y cyfnod pan dyfodd poblogrwydd Abermaw fel cyrchfan wyliau), fel y soniwyd eisoes. Dros y blynyddoedd, arhosodd llawer o ymwelwyr yn Abermaw, gan gynnwys Shelley a'i wraig Harriet, Wordsworth, Pennant, Charles Darwin, John Ruskin, Gladstone, William Wilberforce, y Cadfridog Booth a Boneddigesau Llangollen. Gwnaethant ddisgrifio harddwch yr ardal mewn llythyrau ac ysgrifau eraill. Richard Wilson oedd un o'r cynharaf o'r sawl arlunydd a ymwelodd â'r ardal (nifer o weithiau, gan amlaf). Yn olaf, dyma leoliad yr eiddo cyntaf a roddwyd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Dinas Oleu, uwchben Abermaw).

 

Yn ôl at map ardal Mawddach

Perchnogaeth tir

Saif ardal y prosiect ar ddwy ochr aber o bwys, ac mewn tri phlwy canoloesol a dau gwmwd Llanaber (yng nghwmwd Ardudwy), Brithdir a Dolgellau, a Llangelynnin (y ddau yng nghwmwd Tal-y-bont) (Williams-Jones, 1976). Yn y Merioneth Lay Subsidy Roll o 1292-3, cofnodir bod Llanaber yn gymharol gyfoethog (gwerth rhwng 30 a 40 swllt i bob mil o erwau), bod Brithdir a Dolgellau yn gymharol dlawd (gwerth rhwng 20 a 30 swllt i bob mil o erwau) tra bod Llangelynnin yn un o'r plwyfi cyfoethocaf ym Meirionnydd (gwerth rhwng 40 a 60 swllt i bob mil o erwau).

Mae sawl safle anheddiad gwledig anghyfannedd o amgylch Llynnau Cregennen (pen dwyreiniol ardal 14), ond eto, ni wnaethpwyd unrhyw waith i'w rhoi mewn cyd-destun tirwedd neu economi. Fodd bynnag, ymhellach i'r dwyrain (yn ardal 18), cawn ddogfennaeth ardderchog, a thystiolaeth sydd wedi goroesi, ar gyfer nifer o ffermydd o'r 17eg ganrif sy'n perthyn i gyfres o drefgorddau canoloesol (Cefn-yr-Owen, Dolgledr a Dyffrydan) ac mae'n debygol eu bod wedi'u lleoli ar yr un safleoedd.

Awgryma tystiolaeth o fapiau cynnar (canol y 19eg ganrif), pan fo'n bodoli, nad yw tirwedd y caeau wedi newid rhyw lawer yn ystod y 150 mlynedd diwethaf, fwy neu lai. Caeau pori yw'r drefn bresennol yn gyfan gwbl (defaid a gwartheg, ynghyd â rhai ceffylau) ac ni nodwyd unrhyw gaeau âr yn ystod gwaith maes.

 

Yn ôl at map ardal Mawddach

Amaethyddiaeth

Er bod tystiolaeth sylweddol o anheddu a defnydd tir cynhanesyddol yn yr ardal, mae llawer o hyn ar ffurf gweithgareddau defodol (gweler ardaloedd 8, 16, 20 a 24) ac ychydig sydd i brofi y bu rhannu tir ac amaethu. Mae nifer o aneddiadau cylchoedd cytiau a llociau cysylltiedig yn bodoli ar ucheldiroedd deheuol Afon Mawddach (ardaloedd y cyfeiriwyd atynt eisoes) ond prin yw'r ffenomen cysylltiedig a elwir yn waliau crwydrol', er syndod (Bowen & Gresham, 1967). Un cloddiad yn unig (Crew, 1978) a wnaed ar gylch cytiau yma, y profwyd eu bod yn ddyddio o'r ganrif 1af i'r 3edd ganrif OC. Nid oedd llawer o dir âr o safon nac adnoddau eraill yn ardal Mawddach (sy'n wir hyd heddiw). Roedd yn ardal ymylol, heb ei hanheddu'n ddwys, ac ychydig o wrthwynebiad oedd yno i awdurdod Rhufain neu i gymryd rhan yn yr economi oedd wedi'i Rufeineiddio. Rhaid ei bod wedi parhau yn ardal wledig ag ychydig o boblogaeth, heb ganolbwynt anheddu go iawn yng nghyfnod y Rhufeiniaid.

Mae amryw o ffermydd o'r 17eg ganrif o amgylch blaen Afon Gwynant. Dengys cofnodion dogfennol eu bod yn eiddo i un o dair trefgordd ganoloesol yma (Cefn-yr-Owen, Dolgledr a Dyffrydan). Mae'n debygol bod yr enwau gwreiddiol yn gysylltiedig â ffermydd ar y safleoedd presennol. Yn anffodus, yr enwau ac amcan o faint y daliadau yn unig sydd ar fap degwm Dolgellau o'r 1840au. Felly mae'n amhosibl ail-greu patrymau caeau'r cyfnod neu ddweud llawer am y math o amaethu a wnaed yno, er bod natur yr ardal heddiw yn awgrymu mai ymylol y bu erioed.

Waliau sychion ar ben linsiedi ar y llethrau serth yw sawl un o ffiniau'r caeau yma (yn fwy felly nag yn unrhyw ardal arall o amgylch Afon Mawddach). Awgryma hyn gyfnod hir o'u defnyddio (mewn mannau eraill, mae'n bosibl y byddai rhai ohonynt yn cael eu hystyried yn gynhanesyddol o ran tarddiad pe byddent yn gysylltiedig â safleoedd aneddiadau cyfoes). Nid oes tystiolaeth ar gyfer patrwm neilltuol y lleiniau yn yr ardal o amgylch unrhyw un o'r trefgorddau hysbys. Awgryma tystiolaeth o fapiau cynnar (canol y 19eg ganrif), pan fo'n bodoli, nad yw tirwedd y caeau wedi newid rhyw lawer yn ystod y 150 mlynedd diwethaf, fwy neu lai.

Mae'r tir ar ymylon gogleddol yr aber yn serth iawn mewn mannau. Erbyn hyn, coetir sy'n gorchuddio llawer ohono, gydag ardaloedd o borfa agored gwasgaredig lle'n aml bydd ceffylau (gweler y ffotograff, ardal 03), a/neu wartheg yn ogystal â defaid, yn pori. Mae peth o'r coetir hwn yn hynafol neu'n lled-naturiol (er bod yr enghreifftiau gorau i'w gweld ar yr ochr ddeheuol, e.e. ardal 19), ond coedwigaeth fodern yw llawer ohono. Mae'r rhan fwyaf o'r llociau yn fawr ac yn afreolaidd eu siâp ac yn awgrymu rhaniadau tir ôl-ganoloesol, ar gyfer rhyw ffurf ar drin tir âr yn wreiddiol yn ôl pob tebyg. Cliriwyd cerrig yn ofalus o'r rhan fwyaf o'r caeau er ei bod yn ardal sydd â llawer o greigiau ar y cyfan. Er hynny, yn yr ucheldiroedd, maent yn parhau heb eu clirio (gweler y ffotograff o ardal 06). Nid oes caeau âr yno heddiw. Mae'n amlwg bod peth o'r tir tuag at ben mewndirol yr aber wedi'i ddraenio, er y daw'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth o hyn o dros y dr.

Mae'r ardal i'r de o'r aber yn fwy diddorol. Yma, gwelwn dirwedd o gyferbyniadau mawr, yn ymestyn o gopa digroeso crib Cadair Idris, ar draws caeau gweddol ffrwythlon y ffermydd cynnar ger Afon Gwynant ac o amgylch Llynnau Cregennen, hyd at y morfeydd heli sydd wedi'u draenio ar lannau Afon Mawddach. Islaw'r sgri, na chafodd ei wella'n amaethyddol, ac uwchlaw'r llethrau coediog serth sy'n ymestyn i lawr hyd at lefel yr aber, mae ardal sy'n rhedeg o'r gorllewin i'r dwyrain yn cynnwys tir amaethyddol gymharol dda. Porfa yw hwn i gyd ar hyn o bryd. Er hynny, mae natur llawer o ffiniau'r caeau yma, sef naill ai waliau ar ben linsiedi sylweddol (e.e. ardal 18), neu waliau treuliant' sylweddol (a adeiladwyd er mwyn defnyddio cymaint o gerrig o'r caeau o amgylch â phosibl) (a welir ym mhen dwyreiniol ardal 14) yn awgrymu clirio ar gyfer rhyw ffurf ar drin tir âr (pe bai ond ar gyfer gwair fel porthiant).

Roedd tarddiad rhai o'r linsiedi, o bosibl, yn y cyfnod cynhanesyddol (nid oes unrhyw anheddu cysylltiedig ond mae eu siâp a'u diwyg yn nodweddiadol), er bod y waliau treuliant yn ddiweddarach yn ôl pob tebyg. Ymhellach i'r gorllewin yn ardal 14 (gweler y ffotograff) ac yn ardal 15, ceir tystiolaeth o raniadau tir cynhanesyddol, sef waliau cromliniol o gerrig. Mae cyfres ddiddorol a neilltuol o waliau sych â phatrwm rheolaidd, sy'n wahanol i unrhyw batrymau yn y mewndir, tua'r de yn ardal 23 ar y llethrau sy'n wynebu'r môr.

Nodweddir ardal 18, yn arbennig, gan gyfres o feudai cae (mae'n ymddangos bod gan y rhan fwyaf o'r ffermydd yma o leiaf un gweler y ffotograff), wedi'u hadeiladu, fel arfer, ar lethrau bryniau a chyda llawr uchaf ar gyfer storio gwair. Mae'n ymddangos bod y rhain yn dyddio o'r 18fed neu'r 19eg ganrif, er bod rhai yn ddiamau'n gynharach.

Mae'r llethrau serth ar yr ochr hon o'r aber yn goediog yn bennaf, fel y rhai ar yr ochr ogleddol (ac yn newid i glogwyni moel a thirweddau caeau wrth i'r llethrau droi i wynebu'r môr). Fel y disgrifir yn ardal 19 isod (a gweler y ffotograff), coetir hynafol neu led-naturiol pwysig yw llawer o hwn, er bod conifferau modern (ardal 12, er enghraifft), neu barcdir wedi'i gynllunio (o gwmpas Abergwynant, ardal 25) mewn rhannau eraill.

Islaw'r coetiroedd hyn, ar Forfa Mawddach ger ceg yr afon, ceir ardal fawr (10, a gweler y ffotograff), yr oedd llawer ohoni yn eiddo gynt i Stad Ynysfaig. Mor ddiweddar â dechrau'r 18fed ganrif, roedd hwn yn dir heb ei amgáu a turbary' ydoedd yn ôl y label. Ar ddechrau'r 19eg ganrif, torrwyd llawer o fawn yma, i'w sychu a'i gludo ar y fferi i Abermaw i'w allforio. Erbyn hyn, morfa heli yw'r rhan fwyaf o'r ardal hon ac mae wedi'i dynodi yn SoDdGA.

 

Yn ôl at map ardal Mawddach

Anheddu

Cefndir canoloesol

Cofnodir chwe threfgordd yn ardal y prosiect hwn yn y cyfnod canoloesol (Williams-Jones, 1976), i gyd ond un ar ochr ddeheuol yr aber. Anheddiad modern yw Llanaber, sydd erbyn hyn yn estyniad o Abermaw ar hyd y briffordd i'r gogledd sy'n cyd-fynd â'r arfordir (ardal 01). Ar yr ochr ddeheuol, roedd trefgorddau Dolgledr (a gofir nawr mewn enw mynydd ardal 08), Cefn-yr-Owen (a gofir mewn enw bryn a dwy fferm fodern a ffermydd eraill yma ardal 18), Cregennen (cofnodir yr enw heddiw mewn llynnoedd a fferm ardal 14), Morfa Maenog (Bryn yw Morfa, ond ceir Afon Morfa hefyd ardal 15) a Llwyngwril (pentref modern ardal 22). Fodd bynnag, mae map degwm Dolgellau o'r 1840au hefyd yn cofnodi bod ffermydd ger Cefn-yr-Owen yn perthyn i drefgordd arall, sef Dyffrydan (gweler ardal 18).

Mae'r Merioneth Lay Subsidy Roll yn cofnodi 101 o drethdalwyr ym mhlwyf Llanaber ym 1292-3 (nifer gymharol uchel o'i gymharu â phlwyfi eraill), tra roedd 21 yn Nolgledr, 10 yng Nghefn-yr-Owen, 16 yng Nghregennen, 12 ym Morfa Maenog a 28 yn Llwyngwril. (Mae'n ddiddorol nodi mai yn y ddau anheddiad sy'n goroesi fel aneddiadau cnewyllol heddiw roedd y boblogaeth uchaf.)

Aneddiadau cnewyllol

Ychydig o aneddiadau cnewyllol sydd yn yr ardal. Ar ochr ogleddol aber Afon Mawddach, tua'r môr, roedd Abermaw (ardal 01) yn anheddiad pysgota bach ac anhygyrch. Cofnodwyd yr anheddiad yn gyntaf yn yr 16eg ganrif (ac mae'n dal i fod â rhai adeiladau cynnar pwysig ar lethrau serth y bryn), nes iddo ddechrau datblygu yn y 18fed ganrif. Erbyn 1770, roedd y dref wedi hen sefydlu yn borthladd bach yn ymwneud â masnach arfordirol, yn dibynnu'n bennaf ar ddiwydiant gwlân Meirionnydd. Wedi agor y rheilffordd ym 1867, fodd bynnag, fe ehangodd yn gyflym er mwyn darparu ar gyfer y fasnach dwristiaid newydd. Mae pensaernïaeth y dref heddiw yn nodweddiadol o Oes Fictoria.

Mae'r Bont-ddu (ardal 05), sydd hefyd ar ochr ogleddol yr aber, yn ddatblygiad hirgul' bach yn dyddio bron yn gyfan gwbl o'r 19eg ganrif, ar hyd y briffordd oedd wedi'i hymestyn o Ddolgellau i Abermaw ar ddechrau'r 19eg ganrif. Datblygodd yn bennaf oherwydd ffyniant cloddio am aur i'r gogledd o'r pentref.

I'r de o'r aber, fe dyfodd Llwyngwril (ardal 22) hefyd o ddechrau bach, yn y man lle byddai'r lôn bost yn croesi Afon Gwrt. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda dyfodiad y rheilffordd, fe dyfodd yn bennaf trwy dai preifat a gomisiynwyd gan unigolion (mae yno rai tai da yn yr arddull Celf a Chrefft, yn dyddio o tua 1900-1920). Ymhellach i'r gogledd, mae sawl teras diddorol o dai wedi'u hadeiladu'n dda ac yn dyddio o'r 19eg ganrif ar hyd y briffordd yn Arthog. Mae Fairbourne (ardal 11) gerllaw yn gyrchfan sy'n gyfan gwbl o'r ugeinfed ganrif, ac eto (ar wahân i rai gwestai a siopau, swyddfa'r post ac ati), tai preifat sydd yno ar y cyfan (byngalos yn bennaf).

Aneddiadau anghnewyllol

Mae'r dystiolaeth orau o'r dirwedd gynhenid gynharach yn y ddau ddyffryn sy'n rhedeg i lawr o ucheldir Diffwys i Afon Mawddach ym Morthwnog a'r Bont-ddu (ardal 05), a'r ardal o ucheldir yn union islaw llethrau serth Cadair Idris (ardal 18 yn bennaf). Mae'r ddwy ardal wedi gweld peth diboblogi, gan adael cyfres o ffermydd gwag. Daliwyd ati i adeiladu yn y traddodiad brodorol tan tua dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan gyflwynodd rhaglen adeiladu egnïol y stadau arddulliau a moddau adeiladu newydd. Yn y traddodiad brodorol hwn, gwelir yn bennaf gwaith maen mewn blociau bras neu rai a naddwyd mewn chwarel, toeau llechi (mae rhai toeau llechi-ar-hap cynharach yn dal i oroesi), gyda meini copa talcen ar adeiladau cynharach.

Fodd bynnag, mae peth tystiolaeth sy'n dangos traddodiad cynharach o adeiladu mewn pren er enghraifft mae'n ymddangos bod y ffermdy blaenorol yn Nghefn-yr-Owen-uchaf (ardal 18) yn adeilad â nenffyrch yn wreiddiol, a bod muriau cerrig wedi'u hychwanegu tua 1600. Mae'r rhan fwyaf o'r ffermdai cynhenid hyn yn eithaf bach (un llawr sydd i ffermdy Cefn-hir-uchaf), er fod pum bae Cefn-yr-Owen-uchaf yn dynodi t o statws uchel. Eithriad arall yw Garth Isaf (ardal 16), ffermdy system uned o ddolen o anheddau. Mae dau ffermdy yn agos at ei gilydd yn Nant-y-gwyrddail (yn dyddio o'r 16eg a'r 17eg ganrif - gweler hefyd ardal 18); gallai hyn awgrymu is-rannu daliad tir oherwydd etifeddiaeth ranadwy, o bosibl. Mae gan lawer o dai unllawr a hanner (yn wahanol i'r traddodiad is-ganoloesol ymhellach i'r gogledd, lle gwelwyd tai â sawl llawr yn bennaf o ddiwedd yr 16eg ganrif ymlaen); lle gwelir dau lawr llawn o gyfnod cynnar (e.e. y tai o'r 17eg ganrif yn Hafod Dywyll (ardal 19) a Gallestra, Kings (ardal 18)), mae'n debygol ei fod yn nodi statws uwch. Mae eu cynnwys fel ffermydd yn perthyn i drefgordd Cefn-yr-Owen (hefyd yn ardal 18) yn dystiolaeth bosibl o hyn.

Mae yna dystiolaeth gref o waith y stadau'n llunio'r dirwedd (mae tystiolaeth o hyn yn bodoli hefyd yn y plannu coed a'r gerddi ar ddwy ochr yr aber (gweler ardal 03, 12, 25 ac ati)). Pentref stad yw Penmaen-pl, gyda theras o fythynnod gweithwyr a fferm fodel. Yn yr un modd, mae gan Arthog gymeriad stad cryf iawn (sydd wedi'i gadw'n hynod o dda), gyda rhesi o fythynnod, fferm y plas, a thystiolaeth eglur o nawdd yn yr eglwys, yr ysgol a'r ficerdy. Adeiladwyd Neuadd Arthog ym 1833, gan berchennog melin gotwm yn Swydd Gaerhirfryn, mewn arddull sy'n fwriadol bictiwrésg (gweler ardal 10 mae diwylliannau pendant wedi gadael eu hôl yma). Fodd bynnag, awgryma'r tai bonedd diweddarach ysgariad oddi wrth amaethyddiaeth er enghraifft, Ty'n-y-coed, Arthog (ardal 15) a'r t gothig yn y Bont-ddu (ardal 05, y gwesty bellach), y t Edwardaidd yng Nglan y Mawddach a'r castell tylwyth teg, Coes-faen (y ddau yn ardal 03).

Mathau o adeiladau a deunyddiau adeiladu

Dengys yr ardal broffil oed diddorol a phwysig iawn o ran adeiladu: ceir cronoleg maith yma gydag enghreifftiau o ddiwedd yr 16eg ganrif hyd at ganol yr 20fed ganrif. Mae hanes anheddu yn yr ardal hon yn fwy cymhleth nag yn sawl rhan o Feirionnydd, gan fod adeiladau boneddigaidd' oedd yn gysylltiedig â datblygu'r ardal yn fan cyfarfod ffasiynol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi'u codi ar ben yr aneddiadau amaethyddol/brodorol; gellir cysylltu hyn, o bosibl, â'r mudiad rhamantaidd oedd yn gwerthfawrogi'r harddwch gwyllt yn y dirwedd. Mae twf twristiaeth yn gysylltiedig â hyn, a'i hanes wedi'i ddogfennu'n dda iawn yn yr ardal hon (gweler ardaloedd 01, 11, a 22 isod).

Ar ochr ogleddol Afon Mawddach, mae yna dystiolaeth o draddodiad adeiladu brodorol parhaus o ddiwedd yr 16eg ganrif, yn gweithio gyda charreg leol fel rwbel a chyda thoeau llechi (er fod bodolaeth meini copa talcen yn awgrymu, o bosibl, mai disodli toeau gwellt yn ddiweddarach oedd y rhain). Roedd tai â sawl llawr yn gyffredin o ddiwedd yr 16eg ganrif ond mae cyd-destun cymdeithasol amrywiol yr adeiladu hefyd yn sicrhau bod tai unllawr neu dai â chroglofft o gyfnod diweddarach wedi goroesi. Gwelir carreg leol ym mhobman, yn amrywio o ran y modd o'i thrin, ei gosod a'i gorffen (mae ansawdd y gorffeniad yn un o ddangosyddion allweddol statws cymdeithasol, er y gall newid technegau chwarela achosi newidiadau eraill).

Ar yr ochr ddeheuol, gwelir clwstwr pwysig o ffermydd o'r 17eg ganrif yn y trefgorddau canoloesol o amgylch blaen Afon Gwynant.

Mae arwyddocâd y system uned' o ddolen o anheddau, sydd hefyd yn gyffredin yn Ardudwy, yn ddiddorol. Mae Plas Canol a Lloyd yn enghreifftiau arbennig o dda o hyn, gydag anheddau eilaidd wedi'u cysylltu â ffermdai is-ganoloesol mawr (J Alfrey, pers comm).

Daeth newidiadau mawr i'r arddull frodorol a'r math o adeiladu lleol hwn pan gyflwynwyd dylanwadau a thraddodiadau o'r tu allan, a phan ddaeth y rheilffordd (ac arian!) o Ganoldir Lloegr diwydiannol yn ystod canol a diwedd y 19eg ganrif. Gwelir tystiolaeth o hyn yn y tai newydd o'r cyfnod hwn (mae Croes-faen, ar ochr ogleddol yr aber yn un achos (ardal 03) ond mae llawer mwy ohonynt). Daw tystiolaeth bellach o weld faint o addasu wnaed yn ddiweddarach ar adeiladau oedd yn bodoli (e.e. Ty'n-y-coed (ardal 15, oedd yn eiddo ar y pryd i berchennog chwarel cyfoethog) a Phlas Canol).

Mae yna sawl adeilad o frics yn yr aneddiadau ddaeth yn sgîl Rheilffordd y Cambrian (agorwyd ar ei hyd ym 1867), megis Fairbourne, Arthog y Friog a Llwyngwril yn arbennig. Mae llawer o'r adeiladau hyn mewn arddull anghydweddol, sef filas yn eu tiroedd eu hunain, yn hytrach nag unrhyw beth sy'n arddull frodorol yr ardal. Gwelir terasau sylweddol o dai wedi'u hadeiladu o garreg ac yn dyddio o ddechrau i ganol y 19eg ganrif ym mhob un o'r rhain (mae'r teras yn Arthog (ardal 10) yn enghraifft wych dros ben). Mae adeiladau diweddarach yn y datblygiadau hirgul hyn ar y cyfan yn strwythurau llawer mwy ac addurniadol.

 

Yn ôl at map ardal Mawddach

 

Archeoleg greiriol

Mae'r ardal hon a'i thopograffeg amrywiol yn cynnwys arfordir, aber afon, llwyfandir uwchdirol a llethrau bryniau. Nid oes unrhyw dystiolaeth archeolegol o weithgarwch dynol yma cyn y cyfnod neolithig, yn y pedwerydd a'r trydydd mileniwm CC, ond dyna sy'n wir am y rhan fwyaf o Feirionnydd. O'i gymharu â gweddill gogledd-orllewin Cymru, byddai'r gweithgarwch cyn y cyfnod neolithig wedi bod o amgylch yr arfordir. O bosibl, boddi'r safleoedd perthnasol wrth i'r môr godi yn ystod y cyfnod ôl-rewlifol sy'n gyfrifol am ei absenoldeb yma. Daethpwyd o hyd i fawnogydd islaw'r llinell penllanw bresennol ar yr arfordir ger Llanaber, ychydig i'r gogledd o ardal Mawddach. Darganfuwyd cyrn ceirw cochion ac esgyrn gwartheg yno. Mae'n bosibl gweld dyddodion mawn arfordirol eraill am tua 5km at hyd y glannau ymhellach i'r de yn Ynyslas a'r Borth. Maent yn ymddangos fel brigiadau ar y traeth o oddi tan y gyforgors gyfagos yn y Borth sy'n uwch, felly mae'n rhaid eu bod yn ymestyn o dan honno. Yn eu plith mae ffen, ffeniau gwern a gwelyau fforestydd dros glai'r morfa heli (Heyworth a Kidson 1982, 102). Mae dyddio radiocarbon yn cynnig dyddiad o oddeutu 6000 CP yn achos y morfa heli gwaelodol ac oddeutu 5400 CP i 3900 CP, ar ei isaf, yn achos gwely'r fforest (ibid.). Daethpwyd o hyd i nifer o ddarganfyddiadau ar hap yn y mawn yma, gan gynnwys caib fflint Mesolithig, naddion fflint, offeryn o gyrn carw ac aelwyd yn dyddio o oddeutu 4000 CP o'r mawn o'i amgylch (Sambrook a Williams 1996, 26) yn ogystal ag esgyrn ceirw cochion a gwartheg. Nodwyd mawn wedi'i gladdu a gwelyau fforestydd hynafol ar y gwastadedd arfordirol o gwmpas ceg Afon Mawddach rhwng Fairbourne ac Arthog. Ni bennwyd dyddiad ar gyfer y rhain hyd yma, ond mae'n debygol eu bod o ddyddiad tebyg i'r rheiny yn y Borth ac, o bosibl, gallai tystiolaeth o weithgarwch dynol ddod i'r golwg yno yn y dyfodol.

Nid oes unrhyw feddrodau siambr neolithig yn yr ardal hon i ddangos bod anheddu parhaol yma yn y trydydd a'r pedwerydd mileniwm CC ond, yn bendant, fel y dangosodd y pum bwyell garreg a ddarganfuwyd, roedd presenoldeb dynol yma. O edrych ar ardal gyfan gogledd-orllewin Cymru, gwelir bod darganfyddiadau bwyeill yma a thraw yn llawer mwy eang na dosbarthiad beddrodau siambr, sy'n awgrymu mai canlyniad i weithgarwch tymhorol megis hela, casglu neu fugeilio ydynt yn hytrach nag i anheddu parhaol.

Yn ddiamau, defnyddiwyd ardal Mawddach yn ddwys yn yr ail fileniwm CC, fel y gwelir yn y ddau grynodiad arwyddocaol o henebion angladdol a defodol nodweddiadol o'r cyfnod hwn sydd yn yr ardal. Mae un ar lethrau deheuol Allt-lwyd, ger Llwyngwril, a'r llall ar y llwyfandir i'r de o Lynnau Cregennen, Arthog. Mae'r ddwy ardal yn cynnwys amrywiaeth o fathau o henebion angladdol ac, yn ardal Cregennen, mae nifer o feini hirion a cherrig cafn-nod. Mae llwybr hynafol Ffordd-ddu yn cysylltu'r ddwy ardal a gellir cyrraedd ardal Cregennen ar lwybr arall o'r gorllewin a nodwyd yn llwybr cynhanesyddol gan fod dwy res o feini hirion a sawl carnedd gladdu yn ei nodi (Bowen a Gresham 1967). Ni nodwyd yma unrhyw anheddiad o'r cyfnod fel y cyfryw hyd yn hyn, ac mae'n debygol fod y ddwy ardal yn ganolbwyntiau arbenigol gweithgarwch angladdol a defodol. Efallai nad oedd yr anheddiad cysylltiedig yn bell i ffwrdd, naill ai yn iseldir y gwastadedd arfordirol, mewn dyffrynnoedd neu ar lethrau ychydig uwchben y gwastadedd arfordirol fyddai wedi'u draenio'n well. Mae darganfyddiadau bwyell forthwyl garreg o Fegla Fawr, bryncyn ar ochr ddeheuol Afon Mawddach, a dau ddarganfyddiad bwyeill efydd ar wahân, ar lethrau'r bryniau rhwng Fairbourne ac Arthog, yn cefnogi'r ail leoliad. Ychydig y tu allan i'r ardal, daethpwyd o hyd i ddau ddarganfyddiad bwyeill efydd ar y llethrau i'r de o Allt-lwyd, dau ar y llethrau i'r gogledd o Afon Dysynni ac un o'r traeth yn Llwyngwril. Darganfyddiad perthnasol arall, o Arthog, yw bwced efydd o fath prin Canol Ewrop, wedi'i fewnforio ac yn dyddio o ddechrau'r mileniwm cyntaf CC (Hemp 1960). Darganfyddiad ar hap oedd hwn yng nghanol y 19eg ganrif yn ystod torri mawn. Efallai iddo fod yn ddyddodyn defodol ond ger blaen nant fordwyol y daethpwyd o hyd iddo. O bosibl, felly, gallai awgrymu cysylltiad â llwybrau yn hytrach nag anheddiad gerllaw.

Roedd pobl yn parhau i fyw yn ardal Mawddach ond ni ddefnyddiwyd hi mor ddwys yn ystod y mileniwm cyntaf CC. Rhaid bod peth gwerth i'r aber, ar gyfer cyrraedd y mewndir ac o ran y lloches a roddai i longau ar yr arfordir agored hwn. Roedd tair bryngaer yn yr ardal, dwy ohonynt yn tremio dros geg yr aber, ym Mhared Cefn Hir a Chraig y Castell, ac un arall uwchben Llwyngwril yng Nghastell y Gaer. Roedd y bryngaerau'n fach ac, yn amlwg, canolfannau grym eithaf lleol oeddent. Roedd yr anheddu cysylltiedig hefyd yn ysgafn ac yn wasgaredig. Mae gwrthgyferbyniad yma â'r sefyllfa yn yr ail fileniwm pan roedd ardal Cregennen yn ganolbwynt o bwys ar gyfer gweithgarwch angladdol a defodol. Mae yna olion anheddu o'r cyfnod cyffredinol hwn, yn aneddiadau wedi'u hamgáu ac yn aneddiadau agored, yn ogystal â chyfundrefnau caeau a llociau ar ucheldir Allt-lwyd a rhwng Llwyngwril ac Islaw'r Dref. Dangosodd gwaith cloddio un t crwn, cyn plannu coedydd yng Nghyfannedd Fawr, uwchben y Friog, fod rhywun wedi byw ynddo rhwng y ganrif 1af CC hyd y 3edd ganrif OC (Crew 1978, 1979, 1981) a gellir disgwyl bod y rhan fwyaf o'r anheddu hysbys yn yr ardal yn perthyn i'r cyfnod hwn. Daeth darganfyddiad ar hap o grochenwaith Rhufeinig wedi'i fewnforio mewn lloc hirsgwar arall, oedd o bosibl yn anheddiad, ym Mhant y Llan, Arthog. Nid oedd llawer o dir âr da nac adnoddau eraill yn ardal Mawddach. Roedd yn ardal ymylol, heb ei hanheddu'n ddwys, ac ychydig o wrthwynebiad oedd yno i awdurdod Rhufain neu i gymryd rhan yn yr economi oedd wedi'i Rufeineiddio. Rhaid ei bod wedi parhau yn ardal wledig ag ychydig o boblogaeth, heb ganolbwynt anheddu go iawn yng nghyfnod y Rhufeiniaid.

 

Yn ôl at map ardal Mawddach

 

Parciau a gerddi

Mae elfennau amrywiol wedi'u dylunio yn nhirwedd yr ardal, ac maent yn defnyddio'u manteision naturiol hyd yr eithaf. Mae llawer o'r rhain yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, pan wnaed ymgais fwriadol i ddatblygu Abermaw yn gyrchfan twristiaeth ond, yn aml, mae eu tarddiad yn gynharach. Mae Taith Gerdded Panorama, ar ochr ogleddol yr aber, yn un achos o hyn. Mae'n debyg iddi gael ei datblygu ar gyfer twristiaid ar ddiwedd y 19eg ganrif. Llwybr ydyw sy'n dechrau o hen ffordd i'r gogledd-ddwyrain o Abermaw ac sy'n arwain at olygfan â golygfeydd godidog dros yr aber a'r môr. Roedd y ffordd a'r llwybr troed yno cynt, ond gosodwyd rhan gyntaf y llwybr yn ystod y cyfnod perthnasol, gyda wal gynnal, sianeli draenio, grisiau a chilfachau ar gyfer seddau; o ail ddegawd yr 20fed ganrif, o leiaf, roedd caffi yn y man lle roedd y llwybr yn gadael yr hen ffordd. O bosibl, roedd caffi yno ynghynt ar safle gerllaw, gyda thiroedd pleser' cysylltiedig, ond caewyd hwn yn ystod yr ail ryfel byd ac ni agorodd yn ddiweddarach, er i bobl barhau i ddefnyddio'r llwybr.

Gwelir gardd weddol fach ond arwyddocaol Glan-y-Mawddach gerllaw. Gellid mynd ohoni i Daith Cerdded Panorama ar un adeg. Datblygwyd yr ardd deras hon ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ar safle serth sydd â golygfeydd ysblennydd ohono. Mae'r t yn hn, fodd bynnag, ac roedd peth o'r terasau a rhai o'r llwybrau yn bendant yno ynghynt. Mae'r terasau o gwmpas y t yn weddol ffurfiol eu naws, tra fod y brif ardd, uwchben y t, yn goediog i raddau helaeth. Yma, ceir llwybrau igam-ogam a sawl gardd fach 'gudd' ar wahanol lefelau, yn cynnwys nodweddion dr, grisiau a cherfluniau.

Ymhellach i'r dwyrain, mae yna ardd o'r 19eg ganrif yng Nghaerdeon, gyda therasau islaw'r t a choed uwchben, eto â golygfeydd dros yr aber, er nad ydynt mor agored â'r rhai yng Nglan-y-Mawddach. Mae llawer o lwybrau anffurfiol yn y coetir a gwelir nant â rhaeadrau'n llifo i lawr ochr ddwyreiniol yr ardd. Mae yna erddi llai ar yr ochr hon i'r aber yn Abermaw (ardal 01), y Bont-ddu (ardal 05), Neuadd Glandwr a Farchynys (oll yn ardal 03), a byddai'r rhain oll â golygfeydd dros yr aber, er bod coed yn cuddio rhai ohonynt erbyn hyn. Mae coed wedi'u plannu yn goroesi'n dda ar y safleoedd hyn ac eraill arwydd sicr o dirweddau wedi'u dylunio yn y 19eg ganrif, ac weithiau ynghynt.

Ar ochr ddeheuol Afon Mawddach, mae yna ardd lai sy'n gysylltiedig â Neuadd Arthog (ardal 15) a dwy ardd fawr Garthangharad (ardal 16) ac Abergwynant (ardal 25), y cyntaf ar lethrau'r dyffryn a'r ail yn isel i lawr, ger yr afon. Mae'r ddwy ohonynt yn cynnwys ardaloedd arwyddocaol o goetir ysblennydd a cheir golygfeydd dros yr aber ohonynt (er nid o'r t yn achos Abergwynant - gweler y ffotograff). Mae hefyd ardaloedd o erddi ffurfiol neu led-ffurfiol, gerddi llysiau muriog ac ati yn y ddwy ac, ar eu ffurf bresennol, maent yn dyddio yn y bôn o'r 19eg ganrif.

 

Yn ôl at map ardal Mawddach

 

Diwydiannol

Ychydig sydd o ddiddordeb archeolegol diwydiannol yn yr ardal, ac ychydig o henebion o bwys sydd ynddi, os oes rhai o gwbl. Tua 1860, darganfu perchennog y mwyngloddiau copr uwchlaw'r Bont-ddu (ardal 05) aur. Cododd berchnogion Figra and Clogau Copper Mining Company, (sydd wedi'i leoli y tu allan i'r ardaloedd nodwedd sy'n cael eu hystyried yn yr adroddiad hwn) drwydded i echdynnu aur, ac erbyn mis Mai 1861, roedd yr elw'n ddigon i gychwyn rhuthr am aur yn yr ardal ar raddfa fach. Sefydlwyd Mwynglawdd Aur Gwynfynydd tua'r amser yma hefyd, ond daeth cloddio o ddifrif i ben yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Per dr oedd yn gyrru'r holl fwyngloddiau hyn; er y gwyddys am tua 150 o siafftiau a lefelau yn y mynyddoedd i'r gogledd o'r Bont-ddu, y tri phrif ardal o weithgarwch oedd y rhai a restrir uchod (Farr, 2001). Mwyngloddio ceuffyrdd oedd ym mwynglawdd Clogau, wedi'i ganoli ar dwnneli ar oleddf a gloddiwyd â llaw tan y 1870au, pan gyflwynwyd driliau cywasgu. Olwyn ddr a adeiladwyd i fod yn felin fathru ar gyfer y mwynglawdd copr yn wreiddiol oedd yn gyrru Mwynglawdd Figra, ac fe'i haddaswyd at ei diben newydd ym 1862. Roedd llwybr igam-ogam ac inclein yn ei chysylltu â'r mwynglawdd uwchben. Adeiladwyd melin newydd â thyrbin yn ei gyrru ar ddiwedd y 19eg ganrif. Roedd melin lai i lawr yr afon yn cael ei defnyddio tan y 1930au.

Agorwyd dwy chwarel lechi, tua'r un pryd, yr ochr draw i'r aber yng Nghwm Panteinion. Dechreuwyd Henddol ar ddechrau'r 1860au, ac roedd yn cynhyrchu erbyn 1865, ond daeth y cynhyrchu i ben ym 1871 wedi cwymp creigiau. Roedd chwarel Goleuwern wedi'i hagor ym 1867, a phan ailagorwyd Henddol ym 1892, bu'r ddwy yn masnachu ar y cyd dan yr enw Cambrian Estates Cyf. Daeth hyn i ben ym 1920 (Richards, 1991). Roedd oes chwarel arall, sef Bryngwyn, hyd yn oed yn fyrrach ac yn fwy di-drefn. Roedd y ddwy chwarel yn rhannu cyfleusterau ar y cyd (melin, gefail ac ati) ac yn dibynnu ar geffyl a chert i gludo'r llechi oddi yno. Tua'r dwyrain, uwchben Arthog, agorwyd chwarel Ty'n-y-coed ar ganol y 1860au. Cludwyd ei deunyddiau hithau ar dramffordd ar draws y morfa i lanfa fechan ar yr aber islaw ac yna i Abermaw. Defnyddir Ty'n-y-coed hyd heddiw ar gyfer ychydig o chwarela a pheth dadlwytho.

Byddai fferi Abermaw, oedd yn croesi o bwynt Penrhyn ar Forfa Mawddach (ardal 10), yn cludo'r llechi dros yr aber i Abermaw (ardal 01), a byddent yn cael eu cludo oddi yno ynghyd â phlwm, arian, copr a manganîs o Gyfannedd Fawr. (Gellir gweld gweddillion y cloddfeydd a'r ceuffyrdd a agorwyd yn wreiddiol ym 1827 ond a weithiwyd yn bennaf rhwng 1851-63, i'r gogledd o'r fferm o'r un enw ym mhen uchaf yr ardal hon). Roedd y mwynglawdd arian hwn, yr unig un yn y cyffiniau, yn cynhyrchu tua 40 owns o arian o bob tunnell o fwyn, ar ei anterth.

 

Yn ôl at map ardal Mawddach

 

Trafnidiaeth

Ym 1188, disgrifiodd Gerallt Gymro ei daith o amgylch Cymru gyda'r Archesgob Baldwin. Gwnaethant ddefnyddio fferi i groesi genau Afon Mawddach Yr un diwrnod aethom dros yr afon fforchog Maw mewn cwch' (mae'n debygol fod hyn yn cyfeirio at y ffaith bod dwy fferi'n cael eu defnyddio, un o bwynt Penrhyn (Fairbourne bellach) i Ynys y Brawd, ac un arall, oddi yno i'r tir mawr yn Abermaw a oedd yn daith fyrrach). Mae'n debyg bod y stori mai mynachod lleol oedd yn rheoli'r fferi yn y cyfnod canoloesol hwyr wedi deillio o enw'r ynys ger Abermaw. Yn ddiweddarach, pysgotwyr lleol oedd yn gyfrifol amdani: yn ôl Survey of the Ports, Creeks and landing places on the Welsh Coast' (a gyhoeddwyd ym 1569) Bermowe had towe litel Bootes that the said Res ap Res and Harry ap Eden do use to carry men over that passage'.

O deyrnasiad George III, Ymddiriedolaeth Harbwr y Bermo oedd yn berchen ar y fferi. Roedd yn ei rhoi ar osod yn flynyddol i denantiaid oedd yn byw yn Fferm Penrhyn (ardal 11 clwbdy'r maes golff erbyn hyn), ger pen pellaf y pentir. Hyd at ei gwerthu ym 1860, y fferi oedd yn cynhyrchu prif incwm y fferm oherwydd rhedai'r Post Brenhinol ar y pryd o Ddolgellau i Abermaw (defnyddiwyd y ffordd dyrpeg newydd oedd yn mynd trwy'r Bont-ddu yn ddiweddarach), drosodd i Fferm Penrhyn ac yna ymlaen i Dywyn a Machynlleth. Hyd at ei gwerthu ym 1860, Fferi Abermaw (gweler ardal 09) oedd yn cynhyrchu prif incwm y fferm. Dywed dogfen arwerthiant y fferm ym 1860 fod heol gerbyd newydd wedi'i hadeiladu'n ddiweddar trwy'r fferm a bod y goets fawr ddyddiol oedd yn dilyn y llwybr uchod yn ei defnyddio. Mae'r briffordd fodern yn dilyn llinell y ffordd honno, ychydig y tu ôl i'r traeth graeanog. Cafn dr ym Mhistyll-y-mail yn y Friog (ardal 10), yw'r unig beth bellach sy'n ein hatgoffa o'r fferi gynt. Y prif reswm dros adeiladu rheilffordd Trên Bach Fairbourne (tramffordd geffylau ydoedd yn wreiddiol, a adeiladwyd gan McDougall ym 1899 i wasanaethu ei waith brics preifat) oedd cysylltu â'r fferi oedd yn croesi Afon Mawddach o Abermaw ar yr ochr ogleddol i bwynt Penrhyn (gorsaf Porth Penrhyn yw'r enw ar yr orsaf hyd heddiw) ar yr ochr ddeheuol.

Ffurfiwyd Rheilffordd y Cambrian ym 1864 (tri chwmni canolbarth Cymru'n cyfuno) ac agorwyd y rhan o'r rheilffordd oedd yn cysylltu Aberystwyth-Machynlleth-Abermaw-Porthmadog (a Phorth Dinllaen yn ôl y bwriad, ond adeiladwyd mohoni) ar 3ydd Gorffennaf 1865. Y darn ar hyd y clogwyni i'r de o'r Friog (gwaelod ardal 21) oedd yr un mwyaf anodd o ran peirianneg (yn wir, bu cerbyd a phedwar ceffyl yn rhedeg rhwng Llwyngwril a fferi Abermaw am 18 mis). Cwblhawyd Pont Abermaw (ardal 09) ym 1867: roedd yn gamp peirianyddol hynod ac yn cynnwys 113 bwa a 500 o byst sylfaen pren.

Ychwanegwyd y bont droi o haearn bwrw yn y pen gogleddol ym 1899, gan barhau â'r fferi yn y cyfamser. Agorwyd hyd cyfan y prif lein ar 10fed Hydref 1867. Blwyddyn yn ddiweddarach, ychwanegwyd seidin i orsaf Morfa Mawddach (ar ben deheuol y bont), i drin deunydd oedd yn cael ei gludo o'r chwareli llechi uwchben y Friog (ardal 15). Mae'r seidins hyn i'w gweld yn glir o hyd, er eu bod yn segur.

Adeiladodd McDougall (gweler ardal 11) orsaf ym 1899 i wasanaethu ei fenter, ar ei gost ei hun. Datblygu'r ardal ar y morfa fel cyrchfan wyliau ar gyfer diwydianwyr cyfoethog o Ganoldir Lloegr oedd y fenter hon. Yn wreiddiol, De Abermaw oedd enw'r orsaf newydd, ond Fairbourne' oedd yr enw y cytunodd McDougall a Rheilffordd y Cambrian arno (roedd rhai pobl leol am ei ailenwi yn Ynys Faig ond gwrthododd y cwmni). Caewyd yr estyniad i'r dwyrain o orsaf Morfa Mawddach, oedd yn rhedeg ar hyd lan ddeheuol yr aber i Ddolgellau, ym 1967, a llwybr beicio yw hwn bellach (Llwybr Mawddach). Mae'r prif lein yn parhau (cyn belled i'r gogledd â Phwllheli) a chydnabyddir yn gyffredinol ei bod yn un o'r teithiau rheilffordd harddaf ym Mhrydain.

Adeiladwyd y ffyrdd tyrpeg cyntaf yng ngogledd Cymru ym 1777: roedd y Ddeddf yn un gyffredinol ac roedd yn cynnwys pob prif ffordd yn Sir Feirionnydd. Un Ymddiriedolaeth oedd yn gyfrifol am ogledd Cymru, oedd wedi'i rhannu yn bum ardal o ran y ffyrdd. Un o'r rhain oedd Dolgellau a Mawddach, oedd yn rheoli'r ffordd i Abermaw. Ym 1794, gwnaeth George Kay y sylw fod y tollbyrth wedi gwella ffyrdd ym Meirionnydd yn sylweddol yn ddiweddar ond eu bod, yn ei farn ef, yn dal yn rhy gul. Adroddodd fod part of the road from Dolgellau to Barmouth cost two and a half guineas per rood of eight yards'. Mae'n ymddangos mai ffordd newydd sbon oedd hon gan mai ar gwch y teithiau pawb cyn hynny. Rhywfaint yn ddiweddarach, ar ganol y 19eg ganrif, adeiladwyd ffordd dyrpeg o Dywyn yn y de, trwy Lwyngwril, y Friog (mae'r tollty yma o hyd, ac erbyn hyn yn rhestredig) ac Arthog, gan ddilyn gwaelod y clogwyni serth i Benmaen-pl lle roedd yn cyfarfod â'r bont bren a adeiladwyd ym 1869, ac ymlaen tua Dolgellau. Mae olion y brif ffordd flaenorol o Lwyngwril tua'r tir i Ddolgellau (sef Ffordd-ddu sydd, o bosibl, yn dyddio o ddechrau'r cyfnod cynhanesyddol - gweler ardal 24), i'w gweld hyd heddiw. Gellir ei holrhain fel cyfres o lwybrau, traciau a'r ffordd fach dros y copa heibio i Lynnau Cregennen a Chefn-yr-Owen (ardal 18). Mae'r holl ffyrdd a thraciau eraill yn yr ardal yn gwasanaethu ffermydd anghysbell.

 

Yn ôl at map ardal Mawddach

 

Cysylltiadau diwylliannol

Yn ôl chwedl Gymreig, roedd palas y Brenin Gwyddno, a gysylltir â chwedl Cantre'r Gwaelod, yng Ngarandir ar lethr bryn sy'n wynebu'r môr yn, neu ger, Abermaw. (Mae lloc mawr hanner ffordd rhwng eglwys Llanaber ac Abermaw, na ellir gweld olion ohono ar y ddaear heddiw, i'w weld ar fap 1748 Lewis Morris o'r arfordir yma.) Pan roedd Gerallt Gymro ar ei daith o gwmpas Cymru gyda'r Archesgob Baldwin ym 1188 disgrifiodd sut y bu iddynt groesi ceg Afon Mawddach ar y fferi (gweler ardal 09) o bwynt Penrhyn i Ynys y Brawd, ac yna i'r tir mawr.

Cysylltwyd yr ardal â smyglwyr yn ddiweddarach, yn arbennig yn ystod cyfnod Napoleon: mae straeon am ddod â nwyddau contraband i'r lan gan lawer o'r tafarndai, yn arbennig y George III ym Mhenmaen-pl. Cafwyd gwarchae drwg-enwog ym 1780 yn ffermdy Hen-ddol (ffermdy sy'n dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif/dechrau'r 18fed ganrif ar y llethrau uwchlaw Arthog). Aeth beilïau yno i restio'r perchennog, sef David Williams, am smyglo ac anafwyd sawl un ohonynt cyn ei restio.

Cynyddodd poblogrwydd aber Afon Mawddach yn gyflym yn ystod y mudiad Rhamantaidd ar ddechrau'r 19eg ganrif (sef y cyfnod pan dyfodd poblogrwydd Abermaw (gweler ardal 01) fel cyrchfan wyliau glan y môr). Ymysg y llu o ymwelwyr fu'n aros yn Abermaw dros y blynyddoedd ac a ddisgrifiodd harddwch yr ardal mewn llythyrau ac ysgrifau eraill, oedd Shelley a'i wraig Harriet, (1812) a Wordsworth (1824). Treuliodd Charles Darwin ddau haf yn Abermaw ym 1828-9 ac yma hefyd y dechreuodd Ruskin ei arbrawf cymdeithasol cyntaf, The League of St George (y mae llawer yn ei ystyried yn rhagflaenydd y wladwriaeth les fodern), pan dderbyniodd 13 bwthyn oddi wrth ei gyfaill agos Mrs Fanny Talbot er mwyn dilyn trywydd ei syniadau arloesol. (Hi hefyd a roddodd Dinas Oleu (ardal 02) i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.) Roedd Gladstone, William Wilberforce a'r Cadfridog Booth hefyd yn ymwelwyr rheolaidd, a dogfennodd Boneddigesau Llangollen eu hunig gyfnod o aros gyda'i gilydd i ffwrdd o Blas Newydd (sef tridiau yma yng ngwesty Cors y Gedol).

Teithiodd John Hucks drwy ogledd Cymru yn y 1790au ac adroddodd ei argraffiadau am y tirweddau y teithiodd drwyddynt mewn cyfres o lythyrau, gan gynnwys un a ysgrifennodd ar Orffennaf 29, 1794, sy'n cynnwys:

There is nothing interesting in the road to Barmouth, nor has that place itself any striking peculiarities, except that the houses are so whimsically built, upon the side of a steep hill, that the inhabitants may have the advantage, if they choose, of looking down upon the sea shore, and in the season is full of company, who resort thither for the purpose of bathing. From Barmouth to Dolgelly we were highly gratified; the road wound along a ridge of rocks, that hang over the Avonmawr, an arm of the sea; which, at full tide, has the appearance of a large lake, surrounded with beautiful trees; etc.

Mae yna ddisgrifiad arall helaeth a diddorol (os rhywfaint yn flodeuog!) o aber Afon Mawddach a ysgrifennodd y teithiwr Thomas Roscoe ym 1836, sy'n rhoi argraff dda o sut olwg oedd ar y dirwedd gyfnewidiol ar y pryd.

The towering summits of the giant Idris, almost baffling the sight, stretched far beyond; around me lay the deepening, shadowy vale, while to the right of the bold hills presented the appearance of huge mountain waves in the rolling mists and fast gathering twilight. The silvery tints and beauty of the river, pursuing its desired path like the current of life through the heart of these wild and dreary mountains; the occasional views of woods, meadows and cornfields, intersected by some branch streams, and again the wilder moor, the mountain hollow, the bushy dells, through which is caught at intervals some fleshing cataract, made my walk along the Mawddach most interesting.

Its beauties are so manifold and extraordinary that they literally beggar description. New pastures of the most exuberant fertility, new woods rising in the majesty of the foliage, the road itself curving in numberless unexpected directions, at one moment shut into a verdant recess, so contracted that there seems neither carriage nor bridle-way out of it; at another, the azure expanse of the main ocean filling the eye. On one side, rocks glittering in all the colours of that beauty which constitutes the sublime, and of a height which diminished the wild herds that browse or look down upon you from the summit, where the largest animal appears insignificantly minute. On the other hand, plains, villas, cottages or copses, with whatever tends to form that milder grace which belongs to the beautiful'.

Mae llu o arlunwyr wedi darlunio aber Afon Mawddach a'r dirwedd o'i chwmpas dros y blynyddoedd. Ymhlith y rhai mwyaf cynhyrchiol mae John Varley (1778 1842), yr arlunydd dyfrlliw; ei baentiad ym 1801 o Gadair Idris oedd y darn cyntaf o'i waith i'w arddangos. Un arall oedd Richard Wilson y dywedodd Pennant fod ei baentiad ym 1770 o'r un testun mor dda fel nad oedd yn rhaid iddo ddisgrifio'i brofiad o'i ddringo!

 

Yn ôl at map ardal Mawddach

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol