English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Trawsfynydd - Ardal 8 Pentref Trawsfynydd (PRN 18274)


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Mae’n debyg mai Llanedenowan oedd enw gwreiddiol pentref Trawsfynydd, ond i hyn newid (ni wyddys pa bryd) ac yn ôl Lhwyd (1911), ni chredir i’r enw presennol ddeillio o ddim mwy na’r ffaith fod y rhan fwyaf o ffyrdd (neu’r holl ffyrdd?) sy’n arwain iddo yn croesi mynyddoedd. Yn yr 17eg ganrif, 12 ty ac eglwys oedd yn Nhrawsfynydd ei hun (ibid). Mae’r pentref wedi tyfu’n sylweddol ers 1840 (pan ddangosid ef ar y map degwm). Roedd Trawsfynydd ar ochr y brif ffordd ar y pryd, ac er syndod, peth pellter oddi wrth y bont lle roedd y ffordd yn croesi’r Afon Prysor (mae’r pentref wedi’i leoli ar ben cefnen fechan ond eglur). Ar y pryd roedd iddo brif graidd o amgylch y ‘sgwâr’, ychydig i’r de o’r eglwys (gweler y ffotograff). Eglwys o’r cyfnod cyn y Diwygiad Protestanaidd oedd hon. Roedd wedi’i chysegru i’r Santes Fair yn wreiddiol ac yn ddiweddarach i’r Drindod Sanctaidd, ac roedd cysylltiad agos rhyngddi a’r Sant John Roberts (gweler uchod, adran 8.7.2). Wedi dadgysylltu’r eglwys, ailgysegrwyd hi i Sant Madryn, llosgwyd hi yn ulw ym 1978 a’i hailagor ym 1981 (dyma’r unig adeilad rhestredig yn y pentref). Adeg hynny, ychydig iawn o ddatblygiad arall oedd i’w weld ar hyd ochrau’r ffyrdd a oedd yn pelydru allan i’r gogledd, y dwyrain a’r de. Roedd patrwm o gaeau bychain, afreolaidd eu siâp o amgylch y craidd hwn (olion cyfundrefn ganoloesol hwyr, o bosibl). Yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif, fe ehangodd y pentref: yn ogystal â sawl capel, dwy dafarn a sawl siop (gan gynnwys y Cambrian Stores) gerllaw’r craidd gwreiddiol, codwyd datblygiad hirgul ar hyd ymylon y tair ffordd a oedd yn pelydru o’r canol: ar hyd y ffordd i’r gogledd, adeiladwyd terasau Fron-galed a Pant-y-celyn; ar y ffordd ddwyreiniol, codwyd bythynnod Ty’n-y-pwll ac yn benodol terasau Ardudwy a Ty-llwyd (tarddodd enw’r olaf o fferm a nodwyd yn y fan honno ar y map degwm) a maes o law yr orsaf, (agorodd llinell rheilffordd y Great Western o’r Bala i Ffestiniog, ac felly’r orsaf yma, ym 1882, ac fe gaeodd am y tro olaf ym 1964 – gweler ardal 12); ac, ar y brif ffordd i’r de, gwesty, teras Fron-wynion, Glascoed, Rhiwlas, Bryn-hyfryd a therasau byrion eraill, ynghyd â chapel arall. Ymhellach oddi yno, yn nes at y bont, saif dau deras byr, sef Gwyndy a Bron-gwynydy gyferbyn â’i gilydd y naill ochr i’r ffordd. Mae’n ddiddorol nodi bod gostyngiad yn nifer y trigolion a oedd yn gweithio yn y chwareli ym Mlaenau Ffestiniog, o 120 ym 1839 i ddim ond 12 ym 1874-9 yn anghyson ag ehangiad ffisegol y pentref ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ganwyd Hedd Wyn (gweler yr adran uchod), yn y pentref ar 13eg Ionawr, 1887, cyn i’w deulu symud i’r Ysgwrn, sef fferm yng Nghwm Prysor (ardal 12). Disgynnodd bomiau ar Drawsfynydd ar 6ed Tachwedd, 1940, mewn ymgais o bosibl i ddinistrio’r orsaf. Bu gan yr Artileri Brenhinol faes hyfforddi parhaol ym Mronaber (ardal 20) er 1905, ac ers hynny (yn enwedig ar ôl ymestyn yr orsaf ym 1911) bu trafnidiaeth filwrol drom ar y linell leol (yn enwedig yn ystod yr haf) wrth i’r holl bersonél, ceffylau a gynau ddod i mewn ar y trên.

Pan gafodd ffordd yr A470 ei gwella yn y 1970au cynnar, cafodd y pentref ffordd osgoi, o Bont Trawsfynydd ar ben deheuol y pentref i ben dwyreiniol teras Fron-galed, gan dorri’r cysylltiad uniongyrchol â’r hen orsaf a rhan ddwyreiniol y pentref.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Tai teras, capeli, isadeiledd pentref, hen orsaf

Mae gan y pentref nodweddion pentref diwydiannol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a ehangodd yn ystod y ganrif (er na wyddys ei sail economaidd). Ceir terasau byrion o dai gweithwyr yn bennaf, ond ceir cronoleg eglur yn adeiladau’r pentref gan fod modd adnabod craidd cynnar o amgylch yr eglwys, a pheth tystiolaeth o adeiladau cynharach yn yr ardal, gan gynnwys y dafarn (Ty Gwyn) gyda’r stablau y tu cefn iddi. Gellir olrhain cyfnod o dwf ar ddechrau’r 19eg ganrif mewn sawl adeilad brodorol Sioraidd (er enghraifft, y White Lion ar y Stryd Fawr, a Glasfryn) lle defnyddid blociau mawr o garreg, ac mewn terasau o gyfnod diweddarach yn y 19eg (â gwaith maen llanw) a ddatblygwyd ar hyd ymyl y brif ffordd i ogledd a de y canol gwreiddiol.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Trawsfynydd

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol