English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Trawsfynydd - Ardal 17 Tirwedd Rufeinig greiriol Tomen-y-Mur (PRN 18283)


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Mae safle’r gaer Rufeinig yn Nhomen-y-Mur ar groesffordd pedair o ffyrdd Rhufeinig: lle mae’r ffordd o Gaernarfon a Phen Llystyn (RRX95, Hopewell, 2004) yn dod yn ffordd i Gaer Gai (RR68), sy’n croesi (mewn man i’r de o’r gaer) y ffordd i’r de o’r Brithdir (RR69b) a’r gogledd i Canovium (RR69a), (Hopewell, 2004). Mae’r groesffordd wedi’i lleoli ar ael ysbardun isel, oddeutu 280m OD, lle gellir tremio’n rhwydd dros yr ardal leol. Mae tri phrif gyfnod o feddiannu i’w gweld ar y safle (Jarrett, 1969, 112). Cafodd tameidiau o’r baddondy, sy’n gorwedd i’r de-ddwyrain o’r gaer, eu harchwilio yng nghanol y 19eg ganrif, ac fe archwiliwyd y dau brif gyfnod adeiladu wrth eu cloddio ym 1962. Mae’n debyg i’r gaer gael ei chodi oddeutu OC 77 neu 78 o ganlyniad i ymgyrch Agricola, ac roedd ei hamddiffynfeydd o bridd yn amgáu ardal o 1.7 hectar. Dan Hadrian, lleihawyd ei maint (trwy ddwyn llinell yr amddiffynfeydd i’r gogledd-orllewin ‘i mewn’ i’r gaer gynharach) a’i hailadeiladu o garreg, sef proses a gofnodwyd mewn cyfres o 10 carreg ganwriadol a ddarganfuwyd yn y 19eg ganrif (mae rhai ohonynt bellach yn yr Amgueddfa Genedlaethol). Mae’n debyg na fu garsiwn yn y gaer am gyfnod hir ar ôl yr ailadeiladu, ac mae’n bosibl ei bod wedi mynd yn segur erbyn canol yr 2il ganrif OC, er i garreg fedd o’r 5ed ganrif gael ei darganfod gerllaw gan awgrymu bod rhyw fath ar anheddu parhaus yno. Cyfeirir at y gaer fel Mur y Castell yn y Mabinogion (gweler yr adran uchod), ac mae’r enw Tomen-y-Mur yn deillio o’r domen neu’r mwnt, sef y nodwedd fwyaf amlwg ar y safle. Daeth y gaer ddiweddarach (sef y lleiaf o’r ddwy) yn feili parod iddi (gorwedda’r mwnt dros ei hamddiffynfeydd gogledd-orllewinol). Ychydig iawn a wyddys am hanes y mwnt, oddi eithr y ffaith fod William Rufus wedi ymgyrchu yno ym 1095. Mae casgliad helaeth o wrthgloddiau ategol yn amgylchynu’r gaer, a disgrifir hwy isod. O amgylch y gwersylloedd ymarfer Rhufeinig yn Nolddinas, mae cyfres o naw o gaeau, ynghyd â set o adeiladau yn dangos llechfeddiannu yn ystod dechrau’r 19eg ganrif i Gomin Migneint (ardal 15). Ceir enghraifft debyg (er yn fwy) o lechfeddiannu tebyg yn Nolbelydr i’r gogledd orllewin.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Archeoleg Rufeinig greiriol

Mae’r gwrthgloddiau fel y maent heddiw (ac fel y gwelir hwy ar y ffotograff) yn ffurfio un o’r safleoedd Rhufeinig mwyaf trawiadol a diddorol ym Mhrydain, nid yn unig oherwydd dilyniant yr adeiladu, y lleihau a’r ailddefnyddio yn y cyfnod canoloesol, ond oherwydd bod cyfres o adeiladau ategol arbennig o gyflawn mewn cyflwr da o amgylch y gaer: baddondy, mansio (gwesty), gwrthgloddiau ymarfer, ffrydiau, ffyrdd a henebion claddu. Mae’r rhan o ragfur y gaer sydd wedi aros yn y cyflwr gorau ger y porth gogledd-ddwyreiniol gynt (ger y lle y saif y ffermdy adfeiliedig, diweddarach). Yn y fan hon mae wal fodern wedi’i chodi o gerrig sy’n ddiamheuol yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid ac wedi eu naddu’n dda. Rhwng y fan hon a’r mwnt ceir llwyfan wedi’i lefelu lle y safai adeilad y pencadlys (principia), hwnnw hefyd wedi ei adeiladu o gerrig. Mae’r mwnt, sydd â ffos wedi’i thorri’n serth o’i hamgylch, yn gorchuddio’r clawdd cul o gerrig a oedd unwaith yn ragfur gogledd-orllewinol i’r gaer lai. Mae modd gweld cloddiau pridd crynion y gaer wreiddiol, fwy, o hyd i gyfeiriad y gorllewin a’r de-orllewin. Mae gwarchotgelloedd dwbl a philer canolog y porth de-orllewinol, yn ogystal â’r blociad carreg (gwreiddiol, mae’n debyg) a ddaeth i’r amlwg yng nghloddiadau’r 19eg ganrif, yn dal i’w gweld yn glir. Y tu allan, ac i’r gogledd o’r gaer, amffitheatr fechan, rhyw 25m o ddiamedr, sy’n unigryw ym Mhrydain, yw’r amlycaf o’r gwrthgloddiau ategol. Ardal hirgrwn yw hon â chloddiau eithaf uchel yn ei hamgylchynu, a dehonglwyd mai arena ar gyfer ymarferion ag arfau oedd hi. Erbyn heddiw, mae’r ffordd, wal fodern, a thramffordd uchel o chwarel lechi Braich Ddu, sy’n dwyrannu’r canol, yn drysu’r hyn a welir o’r olion. Ceir olion gwrthgloddiau bychain ond pendant (a berthynai o bosibl i wersylloedd ymarfer eraill, neu ran o vicus) yn y cae sydd wedi’i wella y tu allan i glawdd gogledd-orllewinol y gaer gyntaf. Y tu allan i’r porth de-ddwyreiniol mae olion baddondy a gloddwyd yn y 19eg ganrif, ac ar yr ochr arall i’r ffordd safai adeilad mawr â chwrt. Mansio neu westy oedd hwn, mae’n debyg. Y tu hwnt i’r rhain mae olion y pentan pont. Rhwng yr adeiladau hyn a’r amffitheatr, gorwedda’r ‘maes parêd’ a chyfres o wrthgloddiau enigmatig (a ddehonglwyd rhywdro fel ‘llwyfan isel’ (podiwm saliwtio), ond mae’n bosibl mai dim ond olion chwarel sydd yma. Mae’r maes parêd – lle wedi’i lefelu oddeutu 120m sgwâr – yn oroesiad prin. Mae’n bosibl fod hanes milwrol byr y gaer yn esbonio ei chyflwr anorffenedig: nid yw’r hanner gogleddol, yn wahanol i’r adran ddeheuol croyw, yn ddigon gwastad. Mae’r ffrwd a oedd yn cyflenwi dwr i’r baddondy yn rhedeg rhwng y ‘llwyfan isel’ a’r maes parêd. Gellir ei ddilyn am beth ffordd i fyny’r afon. Roedd dwy ffrwd arall yn cludo dwˆr trwy’r dyffryn hwn. Mae’r uchaf, y gellir ei holrhain am 200-300m i Lyn yr Oerfel, yn rhedeg ar lefel y principia, ac mae’n bosibl ei bod wedi cyrraedd y gaer ar lander uchel. Mae nifer o fryncynnau naturiol i’r gogledd o dramffordd y chwarel: gerllaw, mae olion saith tomen gladdu sgwâr bychan, yn isel iawn, ar drwyn y codiad tir mwyaf gorllewinol, yn agos at glawdd diweddarach y cae. Fel y fynwent ar yr ochr ddwyreiniol, gosodwyd y beddau hyn, yn unol â thraddodiad Rhufeinig, yn agos at y ffordd. Mae’r ffordd, unwaith y bydd wedi croesi’r bont, yn mynd tua’r de-ddwyrain heibio i fynwent gaeëdig (300m oddi yno, ychydig i’r gogledd o’r ffordd). Crug ffosog sgwâr cain yw’r heneb fwyaf hynod yma. Mae awyrluniau yn ddiweddar wedi olrhain y ffordd hon (ynghyd â’r pantiau cyson eu pellter lle cloddiwyd am y deunyddiau ar ei chyfer) am dros dwy filltir at gyfres o wyth o wersylloedd ymarfer milwrol (mewn dau grwp) yn Nolddinas (er y dichon fod mwy yno) a bernir mai dyma’r gorau eu cyflwr ym Mhrydain. Mae’r lleoliad yn y fan hon (nid nepell o’r brif gaer ac yn agos at ffordd filwrol) yn nodweddiadol. Tua chwe milltir i’r de o’r gaer, ym Mhenystryd, ceir olion dwy odyn deils, gerllaw’r ffordd i’r Brithdir (gweler uchod) a ffynhonnell dwˆr: gellid cael clai addas rhyw filltir oddi yma. Mae’n bosibl mai hwy a gyflenwodd briciau a theils llawr a tho i’r gaer ar gyfer yr adeiladau yno. Mae’r ffordd Rufeinig yn hawdd ei gweld yn y fan hon (yn enwedig o’r awyr) fel dwy ffos gyflin, gyda’r lôn ychydig yn uwch rhyngddynt wrth iddi redeg i lawr y llethr ogleddol tuag at y nant.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Trawsfynydd

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol