English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol - Creuddyn ac Arllechwedd

Themâu tirwedd hanesyddol

 

Amaethyddiaeth

Nodwedd drawiadol o fynydd-dir yr ardal astudiaeth yw'r gyferbyniaeth rhwng waliau'r llociau cynnar sy'n ‘ystumio', a'r waliau syth a adeiladwyd pan oedd ystadau'n cael eu gwella, er enghraifft dan Ddeddf Cau Tir Comin Caerhun 1858, (gweler ardal 9). Mae rhai ohonynt o bosibl yn gynhanesyddol neu'n ganoloesol (gweler ardal 16). Un o nodweddion hanesyddol pwysig y tir yw olion creiriol helaeth y caeau a'r anheddau cynhanesyddol, yn arbennig o gwmpas bryngaer Pen y gaer a Maen y Bardd. Er eu bod yn hysbys ers amser hir, ni wnaed arolwg manwl hyd yma. Ni ddeallwn yn llwyr sut roedd y caeau'n perthyn i'r anheddau gwasgarog y tu mewn iddynt, a'r safleoedd angladdol a defodol sydd wedi goroesi yng ngwead y waliau cerrig a chaeau, a'r llwybrau sy'n eu croesi.

Mae R. Elwyn Hughes (1939) wedi olrhain sut yr amgaewyd y mynydd-dir. Yn fwy diweddar, mae Dr Della Hooke (1997) wrth gyfeirio at blwyfi Llanbedr y Cennin a Chaerhun wedi disgrifio camau dilynol tresmasau ar dir pori agored gan ddechrau gydag anheddau tymhorol a gofnodwyd yn y chweched ganrif. Mae'n bosibl fod y tarddiad yn hŷn, oherwydd erbyn 1468, credir bod annedd mynydd-dir Maeneira yn barhaol. Ceir tystiolaeth ddogfennol o anheddau tresmasu parhaol yn y mynydd-dir gan fod waliau a ffensiau o gwmpas y tresmasau.

Mae'r mapiau degwm sawl plwyf, gan gynnwys Llandudno, Eglwys Rhos, Llangystennin, Dwygyfylchi a'r Gyffin, yn dangos ardaloedd sy'n cynnwys llawer o olion creiriol (wedi'u ffosileiddio yn ôl pob tebyg) caeau stribed, nas amheuwyd hyd yma. Fe'u gwelir ar iseldir o gwmpas tyddynnod neu anheddau gwasgarog sydd wedi'u henwi ar ôl trefgorddau canoloesol. Yn anffodus, yn y cyfamser, cafodd y rhain eu dileu i gyd, un ai gan ddatblygiad annedd (y mwyaf nodedig islaw Cyffordd Llandudno) neu drwy welliannau amaethyddol (y Gyffin). Roedd caeau agored yn nodwedd amlwg o'r dirwedd ganoloesol.

Fe amgaewyd rhai tiroedd llai dipyn yn hwyrach; erbyn y 1770au, roedd anheddau ar lethrau bryniau Alltwyllt (ardal 21) ac erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y tyddynnod a'u plotiau cysylltiedig yn gartref i fwynwyr sylffwr, tlodion oedd yn byw ar y plwyf, pobl oedd yn gweu sanau a llongwyr yn mordwyo'r Conwy ar gychod. Yn yr un modd, roedd cefnen galchfaen Bryn Pydew (ardal 22) yn dir comin a gafodd ei amgáu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae modd gweld patrymau afreolaidd mewn caeau bach yn y ddwy ardal sy'n arwydd o'r hyn a ddigwyddodd.

Mae gweithgaredd cau tiroedd yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn aros am astudiaeth ei hanesydd. Mae llythyrau ystâd Niwbwrch yn cofnodi'r elyniaeth a grëwyd wrth i ffermwyr lleol chwalu'r waliau gyda'r nos, ac wrth i blismyn ddod a'u gynau.

 

Archeoleg Greiriol

Mae'r ardal yn cynnwys cyfoeth o gofadeiliau archeolegol pwysig sydd wedi goroesi'n dda. Mae'n dangos datblygiad a hanes hir y dirwedd, o'r cyfnodau cynnar i'r presennol. Ceir olion ceiriol helaeth a dilyniannau pwysig ar rai tirweddau, e.e. Pen y Gogarth (ardal 1); mynydd-dir wedi'i amgáu (ardal 9), llethrau'r bryniau rhyngol wedi'u hamgáu. (ardal 16).

Ceir dilyniant ar Ben y Gogarth (ardal 1), gan ddechrau gydag Ogof Kendrick, gyda'i dyddodion Palaeolithig Uwch, siambr gladdu Neolithig Llety'r Filiast, carneddi oes efydd a gweithfeydd copr niferus o dan y ddaear sydd ymysg y cynharaf yn Ewrop, ac annedd cynhanesyddol hwyr sy'n cynnwys bryngaer bwysig Pen y Ddinas. Ceir safleoedd pwysig Paleolithig Uwch yn Nhrwyn y Fuwch (ardal 3) gan gynnwys ogof Pant y Wennol.

Yn ogystal â'r mwyngloddio copr o'r Oes Efydd ar Ben y Gogarth, mae diwydiant cynhanesyddol wedi gadael ei ôl ar y tir ar ffurf ffatri fwyelli Neolithig yng Ngraiglwyd. Gellir gweld ei holion ar gyrion y chwarel bresennol (ardal 24). Canfuwyd cerrig a chanddynt arwynebedd garw o'r ‘ffatri' hon mor bell i ffwrdd â de Prydain, yr Alban a'r Iwerddon. Gall lleoliad yr adnodd hwn, yn rhannol o leiaf, gyfrif am y cofadeiliau angladdol a defodol niferus a welir ger Cylch y Derwyddon, lle y disgrifiwyd casgliad o greiriau sy'n cynnwys carneddi ar sawl ffurf, cylchoedd cerrig, cistfeini, conglfeini ac yn y blaen) yn un o'r safleoedd pwysicaf yng ngorllewin Prydain.

Ymhellach i'r de, gwelir sawl cofadail angladdol a defodol Neolithig ac Oes Efydd ar y llethrau sy'n wynebu'r de, o Fwlch y Ddeufaen i Graig Celynnin (ardal 9) gan gynnwys y carneddi a'r conglfeini ym Mwlch y Ddeufaen, carnedd Barclodiad y Gawres, cylch cerrig Cerrig Pryfaid a siambr gladdu Maen y Bardd.

Mae'r ardal yn cynnwys llawer o fryngaerau pwysig gynhanesyddol hwyr - Pen y Ddinas (yr unig fryngaer a chanddi cheveau de frise yng Ngogledd Cymru) a Chastell Caer Lleion (gyda'i gaer llai, o bosibl yn ailamddiffynfa yn ystod yr Oesau Tywyll). Gynt, roedd yn cynnwys caer Braich y Ddinas ond bellach mae gweithgarwch chwarelu wedi ei disodli (ardal 11). Yn bwysicach o bosibl, mae olion sylweddol cyfundrefnau caeau ac anheddau cynhanesyddol, rhai ymhlith y pwysicaf i oroesi ym Mhrydain: er enghraifft, o gwmpas Maen y Bardd (ardal 9) ceir tir dros 100ha sy'n cynnwys creiriau, cylchoedd cutiau, grwpiau cutiau, llociau, waliau caeau, llechweddau a therasau amaethu a thraciau mewnol. Mae ‘cutiau hirion' canoloesol hefyd yn nodwedd o archeoleg y tir hwn. Mae'n bosibl eu bod yn deillio o'r cyfnod Neolithig, am ei bod hi'n amlwg i siambr gladdu Maen y Bardd gael ei hymgorffori yn un o waliau'r caeau.

Mae tystiolaeth o annedd cynhanesyddol ar ffurf cylchoedd cutiau, tomenni wedi'u llosgi, llociau hirgrwn a waliau caeau cromliniol wedi goroesi, ymron mewn patrwm di-dor ar hyd y mynydd-dir (ardal 24); o ddyffryn Conwy i Anafon yn y gorllewin (y tu hwnt i derfynau'r ardal astudio). Fodd bynnag, ceir annedd nodedig arall ar dir sy'n canoli ar fryngaer Pen y Gaer. Yma gwelir clwstwr o gylchoedd cutiau a chutiau hirion, a gysylltir yn aml â chyfundrefnau caeau. Mae'r rhain, fel ym Maen y Bardd, wedi'u gorchuddio mewn mannau gan lociau ac anheddau o'r 16 eg a'r 17 eg ac yn sgil deddfwriaeth seneddol amgáu tiroedd yn ystod y 19 eg . Mae'r cwbl yn ychwanegu at hanes hir y mynydd-dir hwn.

Credir bod olion llawer o draciau'r ardal yn gynhanesyddol. Y mwyaf nodedig yw'r trac sy'n arwain o ddyffryn Conwy dros Fwlch y Ddeufaen (ardal 9) i'r gwastadedd arfordirol a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniad. Fe oroesodd tan y 18 fed ganrif fel yr unig fodd o osgoi'r arfordir peryglus o gwmpas Penmaenmawr.

Yr unig gofadail o'r oes Rufeinig y gwyddis amdano yn yr ardal yw'r gaer (annedd ddinesig atodol) sy'n mesur sawl hectar o'i chwmpas) ar lan orllewinol yr afon yng Nghaerhun, a'r ffordd sy'n arwain dros Fwlch y Ddeufaen. Lleolir yr amddiffynfa islaw bryngaer Pen y Gaer ac i'r de o'r mwnt yn Nhal y Cafn. Dros y canrifoedd, roedd perchnogaeth tir yn newid a gallai hyn fod yn destun cynnal arolwg at y dyfodol. (Roedd lleoliad y llys cynnar, un ai yng Nghastell neu'r Gronant yn ffactor pellach).

Gellir dadlau mai'r cofadail pwysicaf o'r cyfnod canoloesol yw'r castell a thref gaerog Conwy, a adeiladwyd gan Edward I rhwng 1283-6 ar safle mynachlog Sistersaidd gynharach, yn un o gyfres o'i goncwestau Edward I yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, mae llawer mwy o'r dirwedd ganoloesol wedi goroesi, yn arbennig yn y mynydd-dir, ar ffin orllewinol dyffryn Conwy (ardaloedd 9, 16 a 24), ac ar Ben y Gogarth (ardal 1), lle mae nifer y tai llwyfan a chutiau hirion yn dangos sut roedd patrwm anheddu dynol yn newid dros y canrifoedd. Ceir astudiaeth fanylach ar yr agwedd hon isod.

Ymhellach i'r gogledd, roedd Deganwy (ardal 6) yn chwarae rhan bwysig yn hanes Cymru drwy gydol y cyfnod ôl-Rufeinig, yn rheoli aber yr afon cyn concwest Edward I. Yn ôl yr hanes, dyma le'r oedd llys Maelgwn Gwynedd, yn ôl y cyfeiriad ato yn yr Arx Decantorum, 822 OC. Adeiladodd Robert o Ruddlan gastell tua 1080, cyn iddo'i drosglwyddo i berchnogaeth Llywelyn Fawr ym 1200. Yn ystod y 13 eg , fe adeiladwyd Plasty Gogarth, sef maenor esgob Bangor ar ochr ddeheuol y Gogarth (ardal 1), a cheir nifer o eglwysi canoloesol yma, gan gynnwys Saint Tudno (ardal 3) a Llangelynnin (ardal 16).

 

Annedd

Adlewyrchir amrywiaeth y tirweddau yn yr ardal astudiaeth ym mhatrymau amrywiol yr annedd sy'n bodoli eisoes. Roedd seiliau rhai o drefi, pentrefi, pentrefannau a thyddynnod anghysbell presennol Creuddyn ac Arllechwedd eisoes wedi'u gosod mewn ambell le, pan ddechreuir cofnodi yn ystod y ddeuddegfed ganrif. Ond mae eu twf, eu newid ac mewn ambell le, eu segurdod, yn arwydd o'r newid a fu mewn arferion amaethu mewn cyfnodau diweddarach, tra gwnaeth eraill esblygu neu fe'u crëwyd o'r newydd, yn ôl gofynion economi ddiwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.

Y Conwy yw nodwedd bwysicaf y dirwedd naturiol. Yn llifo o'r de i'r gogledd, mae castell Edwardaidd yn gwarchod ei haber a thref gynlluniedig Conwy. Hwn oedd unig gnewyllyn trefol yr ardal cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er bod llawer o'r anheddau llai sydd wedi goroesi eisoes wedi'u cofnodi mewn dogfennau canoloesol, gan gychwyn gyda'r Record of Caernarvon, 1352.

Golygai patrwm gweinyddu, fel yr esblygodd yng Ngwynedd erbyn y drydedd ganrif ar ddeg, i diriogaethau gael eu rhannu'n gantrefi a'u hisrannu'n gymydau. Daeth Deganwy yn ganolfan cwmwd Creuddyn, oedd yng nghantref y Rhos; yn Abergwyngregyn, y tu draw i ran orllewinol yr ardal astudiaeth roedd canolfan gymydol Arllechwedd Uchaf, y rhan ogledd-ddwyreiniol ohono yn yr ardal astudiaeth. Buasai Arllechwedd Isaf wedi cael ei ganolfan gymydol ei hun, o bosibl yn Castell, ar lan ddwyreiniol y Conwy, ger y man croesi bas yn Nhal y Cafn.

Yn ogystal â'i lys a'i faestref, roedd pob cwmwd yn cynnwys nifer o drefgorddau, treflannau, villae mewn dogfennau Lladin, a allai fod yn gaeth neu'n rhydd. Gallai daliadau llwythol neu deulu estynedig gynnwys sawl trefgordd. Yn Arllechwedd Uchaf roedd pedair trefgordd; Bodsilin, Gorddinog, Llanfair a Dwygyfylchi ac eglwysi plwyfi Aber, Llanfair a Dwygyfylchi yn rhan o'r ardal astudiaeth. Roedd cwmwd Arllechwedd Isaf yn cynnwys pedair trefgordd gaeth ac un rydd, gyda phob un a'i therfyn sefydlog. Roedd y trefgorddau caeth yng ngogledd y cwmwd, yn Llechan, Eirianws, Tremorfa, Glyn a Gronant. Trefgordd rydd Castell oedd y fwyaf, yn ymrannu i bentrefannau Penfro, Merchlyn, gyda threfgorddau caeth Cymryd a Bodidda yn eu gwahanu o'r lleill.

Roedd Arllechwedd Isaf hefyd yn cynnwys tair trefgordd eglwysig; rhoddodd Llywelyn Fawr drefgordd Aberconwy i Urdd y Sistersiaid. Yn ddiweddarach, rhoddodd Edward I hi i fwrdeistref Conwy; y lleill oedd Gwrhydros, sy'n ffinio ag Aberconwy, a threfgorddau Ardda a Dar Lâs, yn y de. Wedi i Llywelyn Fawr roi tir i Urdd y Sistersiaid, crewyd un daliad tir sylweddol. Roedd yn ystâd mewn gwirionedd, am ei fod yn gyfystyr â maint ystadau bonedd y cyfnod modern. I gychwyn, roedd y mynachod yn uniongyrchol gyfrifol am y faenor, ond yn ddiweddarach fe'i prydleswyd i ffermwyr tenantiaeth ( Hays 1963 ) .

Mae goroesiad y ddogfen hynod, The Bolde Rental, 1420 i 1453, wedi galluogi ail-greu yn rhannol sut cafodd cyfundrefn daliadaeth tiroedd yng Nghymru yn y cwmwd hwn ei ddisodli gan lainddaliadau a oedd yn sail i'r ystadau gwych oedd yn tra-arglwyddiaethu'r rhanbarth o'r unfed ganrif ar bymtheg i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yng nghwmwd Creuddyn, roedd maenor Gogarth ymysg y tiroedd a ddifeddiannwyd gan goron Lloegr ym 1277. Yna, fe'i cyflwynwyd i esgobaeth Bangor. Dim ond yn 1891 yr ildiodd yr esgobaeth ei pherchnogaeth. Roedd yn cynnwys tair trefgordd; y Gogarth, Cyngreawdr a'r Wyddfid. Trefgorddau eraill oedd Penlasog, Bodafon, Rhiwledin, Penrhyn, Gloddaith, Bodysgallen, Trefwarth a Llanwyddan, ac fe'u rhannwyd rhwng plwyfi Llandudno, Eglwys Rhos a Llangystennin.

Yn ogystal â'r rhaniadau tir seciwlar, erbyn y cyfnod canoloesol diweddar, roedd Arllechwedd Isaf wedi ei rannu'n blwyfi'r Gyffin, Llangelynnin, Caerhun a Llanbedr y Cennin. Wedi diddymu'r mynachlogydd, daeth trefgordd Ardda a Dâr Lâs yn rhan o Arllechwedd Isaf. Daeth Conwy'n blwyf ar ôl i'r fynachlog symud i Faenan wedi'r Goncwest.

Mae topograffeg yr ardal astudiaeth, sy'n amrywio o ddoldir isel a thir pori i lwybrau llwm defaid, wedi creu amaethyddiaeth amrywiol, hanesyddol. Mae ffermydd sy'n aml yn cynnwys daliadau mynydd-dir ac iseldir yn nodwedd ohoni, er bod y patrwm hwn yn amrywio o le i le a gyda threigl amser. Mae hafotai iseldir dyffryn Conwy i'w gweld ar ffurf ffermdai cadarn, tebyg i Farchwel. Yn aml, fe'i hailadeiladwyd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel y gwelir ym Maes y Castell, Llwydfaen a Gorswen. Mae enwau ffermydd fel Hendy neu Hendre Fawr yn gofnod o'r drefn ‘hafod a hendre' a phatrwm annedd canoloesol blaenorol. Mae anheddau anghysbell ar y mynydd-dir wedi chwarae rhan ddeuol, yn hendre tymhorol i'r hafod ar yr iseldir, yn ffermdai lle mae pobl y byw ynddynt yn barhaol.

Saif nifer o ffermydd bach anghysbell ar dir oedd gynt yn cynnwys anheddau gwasgarog; mae'r ffermdy yn Ardda yn Nolgarrog bellach yn wag, ond mae'r fferm ei hun yn cynnwys nifer o anheddau adfeiliedig, o bosibl yn dyddio yn ôl i ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg neu ddechrau'r ddeunawfed ganrif. Roedd yr ardal yn ffurfio un o faenorau llewyrchus Abaty Aberconwy (RCAHMW 1956, t75-6, Prifysgol Bangor Ms 2383, Hays 1963 ).

Ar y rhuban arfordirol rhwng Dwygyfylchi a Llanfairfechan, mae tai o'r unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg wedi goroesi, er bod topograffi'r tir yn wahanol i ddyffryn Conwy, sydd ar iseldir mwy cul, ac wrth droed llethrau serth sy'n arwain at lwybrau defaid. Gwelir y rhain ar fap Lewis Morris 1748 (Morris 1748) fel tyddynnod anghysbell ffermwyr iwmyn. Ond daeth tro ar eu byd yn sgil diwydiannu cyflym yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif gan newid patrymau anheddu.

Er y datblygodd anheddau cnewyllol sylweddol ym Mhenmaenmawr, Cyffordd Llandudno a Dolgarrog, roedd natur ddi-gynllun datblygu mewn lleoedd eraill wedi esgor ar rai anheddau'n troi'n dyddynnod anghysbell i chwarelwyr a mwynwyr a symudodd i'r ardal. Mae'n debyg y codwyd y rhes bythynnod yn Nhrecastell i fwynwyr.

Mae'r Cyfrifiad o 1841 i 1871 yn dangos i lawer o ffermydd bach roi llety i fwynwr neu chwarelwr neu eu meibion. Mae'n bosibl i'r economi ddeuol alluogi rhai o'r anheddau hyn i oroesi yn hwy na'r disgwyl. Yn sicr, erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gadawyd y ffermydd bach yn segur, ac fe ddychwelwyd tiroedd yr hendrefi i'r hafotai yn y dyffryn. Llwyddodd datblygu cynlluniau crynhoi dŵr yn ystod yr ugeinfed ganrif i arafu diboblogi ar y mynydd-dir yn Nolgarrog, Llanbedr a Caerhun, ac erbyn y 1970au, cynhaliwyd rhai o'r ffermydd hyn yn rhan-amser gan deuluoedd lle'r oedd y gŵr hefyd yn gweithio yn y gweithfeydd alwminiwm.

Newidiodd natur annedd yn yr iseldir yn sylweddol o ganlyniad i'r newidiadau cymdeithasol a grëwyd gyda dyfodiad y rheilffyrdd. Ar wahân i ddatblygu'r ardal rhwng Llanfairfechan a Dwygyfylchi gyda chodi tai i dwristiaid, denwyd nifer o ŵyr busnes cyfoethog o ddinasoedd cyfagos Manceinion a Lerpwl i sefydlu yn yr ardal.

Mae nifer o anheddau gwasgarog, heb isadeiledd wedi goroesi, tebyg i annedd Alltwyllt, uwchben Dolgarrog. Yn ôl y chwedl, fe'i sefydlwyd gan oroeswyr Gwylliaid Cochion Mawddwy yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Roedd eu disgynyddion yn amaethu mewn dull garddwriaethol, yn cadw gwartheg ar y comin, yn cloddio mwyn ac yn pysgota (Hughes 1940, 24).

Mae anheddau pentrefi cnewyllol sy'n dyddio o leiaf o'r cyfnod Canoloesol wedi goroesi ar sawl safle. Saif pentref Bryn Pydew ar ddarn canol y gefnen galchfaen sy'n ffurfio ardal 22. Mae annedd i'w gweld yma - wedi'i chanoli ar groesffordd ar fap degwm 1839. Ers hynny, mae wedi ymestyn i gynnwys datblygiad llinellol ar hyd y ffordd i Gyffordd Llandudno yn Esgyryn. Mae'r pentref presennol yn cynnwys swyddfa bost a chapel. Pentref bychan yw Glanwydden rhwng cefnen Pydew a Thrwyn y Fuwch ac mae'n cynnwys capel a thŷ tafarn. Mae pentref Llanbedr y Cennin wedi'i ganoli ar Eglwys Saint Pedr ac mae'n cynnwys tŷ tafarn, capel a siop. Mae Ro Wen yn ddatblygiad llinellol ar hyd ffordd a allai fod yn Gynhanesyddol, sy'n arwain o Dal y Cafn i Fwlch y Ddeufaen ac Aber. Ceir sawl capel, tai tafarn, ysgol, swyddfa bost a siopau yn y pentref.

Tref Conwy yw'r annedd trefol cnewyllol hynaf yn yr ardal astudiaeth. Fe'i disgrifiwyd yn enghraifft eithriadol o dref wedi'i chynllunio, sy'n dangos meddwl arloesol ym maes cynllunio trefol pryd y'i hadeiladwyd, ac wedi hynny mae'n ffosileiddio. Ym 1292, dewisodd Edward I Gonwy yn lleoliad i adeiladu ei fwrdeistref newydd, a'i nod oedd sefydlu annedd Seisnig yng Ngwynedd a thrwy hynny ‘wastrodi poblogaeth a allai fod yn ddireol'.

Mae Llanfairfechan yn cynnwys nifer helaeth o aneddiadau pensaer lleol eithriadol ‘Celf a Chrefft' Herbert Luck North (1871-1941), (Hughes 1989). Penmaenmawr yw un o drefi diwydiannol clasurol Gogledd Cymru, ond fe'i datblygwyd hefyd yn dref wyliau. Efallai bod adeiladu ffordd Sylvester o gwmpas rhan serth Penmaenmawr wedi peri i un o dirddaliadaethau mwyaf yr ardal i newid dwylo. Creadigaeth oes Fictoria ymron yn llwyr yw cymuned Penmaenmawr ac mae'n ddarlun o ddatblygiad y diwydiant chwarelu a'r ymgais i'w datblygu'n gyrchfan dwristiaid.

Arwydd o'r newid oedd ar ddod i benrhyn y Creuddyn ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd draenio'r tir wrth droed y Gogarth i greu tref wyliau fodern Llandudno (ardal 2). Roedd Deddf Cau Tiroedd 1843, a ddaeth i rym ym 1847, wedi dyrannu 832 erw o 955 erw o dir comin y plwyf i Edward Mostyn o Gloddaeth - gŵr a oedd yn benderfynol o greu tref wyliau glan y môr. O hyn ymlaen, dyfodol y dref fyddai'r twristiaid, nid mwyngloddio neu amaethyddiaeth.

Roedd y dirwedd yn union i ddwyrain y Conwy'n addas ar gyfer adeiladu gorsaf gyffordd rhwng prif lein Caer i Gaergybi, a chledr ddwbl bwysig y llinell leol i Landudno. Y ddiweddarach, adeiladwyd y llinell leol ar hyd dyffryn Conwy. Agorwyd yr orsaf yma ym 1860, ac fe'i huwchraddiwyd tua 1883 ac ym 1897 ( Anderson and Fox 1984) . Mae tai i'w gweld mewn ffotograffau a dynnwyd cyn 1897 (gweler y clawr blaen), ond yn ystod yr ugeinfed ganrif yr ehangodd Cyffordd Llandudno fel annedd.

Dim ond un astudiaeth sydd wedi dadansoddi enwau lleoedd yr ardal sef astudiaeth Ifor E. Davies ym 1984 (Davies 1984, 125-127) , er yr ymdrinnir ag enwau lleoedd fel tystiolaeth mewn sawl astudiaeth arall (Hughes 1940, Hooke 1997, Jones Pierce 1939, Withers 1995).

 

Diwydiannol

Ers y cyfnod cynhanesyddol, mae'r tir wedi ei fwyngloddio'n helaeth a bu'n ganolbwynt cludiant pwysig. Ceir olion gweithgarwch diwydiannol archeolegol mor gynnar â'r drydedd mileniwm CC, pan weithiwyd Graiglwyd i wneud bwyelli cerrig. Dyma oedd trydydd safle mwyaf cynhyrchiol o'r safleoedd gwneud bwyelli cynhanesyddol ym Mhrydain, ar ôl ffatrïoedd Great Langdale a Scafell yn Ardal y Llynnoedd a ger St Ives yng Nghernyw. Roedd eu cynnyrch yn cystadlu mewn marchnadoedd Neolithig ledled yr ynysoedd (Cummins and Clough 1988).

Yn ystod yr Oes Efydd, roedd copr yn cael ei fwyngloddio'n helaeth ar y Creuddyn. Cydnabyddir hyn i gychwyn ym 1831 a 1849 pan ddarganfuwyd offer carreg ac esgyrn yng ngweithfeydd copr Pen y Gogarth (ardal 1), ( Stanley 1850) . Mae cyfnodau graddnodedig y samplau mwynau'n amrywio o 1410 CC i 1070 CC (Ambers 1990) o bosibl. Gweithiwyd y mwynfeydd ar hyd orielau llorweddol hyd at 50m ac i ddyfnder fertigol o tua 30m. Defnyddiwyd gosodiad tân i ymestyn y gweithfeydd ( Dutton 1994) . Roedd mwyngloddiau Pen y Gogarth yn gyflenwyr copr pwysig yn ystod y cyfnod cynhanesyddol, ynghyd â mwyngloddiau Mynydd Parys, Cwmystwyth a nifer o safleoedd eraill ym Mhrydain a thu hwnt.

Ym 1692 fe adfywiwyd y mwyngloddiau, ac roeddent yn parhau i weithio tan 1877, er ar raddfa fach iawn bryd hynny, gan fod Llandudno eisoes wedi datblygu'n gyrchfan wyliau. Roedd symudyddion ager a hydrolig yn gweithio'r pympiau ac mae olion mecanwaith y rhoden wastad (rhodenni pren cymalog) a gysylltai injan ddŵr yn Ffynnon Gogarth â phympiau yn yr Hen Loddfa, yn parhau'n un o nodweddion trawiadol tirwedd Pen y Gogarth (Williams 1995 ).

Gweithiwyd am blwm yng Nghloddfa Nhrecastell ger Henryd (ardal 16). Awgrymir bod y safle'n dyddio o gyfnod cynhanesyddol, ond nid oes tystiolaeth ddogfennol am gloddio yn yr ardal tan 1753. Roedd gweithfeydd yn Nhrecastell mor ddiweddar â 1955, ond fe dirluniwyd y safle ar ôl i'r gwaith gau, a phrin yw'r dystiolaeth dirweddol sydd wedi goroesi ( Bennett 1997) . Ceir gweithfeydd prawf am haearn uwchben Aber, ym mwynglawdd Gorddinog a mannau eraill.

Cafwyd mentrau llai a byrhoedlog ym mwynglawdd sylffid Ardda ar y mynydd-dir (ardal 9) uwchben Dolgarrog. Fe'i gweithiwyd o 1853 hyd 1864, ac roedd rheilffordd cyfuchlin a dau inclein sy'n gwrthbwyso yn cysylltu'r mwynglawdd i'r brif ffordd. Cafwyd gweithfeydd prawf aflwyddiannus mewn sawl lleoliad arall.

Bu chwarelu am garreg a llechi mewn sawl lleoliad yn yr ardal astudiaeth. Mae'r gweithfeydd modern yng nghraig igneaidd Penmaenmawr (ardal 11) yn sylweddol eu maint. Yn ystod y 1820au, defnyddiwyd dulliau mwyngloddio modern pan weithiwyd deunydd llac addas o'r llethrau sgri, naddu'r cerrig yn setiau a'u cludo mewn llongau i Lerpwl. Ymhen degawd, fe ddatblygodd dwy chwarel annibynnol, Graiglwyd ar yr ysgwydd ddwyreiniol, a Phenmaen ar y pen eithaf i'r gorllewin. I gychwyn, roedd y ddwy chwarel yn cynhyrchu setiau, ond wrth i garreg rydd i wneud ballast rheilffordd ddod yn fwy pwysig o'r 1890au ymlaen, fe sefydlwyd melinau mathru. Ar ddechrau'r ganrif hon, fe unwyd y ddwy chwarel dan reolaeth un cwmni ac adeiladwyd rheilffordd chwarel er mwyn eu cysylltu. Erbyn diwedd y 1930au, daeth cynhyrchu setiau yng Ngraiglwyd i ben ac fe'i gadawyd yn segur ( Davies 1974) . Mae'r chwarel bresennol ym Mhenmaenmawr ar ochr orllewinol y brigiad ac mae'n cynhyrchu cerrig mân ar gyfer adeiladu ffyrdd a balast rheilffordd. Ym 1983, gosodwyd peiriant mathru newydd yno ac mae'r chwarel yn cynhyrchu 600, 000 tunnell y flwyddyn heddiw.

Mae gweithfeydd helaeth yr hen chwarel a'r chwarel newydd yn cynnwys llawer o greiriau diwydiannol segur sy'n adrodd hanes mwyngloddio dros y canrifoedd. Gadawyd system gyfan o incleiniau mawr yn segur ar ôl gosod system gludo o chwarel Penmaen i'r arfordir yn ystod y 1950au. O ganlyniad i dirlunio diweddar, tynnwyd llawer o beiriannau fel y peiriant mathru mawr Penmarian oddi yno. ( Lee 1994) .

Roedd y chwarel setiau ar lethrau gogleddol Mynydd Conwy (ardal 9) yn llai llwyddiannus yn fasnachol. Roedd yn weithredol o 1874 tan yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod dyddiau cynnar y chwarel, cludwyd y garreg o bier ar y Morfa (ardal 9), ac yn ddiweddarach, fe'i disodlwyd gan gilffyrdd cyfnewid gyda dyfodiad y London and North Western Railway ( Bradley 1992, 226-7) . Roedd incleiniau ar y safle hwn ac mae eu holion i'w gweld. Fe chwarelwyd gwyrddfaen, (y garreg gynhennid) i wneud maen melin, pan oedd brwydrau Rhyfeloedd Chwyldroadol Ffrainc a Napoleon wedi atal mewnforion o La Ferté sous Jouarre yn Ffrainc. Canfuwyd nifer o ffasau chwareli ar wahân, ond i bob golwg, ni ddatblygodd y diwydiant ar raddfa fawr yn lleol.

Chwarelwyd carreg galchfaen cyn 1862 tan 1931 ar Drwyn y Fuwch (ardal 3), a'u cludo mewn llongau o bier o dan y chwarel ( Bradley 1992, 299-300) . Gweithiwyd carreg galchfaen ar sawl safle ar Ben y Gogarth, fel yn Chwarel yr Esgob. Ger Marine Drive, ceir olion llithren ar gyfer llwytho llongau ac islaw Pen y Ddinas, mae'r graig wedi ei hechdynnu o waith piler a thalcen dan ddaear.

Gweithiwyd llechen a llechen-tuffite yn fasnachol mewn chwe chwarel yn yr ardal, er yr agorwyd chwareli prawf ar raddfa fach mewn sawl man. I bob golwg, roedd chwarel fechan Tal y Fan (ardal 9) yn gweithio'n ysbeidiol o 1555 tan 1913. Gwyddis i chwarel gynnar arall yn Llechan gael ei hecsbloetio ym 1686. Ond mae'n tarddu o'r canol oesoedd mwy na thebyg, am y cyfeirir at lechan, sy'n gyfystyr â charreg holltadwy mewn dogfen o'r bedwaredd ganrif ar ddeg ( Ellis 1838) . Yn sicr roedd gweithfeydd yma tan ddiwedd y ddeunawfed ganrif oherwydd gwelir llechi bach nodweddiadol o chwarel Llechan ym Melin Gwenddar gyda'r rhifolion 1783 ar garreg.

Mwy confensiynol oedd llwyddiant chwareli Cwm Eigiau a Chedryn ar y mynydd-dir, i'r gorllewin o Lyn Eigiau (ardal 9). Fe'u hagorwyd yn ystod y 1820au, a buont yn gweithio ar raddfa fach tan y 1850au, pan godwyd melin yn cael ei gyrru gan olwyn ddŵr a barics yng Nghwm Eigiau. Yn ystod blynyddoedd llewyrchus y 1860au, gosodwyd y peiriannau diweddaraf ynddynt ac adeiladwyd rheilffordd saith milltir o hyd i allu cyrraedd y Conwy. Roedd y ddwy yn segur ar ôl 1874.

Yn ystod y 1860au, yn y dyffryn i'r gogledd agorwyd chwarel lechi fechan, a rhwng 1869 a 1870 gosodwyd melin yn cael ei gyrru gan olwyn ddŵr ynddi. Yn ddiweddarach, aed ati i weithio gwythïen i wneud calenni hogi. Gweithiwyd y chwarel tan 1908. O'r 1820au i'r 1880au, gweithiwyd chwarel fechan yng Nghoed Dolgarrog (ardal 19), a chwarelwyd gwythïen llechi tuffite i wneud calenni hogi ym Melynllyn (ardal 20) o'r 1860au i 1910 ( Davies 1976) .

Roedd y tir âr cyfoethog angen sawl melin ŷd wedi'u pweru gan ddŵr. Gwyddis i'r rhain gael eu hadeiladu ar y Gyffin a'r Ro yn Llanfairfechan ac Aber. Mae sawl enghraifft wedi goroesi, wedi eu troi'n anheddau, gan gynnwys Melin Bulkeley o'r ail ganrif ar bymtheg. Ni cheir fawr o olion melinau a yrrwyd gan ddŵr. Er, roedd pandy yn Nolgarrog erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg ( NLW Wynnstay Mss.) , a melin bapur ym Mhorth Llwyd ym 1810 ( UWB Baron Hill Mss.) . Dim ond sylfeini'r ddwy felin wynt y gwyddis iddynt gael eu codi ar benrhyn y Creuddyn sydd i'w gweld, ar y Gogarth ei hun (ardal 1), ac uwchben Deganwy (ardal 6).

Roedd pŵer dŵr yn hanfodol i ddatblygiad diwydiannol mawr yr ardal sef gwaith alwminiwm Dolgarrog. Fe'i sefydlwyd ym 1907 fel gwaith rhydwytho sy'n trawsnewid alwmina a bocsit i alwminiwm. Dyma broses sy'n defnyddio llawer iawn o drydan ac o'r herwydd, fe leolir y gwaith bob amser lle mae digonedd o ddŵr, yn hytrach na ger ffynhonnell y deunydd crai. Yna, fe adeiladwyd ffatri garbon a melin rowlio a bellach mae'n waith rowlio alwminiwm arbenigol. Sefydlwyd pentref pwrpasol yn Nolgarrog rhwng 1907 a 1926 ( Jones and Gwyn 1989) .

Roedd gwaith nwy cynnar ar Fferm Madryn yn diwallu anghenion Llanfairfechan.

 

Cyfathrebiadau

Mae archeoleg cyfathrebiadau'n bwysig er mwyn deall tirwedd hanesyddol yr ardal astudiaeth. Roedd llwybr cynhanesyddol dwyrain-orllewinol yn croesi'r Conwy yn rhyd Tal y Cafn ac yn arwain drwy Fwlch y Ddeufaen. Mae'r sarn Rufeinig Canovium (Caerhun) i'r gorllewin o Segontium (Caernarfon) yn dilyn yr un llwybr a'i ragflaenydd honedig o'r oes efydd, o Ro Wen i Fwlch y Ddeufaen. Ym 1954, darganfuwyd carreg filltir Rufeinig ar ochr ddwyreiniol Bwlch y Ddeufaen a briodolir i deyrnasiad Cystennin Fawr (305-337 OC). Mae'n cofnodi pellter o bum milltir o Canovium .

O Fwlch y Ddeufaen, nid yw'n sicr a oedd y ‘ffordd' yn arwain i'r gorllewin drwy ddyffrynnoedd Anafon ac Aber neu'n disgyn i Lanfairfechan ar hyd dyffryn Gorddinog. Yr ail sy'n fwyaf tebygol, gan fod tair carreg filltir Rufeinig wedi'u darganfod ger ei lleoliad tebygol. Darganfuwyd dwy ar adegau gwahanol ym 1883, yn gorwedd rhai metrau o'i gilydd mewn cae ar fferm Rhiwgoch. Mae un yn dyddio i deyrnasiad Hadrian (117-138 OC) ac yn cofnodi pellter o wyth milltir o Canovium ; mae'r llall yn dyddio o deyrnasiad yr Ymerawdwr Severus (193-211 OC) ond ni cheir cofnod o filltiroedd penodol gan nad yw'r arysgrifen yn gyfan. Yn olaf, darganfuwyd trydedd carreg filltir mewn cae ar Fferm Madryn ym 1959, ar y gwastatir arfordirol i'r gorllewin o Lanfairfechan. Roedd arysgrifen ôl-Rufeinig a mesur imperial arni - yr olaf i'w phriodoli i deyrnasiad Postumus (258-268 OC) ( Jones 1985). Mae'n bosibl y darganfuwyd porthladd Rhufeinig ar lannau'r Conwy i'r gogledd o'r gaer yng Nghaerhun (ardal 15), o le'r oedd sarn Rufeinig arall yn mynd i'r de i Gaer Llugwy a de Cymru yn y pendraw.

Roedd y Conwy yn wythïen gyfathrebu bwysig, yn cario coed, plwm, haearn sylffid a llechi o rannau uchaf y dyffryn, o gyfnod y Goncwest o leiaf. Er, tan ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd rhaid cludo nwyddau dros rîff yn Nhal y Cafn ( Williams 1979) . Mae map degwm Caerhun yn dangos glanfa a ffordd yn y fan hon. O'r 1820au tan 1864, cludwyd llechi mewn llongau o Gwm Eigiau o lanfa ar lan orllewinol y Conwy, ychydig i'r gogledd. Am gyfnod yn ystod canol y ganrif, roedd chwarel Cwm Machno yn allforio llechi o lanfa ar y lan gyferbyn. Ym 1831, ymestynnwyd y lanfa (tarddiad canoloesol) yng Nghonwy, gan W.A. Provis ( CRO XB2/16; Davidson 1997, 4-5) , ac adeiladwyd glanfeydd hefyd gan y London and North Western Railway yng Nghyffordd Llandudno a Deganwy.

Cludwyd nwyddau amaethyddol ar hyd yr afon; ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, adeiladodd ffarmwr ger Tal y Cafn gamlesi ar draws y gwastatir llifwaddodol i gario calch i'w gaeau; ni welwyd olion y rhain. Fel sy'n wir am afonydd llanwol ac aberoedd eraill yn y gogledd orllewin, gostyngodd cludo mwynau o'r 1860au, a daeth i ben yn llwyr ym 1878, dim ond i gael ei adfywio eto ym 1907 ar ôl sefydlu gwaith alwminiwm Dolgarrog. Adeiladwyd camlas a thramffordd i gysylltu'r gwaith i'r afon, ac roedd ysgraffau'n mynd a dod ar ei hyd tan y 1930au. Cyflwynwyd teithiau ar agerlongau o Gonwy i Drefriw ar yr afon ym 1847, a pharhaodd tan 1940.

Roedd yr afon yn creu rhwystr naturiol i deithio o'r dwyrain i'r gorllewin, er y ceir cofnod o fferïau yng Nghonwy o 1188 ac yn Nhal y Cafn o 1301 ( Davies 1966, 1, 11) . Defnyddiwyd llwybr Bwlch y Ddeufaen yn rheolaidd tan y ddeunawfed ganrif, pan fu i seneddau Llundain a Dulyn ym 1769 fuddsoddi'n sylweddol mewn ffordd dros bentir Penmaenmawr. Yn flaenorol, roedd yn ddrwg-enwog fel rhwystr. Bu i bobl dyffryn Conwy gyfeirio at yr ardal hon fel ‘Penmaenmawr a'r gwledydd pell'. Roedd ‘ffordd' yma yn ystod teyrnasiad Siarl I, ond nid tan yr adeiladwyd ffordd Telford yn y 1820au y daeth y daith beryglus o orllewin Conwy i ben. Rhwng 1930 a 1936, adeiladodd cwmni Boswell o Wolverhampton ffordd newydd yn lle ffordd Telford, sef y gyntaf i fynd drwy dwnnel yn y graig. Caiff y ffordd hon ei chario ar argloddiau bwaog mawr ac fe adeiladwyd lonydd ychwanegol a thwnnel pellach yn ystod y 1980au.

Arweiniodd adeiladu ffordd bost Telford yn ystod y 1820au at adeiladau pont grog dros yr aber, wedi i sawl cynnig i adeiladu pont garreg fynd i'r gwellt. Hyd bwa pont Conwy Telford yw 327' rhwng ei dau dŵr carreg nadd. Ym 1958 bu protestio oherwydd y bwriad i'w dymchwel. Fe'i hadnewyddwyd yn ddiweddar i'w chyflwr gwreiddiol bron, ac fe'i defnyddir o hyd fel pont droed.

Ar ôl adeiladau'r ffordd bost a'r bont, fe wellodd y cysylltiadau ffyrdd lleol yn gyffredinol. Daeth y ffordd o Gonwy i Bwllheli dan berchnogaeth Ymddiriedolaeth Dyrpeg a'r ffordd o Gonwy i Dal y Cafn dan berchnogaeth Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon. Erbyn 1772, roedd y ffordd newydd wedi'i chwblhau ( Davies 1966, 203) .

Ym 1848, adeiladwyd yr ail bont i'w chodi yng Nghonwy ar gyfer y Chester and Holyhad Railway Company, un o bontydd tiwbaidd Robert Stephenson. Dim ond yng Nghonwy mae'r ddau diwb yn parhau'n gyfan ac yn cludo trenau. Mae ei bwâu castellog yn cydweddu â'r castell. Bwriad y rheilffordd oedd cysylltu Llundain gyda phrif borthladd Iwerddon ac ym 1850 fe'i hagorwyd yr holl ffordd; ym 1857 gosodwyd y cafnau dŵr cyntaf ym Mochdre ac fe'u symudwyd yn ddiweddarach i Aber, gan beri i daith ddi-dor ar drên ddod cam yn nes (Cragg 1997, 13-17) . Ym Mhenmaenmawr, cludir y rheilffordd dros draphont agored, 182 llath o hyd.

Ym 1858, adeiladwyd llinell leol i Landudno, ac ar ôl 1875, dyblwyd maint y lein ( Bradley 1992, 90). Ym 1863 agorwyd llinell leol arall i Lanrwst; ym 1866 i Fetws y Coed ac ym 1878 i Flaenau Ffestiniog. Adeiladwyd ceiau wedi'u cysylltu â rheilffordd yn Ynys, ger pont Robert Stephenson ac yn Neganwy. Datblygodd ‘gorsaf' y gyffordd yn Llandudno'n ganolfan reilffordd bwysig ac erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tyfodd cymuned yn raddol o'i chwmpas.

Ceir pontydd dros yr afon mewn dau leoliad arall yn yr ardal astudiaeth; ym 1897, agorwyd pont ffordd yn lle'r fferi yn Nhal y Cafn ( CRO X/RD/?, Davies 1966, 229) , ac adeiladwyd ffordd a chulffordd o'r llinell leol i'r gweithfeydd alwminiwm yn Nolgarrog ym 1916. Dyma un o ddwy bont cantilifer hytrawst yn y DU. Pont y Forth Bridge yw'r llall.

 

Y diwylliant, y gymdeithas a'r iaith

Mae asesiadau traddodiadol o dirwedd Cymru wedi tueddu i'w rhannu'n ardaloedd diwydiannol a gwledig, gydag ymwybyddiaeth o hunaniaeth Gymreig gryf, o ran agwedd ac iaith yn aml hefyd. Er bod tirwedd yr ardal astudiaeth bresennol yn bennaf yn wledig, yn draddodiadol o ran agwedd a'i phobl yn siarad Cymraeg, ychydig o'r boblogaeth sydd wedi magu gwreiddiau ers amser maith yn yr ardal, a Saesneg yw iaith mwyafrif y boblogaeth yn y cymunedau mwy.

Roedd tref Conwy, a godwyd gan Edward I, yn draddodiadol yn glofan a lle'r oedd ei phobl yn siarad Saesneg mewn ardal a'i phobl yn siarad Cymraeg, sydd ond yn ddiweddar wedi dechrau colli'r nodwedd hon. Mae datblygiadau diwydiannol a thwristaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd wedi newid gwedd ieithyddol a diwylliannol yr ardal yn sylweddol.

Yn nodweddiadol, mae Llandudno wedi diwallu anghenion twristiaid o ogledd orllewin Lloegr, ac mae cysylltiadau cludiant hwylus ar hyd arfordir y gogledd wedi golygu bod y Creuddyn i gyd ac i raddau Penmaenmawr-Dwygyfylchi yn gwasanaethu ac yn ffurfio rhan o gytrefiad Seisnig estynedig.

Er mai Cymraeg oedd iaith gyffredin gweithwyr chwarel wenithfaen Penmaenmawr, deuai rhai o'r gweithwyr ac is-reolwyr o chwareli o fannau eraill o'r byd, yn wahanol i'r chwareli llechi cyfagos a ddenai eu gweithwyr bron yn llwyr o gefn gwlad a oedd yn siarad Cymraeg.

Yn ystod y 1920au, roedd pobl o gefndir ethnig amrywiol y gweithio yng ngwaith alwminiwm Dolgarrog pan oedd yn ei anterth. Roedd Saeson, Albanwyr a Gwyddelod a phobl o gefndiroedd eraill yn gweithio law yn llaw â Chymry brodorol. Ond fel sy'n wir am Gonwy, mae mwy o bobl yn y gymuned hon bellach yn siarad Cymraeg.

Felly nid yw ardal yr astudiaeth yn darddle cymdeithas lwyr draddodiadol Gymreig: erys yr ymdeimlad o fro yn gryf i lawer, ac mae eisteddfodau lleol dal yn boblogaidd ac yn ennyn cefnogaeth pobl. Ond bydd gwerthoedd, ymlyniadau a thybiaethau gwahanol gan eraill.

 

Llyfryddiaeth

Ambers, J., 1990, “Radiocarbon, Calibration and Early Mining”, Early Mining in the British Isles (Maentwrog), 59-63.

Anderson, V.R. and Fox, G.K., 1984, An Historical Survey of the Chester to Holyhead Railway (Poole), plates 153-168, figs 74-77

Bennett, J., 1997, Mines of the Gwydir Forest Part 7 (Cuddington), pp. 59-111.

Bradley, V.J., 1992, Industrial Locomotives of North Wales (London).

Cragg, R., 1997, Civil Engineering Heritage (London).

Cummins, W.A. and Clough, T.H.M., 1988 Stone Axe Studies vol. 2, CBA Research Report 67, pp. 7-11.

Davies, H.R., 1966, The Conway and Menai Ferries (Cardiff: University of Wales Press)

Davies, I.E., 1974, ‘A History of the Penmaenmawr Quarries', TCHS 35, pp. 27-72.

Davies, I.E., 1976, ‘The Manufacture of Honestones in Gwynedd', TCHS 37, pp. 84-6.

Davies, I.E., 1984, “Enwau Lleoedd ym Mhlwyf Dwygyfylchi a'r Cyffiniau nad ydynt ar Fap yr Arolwg Ordnans nac ar Ardrethiant y Degwm” TCHS 45.

Davidson, A., 1997, Conwy Quay: Archaeological Assessment , Gwynedd Archaeological Trust report 273, pp. 4-5

Dutton, L.A., 1994, “Prehistoric Copper Mining on the Great Orme”, Proceedings of the Prehistoric Society 60, pp. 245-286.

Ellis, H.E., 1838, Registrum vulgariter nuncupatum ‘The Recorde of Caernarvon' (London)

Hays, Rh. W., 1963, The History of the Abbey of Aberconwy 1186-1537 .

Hooke D., 1997, Understanding Settlement in the Conwy Valley, in Landscape and Settlement in Medieval Wales (Oxford) pp. 79-95

Hughes, Ll., 1989, Llanfair Mewn Lluniau/Llanfairfechan: A Pictorial History (Pen y Groes).

Hughes, R.E., 1940, Environment and Human Settlement in the commote of Arllechwedd Isaf, TCHS 2 pp. 1-25.

Jones (1985).??

Jones, E. and Gwyn, D., 1989, Dolgarrog: An Industrial History (Caernarfon).

Jones Pierce, T., 1939, The gafael in Bangor Manuscript, Trans. Hon. Soc. Cymmrodorion , 158-188

J. Lee, 1994.

Morris, L., 1748, Plans of Harbours, Bars, Bays and Roads in St George's-Channel (London) pl. 2.

Royal Commission on Ancient and Historic Monuments (Wales), 1956, Inventory of Caernarvonshire vol. 1 East (HMSO) pp. 75-6,

Stanley, W.O., 1850, ‘Note on Great Orme and Parys Mountain Copper Mines', Archaeological Journal 7, pp. 68-9.

Williams, C.J., 1995, Great Orme Mines (British Mining no. 52) .

Williams, G.H., 1979 ‘Estate Management in Dyffryn Conwy' Trans. Hon. Soc. Cymmrodorion .

Withers C.J., 1995, Conceptions of Landscape Change in upland North Wales: a study of Llanbedr-y-cennin and Caerhun parishes, c. 1560- c. 1891, in Landscape History 17 pp. 35-47.

 

 

Yn ôl at fap ardal Creuddyn ac Arllechwedd

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol