English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol - Dyffryn Ffestiniog

Themâu tirwedd hanesyddol Dyffryn Ffestiniog

Amaethyddiaeth

Saif yr ardal o fewn hen gwmwd canoloesol Ardudwy Uwch Artro, ac nid yw'n cynnwys fawr ddim archaeoleg y gwyddys amdano o'r cyfnod cynhanes (gweler isod) nac anheddiad canoloesol. Felly, mae tirwedd amaethyddol y dydd sydd ohoni wedi esblygu mewn ffordd wahanol iawn i rannau o Wynedd (ble y cynhaliwyd ymarferion disgrifio blaenorol mewn perthynas â hwy). Mae llawer o’r ardal yn anaddas ar gyfer amaethyddiaeth (gan ei fod yn bennaf yn dir a adenillwyd yn ddiweddar o’r môr, yn stepdir, llethrau hynod goediog, tirwedd diwydiannol neu wylltir mynyddig) gyda thir amaethyddol wedi’i gyfyngu i lawr y dyffryn, rhai o lethrau’r bryniau a pheth tir ar gyrion yr ardal o gwmpas Llan Ffestiniog.

Ceir ychydig arwyddion o batrymau tir cyn-fodern yng Nghwm Bowydd, islaw Blaenau Ffestiniog ac ym mhen isaf Cwm Teigl (lle y ceir cofnod o glystyrau o gytiau, ac y mae nifer o dai canoloesol diweddarach yn yr ardal (megis Gelli, Dduallt, Dol y Moch, a Bryn Mawr), ond ar y cyfan dengys patrymau’r caeau arwyddion o fod wedi cael eu creu gan ystadau bychain yn y cyfnod ôl-ganoloesol, pan oedd tirfeddianwyr ail reng fel teulu’r Oakeley a’r sgweirynnod lleol fel Tan y Manod a’r Dduallt, yn ogystal â newydd-ddyfodiaid, megis teuluoedd Madocks ac Williams-Ellis yn berchnogion y rhan fwyaf o dir yr ardal.

Pery dylanwad teuluoedd o dirfeddianwyr pwerus yn amlwg iawn yn y tirwedd. Yr unig deulu o uchelwyr hir sefydlog fu’n berchnogion llawer o dir yn ardal yr astudiaeth oedd teulu Wynne, Bodfean a Glynllifon, a urddasolwyd yn Arglwyddi Newborough o 1787, pan oedd eu dylanwad yn y sir yn pylu. Yr oedd ystadau bonedd oedd â’u canolfannau y tu allan i ardal yr astudiaeth yn cynnwys, yn fwyaf arbennig Wynne o Beniarth, tra yr oedd yr is-fonedd a drigai yn yr ardal yn cynnwys teulu Annwyl o’r Parc, y teulu Williams o Frondanw, Madocks o Dremadog, teulu Oakeley, Plas Tan y Bwlch, Maentwrog yn ogystal â’r diwydianwyr a’r gwyr proffesiynol a ymsefydlodd fel tirfeddianwyr a datblygwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn bennaf Samuel Holland a David Williams o Gastell Deudraeth.

Ni cheisiodd diwydianwyr fel Sam Holland a theuluoedd Tuner/Casson sefydlu eu hunain fel tirfeddianwyr yn yr ardal (ymsefydlodd Holland yng Nghaerdeon, ger Abermaw, bu i’r teulu Turner ymsefydlu yng Nghaernarfon, ac aeth y Cassons i Lundain), tra yr oedd tirfeddianwyr fel Oakeley, Newborough ac Wynne, Peniarth, yn gosod eu chwareli ar rent yn bennaf, yn wahanol i Chwareli Penrhyn a Dinorwig.

Ar y cyfan mae’r ffermydd gwasgaredig yn gasgliadau mawr o adeiladau carreg, y rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r tai, ar y cyfan, yn adeiladau trawiadol, a thra bo adeiladau cysylltiedig o gyfnod cynharach (ysguboriau a beudai) hefyd wedi’u hadeiladu o garreg, ceir defnydd sylweddol hefyd o haearn rhychiog (yn aml wedi’i baentio’n llwyd). Ceir nifer o ffermydd model mawr, fu unwaith yn eiddo i'r Oakeleys ger Maentwrog, ar lannau Afan Dwyryd, gydag un ohonynt (fferm faenor Plas Tan y Bwlch) yn cynnwys sied wythonglog enfawr a ddefnyddid i gylchgerdded ceffylau i gynhyrchu ynni.

Mae’r ffotograff o ardal 2 yn cynnwys enghraifft nodweddiadol o’r ffermydd ‘tir uchel’. Waliau cerrig yw’r rhan fwyaf o ffiniau caeau (fel arfer wedi’u creu o slabiau bychain fflat wedi’u gosod yn llorweddol, yn aml gyda llechi ar y brig a weiren yn eu cynnal), ac y mae’r caeau’n fawr ac afreolaidd o ran ffurf. Ceir hefyd enghreifftiau niferus o ysguboriau maes o adeiladwaith cerrig da, ac wedi'u lleoli'n strategol yn y caeau allanol (er enghraifft yng Nghae Glas, ger Croesor, sy'n adeilad rhestredig).

Ni cheir unrhyw dirwedd sy’n nodweddiadol o economi ddeublyg, fel y gwelir yn Sir Gaernarfon, er gwaethaf y diwydiannu helaeth o gwmpas Blaenau Ffestiniog: er y gellid dadlau bod anheddiad cynnar Penrhyndeudraeth yn debyg (cymysgedd o hwylio, pysgota a ffermio), ond ni cheir unrhyw arwyddion o hynny yn y tirwedd heddiw. Hefyd, yn rhannol o ganlyniad i hyn, ceir sawl fferm adawedig a dadfeiliedig: ond ymddengys y rhan fwyaf o ffermydd yn weddol fawr a ffyniannus.

Un o’r darnau mwyaf helaeth o dir a amaethir yw’r Morfa cyfan rhwng Porthmadog a Garreg (gweler isod hefyd). Yma, rheolir cynllun y caeau gan yr angen i ddraenio, ac yn ogystal â ffosydd, ceir cloddiau pridd a rhai waliau cerrig.

Un o agweddau pwysicaf yr economi leol yn y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar oedd tyfu a thorri coed, ac ymdrinnir â’r agwedd hon mewn adran ar wahân. yn ôl at y map

Yn ôl at map ardal Dyfryn Ffestiniog

 


Coetir

Er bod Ffestiniog yn gysylltiedig yn draddodiadol â chwareli llechi, ac iddi dyfu’n un o’r ardaloedd mwyaf cynhyrchiol yn y byd o ran llechi, yn gymharol hwyr y daeth chwarela i’r plwyf, mae’n debyg o tua 1760 ymlaen. Yn y ddeunawfed ganrif, daeth torri coed yn rhan bwysicach o economi’r ardal, ac er bod y ffynonellau dogfennol yn ymwneud yn bennaf â gwerthiant a chludiant pren yn hytrach na rheoli’r coetiroedd eu hunain, mae digon o dystiolaeth wedi goroesi i roi rhyw arwydd o gwmpas y masnachu a’r ffynonellau a ddefnyddiwyd.

Yr oedd pren – pren caled, yn enwedig derw – yn cael ei allforio o lethrau coediog nid yn unig yn ardal Ffestiniog a Maentwrog, ond hefyd o blwyfi cyfagos Llanfrothen a Llandecwyn. Er y gallai’r masnachu fod wedi dechrau ynghynt na hynny, daw’r cofnod cyntaf o 1739 ac y mae’n ymwneud ag ystâd Pengwern, pryd y nodwyd fod pren gwerth £400 i’w dorri. Ceir cyfeiriad penodol at dorri coed yng Nghoed Cymerau yn Journeys Syr Richard Colt Hoare ym 1801, pan mae’n disgrifio teithio o Dan y Bwlch i Gwmorthin drwy Gymerau (ger Ffestiniog).

I continued my rough and Alpine track through some oak groves, in some of which the axe has lately been introduced; £900 of timber was cut last year and a considerable fall has been made in the present. It is a lamentable sight for a lover of picturesque scenery; in a few years little wood will be left in Merionethshire. During the few years [since 1797, when he first visited the area] I have been frequenting this county the havock has been great; several of my favourite groves which I have so often admired have already fallen, and I hear of more where speedy doom is impending. But the evil does not only arise from felling the wood but from not properly fencing them out when cut by which the young shoots and prospects of a future copse are totally annihilated. The woodland track, intermixed with small pastures, distant mountains etc. affords many pleasing points of view.

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, yr oedd Dyffryn Ffestiniog wedi dioddef llawer o ddatgoedwigo. Eisoes, erbyn 1763 adroddwyd am Feirionnydd ‘this county has been much drained of her timber’, ac yn 1788 dywedwyd bod y stoc o dderw yn Sir Gaernarfon, Sir Ddinbych, Meirionnydd a Sir y Fflint wedi gostwng dau draean. Arwydd o faint y fasnach yw’r hysbysebion a geid mewn papurau newydd lleol, sy’n cofnodi gwerthu pren gwerth hyd at £900 y tro. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd cynifer â 6,400 o goed y flwyddyn yn cael eu cynnig ar werth. Arwyddion eraill sy’n nodi pwysigrwydd y farchnad bren yw’r unigolion a oedd yn amlwg yn gweithredu fel gwerthwyr pren. Weithiau, cydnabyddir hwy felly; nodir bod Owen David o Faentwrog yn werthwr pren ym 1785, ac yr oedd un arall wedi priodi yn Llanfrothen ym 1749. Roedd eraill yn ymwneud hefyd â chrefftau eraill. Ym 1749, er enghraifft, prynodd gof Ffestiniog werth £500 o bren yn Llandecwyn, llawer mwy nag a fyddai ei angen arno ef ei hun, a llawer mwy nag a allai ei werthu yn lleol, hyd yn oed pe byddai ganddo fodd i’w gludo i fyny’r dyffryn.

Pan fu adfywiad yn y gwaith adeiladu llongau yn rhan ogleddol Bae Ceredigion ddiwedd y ddeunawfed ganrif, yr oedd angen hyd yn oed mwy o bren a gynhyrchwyd yn lleol. Dyna fu’r sefyllfa hyd yr 1820au pan ddechreuodd adeiladwyr llongau Porthmadog ddefnyddio pren Mawddach, ac yn ddiweddarach, daeth cyflenwad o bîn o’r Baltig a Chanada ar gael. Parhau’n fentrau eithaf bychan yr oedd mwyngloddiau a chwareli lleol, ond yr oeddynt yn llosgi peth coed yn eu gefeiliau, ac yr oedd rhai yn defnyddio coed fel dull cynnal. Mae’n debyg y llosgid peth pren fel coed tân. Yr oedd rhisgl hefyd yn cael ei allforio, peth ohono yn ddiau yn mynd i danerdai lleol, ond yr oedd masnach sylweddol gyda thanerdai yn Iwerddon hefyd.

Erbyn 1807, y mae cofnodion Llysoedd Chwarter Meirionnydd yn cadarnhau bod tirfeddianwyr lleol yn annog planhigfeydd newydd, a chofnodir arwerthiannau coed yn y North Wales Gazette dros y blynyddoedd canlynol. Erbyn 1816 cofnodir bodolaeth cei arbennig ar gyfer allforio coed yng Nghemlyn ar aber llanw’r Ddwyryd, ychydig yn is na Choed Cymerau.

Ychydig iawn o ddogfennau ystâd na mapiau sydd wedi goroesi mewn perthynas â Chymerau Isaf (un o’r blociau pwysicaf o goedlannau yn y dyffryn), er bod un o’r rhain, dyddiedig 1802, yn dangos cynlluniau ffordd arfaethedig o chwareli’r Arglwydd Newborough ym Mlaenau Ffestiniog. Mae’n defnyddio confensiwn a oedd eisoes yn un hynafol, lle y dangosir adeiladau a nodweddion eraill fel golygfa gyffredinol o’r awyr, yn hytrach nag ar ffurf cynllun, a dengys ffermdy bychan yng Nghymerau Isaf ond ni ddarperir unrhyw wybodaeth am y coetiroedd ar wahân i ddangos ardal goediog yn union gerllaw. Dengys map o 1813 y bwthyn i’r de o Cymerau Isaf, r’Allt, heb nodi’r enw, ond ni roddir unrhyw fanylion am Cymerau Isaf ei hun. Mae’r trydydd, sef ‘arolwg llygadol’ o 1827 ar gyfer rhywbeth a allai fod yn ffordd neu’n rheilffordd, yr un mor brin ei wybodaeth.

Yn ddiweddar, bu i Dr Michael Lewis godi posibilrwydd diddorol iawn o ganlyniad i’w ymchwil i hanes ardal Ffestiniog. Wrth droed y bryn lle saif Cymerau, gwelir Rhyd y Sarn, sydd bellach yn dy preifat. Ceir y cyfeiriad cyntaf ato ar fap o ystâd Newborough yn dyddio o 1802, sy'n ei nodi fel ‘Y Ffatri Fawr’, dynodiad sy’n awgrymu melin wlân. Yn sicr, erbyn 1841 yr oedd yn gweithredu felly, ond y mae’r pwysigrwydd a roes ystâd y Newborough ar adeiladu ffordd i Ryd y Sarn (yn hytrach na dwr mordwyadwy), sydd ymhlyg ym map 1802, yn awgrymu’n gryf ei fod yn gysylltiedig â’r fasnach lechi, efallai fel melin i lifio slabiau. Byddai hyn yn golygu mai dyma’r felin fecanyddol gyntaf i lifio llechi yng Nghymru, ac o’r herwydd yn y byd, gan ddefnyddio rhaeadrau’r Afon Teigl ac efallai’r Goedol hefyd, i yrru’r olwyn ddwr.

Mae Dr Lewis yn awgrymu y gallai’r felin fod â hanes cynharach fel melin goed. Yr oedd Richard Morris, a oedd yn berchen y tir y codwyd y felin arno, yn dyst ym mhriodas William Solomon, partner yn chwarel lechi Diffwys yn rhan uchaf y plwyf ym 1779. Tra bo Morris yn oruchwylydd y tlodion ar y pryd, mae’n fwy tebygol fod cysylltiad busnes rhwng y ddau ohonynt, ac mae’n bosibl fod y felin eisoes mewn bodolaeth, ac yn llifio slabiau llechi o chwarel Diffwys. Rhoddir ychydig bach o gadarnhad i’r posibilrwydd hwn gan fodolaeth cerrig beddi wedi’u llifio yn yr ardal o 1775 ymlaen, er y gallai’r rhain fod wedi cael eu torri gan lif a weithredid â llaw. Fodd bynnag, ni allai’r tri deg a phump o gerrig beddi a gofnodwyd fod wedi cadw’r felin mewn busnes, ac efallai bod gan y felin ddau bwrpas, sef llifio coed gyda llif fertigol a llifio llechi gyda llif ôl a blaen.

Ym 1761, ceir un John Williams yn gwerthu coed i fwynglawdd copr ar weundir y Migneint a gwelir John Williams hefyd yn gwerthu coed i ailadeiladu ty yn lleol ym 1798, mae’n bosibl ei fod yntau’n un o’r gwerthwyr coed lleol.

Y mae Hanes Plwyf Ffestiniog G J Williams yn cynnwys ymysg meibion y plwyf un John Williams y Ffatri, a brynodd lyfrgell Plas Tan y Bwlch pan werthwyd hi. Ni cheir unrhyw gofnod o werthiant y llyfrgell (sydd ynddo’i hun yn golygu mae’n debyg i hynny ddigwydd ynghynt yn hytrach nag yn hwyrach), ond y mae’n debygol o fod wedi digwydd rhwng 1770, pan fu i’r Griffith olaf farw, a 1789 pan briododd merch y ty â William Oakeley. Mae’r gair Cymraeg ffatri yn tueddu i olygu melin wlân, ond nid oedd melin wlân yn yr ardal hyd yr 1870au. Mae’n bosibl felly fod John Williams yn gysylltiedig â Rhyd y Sarn yn y 1770au neu’r 1780au, a’i bod eisoes yn gweithredu fel melin goed. Byddai hyn yn golygu ei bod yn felin ddwr fecanyddol gynnar iawn – hon fyddai’r gyntaf yng Nghymru. Ond yn fwy na thebyg Rhyd y Sarn oedd y felin gyntaf yng Nghymru i lifio slabiau llechi, ac nid oes unrhyw wrthwynebiad amlwg, yn nhermau’r dechnoleg oedd ar gael, iddi hefyd fod yn arloesi ym maes llifio coed.

I wrth-ddweud y ddamcaniaeth hon, cred yr hanesydd o Ffestiniog Steffan ab Owain fod y John Williams y cyfeirid ato gan G J Williams, yn unigolyn o gyfnod diweddarach, ac mai’r "Ffatri" yr adnabyddid ef wrthi oedd y felin bannu yn Nhan y Grisiau, mewn rhan arall o blwyf Ffestiniog, a adeiladwyd ganddo yn yr 1840au. yn ôl at y map.

Yn ôl at map ardal Dyfryn Ffestiniog

 

Anheddiad

Aneddiadau anghnewyllol

Yn y cyfnod canoloesol, yr oedd yr ardal yng nghwmwd Ardudwy Uwch Artro ac yn cynnwys rhannau o blwyfi Llanfrothen, Penrhyndeudraeth, Llandecwyn, Maentwrog a Ffestiniog. Yn ôl Rhôl Gymorth Lleyg Meirionnydd (1292-93), plwyf Penrhyndeudraeth oedd fwyaf cyfoethog ohonynt o bell ffordd (ac yn wir, ynghyd â Llanegryn, dyma blwyf cyfoethocaf y Feirionnydd newydd), a ddilynid gan Lanfrothen (a drethwyd yn llai na hanner gwerth Penrhyndeudraeth, sef 30-40 swllt y 1000 erw), Maentwrog (20-30 swllt), Llandecwyn (10-20 swllt) ac yna Ffestiniog, sef y plwy tlotaf ym Meirionnydd gyfan (llai na 10 swllt). Pan fo rhywun yn gweld gwahanol dirweddau'r ardaloedd hyn, nid oes syndod yn hyn o beth. Ni cheir unrhyw ffigurau poblogaeth yn Rhôl yr ardal hon. Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi goroesi, ar wahân i enwau lleoedd modern, i nodi lleoliad penodol na maint yr aneddiadau hyn.

Un nodwedd o dirwedd ardal yr astudiaeth, fodd bynnag, yw goroesiad tai canoloesol diweddarach sylweddol, a oedd gynt yn ganolfannau ystadau bychain, mewn mannau cymharol anghysbell, heb eu cyffwrdd, i raddau helaeth, gan ddiwydiannu. Mae’r rhain yn cynnwys Dduallt (SH 6731 4182), y ty sy’n gysylltiedig ag ystâd fechan y Dduallt, Dol y Moch (SH 6840 4191) rhwng Maentwrog a Rhyd y Sarn, Parc (SH 6266 4397), cartref y teulu Annwyl, Hen Neuadd Pengwern (SH 6991 4302) a Phlas Brondanw. Yr oedd y ty annedd amlwg Plas Penrhyn (SH 5905 3790) yn gartref am gyfnod i Samuel Holland, ble yr ymwelwyd ag ef gan ei gyfnither Elizabeth Gaskell, a daeth yn ddiweddarach yn gartref olaf i Bertrand Russell. Ymysg y rhai a ymwelodd ag ef yno yr oedd Shastri (olynydd Nehru) ac A J Ayer. Mae Plas Tan y Bwlch (SH 6555 4064), er nad oes unrhyw ran o’r adeilad presennol yn gynharach na’r ddeunawfed ganrif, hefyd yn olynydd uniongyrchol i’r ty cynharach, o bosibl ger neu ar safle Gwesty’r Oakeley Arms heddiw (SH 6604 4095). Mae’r ty presennol yn un a ailadeiladwyd ar ddechrau’r ddeunawfed ganrif ar bymtheg gan William Oakeley, o dy a adawyd yn anorffenedig gan Robert Griffith adeg ei farwolaeth ym 1750.

Ceir hefyd dystiolaeth sylweddol o fyd archaeoleg ac enwau lleoedd, am fodolaeth aneddiadau gwasgaredig cyn-Ddiwydiannol ar dir uchel yn yr ardal. Mae’r nifer o enwau lleoedd sy’n cynnwys y gair hafod, yn enwedig yn yr ardal rhwng Maentwrog a Chroesor yn awgrymu bod y ffermydd sy’n dal yr enwau hynny yn rhai a oedd yn wreiddiol yn ganolfannau i stoc ar dir uchel, ynghlwm ag aneddiadau ar dir isel, a darganfuwyd sawl enghraifft o ‘gytiau hirion’ clasurol hyd yn oed cyn uched ag o gwmpas argae Blaen y Cwm a ger Llyn Stwlan.

Dros ran helaeth o ardal yr astudiaeth, ffermdai gwasgaredig yw’r patrwm anheddiad (gweler uchod). Y mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn adeiladau sylweddol a godwyd o gerrig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sy’n parhau i gael eu defnyddio gan deuluoedd o amaethwyr: ni cheir ond ychydig iawn o fythynnod a thai nad ydynt yn gysylltiedig â ffermio y tu allan i aneddiadau cnewyllol. Mewn rhai ardaloedd, yn enwedig ar aber Glaslyn a adenillwyd o’r môr, y mae adeiladau o’r ugeinfed ganrif wedi cymryd lle’r ffermdai gwreiddiol, a gwnaed defnydd helaeth o strwythurau amaethyddol modern, gan adael dim ond beudai ac ysguboriau adfeiliedig. Ceir sawl enghraifft dda o ffermydd o’r fath yn rhan isaf Cwm Teigl (ardal 2).

Aneddiadau cnewyllol

Fel y crybwyllwyd eisoes yr ‘aneddiadau’ (sut bynnag y diffinnid hwynt a sut bynnag yr edrychent) yn y cyfnod canoloesol, y gwyddys amdanynt o ddogfennau oedd Llanfrothen, Penrhyndeudraeth a Maentwrog. Nid yw’n syndod mewn ardal mor anghysbell, y byddai modd cyrraedd at y cwbl o’r rhain o’r môr yn y cyfnod canoloesol, ac maent yn parhau yn aneddiadau cnewyllol hyd heddiw, o gymeriad a maint gwahanol iawn erbyn hyn.

Mae Llanfrothen yn un o nifer o aneddiadau cnewyllol bychain iawn yn yr ardal. Saif eglwysi Llanfrothen a Phenmorfa (SH 6223 4117 a SH 5412 4028) ill dwy ar beth fyddai wedi bod yn gyrion aber yr Afon Glaslyn, cyn i’r Traeth gael ei adennill. Nid oes unrhyw adeiladau gwerth eu nodi’n benodol yn Llanfrothen. Efallai y sefydlwyd Garreg (SH 6137 4172) yn wreiddiol hefyd oherwydd ei leoliad fel glanfa cyn i’r cob gael ei adeiladu. Mae’n cynnwys amrediad mwy diddorol o adeiladau, llawer ohonynt yn rhestredig (gweler ardal 19). Mae’n bosibl fod pentref bychan Prenteg (SH 5857 4145) hefyd yn gysylltiedig â llwybr trafnidiaeth cyn-fodern gan y saif nid yn unig ar gwr yr aber, fel yr oedd cyn 1813, ond hefyd ar fin ffordd sy'n arwain i Glenennau, Bryncir a Garn Dolbenmaen.

Disgrifiwyd Penrhyndeudraeth (ardal 32), ym 1862 fel ‘pentref dilewyrch o ychydig o dai wedi’u gwasgaru rhwng tomenni o faw a chregyn cocos’ ac fe’i sefydlwyd yn wreiddiol gan boblogaeth o bysgotwyr a ddaeth hefyd yn gysylltiedig â’r busnes cychod llechi a fodolai cyn dyfodiad y rheilffyrdd. Yn amlwg yr oedd cymuned sefydlog yma ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg , ac y mae’r llysenw a roddwyd ar y pentref yn y cyfnod hwn ‘Cockletown’, yn dal i gael ei ddefnyddio. Bu i’r twrnai David Williams (Dewi Heli, 1799-1869), Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir Feirionnydd) ddod yn berchen ar safle’r pentref ym 1841 a dechreuodd ddraenio’r corsydd o ddifrif gan godi ffyrdd a thai, ym 1855. Pan gyflwynwyd gwasanaethau i deithwyr ar y rheilffyrdd ym 1865, datblygodd yn gynyddol i fod yn bentref noswyl i Ffestiniog.

Sefydlwyd Maentwrog mae’n debyg oherwydd y ffaith y saif ar bwynt mordwyadwy uchaf y Ddwyryd, a’r man lle y croesir yr afon gan sawl llwybr, gan gynnwys mae’n debyg y ffordd Rufeinig sy’n dod i lawr o Domen y Mur yn y man a elwir yn Felinrhyd (gweler y cyfeiriad yn ardal 8). Am y rheswm hwn, o ddechrau’r ddeunawfed ganrif, os nad ynghynt, daeth yr ardal hon yn ganolfan ddosbarthu i’r dyffryn, gyda thystiolaeth am allforio pren o 1739, ond yn arbennig yn dilyn datblygu’r diwydiant llechi o’r 1760au ymlaen. Mae’r pentref ei hun yn weladwy o gartref y teulu Oakeley yn Nhan y Bwlch, ac fe’i datblygwyd ganddynt yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar sail elw o'r diwydiant llechi. Mae’r eglwys (SH 6641 4055) a’r ficerdy (SH 6647 4067) yn dyddio o oddeutu 1800, ac ymddengys yr adeiladwyd y pentref ei hun ar ei ffurf bresennol yn nechrau a chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fel gyda Phlas Tan y Bwlch ei hun a’i gyffiniau agos, ymdrech ydoedd yn anad dim arall, i greu anheddiad a oedd yn ddeniadol i'r golwg ac a oedd yn adlewyrchu’n dda ar ei berchnogion, ac y mae ei adeiladau yn cynnwys llawer o nodweddion a manylion addurniadol. Mae’r sawl capel a geir yno i gyd wedi’u codi ar safleoedd nad ydynt yn weladwy o’r Plas.

Mae Tremadog yn enghraifft neilltuol o gymuned drefol gynlluniedig a grëwyd gan William Alexander Madocks ar dir a adenillwyd o’r Traeth Mawr gan yr arglawdd cyntaf ym 1800. Fel anheddiad a adeiladwyd yn newydd yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, sefydlodd batrwm o bensaernïaeth o fath cyfnod y rhaglywiaeth yn yr ardal a barhaodd ymhell i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymysg y nodweddion enwog a geir yno y mae’r ffasâd clasurol cyntaf ar gapel Cymreig, yn seiliedig ar gynllun Inigo Jones ar gyfer capel Covent Garden yn Llundain, a’r eglwys gyntaf ar ddull adfywiad Gothig yng Nghymru. Pery’r Capel i gael ei ddefnyddio, ond mae’r eglwys ar hyn o bryd yn cael ei haddasu’n ganolfan gelf. Mae’r adeiladau sy’n ffurfio rhan o gynllun gwreiddiol Madocks wedi goroesi, er bod y gwaith carreg wedi’i orchuddio gan chwipiad o raean mewn sawl achos, ac y mae modurdy o ddiwedd yr ugeinfed ganrif wedi’i osod ynghlwm wrth ddrychiad blaen yr adeiladau ar Ffordd Dulyn yn SH 5611 4017. Y mae cartref Madocks ei hun, Tan yr Allt, a fu’n ddiweddarach yn gartref i Shelley ac i sawl cenhedlaeth o berchnogion chwareli lleol, yn addasiad o gyfnod y rhaglywiaeth, o adeilad a fodolai eisoes, ac yn ddiweddar fe’i defnyddiwyd fel ysgol Steiner-Waldorf. Bu grwp adfywio brwdfrydig lleol, Cyfeillion Cadw Tremadog, yn allweddol yn y gwaith o gadw cymeriad pensaernïol y pentref.

Ceir dau anheddiad cnewyllol trefol yn ardal yr astudiaeth, Blaenau Ffestiniog (SH 6980 4592) a Phorthmadog (Portmadog) (SH 5686 3869). Y mae’r ddau fel ei gilydd wedi’u llunio’n gyfan gwbl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, un ar gyfer cloddio a’r llall ar gyfer allforio llechi. Codwyd y rhan helaethaf o Borthmadog ar dir a adenillwyd gan gob Madocks ym 1808-13.

Ar un adeg, Blaenau Ffestiniog (ardal 1) oedd y dref fwyaf yn yr hen sir Feirionnydd, gan gyrraedd poblogaeth o 11,435 yn 1901. Mae’n anheddiad ar ffurf pedol a adeiladwyd ar silff naturiol ger toriad y llethr ym mhen uchaf y dyffryn – blaenau plwyf Ffestiniog. Mae’r anheddiad ei hun yn ymestyn o Tan y Grisiau yn y gorllewin, drwy Glan y Pwll a Rhiwbryfdir i ganol y dref ac ymlaen wedyn drwy Manod a Chongl y Wal.

Nid oes unrhyw dystiolaeth o anheddiad cyn y cyfnod diwydiannol yn ardal y dref bresennol, er bod y ffermdai sylweddol Gelli a Chwm Bowydd wedi goroesi yn union i’r de o’r dref. Ceir tystiolaeth o anheddiad ar gyfer chwarelwyr a'u teuluoedd o'r 1820au ymlaen, ond ni ddechreuodd y rhain uno'n ganolfan y gellid ei hadnabod fel tref hyd nes daeth yr ehangu mawr adeg blynyddoedd ffyniannus yr 1860au, a hyd yn oed yn awr, mae gwahanol rannau o’r Blaenau yn parhau i gadw’u hunaniaeth a’u teyrngarwch arbennig eu hunain. Ymddengys y bu’r datblygu yn nwylo tenantiaid y chwarel, llawer ohonynt yn dod yn ffigurau amlwg a sefydlog yn lleol, gydag anogaeth tirfeddianwyr. Cynorthwywyd y broses gan sefydlu cymdeithasau adeiladu ac, yn yr 1870au, ddyfodiad adeiladwyr tai proffesiynol, a roes i’r Blaenau ei thai tri llawr a phedwar llawr nodweddiadol a sylweddol. Er bod nifer o dai mwy traddodiadol a chynhenid, fel sy’n gyffredin yn ardaloedd chwarelyddol Arfon, cymharol ychydig o’r rhain a geir yn y Blaenau - gellir gweld rhai yn SH 6976 4627 ac eraill yn Nhan y Grisiau, ac efallai bod y rhain yn cynrychioli’r tai cynharach a godwyd dan les gan Samuel Holland. Ym 1825, bu i reolwr Chwarel Lord ar dir Glynllifon adeiladu nifer ansicr o cottages ornès, a oedd yn cynnwys pedwar ty o gwmpas simnai ganolog, megis y rhai a welid mewn mannau eraill ar yr ystâd. Mae un o’r rhain wedi goroesi yn SH 7027 4605.

Yn ystod y cyfnod 1820 i ganol yr 1860au, cafwyd datblygiadau rhuban yn bennaf, un ai anheddau unigol neu resi byrion. Mae’r patrwm hwn wedi goroesi’n eglur iawn yn Nhan y Grisiau, lle y codwyd tai cynharach Holland yn gyfochrog â’r rheilffordd a agorwyd ym 1836, fel y gellid dadlwytho nwyddau ar gyfer y trigolion o’r trenau araf a dynnid gan geffylau. Pan gyflwynwyd trenau locomotif ym 1863, ni fyddent yn aros ond yn yr orsaf, ac o ganlyniad, daeth yr ardal o gwmpas yr iard nwyddau (SH 6840 4495) a'r ffordd yn ganolbwynt adeiladu. Mae rhesi hwy o derasau yn weladwy yn natblygiad rhuban Rhiwbryfdir a Llwyn y Gell ac o Manod i Congl y Wal.

O hynny ymlaen, bu’r datblygu yn bennaf ar sail grid, yn amlwg iawn ar dir Glynllifon ond i’w weld mewn mannau eraill hefyd, hyd nes y crëwyd tai cymdeithasol yn yr 1960au. Yn yr 1860au dechreuodd Glynllifon osod darnau o dir ar brydles yng nghanol y Blaenau, ar gyfer adeiladu, a thros y blynyddoedd canlynol, daeth patrwm o strydoedd ar sail grid i'r amlwg. Daeth adeiladwyr proffesiynol i mewn, gan godi tai sylweddol, yn aml ar lethrau, a oedd yn hwyluso creu selerydd, lle gellid gwasgu teuluoedd llai cefnog. Bu i’r ystâd gychwyn datblygiad tebyg rhwng Stryd yr Eglwys a Rheilffordd Ffestiniog ym 1874, a gynlluniwyd o’r dechrau gan beirianwyr a phenseiri, gyda system ddraenio gynhwysfawr mewn golwg, a dwy flynedd yn ddiweddarach, dechreuodd yr ystâd lunio datblygiad mwy dosbarth canol i’r de o’r eglwys a neuadd y farchnad.

Ymddangosodd ‘Barics’ yn y chwareli o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, er hynny, nid oeddynt yn wahanol i’r tai cynhenid neu ‘ddiwydiannol gynhenid’ a geid yn y dref a oedd yn tyfu islaw, ac mewn sawl achos, er nad yn yr oll ohonynt, yr oedd teuluoedd cyfan yn cael eu cartrefu mewn unedau ar wahân. Ym Maenofferen, adeiladwyd tai ar gyfer mwynwyr arbenigol o Ynys Môn a oedd yn gyrru'r lefelau yn y gweithfeydd newydd. Yr oedd mannau fel hyn, hyd yn oed os yr adeiladwyd hwy i ddechrau ar lethrau agored, yn cael eu hamgylchynu’n fuan gan domenni o rwbel llechi a rheilffyrdd y chwareli a welid ym mhob man.

Mae llawer o isadeiledd cymdeithasol y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi goroesi. Yr Ysgol Brydeinig yn Nolgarregddu, yn dyddio o 1846, sydd bellach yn Neuadd y Seiri Rhyddion (SH 7011 4595) yw’r hynaf o’r adeiladau sy’n goroesi a adeiladwyd yn bwrpasol fel ysgol. Fodd bynnag, mae nifer o gapeli sylweddol ac addurnedig y dref wedi’u dymchwel neu eu haddasu, a rhaid bod amheuaeth am ddyfodol pob un ond rhyw ddyrnaid o’r gweddill hefyd. Nodwedd o’r dref, yn enwedig o’r datblygiad dosbarth canol a gychwynnwyd gan ystâd Glynllifon i’r de o’r eglwys a neuadd y farchnad ym 1878, yw’r modd yr adeiladwyd capel i’r Annibynwyr a chapel i’r Methodistiaid Calfinaidd i wynebu ar y sgwâr addurniadol a'r 'Parc Hamdden' yn y datblygiad hwn, yn union fel y gwnâi eglwysi Anglicanaidd mewn trefluniau cynlluniedig cynharach. Gwelir priodoldeb anghydffurfiol hefyd yn ’Cocoa Rooms’ addurnedig ar Stryd yr Eglwys (bellach yn adeilad y Lleng Brydeinig - SH 6987 4597) a godwyd ym 1878-9, ac yn absenoldeb tafarndai yn Nhan y Grisiau, oherwydd egwyddorion Samuel Holland fel llwyrymwrthodwr.

Y mae ysbyty’r Oakeley yn Llwyn y Gell (SH 6964 4636) a agorwyd ym 1848 yn enghraifft ardderchog o ysbyty diwydiannol o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn seiliedig, mae’n debyg, ar yr ysbyty a godwyd gan y Cyrnol Pennant ar gyfer chwarelwyr y Penrhyn rhwng 1841 ac 1843. Mae bellach yn dy preifat.

Mae Neuadd y Farchnad yn adeilad sylweddol o 1864 (SH 6979 4594), sy’n cynnwys ystafelloedd darllen ac ystafell Ymgynnull, sydd ar hyn o bryd yn gweld adfywiad fel canolfan gymunedol. Mae siopau adrannol a siopau arbenigol, ddechreuodd ymddangos yn yr 1860au, wedi parhau i raddau helaeth, ond bu i nifer fawr ohonynt gau yn yr 1990au.

Daeth tref Porthmadog (ardal 10) i fodolaeth o ganlyniad i ddraenio'r Traeth Mawr gan William Alexander Madocks a’r ffaith y crëwyd harbwr yn anfwriadol gan Afon Glaslyn a sianelwyd o’r newydd, yn y fan lle yr âi drwy’r llifddorau. Codwyd y glanfeydd cyhoeddus cyntaf ym 1825, ac yn dilyn hynny codwyd cyfres o lanfeydd gan gwmnïau chwareli unigol ar hyd y lan bron cyn belled â Borth-y-gest. Yn dilyn agor Rheilffordd Ffestiniog o’r chwareli i’r môr ym 1836, daeth diwedd yn helaeth iawn ar y system flaenorol o gludo llechi mewn certi i lawr i’r glanfeydd ar hyd Afon Dwyryd lle y cludwyd hwy wedyn mewn cychod i Ynys Cyngar i'w trosglwyddo i longau.

Er bod y llwybr cynharaf ar draws y tir oedd newydd ei adennill yn ymdroelli i’r dwyrain o’r Stryd Fawr bresennol, erbyn o leiaf 1841, yr oedd y llwybr hwn wedi’i unioni, ac yr oedd y rheilffordd fwynau i Dremadog, yr adeiladwyd Stryd Madog ar ei hyd yn ddiweddarach, hefyd mewn bodolaeth. Bu i'r ddwy echel cludiant hyn roi i’r dref ei chynllun stryd nodweddiadol ar ffurf diemwnt. Mae tai i’w gweld ar fapiau mor gynnar â'r 1830au, a bu iddynt ddatblygu dros y degawdau nesaf yn rhannol oherwydd bod y twrnai David Williams yn rheoli ystâd Tremadog. Mae nifer o strwythurau wedi goroesi o ddyddiau Porthmadog fel porthladd. Mae datblygiad cyfleusterau harbwr yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith fod llofft hwyliau wedi goroesi a hefyd rhan o ffowndri Glaslyn a ymgorfforwyd yn archfarchnad Co-op. Dymchwelwyd adeiladau ffowndri Glaslyn yn yr 1960au i wneud lle ar gyfer swyddfa Cyllid y Wlad. Y mae ysgol forwriaeth Griffith Williams wedi goroesi ymysg y warysau sylweddol yn y Grisiau Mawr, ac fe’i lleolwyd yn llofft Cornhill Pencei, uwchben banc Casson’s. Ceir tystiolaeth weledol o gysylltiadau diwylliannol yr ardal â'r byd eangach yn enwau tafarnau Porthmadog, megis yr Australia a’r Ship on Launch (lle y cyhoeddwyd lansio llongau newydd).

Yn anarferol i dref borthladd, ni fu ym Mhorthmadog erioed fawr o dai ar gyfer gweithwyr y cei, ac ni fu yno ychwaith buteindai na thafarnau di-raen fel y ceid mewn porthladdoedd eraill ledled byd. Mae hyn yn rhannol oherwydd mai dynion lleol oedd capteiniaid a chriwiau llongau Porthmadog, ac yn eu dwylo hwy oedd y rhan fwyaf o’r fasnach. Yn bensaernïol, ceir yno yn bennaf dai sylweddol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a godwyd ar gyfer y dosbarth canol lleol - nid yn unig y capteiniaid ond hefyd yr asiantau llongau, gweinyddwyr, cyfreithwyr a swyddogion chwareli. Mae’r rhain wedi cadw llawer o nodweddion arbennig. Mae’r cysyniad cyffredinol yn un o gyfnod y rhaglywiaeth, hyd yn oed pan fo’r adeiladau lawer yn ddiweddarach eu dyddiad, a nodwedd gyffredin iawn yw’r patrwm o gerrig diddos addurniadol. Ers i’r fasnach lechi ddod i ben, daeth Porthmadog yn opsiwn deniadol i’r frawdoliaeth hwylio gymharol gyfoethog, a gwelir hyn yn y maisonettes anneniadol a godwyd ar y ceiau yn yr 1960au.

Mae pentref Portmeirion (ardal 7) yn anheddiad arbennig ac anarferol sy’n parhau’r traddodiad o odrwydd a gychwynnwyd gan Madocks ac a gynhaliwyd, i raddau, gan David Williams. Lleolir Portmeirion ar Fron Eryri, rhan o bryniant Williams ym 1843, ac yn yr 1850au bu iddo addasu’r ty yn blas castellog, gan ei ailenwi’n Castell Deudraeth. Dengys map o 1836 bod ffowndri a chei ar safle’r gwesty presennol.

Sefydlwyd pentref Portmeirion a’r gerddi cysylltiedig gan y pensaer Clough Williams Ellis yn yr 1920au. Fe’i disgrifir yn aml fel pentref ‘Eidalaidd’, ond efallai bod disgrifiad Williams-Ellis ei hun ohono fel 'cartref i adeiladau segur' yn well, sef casgliad amrywiol o adeiladau a symudwyd o wahanol leoliadau ledled Ewrop a’u hail-adeiladu. Ceir hefyd nifer o adeiladau a oedd yno cyn Clough Williams-Ellis, ac a dderbyniodd ymdriniaeth ganddo. Mae gardd ffurfiol y pentref yn seiliedig o gwmpas y Piazza, ac fe’i crëwyd yn bennaf yn y cyfnod ar ôl 1925, er y gall fod rhai coed wedi goroesi o gyfnod cynharach. yn ôl at y map

Yn ôl at map ardal Dyfryn Ffestiniog

 

Mathau o adeiladu a deunyddiau

Er bod y rhan fwyaf o’r stoc dai yn adlewyrchu twf y diwydiant llechi rhwng 1800 a 1900, er hynny, ceir swm sylweddol o stoc adeiladu cyn-Ddiwydiannol yn yr ardal.

Mae’r ardal yn cynnwys rhai tai canoloesol diweddarach sylweddol. Er enghraifft, yr oedd Cae Glas ger Croesor yn wreiddiol yn adeilad carreg o’r unfed ganrif ar bymtheg a oedd yn dy simnai dalcen unllawr, yn cynnwys cynllun cynteddau croes yn wreiddiol, a chyda rhannau wedi goroesi o draddodiad neuadd agored y cyfnod canoloesol diweddar, ac yn rhagflaenydd y tai simnai dalcen a ddatblygodd yn Eryri. Ceir uned wasanaethu ddiweddarach yn y cefn. Mae Wern yn dy bonedd o’r unfed ganrif ar bymtheg. Codwyd Hafodty ar ystâd Brondanw o rwbel, gyda chonglfeini enfawr a godreon clogfaen amlwg. Mae’n dyddio’n wreiddiol o’r ail ganrif ar bymtheg, ty hir o bosibl, wedi’i ail-fodelu’n ddiweddarach. Trafodir Parc, hen gartref y teulu Anwyl, mewn manylder yn nes ymlaen (ardal 22), ac y mae ond y dim yn unigryw (ar wahân i ffermdy Plas Newydd ger Penrhyndeudraeth, o’r ail ganrif ar bymtheg - hwnnw hefyd wedi'i adeiladu i'r teulu Anwyl), sef cyfadeilad ar gynllun unedol, gyda’r dyddiad 1671 ar wyneb allanol y ty. Y mae Plas Brondanw (ardal 6) yn dy bonedd o ansawdd da o’r ail ganrif ar bymtheg a adferwyd ac a ail-ddyluniwyd yn rhannol gan Clough Williams-Ellis yn yr 1950au. Mae’r tai cerrig eraill o’r ail ganrif ar bymtheg yn cynnwys Ty Obry a Hen Ynysfor.

Ceir hefyd sawl bwthyn bychan o ddiwedd y ddeunawfed ganrif, un ai bythynnod unigol neu resdai bychain, wedi’u lleoli ar gyrion rhai aneddiadau megis Garreg, ac ar ystâd Plas Brondanw.

Mae’r adeiladau rhestredig eraill yn cynnwys sawl pont, y rhan fwyaf o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, odyn galch o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ger Afon Maesgwm a melin bannu o’r ddeunawfed ganrif ym Moelwyn, ac adeiladau amaethyddol eraill megis y cyn-stablau ym Mhlas Newydd a’r Wern, sied droliau yn Nhy Mawr ac ystod o adeiladau amaethyddol yn Nhy Obry a Hen Ynysfor. Yn benodol, mae’r ardal yn cynnwys llawer o ysguboriau carreg, rhai ohonynt yn rhestredig. Ceir dau ger Cae Glas, un ohonynt o’r ail ganrif ar bymtheg ac yn cynnwys neu’n ailddefnyddio dau bâr o nenffyrch cyflawn (o bosibl yn tarddu o ragflaenydd Cae Glas), a cheir un arall yn Parc.

Mae’r mathau o dai diwydiannol yn amrywio’n fawr: nid yw stoc dai Blaenau Ffestiniog yn arbennig o unffurf, ond yn llawer mwy diwydiannol, er gwaetha’r defnydd o gerrig lleol, na’r tai cynhenid gwledig sy’n nodweddu ardaloedd chwarelyddol Sir Gaernarfon. Yn wahanol i ardaloedd chwareli llechi eraill, fel o gwmpas Cilgwyn/Nantlle, nid oes tystiolaeth o aneddiadau economi gymysg: yma, tai teras yw’r tai diwydiannol. Er y dywedir mai dynion o Geredigion oedd yr adeiladwyr tai proffesiynol a symudodd i mewn yn yr 1860au a’r 1870au, ni cheir unrhyw ddylanwad amlwg o Geredigion. Nodwedd arbennig yw’r patrwm o dy wyneb dwbl gyda thair ffenestr ddormer bigfain, dyluniad y gellir ei weld mewn mannau eraill yn ardal yr astudiaeth hyd lwybr Rheilffordd Ffestiniog.

Yn gyffredinol, adeiladwyd terasau deniadol Porthmadog a’i dai capteiniaid mewn dull gweddol safonol Sioraidd, sy’n nodweddu trefi Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg, hyd yn oed y rhai a godwyd yng nghanol neu ar ddiwedd y ganrif, sy'n awgrymu mai dynion lleol oedd yr adeiladwyr, a oedd yn tynnu eu hysbrydoliaeth o adeiladau cyfnod Madocks megis Ynys y Towyn a'r rhai yn Nhremadog ei hun.

Er gwaethaf hygyrchedd cymharol yr ardal erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae’n amlwg y parhawyd i wneud defnydd sylweddol o ddeunyddiau adeiladu lleol. Mae llechen lwyd Ordofigaidd Ffestiniog yn ddeunydd toi fwy neu lai ymhobman, ac fe’i defnyddiwyd yn helaeth ar gyfer siliau, grisiau a manylion pensaernïol, yn ogystal ag fel amddiffyniad rhag y tywydd mewn rhai achosion, drwy ei gosod ar estyll ar waliau. Ceir defnydd o lechi to wedi’u siapio’n arbennig ar adeiladau masnachol mwy nodedig. Mae’r cyn-dollty ym mhen gogledd orllewinol y Cob (SH 5711 3848) yn anarferol gan ei fod nid yn unig wedi’i orchuddio â llechi, ond y mae hefyd yn un o’r ychydig iawn o adeiladau sydd ar ôl yn cynnwys teils crib wedi’u gwneud o lechi sy’n cyd-gloi, a ddyfeisiwyd gan Moses Kellow, rheolwr Chwareli Parc a Chroesor. Nid yw ffensys o slabiau llechi yn gyffredin, er y ceir rhai enghreifftiau ardderchog yng nghyffiniau Croesor.

Er y ceir peth amrywiaeth yn y cerrig a ddefnyddiwyd i godi waliau, mae’n amlwg mai ffynhonnell leol oedd i’r rhan fwyaf o’r rhain. Mae llawer o’r adeiladau hyn ym Mhorthmadog a’r cyffiniau yn defnyddio’r llechfaen Lingula a gloddiwyd yn harbwr Porthmadog ac yn Nhu hwnt i’r Bwlch. Defnyddir yr un deunydd yn y tai mwy a mwy nodedig – Castell Deudraeth (SH 5930 3771), a Phlas Brondanw (SH 6164 4228) er enghraifft. Gallai ystafell ddarllen Chwarel Cwmorthin yn Nhanygrisiau, (SH 6848 4502) a ysbrydolwyd gan bensaernïaeth cyfnod y rhaglywiaeth, hefyd fod wedi’i hadeiladu o’r deunydd hwn. Mae Plas Tan y Bwlch ac adeiladau ar yr ystâd, gan gynnwys pentref Maentwrog, gwesty’r Oakeley Arms a’r ffermdai mwy, oll wedi’u hadeiladu o garreg gyffelyb a gloddiwyd yng Ngelli Grin. Gallai’r garreg hon gynhyrchu blociau hir iawn, fel y gwelir yn eglwys Maentwrog, ac y maent hefyd yn ffurfio cilbyst syth yn rhai o'r hen ysguboriau maes nodweddiadol, yn enwedig o gwmpas Ffestiniog.

Yr oedd chwarel Minffordd (ardal 31) er nad yw bellach yn cynhyrchu ond cerrig mâl, yn wreiddiol yn cynhyrchu cerrig sets, ac y mae’n bosibl iawn fod rhai o’r blociau ithfaen sgwâr y defnyddiwyd llawer arnynt yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi dod oddi yma yn hytrach nag o Benmaenmawr neu Drefor. Efallai y bu i’r chwarel ym Mlaenau Ffestiniog, a weithiwyd yn fwy diweddar gan Gwmni Ithfaen Groby (SH 6948 4529) hefyd gyflenwi cerrig adeiladu i Flaenau Ffestiniog yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er bod ffynonellau swyddogol yn awgrymu na fu’n gweithio ond o 1901 i’r 1930au. Yr oedd chwarel arall ym Moel Ystradau (SH 6827 4391), a weithiwyd yn yr ugeinfed ganrif gan Brookes o Halifax. yn ôl at y map

Yn ôl at map ardal Dyfryn Ffestiniog

 

Parciau a gerddi

Mae ardal yr astudiaeth yn arbennig o gyfoethog mewn gerddi. Mae Tan yr Allt (ardal 4), Plas Tan y Bwlch (ardal 5), Plas Brondanw (ardal 6), Portmeirion (ardal 7), Wern (ardal 8) a Pharc (ardal 22) i gyd yn ymddangos yng Nghofrestr Cadw o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Diddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru Rhan 1: Parciau a Gerddi. Mae Plas Brondanw wedi’i gofrestru’n Radd I ac y mae tri o’r pump arall yn Radd II*, sy’n dangos bod gerddi yn yr ardal nid yn unig yn niferus ond o ansawdd eithriadol hefyd.

Yr hynaf o’r chwe gardd yw Parc, sydd wedi’i hesgeuluso, ond yn meddu ar derasau enfawr, o’r ail ganrif ar bymtheg mae’n debyg. Yn sylfaenol, gerddi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yw Tan yr Allt a Than y Bwlch, er y lluniwyd Tan yr Allt gan William Madocks ar ddechrau’r ganrif yn y dull ‘Rhamantaidd’, ac mae i Dan y Bwlch fwy o’r cymeriad ‘Darluniadwy’ sy’n nodweddu pegwn arall y ganrif, er bod elfennau'n dyddio'n ôl i'r ddeunawfed ganrif. Gardd o dro’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg a’r ugeinfed ganrif yw Wern, yn cynnwys elfennau a ddyluniwyd gan Thomas Manson, ac y mae Portmeirion a Phlas Brondanw ill dwy yn erddi o’r ugeinfed ganrif a ddyluniwyd gan Clough Williams-Ellis. Lluniwyd y gyntaf i ddarparu cefndir rhamantaidd priodol ar gyfer y pentref ffantasïol, gan gynnwys elfennau o ardd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Aber-Iâ (Gwesty Portmeirion erbyn hyn) a’r ail oedd gardd Williams-Ellis ei hun, a luniwyd ganddo i blesio’i hun. Felly mae’r chwe gardd yn cwmpasu cyfnod maith o amser, yn ogystal â bod o ansawdd eithriadol o uchel. yn ôl at y map

Yn ôl at map ardal Dyfryn Ffestiniog


Diwydiannol

Prif ddiwydiant ardal yr astudiaeth oedd cloddio llechi, gyda’r ganolfan ym Mlaenau Ffestiniog (ardal 13), y drydedd ardal fwyaf cynhyrchiol mewn llechi yng Nghymru (ar ôl y Penrhyn a Dinorwig), er bod chwareli sylweddol yng Nghwm Croesor hefyd (ardal 12) a gweithfeydd llai o gwmpas Tremadog a Phortreuddyn. Mae’r ffaith bod y gwythiennau Ordofigaidd yn gorwedd ar ongl o oddeutu 30° i’r llorweddol wedi cael effaith sylweddol ar y tirwedd diwydiannol, gan olygu bod yn rhaid i chwarelwyr a rheolwyr gloddio’r graig mewn siambrau tanddaearol, o leiaf hyd nes y cafwyd cyfarpar cloddio sylweddol yn yr 1970au a arweiniodd at symud yn ôl i weithio yn yr awyr agored. Mae hyn yn golygu, yn nhermau archaeoleg diwydiannol y chwareli, y gallant ymddangos fel tomenni o wastraff llechi gydag adeiladau melinau yn eu mysg, a lle mae’r mannau cloddio agored yn gymharol fychan, yn hytrach na llethrau terasaidd y Penrhyn a Dinorwig, neu’r pyllau a’r bastiynau enfawr ar gyfer incleiniau cadwynog, a welir yn Nantlle.

O 1970 ymlaen bu i’r chwareli oedd ar ôl un ai gau neu fabwysiadu dulliau newydd a safleoedd brig, gydag un eithriad, sef Maenofferen (SH 714 – 466 – C) a fu yn ddiweddarach ym mherchnogaeth Greaves Welsh Slate o Chwarel Llechwedd. Mae hon bellach yn segur, ond wedi cadw'i rhwydwaith o dramffyrdd ac incleiniau yn ogystal â melin fawr gyda chafn i'r olwyn ddwr.


Mae’r chwareli eraill yn parhau fel tirweddau creiriol, ond gyda fawr ddim peirianwaith. Mae tomen enfawr Chwarel yr Oakeley (gweler y llun ar gyfer ardal 13) yn tra-arglwyddiaethu dros dref Blaenau Ffestiniog, a chyda’i hincleiniau, ei chytiau weindio a’i grisiau igam-ogam, yn atgof gweladwy a phwerus o wreiddiau’r dref yn y diwydiant llechi.

Mae nifer o safleoedd melinau llechi lled-annibynnol hefyd wedi goroesi, gan gynnwys Ffatri Rhyd y Sarn (SH 6909 4230), a fu, ar wahanol amseroedd yn felin wlân, melin lifio ac un o’r melinau cynharaf un i lifio slabiau llechi.

Yr oedd peth cloddio am garreg - Penrhyndeudraeth, sy’n parhau’n weithredol o hyd (ardal 31), a sawl un arall sydd wedi cau ers amser maith gan gynnwys chwarel ithfaen Groby ger Blaenau Ffestiniog (SH 6949 4526) a Moel Ystradau (SH 6819 4384). Fel rheol, mae’r rhain yn goroesi fel un lefel, neu wyneb gyda phonciau, gyda’r sylfeini carreg neu goncrid ar gyfer peiriannau mathru.

Mae nifer o fwyngloddiau plwm a chopr yn ardal yr astudiaeth. Mae mwynglawdd copr Pen yr Allt neu Catherine a Jane Consols (SH 633 411) uwchlaw Penrhyndeudraeth wedi goroesi fel tirwedd diwydiannol amrywiol o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn cynnwys cafnau olwynion a thai, a chwt injan droi o 1859-1860, a ddymchwelwyd gan fwyaf ym 1965. Goroesodd llai o Pant y Wrach (SH 617 402) a oedd yn weithredol yn yr 1820au, ond o bosibl yn llawer cynharach na hynny, fel safle ar lan yr afon cyn cwblhau'r cob ym 1813. Mae'n bosibl y bu modd i'r clwstwr o fwyngloddiau copr o gwmpas Nanmor a Phont Aberglaslyn, er eu bod yn bennaf y tu allan i ardal yr astudiaeth, ffynnu hyd ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg oherwydd mynediad hwylus at gychod yr aber. Ceir cyfeiriad at fwynglawdd plwm sylweddol Bwlch y Plwm (ardal 33) yn Parochialia Llwyd ym 1577, ond gallai ddyddio o gyfnod llawer cynharach. Mae’r ardal a elwir yn ‘Gwaith Romans’ uwchlaw'r mwynglawdd yn cynnwys aelwyd fwyndoddi a lwmp mawr o blwm metelaidd, a ddarganfuwyd ym 1850. Ym mhen isaf y gweithfeydd, ar yr hyn fyddai wedi bod yn draethlin hyd 1813, ceir ychydig olion o weithfeydd modern, a barhaodd hyd 1921.

Bu mwynglawdd haearn ym Mhensyflog yn SH 5620 3960. Efallai na ddatblygwyd hwn erioed hwnt i gloddio ffosydd ar yr wyneb, ac nid oes unrhyw nodweddion bellach i’w gweld ar wyneb y tir. Cloddiwyd sinc ym mwynglawdd Moelwyn i’r ugeinfed ganrif. (SH 676- 437-).

Mae ardal yr astudiaeth y cynnwys nifer o safleoedd gwehyddu pwysig. Adeiladwyd y felin wlân ym Mhant yr Ynn ger Blaenau Ffestiniog (SH 7088 4538) yn wreiddiol yn 1845-6 gan George a William Casson, William Turner a Hugh Jones ar brydles gan ystâd Tan y Manod fel melin lechi ar gyfer Chwarel Diffwys, ac fe’i addaswyd yn felin wlân ym 1873. Bu hon yn weithredol yn ddiweddarach, ar y cyd â phandy Moelwyn (SH 6905 4547) a godwyd oddeutu 1864 gan John Williams, Garn Dolbenmaen, yr unig bandy yng Ngwynedd sydd â’i gyffion pannu wedi goroesi. Mae’r erthygl ar felinau pannu Meirionnydd yn JMHRS 1984 yn rhestru Pandy Pengwern (SH 7050 4292), Pandy Bach (SH 6852 4020) a Phandy Gwylan (SH 6897 3882).

Y felin wehyddu unigol fwyaf sy’n goroesi, fodd bynnag, yw ffatri wlân Madocks yn Nhremadog (ardal 20). Ychydig iawn o waith ymchwil a wnaed ar ei hanes, ond ymddengys ei bod yn cynnwys o leiaf beth o’r adeiladwaith gwreiddiol o oddeutu 1805-7.

Mae cynhyrchu ynni yn thema bwysig arall yn yr ardal, a cheir sawl gorsaf bwer gan gynnwys Dolwen (SH 6940 4387), Cwm Croesor (SH 6484 4594) a’i argae syenit (SH 6543 4664), Llyn Stwlan (SH 6600 4442) a gorsaf bwer Llyn Ystradau (SH 6792 441) (ardal 17) yn ogystal â Phant yr Afon (SH 6971 4687) a gorsaf hybu Maenofferen (SH 7139 4660) a’r orsaf drydan dwr (SH 7090 4691).

I derfynu, mae tystiolaeth yn y tirwedd o fodolaeth un diwydiant arall yn yr ardal, sef adeiladu llongau pren yr ardal, a barhaodd hyd lansio'r Gestiana ym 1913. Bu i brosiect arfordirol Cadw, a dderbyniodd grant ym 1986, ganfod a nodi safleoedd iardiau adeiladwyr llongau a llithrfeydd ym Morth y Gest (SH 566- 376-), Porthmadog (SH 5705 3838), Penrhyndeudraeth (SH 5954 3740) a Thy Gwyn y Gamlas (SH 6000 3575). Ychydig iawn o dystiolaeth archeolegol a adawyd gan y mentrau bychain hyn, ac y maent yn adnodd sy’n lleihau’n gyflym ledled Ynysoedd Prydain. Mae llofft hwyliau hefyd wedi goroesi ym Mhorthmadog. yn ôl at y map

Yn ôl at map ardal Dyfryn Ffestiniog

 

Amddiffynfeydd môr a systemau rheoli dwr

Bu i’r gorlifdir islaw Maentwrog gael ei argloddio a’i ddraenio rhwng 1791 a 1795 (ardal 29), ac am y gwaith hwn dyfarnwyd i William Oakeley fedal aur gan Gymdeithas y Celfyddydau.

Mae’r Cob dros y Traeth Mawr (pen isaf ardal 3), yn arglawdd sylweddol a adeiladwyd rhwng 1808 ac 1813 ac a newidiodd arfordir rhan ogledd-ddwyreiniol Bae Ceredigion yn sylweddol (gweler ardal 14). Nid yn unig y mae’r Cob yn parhau i gael ei ddefnyddio, yn cludo Rheilffordd Ffestiniog yn ogystal â’r ffordd fawr a llwybr beicio hefyd erbyn hyn, ond y mae’r chwareli naill ben hefyd wedi goroesi, yn ogystal â’r barics ar lan Meirionnydd, swyddfeydd Madocks ar ochr Porthmadog a’r storfa bowdr yn Ynys Cyngar (SH 5543 3660). Gwnaed y llifddorau a osodwyd dan bont Britannia ym Mhorthmadog (SH 5707 3848) ym 1838 gan Jesse Hartley, peiriannydd enwog dociau Lerpwl.

Crëwyd y Cob isaf, a ledwyd yn ddiweddar, pan fu i waith ar y rheilffordd ei gwneud yn amhosibl i gerbydau a oedd yn cael eu tynnu gan geffylau barhau i ddefnyddio’r Cob uchaf. yn ôl at y map

Yn ôl at map ardal Dyfryn Ffestiniog

 

Cysylltiadau

Bu adeiladu’r Cob, a wnaed yn bennaf fel dull o amgáu’r bae a freiniwyd i Madocks gan y Ddeddf Cau Tir, hefyd â goblygiadau i ddatblygiad trafnidiaeth. Daeth y Cob ei hun yn ffordd a gysylltai Sir Gaernarfon â Sir Feirionnydd, o leiaf i’r rhai oedd yn ddigon dewr i roi cynnig arno, ac yr oedd yn rhan o gynllun mawreddog Madocks am ffordd o Lundain i bacedborth ar gyfer Iwerddon ym Mhorth Dinllaen, a adlewyrchir yn yr enwau ‘Stryd Dulyn’ a ‘Ffordd Llundain’ yn Nhremadog. Fodd bynnag, ei effaith oedd dwyn i fodolaeth system drafnidiaeth a oedd, yn wreiddiol o bwysigrwydd rhanbarthol, ond a fyddai, maes o law, yn cael effaith sylweddol ledled byd.

Drwy greu sianel dwr dwfn yn aber newydd yr afon Glaslyn, daeth adeiladu’r Cob â harbwr Porthmadog i fodolaeth, sydd bellach yn goroesi fel enghraifft ardderchog o harbwr diwydiannol o arfordir gorllewinol Prydain (ardal 9). Drwy gymryd lle Ynys Cyngar fel y fan lle y llwythid llongau mordeithiol â llechi, a thrwy ddarparu llwybr parod ar draws y Traeth Mawr, fe’i gwnaed yn bosibl i adeiladu Rheilffordd Ffestiniog rhwng 1832 ac 1836, sydd erbyn hyn yn gweithredu fel atyniad i dwristiaid (ardal 3). Bu i Reilffordd Ffestiniog yn y cyfnod 1863 i 1872 ddangos sut y gallai peirianneg sifil y dramffordd a dynnid gan geffyl, gael ei gwthio ymlaen i'r oes stêm – a thrwy hynny darparodd ddull rhad ac effeithiol o drafnidiaeth ar gyfer yr ymerodraeth Brydeinig, UDA a thu hwnt – a phrofodd hefyd werth ymarferol trenau locomotif a wagenni sydd bellach i’w gweld ledled byd. Bu i lawer o’i seilwaith o oes Fictoria oroesi nid yn unig y cyfnod cau rhwng 1946 ac 1955 ond hefyd foderneiddio gorawyddus y rheilffordd yn yr 1960au a’r 19760au gan y rheolwyr presennol.

Mae rheilffyrdd y chwareli a oedd yn ei bwydo mewn rhai achosion yn ffurfio nodweddion trawiadol yn y tirwedd. Mae’r inclein o Reilffordd Ffestiniog i Chwarel Wrysgan (SH 6781 4549 i SH 6806 4496) a’r incleiniau i chwareli Blaenau ei hun (e.e. SH 6937 4672 i SH 6941 4644) yn arbennig o drawiadol.

Yr oedd rheilffyrdd bychain eraill hefyd yn arwain i'r porthladd - ailadeiladwyd fwy nag unwaith lein i Dremadog a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1841 i gario haearnfaen, ac fe’i ymestynnwyd i ben pellaf Cwm Pennant yn y diwedd. Pery arlliw o lein lle tynnwyd wagenni gan geffyl, ac a adeiladwyd yn yr 1860au i gysylltu’r harbwr â’r chwareli llechi y tu hwnt i Groesor. Y mae'n cynnwys cyfres o incleiniau yn Parc (ardal 22) lle yr addaswyd y cwt weindio uchaf yn neuadd wledda i Arglwyddes Aberconwy gan Clough Williams-Ellis (SH 6362 4411). Mae’r argloddiau bwtresog a’r pontydd a godwyd o slabiau a geir hyd ei llwybr rhwng y fan hon a’i therfyn ym Mlaen y Cwm yn dangos dyfalbarhad peirianneg sifil y rheilffyrdd yng nghyd-destun yr 1860au. Y mae’r gwahanol incleiniau a’i cysylltai â’r chwareli hefyd yn nodweddion trawiadol, gan gynnwys yr ‘Ysgol Jacob’ restredig i Chwarel Rhosydd (SH 6541 4610 i SH 6577 4635) (ardal 12).

Addaswyd rhan isaf y rheilffordd hon ar gyfer defnydd trenau locomotif yn yr 1920au, ac efallai y daw maes o law yn derfyn isaf Rheilffordd Ucheldir Cymru, sydd wedi’i hadfer. Yn nhermau’r tirwedd, y mae’r rhain yn llai arwyddocaol na Rheilffordd Ffestiniog, er y gallai cynnig diweddar i ddatblygu’r darn byr o reilffordd treftadaeth yng Nghilffordd Gelert yn amgueddfa fawr, fod â goblygiadau sylweddol.

Ym Mhorthmadog mae tirwedd harbwr o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi goroesi’n gyfan, i raddau helaeth, gan gynnwys y ceiau cyhoeddus gwreiddiol o 1824 a’r ceiau llechi helaeth a sefydlwyd o’r 1830au i’r 1860au (SH 569 – 383-). Y mae mewn sawl ffordd yn nodweddiadol o’r mannau allforio llechi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg - yn brin o adeiladau a chraeniau, ac yn gwneud defnydd o ddulliau llafurddwys llwytho â llaw. Yn yr 1960au, adeiladwyd maisonettes a enillodd Wobr gan Ymddiriedolaeth Cic, ar gei Holland (SH 5709 3844) ac ar y cei gyferbyn (SH5701 3828), ac oddeutu’r un adeg dymchwelwyd y siediau anarferol i storio llechi ar gei Greaves, pob un ar wahân i’r un sydd bellach yn ffurfio cartref i Amgueddfa Forwrol Porthmadog (SH 5697 3845).

Mae’r ceiau llai i allforio llechi ar Afon Dwyryd wedi goroesi, ond eu cyflwr yn amrywio. Y mwyaf trawiadol yw Tyddyn Isa yn SH 6292 3945, Heneb Gofrestredig, gyda’i rhesi o risiau i lawr i’r mannau angori a’i storfeydd powdr gyda tho pyramid ar y naill ben a'r llall.

Gwelir ceiau bychain neu fannau angori ar gyfer allforio llechi neu ddod â nwyddau darfodus i’r lan i gwsmeriaid mewn sawl lleoliad, megis yn Nhy Gwyn y Gamlas (SH 5992 3550), ym Mhortmeirion (SH 5893 3696) ac yn Ynys Cyngar (SH 5543 3654) yn ogystal ag mewn sawl lleoliad ar y Traeth Bach.

Yn anarferol i Ogledd Orllewin Cymru, y mae ardal yr astudiaeth hefyd yn cynnwys dwy gamlas, un yw camlas fer iawn Cemlyn sy’n cysylltu Afon Dwyryd â chei cyn-chwarel y Diffwys ym Maentwrog (ardal 29) a’r llall yw’r ‘cyt’ o Borthmadog i Dremadog (ardal 14). Credir i hon weithredu fel gwythïen drafnidiaeth, a’i bod hyd yn oed wedi cychwyn llong stêm ar daith i Efrog Newydd rywdro yn yr 1830au. Yn sicr y mae adeilad allai fod wedi bod yn warws ar safle’i basn yn Nhremadog (sydd bellach wedi llenwi) ac yr oedd yn mynd heibio’r mwynglawdd haearnfaen ym Mhen Syflog. Fodd bynnag, mae’n fwy tebygol y bwriadwyd hi i weithredu fel draen, hyd yn oed os yr oedd hi weithiau'n cludo cychod.

Mae lleoliadau a ystyriwyd yn draddodiadol i fod yn safleoedd ceiau a glanfeydd llai i’w gweld mewn mannau sydd bellach ymhell o’r arfordir, megis yn nhafarn y Brondanw Arms, Garreg (ardal 19).

Yn ôl at map ardal Dyffryn Ffestiniog

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol