English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Trawsfynydd - Ardal 9 Aneddiadau ffermio i’r de o Drawsfynydd (PRN 18275)


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Mae’r ardal gymharol fawr hon, sy’n rhedeg o’r gogledd i’r de ar draws rhan ganolog yr ardal astudiaeth, yn cynnwys tirwedd ffermio, sy’n ymddangos iddi gael ei ffurfio i raddau helaeth erbyn adeg y map degwm yn y 1830au. Mae’r ardal yn ymestyn tua’r de o Fron-oleu, sydd ychydig i’r de o Bont Trawsfynydd (lle bu cyffordd bwysig ers o leiaf ganol y 19eg ganrif, gyda ffyrdd yn rhedeg i’r dwyrain (i fyny Cwm Prysor) ac i’r gorllewin (dros y Rhinogau) o’r briffordd, i Gaeau-cochion, ac yn cynnwys tir sy’n gorwedd y naill ochr a’r llall o ffordd A470 bresennol (a gafodd ei gwella yn y 1970au, ond a adeiladwyd yn wreiddiol mae’n debyg rhwng 1780 a 1824 (gweler uchod)).

Mae bron pob un o’r ffermydd yma wedi’u cofnodi ar y map degwm: yn eu plith mae Berth-ddu, Tyddyn-sais a Bryn Maen Lwd, sy’n gorwedd yn union i’r gorllewin o’r ffordd bresennol, a’r rhai sy’n gorwedd i’r de o Fronaber (megis Tyddyn Mawr, Tyddyn-du (gweler y ffotograff), Cae Gwyn a Gal-llynau-duon). Mae’n ymddangos hefyd bod patrwm y caeau wedi aros fwy neu lai yr un fath, ac o ystyried diffyg tystiolaeth o anheddiad cynharach (naill ai un creiriol neu un ar ffurf tai is-ganoloesol – gweler ardaloedd 06 a 10) ymddengys ein bod yn edrych ar dirwedd ffermio ymylol o ddiwedd y 18fed – dechrau’r 19eg ganrif, wedi’i datblygu mae’n debyg oddeutu’r un adeg ag yr adeiladwyd y ffordd (h.y. rhywdro rhwng 1780 a 1824), yn llythrennol ar fin y corstir a’r mynyddoedd. Fodd bynnag, mae gwaith diweddar yn awgrymu y gallai o leiaf un fferm (Bryn y Maen Llwyd) fod yn hyˆn, a honnai Lhwyd (1911) fod rhywrai’n byw yn Orsedd-las yn y 17eg ganrif: hefyd ceir peth tystiolaeth fod y caeau o amgylch y tair fferm yma (a hefyd Tyddyn-Sais a Berth-ddu) yn hyn. Mae’n para i fod yn amgylchedd llwm.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ffermydd, caeau, coedwigaeth

Y ffermdai cerrig, sy’n ymddangos fel pe baent wedi’u codi mewn amrywiaeth o arddulliau, ond pob un ohonynt o wenithfaen gyda thoeau llechi, a thai allan o’u hamgylch, yw prif nodweddion yr ardal. Mae’r ardal hefyd yn cynnwys nifer o ysguboriau (helaeth ar brydiau) ar wahân mewn caeau. Mae waliau cerrig yn nodi ffiniau'r caeau, ac maent hwythau wedi'u codi mewn amrywiaeth o arddulliau, gan greu amrywiaeth o batrymau caeau: mae’r rhai sydd ar y tir ychydig yn uwch ac yn ‘well’ yn fwy rheolaidd eu siâp, tra bod y rhai sy'n amgylchynu'r ffermydd ar ymylon y tir isel corsiog i'r gorllewin (megis Adwy-deg a Chae’n-y-cefn) yn edrych fel yr hyn y byddai pobl Sir Gaernarfon yn ei alw'n ‘barc’ (h.y. llechfeddiannau bychain ar gyrion tir ymylol gyda chyfres o gaeau bychain afreolaidd eu siâp o amgylch tyddyn).

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Trawsfynydd

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol