English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol - Themâu Hanesyddol Ardudwy

Themâu tirwedd hanesyddol Ardudwy

Rhagarweiniad

Mae’r ardal sy’n destun i’r gwaith hwn yn cwmpasu ardal gyfan Ardudwy a nodwyd ar y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol yng Nghymru gan Cadw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd, HLW(Gw) 2, (Cadw: Henebion Hanesyddol Cymru, 1995, t 74).

Yn sir fodern Gwynedd a sir hanesyddol Meirionnydd mae ardal yr astudiaeth. Mae’n ymestyn o ddyffryn Ffestiniog (Afon Dwyryd) yn y gogledd i rywle ger Abermaw yn y de, o gopaon mynyddoedd y Rhinogau yn y dwyrain i lawr i’r arfordir yn y gorllewin. Mae’n cynnwys amrywiaeth o wahanol fathau o diroedd a chynefinoedd, a gwahanol fathau o dirweddau hanesyddol, megis copaon mynyddoedd agored, ochrau’r dyffrynnoedd a orchuddir â choed trwchus, tir amaethyddol o ansawdd gwael, pentrefi bychain a thraethau. Mae’n arbennig o hynod oherwydd ei chyfoeth o olion archeolegol creiddiol helaeth, sy’n dyddio yn bennaf o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol ac oherwydd ei Safle Treftadaeth y Byd (Harlech).

Ychydig o drefi mawr sydd yn yr ardal: mae’r prif aneddiadau yn Harlech, Dyffryn Ardudwy, Tal-y-bont, Llanaber a Thalsarnau, pob un ohonynt ar echelin arfordirol gogledd-de yr ardal, sef ffordd yr A496. I mewn o’r môr, mae’r ardal yn codi, yn serth mewn ambell fan, i gopaon cadwyn y Rhinogau sy’n 500m a mwy o uchder. Ychydig o dirweddau diwydiannol archeolegol arwyddocaol sydd yn yr ardal. Mwyngloddiau Hafoty uwchlaw Llanaber yw’r prif eithriad. Mae ardal hefyd yn cynnwys dau barc a gardd cofrestredig, sef Cors-y-gedol a Glyn-cywarch.

Yn ôl at map ardal Ardudwy

Amaethyddiaeth

Yn y cyfnod canoloesol, isrannwyd cantref Ardudwy yn gymydau Uwch Artro ac Is Artro gan afon o’r un enw. Yn Ystumgwern (ardal 15) oedd maerdref Ardudwy, a ystyrid yn rhan o Wynedd. Mae ardal y prosiect yn gyfan o fewn y rhanbarth hwn. Yn wreiddiol, cyn goresgyniad Edward a ffurfio sir Feirionnydd yn sgîl hynny, roedd yr enw ‘Meirionnydd’ yn berthnasol i’r cantref i’r de o afon Mawddach.

Wedi i Edward I oresgyn gogledd Cymru ym 1284, cynhaliwyd arolwg o’r tair sir newydd. John de Havering, ustus gogledd Cymru, a Richard Abingdon, yr siambrlen, oedd yn gyfrifol am gynnal yr arolwg o Feirionnydd. Mae’n debyg mai rhwng mis Mawrth 1284 a mis Tachwedd 1285 y lluniwyd yr arolwg. Mae wedi’i drefnu fesul cwmwd, ond crynodeb yn unig a geir ar gyfer pob un, gydag ond ychydig o wybodaeth ar wahân ar gyfer y gwahanol drefgorddau.

Diben yr Arolwg oedd cofnodi’r rhent, y trethi a’r gwasanaethau a oedd yn ddyledus i arglwydd oddi wrth ei denantiaid, ac roedd Edward am weld beth oedd dyledion tenantiaid Llywelyn ap Gruffudd iddo yn y dywysogaeth ar ôl 1277, sef trethi a oedd bellach yn ddyledus iddo. Er nad ydynt yn cynnig unrhyw wybodaeth am ‘wely’ a ‘gafael’ trefgorddau unigol, mae’r adran sy’n ymwneud â chwmwd Ardudwy yn cofnodi taliad blynyddol o grôt o bob un o’r 80 daliad a elwir yn ‘afaelion’.

Erbyn 1352, pan luniwyd arolygon newydd Ardudwy a Sir Gaernarfon, rhoddwyd Meirionnydd i Walter de Mauny ac ni chafodd ei arolygu eilwaith. Fodd bynnag, cafodd arolwg newydd o’r sir ei gynnal ym 1419-1420, ac mae hwn hefyd yn cynnwys rhai manylion ynghylch ‘gwelyau’ a gafaelion’. Mae’n ymddangos bod tir demên yn fwy gwasgaredig na mewn rhannau eraill o Wynedd, yn Ystumgwern yn Ardudwy, er enghraifft.

Mae Thomas (1967b) wedi croniclo arolwg o gaeau 16eg ganrif (Tuduraidd) yn nhir diffaith Meirionnydd, y rhan fwyaf ohonynt yn ffriddoedd wedi’u clirio o’r tir diffaith. Mae’n dwyn sylw at y ffaith fod gwasgariad arwynebaidd y llechfeddiannau yn dangos crynodiad trwm yn ucheldiroedd garw Ardudwy (yn ogystal â Phenllyn). Yma roedd y nifer uwch o leiniau tir mwy helaeth, ynghyd â gwasgariad eang o leiniau bychain a adferwyd o glytiau moel ar ymylon y dyffrynnoedd yr oedd pobl wedi hen anheddu arnynt ac sy’n treiddio i mewn i’r rhostir (yn bennaf yn yr ardal o amgylch Tyddyn Felin (sydd, fel mae’n digwydd, ar y ffin rhwng ardaloedd 15, 25 a 26) uwchlaw Cwm Bychan; llethrau’r bryniau sy’n wynebu’r môr rhwng Afon Cwmnantcol ac Afon Ysgethin (ardaloedd 1 a 7 yn bennaf); ac ar Fynydd Llanbedr (ardal 16 rhwng Afon Cwmnantcol ac Afon Artro).

Mae ffriddoedd helaeth ar Forfa Dyffryn yn arbennig, (ardaloedd 10 ac 11, a rhan o 14) yn datgelu gweithgareddau ar ymylon y corstir arfordirol ac afonol. Mae’n bosibl bod cystadlu am dir pori ucheldirol, yn sgîl helaethu eiddo rhydd-ddaliad, gyda’i holl ymgyfreithio costus ynghylch hawliau pori perthynol ar y comin, wedi ysgogi llawer o denantiaid i edrych i gyfeiriad y corstiroedd hyn er mwyn gallu ennill tir cyffredin ei ddiwyg ond sylweddol ei elw mewn ardal llai dadleuol. Gan fod y tiroedd pori a’r priddoedd âr posibl mwyaf ffafriol eisoes wedi’u meddiannu (yn fras, ardaloedd 1 a 15, ar hyd lethrau is y bryniau) gallai ymestyn y seiliau canoloesol fod wedi cynyddu i’r naill gyfeiriad neu’r llall (ucheldirol neu gorstirol) ac mae’n ddigon eglur nad oedd y technegau a oedd ar gael yn ddigon soffistigedig i ganiatáu adfer y corstir ar raddfa fawr.

Lle mae tystiolaeth ddogfennol ar gael, mae’n eglur mai’r daliadau fferm oedd yno’n barod oedd yn gwladychu ymylon y rhostir (gweler isod hefyd), wrth i’w ffiniau estyn i’r tir comin mewn dull afreolaidd, mewn gwrthgyferbyniad â’r patrymau caeau geometregol a oedd yn gysylltiedig â gweithredu Dyfarniadau Seneddol Cau Tir y 19eg ganrif (ardaloedd ucheldirol 2 ac 16 er enghraifft). Gellir gweld enghraifft nodweddiadol o hyn ar lethrau isaf Mynydd Llanbedr, yn SH 620274 ger Cae’r Cynog (ardal 16, ond maent yn bodoli yma a thraw ymhob rhan o’r ardal).

Yn anffodus nid oes gennym unrhyw ddata ar gyfer canrannau cymharol y ffermydd â thenantiaid yn Ardudwy yn 1592, ond mewn mannau eraill ym Meirionnydd (yn enwedig yn Ystumanner) mae’n eglur bod maint y lleiniau llechfeddiannol yn cynyddu yn ôl canran y tir â thenantiaid (gweler isod hefyd).

Ar yr un pryd, roedd rhywfaint o wasgaru’r anheddiad ac arwyddion pendant bod rhai ffermydd newydd yn cael eu hadeiladu ar dir comin a oedd newydd ei gau, (gweler Cae’r Cynog uchod). Fodd bynnag, mae’r enghreifftiau o aneddiadau sgwatwyr a gofnodwyd o'r cyfnod hwn yn hynod brin, ac wedi'u gwasgaru ar hap.

Ar yr ardaloedd bychain gwasgaredig ar y llethrau is lle roedd y pridd wedi’i ddraenio’n dda (gweler uchod ac isod) y gwelwyd crynodiad mwyaf yr anheddu canoloesol cynnar. Roedd estyniad dilynol y cymunedau trefgordd yn ymestyn o’r rhanbarthau hynny. Ymyl newydd i’r rhostir, neu ‘crenellated margin of occupation’ (Thomas 1967b) oedd cynnyrch y gweithgaredd hwn yr oedd ei hynt a’i lleoliad manwl yn dibynnu ar gyfres o ffactorau rhyngweithiol. Roedd y rhain yn cynnwys hanes daliadaeth tir y gellid ei lechfeddiannu (gan fod eiddo sy’n gysylltiedig â Phrydlesi’r Goron yn denu rhydd-ddeiliaid mwy amlwg sy'n awyddus i gipio mannau amgaeedig mawr), ansawdd y pridd a'r llystyfiant a rôl uchder.

Maes-y-neuadd, Glyn-cywarch a Chors-y-gedol oedd yr unig stadau sylweddol eu maint yn y cyfnod ôl-ganoloesol (er enghraifft, fe brynodd Griffith Fychan (Vaughan) o Gors-y-gedol 20 llain o ffridd, yn 533 erw o dir ym 1595, tir a oedd wedi bod yn nwylo sawl un ers i'r Goron ei roi 20 mlynedd ynghynt).

Yn ystod Rhyfeloedd Napoleon, arweiniodd y galw am gynnydd mewn cynhyrchiant at ailasesu adnoddau amaethyddol, yn enwedig tiroedd comin. Roedd Deddfau Seneddol preifat a llechfeddiannau anghyfreithlon wedi traflyncu llawer ohonynt dros gyfnod o sawl canrif (Thomas, 1967). Ar yr un pryd, yn 1801, sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Meirion.

Roedd canlyniadau gweladwy rhannu’r tiroedd comin rhwng perchnogion preifat yn yr iseldiroedd a’r ucheldiroedd fel ei gilydd yn ddramatig, gan fod y muriau hir o gerrig a oedd yn ffiniau i’r ffriddoedd a’r ffosydd draenio yr oedd perchnogion tir goleuedig wedi gorchymyn eu torri yn y corsydd ag argloddiau, yn cynhyrchu rhwydwaith o gaeau mawr unionlin a oedd yn cyferbynnu'n llwyr â chlytwaith afreolaidd y caeau bach mwy hynafol. Ymhlith y tiroedd comin a gaewyd ar ddechrau’r 19eg ganrif roedd Llanfihangel-y-traethau (1806), Llandanwg (1806), Llanfair (1810), Llanbedr (1810), Llanenddwyn (1810), Llanddwywe (1810) a Llanaber 1810).

Wedi i stad Glyn-cywarch (ardal 31) gau a draenio rhan o Forfa Harlech (ardal 30) ym 1789 fe gollodd bwrdeisiaid y dref (Harlech, ardal 18) hawliau tir comin yno. Cynyddodd y rhenti yn gyflym yn sgîl effaith anochel y mesurau hyn, a sylw Kay (1794) oedd eu bod wedi dyblu neu hyd yn oed treblu.

Mae’n amlwg nad y tyddynwyr a’r tenantiaid, sef mwyafrif y boblogaeth, oedd buddiolwyr y technegau gwell, cau'r tiroedd, cynyddu'r rhenti a'r prisiau, ond y meistri a allai gryfhau eu sefyllfa o ran cyfoeth a grym gwleidyddol. Ni ellid gwella llawer o’r tir a oedd newydd ei gau dan yr amodau technolegol a oedd ohonynt ar y pryd, ac yn gyffredinol, roedd estyniadau i’r hafodydd a’r cnewyll a fodolai yn barod ar y ffriddoedd neu’r unedau a oedd yn rhan o’r we anheddu cyn cyfnod cau’r tiroedd yn fwy niferus na’r ffermydd newydd a grëwyd. Roedd y Comisiynwyr yn wir yn cydnabod bod yr hen lechfeddiannau yn gyfreithlon, ond prin y lleddfwyd y pwysau o ran y boblogaeth yn sgîl ehangu’r ardal amaethyddol, a hynny oherwydd bod y mecanweithiau prisiau a rhent yn gweithredu er budd y cynhyrchwyr mawr a'r landlordiaid mawr yn hytrach na'r werin yr oedd eu brwdfrydedd dros gael tyddynnod a phrydlesau newydd yn gwneud y sefyllfa’n waeth.

Yn y pegwn arall yr oedd y rheiny a oedd yn barod i ymdopi ag ansicrwydd prisiau amaethyddol cyfnewidiol, morgeisi, problemau prydlesi a chynaeafau gwael. Yn aml iawn, byddai’r teuluoedd hyn yn anwybyddu’r gyfraith yn fwriadol ac yn ymsefydlu fel sgwatwyr y tu hwnt i ymyl y rhostir, gan wir gredu o bosibl, y byddai’r traddodiad ‘ tyˆ unnos’ yn eu diogelu pan fyddent mewn angen enbydus. Felly ychwanegwyd elfen anheddu newydd at y llu o hafodydd a lluestau a oedd bellach yn ffermydd parhaol. Roedd yr elfen hon yn debyg iawn o ran ffurf ac yn deillio o achosion tebyg iawn megis y cabanau pellennig ag un neu ddau gae neu ardd oedd ar wahân i weddill y gymuned mewn sawl ffordd.

Rhoddodd yr achosion heintus hyn o sgwatio ac o brocio ffiniau’r caeau yn fwy agored ddiwyg droellog a charpiog i ymyl y rhostir erbyn y 1840au a gellid ail-greu yn feddyliol ddatblygiad y dirwedd ar aml i fap Degwm trwy astudio patrymau anheddu a phatrymau caeau ar hyd ymylon y tiroedd comin sy'n weddill.

Er enghraifft, yn y 1840au, roedd maint 27 o ffermydd yn Llanddwywye rhwng 1-24 erw, 25 rhwng 25-49 erw, 20 rhwng 50-99 erw, 9 rhwng 100-199 erw, a 19 yn fwy na 200 erw.

Un o sgîl effeithiau llechfeddiannu’r tir comin a thiroedd y Goron yn yr unfed ganrif ar bymtheg oedd twf ffermydd mawr fel rhan o'r stadau yn hytrach nag ymhlith rhydd-ddeiliaid eraill, a'r landlordiaid a oedd ar eu hennill fwyaf o'r Ddeddf Cau Tir Comin ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae hi felly yn wir yn gyffredinol bod ffermydd ar y stadau mwyaf yn y 1840au yn tueddu i fod yn fwy na’r rheiny y byddai rhydd-ddeiliaid o statws is, neu stadau bychain yn berchen arnynt.

Mae Thomas (ibid) wedi dadlau bod gwrthwynebiad y rhydd-ddeiliaid llai llewyrchus i adeiladu stadau yn fwy effeithiol yn y rhannau hynny o Ardudwy oedd â hanes deiliadol arbennig o gymhleth ers creu’r gafaelion yn y canol oesoedd, yn enwedig ymylon iseldirol y rhanbarthau rhostirol enfawr, a bod y lleoliadau hyn yn fannau lle roedd tyddynnod yn dal i fod yn y mwyafrif.

Mae’r cofrestrau degwm yn ffynhonnell gwybodaeth sy’n dyddio o’r cyfnod ar ôl cau’r tiroedd comin ond cyn torri’r rheilffordd mewn sawl ardal o’r Parth Ucheldirol. Mae effaith yr amodau adeg rhyfel pan ddefnyddid dulliau artiffisial o godi prisiau’r grawn yn dal i’w weld hyd at ddiddymu’r Deddfau Yd ym 1846. Serch hynny, mae rhai ffermydd ar gorstir a adferwyd yn dangos patrymau caeau amlwg iawn ac felly terfynau ffermydd a allai ein harwain i'w disgrifio fel math morffolegol newydd o fewn y grwp hwnnw o ddaliadau lle roedd porfa yn brif nodwedd y defnydd tir.

Roedd y strwythur cyfan, yr economi ac agweddau cymdeithasol cysylltiedig y system stadau yn gynhenid bellach nid yn unig ym meddyliau’r bobl, ond hefyd yn y dirwedd, ac mae'n hawdd bod yn ymwybodol o hyd bod y ffermydd o leiaf gant saith deg o flynyddoedd o oed, a therfynau'r caeau'n deillio yn y bôn o'r unfed ganrif ar bymtheg os nad cynt.

Yn y 1840au, yn ôl mapiau Degwm Stadau Graig Isaf, Graig Uchaf a Graig Fforchog yng Nghwm Nantcol, cyfanswm o 1,425 erw (ardal 17 ond yn ymestyn i ardal 16) oedd fferm fwyaf y sir. Ei pherchennog oedd William Ormsby-Gore ond roedd ar brydles i Morris Jones a Robert Owen. Enghraifft yw hon o nodwedd arall o stadau bonedd cryno; cedwid y demên wrth law tra bod tenantiaid unigol yn rhentu ffermydd eraill, ac ambell waith hyd yn oed y demên, fel yn achos Cors-y-gedol.

O’r 13eg ganrif ymlaen ceir tystiolaeth o hendrefi a hafodydd, nid yn unig fel mathau ar anheddau, ond fel mannau penodol ag enwau arbennig. Erbyn yr 16eg ganrif, mae cofnodion yn aml yn cynnwys yr enwau hendre a hafod; mae enwau sy'n cynnwys yr elfen hafod yn digwydd yn amlach nag enwau sy’n cynnwys yr elfen hendre ac mae hyn i'w ddisgwyl oherwydd bod yr olaf yn ddeiliadaethau mwy sefydledig sy’n llai tebygol o fod yn destun ymgyfreithio na'r hafodydd a oedd yn datblygu fel daliadaethau ar ymyl y rhostiroedd agored a hynny’n arwain at gryn drais a chynnen. Erbyn y cyfnod hynny os nad cynt, fe ymddengys yn eithaf eglur o’r enghreifftiau a welir uchod bod lleoedd â’r elfen hafod yn eu henwau, fel y rhai sy'n cynnwys yr elfen hendre, yn lleoedd ar wahân sydd dan berchnogaeth ac yn cael eu rhoi ar osod, ac mae’n bosibl fod rhai ohonynt eisoes ar wahân i’r hendrefi.

Mae Edward Llwyd yn ei Parochialia (1699) yn nodi sawl hendref a hafod ym Meirionnydd, ac mae’n rhestru, er enghraifft, ‘Hendre’ yn Llanfihangel-y-traethau, fel rhywle sydd ymhlith ‘Y Tai Kyvrivol’ yn y sir, a ‘Hafod y wern’ yn Llanfihangel-y-traethau ymhlith ‘other houses’. Mae’n eglur bod yr hafodydd a enwir ganddo yn eiddo ar wahân, ac nid yn atodiadau ucheldirol i ffermydd yn is i lawr y llethrau. Yn gryno, mewn sawl achos, roedd yr hafod wedi dod yn fferm ar wahân, er nid ymhob achos.

Er ei bod yn ymddangos bod rhai hafodydd eisoes yn ddeiliadaethau ar wahân hyd yn oed yn y 13eg ganrif, a bod y broses honno eisoes wedi datblygu yn dda erbyn y 16eg ganrif, mae’n eglur bod hafodydd eraill yn parhau i gael eu defnyddio fel canolfannau wrth drin y tir pori ucheldirol yn yr haf hyd at ddechrau’r 19eg ganrif; mae amryw o deithwyr yng Nghymru yn cyfeirio at hyn. Disgrifiad Thomas Pennant yw'r llawnaf a'r enwocaf, ac mae'n ymwneud â massif Eryri. Fe gofnododd hefyd (1773) sut y bydd perchennog Cwm Bychan ‘distributes his hinds among the Hafotys, or summer dairy houses, for the conveniency of attending his herds and flocks'.

Mae’n eglur bod yr arfer o gadw hafod ac ymfudo yno i bori’r anifeiliaid yn yr haf wedi dod i ben ar wahanol adegau mewn gwahanol ardaloedd, a hefyd bod datblygiad rhai o’r hafodydd yn ffermydd ar wahân, a maes o law yn ffermydd annibynnol, yn digwydd ar gyflymderau gwahanol o’r 16eg ganrif fan bellaf, ac mae’n debyg o ddyddiad cynharach. Mae’n eglur hefyd na ddaeth pob hafod yn fferm ar wahân ac mae’n fwy na thebyg fod sawl hafod, o ddod yn ddaliad ar wahân wedi rhoi’r gorau i’r enw hafod neu hafoty ac wedi mabwysiadu enw arall.

Mae gwasgariad fertigol yr enwau hendre a hafod/hafoty yn yr ardal yn arwyddocaol. Tuedda’r enwau hendre/hendy i orwedd islaw 180m (Hendre-waelod yng Nghwm Nantcol yw’r uchaf o bosibl), tra bod yr enwau hafod/hafoty a ffridd yn bennaf uwchlaw 200m. Mae Meifod yn air arall sy’n werth ei nodi. Gallai hyn olygu ‘anheddiad mis Mai’ neu ‘anheddiad canol’, rhwng hendre a hafod. Mae dwy fferm â’r enw yma, Meifod-ucha (72 erw) a Meifod-isa (73 erw) ychydig i’r gogledd o Gors-y-gedol ar lethrau canol y bryn. Mae eu lleoliad yn gyson â’r posibilrwydd mai safleoedd ar gyfer yr haf cynnar, neu aneddiadau canol rhwng y gaeaf a’r haf oeddent ond mae’r dystiolaeth yn brin iawn.

Mae ysgubor ar wahân mewn cae, neu feudy, yn nodwedd arwyddocaol dros ben yn nhirweddau amaethyddol ucheldirol Ardudwy, ac mae nifer sylweddol ohonynt yn gysylltiedig â ffermydd ôl-ganoloesol ucheldirol diweddarach, megis Gilfach Goch (ardal 15), yn ogystal ag eraill ar yr un ffurf sy’n bellach i ffwrdd (e.e. ger Rhydgaled Isaf (SH590313)). Yn nodweddiadol, byddent yn cael eu hadeiladu gyda’r talcen yn y llethr. Defnyddid y rhan isaf, y gellid mynd iddi trwy ddrws ar y pen isaf, i gadw gwartheg dros y gaeaf, a byddai gwair a phorthiant yn cael eu storio ar lefel uwch y gellid mynd iddi trwy'r talcen gyferbyn. Er nad astudiwyd y rhain na’u dyddio’n fanwl gywir, mae’n ymddangos eu bod yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg (a dim cynt) ac er bod rhai yn dal i gael eu defnyddio, mae llawer ohonynt bellach yn adfeilion, yn enwedig y rheiny yn y lleoedd mwyaf anghysbell. Mae’r defnydd hwn o ysguboriau allfaes yn arbennig o nodweddiadol o ardal Meirionnydd yn gyffredinol, ac mae’n annhebyg yn hyn o beth i lawer o ardaloedd ucheldirol tebyg yn Sir Gaernarfon.

Mae gan yr ardal furiau ‘traddodiadol’ nodweddiadol iawn i’r caeau, ac mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn waliau sychion. Mewn ambell ardal (er enghraifft, 13 a 25), mae'n debyg bod y rhan helaeth o batrwm cyfredol y caeau yn gynhanesyddol o ran tarddiad. Mae llawer o derfynau’r caeau yn ymddangos fel cloddiau isel o rwbel, sydd bellach wedi’u gwastatáu braidd, ac maent yn gysylltiedig ag aneddiadau â chlystyrau o gytiau amgaeedig. Mae waliau cerrig diweddarach wedi’u codi ar lawer o’r rhain, a defnyddir hwy o hyd o amgylch Bron-y-foel (ardal 7) a Byrllysg (ardal 13) er enghraifft, ond nodweddion creiriol yw eraill. Mae llawer o’r ffiniau ‘cynhanesyddol’ hyn wedi’u hadeiladu ar sylfaen orthostatig, yn rhannol o leiaf, ac maent yn arbennig o nodweddiadol o’r llethrau ar ganol yr ucheldir sy’n wynebu’r môr. Mae’n ymddangos bod eu dosbarthiad yn adlewyrchu lleoliad y clwstwr cytiau a’r aneddiadau cromlinog ac ni welwyd yr un hyd yma yn bell o safle o’r fath.

Ychydig iawn o gloddiau pridd sydd yn yr ardal, a dim cloddiau yn nhraddodiad Llyn. Mae’r rheiny sydd yno ar dir isel, er bod llawer o'r terfynau cynharach wedi tyfu’n wyllt ac yn edrych fel cloddiau. Oherwydd iddynt gael eu defnyddio'n barhaus dros y canrifoedd, mae llawer ohonynt bellach yn edrych fel terasau neu linsiedi, gydag arwynebedd y llawr ar ochr uchaf y llethr rhwng 2-3 troedfedd uwchlaw lefel y llawr ar ochr isaf y llethr. O uwcholwg, gwelir patrwm cromlinog neilltuol i’r ffiniau hyn, sydd yn aml yn dilyn graen y tir. Mae hyn yn eu gosod ar wahân i'r terfynau diweddarach sydd ar y cyfan yn syth ac heb fod yn talu fawr sylw, neu unrhyw sylw o gwbl, i'w cyd-destun yn y dirwedd (er enghraifft, ardal 02). Maent wedi’u cofnodi o hyd fel ‘wandering walls’ o ganlyniad i ddisgrifiad Bowen a Gresham (1967).

Mae ffiniau diweddarach (ôl-ganoloesol) hefyd yn nodweddiadol yn waliau sychion, a gwelir hwy mewn amrywiaeth o arddulliau lleol ar hyd a lled y dirwedd, yn nodi datblygiad amseryddol a thraddodiad brodorol lleol fel ei gilydd, yn ôl pob tebyg. Maent yn amrywio o waliau sydd bron yn wyn sy’n gwahanu caeau gwyrdd y llain arfordirol isel (ardal 03) i’r llinellau llym anghydweddol braidd sy’n rhedeg ar draws yr ucheldiroedd pellennig (ardal 2). Rhwng y ddau, mae arddulliau unigryw yr adeiladu (yn enwedig o ran y defnydd a wneir o feini copa), y dechneg a'r lleoliad ffisegol (rhai ohonynt wedi eu codi i redeg i lawr llethrau sydd bron â bod yn fertigol) yn golygu mai'r waliau cerrig diweddarach hyn o bosibl yw'r nodwedd hanesyddol mwyaf neilltuol yn nhirwedd Ardudwy.

Daeth arolwg rhanbarthol o amaethyddiaeth yng Nghymru a gynhaliwyd yn gynnar yn y 1940au i’r fei â nifer o ystadegau diddorol (Ashby ac Evans, 1944): yn eu plith roedd y ffaith mai 46.3 erw oedd maint daliadaethau Meirionnydd ar gyfartaledd, bod 56% o'r tir yn dir pori garw (y sir uchaf ond un yng Nghymru) a bod 29% o'r tir yn cael ei amaethu (er mai 8.8% o’r tir a amaethwyd oedd yn cael ei ddefnyddio i dyfu cnydau). Yn ucheldiroedd Meirionnydd oedd y ganran isaf o dir wedi'i drin a'r gyfran uchaf o ddefaid yng Nghymru. Hefyd, yn gyffredinol, gogledd-orllewin Cymru oedd yr ardal lle roedd y nifer fwyaf o dirfeddianwyr mawr a nifer arwyddocaol o dyddynnod.

Yn ôl at map ardal Ardudwy

Anheddu

Aneddiadau anghnewyllol

Mae adeiladau (ar wahân i eglwysi) yn dechrau ymddangos yn hanes yr ardal o’r cyfnod is-ganoloesol (yn enwedig diwedd yr 16eg ganrif) ymlaen. Mae’r ardal yn gymharol gyforiog o dai is-ganoloesol, gan gynnwys stadau bonedd sylweddol (gan gynnwys Cors-y-gedol (1576 - ardal 9) ac Egryn (ardal 1 – y darganfuwyd yn ddiweddar mai 1496 oedd ei dyddiad, y tyˆ cynharaf ei ddyddiad yn Ardudwy (Smith, 2001, 424)), yn ogystal â thai fferm mwy cymedrol eu maint (Uwchlaw’r coed, Cwm Bychan - ardal 28) a’r Lasynys-fach (ardal 30). Mae’r gronoleg hon yn adlewyrchu newidiadau cymdeithasol canoloesol hwyr a Thuduraidd sy’n gysylltiedig â chreu stadau bychain, a sefydlu dosbarth o denantiaid sy’n ddeiliaid tir ar les hir.

Erbyn amser Elizabeth I, roedd y neuadd agored (fel yr un yn Egryn) yn llai ffasiynol ymhlith bonedd y rheng ganol ym Meirionnydd, ac ymddangosodd ffurf cynllun yn y 16eg ganrif y mae'n anodd gweld y cysylltiad rhyngddi â’r math o neuadd-dai canoloesol sy’n gyffredin yn lleol. Y tyˆ dwy-uned â’r simnai ar y pen, tyˆ syth-i-mewn lle roedd y llawr gwaelod yn cynnwys ystafell fawr â lle tân yn ei chynhesu, gyda chyntedd croes yn ei gwahanu oddi wrth y parlwr a’r stordy, a dwy ystafell wely ar y llawr cyntaf. Dyma’r math is-ganoloesol mwyaf cyffredin o ddigon yng ngorllewin Meirionnydd (Smith, 2001, 432), ac Uwchlaw’r-coed, (ardal 28) yw’r enghraifft gynharaf y gwyddys amdani (dyddiad ar arysgrif): mae sawl enghraifft arall heb ddyddiad, er enghraifft Brynrodyn. Mae’r tai hyn yn gymharol fychan, ac am y rheswm yma, fe'u hymgorfforir yn aml yn y 'system uned' lle ychwanegwyd ail dyˆ cyfan at y tyˆ cyntaf.

Mae’n debyg i lawer o’r olion archeolegol creiriol (cytiau hir a safleoedd llwyfan yn enwedig) sy’n goroesi yn yr ardaloedd ymylol ucheldirol (ardaloedd 6, 7 a 26 er enghraifft) gael eu codi ar safleoedd anheddau cyfoes tlotach.

Mae’r tai y gwyddys iddynt fod yn perthyn i ‘Noddwyr y Beirdd’ yn y cyfnod ôl-ganoloesol yn awgrymu pa dai oedd yn perthyn i’r bobl gymharol gyfoethog. O’r gogledd i’r de, nodwyd mai Plas (Llandecwyn, mae’n debyg), Maesyneuadd, Glyn (Cywarch), Cwmbychan, Gerddi Bluog, Tyddynyfelin, Cae-nest, Talwrn, Maesygarnedd, Taltreuddyn, Cors-y-gedol, Hendrefechan, Egryn a Llwyn-du oedd y rhain (Bowen, 1971).

Mae’r argraffiadau cynnar yn awgrymu bod y rhan fwyaf o’r ffermydd wedi’u sefydlu’n gynnar, gan fod nifer helaeth o adeiladau cynnar (cyn y 19eg ganrif yn y cyd-destun hwn) gan gynnwys adeiladau fferm. Yn eu plith mae Caerwch (SH636369), Cefnfilltir (SH 586337) a Hendre Fechan, Tal-y-bont (SH595212). Mae fferm Llanddwywe, gyda’i chasgliad o adeiladau amaethyddol mewn cyflwr da (gan gynnwys ysgubor, certws, beudy a chlamp tatws, ger yr eglwys ar y ffordd fawr (ardal 14) yn oroesiad hynod. Ceir cyfres bwysig hefyd o ffermydd canolig eu maint a hyd yn oed rhai mawr (gweler uchod) o'r 18fed, a dechrau'r 19eg ganrif, ac mae nifer o'r rhain naill ai wedi eu hailgodi neu yn ffermydd a sefydlwyd yn ddiweddarach (e.e. mewn lleoedd llai ffafriol). Mae Penrallt (ardal 15, ychydig i’r dwyrain o Lanbedr) yn enghraifft arbennig o drawiadol o fferm o’r 17eg/18fed ganrif sy’n bensaernïol arbennig ac heb ei thebyg: mae ganddi fuarth stabl mawr hynod y gellir ei chyrraedd trwy fynedfa fawreddog.

Mae’r ffermydd mwy hyn, ar y cyfan, mewn mannau iseldirol, ar lethrau is y bryniau, yn wynebu’r môr neu mewn dyffrynnoedd diarffordd. Yn ogystal â hyn, mae gan yr ardal gyfoeth o ffermydd bychain mewn cyflwr da o gymeriad ‘ucheldirol’, llawer ohonynt yn rhestredig. Ymhlith rhai o’r enghreifftiau gorau mae Argoed (fferm fechan math uned sydd â chasgliad da o dai allan o amgylch buarth afreolaidd ei siâp - ardal 25), Drws-yr-ymlid (sy’n dyddio o 1735 ymlaen, unwaith eto â chasgliad bychan o dai allan, gan gynnwys cut moch, bragdy a chut ieir - ardal 25 eto), Merthyr (ffermdy un-llawr yn wreiddiol, gydag estyniadau i’r talcen a buarth bychan anffurfiol – hefyd yn ardal 25), Foel (ffermdy bychan, syml â ffenestri yn y tu blaen yn unig a dim tai allan) a Nant Pasgan Mawr a Bach (dwy fferm fechan bellennig o'r 18fed neu’r 19eg ganrif ar frig ardal 22).

Ceir rhai eithriadau i’r syniad o ffermydd sydd wedi’u sefydlu’n gynnar: er enghraifft ceir cyfres o ffermydd o’r 19eg ganrif ar hyd y ffordd ar Forfa Harlech (Pen-y-waen, Ty'n-yr-acrau, Ty'n-y-morfa, Ty-canol ac ati) sy’n dangos anheddu hwyr y tiroedd arfordirol sydd wedi’u gwella. Ceir hefyd sawl fferm 'stad fodel' sy’n dyddio o’r un ganrif, unwaith eto ar y tir is, mwy ffrwythlon. Mae’r rhain wedi’u hadeiladu at y diben, ac mae’r tai yn fawr ac wedi’u codi o amgylch rhyw fath o libart: mae Felinrhyd-fawr ar ochr y ffordd yn ardal 5 ac yn enwedig Plas y Bryn, ychydig y tu allan i Lanbedr (ardal 14) yn enghreifftiau da. Mae gan yr olaf, sy’n rhan o stad Cors-y-gedol, res drawiadol o adeiladau amaethyddol o hyd gan gynnwys colomendy crwn, beudai ac ysgubor â phileri haearn bwrw godidog.

Ychydig iawn o dyddynnod sydd yn yr ardal: mae’r fferm restredig Gilfach Goch (SH587326) uwchlaw Llanfair (ardal 15) sy’n dyddio o’r 17eg ganrif ymlaen yn enghraifft prin. Yn ogystal â hynny, mae nifer o fythynnod bychain ar ochrau’r ffordd, ond mae’n bosibl mai disodli anheddau gwaelach a chynharach (gan fod symud o aneddiadau gwasgaredig i bentrefi yn batrwm cyfarwydd yn y 19eg ganrif) oedd yn gyfrifol am dwf sawl pentref yn ail hanner y 19eg ganrif (gweler isod).

Yn y 19eg ganrif, mae’n debyg i’r pwyslais ar adeiladu newid a throi tuag at economi seiliedig ar y pentref ac yna ar sail yr arfordir/hamdden, o amgylch craidd pentrefi o'r 19eg ganrif i raddau helaeth, (gweler yr adran nesaf). Mae’r patrwm hwn i’w weld yn amlwg heddiw.

Yn ôl at map ardal Ardudwy

Aneddiadau cnewyllol

Fel y gwelsom, er mai aneddiadau ffermio gwasgaredig sy’n nodweddu rhan helaeth o’r ardal, mae aneddiadau cnewyllol hefyd yn elfen unigryw o’r dirwedd hanesyddol. Bron yn ddieithriad, gorwedd yr holl aneddiadau cnewyllol ar y llethrau is sy’n wynebu’r môr, ar hyd brif ffordd fodern yr A496 o’r gogledd i’r de. Anheddiad bychan Pentref Gwynfryn, i'r dwyrain o Lanbedr, ar y ffordd rhwng Cwm Nantcol a Chwm Bychan yw’r unig eithriad. Hawlia Atlas Meirionnydd (Bowen, 1971) ei fod o ‘medieval origin’.

Ceir cysegriadau gwreiddiol a ‘Cheltaidd’ (cynnar, yn ôl pob tebyg) mewn cysylltiad ag eglwysi Llandecwyn (bellach yn eglwys ddiarffordd yn ardal 22), Llandanwg (sydd ag anheddiad ‘gwyliau’ yn dyddio o’r 19eg a’r 20fed ganrif o’i amgylch - ardal 4), Llanenddwyn (bellach bron ar ei phen ei hun islaw Dyffryn Ardudwy - ardal 14) a Llanddwywe (hefyd bron ar ei phen ei hun islaw Cors-y-gedol yn ardal 8). Ymhlith y cyflwyniadau canoloesol eraill mae Llanfihangel-y-traethau (yn Ynys, ar ddarn o dir a fu unwaith yn ynys, ardal 19) a Llanbedr (sy’n dal i fod yn anheddiad cnewyllol sylweddol, ond heb unrhyw adeiladau domestig yn tarddu o’r canol oesoedd - ardal 18). Ac eithrio Llandecwyn, mae pob un o’r rhain ar y llain arfordirol isel, o fewn cyrraedd hawdd i’r môr. Mae’n debyg bod Llandecwyn wedi ei adeiladu ar lwybr cynnar a oedd yn arwain i fyny o’r môr (Traeth Bach, ger aber Afon Dwyryd) a thros y mynyddoedd i Drawsfynydd (neu cyn hynny, o bosibl, i Domen y Mur).

Harlech oedd yr unig anheddiad canoloesol gwir gnewyllol yn Ardudwy (ardal 24, gweler isod): fodd bynnag, hyd yn oed yn y fan hon nid yw hen wreiddiau'r dref wedi gadael eu hôl ar wahân i furiau'r castell, er bod darlun Speed o'r dref ym 1610 yn awgrymu mai ar hyd y Stryd Fawr ac i fyny Pen Dref yr adeiladwyd y dref wreiddiol. Er bod rhai adeiladau o'r 18fed ganrif yma, dyddio o’r 19eg a’r 20fed ganrif mae’r rhan fwyaf, ac mae cynllun y dref a’r adeiladau ynddi yn adlewyrchu’n eglur leoliad serth y dref ar lethr, a hefyd helaethiad y dref ar ôl dyfodiad y rheilffyrdd a gwella'r ffyrdd yng nghanol y 19eg ganrif.

Yr unig anheddiad arall ag iddo graidd a godwyd cyn y 19eg ganrif yw Llanfair (ardal 23). Yma, mae’r eglwys (sy’n tarddu o’r 13eg ganrif, ond a adferwyd i raddau helaeth ym 1857) wedi'i hamgylchynu â chlwstwr afreolaidd o adeiladau sy’n dyddio o’r 18fed ganrif mae’n debyg, ac mae’r ychwanegiadau o’r 19eg a’r 20fed ganrif ar wasgar ar hyd ochrau’r bryn uwchlaw i gyfeiriad y gogledd.

Mae’n ymddangos i’r holl aneddiadau cnewyllol eraill, o grwpiau bychain o adeiladau, yn aml heb fod yn fwy na ffermydd estynedig, megis Glan-y-wern ger Glyn-cywarch, a phentrefi cymedrol eu maint megis Ynys, Talsarnau, Llanfair a Thal-y-bont hyd at y pentrefi mwyaf (Llanbedr a Dyffryn Ardudwy/Coed Ystumgwern) dyfu ar hyd y brif-ffordd (nid ar hyd y rheilffordd, sy'n ddiddorol) yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fel y nodwyd eisoes, mae hyn yn adlewyrchu’r newid pwyslais ar yr adeg hynny i economi seiliedig ar y pentref ac yna, yn ddiweddarach, ar sail yr arfordir/hamdden, o amgylch craidd y pentref o'r 19eg ganrif i raddau helaeth.

Mae gan yr aneddiadau hyn gymeriad pensaernïol crefftau/gwyliau cymysg, ac adlewyrchir hyn yn nifer y capeli a’r tai teras sy’n dyst i’r cyntaf (er enghraifft yn Nyffryn Ardudwy ar ochr ddwyreiniol y ffordd – ardal 12), a’r terasau uwch a’r byngalos sy’n dyst i’r olaf (rhannau o Harlech a Llandanwg/Llanfair - ardal 24 a 4). Gellir olrhain datblygiad yr economi ‘gwyliau’ a’r adeiladau sy’n gysylltiedig ag ef trwy sawl cam a math pendant (e.e. filas preifat, gwyliau glan môr, byngalos ymddeol a charafannau).

Clystyrau llai, wedi eu codi o bosibl o amgylch capel gwledig diarffordd yw rhai o'r aneddiadau cnewyllol eraill. Y ffermydd ‘system uned' y mae llawer ohonynt yn yr ardal hon, yw'r aneddiadau cnewyllol lleiaf: dogfennwyd sawl enghraifft eisoes (e.e. Argoed, Tyddyn y Felin a Llanfair Isaf).

Parhaodd trefniant o bensaernïaeth garreg drawiadol trwy draddodiad celf a chrefft cryf ar ddechrau’r 20fed ganrif: gwelir hyn ar ei orau yn y gyfres o dai ar ymyl ddeheuol Harlech (ardal 24) a gysylltwyd â grwp o grefftwyr cosmopolitaidd ag A. Davidson yn eu canol. Maes o law, daeth ei gartref yntau i fod yn gnewyllyn Coleg Harlech.

I orffen, mae aneddiadau cnewyllol newydd diwedd yr 20fed ganrif i’w gweld yn rhy amlwg o lawer ar ffurf meysydd carafanau sefydlog rheoledig enfawr ar hyd yr arfordir o Dal-y-bont yr holl ffordd i Lanaber (ardal 3). Ychydig gydnabyddiaeth yn unig a rydd y rhain i gymeriad y dirwedd leol, ac maent wedi arwain at gyfosod rhyfedd iawn y traddodiadol (waliau caeau ac adeiladau fferm o garreg, a'r cyfoes (carafanau, siopau sglodion ac adeiladau adloniant).

Yn ôl at map ardal Ardudwy

Mathau o adeiladau a deunyddiau adeiladu

Mae economi amaethyddol unigryw yn amlwg ym mhatrwm yr adeiladau yn Ardudwy. Yn yr ardaloedd ucheldirol, y grwpiau anffurfiol o dai ger y ty (e.e. Llecheiddor Isaf yn ardal 7) neu ambell waith, er nid yn aml, yn parhau llinell y ty (e.e. Tyddyn Siôn Wyn (ardal 25), Caerwch (ardal 22) a Llidiart Garw (ardal 25)) sy’n nodweddu sawl fferm, (e.e. Argoed a Drws-yr-ymlid, y ddwy yn ardal 15; Cefnfilltir yn ardal 7). Yn aml, ychydig bellter i ffwrdd ceir beudy ar wahân mewn cae (Gilfach Goch (ardal 15)) a rhai o'r un math ychydig yn bellach eto (e.e. ger Rhydgaled Isaf (SH590313)), er bod llawer o’r rhain bellach yn adfeilion, yn enwedig yn y lleoedd mwyaf diarffordd.

Mae’n bosibl mai olion economi amaethyddol cynharach yn cynnwys y system hafod o drawstrefa yw’r strwythurau adfeiliedig (e.e. yn SH647317 yng Nghwm Bychan). Yn gyffredinol, ni welir llawer o ffermydd gweithredol yn uwch nag oddeutu 200m y dyddiau hyn ac nid oes yr un ohonynt yn uwch na 300m. Fodd bynnag, cofnodir aneddiadau gwledig gwag mor uchel â 400m (er enghraifft ar y llethrau is) a dehonglwyd mai anheddau tymhorol oedd y rhain (Kelly, 1982).

Ceir grwpiau mwy cryno o adeiladau fferm mewn lleoliadau ucheldirol ac iseldirol fel ei gilydd. Adeiladau ar gyfer yr anifeiliaid, yn enwedig y beudy yn y cae, yw'r rhan fwyaf o'r adeiladau (gweler uchod), ond mae olion ysguboriau dyrnu yn awgrymu ffermio cymysg. Mae ysguboriau gwair heb waliau hefyd yn nodweddiadol, yn enwedig yn yr ardaloedd isaf (er enghraifft, Felinrhyd Fawr - ardal 5; a Phlas y Bryn - ardal 14) ac maent wedi’u cysylltu ag amaethyddiaeth wedi’i gwella yn yr 19eg ganrif.

Er bod tystiolaeth 'archeolegol' o draddodiad fframiau blaenorol (e.e. yr adeilad cynnar yn Egryn (ardal 1), ysgubor nenfforchog yng Nghoed Mawr (ardal 15), a safon uchel y saernïaeth mewn tai is-ganoloesol yn gyffredinol), defnyddio carreg sy'n rhoi i'r ardal ei chymeriad amlycaf. Gellir gweld gwahanol arlliwiau ei defnydd, yn enwedig mewn adeiladau fferm, sy'n amrywio o godi waliau sychion (ar ffermydd ucheldirol megis Nant Pasgan-mawr yn bennaf), i furiau â morter (ffermydd iseldirol megis Freedman Dolmygliw - ger Llanbedr, ardal 15): mae’r amrywiaeth hon yn rhannol gysylltiedig â'r gronoleg, ond mae hefyd yn ymwneud â ffactorau cymdeithasol economaidd. Mae amrywiaeth sylweddol o fewn pob un, sy’n ymwneud yn bennaf ag ansawdd a chymeriad y cerrig sydd ar gael yn lleol.

Ymhlith yr anheddau hyn, mae datblygiad cynnar tyˆ aml-lawr cryno yn amlwg (tyˆ sy'n dyddio o ail hanner yr 16eg ganrif ymlaen), er bod enghreifftiau o neuaddau agored ar y llawr isaf (e.e. Egryn - ardal 1). Yn nodweddiadol, fe ddisodlwyd y neuadd agored gan y tyˆ aml-lawr â simnai ar y talcen, math nodweddiadol o ardal Eryri (Smith 1985). Uwchlaw’r Coed yw’r enghraifft gynharaf ag iddi ddyddiad pendant o dyˆ aml-lawr 2-uned mwyaf cyffredin (1585 - ardal 7). Ymhlith y gweddill mae Bron y Foel Isaf (hefyd ardal 7), Cwm Bychan (ardal 28), Penarth (ardal 15), Coed Mawr (hefyd ardal 15), Plas Llandecwyn (ardal 22), Crafnant (ardal 28) a Llwyn Hwlcyn (sydd hefyd yn cynnwys amrywiaeth drawiadol o dai allan, gan gynnwys ’sgubor ddyrnu, beudy, stabl a chertws - ardal 15). Mae’r tai ‘bonedd’ hyn yn ymddangos mewn amrywiaeth ryfeddol o eang o leoliadau daearyddol (ucheldirol ac iseldirol) sy’n awgrymu bod stadau bychain yn bodoli mewn mannau gwasgaredig yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol: gallai’r ffaith nad oes fawr o dyddynnod ar yr ymylon ucheldirol (tirwedd sy’n wahanol iawn, unwaith eto, i rannau o Sir Gaernarfon) gefnogi hyn. Awgrymwyd (gan Smith, 2001) bod maint cymharol fychan y math yma o dyˆ yn golygu ei fod yn gysylltiedig â'r niferoedd anheddau system-uned yn yr ardal hon (gweler isod). Roedd y math yma o dyˆ yn cymathu’n rhwydd y ffurf Sioraidd a symleiddiwyd, a oedd mor nodweddiadol o lawer o’r 19eg ganrif, ac efallai mai tuedd tuag at gynllun mwy cryno oedd y datblygiad mwyaf hynod.

Cafodd cyflwyno’r ffurf draddodiadol Sioraidd i’r traddodiad rhanbarthol brodorol o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen (gweler uchod) effaith sylweddol ar ddiwyg yr adeiladau. Gwelir hyn amlaf ym maint a math y ffenestri, sydd yn amrywio, unwaith eto yn ôl y gronoleg yn rhannol, ond hefyd yn ôl y lleoliad. Er enghraifft, mae ffermdai diwedd y 18fed neu ddechrau’r 19eg ganrif yn yr iseldir, megis Caerwych (ardal 22) yn rhai deulawr, â ffenestri dalenog ‘Sioraidd’ gyda dau fae neu hyd yn oed tri. Adeiladau un-llawr yn aml yw'r ffermydd ucheldirol, ar y llaw arall (unwaith eto, rhai 19eg yn bennaf), ac weithiau mae ganddynt ffenestri dormer ymestynnol ar y llawr cyntaf (megis Nant Pasgan-mawr, ymhellach i fyny ardal 22) neu ffenestri bychain yn lle hynny (fel y rhai yn Llecheiddor Isaf (ardal 7).

Mae’r toeau o lechi fel rheol, ond mae gwahaniaeth rhwng toeau llechi wedi’u graddio, wedi’u trefnu ar hap ac wedi’u gosod mewn morter calch, a’r llechi mwy rheolaidd eu siâp a dorrwyd â pheiriant. Mae llawer o adeiladau fferm bellach â thoeau sinc (yn lle llechi neu wellt, yn ôl pob tebyg) ac mae lliw coch y toeau hyn yn elfen nodweddiadol yn y dirwedd, yn enwedig ymhlith y ffermydd llai, ucheldirol (e.e. Argoed).

Un peth diddorol i’w nodi yw'r ffaith na ddefnyddir nemor ddim brics ar gyfer yr adeiladu: ac eithrio ychydig o dai yn Harlech a Llanbedr (gan gynnwys yr hostel ieuenctid presennol), mae holl stoc adeiladu’r ardal wedi'i godi o garreg, er y gallai fod gan rai o'r adeiladau fferm 19eg ganrif ar Forfa Harlech er enghraifft (e.e. Ty’n-yr-acrau - ardal 30) frics o dan eu rendr. Ni ddefnyddir brics yn rhan ucheldirol yr ardal, ac ni wnaed unrhyw ddefnydd o’r brics melyn Fictoraidd hollbresennol sy’n gysylltiedig â dyfodiad y rheilffyrdd y tu allan i Lanbedr.

Yn ôl at map ardal Ardudwy

Archeoleg greiriol

Y gwastadedd arfordirol

Ucheldir (dros c. 240m) yw llawer o Ardudwy, neu lethrau bryniau sydd ar ymylon yr ucheldir. Nid yw’r ardal iseldirol yn cynnwys ond y gwastadedd arfordirol, sy’n gul yn y de (ardal 3), ond yn lledu tua’r gogledd ym Morfa Dyffryn (ardaloedd 10 ac 11) a Morfa Harlech (ardaloedd 30 a 32). Mae’r gwastadeddau arfordirol hyn yn isel iawn ac yn wastad, ac mae gorchudd o fawn dros y rhannau isaf. Ymylon arfordir a foddwyd wrth i lefel y môr godi yn ystod y cyfnod ôl-rewlifol ydynt. Gwelir gorchudd o fawn, ynghyd â boncyffion coed o 'goedwig danforol’ a chlai morfa heli gwaelodol o bryd i’w gilydd yn y parth rhynglanwol lle mae’r arfordir yn erydu. Darganfuwyd cyrn ceirw cochion ac esgyrn ceirw a gwartheg yn y clai, er nad ydynt wedi'u dyddio hyd yma (Kelly 1982) ond gellir eu cymharu â’r darganfyddiadau o ddyddodion tebyg a astudiwyd yn eithaf manwl yn Ynys-las a’r Borth, ymhellach i’r de ym Mae Aberteifi. Yno, gellir gweld mawn rhynglanwol am ryw 5km ar hyd yr arfordir. Ymddangosant fel brigiadau ar y traeth oddi isod y gyforgors gyfagos yn y Borth, felly mae’n rhaid eu bod yn ymestyn o dan honno. Yn eu plith mae ffen, ffeniau gwern a gwelyau fforestydd dros glai’r morfa heli (Heyworth a Kidson 1982, 102). Mae dyddiadau radiocarbon yn cynnig dyddiad o c. 6000 CP ar gyfer y morfa heli gwaelodol a c. 5400 CP i 3900 CP, ar ei isaf, ar gyfer gwely’r fforest (ibid.). Daethpwyd o hyd i nifer o ddarganfyddiadau ar hap yn y mawn, gan gynnwys caib fflint mesolithig, naddion fflint, offeryn o gyrn carw ac aelwyd yn dyddio o c. 4000 CP o’r mawn o’i amgylch (Sambrook a Williams 1996, 26) yn ogystal ag esgyrn ceirw cochion a bos primigenius (gwartheg gwyllt).

Yn Ardudwy, yr unig arteffact o waith dyn a ddarganfuwyd yw morthwyl trydyllog o gyrn carw o Ynys Mochras (Guilbert 1981), ond nid yw'r union fan y cafwyd hyd iddo yn hysbys. Archwiliwyd llwybr pren yn yr ardal rhynglanwol yn Llanaber, ac yn ôl y profion radiocarbon, awgrymwyd dyddiad yn y 12fed i’r 14eg ganrif OC. Roedd boncyff coeden gerllaw, fodd bynnag, yn cynnig dyddiad o fewn y cyfnod Rhufeinig (Musson et al 1989). Crëwyd amgylchedd corstir wrth i’r arfordir gael ei foddi, ac ni fyddai llawer o ddefnydd wedi cael ei wneud ohono cyn draenio ar raddfa fawr yn y 18fed a’r 19eg ganrif. Gan ystyried y darganfyddiadau yn y mawn a ddaeth i’r golwg yn yr ymylon rhynglanwol yn y fan hon ac o’u cymharu â’r rheiny o amgylcheddau gwlyptirol o fannau eraill yng Nghymru a Lloegr, er enghraifft Gwastadeddau De Morgannwg a Gwlad yr Haf, mae’n dra thebyg fod y gorchudd mawn yn Ardudwy yn cuddio tirwedd archeolegol bwysig ag olion sawl mileniwm iddi. Fe fydd hyn yn cynnwys eitemau organig na chedwir mohonynt mewn mannau mewndirol eraill, megis olion anifeiliaid, glanfeydd, llwyfannau a llwybrau pren.

Yn ôl at map ardal Ardudwy

Y parth mewndirol

Mae offer fflint a cherrig a ddarganfuwyd yn darparu awgrymiadau defnyddiol o'r ardaloedd lle bu gweithgaredd cynhanesyddol yn ystod y cyfnodau mesolithig a neolithig. Mae fflint i’w gael ambell waith mewn clai ffrwd-rewlifol ond mae’n fwy hygyrch pan fydd wedi ei erydu allan o ddyddodion felly ar ymyl yr arfordir. Mae dyddodion felly i’w gweld ar yr wyneb yn Ardudwy o Fochras i Landanwg, ond mae rhai dyddodion graean a daflwyd yno gan y môr ar ran helaeth o'r arfordir. Er gwaethaf y ffaith fod deunyddiau crai ar gael, prin yw'r darganfyddiadau fflint yn Ardudwy. Adroddwyd mai darganfyddiad o Ynys Mochras (Ffoulkes 1852, 103) oedd yr unig gasgliad o faint sylweddol (ond a gollwyd bellach) a darganfyddiad unigol o Lanaber (CSH YAG). I ryw raddau, diffyg tir sydd wedi’i drin yn yr ardal fel bod y darganfyddiadau a ddaw i’r golwg yn brin, ac yn rhannol colli ymyl gynhanesyddol gynnar yr arfordir lle byddai’r rhan fwyaf o’r gweithgarwch wedi digwydd, sy’n gyfrifol am hyn, oherwydd bod lefelau’r môr yn codi.

Gall darganfyddiadau digyswllt o fwyeill carreg neolithig hefyd dangos y modd yr ecsbloetiwyd yr ardaloedd mewndirol yn eang, ond dim ond dau sydd o Ardudwy, y naill o Dalsarnau a’r llall o Lanbedr (CSH YAG). Mae’r dystiolaeth dros ddefnyddio’r mewndir ucheldirol cyn, neu hyd yn oed ar ôl, sefydlu’r cymunedau ffermio cyntaf ar ffurf ychydig o offer fflint a dyddiad radiocarbon yn deillio o’r gweithgarwch y daethpwyd o hyd iddo islaw strwythurau anheddiad o ail hanner y mileniwm cyntaf CC ym Moel y Gerddi, Harlech (Kelly 1988 - ardal 26). Mae astudiaethau o’r paill ym mawnogydd y dyffryn ger Moel y Gerddi wedi awgrymu bod rhywfaint o weithgarwch wedi’i gyflawni yma yn ystod y cyfnod mesolithig, ond yn awgrymu'n fwy pendant bod dynion wedi ymyrryd ac achosi dirywiad y coetir a bod planhigion y borfa yn bresennol yn ystod y cyfnod Neolithig, o oddeutu 4000CC (Chambers a Price 1988).

Mae grwˆp o feddrodau siambr hynod mewn cyflwr da yn Ardudwy yn dyddio o’r cyfnod neolithig cynnar, pob un ohonynt o fewn ardal o ryw wyth milltir o ran maint, sy’n awgrymu bod y grwˆp yn boblogaeth unigol, a luniwyd o sawl cymuned leol gysylltiedig. Ymddengys bod y rhain wedi’u seilio ar afonydd ac efallai ar gilfachau harbwr yn wreiddiol, sydd bellach wedi diflannu o ganlyniad i erydiad yr arfordir neu siltio. Mae’n debyg mai ar Afon Artro y seiliwyd un beddrod ar y cyrion, yn Gwern Einion i'r gogledd. I’r de mae pum beddrod, o amgylch Afon Ysgethin. Er gwaetha agosrwydd y beddrodau hyn, maent yn amrywio’n fawr o ran arddull. Mae cloddio yn Nyffryn Ardudwy yn dangos newidiadau yn arddull yr adeiladu a chyfnod hir o’u defnyddio, yn parhau i’r ail fileniwm CC (Powell 1963). Ceir tystiolaeth mai diwylliant Atlantig, gorllewinol oedd yn dylanwadu ar y trigolion cyntaf, ac roedd tebygrwydd i'r beddrodau ar benrhyn Llyˆn, Ynys Môn ac Iwerddon, tra daeth y dylanwadau diweddarach o dir mawr Prydain (Lynch 1969, 124-5).

Ni ddarganfuwyd olion yr un anheddiad o’r cyfnod hwn, ond mae trin y tir yn ddiweddarach wedi ymyrryd â’r ardal o amgylch y beddrodau. Fodd bynnag, mae llawer o botensial yn yr ardaloedd hyn yn aml, yn enwedig o amgylch y beddrod yn Nyffryn Ardudwy, lle mae terasau dwfn lle triniwyd y tir yn debygol o fod yn cuddio olion trin y tir yn y cyfnod neolithig neu olion anheddu, ac o amgylch Carneddau Hengwm mewn ardal nas triniwyd, lle gallai olion fod wedi goroesi’n helaethach, ac mae ymchwil ar y gweill yno (Johnson a Roberts 2001 - ardal 2).

Yn wahanol i’r cyfnod neolithig, mae amrediad llawer ehangach o dystiolaeth o anheddu yn ystod yr ail fileniwm CC, dechrau a chanol yr oes efydd, gyda nifer helaeth o henebion angladdol a defodol, gan gynnwys 42 o domenni claddu o wahanol mathau ac arddulliau, 19 o feini hirion a 4 cylch cerrig. Carneddau enfawr ar gopaon diarffordd amlwg yw rhai o’r tomenni claddu. Mae’r gweddill yn perthyn i ddau grwˆp daearyddol. Mae’r cyntaf yn yr ucheldir o amgylch Moel Goedog (ardal 25 yn bennaf), a’r ail yn yr ucheldir o amgylch Mynydd Egryn (ardal 2 yn bennaf). Mae gan y ddwy ardal fel ei gilydd archeoleg greiriol ddwys iawn, gydag amrywiaeth o henebion angladdol yn ogystal ag aneddiadau a chaeau. Ymddengys yn arwyddocaol fod y ddwy ardal yn gyfagos i lwybrau naturiol o bwys ac mae’n bosibl bod y ddwy fel ei gilydd yn ganolfannau angladdol arbenigol y bwriadwyd iddynt fod ychydig bellter o’r prif ganolfannau poblogaeth.

Mae’n ymddangos mai yn fwriadol y lluniwyd y llwybr at grwˆp Moel Goedog i ddilyn meini hirion, sef 'heol' o bosibl rhwng dwy garnedd gylchog. Mae un ohonynt yn cynnig tystiolaeth o lawer o weithgarwch seremonïol yn ogystal ag angladdol, ac amrediad o ddyddiadau rhwng tua 2000-1750CC (Lynch 1984). Gellir tramwyo grwˆp Mynydd Egryn ar lwybr â sawl henebyn ar hyd ei ochrau sy’n ymddangos fel pe bai â chysylltiad agos ag ef, gan gynnwys dau gylch cerrig ar arglawdd, un cylch cerrig bychan, Cerrig Arthur, a charnedd a ysbeiliwyd neu garnedd gylchog ar ysgwydd y bwlch drosodd i Ddyffryn Mawddach, lle mae cysylltiad amlwg rhyngddo â’r llwybr. Nid yw’r un o’r ardaloedd hyn o fewn rhannau mwyaf amaethyddol ffafriol Ardudwy, ac am y rheswm hwn, mae cyfoeth heb ei ail o archeoleg greiriol yn dal i sefyll.

Mae astudiaeth amgylcheddol wedi dangos bod yr ucheldiroedd hyn wedi gweld cyfnod sylweddol o glirio coetiroedd yn ystod yr ail fileniwm CC (Chambers a Price 1988). Byddai priddoedd y coetiroedd wedi bod yn eithaf ffrwythlon ar y dechrau, a gellir ystyried bod clirio’r coetiroedd yn arwydd bod yr ucheldiroedd wedi’u defnyddio’n eithaf dwys ar gyfer pori. Mae olion nifer o aneddiadau tai crynion gwasgaredig agored â waliau cerrig, neu dai crynion pellennig wedi goroesi yn yr ucheldiroedd hyn. Ni chloddiwyd yr un ohonynt, ac mae’n bosibl fod rhai ohonynt yn deillio o’r oes efydd. Mae cloddio aneddiadau diweddarach wedi awgrymu mai tai o wneuthuriad pren fyddai’r rhai yn y cyfnod hwn, ac felly fe fyddai'r olion yn anodd eu hadnabod (Kelly 1988).

Parhaodd clirio’r ucheldiroedd yn yr oes efydd hyd ganol y mileniwm cyntaf CC, pan arweiniodd hinsawdd a oedd yn dirywio neu ddulliau amaethu na ellid mo’u cynnal ar briddoedd tenau at ddatblygiad cyforgors fel y gwelwyd yn aneddiadau Erw-wen a Moel y Gerddi (Kelly 1988). Mae’n debyg i’r aneddiadau ucheldirol hyn fod yn rhai bugeiliol ar y cyfan, ond rhai a oedd hefyd yn cynnwys peth tystiolaeth o drin y tir. Fodd bynnag, roedd ystyriaethau economaidd eraill ar gyfer defnyddio’r ucheldiroedd yn y cyfnod hwn, fel y gwelwyd wrth i haearn gael ei gynhyrchu o’r mwyn yn y mawn yn anheddiad gwasgaredig Crawcwellt yn yr ucheldir yn Nhrawsfynydd heb fod yn rhy bell i’r dwyrain (Crew 1998).

Ar ymylon yr ucheldir, ar y llethrau yn wynebu’r gorllewin a oedd wedi’u draenio’n well oedd prif ffocws yr anheddu yn y cyfnod diweddarach hwn ac mae nifer o aneddiadau wedi goroesi lle na fu amaethu modern yn rhy ddwys. Roedd y boblogaeth yn ddigon dwys i gynnal trefniadaeth gymdeithasol sylweddol, wedi'i seilio ar sawl bryngaer fechan ym Moel Goedog, Clogwyn Arllef, Byrllysg, Craig y Dinas, Pen y Dinas, Castell a Dinas Oleu (Bowen a Gresham 1967). Mae pob un yn tremio dros y llethrau is, a defnyddir hwy yn helaeth ar gyfer amaethyddiaeth. Mae ynddynt olion niferus o aneddiadau tai crynion. Roedd yr aneddiadau yn Erw Wen a Moel y Gerddi yn dai crynion unigol mewn lloc consentrig, ac mae olion amrediad o aneddiadau lled-grwn hefyd nad ydynt yn unigryw i Ardudwy, ond sy’n nodweddiadol yn lleol. Mae rhai sydd wedi ymgaregu’n sylweddol ac mewn lleoliadau lled-amddiffynol, fel yn Erw Wen, Llandanwg a Cheunant Egryn, Llanaber. Mae peth tystiolaeth bod y ffurf hon ar anheddu wedi parhau o arddulliau'r oes efydd. Fe ddatblygodd yn grwpiau mwy cymhleth o strwythurau, gan ymgorffori adeiladau cadarn â waliau cerrig o bob siâp a maint at wahanol ddibenion. Yn ddiweddarach, roedd y brif arddull yn un o grwpiau mwy cnewyllol o dai ar dyddynnod cryno amgaeedig neu agored. Mae rhyw 25 o’r rhain wedi goroesi yn Ardudwy. Mae’r mwyafrif ohonynt wedi cadw eu siâp cromlinog y gellir gweld ei fod wedi datblygu o gynllun crwn gwreiddiol, er enghraifft ym Moel y Glo, Llandecwyn a Muriau Gwyddelod, Llanfair.

Mae’r aneddiadau cnewyllol amgaeedig ac agored i'w cael ar hyd pob rhan o ymylon ucheldir Ardudwy sy'n wynebu'r gorllewin (y rhan fwyaf ohonynt, er nad pob un, yn ardaloedd 7, 25 a 26). Yn agos at lawer ohonynt mae cyfundrefnau caeau â therasau cryfion sy’n awgrymu bod y tir wedi'i drin yn ddwys i dyfu cnydau. Dyma sy'n rhoi i'r dirwedd bresennol lawer o'i chymeriad lleol nodweddiadol. O amgylch Cors-y-gedol, Dyffryn Ardudwy (ardal 9), lle cloddiwyd un o’r aneddiadau cysylltiedig a dangos ei fod yn perthyn i'r cyfnod Brythonig-Rufeinig (Griffiths 1958), a Mynydd Egryn, Llanaber (De Lewandowicz 1981- ardal 2) mae dwy o’r ardaloedd â chyfundrefn gaeau yn y cyflwr gorau. Dengys hyn, a chymariaethau ag enghreifftiau eraill a gloddiwyd yng ngogledd-orllewin Cymru bod y rhan fwyaf o’r dirwedd archeolegol greiriol y mae’r aneddiadau a’r caeau hyn yn ei chynrychioli yn dyddio o’r cyfnod Brythonig-Rufeinig, gydag elfennau gwaelodol cynharach. Yn aml, ailddefnyddid yr un ardaloedd anheddu yn y cyfnod canoloesol, ond yn gyffredinol, byddent yn cadw patrwm bras y llociau neu’r caeau Brythonig-Rufeinig.

Nid oedd gan y rhan fwyaf o ucheldiroedd Ardudwy, dros c. 240m OD unrhyw aneddiadau amgaeedig o dai crynion yn y cyfnod Brythonig-Rufeinig er bod yno olion 15 o grwpiau o dai crynion agored a rhyw 20 enghraifft o dai crynion pellennig (Smith 1999), heb dystiolaeth o drin y tir. Gellid disgwyl mai aneddiadau bugeiliol oedd y rhain yn bennaf, yn ecsbloetio'r hyn oedd erbyn hynny, fel y mae heddiw, yn rhostir tlawd. Mae’n ymddangos i goetir gael ei adfer i ryw raddau yn ddiweddarach yn y mileniwm cyntaf CC yn dilyn gadael yr annedd ym Moel y Gerddi yn wag, er iddo ddirywio eto yn y cyfnod Brythonig-Rufeinig (Chambers a Price 1988, 99). Mae’n bosibl i rai o'r aneddiadau hyn fod â phobl yn byw ynddynt yn dymhorol, mewn cysylltiad â phatrymau pori, a hawdd yw sylwi bod y tai crynion ucheldirol hyn yn llai na’r rhai yn yr aneddiadau iseldirol. Mae hyn, a’r dystiolaeth o gyfnodau cynharach o dai â ffrâm bren a welwyd wrth gloddio ym Moel y Gerddi, yn dangos nad yw archeoleg greiriol Ardudwy, a welwyd yn bennaf mewn strwythurau cerrig megis carneddau, tai a chaeau, yn ddim mwy nag amlinelliad caled o dirwedd oedd â mwy o bobl o lawer yn byw ynddi.

Yn ôl at map ardal Ardudwy

Parciau a Gerddi

Nid oes ond dau barc a gardd gwerth eu nodi yn yr ardal astudiaeth, ond mae’r ddau fel ei gilydd oddeutu’r un oed, ac yn gysylltiedig â theuluoedd o bwys yn yr ardal. Ty’r teulu Fychan (Vaughan), ac yn ddiweddarach Mostyn yw Cors-y-gedol. Mae’n dyddio o’r 16eg ganrif ac mae ganddo borthdy o’r 17eg ganrif, ger cyffordd y tir wedi’i drin a’r mynydd-dir agored; mae ardaloedd mawr o goetir hynafol ac olion gardd o’r un cyfnod, o bosibl yno o hyd, gyda nodweddion diweddarach yn eu gorchuddio. Mae Glyn-cywarch i’r gogledd yn dyˆ o’r 17eg ganrif a godwyd gan y teulu Wynn, a’i ddisgynnydd, yr Arglwydd Harlech, yw’r perchennog presennol; mae yma borthdy hefyd, ac mae’n debyg fod ardaloedd yr ardd ger y tyˆ yn adlewyrchu’r cynllun gwreiddiol i raddau helaeth.

Mae’r ddwy ardd fel ei gilydd wedi’u cynnwys yn Cofrestr Tirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Arbennig yng Nghymru Rhan 1 Cadw/ICOMOS: Parciau a Gerddi, Glyn-cywarch yn raddfa II* a Chors-y-gedol yn raddfa II. Mae’r raddfa olaf yn adlewyrchu cyflwr y cadwraeth yn hytrach na phwysigrwydd y safle, sydd o leiaf yr un mor bwysig â Glyn-cywarch.

Yn ôl at map ardal Ardudwy

Diwydiannol

Ychydig iawn sydd gan Ardudwy o ran treftadaeth archeolegol ddiwydiannol. Ychydig iawn o weithgarwch diwydiannol y gorffennol sydd wedi gadael ei ôl ar y dirwedd. Mae’n debyg mai’r mwyaf sylweddol o ran y dirwedd yw mwynfeydd manganîs yr Hafoty (ardal 2), ond mae olion gwaith eithaf helaeth hefyd o amgylch Llyn Eiddew-mawr (ardal 33 a darlun) ac ymhellach i’r gogledd, ar lethrau dwyreiniol Y Gyrn. Hefyd ceir olion siafftiau a lefelau uwchlaw Coed Crafnant (ardal 28), ac ar lethrau is, gogleddol Moelfre (ardal 16) lle ceir olion cymharol helaeth o fwynglawdd Moelfre ar hyd y gyfuchlin ger y ffordd fodern (SH615255) ac un neu ddau o leoedd eraill.

Mae sawl chwarel lechi ar waelod y clogwyni sy’n wynebu’r môr i’r de o Lanfair, gan gynnwys Llanfair, Coed y Llechau, Pant-gwyn, Byrllysg a Byrdir, ac mae olion chwarel Graig Uchaf ymhellach i mewn i'r tir. Gwaith cymedrol ei faint, a oedd bron yn llwyr dan ddaear oedd mwynglawdd Llanfair ac agorwyd ef yn y 1860au. Caeodd ar ôl ychydig flynyddoedd, ac yna ail agor yn gynnar yn yr 20fed ganrif cyn cau yn derfynol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Defnyddiwyd ef i storio ffrwydron yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yna ei ailagor fel canolfan ymwelwyr yn y 1960au. Chwarel ar ochr y bryn, i’r dwyrain o Lanbedr, yw Coed y Llechau. Mae ar ddwy lefel, ac mae yno inclein yn arwain i lawr at felin: aflonyddodd y chwareli cerrig diweddarach yn sylweddol arno, er bod y felin ei hun mewn cyflwr da. Roedd Pant-gwyn a Byrdir yn fwyngloddiau bychain tanddaearol, a phwll bychan oedd Graig Uchaf.

Mae tair chwarel lechi fach arall yn ne’r ardal, ar ymylon gorllewinol Is Mynydd (ardal 2), Ffridd Olchfa ac Egryn (gweithfeydd bychain ar ochrau’r mynydd) a Hendre Eirian (pwll bychan a oedd yn cynhyrchu llechi gwyrdd).

Yn ôl at map ardal Ardudwy

Cyfathrebu

Cefnffordd A496 a Rheilffordd Arfordir y Cambrian, sy’n rhedeg fwy neu lai ochr yn ochr â’i gilydd ar hyd wastadedd arfordirol Ardudwy yw prif lwybrau cyfathrebu’r ardal. Ychydig, felly, sydd wedi newid ers i Gerallt Gymro deithio i’r gogledd trwy Ardudwy gan ddilyn yr un llwybr fwy neu lai ym 1188. Ymhlith y teithwyr eraill a ymwelodd â’r ardal a’i disgrifio mae Fenton, Thomas Pennant, a oedd yn westai ‘for some days in the style of an ancient baron’ yn Nghors-y-gedol, ac a ddisgrifiodd rai o hynafiaethau Prydeinig yr ardal a’r arswydi a’i drechodd wrth geisio croesi trothwy Drws Ardudwy (1771, 121ff), a hefyd George Borrow.

Mae llethrau'r bryniau sy'n wynebu'r môr yn gysylltiedig ag un o brif lwybrau'r porthmyn, a redai o'r arfordir dros y mynyddoedd i Ddolgellau (ac yn y pen draw i'r gororau a'r marchnadoedd yn Lloegr). Yn draddodiadol, cesglid y gwartheg ger Llanfair (lle trigai’r teulu Pugh, a oedd â chysylltiadau hir â gyrru gwartheg), ac o’r fan hon, aed â’r buchesi i mewn i’r tir, tuag at Bron-y-foel, ac yna naill ai dros Bont Ysgethin (mae olion hen dafarn, â’r enw anghydweddol Ty-newydd, gerllaw ar lethrau isaf Moelfre) a thros grib y mynydd gan ddilyn yr hen lôn bost; neu dros Bont Fadog a thros ochr y mynydd a Bwlch y Rhiwgyr (Bwlch y Porthmyn – brig ardal 2) cyn dod i lawr i Bontddu ger afon Mawddach.
Awdurdodwyd Rheilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru ym 1861-2, agorwyd hi ym 1863 ac estynnwyd hi o Abermaw i Borthmadog a Phwllheli ym 1867, a newid yr enw yn Rheilffordd y Cambrian. Adeiladwyd gorsafoedd naill ai bryd hynny neu'n ddiweddarach (o'r de i'r gogledd) yn Llanaber (fymryn y tu allan i ardal y prosiect), islaw Llanddwywe, Llanenddwyn, dwy orsaf islaw Llanbedr (y naill i’r de o Afon Artro a’r llall i'r gogledd), Llandanwg, Harlech, islaw Glan-y-wern, islaw Talsarnau ac yn olaf Llandecwyn.

 

Yn ôl at map ardal Ardudwy

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol