English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Trawsfynydd - Ardal 6 Anheddiad gwasgaredig, i’r de orllewin o Lyn Trawsfynydd (PRN 18272)


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys un ar ddeg neu ddeuddeg o ffermydd, a dangosir pob un ohonynt ar fap degwm Trawsfynydd (1840), gan gynnwys Ty-cerrig, Muriau-bychan, Ty’ndrain, Cae Adda, Ty’n Twll, Moelfryn uchaf, Moelfryn isaf a Choed-y-rhygen (y sonnir amdani mewn cerdd o ganol yr 17eg ganrif – gweler y wynebddalen). Mae’r olaf, sydd ynghanol cymhlyg o waliau sych cromlinog o amgylch y caeau a pheth coetir ar dir rhywfaint yn uwch, o bosibl yn dyddio o tua’r 16eg neu’r 17eg ganrif (ac felly ymhlith yr adeiladau hynaf sydd wedi goroesi yn ardal y prosiect) tra fod y lleill ar ymylon y tir is, corsiog (ardaloedd 04 a 07) ac yn ymddangos fel llechfeddiannau Comin Crawcwellt yn dyddio o ddiwedd y 18fed / dechrau’r 19eg ganrif ar hyd y ffordd hyˆn i Gefn Clawdd islaw’r sgri ar y mynydd.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ffermydd, caeau bychain, coetir

Mae’r ardal hon yn cynnwys yr unig aneddiadau a feddiannwyd i’r gorllewin o Afon Eden (ac eithrio Cefn Clawdd (ardal 02) ac i’r dwyrain o gadwyn y Rhinogau yn unig). Ffermydd unigol ydynt sydd wedi’u gosod yn eu systemau caeau eu hunain. Mae Moelfryn uchaf, Moelfryn isaf a Choed-y-rhygen (a hefyd o bosibl Ty’n Twll a Chae Adda) yn gymharol gynnar (17eg ganrif?) ac maent wedi’u gosod mewn cyfadeilau bychain o dai allan: mae strwythur a phatrwm y caeau o’u hamgylch (gwaliau cerrig mawr ac afreolaidd ar dir llethrog, lle mae gwahanol gamau o’u hadeiladu yn amlwg) lle gwelir tir pori wedi ei wella, yn ogystal â darnau bychain o goetir, hefyd yn awgrymu dyddiad cynnar. Mae diwyg diweddarach ar Dy-cerrig, Muriau-bychan, Muriau-bychan-isaf a Ty’ndrain; mae’n bosibl eu bod yn dyddio o ddiwedd y 18fed - dechrau’r 19eg ganrif, ac mae adeiladau’r fferm wedi’u cysylltu â phen y ty. Maent wedi’u hadeiladu islaw brigiad creigiog ac ar ymyl y corstir (ardal 07). Mae’r caeau o’u hamgylch, sydd oll wedi’u gwella, yn fychan ac yn afreolaidd eu siâp ac yn ymddangos fel petaent yn dyddio o’r un cyfnod â’r ffermydd. Roedd y ffordd sy’n rhedeg heibio iddynt yn arwain at Drawsfynydd cyn creu’r llyn (ardal 05) yn gynnar yn yr 20fed ganrif.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Trawsfynydd

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol