English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Trawsfynydd - Ardal 20 Gwersyll milwrol Bronaber (PRN 18286)


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Sefydlwyd gwersyll milwrol bychan ym Mryn Golau, ar ymyl ddeheuol pentref Trawsfynydd ar ddechrau’r 20fed ganrif (ymyl ddeheuol ardal 12) (Southern 1995). Ym 1906, sefydlwyd safle helaethach a mwy parhaol yn Rhiw Goch yn nes i’r de: prynodd Swyddfa’r Rhyfel dir oddi wrth bobl leol a datblygodd y gwersyll. Rhannwyd y safle yn ddwy – Gogledd a De – a defnyddiwyd pebyll i letya’r milwyr yn y blynyddoedd cynnar. Ym 1911, adeiladwyd gorsaf rheilffordd filwrol ger yr un a oedd yno’n barod yn Nhrawsfynydd (gweler ardal 08) a thorrwyd ffordd i hwyluso cludo gynau, tryciau, wagenni, ceffylau a phersonél i’r gwersyll. Rhedai’r ffordd filwrol o ychydig i’r de i’r gyffordd bresennol â ffordd A470 a’r A4212 tua’r gogledd-ddwyrain i’r orsaf, ac fe wnaeth hyn y gwaith o gludo lawer yn haws.. Cyn hir, roedd Adran y Rhyfel yn berchen ar 8,020 o erwau ym mhlwyf Trawsfynydd, i’r Fyddin Barhaol a’r Fyddin Diriogaethol fel ei gilydd gael ymarfer magnelaeth. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, datblygodd y gwersyll yn ganolfan brysur, nid ar gyfer lletya’r milwyr yn unig, ond hefyd fel maes tanio a gwersyll carcharorion rhyfel. Fel rheol, fe fyddai’r milwyr yn aros yn y gwersyll am bythefnos yn ystod misoedd yr haf, a rhwng diwedd mis Medi a mis Chwefror, fe fyddai’r gwersyll ar gau er mwyn iddo gael ei atgyweirio, ei adnewyddu ac i wneud gwaith cynnal a chadw arno (byddai’r Peiriannwyr Brenhinol a phobl leol yn gwneud hyn). Wrth i fasnacheiddiwch gynyddu, sefydlwyd pentref bychan a adeiladwyd at y pwrpas, i’r gorllewin o’r gwersyll, ac enwyd ef ar ôl fferm gerllaw, sef Bron Aber (er mai ‘Tin-town’ fyddai enw’r bobl leol arno!). Roedd yn cynnwys casgliad o gytiau metel â chaffis, siopau, a gorsafoed petrol ynddynt, a byddai’r milwyr a’r bobl leol fel ei gilydd yn ei ddefnyddio. Ffynnodd y gwersyll ac adeiladwyd arsyllfa ar gopa Craig y Penmaen (ardal 21) i wylio sielio tua’r dwyrain (‘byw’) a thua’r gorllewin (‘marw’/gwag).

Erbyn yr Ail Ryfel Byd, roedd strwythurau mwy parhaol wedi disodli’r pebyll fel llety, a throswyd ty Rhiw Goch a adeiladwyd ym 1610, un o dai cynharaf ardal y prosiect (rhestredig gradd II), yn Ystafell Fwyta Swyddogion y gwersyll (yn anffodus, fe newidiwyd llawer ar du mewn y ty yn ystod y blynyddoedd dilynol). Unwaith eto, defnyddiwyd y fan fel gwersyll carcharorion rhyfel er, y tro yma, Eidalwyr yn hytrach nag Almaenwyr oedd y carcharorion.

Wedi 1945, aeth y gwersyll yn llai pwysig, ond defnyddiwyd ef fwyfwy fel maes tanio ar gyfer arfau oedd heb eu defnyddio, a gludwyd ar y rheilffordd i Drawsfynydd, ac yna ar lorïau i Riw Goch. Mae map a luniwyd ym 1948 (Archifau Dolgellau ZP/12/10) yn dangos mai rhyw 8403 o erwau (‘tir dan berchnogaeth Adran y Rhyfel’) oedd maint ‘Maes Tanio Trawsfynydd’, yn ymestyn o fferm Orsedd-las (SH700313) yn y gorllewin at Foel Boeth (SH778343) a Moel y Slates (SH785365) yn y dwyrain. Roedd y ddwy fel ei gilydd y tu allan i ardal y prosiect. Agorwyd ymchwiliad cyhoeddus fis Tachwedd 1949 gan fod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn chwilio am 5120 yn fwy o erwau i ddarparu ‘ardal hyfforddiant ymarferol’ gyda ffrwydron byw dan amgylchiadau tactegol (Daily Post 18/11/1949). Hawliodd y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oedd y tir, yn ychwanegiadau ucheldirol i ymylon dwyreiniol yr ardal yn bennaf, o gyfoeth mawr i amaethyddiaeth na thwristiaeth. Nid oedd unrhyw benderfyniad wedi dod i’r fei erbyn 1950, a chynhaliwyd protestiadau yn erbyn yr ehangu ym 1951.

Caewyd y gwersyll fel sefydliad milwrol am y tro olaf ym 1957-8, ond ailagorodd bron ar unwaith i letya dros 800 o adeiladwyr o ardaloedd eraill a oedd yn codi atomfa Trawsfynydd (ardal 05). Dyma gymuned hunangynhwysol gyda’i siopau, ei heglwys, ei chantîn a’i sinema ei hun. Pan orffennwyd hyn, fe werthwyd y tir fesul tipyn yn ôl i’r perchnogion gwreiddiol (lle roedd hynny’n bosibl). Dymchwelwyd ‘Tin-town’ i raddau helaeth ym 1971, yn ystod ehangu’r A470, er bod rhai adeiladau yn parhau ar ochr ddwyreiniol y ffordd. Mae adeiladau’r gwersyll bellach yn sefydliad gwesty a chabanau, ar ymyl llethr sgïo artiffisial.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Cynllun gwersyll nodweddiadol a neilltuol, cabanau pren, ‘pentref’ cysylltiedig

Er mai yn yr 20fed ganrif y codwyd Bronaber, mae’r map degwm yn dangos crynodiad bach o adeiladau ar y gyffordd, ac mae rhai o’r rhain yn dal i’w gweld (er gwaethaf eu ‘moderneiddio’ yn helaeth yn y blynyddoedd diweddar). Adwaenir yr ardal bellach fel ‘Pentref Gwyliau Trawsfynydd’ a chabanau pren cymen yn yr arddull Lychlynaidd yw'r rhan fwyaf o'r strwythurau yma (gweler y ffotograff) wedi’u gosod ymysg ardaloedd taclus o laswellt a gerddi sydd er hynny’n parchu cynllun gwreiddiol gwersyll y fyddin. Mae Ystafell Fwyta y Swyddogion gynt, a man genedigol tybiedig Sant John Roberts, wedi’u cadw o hyd (er bod eu diwyg wedi newid) yng ngwesty’r Rhiw Goch, ychydig uwchlaw a pheth pellter o’r prif wersyll. Mae llethr sgïo sych gerllaw’r gwesty sy’n ychwanegu at ymddangosiad swrrealaidd braidd yr ardal yng nghanol y Parc Cenedlaethol. Mae ychydig olion o bentref tin Bronaber i lawr ar ochr y ffordd fodern A470, sydd hefyd yn anghydweddol yn y dirwedd ucheldirol hon sydd fel arall yn llwm ac yn bellennig.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Trawsfynydd

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol