English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol - Caernarfon a Nantlle

Themâu Hanesyddol Caernarfon a Nantlle

 

Amaethyddiaeth

Mae tirwedd yr ardal heddiw wedi'i ffurfio gan weithgareddau ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nid yn unig yn sgil datblygiad diwydiannol ar raddfa fawr, ond hefyd o ganlyniad i nifer o ffactorau cyd-drawol a pherthnasol, fel: cau tiroedd (yn gyfreithiol ac anghyfreithiol) mewn ardaloedd cymharol fawr fel y Waun Wina, Moel Tryfan/Moel Smytho/Mynydd Cilgwyn (ardal 14), Nebo (ardal 15) a Thraeth Dinlle (ardaloedd 19 a 46); a rôl fwy rhagweithiol gan deuluoedd bonedd i wella'r tir, yn cynnwys ail-adeiladu Plas Brereton (ardal 26) a Glynllifon (ardal 10), yn ogystal â chreu arddulliau penodol o ffermdai ac adeiladau fferm gan ystadau Newborough a'r Faenol; a rôl fwy rhagweithiol gan bobl broffesiynol (er enghraifft cyfreithiwr ym Mryn Bras (ardal 45), ac asiant tir yng Nglan Gwna (ardal 29).

Fodd bynnag, wedi dweud hyn, mae tystiolaeth sylweddol sy'n dangos bod nifer o'r patrymau caeau yn y rhannau ymylol o'r ardal wedi'u sefydlu yn y cyfnod cynhanesyddol (h.y. y llethrau sy'n wynebu'r môr rhwng yr ucheldiroedd agored a'r iseldiroedd sydd wedi eu gwella i raddau helaeth).

Efallai bod y dystiolaeth ar gyfer aneddiadau cynhanesyddol a systemau caeau cysylltiedig i'w gweld yn fwyaf amlwg ar y llethrau amgaeedig o dan Fynydd Tryfan, yn enwedig yr ardaloedd o gwmpas Rhosgadfan / Rhostryfan (ardal 22) a Mynydd y Cilgwyn (ardal 25), a nodweddir gan waliau cerrig, sydd fel arfer yn batrwm crwn neu afreolaidd, a'r cerrig yn aml wedi eu gosod ar eu cyllyll. Mae Llwyndu-bach (gweler y llun ar gyfer ardal 25), a gloddiwyd gan Bersu yn y 1940au, yn enghraifft dda o loc crwn amgaeedig (diwedd y cyfnod hanesyddol) sydd â phatrwm cae cysylltiedig yn ymestyn ohono. Mae enghreifftiau rhagorol eraill i'r gogledd (o gwmpas SH505580) ac i'r de (o gwmpas SH495570) i Rostryfan, lle erys caelun, tirwedd ac anheddiad cynhanesyddol o dan y waliau o gyfnod diweddarach.

Ardal fawr arall o gaeau creiriol (cynhanesyddol) sy'n gysylltiedig ag aneddiadau yw Cae Rhonwy (ardal 38), er bod y caeau creiriol, sy'n edrych fel linsiedi â glaswellt wedi tyfu drostynt yn hytrach na chaeau â waliau cerrig sy'n cael eu defnyddio, yn is-betryal (yn hytrach nag is-gylchog).

Mae nifer o'r aneddiadau hyn yn rhestredig ac mae'r ardal restredig yn aml yn cynnwys rhannau o'r system gaeau (y tybir sy'n gysylltiedig). Mae rhai o'r linsiedi cynnar yn ardal Rhostryfan wedi'u cofnodi gan y Comisiwn Brenhinol (RCAHMW 1960), er gwaetha'r modd, mae'r rhain bellach wedi dyddio gan fod llawer mwy o wybodaeth wedi dod i law, yn bennaf drwy luniau o'r awyr. Fodd bynnag, nid yw ardaloedd eraill wedi eu cofnodi'n ddigonol, a gan nad oes unrhyw derfynau caeau wedi'u harchwilio'n archeolegol, maent wedi'u dyddio drwy gymharu'n unig.

Mae hefyd yn bosibl canfod tystiolaeth o'r cyfnod cynhanesyddol mewn rhai o'r caeau amgaeedig ar dir is, eto wedi'i nodweddu gan siâp cromlinog nodweddiadol y terfynau, gyda nifer ohonynt fel petaent yn ymestyn o'r llociau pen bryn crynion. Mae enghreifftiau o gwmpas Gadlys (ardal 36 – SH481580) ac o bosibl, Llety (ardal 36 – SH501609).

Nid oes unrhyw gyn erddi i'w gweld yn y dirwedd fodern, ac yn wir ni ddangosir unrhyw un ar y mapiau degwm perthnasol, hyd yn oed o gwmpas y ffermydd a'r tai sydd wedi cadw enwau trefgorddau canoloesol (fel Coedalun - SH475613, Castellmai - SH498605, Rhedynogfelen - SH465575, Treflan - SH535585 (gweler ardal 40), Dinlle - SH435565, Llanfaglan - gweler isod, Llanwnda - gweler isod, Baladeulyn - SH493530, Dolbedin - SH478521, Eithinog - SH455535, Bryn Cynan - SH440531, a Llanllyfni - SH470519 (anheddiad heddiw)).

Roedd llawer o'r tir o gwmpas ac i'r de i Gaernarfon (ardaloedd 1, 28, 29, 30 a 36) yn eiddo i'r Eglwys cyn Diddymu'r Mynachlogydd. Roedd tir yma'n perthyn i Abaty Aberconwy (Rhedynogfelen - SH465575: daeth y Sistersiaid yma gyntaf o Ystrad Fflur yn 1186), Bangor (Llanfaglan - SH470600, a Llanwnda - SH475585) a Chlynnog Fawr (Bodellog - heb ei leoli, Gored Gwyrfai - SH45610, eglwys Llanfaglan - SH455606 ac eglwys Llanwnda - heb ei lleoli). Roedd Clynnog wedi cael gwared â'i holl dir yn Arfon a Llŷn erbyn diwedd y bymthegfed ganrif, a daeth holl diroedd eraill a oedd yn perthyn i'r eglwys, heblaw am rai Esgob Bangor, yn eiddo i'r goron ar ôl Diddymu'r Mynachlogydd.

Ystadau'r Faenol a Glynllifon yw'r ddwy fwyaf yn yr ardal. Roedd patrwm y newid ar ystâd y Faenol, a ddatblygodd o Faenoriaeth y Goron, Dinorwig, yn sylweddol. Y mapiau cynharaf yw'r arolygon a gynhaliwyd yn 1777, sy'n fodd i ail-greu'n rhannol y ffordd y datblygodd arferion amaethyddol ar yr ystâd, ac mae arolygon manwl tua 1800, sy'n cynnwys llawer iawn o ddeunydd defnyddiol a diddorol iawn. Mae arolygon o'r ystâd yn 1869 yn dangos bod caeau rheolaidd iawn mewn rhai mannau a allai gynrychioli polisi bwriadol gan yr ystâd, tra bod waliau afreolaidd mewn mannau eraill sy'n cynrychioli anheddiad cyn y cyfnod modern. Mewn mannau eraill mae'n bosibl eu bod wedi'u sefydlu gan sgwatwyr a lechfeddiannodd dir comin cyn i'r senedd gau'r tiroedd yn 1808, deddf yr elwodd ystâd y Faenol arni'n sylweddol iawn (Archifdy Caernarfon, Vaynol 4194). Cafodd patrwm yr anheddau bach a sefydlwyd gan y chwarelwyr ar y tiroedd comin i raddau ei gadarnhau a'i barhau gan Thomas Assheton-Smith III rhag creu cymunedau cnewyllol o wŷr heb dir.

Mae nifer o ddisgrifiadau o gyflwr amaethyddiaeth (sy'n cynnwys cyfeiriadau penodol at natur y dirwedd) yn Sir Gaernarfon ar droad y ddeunawfed/bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn 1794, cyhoeddodd George Kay ei gyfrol General View of the Agriculture of Caernarvonshire (Kay, 1794). Gwnaeth Hyde Hall sylwadau manwl am gyflwr ffermio yn yr ardal ar ôl cyfnod o deithio rhwng 1808 a 1811 (Hyde Hall 1952) (sydd wedi'u dadansoddi'n feirniadol gan Deiniol Williams (Williams, 1941)), ac mae awdur cyfoes arall, y Parchedig Walter Davies yn cyfeirio'n benodol at Sir Gaernarfon yn ei adroddiad ar ogledd Cymru i'r Bwrdd Amaeth (Davies, 1810).

Mae'n ymddangos bod cysylltiad agos rhwng ansawdd ffermio a chyflwr y ffensys (term a oedd yn cynnwys waliau cerrig (Kay, 1794, 146). Roedd codi waliau cerrig, wrth gwrs, yn gryn fenter, fel y nodir yn y dyfyniad, o safbwynt eiddo ym mhlwyf Llanllyfni - 'a strong wall has been made at the joint expense of all these tenants between the Upper Ffrith and sheepwalk and the enclosed lands to keep off the sheep ' (Kay, 1794, 72).

Roedd problemau eraill wedi eu hachosi gan 'intermixture of holdings' (Roberts, 1973, 17), yn enwedig o safbwynt mynediad. Roedd y problemau hyn yn deillio o'r gorffennol oherwydd bod fferm yn cael ei rhannu pan fyddai'r deiliad prydles yn marw, ac roedd yr arfer hwn yn dal i achosi problemau niferus.

Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod yr iseldiroedd ar y naill law wedi eu gwella'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf (gan chwalu terfynau caeau), ond ar y llaw arall bod tir ymylol ac ucheldiroedd heb newid ar y cyfan (er bod rhai achosion o glirio tiroedd wedi arwain at golli nodweddion archeolegol a hanesyddol).

 

Olion archeolegol

Mae tystiolaeth o'r cyfnod cynhanesyddol cynnar yn gymharol brin yn yr ardal. Yr unig safle sydd wedi'i dyddio o'r cyfnod hwn yw wrn o ganol yr oes efydd y daethpwyd o hyd iddo ar waelod maen hir ym Mharc Glynllifon (RCAHMW, 1960, 198). Hefyd mae nifer o garneddau yn yr ardaloedd ymylol, fel ochr Dyffryn Nantlle (ardaloedd 37 a 42), sydd o bosibl yn dyddio o'r cyfnod hwn, ond ni chloddiwyd yr un ohonynt.

Soniwyd eisoes am yr aneddiadau cynhanesyddol helaeth a'r systemau caeau cysylltiedig dros ardaloedd mawr o lethrau isel y mynyddoedd, o gwmpas godre mynyddir agored, yn enwedig o gwmpas Rhostryfan a Rhosgadfan. Cloddiwyd aneddiadau yn Hafotty Wernlas a Llwyndu Bach a chafwyd hyd i ddeunydd o'r 2 il i'r 4 edd ganrif OC, ond gan nad oedd yn waith cloddio ‘modern' ni ellir derbyn y rhain fel cronoleg fanwl (RCAHMW, 1960). Mae'r ardal hon yn cynnwys rhai o'r olion cynhanesyddol mwyaf eang sydd wedi'u cadw'n dda yng Ngogledd Cymru.

Mae nifer o safleoedd anheddu tebyg, ond sydd bellach yn ‘ynysig' o fewn yr ardaloedd ymylol (er enghraifft, ardaloedd 25, 37 a 42) ac i raddau llai o fewn caeluniau sydd wedi'u gwella yn yr iseldiroedd (ardaloedd 34 a 36). Fel arfer mae'r safleoedd hyn yn cynnwys olion cylchoedd cytiau (cynhanesyddol) yng nghorneli caeau sydd wedi'u gwella (er enghraifft ger Saron, SH465592), ond erys cylchoedd cytiau unigol hefyd (er enghraifft ym Mhenbryn Mawr, SH462539), yn aml o dan olion diweddarach.

Nodweddir rhan isaf Llwyfandir Arfon gan fryngaer amlglawdd enfawr Dinas Dinlle (SH550653 - sydd hefyd yn gysylltiedig â'r Mabinogi), ac mae nifer o ‘gaerau crwn' llai ar fryniau eraill i mewn i'r tir, er enghraifft ym Mryngwydion (SH441535), Foel (SH450505), Gadlys (SH 481580) a Hen Gastell (SH471574). Gwaetha'r modd, ni chloddiwyd yr un o'r caerau bach hyn, ac er y tybir eu bod yn perthyn i'r cyfnod cynhanesyddol maent yn edrych yn hynod o debyg i safleoedd ‘rath' Gwyddelig, ond ni sefydlwyd y berthynas rhyngddynt a'r cylchoedd cytiau: mae cryn botensial i ddadansoddi hyn ymhellach.

Mae cae amgaeedig is-sgwâr (eto heb ei ddyddio) yn Ninas y Prif (SH460576), sydd ar dir isel ychydig yn uwch na'r Foryd, ac sydd wrth ymyl cyfres o gylchoedd cytiau.

Mae dosbarthiad safleoedd anheddu ‘cytiau hirion' a adawyd, sydd fel arfer yn perthyn i'r cyfnod canoloesol, yn cyd-fynd i raddau helaeth ag olion anheddu cynhanesyddol, h.y. mewn ardaloedd ymylol o gwmpas godre tir mynydd agored (ardaloedd 25, 37 a 42). Mae cyfres o safleoedd sydd wedi'u cadw'n dda, ynghyd ag amaethu grwn a rhych, a ddarganfuwyd yn ddiweddar ar hyd crib deheuol Dyffryn Nantlle (mewn ardal o gwmpas SH510520). Maent yn brinnach mewn caeau sydd wedi'u gwella, fel arfer yn nodweddion ynysig ac yn aml uwchben safleoedd cynharach (er enghraifft ym Mhenbryn Mawr - SH462539). Eto, ni archwiliwyd union ddyddiad a natur y safleoedd hyn.

Mae ffotograffiaeth ddiweddar o'r awyr wedi dechrau dangos y potensial i ddarganfod mwy o olion safleoedd (yn bennaf cylchoedd cytiau, sy'n aml yn gysylltiedig ag olion systemau caeau, o fewn y caeau sydd wedi'u gwella ar lwyfandir Arfon ychydig i'r gogledd i'r ardal hon. Gyda'r amodau cywir, mae'n ymddangos bod digonedd o safleoedd wedi'u claddu sy'n disgwyl i gael eu darganfod.

 

Anheddu

Trosolwg

Fel gydag ardaloedd eraill o Gymru, mae dylanwad teuluoedd tirfeddianwyr pwerus yn amlwg iawn yn y dirwedd. Y teulu mwyaf pwerus yn yr ardal astudiaeth oedd Wynniaid Boduan a Glynllifon, a gafodd y teitl Arglwyddi Newborough o 1787, a hynny, yn eironig ar adeg pan oedd eu dylanwad yn y sir yn dechrau gwanhau. Hefyd, roedd gan nifer o ystadau sylweddol yn Sir Gaernarfon, oedd â'u canolfannau y tu allan i ardal yr astudiaeth bresennol, dir yma hefyd, yn bennaf y Faenol, yn ogystal â nifer o ystadau mân fonedd fel teulu'r Garnons, Griffith o Gefnamlwch a Bryncir o'r Bryncir a'u holynwyr.

Mae deunydd archifol am yr ardal yn arbennig o dda, ac mae'n cynnwys nid yn unig yr archifau helaeth iawn sy'n perthyn i ystadau Newborough a'r Faenol ond hefyd bapurau ystadau llai a phapurau practisau cyfreithiol o bwys o ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn arbennig rhai Henry Rumsey Williams, cyfreithiwr Ceidwadol mwyaf blaenllaw Sir Gaernarfon, Owen Poole a John Evans o bractis Porth yr Aur. Ni ellir gor-ddweud pa mor bwysig yw'r tri chasgliad yma, gan eu bod yn cynnwys nid yn unig eu gwaith ymgynghorol achlysurol ar ran yr ystadau mwyaf, ond hefyd eu gwaith ar gyfer y tirfeddianwyr llai. Mewn nifer o achosion mae'r archifau hyn yn cynnwys mapiau o ddiwedd y ddeunawfed ganrif, cyn y cynnydd mawr yn y boblogaeth a'r newid cynyddol yn y dirwedd ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ogystal â dogfennau o'r cyfnod canoloesol.

Ychydig iawn o'r ffermydd a gofnodwyd gan fapiau ystadau neu'r degwm yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd yn ffermydd mawr. Prin fod yr un ohonynt yn fwy na hanner can erw, ac eraill yn ddim mwy nag ugain erw. Yn achos y rhai a oedd yn rhan o ystadau mawr, weithiau ceir dylanwad pensaernïol ‘dieithr' yn nyluniad y ffermdy ( e.e. Penbryn Mawr), yn ogystal â iard fferm yn ymyl y rhai mwyaf ohonynt, ac olion anheddiad cynharach weithiau.

Un math penodol o anheddiad, sy'n arbennig o amlwg ar Foel Tryfan (ardal 14), yn Nebo (ardal 15) ac uwchben Waunfawr (ardal 16), yw'r bwthyn bach gyda chae petryal bach amgaeedig neu'r parc, naill ai ar ei ben ei hun neu fel rhan o batrwm ehangach o ddaliadau bach. Mae'r rhain yn adlewyrchu'r twf cynyddol am lafur yn y diwydiant llechi a'r pwysau o ran poblogaeth a welwyd ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Credir bod y rhai ar Foel Tryfan wedi'u codi o 1798 ymlaen, ac ar y cyfan roedd patrwm y caeau amgaeedig wedi ei sefydlu erbyn 1888 pan wnaed y mapiau Arolwg Ordnans 25 modfedd cyntaf. Mae'r wybodaeth anghyflawn ar y mapiau ar gyfer blynyddoedd cynharach yn awgrymu bod caeau amgaeedig wedi'u hen ddatblygu erbyn y 1820au, a'u bod yn fwy na thebyg y maint y gwelir hwy heddiw yn y 1860au. Mae'r rhai yn Nebo ychydig yn ddiweddarach na'r rhai ar Foel Tryfan (Chapman 1992), tra credir bod y rhai yn Waunfawr yn cynrychioli patrwm o lechfeddiannu o'r 1760au (Hobley 1921). Tra bod nifer o'r anheddau hyn yn groglofftydd heb eu gwella, weithiau gydag estyniad ochr, mae'r ardaloedd hyn yn nodedig am yr amrywiaeth o arddulliau tai sydd ynddynt. O'r 1930au ymlaen, wrth i fân anheddau uno, gadawyd yr anheddau cysylltiedig a chafodd eraill eu dymchwel i godi tai mwy modern.

Aneddiadau ynysig

Mewn nifer o fannau yn yr ardal astudiaeth mae ffermydd ynysig, fel ym mhen uchaf Dyffryn Nantlle (ardaloedd 11 a 42 yn bennaf), lle mae ffermydd y Ffridd, Gelli Ffrydiau, Talmignedd a Drws y Coed wedi cadw'r terfynau sydd i'w gweld at fapiau ystâd o ddiwedd y ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, er bod yr anheddau eu hunain gan mwyaf yn ffermdai o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Aneddiadau gwasgaredig

Yn y rhan fwyaf o'r ardal astudiaeth, aneddiadau gwasgaredig, boed yn ffermydd neu dai o statws uchel, sydd i'w gweld. Mae'r rhain yn cynnwys nifer o dai sylweddol yn perthyn i berchnogion tir.

Y pwysicaf o'r rhain, yn nhermau gwleidyddol ac economaidd, oedd Glynllifon (ardal 10), lle cafodd tŷ o tua 1600 ei newid am dŷ mwy modern tua 1761, wedi'i ddylunio gan Syr John Wynne ei hun. Mae copi o gynllun o'r ystâd fel yr oedd yn y cyfnod hwn ar gael yn Archifdy Caernarfon. Mae rhan o'r adeilad hwn yn dal yno'n rhan o'r tŷ diweddarach a godwyd rhwng 1836 a 1848 yn arddull y Dadeni; cafodd hwn, ynghyd â stabl 1849 (RCAHMW 1960, 186) a gweithdai ac adeiladau eraill yr ystâd sydd ychydig yn ddiweddarach, eu cymryd drosodd gan Goleg Amaethyddol y Sir ar ôl y rhyfel, ond mae dyfodol yr ystâd gyfan yn ansicr ar hyn o bryd. Cafodd yr ystâd ei sefydlu yn yr 1830au, ac arweiniodd hynny at ddymchwel nifer o ffermydd bach.

Rhai o'r tai llai a oedd yn eiddo i dirfeddianwyr oedd Parkia (Parciau - sydd bellach wedi ei ddymchwel), Plas Brereton (y ddau yn ardal 26, ger Caernarfon), a Dinas (ardal 36), adeiladau sy'n nodweddiadol o ddiwedd y ddeunawfed ganrif neu'r bedwaredd ganrif ar ddeg lle gwelir arddull pensaernïol dieithr. Mae dylanwad dieithr yn amlwg i raddau llai yn eu ffermydd tenantiaeth mwy.

Mae aneddiadau mwy dwys gyda mân ddaliadau i'w gweld uwchben hen wal y mynydd ar Foel Tryfan (ardal 14), tua 250m OD, fel arfer croglofftydd yw'r rhain, weithiau gydag estyniadau ochr a beudy efallai. Sonnir am y pwysau cymdeithasol ac economaidd a arweiniodd at godi'r rhain uchod,. Mewn nifer o leoliadau, adeiladwyd terasau byr dwy ystafell i lawr a dwy ystafell i fyny, sydd o bosibl yn cynrychioli menter hapfuddsoddol gan fythynwyr heb lawer o gyfalaf (gweler Tal-y-sarn - ardal 7).

Aneddiadau pentref cnewyllol

Mae pentrefi Llandwrog (ardal 5), Dinas-Llanwnda (ardal 3) a Llanllyfni (ardal 12) wedi'u datblygu o amgylch eglwysi sydd yn fwy na thebyg wedi'u codi ar sylfaen Cristnogol cynnar (mae bob un wedi'i chysegru i Sant Celtaidd). Fodd bynnag, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y datblygodd pob un o'r tri phentref ar eu ffurf bresennol, Llandwrog fel pentref ystâd o dan nawdd Arglwyddi Newborough o Lynllifon, gyda'i eglwys sylweddol, a ddyluniwyd gan Kennedy, a'i phensaernïaeth sydd dan ddylanwad amlwg arddull yr ystâd, Dinas-Llanwnda oherwydd ei leoliad ar y ffordd- ac yn ddiweddarach fel cyffordd rheilffordd, a Llanllyfni fel pentref chwarelwyr yn Nyffryn Nantlle.

Sefydlwyd yr aneddiadau cnewyllol yn yr ardal astudiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg o ganlyniad i ddatblygiad y diwydiant llechi. Mae nifer o wahanol enghreifftiau i'w gweld yn ardal Nantlle. Yn ogystal â Llanllyfni, lle mae tai o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ymestyn fel datblygiad hirgul o'r craidd canoloesol, mae aneddiadau'n cynnwys Pen-y-groes (ardal 6), gefail ar gyffordd yn wreiddiol, a ddatblygwyd fel pentref gan ystâd Bryncir o tua 1820au ymlaen (papurau H.Rumsey Williams LlGC), Tal-y-sarn (ardal 7), a godwyd gan adeiladwyr hapfasnachol yn y 1850au a'r 60au ar diroedd fferm Coedmadog, a Nantlle (ardal 13), yn rhannol datblygiad ad-hoc o'r 1850au, yn rhannol ‘pentref cwmni' a godwyd o'r 1860 ymlaen gan reolwyr Undodaidd chwarel Pen yr Orsedd oedd â chydwybod gymdeithasol. Yn Nrws y Coed (ardal 11) mae olion pentref mwynwyr, sy'n dyddio efallai o tua 1830 (Archifdy Caernarfon, Papurau'r Faenol 6871), ac mae pobl yn dal i fyw yn nifer o'r tai, er bod eraill heb do ac wedi dadfeilio. Mae'r aneddiadau amrywiol hyn yn dangos yr amrywiaeth cnewyllol a'r gwahanol dai mewn cymunedau'n gysylltiedig â diwydiant cloddio ac isadeiledd y gymuned ar ffurf capeli, siopau, banciau a swyddfeydd post.

Ardaloedd eraill yn yr ardal sydd wedi datblygu'n benodol o gwmpas chwareli neu fwyngloddiau yw Waunfawr (ardal 16), Rhostryfan, Rhosgadfan (ardal 22), Fron (ardal 21) a Carmel (ardal 24). Daeth y rhain i fodoli o ganlyniad i lechfeddiannu tir comin, ac maent yn cynrychioli clystyrau o dai moel (Tai heb dir) mewn ardaloedd sydd fel arall wedi'u nodweddu gan fân ddaliadau (Gilbert Williams 1983). Mewn nifer o achosion mae'r anheddau brodorol gwreiddiol o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi goroesi, yn gymysg â strwythurau diweddarach; yn achos Waunfawr, nodweddir patrwm y pentref gan ddatblygiad hirgul y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sy'n rhannol yn cuddio'r gymuned ad-hoc ac anhrefnus a'i rhagflaenodd ac sydd i'w weld i fyny'r llethr o'r ffordd.

Mae'n ymddangos bod Groeslon (ardal 4) wedi datblygu o amgylch gefail ar groesffordd y brif ffordd dyrpeg o'r gogledd i'r de a'r ffyrdd ymyl i dir comin Llandwrog a Moel Tryfan. Rhyddhawyd tir yma ar gyfer adeiladu, o dan fesurau rheoli ansawdd llym, gan Arglwydd Newborough o 1870 ymlaen (Archifdy Caernarfon: XD2/6656, 6657, 6659).

Mae un gymuned gnewyllol wedi diflannu fwy neu lai. Roedd Cilfach Foryd (ardal 31 yn bennaf), yn ogystal â bod yn fan glanio i gynnyrch amaethyddol a chalch ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, hefyd wedi cael ei defnyddio ers cof i allforio llechi o'r Cilgwyn. Er mai dim ond ar gyfer llongau â dyfnder bas yr oedd yn addas, daliwyd i'w defnyddio nes agorwyd Rheilffordd Nantlle yn 1828. Er ei bod yn gymharol anghyfleus o'i chymharu â Chaernarfon, roedd y ffaith nad oedd tollau ar hyd y ffyrdd oedd yn arwain yno'n golygu nad oedd rhaid talu wrth dollbyrth Dolydd a Phont Seiont. Fodd bynnag, nid oes unrhyw olion o'r tai a'r tafarndai a safai gynt ar hyd y lan, a'r unig dystiolaeth a erys o'i gyn swyddogaeth yw'r odyn (PCB: Porth yr Aur 1937).

Aneddiadau trefol cnewyllol

Yr unig anheddiad cnewyllol cyn y cyfnod modern yn yr ardal astudiaeth yw Caernarfon (ardal 01), ‘y dre' yn draddodiadol, gan mai Bangor yw'r ‘ddinas'. Mae'n safle i gaer Rufeinig, yna'n ddiweddarach i lys Cymreig a'i anheddiad cysylltiedig. Yn y dref heddiw mae'n dal yn bosibl gweld patrwm canoloesol y strydoedd o fewn muriau'r dref ac fe'i nodweddir gan gastell Edward I a'r muriau. Mae mapiau cynnar, fel map Speed yn 1612, yn dangos y dref yn dechrau datblygu y tu hwnt i'w muriau canoloesol, proses a gyflymodd ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda'r cynnydd mewn allforion llechi, a chopr i ryw raddau. Mae rhan fwyaf y stoc tai a erys yn perthyn i'r cyfnod hwn, er bod rhai tai tref wedi goroesi o fewn muriau'r dref, mewn rhai achosion maent mewn cyflwr truenus.

Math o adeiladau

Er bod y rhan fwyaf o'r stoc tai sydd wedi goroesi yn yr ardal astudiaeth yn adlewyrchu'r twf yn y diwydiant llechi rhwng 1800 a 1900, mae'r mathau o dai'n amrywio'n fawr. Yn nhermau morffoleg anheddau unigol, maent yn amrywio o dai dwy ystafell ym mhentref mwyngloddwyr Drws y Coed (ardal 11), yn groglofftydd (ardal 14), i fathau gyda dwy ystafell i lawr a dwy ystafell i fyny ac i anheddau mawr gyda ffryntiad dwbl sydd, er hynny, wedi cadw rhai nodweddion brodorol. Gellir gweld enghreifftiau o bob un o'r rhain fel anheddau sengl neu'n rhan o res, a honno'n rhes fer ar y cyfan. Mae un math penodol sy'n arbennig o gyffredin ar Foel Tryfan (ardal 14) wedi'i adeiladu ar batrwm croglofft traddodiadol ond gyda ffenestri llawer mwy. Efallai bod y rhain wedi eu codi gan un adeiladwr penodol, ond mae'n bosibl bod maint y ffenestri, yn arbennig o'u cymharu â ffenestri llai mewn anheddau cynharach ar dir a lechfeddiannwyd yn awgrymu gostyngiad ym mhris tanwydd, a newid i ddefnyddio glo a gludid i'r ardal ar y rheilffordd yn hytrach na mawn a gâi ei godi a'i gludo'n lleol.

Nodwyd nifer o fathau o dai afreolaidd. Mae'n ymddangos bod tŷ uncorn gyda tho pyramid yn ffefryn gan ystâd Glynllifon yn y 1820au; yn ôl traddodiad lleol mae cysylltiad â chwaeth bensaernïol Maria Stella Petronilla, Arglwyddes Newborough, a nodwyd enghreifftiau yn Llandwrog (ardal 5) yn ogystal â mewn lleoliadau eraill ar yr ystâd y tu allan i'r ardal astudiaeth bresennol. Mae enghraifft arall i'w gweld yn Rhosgadfan (ardal 22), sy'n enghraifft brin o ddyluniad wedi'i ysbrydoli o gyfnod y teuluoedd bonedd ar dir comin mynyddig, ac sy'n sefyll allan yng nghanol terasau o arddull brodorol. Cyfeirir at deras tri llawr uchel ym Mhen-y-groes fel tai American, ac mae'n bosibl eu bod wedi'u codi gan adeiladwr a ymfudodd yma, ac a benderfynodd ddychwelyd at ei wreiddiau, neu o leiaf a ysbrydolwyd ganddo. Mae patrymau ymfudwyr yn amlwg mewn enwau tai fel ‘Spokane' (Pen-y-groes) a ‘Dakota' (Llanberis).

Mae dyfodiad y system reilffordd genedlaethol hefyd yn cael ei adlewyrchu'n glir yn y deunyddiau adeiladu. Yn gyffredinol brics melyn a rhai coch hefyd a ddefnyddir mewn adeiladau ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae llai ohonynt i'w gweld mewn tai sydd fwy na milltir neu fwy o'r orsaf agosaf. Mae cerrig o'r caeau'n gyffredin iawn, er bod rhai enghreifftiau o ddefnyddio cerrig breision (blociau gwastraff) i adeiladu siediau a thai allan, ac ambell annedd. Yng Nghaernarfon (ardal 1) roedd defnyddio'r calchfaen lleol yn gyffredinol. Roedd stwco ar y rhan fwyaf o'r adeiladau yn y pentrefi chwarelyddol a sefydlwyd, neu a ehangodd yn gyflym, yn y 1860au, ac mae'n amlwg mai'r rheswm am hyn yw ansawdd gwael y cerrig oedd ar gael erbyn hynny, yn ogystal â'r pwysau i gwblhau adeiladau'n rhad.

Yn gyffredinol llechen laslwyd borffor Arfon a ddefnyddir ar gyfer toi, gyda'r llechi mwy a brasach yn nodweddu adeiladau o'r cyfnod cyn yr 1840au. Prin iawn yw toeau llechi patrymog.

Mae gwaith addurnol ar y tai â nodweddion pensaernïol amlwg a godwyd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyffredin iawn. Mae'r gwaith haearn bwrw, ar ffurf canopïau, ffensys a giatiau yn aml yn gywrain iawn, wedi eu gwneud gan of lleol neu yng ngwaith haearn Brunswick Ironworks yng Nghaernarfon (ardal 1).

Yn yr ardal astudiaeth, efallai y gellir diffinio'r ‘brodorol traddodiadol' fel anheddau sy'n ddatblygiad o'r cysyniad canoloesol o dŷ fel uned un gell, drwy ei rhannu'n ddwy gell, fel yn Nrws y Coed ( gweler Jeremy Lowe), yna i ddwy gell, gydag un yn cael ei his-rannu'n llorweddol gan groglofft. Nodweddir hyn gan y defnydd a wnaed ganddynt o ddeunyddiau lleol. Yn ei ffurf bur, mae pob tŷ'n uned unigol, ar wahân.

Yn y traddodiad ‘diwydiannol', fodd bynnag, ystyrir yr annedd fel rhan o grŵp mwy a gynlluniwyd, yn gyffredinol fel teras neu res (er bod blociau o fflatiau i'w cael mewn mannau eraill yng Nghymru o ddiwedd y ddeunawfed ganrif), gan ddefnyddio'r lle cyfyngedig oedd ar gael drwy ddatblygu ar ddau neu dri llawr, a hefyd drwy wneud defnydd o'r deunyddiau adeiladu masnachol nad oedd ar gael yn lleol. Fodd bynnag, ychydig iawn o enghreifftiau o'r math hwn sydd yn yr ardal astudiaeth hon.

Yn y traddodiad ‘brodorol diwydiannol', fodd bynnag, mae'r annedd yn cyfuno elfennau o'r ddau uchod. Yng Ngwynedd fel arfer yr elfen frodorol yw'r cerrig a ddefnyddir fel y prif ddeunydd adeiladu, tra mai'r elfen ddiwydiannol yw'r uned dwy ystafell i lawr a dwy ystafell i fyny. Efallai mai'r newid o'r math brodorol llwyr i'r math hwn o adeilad yw'r cam pwysicaf yn y traddodiad adeiladu lleol, mewn mannau eraill yng Ngwynedd (er enghraifft Cwm Penmachno) mae rhai camau diddorol yn ystod y broses. Yr adeilad ‘diwydiannol' penodol cyntaf yn ardal Nantlle-Caemarfon mae'n debyg yw Treddafydd ym Mhen-y-groes (1837- ardal 6). Fodd bynnag, mae yna hefyd enghreifftiau diddorol o ddatblygiad traddodiadau adeiladu lleol, fel y dehongliadau diwydiannol o'r mathau brodorol a welir yn y bythynnod sydd wrth ymyl, ond ar ongl sgwâr, i'r ffordd o Ros Isa' i Rosgadfan (ardal 22).

Un categori terfynol y gellir ei nodi yw'r tai ‘brodorol ystâd', gydag anheddau'n ail-ddehongli nodweddion brodorol mewn ffordd ddieithr, arddull y gellid ei ddisgrifio fel y bwthyn ornée. Mae'n debyg mai'r enghraifft orau yn yr ardal hon yw'r uncorn, boed mewn rhesi fel yn Llandwrog (ardal 5), neu'n dai ar eu pennau eu hunain fel a geir yn Rhosgadfan (ardal 22 - adeilad anarferol a thrawiadol iawn). Eto, nodweddir y rhain gan ddefnydd o ddeunyddiau lleol a/neu ddefnydd gofalus o ddeunyddiau a gynhyrchwyd yn fasnachol, a manylion bwriadol bictwresg. 

Tystiolaeth o enwau lleoedd

Nid oes llawer iawn o astudiaethau wedi'u cyhoeddi sy'n dadansoddi tystiolaeth ar gyfer enwau lleoedd yn yr ardal astudiaeth, er bod cyfrol Melville Richards Enwau Tir a Gwlad (Richards 1998) yn ffynhonnell werthfawr, a chyfres Ar Draws Gwlad (Pierce a Roberts 1997) sy'n cynnwys nifer o enwau lleoedd yn Arfon.

 

Diwydiannol

Prif ddiwydiant yr ardal astudiaeth oedd y chwareli llechi. Mae'r diwydiant bellach fwy neu lai wedi dod i ben. Ardaloedd Nantlle (ardal 9) a Moel Tryfan (ardal 14) gyda'i gilydd oedd y bedwaredd ardal fwyaf cynhyrchiol o ran chwareli llechi yng Nghymru, ar ôl ardaloedd Ogwen a Pheris ardaloedd a Blaenau Ffestiniog. Gan eu bod yn eiddo i nifer o wahanol berchnogion - y goron, mân deuluoedd bonedd neu bobl gyfoethocach fel Arglwydd Dinorben - roedd yn rhaid gweithio'r gwythiennau llechi mewn nifer o wahanol chwareli oedd yn agos at ei gilydd, ac o ganlyniad ni chyrhaeddodd yr ardal ei photensial llawn. Adlewyrchir y ffaith hon yn economi deuol y chwarel a'r mân ddaliadau a barhaodd tan yr ugeinfed ganrif, ac sy'n dal heb ddod i ben yn llwyr, ac yng nghymeriad brodorol amlwg y stoc tai a adeiladodd y chwarelwyr iddynt eu hunain.

Yn ardal Nantlle (ardaloedd 9, 13 and 14), erbyn dechrau'r ddeunawfed ganrif, roedd gangiau o chwarelwyr yn gweithio'r creigiau ar yr ucheldir a chomin Cilgwyn, yn ddi-rent ac yn ddi-feistr. Cyn diwedd y ganrif roedd chwareli hefyd wedi agor ar lawr y dyffryn (ardal 9) lle'r oedd ansawdd rhagorol y graig yn golygu bod elw i'w wneud er gwaethaf y broblem i bwmpio a chodi'r graig o'r pyllau.

Mae'r wybodaeth helaeth ar y mapiau ar gyfer yr ardal hon rhwng 1813 a 1816 (Archifdy Caernarfon, Glynllifon 8356, LlGC: arolwg ystâd Garnons, Llysdulas PCB) yn datgelu bod nifer o chwareli eisoes wedi eu datblygu, ochr yn ochr â rhai llai a dyfodd yn ddiweddarach i fod yn chwareli o gryn faint. Erbyn y cyfnod hwn yn lle'r lefelau cloddio gwreiddiol ar ochrau'r bryniau neu'r tyllau bas yn nolydd yr afon, roedd pyllau dwfn wedi'u cloddio yn yr ardal, a defnyddiai'r rhain beiriannau pwmpio a rhafflwybrau i gludo'r llechi. Mae'r incleins cadwyn a ddefnyddiwyd (o tua 1842) a'r rhaffyrdd blondin (o 1898) yn nodweddion archaeoleg ddiwydiannol arbennig yn yr ardal, yn cynnwys y bastiynau llechi enfawr a ddefnyddiwyd i waredu'r gwastraff. Mae'r defnydd cynnar a wnaed (o 1868 ymlaen) o felinau a'r dull dwys tebyg i ffatri o brosesu'r llechi, o'i gymharu ag ardaloedd y chwareli eraill, hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn yr archaeoleg sydd wedi goroesi (Archifdy Caernarfon, Pen yr Orsedd 375). Un nodwedd o'r diwydiant yn Nyffryn Nantlle yw bod y chwareli'n dibynnu ar ddŵr i bweru'r diwydiant, a hynny drwy system eang o ffrydiau o Lyn Ffynnhonau, yn dyddio o 1816. Mae'r diwydiant wedi dod i ben i bob pwrpas yn Nantlle erbyn heddiw.

Mae un o'r melinau llechi annibynnol a ffynnai gynt yn yr ardaloedd, sef gwaith llechi Inigo Jones, yn dal i gynhyrchu llechi, gan brosesu blociau sy'n cael eu cludo yno gan loriau o Chwarel Aberllefenni yng Nghorris. Mae dwy felin llechi ysgrifennu ar lannau'r Llyfni wedi eu haddasu'n anheddau; mae un rhwng Pen-y-groes a Llanllyfni, a'r llall ym Mhont y Cim.

Cloddiwyd mwynau ar raddfa eang ym mhen uchaf Dyffryn Nantlle, ar ffermydd Drws y Coed, Simdde Dylluan, Tal Mignedd a Benallt (ardal 11), lle'r oedd copr, rhywfaint o blwm ac ychydig o aur. Mae tystiolaeth o fwyngloddio yn y cyfnod canoloesol yn amlwg yn y mynedfeydd i'r twneli culion coffin ar rannau uchaf Drws y Coed. Cloddiwyd y mwynglawdd yn helaeth o 1768 hyd at ddiwedd y ddeunawfed ganrif (Archifdy Caernarfon: Vaynol 5047), cyfnod o weithio sy'n amlwg o'r mynedfeydd i'r lefelau, y llochesi a'r cerrig engan i falu'r cerrig mwyn ar Fron Felen, ac yng nghamau cynnar mecaneiddio. Ailddechreuwyd y mwyngloddio yn y cyfnod Fictoraidd, a pharhaodd mor ddiweddar â 1920 yn Simdde Dylluan a Drws y Coed ac mor ddiweddar â 1931 yn fferm Benallt (Bick 1985, 33-50). Mae'r mwynglawdd gwaith haearn yn y Garreg Fawr yn nodwedd arbennig o'r dirwedd, gyda'i chyfres o agoriadau'n dilyn y wythïen i fyny ochr y bryn a'r system inclein.

Mae'r gwaith brics yng Nghaernarfon (ardal 28) yn dal i weithio, ac mae wedi tyfu'n gryn faint. Caiff clai ei gloddio o dwll ar y safle, ac mae'r holl broses o weithgynhyrchu brics yn digwydd mewn un adeilad mawr. Mae'r odynnau Hoffman a gysylltwyd â'r gwaith cynharach wedi cael eu dymchwel.

Cadarnhawyd bod melin flawd yn cael ei phweru gan ddŵr o 1283, a sefydlwyd melinau brenhinol ar nant Cadnant yng Nghaernarfon, er ei bod yn bosibl bod melin Sistersaidd yno cyn hynny, o bosibl yn

Felinwnda (ardal 36) (Williams 1990, 36). Mewn papurau cyfreithiol cofnodwyd bod melinau blawd wedi eu codi ar yr afonydd a lifai drwy Gaernarfon ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, pan orfodwyd teulu Puleston i amddiffyn eu monopoli (Taylor 1986, 80; Jones 1939, 49, 65-6; Lewis a Davies 1954, 275, 284). Mae safleoedd y melinau blawd, ac mewn sawl achos yr adeiladau cysylltiedig, wedi goroesi mewn nifer o leoliadau. Mae'r strwythurau hyn gan mwyaf yn perthyn i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn amrywio o ran maint o fod yn rhai cymharol fach fel ym Melin Nantlle i Felin Llwyn y Gwalch, gyda'i tho isel arbennig o fath cyfnod y rhaglywiaeth, i'r melinau sylweddol siâp bocs, yn y Bontnewydd a meithrinfa Seiont (ardal 30 - gweler y llun).

Ychydig o olion a erys o felinau tecstilau a phandai'r ardal, er bod cryn nifer o safleoedd wedi eu cofnodi. Mae modd canfod lle'r oedd nifer o strwythurau ac mae safleoedd y cyrsiau dŵr wedi goroesi.

 

Cyfathrebu

Cymharol ychydig o dystiolaeth sydd ar gael o lwybrau trafnidiaeth cyn y cyfnod modern. Roedd y ffyrdd Rhufeinig o Gaerhun i Segontium (Caernarfon), ac o Segontium i Ben Llystyn (Bryncir) yn mynd drwy'r ardal, ac mae'n rhesymol tybio bod y ffordd olaf yma'n rhannol ar yr un llwybr yn gyffredinol â'r A487 (Waddelove 1999, 223-45). Mae mapiau o ddiwedd y ddeunawfed ganrif (Archifdy Caernarfon: XD2A/1643) yn dangos hen lwybr tybiedig o Gaernarfon i Benmorfa (lle darganfuwyd baddondy Rhufeinig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg), gyda ffyrdd llai'n fforchio ohoni i gyfeiriad Clynnog a Rhyd Ddu. Gwyddys bod y ffordd hon wedi'i hadlinio a'i uwchraddio'n sylweddol gan Huddart o Fryncir a Newborough o Lynllifon yn y 1820au, a chynhaliwyd peth gwaith arolwg gan Provis, cynorthwyydd Telford (Archifdy Caernarfon XD2A/1646). Cafodd y ffordd hon, a'r ffordd rhwng Caernarfon a Beddgelert eu huwchraddio tua 1806 (Archifdy Caernarfon X/Plans/RD/1), ac erys llawer o'r gwaith peirianyddol a wnaed ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar ffurf pontydd ac argloddiau, yn ogystal â pheth isadeiledd cysylltiedig, fel tafarndai.

Mae'r ffyrdd a adeiladwyd yn fwy diweddar yn cynnwys ffordd ddargyfeirio Nantlle, a adeiladwyd yn y 1920au o ganlyniad i gwymp yr hen ffordd dyrpeg i Chwarel Dorothea, a ffordd osgoi Llanllyfni, y dechreuwyd ei hadeiladu yn hydref 1999.

Mae Rheilffordd Nantlle, a adeiladwyd rhwng 1825 a 1828 o chwareli Nantlle i'r môr yng Nghaernarfon sy'n seiliedig ar gynlluniau a wnaed gan Provis a'r Stephensons, wedi goroesi fel nodwedd o'r dirwedd bron yr holl ffordd, er bod rhai o'i hasedau dan fygythiad yn sgil ffyrdd newydd (Gwyn 1999). Mae cynlluniau ffyrdd yn cael effaith niweidiol ar ei olynydd, y rheilffordd rhwng Caernarfon ac Afonwen. Ar hyn o bryd (2001) mae cledrau Rheilffordd Ucheldir Cymru'n cael eu hailosod gan sefydliad sy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd treftadaeth y llwybr, er y bu'n rhaid addasu rhai o'r pontydd er mwyn gwneud lle i drenau sy'n fwy na'r rhai gwreiddiol. Un rhan o'r llwybr na fwriedir ei ail-wneud yw'r rhan i chwarel Bryngwyn a'r is-rannau i chwarel Moel Tryfan, sy'n cyfuno incleins rhaffyrdd a throadau troellog. Dangosir datblygiad technoleg rheilffordd cledrau cul wrth iddi dyfu o systemau hybrid ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg i fath a addaswyd ar gyfer anghenion yr Ymerodraeth Brydeinig yn Affrica ac India (Martin 2000).

Mae Caernarfon (ardal 1) hefyd wedi cadw tirwedd arbennig y doc o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn cynnwys safleoedd y gwaith peirianyddol, sy'n dal i weithio yn achos gwaith haearn Brunswick Ironworks, swyddfa'r porthladd a'r warysau.

Nodweddir cludiant awyr gan y maes awyr yn Llandwrog (ardal 46), sydd bellach yn cael ei farchnata fel Maes Awyr Caernarfon, safle a ddatblygwyd yn helaeth gan yr Awyrlu Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd o 1940 ymlaen (hwn oedd y maes awyr mwyaf yng Nghymru), ac yn 1946 daeth yn lle storio arfau cemegol (loan 1991, 79-105). Mae nifer o'r adeiladau a'r rhedfeydd wedi goroesi; mae un o'r rhain wedi ei droi'n stiwdios Recordiau Sain .

Math arall o system gyfathrebu sydd wedi gadael ei hôl ar yr ardal yw gorsaf ddiwifr arloesol Marconi rhwng Waunfawr a Llanrug (ardal 42).

 

Amddiffyn

Mae bryngaer enfawr Dinas Dinlle (ardal 19) yn nodweddu'r ardal isel i'r de i'r Foryd, ac mae'n debyg ei bod yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar. Yn ogystal â hon, mae nifer o fryngaerau bach amgaeedig yn yr ardal hon (gweler uchod, paragraff 8.2.4).

Caernarfon ei hun (ardal 1) yw'r safle amddiffynnol mwyaf amlwg yn yr ardal, gyda'r castell Edwardaidd a muriau'r dref a adeiladwyd yn fwriadol ar batrwm muriau Theodosiws yng Nghaergystennin ond hefyd o bosibl y gaer yn aber yr Afon Seiont a ddisgrifir ym ‘Mreuddwyd Macsen Wledig'. Mae'r castell yn safle Treftadaeth Byd.

Ceir safleoedd amddiffynnol eraill o'r cyfnod modern yn yr ardal. Yn yr ystâd yng Nglynllifon mae Fort Williamsburg (ardal 10), a adeiladwyd tua 1761 gydag ychwanegiadau yn 1773, safle amgaeedig hirsgwar wedi'i siapio i ffurfio bastiynau ar ongl gyda gatws addurnol. Ffug adeilad hardd oedd hwn, a chododd Arglwydd Newborough ei gatrawd ei hun hyd yn oed i'w warchod.

Y safle amddiffynnol arall a gysylltir â Glynllifon yw Fort Belan (ardal 46) ym mhen gorllewinol yr Afon Menai. Credir ei fod wedi ei adeiladu yn ystod rhyfel y Chwyldro yn America, ond amddiffynnwyd hwn hefyd yn barod i wrthsefyll unrhyw ymosodiad yn ystod rhyfel Napolean. Ychwanegwyd doc yn 1824. Mae'r gaer ei hun yn strwythur hirsgwar sy'n wynebu'r gogledd-de gydag ymwthiadau ar yr ochrau byrraf, ac mae'n cynnwys peiriannau morol a magnelau cynnar. Hefyd sefydlwyd magnelfa gynnau y tu allan i furiau tref Caernarfon (ardal 1) rhwng Porth yr Aur a Thŵr yr Eryr yn ystod y cyfnod Napoleonaidd.

Sefydlwyd Maes Awyr Caernarfon fel RAF Llandwrog, maes awyr hyfforddi, ym mis Gorffennaf 1941, a hwn oedd y maes awyr mwyaf yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd (Sloan 1991). Adeiladwyd safleoedd gynnau ychwanegol ar lethrau isaf ochr gogleddol Dinas Dinlle. Erbyn hyn mae'r maes awyr yn cael ei ddefnyddio gan y cyhoedd.

 

Llyfryddiaeth

Bick, D., 1985, The Old Copper Mines of Snowdonia (Newent)

Chapman, J., 1992, A Guide to the Parliamentary Enclosures in Wales

Davies, W., 1810. General View of the Agriculture and Domestic Economy of North Wales , The Board of Agriculture and Internal Improvement, Llundain

Gilbert Williams, W., 1983, Moel Tryfan i'r Traeth (Pen-y-groes)

Gwyn, D.Rh., 1999, ‘Transitional Technology: the Nantlle Railway', Proceedings of the Durham International Early Railways Conference 1998 (Beamish).

Hobley, W., 1921, Hanes Methodistiaeth Arfon

Hyde Hall, E., 1952. A Description of Caernarvonshire (1809-1811), Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Caernarfon

Jones, E.G., 1939, Exchequer Proceedings (Equity) Concerning Wales (Cardiff)

Kay, G., 1794. General View of the Agriculture of North Wales , Great Britain Board of Agriculture and Internal Trade, Caeredin

Lewis, E. A. and Davies, J.C., 1954, Records of the Court of Augmentations Relating to Wales and Monmouthshire (Caerdydd).

Martin, T., 2000, Halfway to Heaven: Darjeeling and Its Remarkable Railway

Pierce, G.O. and Roberts, T., 1997, H.W.Owen, Ar Draws Gwlad: Ysgrifau ar Enwau Lleoedd cyf. 1 (Llanrwst).

Richards, M., 1998, Enwau Tir a Gwlad, Caernarfon

Roberts, R. O. (ed), 1973. Farming in Caernarvonshire around 1800 , Archifdy Caernarfon, Caernarfon

Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales (RCAHMW) 1960. Inventory of Caernarvonshire: Centre , cyfrol II, HMSO, Caerdydd

Sloan, R., 1991, Wings of War over Gwynedd (Llanrwst)

Taylor, A.J., 1986, The Welsh Castles of Edward I

Waddelove, E., 1999, The Roman Roads of North Wales: Recent Discoveries (cyhoeddwyd yn breifat)

Williams, D., 1941, An Eye witness account of agrarian conditions in Caernarvonshire during the Napoleonic era, Tafodion Hanesyddol Sir Gaernarfon, cyfrol 3

Williams, D., 1990, Atlas of Cistercian Lands (Caerdydd)

 

 

 

Yn ôl at map ardal Caernarfon a Nantlle

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol