English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol - Themâu Hanesyddol Amlwch

Cyflwyniad

Mae tirwedd hanesyddol Amlwch a Mynydd Parys yn ardal gryno sy'n ymestyn o'r arfordir yng ngogledd-ddwyrain Môn a harbwr cul Porth Amlwch hyd at y bryn a ddyrchafwyd yn fynydd o ran enw - Mynydd Parys, sy'n codi hyd at 147m rhyw 3 cilomedr i'r de. Mae arwyddocâd y dirwedd hon yn deillio o'r hanes hir o fwyngloddio copr ar Fynydd Parys sydd wedi digwydd, yn ysbeidiol fwy na thebyg, ers yr Oes Efydd, ynghyd â'r ffaith bod y copr hwn wedi ei allforio trwy Borth Amlwch yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a bod tref ddiwydiannol hynod Amlwch wedi tyfu yn ystod y cyfnod hwn i gartrefu'r mwyngloddwyr a'u teuluoedd.

Yn sgil darganfod mwyn copr iselradd yn agos at wyneb y tir ar y mynydd tua chanol y ddeunawfed ganrif, cafwyd un o'r pyliau mwyaf rhyfeddol o weithgarwch diwydiannol a welodd Ynysoedd Prydain erioed. Ar sawl cyfrif, megis o ran graddfa a sydynrwydd, mae gan y cyfnod hwn fwy yn gyffredin ag economïau disbyddol mwyngloddio mewn rhannau o gyfandiroedd America neu Awstralasia.

Er bod hanesion o gyfnod cyntaf y mwyngloddio modern o ddifrif (o 1768 ymlaen) yn sôn am dyllu siafftiau i gyrraedd y mwynau, mae Parys yn anarferol gan bod y rhan fwyaf o'r gwaith wedi mynd rhagddo trwy gloddio agored o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen. Nid yw'n gwbl eglur i ba raddau y deilliodd y mwyngloddio brig o bolisi o ddymchwel gweithiau mewn twneli a siafftiau niferus oedd wedi eu tyllu i mewn i'r haen o fwyn a orweddai bron yn llorweddol, ond mae pyllau agored i'w gweld yn y darluniau cyntaf o'r safle, sydd wedi'u dyddio i 1790. Ymhen amser, datblygodd y pyllau hyn i ffurfio'r Mwynglawdd Agored Mawr (Great Opencast) a Mwynglawdd Agored Yr Allt (Hillside Opencast) sydd mor amlwg yn y dirwedd heddiw. Roedd graddfa fawr y gwaith yma yn gwneud y safle'n atyniadol i artistiaid a ddeuai o dan ddylanwad syniadau ffasiynol ynglŷn â'r "aruchel" ac mae paentiadau yn darparu tystiolaeth bwysig o ddatblygiad y safle (Lord 1998). Mae olion gweithiau cynharach yn dal i'w gweld yma ac acw, megis yr ogof agored a elwir yn 'gwaith Robin Ellis' yn SH 4432 9037.

Erbyn troad y ddeunawfed ganrif, roedd angen newid y dull o fwyngloddio oherwydd y modd y gorweddai'r mwyn yn y tir. Roedd y mwyn gwasgaredig y gellid ei gloddio o'r pyllau agored wedi ei dynnu allan i raddau helaeth; roedd y wythïen yn fwy cryno wrth fynd yn ddyfnach ac roedd hefyd yn troi tua'r gogledd. Roedd angen tyllu rhagor o siafftiau felly, a'r rhain yn ddyfnach na'r rhai a agorwyd i ffurfio'r pyllau ac wedi'u lleoli nesaf at y gweithiau cynnar i gyfeiriad y gogledd. Roedd rhai o'r rhain yn cael eu gweithio trwy chwimsi (peiriant a weithid gan geffylau yn cerdded mewn cylch), ond mewn rhai eraill, roedd angen peiriannau stêm. Mae'n debyg mai'r capteiniaid mwyngloddio o Gernyw a oedd wedi cyrraedd yn y cyfnod hwn a gyflwynodd y peiriannau hyn. Roedd yr angen am bwmpio yn dod yn fwy o her hefyd, a dyma arweiniodd at adeiladu cwt injan drawst yn rhan ddwyreiniol y mwynglawdd (‘Injan Cerrig y Bleiddiau' neu'r ‘Pearl Engine') a melin wynt ger y copa. Mae'r ddau adeilad yma'n parhau'n nodweddion amlwg yn y dirwedd hyd heddiw. Gwyddom fod un dull anarferol o alldynnu'r mwynau ar waith o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen, sef dyddodi. Roedd dŵr a oedd yn cynnwys crynhoad uchel o gopr yn cael ei adael i setlo mewn pyllau eang a'r dyddodiad yn ganlyniad i adweithio gydag eitemau haearn sgrap a osodwyd yn y pyllau.

Gyda'r nodweddion amrywiol hyn, cafodd y mynydd ei drawsnewid gan ffurfio tirlun diwydiannol hynod. Arweiniodd y gwaith yma hefyd at ddatblygu'r harbwr gerllaw ym Mhorth Amlwch. Ac wedyn daeth yr anheddiad bach canoloesol yn Amlwch ei hunan yn dref ffyniannus iawn am genhedlaeth. Mae hanes y dirwedd dros y ddau gan mlynedd diwethaf yn ymwneud, yn y bôn, â rheoli dirywiad y prif ddiwydiant hwn a'r aneddiadau a'r isadeiledd a ddatblygwyd yn ei sgil. Fodd bynnag, gyda datblygiad gwaith Octel yn 1950-51, daeth yn gymuned ddiwydiannol unwaith eto, ac mae'n deg dweud ei bod wedi cadw rhywfaint o naws anheddiad frontier . Mae rhyw bresenoldeb arbennig i'r mynydd sy'n edrych dros yr ardal, ac mae'r offer pen pwll dur modern sydd ar ben siafft Morris yn ein hatgoffa y gall fod pennod arall i ddod yn ei hanes diwydiannol. Mae cynlluniau hefyd allai adfer diwydiant ar hen safle Octel. Bu cymunedau Amlwch a Phorth Amlwch yn ganolbwynt i fentrau adfywio dros y blynyddoedd diwethaf, llawer ohonynt dan reolaeth Menter Môn sy'n asiantaeth i Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Perchnogaeth tir

Dros y canrifoedd diwethaf, prif berchnogion tir amaeth y plwyf oedd teulu Plas Newydd gyda ffermydd mawr Parys a Thrysglwyn Isaf dan eu perchnogaeth lwyr yn ogystal â'r tyddynnod llai yn Morfa Du, Tan yr Allt, Foel, Pen y Nant, Pen Mynydd, Bryn Gwyddel, Bryn y Gwynt, a Phen y Bryn, a theulu Llysdulas (Dinorben) a oedd yn rhan-berchnogion, ar y cyd â Phlas Newydd, ar Cefn y Gors, Tyddyn Dai, Tros Lon, Pentre Gwian, Cerrig y Bleiddiau a Thal y Dyffryn. O fewn yr ardaloedd trefol presennol, teulu Plas Newydd oedd y prif berchnogion tir unwaith eto. Fodd bynnag, roedd lleiniau eraill o dir yn eiddo i ystâd Llysdulas (Dinorben), yn cynnwys safle'r Dinorben Arms yng nghanol y dref; i stad Tresgawen, yn cynnwys safle'r gwaith mwyndoddi (stad dai Craig y Don erbyn hyn), y stribed o dai ar hyd ochr ddwyreiniol Stryd Salem a rhan ddwyreiniol Porth Amlwch; i Coed Helen o Gaernarfon neu i esgobaeth Bangor, perchnogion y tir nesaf at harbwr Amlwch tua'r gorllewin (Rowlands, gyf. 16, Pritchard 1998, 12, map a rhaniad degwm Amlwch LlGC, catalogau llechi BU). Nid yw'n debygol bod y prif berchnogion tir wedi comisiynu mapiau graddfa fawr awdurdodol o'u daliadau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg (neu os gwnaethant hynny, nid ydynt ar gael yn gyhoeddus). Mae rhai o'r ffiniau rhwng stadau mawr canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn amlwg o hyd, ond nid oes tystiolaeth amlwg bod prydlesi'r tir yn cael eu rheoli mewn modd fyddai'n amlygu arddull y stad.

Yn hanesyddol, fe rannwyd y mynydd yn ddau hanner, gyda'r hanner ddwyreiniol dan berchnogaeth lwyr Plas Newydd a'r hanner orllewinol yn eiddo ar y cyd i stadau Plas Newydd a Llysdulas. Anglesey Mining sydd piau un hanner erbyn hyn, a'r hanner arall yn eiddo i stad Plas Newydd.

Eiddo rhyddfraint sydd yn bennaf yn nhref Amlwch ac anheddiad Porth Amlwch. Mae ochr orllewinol y porthladd yn eiddo i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn a'r ochr ddwyreiniol yn eiddo i'r Cyngor Sir.

Mae'r rhan helaethaf o ardal y dirwedd hanesyddol oddi mewn i gymuned bresennol Amlwch, er ei bod yn ymestyn i mewn i gymuned Llaneilian.

 

Amaethyddiaeth

Mae'n debyg y byddai o leiaf ran o'r ardal wedi bod yn goediog iawn ar ddechrau'r Oesoedd Canol, fel yr awgryma'r enw Llannerchymedd sydd i'r de-orllewin o ardal y dirwedd hanesyddol (ystyr Llannerch ydy llecyn agored mewn coedwig). Mae'n debygol y byddai rhywfaint o waith clirio coedwig wedi digwydd hyd yn oed yn y cyfnod Neolithig. Serch hynny, mae'r enw lle hwn yn awgrymu na fu clirio sylweddol yn lleol hyd at y cyfnod Canoloesol (Carr 1982 21). Erbyn hynny, mae tystiolaeth ddogfennol i gadarnhau defnydd dwys o adnoddau amaethyddol ardal y dirwedd hanesyddol. Mae'r modd y rhoddwyd tiroedd yn ardal yr astudiaeth i arglwyddi lleyg neu ysbrydol pwerus (neu y meddiannwyd tiroedd ganddynt) yn y cyfnod canoloesol yn awgrymu eu bod yn cael eu hystyried yn diroedd hynod ffrwythlon, hyd yn oed yn ôl safonau Môn, mam Cymru. Rhai o'r bobl a ddaliai dir yn y cyfnod canoloesol a osododd sylfeini'r stadau oedd mor ddylanwadol yn yr ardal hyd at y cyfnod Diwydiannol a'r cyfnod Modern. Mae'r ffaith bod esgobaeth Bangor wedi sefydlu maenor Plas yn Amlwch a'i diroedd yn arwydd o'r gwerth mawr a oedd i'r tir, ac fe arhosodd hwn yn eiddo Esgobol hyd at y 19eg ganrif. Ar adegau, daliai disgynyddion Iorwerth Fychan ( floruit 1302-3), rhaglaw Twrcelyn, stadau Llwydiarth a Llysdulas (Carr 1982 216-7). Sefydlodd Llysdulas fferm Madyn Dysw, a fodolai erbyn 1549, yn un o'r daliadau gwasgarog a berthynai i drefgordd rydd a oedd wedi'i chanoli yn wreiddiol yn Llanwenllwyfo i'r dwyrain (SH 485 901 – Carr 1982 30). Rhoddwyd y fferm sy'n dwyn ei enw nawr i Robert de Parys yn1406; roedd y fferm yn cynnwys rhan o'r mynydd (Rowlands 1981).

Mae tystiolaeth ddogfennol yn cadarnhau bod Amlwch yn sefyll ar bridd oedd ymhlith y gorau ym Môn; ystyrid eglwys y plwyf yn drydedd o ran gwerth ar yr ynys yn 1254 (ar ôl Llanfaes a Phenmon) ar sail y degwm, offrymau ac incwm o diroedd y llan. Er i'r Pla Du niweidio'r ardal, roedd yr un patrwm i'w weld dair canrif yn ddiweddarach.. Yn 1535, rheithordy Amlwch oedd yr ail o ran gwerth ar Ynys Môn, wedi'i brisio yn £33 6s 8d ac roedd wedi'i glymu wrth un o swyddi pwysig cadeirlan Bangor, sef archddiaconiaeth Môn (Carr 1982 268, 276-7, 305). Yn ogystal â thyfu grawn, mae'n debyg bod ffermio llaeth yn rhan arwyddocaol o economi ardal yr astudiaeth; roedd y degwm ar fenyn, llaeth a chaws yn Amlwch yn 1535 yn £5 o'i gymharu â £1 6s 8d yn Llangristiolus a Cherrigceinwen (Carr 1982 104). Mae'n debyg mai adlewyrchu hynny mae enw'r fferm 'Llaethdy'.

Wnaeth twf sydyn y diwydiant mwyngloddio ddim achosi i'r ardal gyfan beidio â bod yn gynhyrchiol yn amaethyddol gan bod ffermwyr wedi elwa o bresenoldeb llu o werin bobl heb dir a heidiodd i'r ardal. Yn ychwanegol at hynny, yn achos Madyn Dusw, gwnaed elw mawr hefyd o hurio ceffylau ar gyfer cludo'r mwyn i'r porthladd. Fodd bynnag, fe welwyd newidiadau sylfaenol yn y dirwedd amaethyddol yn y cyfnod hwn. Yn ogystal â'r ffaith bod llawer o'r tir wedi diflannu o dan safleoedd mwyngloddio a phrosesu - er enghraifft, ffurfiwyd pyllau dyddodi eang ar dir Llaethdy - roedd yn gyfnod o gyflwyno gwelliannau amaethyddol pwrpasol ac roedd cyfle i ail-fuddsoddi gwarged i ailadeiladu ffermdai ac i wella ffiniau, draeniau yn y caeau a ffyrdd mynediad. Fodd bynnag, ac eithrio mapiau Corris o fferm Parys (1791,1792), does dim llawer o fapiau manwl wedi dod i'r fei sy'n ein galluogi i ddarlunio'r newidiadau i arferion ffermio yn y cyfnod hwn yn fanwl. O ran eu cynllun a'u hadeiladwaith, mae'r ffermdai eu hunain – Llaethdy Mawr, Parys, Parys Bach, Bod Ednyfed – yn perthyn i ddiwedd y ddeunawfed ganrif neu i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cartrefi sylweddol dan nawdd stadau, gydag adeiladau amaethyddol o tua'r un dyddiad. Mae rhan o Madyn Dysw yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg, ac mae rhan arall yn ffermdy o gyfnod y Rhaglywiaeth. Maent yn rhoi cadarnhad bod y stadau wedi parhau i fod â llaw yng ngwaith eu daliadau amaethyddol ac ym mharhad y llewyrch yn y sector amaethu.

 

 

Anheddu

Y Cefndir Canoloesol

Mae tystiolaeth bod anheddiad yn ardal Amlwch ers y Canol Oesoedd. Yn cynrychioli calon yr anheddiad Canoloesol mae safle'r eglwys ganoloesol (ble saif yr eglwys bresennol) a safle Plas yn Amlwch sydd ar ymyl ogleddol y dref heddiw.

 

Aneddiadau Cnewyllol

Mewn gwirionedd, mae dau anheddiad cnewyllol o fewn ardal yr astudiaeth, er eu bod wedi ymdoddi i'w gilydd fwy neu lai ers 1951, gan ffurfio un ardal lled-drefol. Amlwch ei hunan a Phorth Amlwch yw'r ddau anheddiad.

Yn sgil y twf yn y gwaith mwyngloddio o'r 1760au ymlaen, trawsnewidiwyd yr anheddiad Canoloesol yn Amlwch gan ffurfio cymuned ddiwydiannol sylweddol – un o'r aneddiadau diwydiannol Cymreig clasurol, ynghyd â Blaenafon, Merthyr Tudful, Abertawe, Bethesda a Blaenau Ffestiniog. Mae gwreiddiau'r anheddiad diwydiannol o gwmpas yr eglwys ac ar hyd echelin Stryd y Frenhines/Stryd Salem, ac ar y cyfan mae'n debyg bod Amlwch wedi datblygu mewn modd tameidiog ac heb ei gynllunio ar hyd ffyrdd a lonydd sy'n cysylltu Amlwch â Llaneilian tua'r dwyrain a Chemaes tua'r gorllewin. O ganlyniad, mae adeiladau sy'n dyddio o flynyddoedd cynnar neu ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i'w gweld ochr yn ochr â thai sylweddol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac adeiladau eraill a godwyd ar dir nas dyrannwyd ynghynt, a stadau tai 'llanw' y gellir tybio iddynt gael eu hadeiladu pan agorwyd gwaith Octel yn 1951. Pan adeiladwyd yr ysgol ar gyrion de-orllewinol yr ardal adeiledig, cafwyd canolbwynt gweledol amlwg gan ei bod yn edrych dros y dref, ond collwyd y teimlad o ganol hanesyddol i raddau helaeth pan adeiladwyd ffordd osgoi yn union i'r gorllewin o Stryd Salem/Stryd y Frenhines.

Dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y mae'r tai hynaf sy'n sefyll yn Amlwch heddiw, hyd yn oed ar hyd Stryd Salem/Stryd y Frenhines, er y credir mai'r entrepreneur o'r ddeunawfed ganrif, Methusalem Jones oedd yn gyfrifol am osod y ffordd hon. Gellir gweld o gofnodion y plwyf o 1780 bod y tai newydd yn rhai to gwellt ar y cyfan; dim ond ambell un oedd â tho llechi a doeddent ddim yn mesur mwy na 12' wrth 15' (Rowlands 131-4). Does dim tystiolaeth ddarluniadol, gartograffig nac archaeolegol o'r un ohonynt wedi dod i'r fei hyd yn hyn, ac mae dealltwriaeth ynghylch datblygiad cynnar Amlwch wedi'i lesteirio gan y ffaith nad oes llawer o fapiau dibynadwy o'r ardal cyn y mapiau ordnans 25". Nid yw map y degwm yn dangos unrhyw ddatblygiad o sylwedd y tu allan i'r cnewyllyn Canoloesol, ond mae'n bosibl nad yw'r ddogfen hon yn dangos tai'r bobl dlotaf, a adeiladwyd heb ganiatâd cyfreithiol, oherwydd mai cofnod ydyw i bob pwrpas o'r rhai yr oedd disgwyl iddynt dalu trethi o ryw fath (degymau mawr grawn a gwair neu ddegymau bach da byw). Fel y nodir isod, nid yw map y degwm yn dangos fawr ddim datblygiad ym Mhorth Amlwch, ond mae map Francis o 1828 yn dangos ei bod eisoes yn datblygu'n ardal drefol.

Deellir bod rhai o'r tai o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cynnwys blociau slag yn eu hadeiladwaith, gan ddilyn arfer a sefydlwyd gyda nifer o dai diwydiannol cynnar yn Abertawe, er bod defnydd helaeth o render a chwipio gro ar waliau wedi cuddio llawer o'r dystiolaeth ynghylch adeiladwaith ac oedran y tai. Mae ffurf a maintioli yn rhoi gwell canllaw i ni na'r gorffeniad allanol; mae adeilad Banc Barclays ar Stryd y Frenhines (SH 4426 9276) wedi cadw amlinell preswylfa o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg er ei fod wedi ei addasu gryn dipyn.

Er i Amlwch ddirywio yn y 19eg ganrif, mae yma nifer o adeiladau deniadol o'r cyfnod Fictoraidd a dechrau'r ugeinfed ganrif, megis adeiladau banc HSBC a'r Swyddfa Bost. Mae modd gwahaniaethu rhwng adeiladau a godwyd yn ystod oes aur Amlwch (1760-1830) a'r rhai a godwyd yn ddiweddarach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan bod ffurf a maintioli'r rheiny yn ymdebygu fwy i dai diwydiannol safonol a welir mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol, a deunyddiau a fewnforiwyd wedi eu defnyddio - briciau, er enghraifft.

Mae Porth Amlwch, fel Amlwch ei hunan, yn gymuned nas cynlluniwyd i raddau helaeth. Y tai cynharaf yma yw'r tai teras deulawr o'r ddeunawfed ganrif ar hyd Pen Cei, ac mae tystiolaeth bod yr adeiladau'n datblygu erbyn 1828, pan gafodd yr anheddiad ei ddarlunio ar fap Francis o'r harbwr - nid oes fawr ddim o'r datblygiad i'w weld ar y map degwm diweddarach. Tra bod Amlwch wedi datblygu o gwmpas ffyrdd o ryw fath oedd yno eisoes, tyfodd Porth Amlwch i raddau o gwmpas ffyrdd diwydiannol diwedd y ddeunawfed ganrif a oedd yn cysylltu'r mwyngloddiau a'r gwaith mwyndoddi oedd ar y safle ble saif stad dai Craig y Don heddiw. Mae'r enw Stryd y Glorian/Machine Street yn coffáu'r peiriant i bwyso'r ceirt a oedd wedi'i leoli yn ardal SH 4472 9312. Roedd y ffordd (gyn-ddiwydiannol yn ôl pob tebyg) sy'n mynd tua'r dwyrain i Laneilian yn ganolbwynt arall. Ond roedd trydydd canolbwynt, sef yr anheddiad a dyfodd i'r dwyrain o'r harbwr, o gwmpas llwybrau troellog yn ôl pob golwg. Ceir anheddau yma o bob dyddiad rhwng dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a diwedd yr ugeinfed ganrif, ac ymddengys bod yr ardal wedi tyfu yn y gwagleoedd a fu'n gaeau, yn erddi, yn lonydd, cae brics a chyrsiau dwr.

Mae stad dai Craig y Don yn enghraifft dda o fenter tai cymdeithasol a godwyd ar strydoedd o batrwm geometrig. Codwyd yr stad hon i ateb yr angen am dai gweithwyr pan agorodd gwaith Octel.

 

Aneddiadau Anghnewyllol

Er nad oes llawer o dystiolaeth o anheddiad ag economi ddeuol tyddynwyr a mwynwyr tebyg i aneddiadau'r chwareli llechi yn Arfon, mae nifer o anheddau anghysbell heb dir a fyddai wedi bod yn gartrefi i fwynwyr a'u teuluoedd ar un adeg. Mae rhai anheddau sydd wedi adfeilio wedi eu hadnabod ar y mynydd ei hun. Ym Mynydd Llwyd mae rhes o fythynnod annodweddiadol wedi goroesi - datblygiad hirgul wrth ochr y ffordd i Lannerchymedd. Wedi dweud hynny, nid yw nodweddion y bensaernïaeth werinol mor amlwg bellach oherwydd addasiadau diweddar (SH 4412 9170). Ar y cyfan, mae'r ffermydd yn adeiladau mawr Fictoraidd, er bod rhai adeiladau fferm llai o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi goroesi, e.e.. Pentre Gwian yn SH4429 9117,sy'n adeilad deulawr â ffrynt dwbl a simneiau o frics.

 

Mathau o adeiladau a deunyddiau

Er bod y rhan fwyaf o'r adeiladau sydd wedi goroesi yn y dirwedd hanesyddol ers cyn yr 1860au o gymeriad pensaernïol gwerinol brodorol ac wedi eu codi o garreg leol, gwelir cryn ddefnydd o friciau, yn ogystal â deunyddiau eraill, yn cynnwys meini nadd, yn gynnar wedi'r cyfnod hwn, sy'n awgrymu bod agor y rheilffordd wedi peri i arferion adeiladu lleol newid gryn dipyn. Mae peth defnydd o slag y mwyn copr yn ddeunydd adeiladu, er nad yw hyn yn helaeth. Llechi a ddefnyddiwyd ar gyfer toeau bron yn ddieithriad, er bod toeau teils stad dai Craig y Don yn gosod eu marc yn feiddgar ymhlith llechi llwydion Meirionydd a gleision Arfon.

Roedd cae brics ar waith ym Mhorth Amlwch yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chyn hynny o bosibl, gan bod Mona Lodge (SH 4389 92823 [stablau yn SH 4391 9286]) wedi ei godi o frics tua diwedd y ddeunawfed ganrif ac mae'n annhebygol y byddai brics wedi eu cludo i mewn ar y môr. Mae Melin Mona o 1816 hefyd wedi ei hadeiladu o frics. Defnyddiwyd carreg werdd Cyn-Gambriaidd nodedig hefyd yn llawer o'r adeiladau cynharach; mae'n bosibl bod y garreg hon wedi dod o'r gwaith o agor y mwyngloddiau, er mai ar hyd yr arfordir y mae'n brigo fwyaf. Adeiladau o gerrig yw'r rhan fwyaf o'r rhai o fewn y mwyngloddiau, a'r rheiny wedi adfeilio'n arw. Mae cwt Injan Cerrig y Bleiddiau yn un eithriad sydd wedi ei gadw; fe adeiladwyd hwn yn 1817 o garreg leol gyda chapanau drws pren.

Mae llawer o'r tai brodorol llai yn defnyddio ffenestri dormer â tho ar ongl i oleuo'r llofft, gan osgoi'r angen i gael annedd deulawr llawn. Gwelir enghraifft o hyn yn Amlwch yn ‘Riverside' (SH 4433 9292), ble mae dwy annedd wedi'u cysylltu â'i gilydd sydd yn un llawr a hanner o uchder, â'r llofftydd yn cael golau trwy bedair ffenest ddormer â tho ar ongl. Ynghlwm â'r ddau dy annedd hyn mewn rhes syth, y mae dau adeilad amaethyddol. Bu un o'r rhain yn lladd-dy, gan dystio i'r cyswllt agos a oedd rhwng diwydiannu a thraddodiadau bywyd amaethyddol y werin frodorol. Gyda threigl y bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd yr arddull hwn a gwelwn dai teras mwy confensiynol â dau lawr a ffryntiau dwbl neu sengl ledled ardal yr astudiaeth. Rhai byr yw'r terasau ac maent yn dilyn cwrs y lonydd cyn-drefol.

Fe welir anheddau mwy boneddigaidd eu naws wedi'u gwasgaru o gwmpas Amlwch a Phorth Amlwch - mae hyn eto'n awgrym o ddatblygiad heb ei gynllunio a mewnlenwi diweddarach. Mae Graig y Mor (SH 4440 9308) yn dy â chynllun petryal o flynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd ei adeiladu o garreg gyda chonglfeini a chiliau ffenest amlwg o galchfaen, a tho llechi talcennog gyda chorn simnai addurniadol. Adeiladwyd Gwesty'r Dinorben (SH4418 9290), ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg o dan nawdd stad Kinmel. Mae'n dŷ â dwy haen o ystafelloedd a dau lawr ynghyd ag atigau a phortsh mewn arddull Sioraidd, ac roedd yn bodoli erbyn 1817 pan welwyd terfysgoedd Amlwch. Mae tai solet o flynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, megis Ael y Bryn (SH 4523 9316), yn sefyll allan braidd ymhlith anheddau gwerinol sydd llawer llai o faint. Yn SH 4518 9308, gyferbyn â Chapel Peniel mae tŷ o arddull sy'n ddeniadol ond braidd yn ymwthgar gyda ffrynt stwco a manylion patrymog o gwmpas y ffenestri.

 

Archaeoleg greiriol

Mae tystiolaeth o weithgaredd Cynhanesyddol ar Fynydd Parys ei hunan, ond ddim mewn unrhyw fan arall o fewn ardal y dirwedd hanesyddol. Yn 1796 cyfeiriodd Christopher Sykes at gerrig palmant crynion a gweithiau drifft wedi eu ffurfio â thân a welwyd yn y gweddillion oedd wedi eu cloddio oddi yno wrth agor y mwyngloddiau brig. Tybiai bod y rhain yn dyddio o gyfnod cyn-Rufeinig.

Astudiodd Oliver Davies y mwyngloddiau yn 1937, gan ganolbwyntio ar ardal ger Chwarel yr Ychen ar ochr ogleddol y mynydd gerllaw'r felin wynt. Cloddiwyd nifer o ffosydd a darganfuwyd 24 o gerrig morthwyl, ynghyd â golosg ac arteffactau eraill a ystyriai oedd o gyfnod 'Hen Geltaidd' neu Rufeinig. Astudiodd Grŵp Ymchwil y Mwyngloddiau Cynnar yr ardal eto yn 1988 a daethant o hyd i ragor o gerrig morthwyl. Mae golosg o ffosydd newydd wedi ei ddyddio i 2000 -1500 CC.

Trwy archwiliadau yn y gweithfeydd tanddaearol ers 1995, daethpwyd o hyd i nifer o safleoedd â cherrig morthwyl ynddynt ble roedd gweithiau modern oedd yn cael eu tyllu ar i fyny i'r wythïen wedi torri i mewn i weithiau cynharach oedd wedi eu tyllu ar i lawr, o'r wyneb mwy na thebyg. Mae safleoedd sydd wedi'u darganfod hyd yn hyn yn gyforiog o rwbel a gwaddodion sy'n cynnwys cerrig morthwyl. Tynnwyd samplau o olosg oddi yno ac maent wedi eu dyddio i1650 –1290 CC. Mae'n amlwg, yn ôl dosbarthiad cerrig morthwyl ar yr wyneb ac o dan ddaear, ynghyd â chofnod Sykes, bod mwyngloddio cynhanesyddol wedi digwydd ar draws amryw o wythiennau.

 

Parciau a gerddi

Nid oes unrhyw barciau na gerddi arwyddocaol o fewn ardal y dirwedd hanesyddol.

 

Diwydiannol

Yn yr ardal tirwedd hanesyddol hon y mae un o dirweddau diwydiannol hynotaf Cymru.

Fe y nodwyd uchod, ceir tystiolaeth archaeolegol i gadarnhau bod mwyngloddio wedi digwydd yma yn yr Oes Efydd. Er nad oes tystiolaeth uniongyrchol wedi ei ganfod o fwyngloddio gan y Rhufeiniaid, mae ingotiau copr o ddyddiau'r Rhufeiniaid wedi eu canfod, gan gynnwys dau ohonynt ar neu gerllaw Mynydd Parys, gan awgrymu y gallai mwyngloddio a mwyndoddi fod wedi digwydd yn ystod y cyfnod Rhufeinig, er nad yw'r union leoliadau'n wybyddus.

Prin yw'r dystiolaeth o fwyngloddio yn y cyfnod Canoloesol. Fodd bynnag, mae'r ffaith i'r fferm sy'n dwyn ei enw gael ei rhoddi i Robert Parys yn 1406 - a honno'n cynnwys y mynydd yn ogystal â thiroedd is tua'r gogledd - yn rhoi awgrym bod y cyfoeth mwynol yno yn wybyddus hyd yn oed bryd hynny. Mae map Tuduraidd yn dangos mwyngloddiau 'un filltir o bellter' o Borth Amlwch, ac mae Syr John Wynn yn awgrymu'n anuniongyrchol bod gwaith yn mynd rhagddo yn y 1570au (Calendr LlGC o Bapurau Wynn).

Cafodd pen dwyreiniol y mynydd, y daethpwyd i'w adnabod fel Mwynglawdd Mona yn ddiweddarach, ei weithio o 1761, ond roedd rhaid aros tan 2 Mawrth 1768 cyn y darganfuwyd mwyn mewn meintioli arwyddocaol, a hynny mewn siafft yn 'Golden Venture'. Erbyn 1770, roedd mwyngloddio wedi dechrau hefyd ar ben arall y mynydd (Mwynglawdd Parys). Rhwng 1773 a 1785 roedd y cynnyrch dros 3000 tunnell y flwyddyn - digon i fod yn fygythiad o ddifrif i fwyngloddio copr yng Nghernyw ac i'r fasnach mewn copr wedi ei fwyndoddi a oedd o dan reolaeth mwyndoddwyr Abertawe. Yn ogystal â thrawsnewid economi a chymdeithas gogledd-ddwyrain Môn, fe gafodd y gwaith yma effaith bellgyrhaeddol ar y fasnach gopr yn rhyngwladol, gan sicrhau mai'r mwyngloddiau a osodai'r telerau masnachu am ddwy genhedlaeth a gorfodi'r mwyngloddiau yng Nghernyw i weithio yn ddyfnach ac yn ddyfnach (gan arwain yn anuniongyrchol at waith Trevithick yn datblygu proses o bwmpio ager o dan bwysedd uchel).


Y Mwynglawdd Agored Mawr yn 1790 (John Warwick Smith)

Defnyddiwyd tri phrif ddull o echdynnu - cloddio siafftiau, mwyngloddio brig a dyddodi mewn pyllau. Cyfyngwyd y ddau ddull cyntaf i ddwy ardal benodol. Ar hyd ochr dde-ddwyreiniol y mynydd, y Mwynglawdd Agored Mawr a Mwynglawdd Agored yr Allt yw nodweddion amlycaf y tirlun, ond siafftiau sydd yn bennaf ar hyd yr ochr ogledd-orllewinol. Mae pyllau dyddodi i'w gweld ar y mynydd ei hun, ac ar raddfa fwy o'i gwmpas.

Mae cofnod o gam cyntaf y mwyngloddio a ysgrifennwyd ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi'i gynnwys yn yr adroddiad gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd (Gwyn 1998). Mae hwnnw'n awgrymu mai'r dull o fwyngloddio a ddefnyddiwyd ym mwynglawdd Mona oedd tyllu pyllau neu siafftiau i ddyfnder o 30 llath cyn cyrraedd mwyn. Awgrymir bod y mwyn yn nes at yr wyneb ym mwynglawdd Parys, felly er eu bod wedi defnyddio'r un dechneg, roeddent hefyd yn tynnu'r wyneb oddi yno, gan greu hafn anferthol. O astudio tystiolaeth sydd ar gael o fapiau a darluniau, ynghyd â thystiolaeth o waith maes, gellir tybio bod yr ardaloedd ble mae'r Mwynglawdd Agored Mawr a Mwynglawdd Agored yr Allt wedi eu gweithio yn y lle cyntaf trwy nifer o siafftiau i mewn i gorff o fwyn a orweddai fwy neu lai yn llorweddol. Cloddiwyd y mwyn trwy dyllu ponciau o'r siafftiau, gan ddefnyddio ffurf ar weithio talcennau gyda phileri felly. Y cam nesaf oedd torri'r pileri, gan achosi i'r ddaear ddymchwel a ffurfio'r gweithiau brig. Mae'n debyg y byddai'r gwastraff uwchben y mwyn wedi ei dynnu oddi yno cyn y cam hwn. Mae'n debyg mai gweddillion o'r cam hwn yn y gwaith ydy'r agoriadau niferus sy'n debyg i ogofâu a welir yn y gweithiau brig heddiw. Ni ddarganfuwyd unrhyw dystiolaeth o weithio cyn dyddiau powdr gwn yn yr ardaloedd hyn.

I'r gogledd o Fwynglawdd Agored yr Allt i gyfeiriad y felin wynt, mae cyfres o holltau dwfn sy'n rhedeg ar ongl i'r gwaith brig. Mae eu dyfnder hyd at 20m a'u lled ar gyfartaledd tua 1m. Mae daearegwyr sydd wedi astudio'r safle wedi awgrymu mai holltau naturiol yw'r rhain, wedi eu ffurfio wrth i ochrau Mwynglawdd Agored yr Allt gwympo, ond mae adroddiad YAG yn awgrymu y gallai'r rhain fod yn weithiau mwyngloddio o tua chanol y ddeunawfed ganrif. O'u hastudio'n fanwl, mae'n amlwg nad oes marciau offer ar ochrau'r holltau, na socedi i gynnal coed, nac unrhyw dystiolaeth o ddefnyddio ffrwydron megis tyllau drilio neu arwyneb wedi'i ddryllio. Mae'r ffaith nad oes unrhyw fwyn ar y wal yn ategu'r casgliad mai nodweddion naturiol yw'r holltau hyn ac nid canlyniad mwyngloddio .

Efallai bod mwy o ymdrech wedi ei roi i'r mwyngloddio dan ddaear pan gyrhaeddodd rheolwyr o Gernyw y mynydd wedi i'r Arglwydd Uxbridge (fel y'i gelwid ar y pryd - Ardalydd Môn yn ddiweddarach) roi les mwynglawdd Mona i deulu Vivian o Gernyw yn 1811, ac i James Treweek gael ei benodi'n Gapten y Mwynglawdd. Mae trefn y gwaith tanddaearol yn rhoi awgrym o ddylanwad Cernywaidd.

Tyllwyd siafftiau trwy'r gwythiennau ac mae lefelau wedi eu tyllu ar hyd y gwythiennau gyda phellter cyson rhwng y lefelau i lawr hyd at ddyfnder o 150 gwryd (tua 300m). Archwiliwyd y ddaear rhwng y lefelau hyn trwy dyllu ar i fyny yn y gwythiennau, a ble roedd amodau ffafriol, agorwyd y tyllau hyn i ffurfio siambrau gwaith a phonciau. Mewn sawl man, mae ysgolion wedi eu gosod yn y tyllau hyn, neu mae grisiau wedi eu torri ynddynt i greu llwybrau i'r mwyngloddwyr symud o un lefel i'r llall. Mae'n debyg bod llwybrau o'r fath yn cyrraedd yr wyneb ym mwyngloddiau Parys a Mona, sy'n awgrymu bod bwriad iddynt fod yn llwybrau i'r mwyngloddwyr i gyrraedd a dychwelyd o'u mannau gwaith. Mae llawer o'r ysgolion gwreiddiol wedi goroesi.

Roedd y gweithiau yn cael eu draenio trwy nifer o lefelau adit - agoriadau bron yn llorweddol wedi eu tyllu o ochrau'r mynydd. Yn y lle cyntaf, roedd y rhain yno i bob mwynglawdd yn annibynnol, ond wrth i'r mwyngloddiau ddyfnhau, datblygwyd lefel i ddraenio Mwyngloddiau Parys a Mona ar y cyd - adit Dyffryn Adda (neu Lefel 45 Gwryd i roi enw arall arno). Roedd angen pympiau ar gyfer y gweithiau oedd yn is na'r lefel hon ac maent oll o dan ddŵr erbyn hyn. Hyd at 2003, roedd argae wedi bod ar yr adit ers tua 60 mlynedd gan beri i'r dŵr yn y mwynglawdd godi hyd at y lefel ar 25 gwryd. Yn sgil pryderon ynghylch diogelwch, mae'r argae bellach wedi ei thynnu oddi yno, gan wagio'r dwr o ryw 40m o'r mwynglawdd ac agor mynediad at lawer mwy o'r gweithiau. Mae llawer o'r ardaloedd tanddaearol sydd wedi dod i'r golwg yn cynnwys cryn dipyn o bren, â pheth ohono'n cynnal haenau o graig wastraff, neu 'deads' fel y'u gelwir. Gan bod y pren hwn wedi bod o dan ddŵr am 60 mlynedd a'r dŵr hwnnw wedi ei dynnu oddi yno bellach, mae perygl mawr y gallai'r gwaith coed ddymchwel gan rwystro mynediad i rannau helaeth o'r mwynglawdd, yn cynnwys gweithiau o arwyddocâd hanesyddol. Mae perygl hefyd y gallai difrod gael ei greu yn anfwriadol gan ymwelwyr i'r ardaloedd y mae modd mynd atynt o'r newydd sydd wedi bod dan sêl tan yn ddiweddar.

Ar hyn o bryd, mae'n anodd trafod ag unrhyw fanylder sut y datblygodd y mwynglawdd a'r gweithiau dan ddaear. Mae'r unig fap tanddaearol manwl o'r mwynglawdd yn dyddio o 1856, a chafodd hwnnw ei roi ar gadw fel cynllun ymadael pan ddaeth y gwaith yn y mwyngloddiau i ben, gan mai dyna oedd yr arolwg mwyaf diweddar oedd ar gael ar y pryd (gohebiaeth bersonol D.Jenkins). Yn aml, nid yw cynlluniau hanesyddol yn ffynonellau dibynadwy o dystiolaeth, ac fel y gwna'r rhan fwyaf o fapiau, dim ond rhoi ciplun o'r mwynglawdd ar y pryd a wnânt. Mae'n gyffredin hefyd i gynlluniau fod wedi hepgor ardaloedd ble roedd gwaith wedi peidio, neu nad oedd o ddiddordeb ar y pryd. Dim ond arolwg llinell ganol o'r lefelau tanddaearol ydy'r cynllun hwn, gyda safleoedd y siafftiau wedi eu nodi. Nid oes unrhyw fanylion arno yn dangos y cysylltiadau rhwng y ponciau a'r siafftiau, ac felly nid oes modd gwybod sut y symudwyd y mwyn o'r ponciau i'r siafftiau nac ymhle y deuai i'r wyneb. Mae hyn oll yn wybodaeth allweddol a allai ein helpu i ddeall y gweithgaredd ar yr wyneb.

Mae rhywfaint o arolygon wedi eu cynnal mewn rhai mannau yn y safleoedd mwyngloddio cynhanesyddol yn ddiweddar; mae'n debyg y bydd arolwg manwl yn ychwanegu llawer o fanylion at ein dealltwriaeth o'r gwaith yn y mwyngloddiau. Mae'r llu o gerrig morthwyl sydd wedi eu canfod o dan ddaear yn arwydd bod cryn dipyn yn fwy o fwyngloddio wedi digwydd yn yr Oes Efydd nag y byddai rhywun yn ei dybio ar sail tystiolaeth o'r wyneb yn unig.

Gan bod mynediad i'r gweithiau dan ddaear wedi ei gyfyngu, yn arbennig yn yr ardaloedd a oedd o dan ddŵr tan yn ddiweddar, mae cryn dipyn o wybodaeth archaeolegol yn dal yno. Ymhlith y gwrthrychau sydd wedi eu darganfod, y mae rhodenni pympiau, blwch balans, pibelli aer ac ambell i ferfa.

Mae'r rhan fwyaf o'r siafftiau ar y mynydd wedi eu capio a'u marcio â physt concrid. Yn anarferol, nid oes tomenni amlwg o ddaear wastraff o amgylch y siafftiau . Nid oes tystiolaeth felly o'r dull a ddefnyddiwyd i halio deunydd o'r siafftiau - mae hyn i'w ganfod fel arfer ar ben tomen siafft. Mae'n amlwg bod systemau trafnidiaeth lleol ar waith i symud gwastraff a mwyn gan ddefnyddio ffyrdd, tramffyrdd â rheiliau ac o bosib, berfâu.

Yn ogystal â'r mwyngloddiau eu hunain, mae'r dirwedd yn cynnwys tystiolaeth o'r diwydiannau ategol a oedd ar waith o fewn ardal y gofrestr. Mae safle'r prif weithfeydd mwyndoddi wedi mynd o dan stad o dai, ond mae olion gwaith mwyndoddi a llifiau slag i'w cael tua'r gogledd, ar ochr orllewinol yr harbwr. Cafodd gwaith Octel, a sefydlwyd er mwyn echdynnu bromid o ddŵr y môr, ei adeiladu yn 1950-51, ac fe barhaodd y traddodiad lleol o waith cemegol nes iddo gau yn ddiweddar. Mae rhai o'i adeiladau a'i weithiau yn dal yno, gan gynnwys y tŵr dŵr concrid nodedig. Mae cragen melin wynt rawn Melin Mona/ Melin y Borth o1816, ym Mhorth Amlwch yn SH 4485 9346 yn nodwedd drawiadol.

 

Milwrol

Nid oes unrhyw safle milwrol pendant o fewn ardal y dirwedd hanesyddol.

 

Cyfathrebu

Yn hanesyddol, byddai Amlwch a mwyngloddiau Parys yn edrych tua'r môr. Er bod system ffyrdd yn gwasanaethu'r ardal a llinell reilffordd leol o 1866 ymlaen, roedd y cyfan o ardal y dirwedd hanesyddol hon yn ffurfio swmp cryno ar gyfer allforio â'i chanolbwynt yn yr harbwr ym Mhorth Amlwch a fu ar un adeg yn un o'r prysuraf yng Nghymru.


Map o Amlwch tua diwedd yr 16eg ganrif (PRO SP 46/36 MPF 11)

Mae'r map o'r unfed ganrif ar bymtheg sydd wedi'i argraffu gan Hope (Hope 1994, 16) yn dangos bod diddordeb ar lefel llywodraeth yn yr adnoddau ar fynydd Parys ac mewn sicrhau eu bod yn cael eu cludo'n effeithlon ar y môr, ond mae'n cadarnhau hefyd nad oedd unrhyw adeiladu wedi bod ym Mhorth Amlwch ac nad oedd yr harbwr wedi ei ddatblygu ar y pryd. Mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu y bu datblygu ar raddfa fach yn y 1750au a datblygu cyflym iawn wedyn o'r 1760au ymlaen, gan gynnwys adeiladu gweithfeydd mwyndoddi sylweddol o faint ar gyfer prosesu'r mwyn ar ochr orllewinol yr harbwr, a thuag at ddiwedd yr 1820au, bod y rhan fwyaf o dirwedd bresennol yr harbwr yn ei lle, ond bod adeiladu llongau a'r diwydiannau ategol at hynny wedi eu hychwanegu yn nes ymlaen yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg . Does dim llawer o dystiolaeth weledol o fwyndoddi ar y safle adeg ysgrifennu'r geiriau hyn, yn rhannol oherwydd i stad dai gael ei chodi ar safle'r prif weithfeydd mwyndoddi yn y 1950au, ond mae ardal yr harbwr yn parhau heb fawr ddim newid. Felly mae'r dirwedd bresennol yn dyddio o'r cyfnod rhwng 1750 a 1950, ac mae peth tystiolaeth o gamau datblygu gwahanol dros y cyfnod hwnnw.

Yn anffodus, nid oes deunyddiau cartograffig sy'n ein galluogi i greu darlun manylach o ddatblygiad yr harbwr a'r adnoddau diwydiannol.

 


Porth Amlwch yn 1815 (William Daniel)

Ym mlynyddoedd cynnar y cyfnod Diwydiannol a Modern (o 1750 ymlaen), roedd ochr orllewinol yr harbwr - y rhandir sy'n dwyn yr enw hanesyddol Cae'r Pandy - yn eiddo i esgobaeth Bangor, ac ychydig iawn o ddogfennau perthnasol i'r esgobaeth sydd mewn unrhyw archif Gymreig. Am nad oes unrhyw dystiolaeth ar ffurf mapiau o stad Esgob Bangor wedi goroesi, mae'n amhosibl i ni greu darlun o'r modd y datblygodd yr ardaloedd prosesu yn y porthladd.

Yn ystod yr un cyfnod, roedd yr ochr ddwyreiniol yn perthyn i stad Bod Ednyfed ac mae papurau'r stad honno wedi eu cadw yng nghasgliad Llwydiarth Esgob ym Mhrifysgol Bangor. Mae Pritchard yn cyfeirio at ‘sawl odyn yn mwyndoddi copr o Fynydd Parys' o 1762, hyd yn oed cyn i'r harbwr gael ei dorri, yn 1767, yn ôl ei ddyddio ef (Pritchard 1866, 15). Roedd les a roddwyd yn 1770 yn caniatáu i Syr Nicholas Bayly adeiladu ‘Cei ac hefyd finiau (biniau mwyn), Stordai a Warysau' ac mae'n nodi'n glir bod bythynnod a biniau mwyn eisoes yn bodoli yn y porthladd (Plas Newydd, Prifysgol Bangor VII 151). Dangos y safle yn ei ddyddiau cynnar y mae map 1780 yn Llwydiarth Esgob (Prifysgol Bangor Ll.E. 638) ac mae wedi ei lunio yn ôl confensiwn a oedd eisoes wedi mynd o arfer ar y pryd, sef dangos blaenluniau adeiladau yn hytrach na'u cynllun, felly mae'n anodd eu lleoli'n fanwl. Dangosir un adeilad, fodd bynnag, fwy neu lai ar safle tŷ tafarn y Newhaven. Ochr Bod Ednyfed yr harbwr yn unig a ddangosir ar fap Francis o 1828, ac mae'n cadarnhau nad yw'r harbwr mewnol presennol wedi newid fawr ddim, o leiaf ar ei lan ddwyreiniol (Prifysgol Bangor Ll.E. 639, 640, 641). Mae'n cynnwys y cei sy'n estyn allan, ble'r adeiladwyd y goleudy presennol yn ddiweddarach (1853). Ymhlith yr adnoddau, roedd warysau a chwech o finiau, rhai ohonynt â tho ac eraill yn rhai agored. Mae'n debyg y byddai llawer o'r gwaith hwn wedi ei gyflawni yn fuan wedi i Ddeddf 1793 gael ei phasio, gan ganiatáu 'ehangu, dyfnhau, glanhau, gwella a rheoleiddio'r harbwr' (Hope 1994 98-9). Mae map Francis yn dangos Afon Goch a oedd wedi ei sianelu trwy danffos yn dod i'r wyneb islaw safle'r boncen o weithiau mwyndoddi ac mae hefyd yn dangos iard saer llongau, sef Iard Ochor Draw Treweek, a fodolai ers 1825 (Hope 1994 101).

Y map nesaf sydd ar gael ydy argraffiad cyntaf yr arolwg ordnans o 1889 ac mae hwnnw'n dangos yr odyn galch, Iard Newydd a'r hen iard longau, Iard Ochr Draw, wedi ei datblygu fwy nag a ddangosir ar fap 1828, ynghyd ag adeiladau eraill ar Draeth Twrci (Turkey Shore) nas dangoswyd ar fap 1828, er ei bod yn bosibl eu bod eisoes yn bodoli gan mai pwrpas y map hwnnw oedd dangos daliadau tir Bod Ednyfed ac mai ar dir esgobaeth Bangor yr oedd yr adeiladau hyn. Dechreuwyd adeiladu Iard Newydd yn 1870 ac roedd wedi ei phrynu gan y Capten William Thomas yn 1871 neu 1872. Sefydlwyd gwaith cemegol Hill's yn Llam Carw yn 1840 a pharhaodd hyd at flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif (Hope 1994 88-91).

Yn ogystal â'r dirwedd archaeolegol bwysig ym Mhorth Amlwch, roedd angen datblygu coridorau trafnidiaeth diwydiannol er mwyn symud peth wmbredd o fwyn copr, glo a deunyddiau eraill rhwng y mwyngloddiau, y gweithfeydd mwyndoddi a'r harbwr, a hynny ar raddfa llawer mwy nag unrhyw drefniadau a fu ar waith mewn cyfnodau cynharach. Mae'n anarferol yng nghyd-destun Cymru mai ffyrdd ac nid rheilffyrdd a ddefnyddiwyd, ac roeddent yn ddibynnol ar anifeiliaid i halio trwy gydol yr amser y bu'r gwaith yn mynd rhagddo. Roedd ychydig ddefnydd o reilffyrdd mewnol yn y mwyngloddiau eu hunain, ac roedd pwt o reilffordd a ddefnyddiwyd i gludo glo o'r harbwr i'r gweithfeydd mwyndoddi.

Prif ffynhonnell tystiolaeth ynghylch datblygiad y rhwydwaith o ffyrdd diwydiannol yn ardal yr astudiaeth ydy map o 1780 sydd wedi ei gadw gyda phapurau'r Llys Chwarter yn Swyddfa Gofnodion Llangefni (WQS/1780/E/12). Mae hwn yn cadarnhau bodolaeth un brif ffordd ddiwydiannol, sef Stryd y Glorian a Lôn Goch heddiw, ffordd a grëwyd yn ystod y deuddeg mlynedd blaenorol yn ôl pob tebyg. Fodd bynnag, mae hon, a ffyrdd eraill o fewn ardal yr astudiaeth wedi parhau i gael eu defnyddio ac wedi eu huwchraddio ar gyfer cerbydau modur, felly dydyn nhw ddim yn dod yn agos o ran nodweddion archaeolegol at Lôn Gopar, y credir ei bod yn dyddio o 1788 ac sydd yn enghraifft eithriadol o ffordd ddiwydiannol yn y cyd-destun cenedlaethol (Cymru) .

Mae system reilffordd yn dal yn ei lle o fewn ardal yr astudiaeth, er nad yw'n cael ei defnyddio heddiw. Nid fu cyswllt uniongyrchol rhwng y rheilffordd hon a'r mwyngloddiau erioed. Pan gwblhawyd yr Anglesea (sic) Central Railway sy'n arwain o'r brif linell rhwng Caer a Chaergybi yn Gaerwen i Amlwch yn 1867, cysylltwyd yr ardal â'r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol. Serch hynny, ni lwyddodd y lein i atal y trai yn ffyniant diwydiannol y dref. Daeth gwasanaethau teithwyr a chyhoeddus i ben ym mis Rhagfyr 1964 ac wedi hynny, dim ond nwyddau Octel a gludwyd ar y lein nes y daeth hynny i ben hefyd yn y 1990au. Roedd tri chwarter milltir gyntaf y daith o Octel ar estyniad i'r lein a adeiladwyd o orsaf Amlwch yn 1951 (Bradley 1996, 106-7). Mae'r cledrau yn dal yn eu lle, gyda thro ar y safle lle bu gorsaf Amlwch. Mae sied nwyddau Amlwch, enghraifft nodweddiadol o'i fath o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn sefyll o hyd ac wedi'i droi at ddefnydd gwahanol. Bu ymdrechion ysbeidiol i adfywio'r rheilffordd, ond ni chafwyd llwyddiant.

 

Cysylltiadau diwylliannol

Mae'r mwyngloddiau yn dirwedd ddiwylliannol/gymdeithasiadol arwyddocaol ynddynt eu hunain. Ymhlith yr enwau a gysylltir â'r mwyngloddiau y mae'r impresario Llew Llwyfo, y pregethwr John Williams ‘Brynsiencyn', a Thomas Williams, ‘Twm Chwarae Teg'. Mae'r defnydd o fotiff derwyddon ar arian y mwyngloddiau (motiff a fabwysiadwyd yn logo i Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch) yn adlewyrchu'r diddordeb a welwyd yn hen hanes yr ynys yn sgil cyhoeddi Antiquitates Parochiales Henry Rowlands yn 1710.

 

Llyfryddiaeth

Bradley WJ 1996, Industrial Locomotives and Railways of North Wales (Birmingham)

Carr A 1982, Medieval Anglesey (Llangefni)

Gwyn, D., 1998, Mynydd Parys Copper Mine: Archaeological Assessment , unpublished GAT report 292

Hope B 1994, A Curious Place: The Industrial History of Amlwch (1550-1950) (Wrexham)

Lord P 1998, Industrial Society (Cardiff: University of Wales Press)

Pritchard T 1866, Hanes Amlwch, Fel y Bu, Fel y Mae, ac Fel y Dylai Fod (Amlwch)

Rowlands EW 2000, Masts and Shafts/Mastiau a Siafftiau ( Amlwch)

Rowlands J 1981, Copper Mountain (Llangefni)

 

 

 

Yn ôl i fap ardal Amlwch

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol