English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol - Themâu Hanesyddol Y Bala a Llyn Tegid

Themâu Hanesyddol

Cyflwyniad


Penucha'r Llan

Bwriad yr adrannau ar gyfnodau penodol sy'n dilyn ydy amlinellu cefndir cyffredinol datblygiad y dirwedd dros amser, yn hytrach na disgrifio nodweddion ffisegol yr hyn sydd i'w weld heddiw. Mae'r tirweddau thematig wedi eu cynnwys yn yr adran ganlynol, yn ogystal ag yn y disgrifiadau o ardaloedd cymeriad unigol.

Ychydig o henebion cynhanesyddol a geir yn y dirwedd hon. Darganfuwyd casgliad o adeiladau milwrol Rhufeinig yn Llanfor yn 1976 (ardal 07), ac roedd Llanfor yn parhau'n bwysig yn y canoloesoedd cynnar. Mae carreg arysgrifiedig Gristnogol gynnar o'r 6ed ganrif O.C. yn sefyll bellach yng nghyntedd yr eglwys bresennol. Mae'n bosibl bod gwrthglawdd hirgrwn (Pen Ucha'r Llan) sydd i'r gogledd o'r eglwys yn dyddio i'r canoloesoedd neu'r canoloesoedd cynnar; efallai ei fod yn ganolbwynt i arglwyddiaeth gynnar yn yr ardal. Mae'n amlwg i'r fan hon fod yn ganolbwynt pwysig i anheddiad ac yn lleoliad marchnad cyn i'r Bala gael ei sefydlu'n fwrdeistref a datblygu i ddod yn brif anheddiad cnewyllol yr ardal.

Arweiniai'r ffordd Rufeinig o Lanfor (ac o Gaer yn y lle cyntaf) ar hyd glan ogledd-orllewinol y llyn i Gaer Gai (ac ymlaen wedyn i Frithdir (ger Dolgellau)), sy'n sefyll ar esgair uwchben pen arall y llyn (ardal 15). Mae Caer Gai yn arwydd bod y Rhufeiniaid wedi cadarnhau eu goresgyniad yn yr ardal gan ei bod yn gaer ategol barhaol a ddisodlodd y gwaith byrhoedlog yn Llanfor. Mae'n wybyddus bod vicus , neu anheddiad sifil wedi ei leoli i'r de, ac o bosibl i'r dwyrain o'r gaer ac mae tystiolaeth hefyd bod y safle wedi parhau'n ganolbwynt i weithgaredd ac o bwys diwylliannol yn y cyfnod ôl-Rufeinig.

Codwyd Castell Carndochan i'r de-orllewin o Gaer Gai (y tu allan i ardal y prosiect hwn) tua chanol y 13eg ganrif, o dan deyrnasiad y Cymry. Saif mewn safle dylanwadol, cryf ar esgair uchel yn edrych dros y ffordd i mewn i ddyffryn Lliw. Serch hynny, bwrdeistref y Bala (ardal 2) ddaeth yn gnewyllyn i'r ardal.

Yn yr 16eg a'r 17eg ganrif, Caer Gai oedd cartref teulu Vaughan. Roeddent yn gefnogol i'r Frenhiniaeth a ddioddefodd pan gafodd y tŷ ei ysbeilio a'i losgi gan filwyr y Senedd yn 1645.

Mae tref Y Bala, prif ganolbwynt anheddu yn yr ardal erbyn hyn, yn ymestyn ar hyd llwybr y briffordd o Loegr (Yr Amwythig) i Ddolgellau, ac wedi ei gwasgu rhwng pen gogledd-ddwyreiniol Llyn Tegid ac Afon Tryweryn. O flynyddoedd cynnar y 13eg ganrif, Y Bala oedd canolfan weinyddol frenhinol y cwmwd. Mae dau fwnt, y tybir eu bod yn tarddu o'r cyfnod Normanaidd, yn sefyll yn agos at ei gilydd yma (gweler isod). Gwelir felly bod themâu tirwedd sy'n ymwneud â chodi caerau a symud rhyw ychydig ar ganolbwynt rheolaeth (weinyddol a milwrol) wedi parhau dros fil o flynyddoedd.

Heb os, Y Bala yw'r enghraifft orau o fwrdeistref Seisnig wedi ei chynllunio ym Meirionnydd. Cafodd ei sefydlu gan Roger Mortimer, yn ôl pob golwg er mwyn dod â chyfraith a threfn i gwmwd Penllyn o'i chwmpas, ac fe ddaeth yn ganolfan weinyddol i'r cwmwd. Cafodd ddechrau llwyddiannus gyda phob un ond naw o'i 53 bwrdeisiaeth wedi eu cymryd o fewn blwyddyn i'w sefydlu. Trosglwyddwyd y marchnadoedd a'r ffeiriau a arferai gael eu cynnal yn Llanfor yma a dyfarnwyd breintiau yn ffurfiol i'r fwrdeistref yn 1324. Fodd bynnag, dirywiodd y dref tua diwedd y canoloesoedd wrth i'r gweithgarwch milwrol yno ddod yn ddiangen, er iddi gadw rhywfaint o statws weinyddol ac yn ddiweddarach, denodd weithgaredd masnachol o'r newydd gan beri iddi ddatblygu cymeriad mwy trefol. Yn ystod y 18fed ganrif, er enghraifft, datblygodd diwydiant gwneud hosanau ac yn sgil hynny, cafwyd llawer o waith ailadeiladu yn y dref yn ogystal ag ehangu'r adeiladau y tu hwnt i ffiniau'r fwrdeistref ganoloesol. Erbyn canol y 19eg ganrif, fodd bynnag, roedd rhaid i'r diwydiant gystadlu gyda ffatrïoedd Canolbarth Lloegr ac o ganlyniad, dirywiodd masnach hosanau'r ardal yn raddol nes y daeth i ben ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif.

Yn ystod y 19eg ganrif, cafwyd datblygiadau diwylliannol arwyddocaol yn Y Bala a daeth yn ganolfan bwysig a ffyniannus i fudiadau crefyddol Anghydffurfiol Cymru, yn arbennig yn ystod gweinidogaeth Thomas Charles, arweinydd enwog ar y Methodistiaid yng Nghymru. O flynyddoedd cynnar y ganrif ymlaen, cynhaliai'r Methodistiaid eu Sasiwn yn y dref a byddai miloedd o bobl yn ymgasglu ar y Green i wrando ar bregethwyr enwog yn y cyfarfodydd pregethu cyhoeddus. Yn 1837, sefydlodd y Methodistiaid goleg yn y dref (ardal 03), a dilynwyd hynny yn 1842 gan goleg i Annibynwyr. Yn gysylltiedig â cholegau a chapeli'r dref, roedd dynion yr oedd eu dylanwad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ardal, ar draws Cymru gyfan ac ymhellach. Yn eu plith y mae Syr O M Edwards, yr addysgwr a'r llenor enwog, Michael D Jones, un o arweinwyr yr Annibynwyr a sefydlodd Y Wladfa ym Mhatagonia yn Yr Ariannin, ac eraill y mae sawl cofeb a chofgolofn iddynt yn y dref ac yn Llanuwchllyn (ardal 08).

Y tu allan i'r dref, i'r gogledd o'r Bala, mae stad Rhiwlas (ardal 05) wedi gwneud cyfraniad sylweddol at lunio tirlun yr ardal. Tua diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg, roedd R W Price, Rhiwlas yn gweithredu polisi o drawsnewid tir pori ymylol yn ddolydd a throi dolydd yn dir âr. Dywedir bod stad Rhiwlas ar y pryd yn enghraifft amlwg o'r duedd i gyfuno. Roedd hyn yn atal ffermwyr ifanc rhag ymsefydlu ar eu tir eu hunain ac yn y pen draw, arweiniodd at ddiboblogi a chrynhoi dosbarthiad anheddu; erbyn 1797, roedd nifer o fythynnod ar ffermydd iseldir yn wag (E Thomas, cyfathrebu personol). Hanner canrif yn ddiweddarach, roedd bron i 16500ha o dir ym Meirionnydd yn eiddo i'r stad.

Yn rhan olaf y 19eg ganrif, datblygwyr stad Rhiwlas yn stad hela gan R W Price a chafodd gryn lwyddiant, gan newid golwg y pen gogleddol hwn i ardal yr astudiaeth (fel uchod). Er enghraifft, y cymeriad lliwgar hwn oedd yn gyfrifol am y treialon cŵn defaid cyntaf, a gynhaliwyd pan dderbyniodd her gan gymydog a honnai bod ei gwn defaid Albanaidd yn well na'r cŵn defaid Cymreig a ddefnyddid ar y stad. Mae cyfres o dai wedi sefyll yn Rhiwlas, ac fe gynlluniwyd y tŷ presennol gan y pensaer Clough Williams-Ellis i gymryd lle adeilad castellog braidd yn rhwysgfawr (a adlewyrchwyd yng nghyn-orsaf reilffordd Y Bala, sydd hefyd wedi hen fynd) a atafaelwyd gan y fyddin yn ystod y rhyfel ac a oedd wedi dirywio i'r fath raddau bod rhaid ei dynnu i lawr yn 1951.

Mae gan yr ardal dirwedd gysylltiadau hanesyddol a diwylliannol pwysig eraill. Awgrymwyd ers tro bod yr ardal yn gyforiog o chwedlau: er enghraifft, ysgrifennodd Syr John Lloyd (History of Wales, II, 614) am Benllyn gan ddweud mai 'bro chwedlau yn hytrach na hanes yw hon'. Yn ôl y traddodiad llenyddol Cymreig, Caer Gai oedd cartref Cei mab Cynyr, sef Syr Cai yn y rhamantau Arthuraidd (White, 1985). Cyfeirir at Llanfawr (Llanfor) a'i hafonydd lleol mewn englynion Cymraeg cynnar, Canu Llywarch Hen, sy'n dyddio o'r 9fed neu'r 10fed ganrif yn ôl pob tebyg (ardal 06). Bu Llyn Tegid (ardal 01) yn ganolbwynt arbennig i chwedlau a straeon gwerin; efallai nad yw'n syndod bod llawer ohonynt yn ymwneud â llifogydd a boddi.

Yn fwy diweddar, mae'r ardal dirwedd wedi adennill ei bri diwylliannol yng Nghymru fel canolfan grefyddol arwyddocaol iawn, ac fe ddisgrifiwyd Y Bala â'i cholegau a'i chapeli anghydffurfiol niferus (a'i llyn) fel Genefa Cymru. Fach-ddeiliog, sy'n edrych dros y llyn ger Y Bala (ardal 11), oedd encil haf yr hynafiaethwr adnabyddus, Richard Colt Hoare, ac roedd Coed-y-pry, Llanuwchllyn, yn gartref i'r llenor a'r addysgwr Cymraeg enwog, Syr O M Edwards (ardal 08).

 

 

Tirweddau Cynhanesyddol

Prin yw cynrychiolaeth y cyfnod cynhanesyddol cynnar, cyn tua 5000CC, ym Meirionnydd yn gyffredinol ac mae'n nodedig am y nifer fechan o ganfyddiadau o wrthrychau lithig yma ac acw o'i gymharu ag ardaloedd arfordirol Llyn, Ynys Môn a gogledd Gwynedd (Smith, 2001). Nid yw'r ardal fewndirol o gwmpas Llyn Tegid yn eithriad, er bod mwy o dystiolaeth o weithgaredd yma nac yn yr uwchdiroedd o gwmpas. Mae astudiaethau amgylcheddol o baill a oedd wedi ei gadw mewn mawn yn uwchdiroedd Ardudwy heb fod ymhell i'r gorllewin wedi dangos bod yr uwchdiroedd hyn o dan goedwig aeddfed cyn canol y pedwerydd mileniwm CC (Chambers a Price, 1988).

Does fawr ddim tystiolaeth o weithgaredd yn yr ardal hon yn ystod y cyfnod neolithig rhwng tua 5000-2000CC chwaith, er bod tomenni claddu mawr allai fod o ddyddiad neolithig yn rhan uchaf dyffryn afon Dyfrdwy i'r dwyrain o ardal yr astudiaeth, gydag o leiaf un ohonynt, Tanycoed, yn siambrog (Gresham 1967, 29-32). Mae lloc mawr ar ffurf hanner cylch wedi ei ddarganfod ar orlifdir Afon Dyfrdwy yn Nhŷ-tandderwen, ychydig i'r dwyrain o Lyn Tegid, o ffotograffau o'r awyr ac arolwg geoffisegol, ac mae'n debygol mai anheddiad neu loc ar gyfer defodau neolithig yw hwn (Smith a Hopewell, 2006).

Ceir cofnod hanesyddol hefyd o gylch cerrig, Pabell Llywarch Hen, heb fod ymhell i'r gogledd, ger Llanfor. Yn anffodus, cliriwyd y cylch oddi yno yn yr 17eg ganrif wrth wneud gwelliannau amaethyddol, ond cafodd ei ddisgrifio mewn dogfen yn y 18fed ganrif (Gresham 1967, 283). Mae cylchoedd cerrig o'r fath yn brin ac mae eu presenoldeb bron yn sicr yn arwydd o ganolfannau gweithgaredd tua diwedd y cyfnod neolithig, ac efallai ddechrau'r oes efydd, gan bwysleisio pwysigrwydd parhaus yr ardal, fel yr awgrymwyd eisoes yn ystod y cyfnodau Rhufeinig a dechrau'r canoloesoedd. Mae tair ffos gron a berthynai i domenni claddu o'r cyfnod hwn wedi eu canfod yn ddiweddar ar lawr y dyffryn i'r dwyrain o Lyn Tegid wrth i arolwg geoffisegol o'r casgliad o gaerau Rhufeinig yno gael ei gynnal (ardal 07 - Crew 1997, 17-18) a cheir cofnod hanesyddol bod meini hirion wedi sefyll yn ardal Llangywer (ardal 12) ar lan ddeheuol Llyn Tegid. Mae'n debygol bod safleoedd annedd cysylltiol i'w cael yn yr ardal ac efallai y cânt eu darganfod pan gynhelir arolygon awyr, fel y gwnaethpwyd gyda'r lloc neolithig posibl yn Nhŷ-tandderwen y cyfeiriwyd ato uchod.

Mae'r mileniwm cyntaf CC, fodd bynnag, yn gyfnod sydd â nifer dda o olion aneddiadau pendant, ac fe wyddom am dros fil o enghreifftiau yng ngogledd-orllewin Cymru (Smith, 1999). Fodd bynnag, mae'r anheddu hwn wedi ei grynhoi ger cyrion gorllewinol yr uwchdiroedd ac ychydig sydd yn y mewndir. Mae hyn yn wir am fewndir Meirionnydd ac ardal Llyn Tegid. Fodd bynnag, mae arolwg manwl diweddar o'r uwchdiroedd ychydig i'r gogledd o Lyn Tegid wedi canfod olion anheddu eang nad oedd yn wybyddus cyn hynny (Muckle, 1993). Nid yw'r rhain wedi eu dyddio, ond maent yn fath o aneddiadau gwasgaredig sy'n fwy nodweddiadol o uwchdiroedd.

Nid oes unrhyw aneddiadau amgaeedig na llociau amddiffynedig na bryngaerau o'r mileniwm cyntaf CC y gwyddom amdanynt yn ardal Llyn Tegid. Tri safle tua 10km i'r dwyrain yw'r rhai agosaf. Copa syml ag ychydig amddiffynfeydd yw un o'r rhain ar Fynydd Mynyllod, ac mae'n ddigon posibl ei bod o ddyddiad tua diwedd yr oes efydd. Lloc sy'n rhannol ddeuglawdd ar lethrau Cefn Ddwysarn yw'r ail safle, ac mae'n bosibl bod hwn yn anorffenedig. Bryngaer fawr yw'r trydydd, yng Nghefn Caer Euni - caer ag amddiffynfa gref ddeufur a thystiolaeth o nifer o dai ac estyniad ac atgyfnerthiad tebygol. Mae'n arwyddocaol bod y gaer hon yn edrych dros y llwybr pwysig rhwng yr arfordir a'r mewndir a ddilynwyd yn y pen draw gan y ffordd Rufeinig, yn hytrach nag edrych dros Ddyffryn Dyfrdwy, ac mae'n amlwg bod y man ble croeswyd yr afon ar ben dwyreiniol Llyn Tegid yn fan pwysig ar y llwybr hwn. Gallai hynny, a lleoliad y fryngaer gerllaw, fod wedi dylanwadu ar leoliad y gaer Rufeinig gynnar yn Llanfor, ychydig i'r dwyrain o'r Bala (gweler uchod ac isod), a'i phwysigrwydd parhaus tebygol, er i gaer newydd gael ei chodi o gerrig yng Nghaer Gai, ar ben gorllewinol Llyn Tegid (ardal 15).

 

 

Tirweddau Rhufeinig


Caer Gai

Roedd llinellau cyfathrebu helaeth trwy'r rhan ganolog hon o'r Gymru Rufeinig. Gwyddom fod pum ffordd Rufeinig bwysig yn mynd trwy'r dirwedd hon; y ffyrdd o Domen y Mur i Gaer Gai, o Gaer Gai i Gaer, Caer Gai i'r Brithdir, Caersws i Gaer Gai ac o Gaerhun tua'r dwyrain.

Does dim amheuaeth bod y lleoliad daearyddol yn un strategol, fel y profa'r rhesaid o wersylloedd gorymdeithio Rhufeinig a safle mawr, naw acer, ble safai caer ryfelgyrch a storfeydd ar deras gro uwchben glan ogleddol Afon Dyfrdwy a'i llednant fechan, y Merddwr, yn Llanfor. Mae bron yn sicr mai nodweddion yn perthyn i ymgyrchoedd cynharaf y Rhufeiniaid yng ngogledd-orllewin Cymru yn y 60au a'r 70au OC yw'r gwersylloedd. Mae'r gaer o dyweirch a phren, gyda barics ac adeiladau pren wedi eu gosod ar batrwm rheolaidd yn awgrymu bod hon yn ganolfan arwyddocaol fwy parhaol ar gyfer rheoli ymgyrchoedd a chadarnhau enillion milwrol. O fewn cyfnod cymharol fyr, fodd bynnag, gadawyd y gaer a symudwyd i gaer ategol barhaol lai ar ben deheuol Llyn Tegid a oedd yn rhan o rwydwaith o gaerau rhyng-gysylltiol a gynlluniwyd i reoli a chadw trefn ar y rhanbarth.

Mae Caer Gai hefyd wedi ei gosod mewn safle strategol, yn gaer ategol Rufeinig hirsgwar oedd â garsiwn wedi ei lleoli yno fwy na thebyg o tua 75-130 OC: mae rhan gynharaf y gaer yn rhagfur o dyweirch sydd wedi ei dyddio i 70-85 OC. Yn wahanol i Lanfor, mae llawer o'r cloddweithiau sy'n gysylltiedig â'r safle wedi goroesi, ac ar ochr dde-orllewinol y gaer, mae'r rhagfur yn dal i sefyll, yn fancyn 8m o led. Mae'r corneli yn y de-ddwyrain ac yn y de-orllewin wedi eu cadw mewn cyflwr da gyda'r ffos yn cylchu o'u cwmpas. Ar ben y bancyn, y mae wal gae fodern, sydd fwy na thebyg yn gorwedd yn rhannol dros sylfeini'r mur cerrig Rhufeinig gwreiddiol a amgylchynai'r holl ardal ac y mae rhai o'r cerrig wedi'u sgwario a oedd yn y mur hwnnw yn cael eu defnyddio. Yn ogystal â'r ficws sifilaidd, mae amrywiaeth o nodweddion milwrol penodol yn glystyrau o gwmpas y gaer, yn cynnwys baddondy, maes parêd a phlasty o bosibl.

 

 

Tirweddau Canoloesol

Mae ardal y prosiect i gyd o fewn Meirionnydd, un o'r tair sir wreiddiol a grëwyd trwy Statud Rhuddlan yn 1284, yn dilyn concwest Edward I. Mae'n gorwedd hefyd o fewn cwmwd canoloesol Penllyn (a sefydlwyd yn gynharach) a rannwyd yn ddwy ran, sef Is Meloch ac Uwch Meloch. Yn ddiweddarach, mewn arolwg a gynhaliwyd yn 1419, cyfeirir at ran ogledd-ddwyreiniol y parth hwn fel Uwch Tryweryn a gwelir bod y trefgorddau a gofnodwyd o dan y dosbarthiad hwn wedi eu lleoli y tu hwnt i'r ffin a nodir gan afon Tryweryn a Hirnant. Arwyddocâd y sylw hwnnw, os yw'r gwahaniaeth yn hynafol, yw bod holl bentrefannau tenantiaid caeth y Tywysog wedi'u lleoli o fewn Is Tryweryn ac mae'r un mor arwyddocaol eu bod wedi'u clystyru yn agos at Y Bala yn Llanycil, Cyffty a Bedwarian. Ceir cilfach hefyd o daeogion y Tywysog i'r de o'r llyn yn nhrefgordd rydd Penaran. Mae'n ddigon posibl mai'r esboniad am hyn yw'r agosrwydd at hafodydd brenhinol helaeth iawn sy'n ymestyn o amgylch ffin dde-orllewinol Penllyn o Amnodd a Nanfach at Wenallt, Cwmdadi a Chwm Ffynnon. Roedd daliadau'r tywysog ym Mhenllyn wedi eu crynhoi yn Is Tryweryn; tiriogaeth y rhydd-ddeiliad oedd Uwch Tryweryn. Mae dosbarthiad tenantiaid caeth y tywysog, cyn y goncwest, yn dangos yn eglur mai'r Bala oedd canolbwynt y cwmwd gyda ffridd, neu diroedd gwartheg y tywysog ar y tir uchel i'r de-orllewin o'r llyn.

Yn ystod rhyfeloedd 1282-83, bu cryn ddinistr ar draws gogledd Cymru, ac yn arbennig ym Mhenllyn ble disgrifiwyd trefgorddau cyfan fel terra vasta , a'r tu hwnt iddynt, mae'r cwymp a welwyd yng ngwerth daliadau gwartheg yr uwchdiroedd yn awgrymu bod byddinoedd goresgynnol wedi achosi gostyngiad aruthrol yn niferoedd y da byw. Mae tystiolaeth bod gwartheg wedi eu cymryd o ddaliadau gwartheg Penllyn er mwyn bwydo'r byddinoedd Seisnig yn ystod yr ymgyrch olaf honno i drechu Llywelyn Fawr, ac mae'n amlwg bod cryn amser wedi mynd heibio cyn i'r ailstocio a ddilynodd eu hadfer i'w gwerth blaenorol (Smith, 2001, 428). Efallai bod y cofnod ar gyfer trefgordd Penmaen (fymryn i'r gogledd o ardal yr astudiaeth) yn tystio i'r dinistr a achoswyd gan y rhyfel yn 1282-3 (gweler Williams am Ddinas Basing isod). Yma, cawn gipolwg ar nifer o agweddau ar gymdeithas ac economi Meirionnydd ar yr adeg y daeth annibyniaeth Gwynedd i ben.

Y Fwrdeistref
Er mwyn cadarnhau ei goncwest, cododd Edward I gylch o gestyll yng ngogledd Cymru, a sefydlodd fwrdeistrefi ble gallai gwladychwyr Seisnig ymsefydlu a byw ar fasnach. Roedd tair o'r bwrdeistrefi hyn ym Meirionnydd - Harlech, Y Bere (a oedd, yn ôl tystiolaeth a geir yn arolwg 'Stent' 1284, yn brif symbol awdurdod tywysogol yng nghantref Meirionydd cyn y goncwest) (Carr, 2001, 704) a'r Bala.

Roedd y ddwy gyntaf yn greadigaethau brenhinol, a fodolai oherwydd swyddogaeth filwrol (roedd cestyll yno) ac wedi eu lleoli'n strategol, ond roedd Y Bala'n wahanol. Erbyn 1310, roedd Roger Mortimer wedi gosod 53 bwrdais 'er budd y brenin, er diogelwch y rhannau hynny ac er rhwystro malais drwgweithredwyr a lladron yn yr ardal'. Roedd 34 o'r bwrdeisiau ar dir a fu'n rhan o diroedd demen y Tywysog gynt yn y cwmwd. Cafodd y gweddill eu meddiannu o diroedd tenantiaid rhydd. Byddai'r tiroedd demen wedi eu trosglwyddo i ddwylo'r Tywysog pan yrrwyd Elise ap Madog ymaith. Mae'n debygol mai Llanfor oedd y gymuned bwysicaf ar sawl cyfrif ers cryn amser. Fodd bynnag, yn 1310, ehangwyd pentrefan neu dref Y Bala a throsglwyddwyd ffair a marchnad Llanfor i'r Bala. Yn 1324, derbyniodd Y Bala ei siarter Bwrdeisiol.

Tir eglwysig
Roedd Abaty Dinas Basing yn dal nifer o faenorau yn yr ardal o gwmpas Y Bala, i'r de-orllewin ac i'r gogledd-orllewin o'r dre, gan gynnwys maenor Gwernhefin, a oedd yn cynnwys sawl acer o dir pori o gwmpas y fferm bresennol sy'n dwyn yr enw hwnnw (i'r de-orllewin o Lyn Tegid, ardal 16, wedi'i ganoli yn SH894329). Roedd hefyd yn berchen ar ased bwysig arall, sef Llyn Tegid, ble roedd pysgota o gryn bwysigrwydd i economi'r abaty. (Roedd gan Ystrad Marchell hefyd diroedd yn ffinio â thiroedd Dinas Basing yn Y Bala-Penllyn, ond roedd y rhain i'r gogledd o ardal yr astudiaeth).

Doedd rhai o'r maenorau neu'r ffermydd canoloesol yn fawr mwy na libart defaid, ond roedd eraill yn cynnwys adeiladau sylweddol ac yn bwysig, nid yn unig ar gyfer amaethu, ond hefyd fel mannau ar gyfer cynnal trafodion busnes a chynnig lletygarwch. Roeddent yn ffermydd model yn eu cyfnod, ac yn gnewyllyn iddynt byddai ffreutur ac ystafell gysgu, oratori, ysgubor ac adeiladau fferm angenrheidiol eraill, wedi eu hadeiladu fwy na thebyg o gymysgedd o bren a cherrig. Roedd y rhai ar diroedd isel fel arfer yn llawer llai na'r rhai yn yr uwchdiroedd a ddefnyddid yn bennaf ar gyfer magu defaid, ac yn aml roedd eu ffiniau wedi eu nodi gan nentydd ac afonydd, ac mae'n bosibl bod modd olrhain hynny yng Ngwernhefin.

Yn ystod diwedd y 12fed ganrif ac yn y 13eg ganrif, bugeilio oedd prif gynheiliad yr economi Sistersaidd yng Nghymru (ibid, 246). Mae niferoedd y defaid a nodwyd yn y Taxatio (1291) yn dangos bod gan Ddinas Basing dros 2,000 o ddefaid ym Mhenllyn yn unig (ibid, 252), ac yn sicr roedd ganddi fasnach gartref mewn gwlân trwy gydol y 14eg ganrif.

Mae'r cynghorau cymuned cyfredol sydd â'u hardaloedd yn ymestyn dros ardal yr astudiaeth hefyd yn seiliedig ar blwyfi canoloesol Llanuwchllyn, Llanycil, Llangywer a Llanfor. Mae'r pedwar plwyf yma yn cyfateb i'r eglwysi a gofnodwyd ym Mhrisiad Norwich yn 1254 (Davidson, 2001), er nad oes gwaith cerrig canoloesol wedi goroesi yn yr un ohonynt. Perthynai cymydau dwyreiniol Meirionnydd, gan gynnwys Penllyn, i esgobaeth Llanelwy tra'r oedd y rhai gorllewinol yn perthyn i Fangor. Cafodd y ddwy esgobaeth eu creu yn y 12fed ganrif (Price, 2001).

 

 

Tirweddau ôl-ganoloesol


Masnachdai hosanau, 18fed-19eg ganrif

Yn dilyn Deddf Uno 1536, sefydlwyd Harlech yn brif dref sirol Meirionnydd, ond roedd y sesiwn fawr, a gwrddai ddwywaith y flwyddyn, yn cael eu rhannu rhwng Harlech a'r Bala a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf sydd wedi'i gofnodi o'r Llys Chwarter yn Y Bala yn 1546. Ar y pryd, roedd Meirionnydd yn dal i gael ei gweld fel un o rannau mwyaf direol y wlad (Carr, 2001, 704). Roedd ei heconomi yn dal i ddioddef yn sgil anrheithiau gwrthryfel Glyndwr a Rhyfeloedd y Rhosynnau, ac ystyriai'r bwrdeisiaid mai cyfarfodydd y sesiynau oedd eu hunig achubiaeth, gan fod cyfarfodydd o'r fath yn dod ag incwm yn eu sgil. Yn ddiweddarach, câi sesiynau eu rhannu rhwng Dolgellau, Llanfor a Dinas Mawddwy, ond i farnwyr a deithiai o Loegr ac i ynadon o ran ddwyreiniol y sir, roedd yn amlwg bod Y Bala yn fwy cyfleus.

Roedd cau tiroedd comin yn arfer cyffredin o ddiwedd y 16eg ganrif ymlaen, yn bennaf ar gyfer eu pori gan ddefaid (cafwyd protestiadau mynych am 'ddefaid yn bwyta dynion') (Thomas, 2001, 207), er y ceir rhai cyfeiriadau at gau tiroedd yn gynharach yn nogfennau swyddogol cyfnod 1569 i 1591 (J G Jones, 2001). Gwelwyd cynnydd rhyfeddol yn y boblogaeth ledled Cymru wedi 1550, ac erbyn 1670, roedd poblogaeth Meirionydd wedi gweld cynnydd o 85% (Smith, 2001 (b)). Cafodd uwchdiroedd a oedd wedi eu gadael yn wag oherwydd diboblogi a achoswyd gan y Pla Du a rhyfela ysbeidiol eu hailstocio. Roedd hawliau pori ar dir comin a ffiniai â rhydd-ddaliadau yn yr hendrefi yn bwysig i economi'r porwyr, ac mor gynnar ag 1573, roedd cwynion mewn rhai ardaloedd am or-bori ar dir comin gan ymsefydlwyr ymwthiol a oedd wedi codi bythynnod ar y tiroedd comin a mynnu eu hawl i bori'r tir. Rhoddodd rhydd-ddeiliaid o nifer o siroedd, gan gynnwys Meirionnydd, dystiolaeth i siryfion pedair sir canolbarth Cymru ar y pryd bod gor-stocio gan ddieithriaid, y tybiwyd mai Saeson oeddent, yn effeithio ar y nifer o wartheg a defaid y gallent eu cadw a chael porthiant gaeaf iddynt. Dadleuwyd bod hon yn broblem oedd wedi codi wedi'r Deddfau Uno. Mae Williams-Jones wedi cynnig yr awgrym bod ffermydd yng ngogledd Cymru yn yr 17eg fwy na thebyg yn cwmpasu '8 i 20 acer o dir ffermio cyffredin' (Thomas, 1968, 34).

Roedd gweithgaredd diwydiannol, pan ddaeth i Feirionnydd, yn gysylltiedig â'r diwydiant brethyn a ddechreuodd lewyrchu cyn diwedd yr 17eg ganrif, ac a gafodd ei oes aur yn y 18fed ganrif. Roedd y diwydiant hwn wedi ei ganoli yn Y Bala a Dolgellau. Roedd yn seiliedig ar fagu a symud nifer fawr o ddefaid.

 

Datblygiad y Stadau

Tyfodd teuluoedd tirfeddiannol ym Meirionnydd yn gymharol gyflym yn ystod yr 16eg ganrif, ond roedd strwythur cymdeithasol y sir yn rhwystr rhag creu teuluoedd ffyniannus ag adnoddau materol helaeth. Ar ddiwedd yr 16eg ganrif, roedd y mwyafrif o ffermydd Meirionnydd yn parhau i fod yn nwylo perchen-ddeiliaid, er bod cofnod rhentu o 1592 yn dangos bod o leiaf hanner y deiliaid cartrefi yn denantiaid mewn nifer o drefgorddau yn y sir, y cynnwys Rhiwaedog ym Mhenllyn (Thomas, 1972, 333).

Roedd yr amgylchiadau a oedd yn eu lle wrth i batrymau anheddu newid yn y cyfnod Tuduraidd yn galluogi boneddigion Meirionnydd i ddatblygu eu pwerau fel perchnogion tir, i reoli sefydliadau llywodraeth ac i gadarnhau eu statws a'u harweinyddiaeth ym mywyd y gymuned leol (J G Jones, 2001). Er enghraifft, roedd Huw Nannau Hen (m 1623) yn ddylanwadol iawn mewn materion sirol, a manteisiodd yn llawn ar newidiadau i berchnogaeth tir yn y sir: rhoddodd ei ferched yn wragedd i bump o dai sylweddol, yn cynnwys Rhiwaedog a Chaer Gai). Fodd bynnag, roedd hi'n 18fed neu 19eg ganrif cyn cadarnhau eu cyfoeth a'u statws digymar yn llwyr.

Mae'n weddol amlwg o ddogfennau o ddiwedd yr 16eg ganrif (rhai'n ymwneud â Fforest yr Wyddfa yn bennaf (Thomas, ibid, 337)), bod tir wedi ei lechfeddiannu'n anghyfreithlon dros y canrifoedd, a hynny'n bennaf ar diroedd pori yn yr ucheldir a arferai fod yn borfeydd comin i drefgorddau canoloesol. Tiroedd maenorau mynachaidd (gan gynnwys tir felly ym Mhenllyn) oedd yr enillion gorau, yn sicr o ran maint eu harwynebedd. Mae Thomas yn barnu bod twf ystadau tua diwedd y cyfnod canoloesol, a hynny yn bennaf trwy gyfuniad o briodasau wedi eu trefnu a 'thrafodion ariannol â'r nod o gadarnhau cyfoeth teuluol', a oedd yn gyfrifol, yn gyffredinol, am greu tirwedd fodern Meirionnydd (Jones, ibid, 341).

Does dim amheuaeth bod stad Rhiwlas wedi bod â rôl sylweddol yn llunio tirwedd yr ardal. Daeth teulu Price Rhiwlas, oedd yn ddisgynyddion i Marchweithian, i amlygrwydd yn yr 16eg ganrif gan ennill safle o gryn bwys ym Meirionnydd. Yn ystod y cyfnod pan oedd Cadwaladr Price (yr un a fabwysiadodd yr enw teuluol yn ffurfiol) yn benteulu, enillodd Rhiwlas oruchafiaeth. Wedi ei addysgu yn Hart Hall, Rhydychen, gwasanaethodd fel Dirprwy Raglaw a Siryf (1592-3) ac roedd yn Aelod Seneddol yn 1584-6. Roedd wedi ei asesu ar y raddfa uchaf yng nghyfrif cymhorthdal 1598, ar £5 ac yn 1600, roedd ar £10. Fe elwodd ef a'i fab ar lechfeddiannu rhannau o Fforest yr Wyddfa, yn arbennig daliadau Ystrad Marchell ym Mhenllyn, a oedd yn cynnwys rhyw 1,400 o aceri yn Llanfor, Llandderfel, Llanycil a Llanuwchllyn. Ychwanegwyd tiroedd eraill, yn cynnwys daliadau ym Mhenllyn ac eiddo cyfagos. Ar y pryd, efallai mai dyma'r enghraifft orau o wasgaru daliadau eiddo yn eang ym Meirionnydd (Jones, ibid, 338).

Yn ystod blynyddoedd olaf y 19eg ganrif, llwyddodd R J Lloyd Price i ddatblygu stad Rhiwlas, a oedd erbyn hynny'n berchen ar bron i 16,500ha o dir ym Meirionnydd, yn 'stad saethu', gan ddilyn esiamplau a osodwyd yn Yr Alban, ond oherwydd ei bod wedi ei lleoli'n nes at Loegr, roedd yn fwy fforddiadwy. Datblygwyd y prysglwyn modern yn rhan ddeheuol ardal 05 ar gyfer saethu ffesantod, ac mae ail argraffiad y map OS yn dangos rhes hir o gewyll magu ffesantod ar hyd ochr ogleddol y ffordd fawr tua'r dwyrain sy'n dal yno. Gwasgarwyd bythynnod i nifer o giperiaid o amgylch y stad (er enghraifft, yn Nhan-y-garth a Bryn-ffynnon), ac roedd y rhain weithiau'n cael eu defnyddio fel llety dros dro i weision cleientiaid ('busnesau mawr'), a oedd yn mynychu partïon saethu ar y stad (ac a oedd yn aros fel arfer yn y prif dy neu yn y Goat yn y Bala). Ar yr un pryd, cafodd nifer fechan o randaliadau eu tynnu i mewn at yr un pwrpas (e.e. Ty'n garth). Fe agorodd ddistyllfa Chwisgi Cymreig byrhoedlog hefyd yn Fron Goch.

Ymhellach i'r gogledd (ac oddi allan i ardal yr astudiaeth), roedd 'tiriogaeth gartref' Rhiwlas wedi'i chanoli yng Nghwmtirmynach, tir a fu'n eiddo i Abaty Dinas Basing a'r tir cyntaf a mwyaf i gael ei feddiannu yn y cyfnod Tuduraidd: caiff yr olion cwningaroedd ar y dirwedd eu hadlewyrchu mewn enwau lleoedd megis Eglwys Anne Warren. Fodd bynnag, er gwaethaf holl ymdrechion Price, roedd rhaid dibynnu ar fet a osodwyd ar geffyl o'r enw Bendigo a enillodd ras Jiwbili Kempton Park yn 1887 i achub y stad (bu farw Price y flwyddyn honno). Mae'n gwbl briodol bod cofeb i Price ym mynwent Eglwys Llanfor (ardal 06) yn cynnwys y geiriau: 'As to my latter end I go to seek my Jubilee, I bless the good horse Bendigo, who built this tomb for me ' (E Thomas, gohebiaeth bersonol).

Mae Atlas Meirionnydd (Bowen, 1972) yn dangos tair stad (ôl-ganoloesol) o fewn yr ardal: Caer Gai (cartref y Vaughaniaid, ardal 15), Glanllyn (gyda thir o gwmpas Llanuwchllyn, yn bennaf yn ardaloedd 14 ac 16, a oedd yn eiddo i Williams Wynniaid Wynnstay yn ddiweddar) a Rhiwlas (cartref y Priceiaid, sy'n ymestyn dros ardaloedd 5, 7, 9, 10 ac 11). Yn 1850, roedd stadau Rhiwlas a Glanllyn rhyngddynt yn ymestyn dros fwy na 14,000 acer ac yn drydydd o ran maint ym Meirionnydd, o bosibl. Mae James (1966) yn rhestru Meirionnydd gan nodi cyfanswm ei maint yn 302,657 acer yn1873, gyda chyfanswm rhent o £183,253. O hynny, roedd 137,698 acer ac £80,711 yn perthyn i'r 'tirfeddianwyr mawr' (ac o'r rheiny, roedd gan R J Lloyd Price a Syr W Williams Wynn ddaliadau yn yr ardal dirwedd hon). Yn is i lawr y rhestr, yr oedd teulu Lloyd Rhiwaedog a oedd, tua'r un pryd, wedi ychwanegu 460 acer at eu tiriogaeth.

Adroddodd Kay (yn 1794) mai 'ychydig iawn o wŷr bonheddig sy'n trigo yn y sir i ofalu am eu daliadau eu hunain, a gall hyn fod yn achos cryn esgeulustod . Caiff eu stadau eu rhedeg gan asiantiaid ac anaml y mae'r rheiny'n gofalu am unrhyw beth heblaw am y rhenti, ac felly mae colledion mawr yn crynhoi'.

Roedd y rhan fwyaf o'r tir wedi ei gau ar y pryd, ac eithrio'r rhodfeydd defaid helaeth, er bod y caeau ar y cyfan yn rhai bychain. Roedd Kay yn canmol rhinweddau gwella'r tir trwy ddraenio, ond gan mai ychydig o'r perchnogion oedd yn byw yn y sir bryd hynny, câi'r tir ei esgeuluso bron yn llwyr. Fodd bynnag, mae'n cyfeirio at enghreifftiau Oakeley yn Nhan y Bwlch ('yn codi argloddiau ac yn draenio dyffryn hyfryd') a Corbett yn Ynysmaengwyn ('yn codi argloddiau ac yn draenio lleiniau eang').

Y 19eg ganrif oedd oes aur adeiladu ystadau (Alfrey, 1989), gyda rhaglenni adeiladu ystadau oedd â nodweddion pensaernïol arbennig, yn ogystal â datblygu gweledigaeth ar gyfer cefn gwlad fel 'tirlun esthetig'. Erbyn hyn, roedd yr ystadau yn amlwg yn gyfoethocach nac erioed, ac yn datblygu yn fynegiant o rym a dylanwad landlordiaid cyfoethog, gan ehangu trwy gaffael a chadarnhau gafael ar dir. O ddechrau'r 19eg ganrif ymlaen, roedd Eryri'n 'cael ei darganfod' gan nifer cynyddol o dwristiaid, ac fe chwaraeodd y stadau rôl sylweddol yn y broses o feithrin twristiaeth, trwy fuddsoddi arian mewn ffyrdd tyrpeg a thrwy adeiladu eu ffyrdd a'u gwestai eu hunain (Alfrey, 1989). Roedd eu gweithgarwch yn mynd rhagddo yng ngolwg craff y cyhoedd. Roedd y tirfeddianwyr yn annog twristiaeth, a hefyd yn dylanwadu ar ei wrthrych: roedd amaethu gwell, planhigfeydd, caeau, plastai a'u swyddfeydd, a hyd yn oed ddiwydiant yn ennyn diddordeb ac yn cyfareddu ymwelwyr i'r un graddau â'r mynyddoedd eu hunain.

Fodd bynnag, nid oedd codi bythynnod yn apelio i'r rhan fwyaf o stadau fel modd o wneud arian: mae Alfrey (ibid) yn dyfynnu enghraifft Mr Owen Slaney Wynne (asiant Syr W Williams Wynn ym Meirionnydd) a gredai 'na allwch godi bwthyn gweddus o unrhyw fath am lai na £140'. Dywedai bod bythynnod yn ddrud i'w codi ac 'na chewch ddim byd am wneud hynny'.

Yn 1859, cynhaliwyd etholiad ym Meirionydd - sir a oedd, er gwaethaf gafael llethol Anghydffurfiaeth arni, yn adnabyddus am ei chyndynrwydd i wneud symudiad yn erbyn y landlordiaeth a oedd yr un mor llethol yno. Nawr, rhoddwyd cyfreithiwr o'r enw David Williams i sefyll yn erbyn W E E Wynne, yr hynafiaethwr enwog o stad rymus Peniarth. Safai Williams dros ryddhad Anghydffurfiol a daeth o fewn tri deg wyth o bleidleisiau i'r Tori. Wedi hyn, aeth Price yn Rhiwlas a landlordiaid stadau eraill ati i droi rhyw ddwsin o denantiaid allan ac i godi rhenti rhai eraill, oherwydd eu bod wedi gwrthod pleidleisio yn ôl eu cyfarwyddyd yn yr etholiad. Roedd hyn yn dipyn o ysgytwad, oherwydd nad oedd landlordiaid wedi teimlo'r angen i ddefnyddio eu grym awdurdodol i'r fath raddau, ac fe ddechreuwyd ymgyrch ar draws Cymru. Daeth y troi allan ym Meirionnydd yn un o ddelweddau cryfaf chwedloniaeth genedlaethol newydd a oedd yn benodol Anghydffurfiol, ac am y tro cyntaf, dechreuodd y landlordiaid deimlo'r ddaear yn symud o dan eu traed.

Y Canolbwynt ar gyfer symudiad graddol a phwyllog tuag at anfodlonrwydd gwleidyddol a ddilynodd oedd Y Bala, gyda'i dylanwad Methodistaidd cynyddol, a gwnaeth ymgyrch lwyddiannus i adfer statws bwrdeistref gorfforedig y dref, a ehangodd i fod yn ymgyrch ofalus dros ddiwygio, gynnydd ymhlith y tenantiaid a rhai o'r boneddigion is. Roedd ymateb y landlordiaid yn ormesol, a wnaeth y 'diwygwyr' ddim cynnydd yn etholiad 1865. Fodd bynnag, daeth y Ddeddf Ddiwygio ddwy flynedd yn ddiweddarach, gan dreblu'r etholaeth, ac roedd gan nifer o chwarelwyr yn benodol bleidlais erbyn hyn.

Roedd 'gwrthryfel y werin' ym Meirionnydd wedi ei ennill yn rhannol, ond cafodd rhagor eu taflu allan ledled y Gymru wledig. Fe gafodd Aelodau Seneddol Cymru Ddeddf Bleidleisio, ond roedd angen Deddf Ddiwygio arall, yr un a gyflwynwyd yn 1884 i droi Prydain yn ddemocratiaeth, cyn i Feirionnydd ddarganfod ei dyn yn 1886. Etholwyd Thomas Edward Ellis, mab i ffermwr a oedd yn denant ar stad Rhiwlas (ac a addysgwyd yn Aberystwyth a Rhydychen) a hwn oedd gobaith mawr radicaliaeth Gymreig newydd cyn ei farwolaeth annhymig (Williams, 1985).

Cofnodwyd landlordiaid yng Nghymru oedd â mwy na 3,000 o aceri o dir a rhenti oedd o leiaf £3,000 y flwyddyn yng Nghofnod perchnogion tir 1873 (James, 1966). Yn y rhan hon o Feirionnydd, y ddau 'dirfeddiannwr mawr' oedd R J Lloyd Price, Rhiwlas (yr amcangyfrifwyd ei fod yn berchen ar 18,403 o aceri gyda gwerth rhent o £9,762), a'r barwnig Syr Watkin Williams Wynn, Wynnstay, Sir Ddinbych. (yr amcangyfrifwyd bod ganddo 87,919 o aceri gyda gwerth rhent o £43,274).

Yn ôl i prif fap Tirwedd Y Bala

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol