English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Trawsfynydd - Ardal 12 Cwm Prysor – gwaelod y dyffryn(PRN 18278)


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Dyffryn ag ochrau serth sy’n ymestyn i’r dwyrain o bentref Trawsfynydd yw Cwm Prysor a bu'n llwybr cysylltu ers amser maith. Mae presenoldeb Castell Prysor ar fryncyn bychan yng ngwaelod y dyffryn (ceir arolwg a disgrifiad o'r safle yn de Lewandowicz, 1998) yn dystiolaeth o bwysigrwydd strategol yr ardal yn y cyfnod canoloesol, fel llwybr i gadarnle Gwynedd. Mae map degwm 1840 yn dangos dau lwybr yn arwain i fyny’r dyffryn, ar hyd ochrau gogleddol a deheuol Afon Prysor. Mae’r llwybr gogleddol yn tarddu'n uniongyrchol o Drawsfynydd a’r llall o Bont Trawsfynydd. Yn ddiddorol iawn, mae hynt yr olaf yn diffinio ymyl ardaloedd 11/12 fwy neu lai ar hyd-ddo, gan nodi ymyl y caeau sydd wedi'u cau a'u gwella. Roedd y ffyrdd hyn yn ymuno â’i gilydd fymryn i’r gorllewin o Hendre-bryn-crogwydd ac yn mynd ymlaen i ben ucha'r dyffryn, gan orffen, fe ymddengys, ym Mlaen-y-cwm (yn ôl y map degwm). Mae’r ffordd fodern yn dilyn yr hen hynt, fwy neu lai, a bellach mae'n parhau drosodd ac i lawr i'r Bala.

Ym 1840, Pandy oedd yr enw ar fferm fodern Wern-gron, ar lan yr afon ym mhen gorllewinol yr ardal, a gellid tybio mai pandy ydoedd. Cofnodwyd holl ffermydd yr ardal (Yr Ysgwrn, Bodyfaddau, Hafod-wen, Pen-y-bryn ac ati) hefyd yr adeg honno, ac maent oll wedi cadw eu henwau gwreiddiol. Dangosir Bronasgellog fel annedd â gardd ffurfiol sylweddol ei maint (rhywbeth a oedd yn unigryw yn yr ardal yr adeg honno, a heddiw o bosib), ac ymhellach i’r dwyrain, o amgylch Yr Ysgwrn mae sawl darn o goetir (fel heddiw): cofnodir yr unig ddarn sylweddol arall o goetir (Nyrs Bryn-celynog), ar draws y dyffryn, hefyd ar y map degwm. Dangosid y rhan fwyaf o’r caeau yr adeg hynny fel caeau eithaf mawr, afreolaidd eu siâp, er bod y rhai ar hyd waelod y dyffryn yn rhan orllewinol yr ardal bellach wedi’u ‘tacluso’. Mae diwyg llethrau isaf y dyffryn yn parhau i fod yn eithaf tebyg i’r hyn ydoedd yng nghanol y 19eg ganrif. Ceir clwstwr hynod o feysydd llai o amgylch Blaencwm, ac i fyny’r llethrau o’r fan hon ceir cyfres o gaeau mawr iawn, afreolaidd eu siâp. Sefydlwyd gwersyll milwrol bach yng Nghwm Golau (yn eironig, ar y fferm agosaf at Yr Ysgwrn, sef hen gartref Hedd Wyn (gweler yr adran uchod)), ar ymyl ddeheuol yr ardal ar droad yr 20fed ganrif cyn iddo gael ei symud i lawr i Riw Goch (ardal 20). Mae rhannau helaeth o olion llinell rheilffordd y Great Western o’r Bala i Flaenau Ffestiniog, a agorwyd ym 1882, yn nodi ffin ogleddol yr ardal. Mae traphont Cwm Prysor, ar ben dwyreiniol yr ardal, yn 120tr o uchder ar ei huchaf, ac mae iddi naw bwa (yn anffodus fe ddymchwelodd yn ystod Sulgwyn 1881, ond ailgodwyd hi yr un flwyddyn mewn pryd ar gyfer agor y llinell).

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ffermydd, caeau pori, ffyrdd, rheilffordd

Tirwedd ag ynddi dir pori wedi ei wella, a chaeau afreolaidd eu siâp â waliau sych yn ffiniau iddynt sy’n nodweddu’r ardal. Mae patrwm anheddu gwasgaredig o ffermydd o gerrig ar hyd y llethrau isaf hefyd yn nodweddiadol, ac mae’r rhai ar yr ochr ddeheuol yn ymestyn ar hyd hen ffordd (sydd bellach wedi’i rhannol gau ac wedi’i newid yn llwybr): mae rhai o’r ffermydd o leiaf yn dyddio o gyfnod is-ganoloesol o bosibl. Mae ysguboriau caeau pellennig, unwaith eto o gerrig, hefyd yn nodweddiadol o’r ardal. Hefyd ceir rhai darnau bychain o goetir. Mae’r ffordd fodern wedi’i gwella’n sylweddol, ond mae’r rheilffordd y mae darnau helaeth ohoni yn nodi ffin ogleddol yr ardal, yn para fwy neu lai yn gyfan.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Trawsfynydd

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol