English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Trawsfynydd - Ardal 5 Atomfa a llyn Trawsfynydd (PRN 18271)


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Mae map degwm 1840 yn dangos o leiaf ddwy fferm (Brynhir yn SH699351, a Llwynderw yn SH703370) ger cwrs blaenorol yr afon, sydd bellach islaw'r llyn. Oddi eithr hynny, ychydig a wyddys am hanes cynnar yr ardal. Prynwyd y tir lle saif gorsaf trydan dwˆr Maentwrog, a’r llyn a’r argae oedd yn angenrheidiol i gyflenwi dwˆr ar ei gyfer, yng nghanol y 1920au gan y North Wales Power Company: dechreuodd y gwaith ym 1925 ac agorwyd yr orsaf fis Hydref, 1928. 18 megawat o dri thyrbin a yrrwyd â generaduron oedd ei allbwn ar y dechrau, ond ychwanegwyd pedwerydd tyrbin ym 1934 gan gynyddu’r allbwn i 24 megawat. Ailwampiwyd yr orsaf honno ym 1991, a British Nuclear Fuels Ltd sy’n ei weithredu o bell erbyn hyn, wedi gosod meddalwedd cyfrifiadurol ym 1996. Ffurfiwyd Llyn Trawsfynydd trwy adeiladu pedair argae (Smith, 1971) sydd rhyngddynt yn cronni’r dwˆr. Y brif argae, a adeiladwyd ar draws Afon Prysor (ar ben gogleddol y llyn), oedd yr argae gyntaf â bwa mawr i gael ei hadeiladu ym Mhrydain erioed (ibid, 232) ac roedd yn 96 tr o uchder ac yn 37 tr o drwch ar ei gwaelod. Ym 1987, penderfynwyd disodli’r argae wreiddiol, ac fe estynnodd hyn oes yr atomfa o 60 mlynedd.

Roedd gweithwyr Gwyddelig o Corcaigh wedi dod i adeiladu’r argae wreiddiol, ac fe arhosodd rai ohonynt, gan arwain at gynnydd yn y boblogaeth leol: troswyd y tanerdy lleol ar ochr ddwyreiniol Gellilydan (ar ymyl ardal 16) yn eglwys Babyddol yn y 1960au, ac mae’n parhau i fod yn gysegrfa amlwg ar ymyl y ffordd. Dechreuodd y gwaith ar adeiladu Atomfa Trawsfynydd fis Gorffennaf, 1959, ac erbyn hynny roedd Eryri wedi’i dynodi yn Barc Cenedlaethol. Roedd dros 800 o weithwyr o’r tu allan i’r ardal yn byw yng ngwersyll Bronaber (ardal 20), ar ôl i’r Fyddin ymadael ag ef ychydig ynghynt. Roedd dau adweithydd yr atomfa yn weithredol erbyn mis Mawrth 1965, ac agorwyd hi fis Hydref 1968. Codwyd hi ar gost o £103 miliwn, ac atomfa Trawsfynydd oedd atomfa fewndirol gyntaf y Bwrdd Canolog Cynhyrchu Trydan (CEGB) gynt, a’r gyntaf i ddefnyddio dwˆr o lyn i oeri cyddwysyddion ei eiliaduron tyrbo. Er iddi bellach gael ei dadgomisiynu, ar ei hanterth roedd yr atomfa yn gollwng 70,000 galwyn o elifiant bob wythnos i mewn i’r llyn (a oedd fel rheol yn cynnwys oddeutu 35 miliwn o alwyni o ddwˆr). Cafodd y dirwedd gyfagos o amgylch yr atomfa (yn enwedig i’r gogledd) ei thirlunio gan yr ymgynghorydd tirlunio Sylvia Crowe a’r ymgynghorydd pensaernïaeth Syr Basil Spence (er mai ychydig yn unig o’r tirlunio sydd i’w weld heddiw).

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Llyn, argae, gorsaf bwer

Llyn artiffisial a luniwyd mewn cysylltiad â dwy orsaf bwer yn yr 20fed ganrif yw’r nodweddion amlycaf. Mae sawl argae yn gysylltiedig â’r llyn, a dwy orsaf bwˆer, y naill ar y lan ogleddol a’r llall y tu allan i ardal y prosiect i’r gogledd ar lannau afon Dwyryd. Mae’r atomfa bellach wedi ei dadgomisiynu, ac mae’r safle’n cael ei hybu’n frwd erbyn hyn fel atyniad hamdden a thwristiaeth, ar gyfer pysgota a mynd mewn cychod yn bennaf.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Trawsfynydd

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol