English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Trawsfynydd - Ardal 21 Tir caeëdig ucheldirol – Dol-gain (PRN 18287)


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Ardal ucheldirol yw hon o gymeriad eithaf cymysg, wedi’i seilio ar gyfres o gaeau mawr afreolaidd eu siâp ond heb unrhyw anheddiad modern. Ymhlith y nodweddion archeolegol creiriol mae maen hir, rhan o lwybr yr hen ffordd Rufeinig ac odynnau teils Rhufeinig Penystryd yn ei hymyl, Bedd Porus (carreg ag arysgrifen arni o’r cyfnod Cristnogol cynnar), olion chwarel ar lethrau isaf Pîg Idris, lle ceir hefyd gyfres o gaeau bychain sy’n ymddangos fel pe byddent yn rhan o lechfeddiant. Adeiladwyd gwylfan yma hefyd ar gopa Craig y Penmaen rhwng y ddau ryfel byd ar gyfer y maes tanio i lawr ym Mronaber. Mae nifer o lwybrau yn croesi’r ardal, ac mae coetir prysgog yn gorchuddio’r rhannau gorllewinol, lle ceir hefyd nifer o hen fwyngloddiau ac olion cysylltiedig. Er gwaethaf yr henebion unigol pwysig hyn, nid oes unrhyw wir gydlyniad hanesyddol yn yr ardal.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Caeau â muriau cerrig, llwybrau, nodweddion archeolegol creiriol

Mae’r caeau yn y fan hon yn fawr ac yn afreolaidd eu siâp heb fod ar unrhyw batrwm arbennig: maent yn eithaf nodweddiadol o ardaloedd pellennig ucheldirol. Mae llwybr yr hen ffordd Rufeinig yn rhannu’r ardal yn ddwy o’r gogledd i’r de, ac mae tair ffordd arall (sy’n fwy diweddar) yn dangos pwysigrwydd yr ardal (yn hytrach na’r llwybr is, diweddarach, i’r gorllewin y mae prif ffordd A470 yn ei ddilyn ar hyn o bryd) i gysylltiadau yn y gorffennol. Rhai mân yw’r nodweddion eraill o ran tirwedd.


 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Trawsfynydd

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol