English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Trawsfynydd - Ardal 10 Anheddiad cynnar i’r de o Blas Capten (PRN 18276)


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

I’r de o Blas Capten, mewn dyffryn bychan sy’n ymestyn o’r gogledd i’r de ar ochr ddwyreiniol y ffordd fechan sy’n rhedeg o Bont Trawsfynydd i fyny at Benystryd (sef rhagflaenydd y briffordd bresennol o bosibl) ceir cyfres o ffermydd y mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf ohonynt yn is-ganoloesol o ran dyddiad. Yn eu plith mae Derwgoed, Bryn-llefrith, Tyddyn Bach, Erw-ddwfr a Gilfach-wen a bellach maent wedi eu cysylltu â llwybr sy’n mynd heibio i'r ffermydd, neu'n agos atynt, ac yn arwain yn y pen draw at Riw Goch (sydd bellach yn westy, ond a adeiladwyd yn wreiddiol yn y 16eg ganrif - gweler ardal 20). Dangosir y caeau o amgylch Plas Capten fel rhai gweddol reolaidd a threfnus ar y map degwm, mwy neu lai fel y maent heddiw, ond nid yw hyn mor wir tua’r de yn y dyffryn cul. Mae’n debyg i’r ardal hon (sy’n gorwedd, fel mae’n digwydd, ychydig i’r gorllewin ac islaw yr hen ffordd Rufeinig a redai i gyfeiriad y de o Domen-y-Mur) gael ei meddiannu o gyfnod llawer cynharach na’r ardal i'r gorllewin (h.y. ardal 09). Yn ogystal â’r tai, mae adeiladwaith a phatrymau'r caeau hefyd yn awgrymu iddynt gael eu defnyddio yn gynt na'r 19eg ganrif.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ffermydd, caeau, waliau cerrig, llwybr troed

Mae’r ffermydd yn fychain ond yn neilltuol eu cymeriad, sy’n gwahaniaethu rhyngddynt a ffermydd diweddarach yn ardal 09: lleolir hwy hefyd mewn dyffryn cul ag ochrau serth, sy'n wahanol, unwaith eto, i'r anheddiad yn y gorllewin. Mae'r caeau hwythau'n neilltuol. Maent yn fach iawn ac yn gryno (oherwydd y tir yn bennaf) ac mae waliau o gerrig anferth yn aml yn eu diffinio. Mae’n debyg mai yma yr oedd (ac y mae) y tir amaethyddol gorau yn y cyffiniau, sy'n esbonio dyddiad cynnar yr aneddiadau yma. Cyn i’r ffordd dyrpeg newydd gael ei hadeiladu ar ddiwedd y 18fed ganrif, roedd rhan o’r prif lwybr rhwng y gogledd (Tomen-y-Mur yn wreiddiol, ac yna Maentwrog a Thrawsfynydd, gan arwain at Dan-y-Bwlch) a’r de (Penystryd yn wreiddiol ac yna Dolgellau) yn yr amgylchedd ucheldirol caled a digroeso hwn.

 

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Trawsfynydd

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol