English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Trawsfynydd - Ardal 4 Crawcwellt (PRN 18270)


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Yn wreiddiol, roedd y basn ucheldirol y mae’r ardal hon yn rhan fawr ohono yn fawnog helaeth, sef Gors Goch, cyn i’r gronfa ddwˆr bresennol gael ei hadeiladu ym 1906. Mae’n bosibl fod llyn naturiol yn y basn ar un adeg, a'i fod yn gyrchfan ac yn ganolbwynt gweithgarwch yn y cyfnod cynhanesyddol cynnar fel ardal gyfoethog ei hadnoddau ar gyfer economi helwyr-gasglwyr (gweler uchod). Ceir tystiolaeth mewn basnau ucheldirol mewn mannau eraill yng ngogledd ddwyrain ac yn ne Cymru o weithgarwch yn ystod y cyfnod mesolithig, ac mae'n bosibl fod tystiolaeth archeolegol bellach ynghudd dan orfawn neu wedi’i boddi dan y gronfa ddwˆr yn Nhrawsfynydd. Ceir peth tystiolaeth o weithgarwch yn y basn yn ystod yr ail fileniwm CC ar ffurf sawl tomen o gerrig llosg o amgylch Crawcwellt a Bronaber. Roedd pobl wedi anheddu yn yr ardal erbyn tua diwedd y mileniwm cyntaf CC, a cheir olion nifer o aneddiadau gwasgaredig o dai crynion bychain yn gysylltiedig â chaeau neu diroedd caeëdig cromlinog afreolaidd eu siâp, wedi’u gorchuddio yn rhannol â gorgors, ar Grawcwellt, yn ogystal ag yng Nghwm Moch a Chwm Prysor. Dangosodd cloddiad un o’r aneddiadau ar Grawcwellt fod pobl byw yn yr ardal rhwng tua 300 CC a 50 OC ac mai ecsbloetio a mwyndoddi mwyn haearn o gorsydd lleol, yn hytrach nag amaethyddiaeth, oedd sail ei phrif economi (Crew 1998). Mae’n bosibl fod yr un peth yn wir o aneddiadau eraill gerllaw, a byddai'r cyfan wedi dirywio wrth i haearn ddod yn rhwyddach ac yn rhatach ei gyrraedd o ffynonellau eraill ar ôl goresgyniad y Rhufeiniaid. Mae amcangyfrifon ar sail swm y sorod yn awgrymu bod yr anheddiad wedi cynhyrchu oddeutu hanner tunnell o hearn coeth yn ystod ei oes (ibid ). Mae map degwm 1840 yn dangos yr ardal gyfan fel un nad oedd wedi’i hamgáu, ac mae’n rhoi’r enw Crawcwellt Common arni.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Aneddiadau cynhanesyddol (rhai wedi’u claddu), corstir

Mae’r fan hon heddiw yn ardal o gorstir ucheldirol nad oes arno nemor ddim arwydd allanol o weithgarwch dynol yn y gorffennol, er bod o leiaf ddau anheddiad cynhanesyddol helaeth (yn cynnwys aneddiadau cylchoedd cytiau gwasgaredig â chyfres o waliau ymdroellog a thiroedd caëedig o’u hamgylch) yn rhannau gogleddol a deheuol yr ardal. Hefyd, dangosodd cloddiadau diweddar gan P Crew i’r ardal gael ei hecsbloetio’n sylweddol yn y cyfnod cynhanesyddol, ac ei bod hi’n eithaf bosibl fod mwy o weddillion wedi'u claddu yma. Yn ogystal â hyn, ceir olion nifer o hafotai a chorlannau yn rhan isaf yr ardal.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Trawsfynydd

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol