English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Trawsfynydd - Ardal 18 Coed Caersaeson(PRN 18284)


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys coedwigaeth o’r 20fed ganrif yn bennaf ar ben brigiad creigiog, gyda nifer o ffermydd o’r 18fed-19eg ganrif i’r gogledd. Gorwedd yr ardal rhwng dwy afon, sef Afon Tafarn-helyg i’r dwyrain ac Afon Prysor i’r gorllewin. Mae Llyn Trawsfynydd i’r de, ac ymyl ardal y prosiect i’r gogledd. Mae pefrwydd wedi eu plannu islaw brigiad creigiog Craig Gyfynys a dyma yw’r rhan fwyaf o’r ardal. Cofnodir pob un o’r chwe fferm yn rhan ogleddol yr ardal (gan gynnwys Caersaeson, Ysgubor-hen, Llwyn) ar fap degwm 1840, wedi’u clystyru ynghyd mewn ardal gymharol fechan, a phatrwm o gaeau bychain afreolaidd eu siâp yn eu hamgylchynu, a darn o goetir ar ymyl yr hyn sydd bellach yn Llyn Trawsfynydd. Caeau llawer mwy (a mwy cynhyrchiol, mae’n debyg) oedd yn yr ardal sydd bellach dan y llyn. Roedd y briffordd i Harlech ar y pryd, a oedd yn arwain o’i rhagflaenydd i’r A470, yn rhedeg drwy’r ardal, fwy neu lai ar hyd hynt y ffordd bresennol, sy’n nodi ffin ogleddol yr ardal.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Coedwigaeth, ffermydd

Mae’r rhan fwyaf o’r ardal yn cynnwys brigiad creigiog mawr sydd fwy neu lai wedi’i orchuddio â choedwigaeth fodern, sydd wrthi’n cael ei chynaeafu ar hyn o bryd. Mae’n ymddangos bod y ffermydd o fewn ffiniau gogleddol yr ardal yn dyddio o’r 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Trawsfynydd

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol