English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol - Dysynni

Themâu tirwedd hanesyddol Dydsynni

Cyflwyniad

Mae ardal yr astudiaeth wedi ei diffinio gan lethrau a llawer dyffryn Dysynni, yn ogystal â rhan is dyffryn llednant yr Afon Fathew ac ardal helaeth o dir gwastad ar hyd arfordir Bae Ceredigion.

Mewn cyferbyniad ag Aber y Mawddach i'r gogledd ac Aber y Dyfi i'r de, mae rhan uchaf dyffryn Dysynni yn anghysbell heb lawer o ymwelwyr. Mae'n ffurfio adfewniad, gyda'r olygfa o Gader Idris ar ei derfyn gogledd-ddwyreiniol yn ei derfynu, a nodwedd drawiadol Craig yr Aderyn yn ei dominyddu. Mae'r brif linell trafnidiaeth trwy'r ardal, ffordd yr A493, yn torri trwyddo, sy'n golygu ar wahân i ffermwyr a'r rhai sydd wedi gwneud dewis bwriadol i fwynhau ei harddwch naturiol, prin iawn yw'r ymwelwyr.

Mae'r Afon Dysynni, a'i phrif lednant, yr Afon Fathew, yn ymuno 3.5km cyn dod i'r môr. Ar geg y dyffryn hwn, ac wedi ei wahanu o Fae Ceredigion gan draethell, mae'r Afon Dysynni yn agor allan i ffurfio llyn a elwir yn 'Broad Water' neu'r Morfa Gwyllt. Mae'n hysbys o ffynonellau dogfennol ei fod ar un adeg yn fwy helaeth nag yw nawr. Mae bryngaer Tal y Garreg yn edrych dros y dyffryn. Awgrymodd Bowen a Gresham y gallai'r harbwr naturiol hwn fod wedi bod yn bwynt cychwyn y Ffordd-ddu, y llwybr Cynhanesiol sy'n pigo ei ffordd o amgylch Cyfannedd ac ar Fryn Seward yn nhirwedd hanesyddol y Mawddach i'r gogledd. Maent yn nodi y gallai fod wedi bod yn ffocws pwysig mewn cyfnodau Cynhanesiol:

Er nad oes harbwr yno erbyn heddiw, fe ymddengys bod siltio helaeth a ffurfio traeth graean wedi dinistrio man a allai fod wedi bod yn lloches gyfleus i longau ar un adeg…. mae Aber y Dysynni, 80 milltir o fynyddoedd Wicklow, lai nad 20 milltir o ffynhonnell yr Hafren. (Bowen a Gresham, 1967)

Nid yn unig y gallai fod wedi bod yn lloches yn y cyfnod Cynhanes, ond mae hefyd yn bosibl ei fod yn dal i'w ddefnyddio i'r perwyl hwn pan sefydlwyd eglwys clas (lled-fynachaidd) ger y lan, cnewyllyn tref bresennol Tywyn. Byddai Ynysymaengwyn, setliad a ddaeth i'r amlwg yn niwedd y cyfnod Canoloesol a'r cyfnod Modern fel canolfan un o'r ddwy o ystadau lleol pwysicaf, hefyd wedi bod yn agosach at lan y môr ar un adeg. Mae'r brif ystâd arall o amgylch Peniarth, sydd ymhellach oddi wrth yr arfordir, ond mae'n bosibl hefyd bod dŵr mordwyol yn ymestyn mor bell â hyn yn y cyfnod Canoloesol.

Daeth y ddau dŷ yma a'u parciau cysylltiedig, ynghyd â phentrefi Bryncrug a Llanegryn a thref Tywyn, i fod yn ganolfannau'r ardal hon yn y cyfnodau Canoloesol hwyr a Modern. Roedd y teulu Corbet o Ynysymaengwyn yn arbennig, fel prif dirfeddianwyr o fewn ardal yr astudiaeth, yn arbennig o weithgar o ran draenio ac amgáu'r tiroedd o amgylch eu heiddo, ac yn noddwyr i dref Tywyn. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, diolch i'w hymdrechion fe'i trawsffurfiwyd o setliad bach a thruenus i ganolfan isranbarthol oedd yn gobeithio bod yn gyrchfan glan môr, yn arbennig wedi cael cyswllt i'r brif rwydwaith rheilffyrdd yn y 1860au. Mae gan Dywyn le pwysicach yn hanes y rheilffyrdd fel terfynfa is Rheilffordd Tal-y-llyn, y rheilffordd gyntaf yn y byd i gael ei hailagor gan lafur gwirfoddol.

 

Perchnogaeth tir

Mae ardal y prosiect o fewn cymunedau modern Bryncrug, Tywyn, Llanegryn a Llanfihangel y Pennant, yn ogystal â chrwydro i Aberdyfi, Pennal a Llangelynnin. Yn y cyfnod Canoloesol, roedd y tir i'r gogledd o'r Afon Dysynni o fewn canrif Talybont, y tir i'r de o fewn cantref Ystumanner, ac yn cynnwys plwyfi hanesyddol Tywyn, Llanfihangel y Pennant a Llanegryn. Y prif dirfeddianwyr yn y cyfnodau Canoloesol hwyr a Modern oedd, fel y nodwyd, y teuluoedd oedd yn ddeiliaid ystadau Ynysymaengwyn a Pheniarth. Roedd Ynysymaengwyn yn meddiannu rhan isaf ardal yr astudiaeth, Peniarth yr uchaf. Fodd bynnag, roedd yna hefyd nifer o eiddo rhydd-ddaliol megis Dolau Gwyn a Chae'r Berllan.

 

Amaethyddiaeth

Mae'r dystiolaeth o bensaernïaeth cyn-Canoloesol yn gyfyngedig, er ei bod yn amlwg bod yr ardaloedd ucheldir eisoes wedi eu trefedigaethu yn y cyfnod Oes Haearn/Brythonig-Rufeinig. Yng Nghraig Ty'n y Cornel, mae tirwedd hynod yn goroesi sy'n cynnwys 11 o gytiau crwn gyda sylfaen carreg a setliad cytiau hir o dri chwt wedi eu cysylltu gydag iardiau a phadogau ar lethr yn wynebu'r de-ddwyrain tua 330m uwchlaw'r seilnod ordnans, ynghyd â system o gaeau crwydrol yn gysylltiedig i un neu'r llall, neu gyda'r ddau (SAM: M167, SH6375 0845 C), yn dynodi'r posibiliad o ddeiliadaeth barhaus i'r cyfnod Canoloesol, neu hyd yn oed Ôl-Ganoloesol.

Mae'n amlwg o dystiolaeth ddogfennol bod ardal yr astudiaeth yn gynhyrchiol iawn yn y cyfnod Canoloesol (Thomas 2001), a'i fod wedi ei reoli gan awdurdod eglwysig a seciwlar, tywysogol. Mae'n debygol bod yr ardal o amgylch Tywyn ei hun wedi bod dan reolaeth y clas, ac mae'n bosibl bod yr elfen enw lle Faenol i'r de o'r breswylfa drefol (SH 5898 0023) yn cynrychioli canolfan awdurdod eglwysig. Mae tystiolaeth enwau llefydd, ar ffurf elfennau erw- a llain- o amgylch Faenol yn cynnig awgrymiadau o ran ffermio a pherchnogaeth hanesyddol yma, ond mae Thomas yn nodi:

…mae angen cyflawni ymchwil llawer manylach yma ac ar draws y Dysynni yn Llanegryn, cyn y gellir datrys cydberthnasau lleol yn y naill neu'r llall o'r cytrefi deheuol (Thomas 2001).

Er bod y tiroedd i'r gogledd o'r Dysynni wedi eu rheoli gan Sistersiaid Abaty Cymer o 1209 hyd at yr unfed ganrif ar bymtheg, o amgylch Llanegryn ac i'r dwyrain o Dalygarreg (Williams 2001), roedd llawer o'r ardal hon yn faenor frenhinol, gyda'r llys yn Nhalybont yn ganolbwynt, ac fe drafodir cefndir hyn mewn manylder yn 8.4.1 isod. Dynoda rhôl cymorth lleyg 1292-3 bod gan Dalybont, Ystumanner a Pheniarth eisoes boblogaeth arwyddocaol ar y pryd ac mae'n cyfeirio at ‘Ddôl, gardd a thyddyn a hawddfreintiau'r llys' yn Nhalybont yn ogystal â ‘thri beudy ble gellir cynnal 120 o wartheg' yn y tir uwch. ‘Roedd gwenith a cheirch yn cael eu tyfu'n helaeth hyd yn oed tu hwnt i diroedd aradwy eang y demen, tra talwyd sylw cyfartal i ofal gwartheg a chynhyrchu menyn ar yr hafodydd mwy maethlon ar y llethrau mewnol uwch, ac roedd porthiant gaeaf ar gael o'r llennyrch gwerthfawr yn nolydd y dyffryn' (Thomas 2001). Er hynny, mae'n amlwg bod rhai ardaloedd o dir isel wedi parhau fel coetir ran y drydedd ganrif ar ddeg; cofnodir bod yn rhaid i ddau ar bymtheg o goedwyr dorri ffordd i gerbyd y Frenhines ar ei thaith o Gastell y Bere i Dywyn (Smith, 2001). Er bod Thomas yn awgrymu bod tri phumed o Feirionnydd yn anghyfannedd a heb ei ddefnyddio yn y cyfnod Canoloesol cynnar, mae'n amlwg bod asartio tir uchel yn ardal yr astudiaeth yn dechrau yn gynnar. Mae tystiolaeth bod hyn yn cyflymu yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Erbyn hyn, roedd asartio tir comin ucheldir yn dueddol o arwain at ymgyfreithiad, ac yn y cyfnod hwn y cychwynnodd y tirfeddianwyr mawr ffriddio'r dolydd iseldir, o setliadau ar hyd y llethrau is a sefydlwyd yn y cyfnodau Canoloesol. Roedd y dirwedd meysydd agored yn cael eu didoli'n gynyddol gyda ffensys a hafotai sylweddol yn cael eu hadeiladu ar ucheldir a drefedigaethwyd, neu a ail drefedigaethwyd, yn y cyfnod Canoloesol (Thomas 2007). Roedd y broses yn araf ac anghyflawn; mor hwyr â'r 1830au roedd Samuel Lewis yn gallu disgrifio plwyf Llanegryn fel tri phumed agored a heb ei drin, fan ddatgan bod llawer ohono yn cael ei gloddio am fawn (Lewis M4v). Ynghylch Llanfihangel y Pennant dywed ‘mae bron i hanner ohono, yn y dyffryn, yn ffrwythlon ac mewn cyflwr amaethu da, gyda chyfran sylweddol yn cynhyrchu ŷd rhagorol; tra bod y rhannau mynyddig … yn cynnig porfeydd i ddefaid yn unig (Lewis 2E4v). Efallai bod cynhyrchiant y plwyf yn adlewyrchu ei ffermydd cymharol fawr. Roedd bron i hanner dros 200 acer o faint, a Gwastadfryn, ar ben dyffryn Dysynni oedd y mwyaf gyda 750 acer adeg y degwm yn 1838 (Thomas 1967, cofrestr degwm). Mae hyn yn wir ar gyfer ardal yr astudiaeth yn gyffredinol. Mae tai tirfeddianwyr llai a ffermdai o fewn i'r ardal ar sawl ffurf, gan adlewyrchu buddsoddiad ar amrywiol gamau o'r unfed ganrif ar bymtheg i'r bedwaredd ar bymtheg, ond mae nifer ohonynt o faint sylweddol, fel y mae nifer o'r beudai ac ysguboriau maes sy'n gysylltiedig â nhw. Mae Dolau Gwyn (rhestredig II) ar ymylon yr ardal tirwedd hanesyddol yn nyffryn yr Afon Fathew, yn dŷ bonedd o 1620 yn bennaf, safle nodedig wedi ei amgylchynu gan goed. Mae Cae'r Berllan (rhestredig II), ar lawr dyffryn Dysynni yn SH 6630 0774 yn dŷ bonedd trawiadol gyda rhywfaint o ddeunydd o'r unfed ganrif ar bymtheg, er bod y rhan fwyaf o'r strwythur yn dyddio o tua 1690. Mae wedi ei amgylchynu gan wal gardd fawreddog a phileri pyrth, ac yn sefyll gyferbyn i dai allan sylweddol, yn cynnwys tŷ ffon (rhestredig II), adeilad gwasanaeth posibl neu annedd eilaidd. Mae Nant y Caw (rhestredig II) yn SH 6537 0937 yn fferm ucheldir o'r un cyfnod fwy neu lai gyda stabl â llofft mewn llinell gydag adeiladau fferm eraill ac yn ffurfio cynllun siâp L. Mae Bryn Erwas yn SH 6166 0303 yn gasgliad o adeiladau fferm o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar gyn ystâd Ynysymaengwyn a adeiladwyd o ‘garpiau' chwarel - llechi nad oeddynt o safon addas i'w hollti - gan adlewyrchu ei leoliad ger y ffordd a'r rheilffordd o chwarel Abergynolwyn, ond mae o faint sylweddol ac wedi ei adeiladu'n dda.

Bu tirfeddianwyr yn ymdrechu'n fwriadol i amgáu tir, yn arbennig felly Ynysymaengwyn, yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg; galluogodd deddf cau tir i'r ystâd amgáu 672 acer erbyn adeilad draeniau a morgloddiau, a gyfyngodd ar gyrhaeddiad yr Aber. Cafodd ardal fawr o ddŵr agored i'r de o Dywyn hefyd ei amgáu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gosodwyd system ddraenio yn ymestyn o'r môr at Graig yr Aderyn yn 1862 (Chapman 1992, Whatley 1995).

Prin iawn yw'r cofnodion o goedwigaeth fasnachol o fewn yr ardal astudiaeth, er mae'n debygol bod Coed

Peniarth wedi ei ddefnyddio'n weithredol gan yr ystâd.

Roedd cloddio am fawn yn amlwg yn weithgaredd lleol pwysig, er nad yw'n ymddangos i fod wedi ei wneud yn fasnachol, dim ond ei ddefnyddio i gynhesu tai trigolion lleol tlawd. Mae yna fawnogydd agored helaeth (ond dim llawer o dystiolaeth o gloddio) ger Tywyn yn SH 5855 9853.

Yn ogystal, roedd dwy gored bysgod yn weithredol yn yr ardal, cored Peniarth a chored Ynysymaengwyn. Mae'n bosibl hefyd bod yna pysgodfa o'r Dysynni yn Abaty Cymer Dysynni (Williams 2001). Roedd yr afon yn enwog am ei eog, ac roedd y coredau yn dal yn weithredol tan y 1860au pan ddaeth Deddf Pysgodfeydd 1861 a gwrthwynebiad y Comisiwn ar Bysgodfeydd Eog a nhw i ben (Jenkins 1977).

 

Setliad

Cefndir Canoloesol

Mae'r holl ddogfennaeth parthed unedau rhanbarthol mwy gogledd-orllewin Cymru yn y Canoloesol hyd at y ddeuddegfed ganrif yn cyfeirio at gantrefi. Mae'r tiriogaethau hyn o darddiad hynafol. Fodd bynnag, yn ystod y deuddegfed a thrydedd ganrif ar ddeg, roedd y cantrefi hyn wedi eu hisrannu yn gymydau penodedig o ddau, weithiau tri, rhan. Roedd ffiniau Meirionydd yn y canol oesoedd yn cynnwys y Mawddach i'r gogledd a'r Dyfi i'r de. Mae'r Dysynni yn rhedeg o'r gogledd-ddwyrain i'r gogledd-orllewin, gan gyrraedd y môr rhwng Tonfannau a Thywyn. Mae'r afon, a chefn deuddwr Cader Idris, yn rhannu'r cantref. Roedd cantref Talybont i'r gogledd o'r Dysynni a chantref Ystumanner i'r de.

Yn ogystal, o fewn pob cantref fe gododd un drefgordd yn nwylo'r Tywysog a chai ei rheoli ar ffurf faenorol ac oedd yn gweithredu fel fferm gartref a ffocws ar gyfer gweinyddu a threthu'r cantref. Dyma oedd maerdref y cantref ac yn ei chanol, y llys, efallai y gwelwyd neuaddau brenhinol, llety, ydlofftydd ac ati. Yn fwy eang ym mhob cantref fe fyddai trefgorddau, a phentrefannau o fewn trefgorddau, wedi eu meddiannu gan rydd-ddeiliaid; tenantiaid bond y tywysog; tenantiaid a gai eu tiroedd gan yr esgob a chymunedau lled-fynachol a gai eu tir trwy wasanaethau eglwys. Gallai deiliadaeth fod yn gymhleth, yn arbennig mewn cyfnodau o straen neu ddiboblogi megis, er enghraifft, yn ystod ac wedi'r Pla Du pan sefydlwyd daliadaethau mwy trugarog a ffafriol i ddenu tenantiaid i'r tir. Mewn termau syml, yn ystod Oes y Tywysogion ac wedi hynny, roedd yna rydd-ddeiliaid yr oedd gan eu plant fudd etifeddadwy yn y tir treftadol; tenantiaid bond dan ddeiliadaeth tir gwelyog yr oedd gan eu plant hefyd fudd etifeddadwy yn y tir ond a oedd serch hynny wedi eu llesteirio gan gyfyngiadau ar symudiad a phroffesiwn ac a oedd yn rhwym i wneud taliadau arferol dipyn mwy llethol i'r brenin nag oedd y rhydd-ddeiliaid. Yn drydydd, roedd yna denantiaid bond clwm yn llafurio dan ddeiliadaeth tir cyfrif. Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg, roedd y ddeiliadaeth hon yn nodweddiadol o ddemenau'r brenin a hefyd, ond yn bennaf yn anweladwy mewn cofnodion dogfennol, ar ystadau arglwyddi rhydd-ddaliadol llinachyddol. Tir cyfrif oedd y mwyaf beichus o'r daliadau, ac er y gallai epil y tenantiaid hyn ddisgwyl etifeddu llafur eu tadau, nid oedd y tir yn etifeddadwy ac fe ellid ei ailddosbarthu.

Elfen allweddol y gymuned o fewn y cantref oedd y dref, a ffocws pwysig ar gyfer casglu trethi. Gan fod etifeddiaeth gyfrannol, ymysg tenantiaid rhydd a bond tir gwelyog, yn dueddol o arwain at amlhau tyddynnod unigol, erbyn y ddeuddegfed a'r drydedd ganrif ar ddeg, roedd ffiniau trefi wedi eu sefydlu ac, i ddibenion gweinyddol, daeth isrannau'r dref i fod. Roedd yr isrannau hyn, a alwyd yn welyau (ar draws y rhan fwyaf o ogledd-orllewin Cymru) yn ganghennau i'r craidd treftadol (er yn dal o fewn ffiniau'r dref dreftadol) ac yn aml yn dwyn enwau meibion neu wyrion pennaeth treftadol cynharaf 'pennaeth y clan'. Roedd y broses yn arbennig o amlwg ar draws tiroedd rhydd-ddeiliaid oedd â gwelyau niferus a thiroedd helaeth.

Roedd bron pawb yn talu treth i'r brenin, neu dywysog, rhydd neu fond, ac mae arolygon, a chyfrifon gweinidogion y Goron, yn darparu tystiolaeth ar gyfer patrwm cymdeithasol y dirwedd yng nghanol yr oesoedd canol.

 

Aneddiadau cnewyllol

Fel y nodwyd, mae yna aneddiadau cnewyllol yn yr ardal, tref Tywyn, a phentrefi Bryncrug a Llanegryn.

Mae tref Tywyn wedi ei leoli ar ardal o dir gwastad a allai ar un adeg fod yn flaendraeth tywodlyd, yn effeithiol ar grib o dir sy'n ymestyn i lunio'r bar rhwng Bae Ceredigion i'r gorllewin a'r Aber a Phenllyn i'r dwyrain, er bod y draethlin wedi gweld newidiadau sylweddol trwy godi amddiffynfeydd morol ac adeiladu'r rheilffordd yn y 1860au.

 


Corff Eglwys Sant Cadfan, Tywyn.

Ymddengys bod tarddiad yr annedd yn eglwys y plwyf. Fel y noda Davidson, mae'r cysegriad i Cadfan yn awgrymu dyddiad o'r chweched ganrif (Davidson 2001), ac mae'r enw Tywyn (‘glan y môr' neu ‘dwyn tywod') yn awgrymu ei fod yn lleoliad arfordirol, er y gallai presenoldeb ffynnon fod wedi denu anheddiad hefyd (Lewis 3M3 v). Ceir cofnod o Dywyn yn y cronicl Canoloesol Brut y Tywysogion fel lle sydd wedi ei ‘anrheithio gan y cenedl-ddynion' (Llychlynwyr) yn 963, felly roedd yn amlwg yn ddeniadol i ysbeilwyr, ac mae'n debygol mai'r eglwys oedd prif ganolfan eglwysig rhan de-orllewinol Gwynedd. Mae Gresham yn mentro y byddai wedi bod yn lleoliad da i dderbyn ymwelwyr, eu gweision a cheffylau ar sail disgrifiad Gerallt Gymro o'i gyrhaeddiad yno gyda'r Archesgob Baldwin yn 1188 (Gresham 1987-8). Mae corff eiliog Romanésg yr eglwys gyfredol yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif, ond mae'r croesiad, transeptau a chôr yn fodern, ac mae'n amlwg y gwelwyd newidiadau sylweddol yn strwythur yr eglwys o'r ail ganrif ar bymtheg i'r bedwaredd ar bymtheg. Fel y nodwyd yn 8.3, i'r de o'r dref ddiweddarach mae fferm Faenol Uchaf, gydag enw sy'n awgrymu'r posibiliad y bu'n safle'r brif breswylfa eglwysig.

Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg, mae'n bosibl bod dylanwad eglwys Tywyn wedi cilio i gantref deheuol Ystumanner, er bod cofnod o villa de Tewyn yn 1283, sy'n awgrymu cychwyn bywyd trefol ynghyd â'r setliad eglwysig. Roedd yno nawr o drethdalwyr yng nghyfnod Rhôl Cymorth Lleyg Meirionnydd yn 1292. Fodd bynnag, nid oedd Tywyn yn dref a gynlluniwyd, ac fe ymddengys iddi dyfu mewn modd ad-hoc o amgylch yr eglwys.

Mae'n debygol bod y dref Ganoloesol gyferbyn i'r eglwys, o amgylch yr ardal sydd bellach yn Sgwâr Corbett, College Green, National Street, Red Lion Street a Church Street (SH 5883 0089 C), yr ardal a ddangosir fel cnewyllyn trefol ar y map hysbys cynharaf o'r dref, yn dyddio o 1794 (DRO: ZM/3667). Ar wahân i dref dybiedig ‘fwrdeistref Bere', Tywyn yw'r unig setliad yn ardal yr astudiaeth oedd yn deilwng o farchnad. Fe'i disgrifiwyd gan Pennant fel ‘dim ond lonydd gyda ffosydd llydan a dwfn ar ei ffiniau' yn 1789. Mae map 1794 yn dangos ‘Trefnewydd' yn ardal y siop co-op bresennol yn SH 5843 0498. Cadarnha map Morlys Lefftenant Sheringham yn 1835 bod y dref yn tyfu, ond yn dal yn amlwg iawn yn dwyn tywod, wedi ei amgylchynu'n bennaf gan ardaloedd amgaeedig o flaendraeth. Yn 1794 mae'r ffordd sy'n arwain oddi wrth y drefn Ganoloesol i'r traeth yn lôn ymlwybrol; mae'r Stryd Fawr gyfredol wedi ei nodi ar arolwg ordnans 1” 1837 ond ni adeiladwyd ar ei hyd am beth amser.

Ymddengys bod dyfodiad y rheilffordd arfordirol yn y 1860au wedi ysgogi adeiladu yma, gan i'r orsaf gael ei hadeiladu yn agos at ble mae'r rheilffordd yn croesi'r Stryd Fawr, 500m o'r eglwys. Ymddengys y cafwyd dipyn o dwf yn y 1860au, gyda thai, siopau a gwestyau yn cael eu hadeiladu a sefydlu cyflenwad nwy; er hynny, ymddengys bod datblygiadau ar hyd y Stryd Fawr yn ysbeidiol a dadreolaeth, gyda thai a siopau o wahanol gynllun a graddfa, a rhai plotiau heb eu meddiannu tan yr ugeinfed ganrif (DRO: Z/CD/201 [map o'r ystâd, 1860], Meirionydd 25” o.s., XLVI 9 [1901], Whatley 1995).

 


Sgwâr Corbet, Tywyn .

Efallai bod yr arafwch i ddatblygu'r Stryd Fawr yn adlewyrchu gwerthiant ystâd Ynysymaengwyn i John Corbett yn 1878. Fodd bynnag, fe arweiniodd hyn at fuddsoddi pellach yn y dref, yn cynnwys datblygu'r system ddŵr a charthffosiaeth, adeiladu'r promenâd, ystafelloedd cynnull 1893 (bellach yn sinema, a adeiladwyd ar safle'r Anchor Inn), Ysgol Ganolradd 1894 a neuadd y farchnad yn 1897. Nid oedd Corbett yn berthynas o unrhyw fath i'r Corbets, ac mewn gwirionedd roedd o gefndir cymharol ostyngedig; daeth ei arian o'r gwaith halen yn Droitwich. Er mai ei wraig Ffrengig oedd yn byw yn bennaf yn Ynysymaengwyn, wedi iddynt wahanu yn gynnar, roedd yn parhau i wario ar ddatblygiadau yn y dref (Boyd 1988). Ni ddaeth dim o gynllun ar gyfer pier (Wilkinson 1984) ond cafodd y Promenâd ei agor yn 1889 ac roedd yn amlwg bod bwriad i'w ddatblygu fel maestref glan môr i'r dref. Adeiladwyd rhai gwestyau o faint canolig yma ymhen hir neu hwyr, yn ogystal â'r rhes tai llety deniadol ‘Trem Enlli', ond mae lluniau o ddechrau'r ugeinfed ganrif yn dangos y rhain yn sefyll mewn caeau agored ynghyd ag ychydig o adeiladau fferm brodorol a welir yma yn y ddeunawfed ganrif; dim ond yn hwyrach yn yr ugeinfed ganrif y cafodd yr ardal ei llenwi'n llwyr â thai, pan orchuddiwyd y llefydd gwag oedd yn weddill gyda rhesi o fyngalos ac anheddau modern safonol eraill.

Mae pentref Bryncrug wedi ei gofnodi fel trefgordd Ganoloesol ac wedi ei leoli ar bwynt ble mae ffordd Rufeinig Cefn Gaer i Bennal a'i ragflaenydd, y ffordd Ganoloesol heibio Domen Ddreiniog, yn croesi'r Afon Fathew. Mae wedi ei nodi ar fap degwm Tywyn yn 1842 ac ar fap yr ystâd yn 1860 fel tri setliad bychan, wedi ei leoli ym Mhont Fathew (SH 6089 0333), Perthi Citiau (SH 6089 0311) a Phont y Felindre (SH 6138 0309), sy'n debygol o fod wedi ehangu yn dilyn agor Rheilffordd Tal-y-llyn yn 1866, a fyddai wedi ei alluogi i fod yn setliad noswylio ar gyfer chwarelwyr Bryneglwys a'u teuluoedd. Mae wedi parhau i ehangu fel un o faestrefi Tywyn tua diwedd yr ugeinfed ganrif a dechrau'r unfed ganrif ar hugain.

Roedd y rhan fwyaf o'r tir ym Mryncrug yn perthyn i Ynysymaengwyn ond ymddengys ei fod hefyd wedi mwynhau nawdd ystâd Peniarth yn ôl tystiolaeth gwesty mawr ‘Peniarth' yn 1901, gyda'r brydles ar gyfer y sefydliad yn cael ei phrynu gan Gymdeithas Dirwest Tywyn yn 1904, a'i cadwodd fel sefydliad di-alcohol dros y pedwar ugain mlynedd a ddilynodd. Mae'r pentref i weld wedi datblygu mewn ffordd i'r diben heb fawr o synnwyr o batrwm ystâd na phensaernïaeth yn cael ei ddilyn.

Disgrifiwyd pentref Llanegryn gan Samuel Lewis fel ‘mewn lleoliad dymunol', ar lethrau gogleddol is dyffryn Dysynni (Lewis 1833). Rhestrwyd Eglwys Llanegryn yn Taxatio 1253, er bod y rhan fwyaf o'r adeiladau presennol yn debygol o ddyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac mae ychydig bellter i ffwrdd o brif gnewyllyn pentref Llanegryn. Cyfeiria dogfennau o'r unfed ganrif ar bymtheg at adeiladu melin newydd ym mhlwyf Llanegryn ac at ddinistrio'r hen felin yn ystod gwrthryfel Glyndŵr; mae'n bosibl bod y rhain wedi eu lleoli ar y ffrwd yn y pentref presennol, gan fod cyn adeilad y felin yn sefyll ger y bont. Mae'r Llanegryn ar far 1842 yn dynodi anheddiad hirfain bychan ar hyd y ffordd i Beniarth a Phont y Garth ar y pwynt ble mae'n croesi llednant i'r Dysynni. Mae yna awgrym o bentref cnewyllol yn 1627, ac yn 1761 roedd siop Llanegryn yn gwerthu snisin a thybaco a gludwyd o Gaernarfon. Awgryma'r hanesydd lleol David Williams fod y rhan fwyaf o'r tai o fewn cnewyllyn y pentref yn dyddio o 1815 i 1870. Mae'n nodi i'r bythynnod ystâd nodweddiadol a adeiladwyd gan Beniarth ar ben dwyreiniol y pentref (Preswylfa, Bryn Meirion a Maes yr Haf) gael eu hadeiladu yn fuan wedi 1870.

Mae yna gnewyll llai yn Rhyd yr Onnen ac ym Mhandy/Brynglas, sy'n ymddangos i fod yn rhagddyddio agor Rheilffordd Tal-y-llyn, ond wedi tyfu ychydig wedi darparu gorsaf i'w gwasanaethu. Mae'r ddau yma yn bwyntiau ble mae'r rheilffordd yn croesi ffrwd ac fe ymddengys y bu yna bandy yn y ddau.

Aneddiadau anghnewyllol

Mae aneddiadau anghnewyllol yn ardal yr astudiaeth yn gyffredinol yn aneddiadau ffermdai mawr. Mae'r rhain yn aml wedi eu lleoli ar doriad llethr, ble mae iseldir llawr dyffryn Dysynni yn ildio'n sydyn i'r llethrau serth sy'n nodweddiadol o'r ardal, gydag enghreifftiau yn cynnwys Bodilan, Ty'n y Ddol, Tynyfach, Cae'r Berllan (fel y nodwyd uchod, tŷ bonedd sylweddol o'r ail ganrif ar bymtheg, gyda rhywfaint o waith cynharach), Llanllwyda a Gesail. Ger Llanegryn mae ffermydd megis Glan y Morfa, a allai gynrychioli asartau o'r unfed ganrif ar bymtheg i ddolydd iseldir. Nodwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg bod nifer o'r ffermydd yn yr ardal yn fawr, ac fe ymddengys bod y patrymau wedi parhau hyd at ddechrau'r unfed ganrif ar hugain. Anheddiad arall, nad yw'n fferm, ar doriad y llethr yw'r grŵp bychan o dai o amgylch eglwys Llanfihangel y Pennant.

 


Tu allan i'r ardaloedd cnewyllol, mae'r dirwedd yn bennaf yn ffermydd ynysig, fel y ceir yma yng Nghaer Berllan

 

Mathau o adeiladau a deunyddiau

Mae'r mathau o adeiladau a deunyddiau yn arddangos y newid o ddulliau brodorol diwedd y Canol oesoedd, hyd at anheddau a noddwyd gan ystadau ac adeiladau fferm y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a defnydd yng nghyfnod y rheilffordd o frics a deunyddiau eraill wedi eu mewnforio mewn tai llety ac anheddau fila, hyd at stadau tai cyffredinol diwedd yr ugeinfed ganrif. O'r rhain, mae defnydd o ddeunydd a fewnforiwyd ar unrhyw raddfa fawr wedi ei gyfyngu i Dywyn, er bod yna rywfaint o ddefnydd o frics yn Llanegryn a Bryncrug, ac i raddau cyfyngedig iawn yn rhai o'r ffermydd. Ceir ystadau tai yn aneddiadau cnewyllol Tywyn, Llanegryn a Bryncrug.

Mae'r tai cyfannedd hynaf i oroesi fel arfer yn dai bonedd a adeiladwyd yn y traddodiad boneddigaidd, er yn defnyddio deunyddiau lleol yn bennaf. Mae Cae'r Berllan, cartref y cyfreithiwr Huw Owen yn niwedd y 16eg ganrif, yn adeilad arwyddocaol o ddau lawr gydag atigau a selerydd, a ffenestr flaen gyda naw bae. Adeiladwyd y tŷ'n wreiddiol yn defnyddio rwbel heb haenau gyda thalcenni grisiog, ond cafodd y ffasâd ei ailadeiladu mewn cerrig mewn haen tua 1690. Gwna Dolau Gwyn, yn dyddio o ddechrau'r 17eg ganrif, ddefnydd dramatig o dalcenni grisiog, nodwedd a gafodd ei chyflwyno i ogledd Cymru gan Richard Clough yn 1567. Mae yma dri llawr, gyda chyntedd lloriog a ffenestri mwliwn. Mae'r prif ffasadau o slabiau hir gydag arwyneb llyfn, er bod y waliau cefn o rwbel heb haenau. Nid oes yr un tŷ wedi goroesi ar y cyn ystâd yn Ynysymaengwyn, er bod y cyntaf, yn dyddio o thua 1730, wedi ei adeiladu o rwbel lleol gyda chonglfeini llechi hir, mae'r ail dŷ, oedd yn ei wynebu, o thua 1733 yn ailadrodd ei ffurf allanol ond roedd yn fwy rheolaidd, tra bod y trydydd tŷ, a'r prif dŷ, yn annedd sylweddol stanciau dwbl wedi ei adeiladu o flociau wedi eu torri'n daclus a phwyntio'n graff o faen nadd llechi gyda chonglfeini tywodfaen, lliniau a meini bwa, gyda phorth taledig. Mae'r tŷ ym Mheniarth, y brif ystâd arall, yn rhannol o'r 17eg ganrif, a hefyd yn defnyddio maen nadd llechi ar gyfer y ffasâd cynnar, er bod llawer o wyneb y tŷ o frics a wnaed yn lleol yn y 18fed ganrif.

Mae tai cynnar o statws is yn cynnwys Ty'n y Fach yn Llanfihangel y Pennant, ffermdy un llawr gydag atigau, ble roedd y tŷ is-ganoloesol gwreiddiol o adeiladwaith nenfforch gyda thri bae, a waliau o rwbel lleol. Gellir gweld nenffyrch uchel, oedd yn gymharol gyffredin yn Sir Feirionnydd, yn y beudy o'r 17eg ganrif ym Mhen y Meini, Llanfihangel y Pennant. Gyda dyddiad ychydig yn hwyrach mae Gwastadfryn, ffermdy o'r 17eg ganrif a adeiladwyd ar ddau lawr mewn cerrig llechi lleol, gyda phrif amrediad 3 bae ac adain gefn o 2 fae. Adeiladwyd Cedris, tŷ o ddechrau'r 17eg ganrif, o rwbel llechi afreolaidd ar sylfaeni clogfaen, ac mae'n un llawr gydag atigau. Mae tri bae i'r prif dŷ gydag asgell cegin gefn a allai fod ychydig yn hwyrach.

Roedd rhywfaint o ddefnydd o fythynnod waliau llaid o fewn ardal yr astudiaeth; roedd enghreifftiau wedi goroesi'n ddigon hir i gael lluniau ohonynt ym mhentref Llanegryn ond mae'r safle nawr wedi ei feddiannu gan fyngalos modern (y Rhos – SH 6035 0559 – Bro Dysynni Ddoe a Heddiw 1997). Mae sied fechan gyda wal llaid wedi goroesi yn SH 6169 0589.

 


Enghraifft o ddefnydd o garreg adeiladu tywyll yn Nhywyn

Disgrifia Lewis yn y 1830au y tai yn Nhywyn fel ‘o wedd barchus … ond wedi eu hadeiladu'n bennaf o'r garreg lwyd arw a geir yn y gymdogaeth (Lewis 3M2v) o bosibl yn cyfeirio at chwarela yn Nhonfanau. Mae deunydd cerrig adeiladu llwyd tywyll yn dal yn amlwg iawn yn Nhywyn, er yn aml mae tai sy'n ymddangos o'u gwedd allanol i ddyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif wedi eu gorchuddio â gro chwipio.

Mae yna rywfaint o ddefnydd cyfyngedig o garpiau llechi fel deunyddiau adeiladu, yn Nhywyn ei hun ac mewn mannau eraill, er enghraifft yn y siop ym Mryncrug a'r fferm Bryn Erwas. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd darpariaeth chwarel Bryneglwys yn y 1840au, a oedd yn allforio gyda cheffyl a throl ar hyd dyffryn Mathew am gyfnod ond a ddefnyddiai Reilffordd Tal-y-llyn o 1866. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod dyfodiad y brif linell reilffordd wedi lleihau prisiau brics o ogledd-ddwyrain Cymru yn sylweddol, ac mae hyn yn dod yn ddeunydd adeiladu poblogaidd yn y dref wedi hynny. Yn drawiadol, mae gorsaf Cei Tywyn ar Reilffordd Tal-y-llyn wedi ei hadeiladu o frics. Fodd bynnag, awgryma cyfraneddau anheddau a ymddengys i fod wedi eu hadeiladu o frics, a siâp nodweddiadol eu simneiau fod defnydd o frics neu ddeunyddiau eraill a fewnforiwyd yn cuddio elfennau llawer hŷn o'r deunydd (ceir enghreifftiau yn SH 5879 0089).

Mae rhai o'r strwythurau o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif yn Nhywyn yn gwneud defnydd sylweddol a thrawiadol o frics, megis Paige's Furnishings yn 1903, y siop gyda'r ffenestri arddangos amlwg ar y Stryd Fawr yn SH 5866 0081. Felly hefyd mae'r terasau sylweddol o dai llety a godwyd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda'u haddurn amryliw yn cyfuno brics coch a brics melyn, er enghraifft Idris Villas (SH 5826 0077). Arweiniodd y nifer cynyddol o ymwelwyr gwyliau, yn bennaf o orllewin canolbarth Lloegr, at adeiladu nifer sylweddol o'r tai llety hyn yn Nhywyn. Mae'r rhai ar Pier Street yn enghreifftiau da - tri llawer o uchder, gyda ffenestri bwa a gerddi blaen bychan wedi eu diffinio gan waliau brics isel, ond hefyd yn gwneud defnydd o ffensys haearn gyr. Mae yna hefyd dystiolaeth o weithwyr proffesiynol o du allan i'r ardal yn adeiladu cartrefi iddynt eu hunain yn lleol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn dod ag arddull Fictoraidd nodweddiadol o bensaernïaeth addurnedig; adeiladwyd Woodlands Holiday Home yn SH 61962 0357 fel ‘Brynffynnon' ar gyfer cyfreithiwr o Fanceinion, cyn y 1860au (Boyd 1988).

Mae defnydd o lechen fel deunydd to fwy neu lai'n gyffredinol. Mae'n debygol i'r rhan fwyaf o'r rhain ddod o chwareli Bryneglwys, sydd tu allan i'r ardal tirwedd hanesyddol. Mae defnydd o deils crib cerameg ac addurniadau to cerameg eraill yn helaeth.

Mae'r ystadau tai a golygwyf yn dilyn y rhyfel yn yr ardal astudiaeth ar sawl ffurf wahanol, ond maent oll yn adlewyrchu tybiaethau Prydeinig ynghylch darpariaeth tai. Maent yn cynnwys ardaloedd helaeth o fyngalos ymddeoliad yn Nhywyn yn ogystal ag anheddau dau lawr.

 

Archaeoleg creiriol

Fel gydag ardal tirwedd hanesyddol Mawddach i'r gogledd, mae'r ardal o dopograffeg amrywiol hon yn cwmpasu arfordir, aber afon, llwyfandir tir uchel a llethrau bryniau. Mae crynodiad o ddarganfyddiadau o fwyelli carreg Neolithig yn ardal Dysynni yn dystiolaeth bellach y gallai fod wedi bod yn ddeniadol fel llwybr cyfathrebu Cynhanesiol, ac fe nodwyd grŵp nodedig o gladdedigaethau ac yrnau claddu Oes Efydd ger Tywyn (Smith 2004). Mae Gresham a Bowen wedi dadlau bod patrwm o feini hir yn Waun Fach, Porthygwyddwch a Bryn Seward yn awgrymu aliniad llwybr hynafol o'r Aber tua'r gogledd (Bowen a Gresham 1967).

 

Parciau a gerddi

Mae gan yr ardal ddwy elfen tirwedd benodedig bwysig, Ynysymaengwyn a Pheniarth. Mae'r ail o'r rhain wedi ei nodi yn nogfen anstatudol y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru ( Cadw ac ICOMOS, 1998) fel Gradd II. Mae'r dyfyniad fel a ganlyn:

Parciau a gerddi sydd o ganlyniad i'w cynllun hanesyddol, nodweddion ac addurniadau pensaernïol o'u hystyried ar y cyd yn eu gwneud o safon arbennig.

Mae gan Beniarth, sy'n dal mewn dwylo preifat, wreiddiau fel cantref Canoloesol ac fe ymddengys y'i sefydlwyd fel parc yn yr unfed ganrif ar bymtheg, pan mae Syr Owain ap Gwylim yn canu mawl i Dafydd Llwyd a'i:

Percydd, mynydd uwch minion Pysgod, yd, cig is brig bron Gwar cwmwd, goror cymwys, Gweirglodd-dir, coetir bod cwys

(Parciau a mynydd uwch y terfyn/Pysgod, ŷd, cig islaw llethr y bryn/Mae'r cantref yn eang gyda therfyn addas/Pob cwys yn ddôl neu goetir).

Mae pwyslais y bardd yn dal ar yr ystâd fel adnodd economaidd yn hytrach na lleoliad pleser, ond mae'n amlwg bod Dafydd Llwyd wedi gwneud newidiadau sylweddol i'w eiddo. Mae Peniarth yn dal i fod mewn dwylo preifat.

Mae Ynysymaengwyn, y parc arall yn yr ardal, wedi ei newid yn sylweddol gan ei ddefnydd presennol fel parc carafanau, ac ychydig iawn a welir nawr o'r ardd flaenorol. Mae'r tŷ hefyd wedi ei ddymchwel.

Mae gerddi a thiroedd preifat eraill hefyd wedi eu hildio i garafanau, yn cynnwys rhan o Beniarth a 'Woodlands', ble mae'r parc carafanau yn nodwedd dirwedd amlwg ar lethrau deheuol Foel Wyllt, yn edrych dros yr Afon Fathew.

 

Diwydiannol

Prin iawn yw'r dystiolaeth dirwedd o safleoedd diwydiannol cynhyrchiol yn yr ardal, ar wahân i'r chwarel wenithfaen yn Nhonfanau. Cyfeiria Samuel Lewis ar y chwareli llechi ym mhlwyf Llanegryn a gynhyrchai ar gyfer anghenion lleol yn unig (Lewis M4v), ac roedd prosesu ar raddfa fechan o slabiau llechi, o bosibl llifio, yn sicr gwaith enamel, yn digwydd yn Nhywyn ei hun. Mae yna olion mwynol, ar gyfer llechi ac ar gyfer plwm, o amgylch Corlan Fraith yn rhan ddeheuol yr ardal cymeriad hanesyddol.

Yn ogystal â'r felin frenhinol yn Llanegryn, cyfeirir at felinau o'r cyfnod Canoloesol hwyr. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, mae achos llys yn cadarnhau yr adeiladwyd melin newydd yn Llanegryn a bod strwythur cynharach wedi ei ddinistrio yn ystod Gwrthryfel Glyndŵr (Thomas 2001). Dim ond un felin ŷd a gofnodwyd ar lednant i'r Dysynni (a dim ar yr afon ei hun) er bod yr Afon Fathew a'i llednentydd yn gyrru melin bren a dwy felin ŷd o fewn ardal tirwedd hanesyddol Dysynni. Roedd cynhyrchu tecstilau yn yr ardal yn digwydd ar raddfa fechan, heb fanteisio'n llawn hyd yn oed yn ôl safonau Cymreig; roedd gwehyddu â llaw yn parhau yn Llanegryn yn 1938, y lle olaf yn y wlad i'w adrodd (Gwyn 2006, 119).

Mae'r mapiau arolwg ordnans yn dynodi diwydiant ysgafn yn Nhywyn ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ar ffurf gwaith llechi a ffatri dŵr soda. Yn fwy diweddar, mae ystadau diwydiannol bychan wedi eu sefydlu ym Mryncrug ac yn Nhywyn.

 

Milwriaeth

O fewn ardal tirwedd hanesyddol Dysynni'r prif safle milwrol yw Castell y Bere, a sylfaenwyd gan Llywelyn ap Iorwerth, neu Llywelyn Fawr, ac yn debygol o fod y castell y mae cronicl yn disgrifio iddo adeiladu yn 1221. Fe ddisgrifiwyd ei bod yn eithaf rhagorol y dylid codi castell ‘fry ymysg yr hafodydd' (Cathcart King a Kenyon, 2001, 387); nid yw Castell y Bere yn gastell aruchel, ond mae o fewn patrwm o adeiladu cestyll gan Llywelyn ap Iorwerth yn hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae'r cynllun llawr yn gyson gyda chestyll brodorol eraill y cyfnod hwn. Efallai bod y llenfuriau enfawr sy'n amgáu ardal a oedd gynt yn agored a ffos a dorrwyd o'r graig o flaen y tŵr cromfannol yn adlewyrchu gwaith yn y flwyddyn 1287 a'r peryglon a wynebwyd o fygythiad gwrthryfel Rhys ap Maredudd. Efallai bod y castell wedi ei ddinistrio a'i adael yn dilyn gwrthryfel Madog yn 1294 (Evans 1967).

Safleoedd amddiffynnol eraill o'r cyfnod Canoloesol yw'r ddau fwnt, Domen Ddreiniog a Bryn y Castell.

Arweiniodd lleoliad strategol yr ardal ar yr arfordir yn wynebu'r hyn a oedd ar y pryd yn Wladwriaeth Iwerddon Rydd, ac a ystyriwyd i fod yn agored i ymosodiad gan yr Almaen, at sefydlu safleoedd amddiffynnol ar hyd Bae Ceredigion. Roedd RAF Towyn (sic) yn weithredol rhwng Awst 1941 a Mai 1945, gan hedfan awyrennau Queen Bee a Hawker Henleys ar gyfer y No 1 Anti-aircraft Co-operation Unit ac awyrennau Westland Lysanders ar gyfer No 6 Anti-aircraft Co-operation Unit ond roedd tuedd i gael llifogydd yno. Ar ddiwedd y rhyfel, daeth y fyddin yn gyfrifol amdano. Mae'r rhedfeydd wedi diflannu, ond mae nifer o'r adeiladau'n dal i sefyll (Smith 2004). Mae gwersyll Tonfanau yn ymestyn ychydig yn yr ardal tirwedd hanesyddol yn SH 5621 0351. Roedd yn weithredol hyd at 1965.

Gellir hefyd gweld olion adeiladau milwrol, lloriau caled a thraciau cysylltiedig yn dyddio o ryfel 1939-1945 hefyd yn nhiroedd Peniarth, ble bu'r Morlu yn gweithredu. Deellir y cadwyd carcharorion rhyfel Almaenig ac Eidalaidd yn lleol (Annand 1983).

 

Cyfathrebu

Mae systemau cyfathrebu wedi gadael eu nod ar y dirwedd hanesyddol.

Fel y nodwyd uchod, mae'n bosibl bod Aber Dysynni a'r Dysynni yn cynrychioli ardal lanio hynafol, ac efallai eu bod yn gysylltiedig i lwybrau Cynhanesiol yn ardal y Mawddach i'r gogledd. Byddai Ynysymaengwyn a Thywyn wedi bod ar estyniad y llanw'r Dysynni tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a Thomen Ddreiniog a Thalybont ychydig tu hwnt i'r terfyn llanw. Mae Gerallt Gymro yn crybwyll aros yn Nhywyn ar ei daith i'r gogledd gyda'r Archesgob Baldwin yn 1188 ond yn anffodus nid yw'n dweud llawer amdano. Mae'n amlwg ei fod yn cyrraedd dros y tir o Aber y Dyfi, a'r tebygolrwydd yw ei fod wedi dilyn y ffordd oddi yma i Dalybont a thu hwnt y bore nesaf. Mae hynafiaeth yr enw ‘Talybont' yn dynodi bod y ffordd wedi dilyn yn gyffredinol yr un aliniad yma ers y cyfnod Canoloesol a bod yna bont yma yn y dyddiau cynnar. Mae'r bont garreg bresennol yn dyddio o 1752 ond mae wedi ei hosgoi gan strwythur modern.

 


Pont rheilffordd a adeiladwyd yn 1911 ar draws y Dysynni.

Ychydig iawn a wyddom, neu y gellir ei gasglu, wedi hynny ynghylch y system ffyrdd tan y cyfnod Diwydiannol/Modern. Er y pasiwyd Deddf Tollborth Meirionnydd yn 1777, nid oes llawer o dystiolaeth iddi effeithio ar yr ardal astudiaeth tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan adeiladwyd ffordd tollborth o Dywyn trwy Lwyngwril ac ymlaen tua Dolgellau (Pritchard 1961).

Mae'r bont bresennol sy'n cario'r rheilffordd dros y Dysynni yn strwythur sydd wedi ei ddyddio 1911, adeiladwaith hytrawstiau dur cefngrwm tri rhychwant gan Fich and Co. o Gas-gwent, wedi eu cario ar gledrau dur cylchol. Mae pyst pren y bont gynharach yn weladwy yn y dŵr.

Cynrychiolir math gwahanol o systemau cyfathrebu gan orsaf dderbyn radio Guglielmo Marconi yn Nhywyn, a agorodd yn 1914 ac a gaeodd yn 1923. Ychydig sy'n dal i sefyll tu hwnt i'r ‘Byngalos Marconi' yn SH 5950 0019 (Gwyn 2006).

 

Twristiaeth a hamdden

Mae twristiaeth yn amlwg yn nyffryn Dysynni mewn sawl ffordd. Roedd nodweddion iachaol y ffynnon yn Nhywyn yn dal i ddenu pobl yn hwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd wedi ei sefydlu fel baddondy cyhoeddus (Lewis 3M3 v) – mae'r adeilad sy'n goroesi yn SH 5867 0099 yn dyddio o tua 1871 ond erbyn 1903 nid oedd mewn defnydd ac roedd wedi dod yn rhan o'r ffatri dŵr soda (Whatley 1995). Mae gwesty'r Corbett Arms yn Nhywyn yn strwythur trawiadol, yn arbennig o edrych arno o'r ffordd sy'n arwain i'r dref o'r gogledd, ac mae'n brawf o farchnad hamdden gynyddol. Mae'r chwe bae cynharaf o'r gwesty deg bae hwn yn ymddangos i ddyddio o hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ychwanegwyd chwech arall yn 1900, y dyddiad sy'n ymddangos ar y garreg ddyddio. Roedd ail gartrefi glan y môr yn Nhywyn eisoes yn nodwedd o dirwedd diwedd y ddeunawfed ganrif, yn eiddo i deuluoedd cefnog o ganolbarth Lloegr oedd yn ffafrio Tywyn dros Aberystwyth. Fodd bynnag, nid oedd yr ymdrechion i ddatblygu pier ac yn hwyrach y Promenâd yn Nhywyn, (1877-1879 ac o 1889 ymlaen yn y drefn honno), yn amlwg yn gwbl lwyddiannus (Wilkinson 1984).

O ganol yr ugeinfed ganrif ymlaen, mae parciau carafanau wedi dod yn gyffredin; fe nodir enghreifftiau yn Pall Mall, Ynysymaengwyn ac Ysguboriau (oll ar hyd ffordd yr A493 rhwng Tywyn a Bryncrug) yn Rhyd yr Onnen a Woodlands, ger Pont y Garth ac yn Llanllwyda. Mewn rhai achosion, mae chalets wedi eu hadeiladu hefyd.

Mae adfywio Rheilffordd Tal-y-llyn wedi ychwanegu'n sylweddol i ‘apêl' Tywyn a'r ardal – mae darlun o'r locomotif Dolgoch a'i drên yn harddu'r arwyddion ‘Croeso i Dywyn'.

 

Cysylltiadau diwylliannol

Mae ardal yr astudiaeth yn cynnwys carreg ble mae'r Gymraeg ysgrifenedig gynharaf, o'r wythfed ganrif, wedi goroesi. Mae hyn yn eglwys Tywyn, ac yn darllen, yn nhrawsgrifiad Syr Ifor Williams:

+TENGRUI CIMALTE(D) GU / ADGAN // ANT ERUNC DU BUT MARCIAU + CUN BEN CELEN // TRICET NITANAM

Dehonglodd hyn fel + Ceinrwy gwraig Gwaddian (sy'n gorwedd yma) yn agos at Bud a Marchiaw + Cun, gwraig Celyn – mae'r galar a'r golled yn parhau (Williams 2001).

Mae Castell y Bere yn lleoliad pwysig yn ymwybod cenedlaetholwyr Cymreig fel y gwarchodlu olaf i ildio i'r lluoedd Eingl-normanaidd, ar 25 Ebrill 1283.

Yn ôl Rhyfeddodau y Byd Mawr (Dolgellau, 1828), Peniarth Uchaf oedd y lle cyntaf yng Nghymru i fwrw ffrwyth te, yn 1700.

 


Carreg arysgrifenedig o'r 8fed ganrif yn eglwys Tywyn

Yn Llanfihangel y Pennant mae cartref Mary Jones (1784-1864), a ysgogwyd wedi dod ar draws y Parch. Thomas Charles ar hap ar lethrau uchaf Cader Idris i gyflawni ei phererindod i'r Bala i brynu ei Beibl yn 1800. Ysgogodd ei siomedigaeth ddagreuol ar ganfod nad oedd dim ar ôl i Charles nid yn unig i roi ei Feibl ei hun iddi, ond hefyd i gychwyn y broses a arweiniodd at sefydlu'r Gymdeithas Beiblau Prydeinig a Thramor. Roedd stori Mary Jones yn berffaith ar gyfer Ysgolion Sul Cymreig ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chafodd ei bwthyn ei beintio gan S. Maurice Jones yn 1891, yn rhan o gomisiwn gan O.M. Edwards ar gyfer Cymru Coch; fe ymddangosodd hefyd yn Cartrefi Cymry yn 1896. Bu fyw hyd henaint piwis a blin ym Mryncrug, ble mae wedi ei chladdu.

Ystyrir llawysgrifau Peniarth Llyfrgell Genedlaethol Cymru ymysg y casgliadau cenedlaethol blaenaf. Cawsant eu catalogio gan J. Gwenogvryn Evans ar gyfer y Comisiwn Brenhinol ar Lawysgrifau Hanesyddol tra'u bod yn dal ym Mheniarth.

Ganed Dr William Owen Pughe (1759-1853) yn Ty'n y Bryn, ger Pont Ystumanner, er iddo symud i ffwrdd o'r ardal pan oedd yn ddim ond tair oed. Roedd yn olygydd y Cambrian Register a'r Greal, ac yn brif olygydd The Myvyrian Archaeology of Wales. Paratôdd The Cambrian Biography, ac fe'i cofir am ei gred bod y Gymraeg yn agos at famiaith gyntefig dynolryw (Dictionary of Welsh Biography).

Mae diwygio Rheilffordd Tal-y-llyn o 1951 hefyd wedi ychwanegu at y cyfuniad diwylliannol a ffocws diwylliannol y rhanbarth (ac wedi cychwyn proses yng Ngwynedd sydd wedi esblygu i sector gwerth miliynau o bunnoedd ac a ddaeth yn rhan allweddol o economi'r rhanbarth). Yn ei hanfod, fe oroesodd y rheilffordd lein fach hon o'i hagor yn 1866 tan wedi'r Ail Ryfel Byd fwy neu lai ar ei ffurf wreiddiol a heb fawr o gynnal a chadw. Llwyddodd ei gyflwr llesg i ddenu sylw'r Picture Post yn 1947, pan anogwyd buwch i grwydro ar y traciau er mwyn tynnu llun ohoni yn oedi'r trên. Roedd ei hadfywiad yn ganlyniad i waith peiriannydd o deulu Eingl-Wyddelig, Lionel Thomas (‘Tom') Caswell Rolt, a oedd yn ystyried ei bod yn ail-greu ffordd o fyw oedd dan fygythiad gan reolaeth gynyddol y wladwriaeth, delfryd dechnolegol oedd yn dathlu mentergarwch Fictoraidd a sgiliau peirianneg (Rolt 1953). Roedd yn ysbrydoliaeth ar gyfer y comedi Ealing The Titfield Thunderbolt, a'r ffilm Americanaidd lai hysbys Railway with a Heart of Gold. Yn fwy diweddar, mae Dr Dafydd Roberts wedi archwilio rhywfaint o'r tensiynau diwylliannol rhwng brwdfrydedd Seisnig iawn Cymdeithas Warchod Rheilffordd Tal-y-llyn a blaenoriaethau cymuned Tywyn (Roberts 2008).

 

Llyfryddiaeth

Annand, D 1983, RAF Towyn 1940-1945 , cyhoeddwyd yn breifat

Bowen, E G a Gresham, C A, 1967, The History of Merioneth , Cyfrol 1, Dolgellau.

Boyd, J I C, 1988, The Talyllyn Railway , Rhydychen.

Budenberg, G F (gol.), 1987, Lewis Morris: Plans in St. George's Channel, 1748 (Stockport).

Chapman, J A, 1992, Guide to Parliamentary Enclosures in Wales, Caerdydd

Cadw ac ICOMOS, 1998, Conwy, Gwynedd & the Isle of Anglesey, Register of Landscapes, Parks and Gardens of special Historic Interest in Wales: Part 1: Parks and Gardens, Caerdydd

Cathcart King a Kenyon, yn Smith, J B a Smith Ll B, History of Merioneth II , MHRS.

Davidson, A, 2001, ‘Parish Churches' , yn Smith, J B a Smith Ll B, History of Merioneth II, MHRS.

Evans, E D, 1967, ‘Castell y Bere' , JMHRS 3 1 tud 31-44.

Gresham, C, 1987-8, ‘ Archbishop Baldwin's Journey through Merioneth ', JMHRS 10 3 tud 186-203.

Gwyn, D, 2006, Gwynedd: Inheriting a Revolution , Chichester.

Jenkins, J G, 1977, ‘ Rural Industry in Merioneth ' JMHRS 8 1, tud 1-15.

Lewis, Medieval Boroughs of Snowdonia

Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales .

Pritchard, R T, 1961, ‘ Merionethshire Roads and Turnpike Trusts' JMHRS 4 I, tud 22-36

Roberts, D, 2008 ‘ ”A narrow swathe of English eccentricity” – Ail-agor Rheilffyrdd Tal-y-llyn a Ffestiniog' Cof Cenedl XXIII , tud 163-191.

Rolt, L T C, 1953, Railway Adventure , Llundain.

Smith, G, 2004, Tywyn Coastal Protection Scheme: Archaeological Assessment (Adroddiad GAT 555, ar gyfer ABP Marine Environmental Research Ltd)

Smith, J Beverley a Smith, Ll Beverly (gol), 2001, History of Merioneth volume II – the middle ages, Caerdydd

Thomas, C, 1967a, ‘ Merioneth Estates, 1790-1850: A Study in Agrarian Geography' JMHRS 5 III, tud 221-38

Thomas, C, 1967b, ‘Enclosure and the rural landscape of Merionethshire in the sixteenth century', Institute of British Geographers, 42, tud 153 - 162

Thomas, C, 2001, ‘ Rural Society, Settlement, Econimy and Landscape' , yn Smith, J B a Smith Ll B, History of Merioneth II MHRS.

Thomas, C., 2007, ‘ Enclosure and the Rural Landscape of Merioneth in the Sixteenth Century ', JM- HRS XV 2, tud 129-141.

Whatley, A 1995, Tywyn Meirionydd: A Short History (to notes in Dolgellau Record Office).

Wilkinson, J, 1984, ‘ Tywyn Pier', JMHRS IX 4, tud. 457-471.

Williams, D.H., 2001. The Welsh Cistercians , Gracewing.

 

 

 

Yn ôl at map ardal Dysynni

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol