English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Penmon - Ardal 8 Cefnen galchfaen Din Sylwy


Bryngaer Din Silwy


Llanfihangel Din Sylwy

Prif nodweddion a phrosesau'r dirwedd hanesyddol


. Din Sylwy, un o'r bryngaerau mwyaf o oes yr haearn ym Môn a thirnod pen bwrdd amlwg.
. Cadw teuluoedd breninlinol rhydd-ddaliadol â'u tenantiaid caeth eu hunain yn y canol oesoedd.
. Chwareli arfordirol ar y creigiau gogleddol ag arwyddocâd hanesyddol gan eu bod wedi darparu cerrig calch i adeiladu Pont Grog Afon Menai.

Mae'r ardal gymeriad hon yn ymestyn at y forlin ar yr ochr ogleddol, at y llethrau serth i lawr i Landdona ar yr ochr orllewinol, i Benmon ar yr ochr ddwyreiniol, ac ar yr ochr ddeheuol, at lethrau deheuol y garreg galch o Ddin Silwy at eglwys Llangoed a Thyddyn Grugor.

Hanes
Mae Din Sylwy yn un o'r bryngaerau mwyaf ym Môn. Mae'n ymestyn dros 19 acer (7.7ha) ac yn codi i uchder o 160m uwchlaw'r seilnod ordnans, y pwynt uchaf yn yr ardal astudiaeth hon. Amddiffynnir y bryn gan un wal o flociau calchfaen, 2.5m o led. Fodd bynnag, mae'r llechweddi â'u hochrau serth yn fanteisiol. Mae'r tu mewn yn gymharol wastad, yn gostwng yn raddol i lawr tair silff o garreg galch o'r de i'r gogledd. Cofnodwyd arteffactau Rhufeinig o'r drydedd a'r bedwaredd ganrif ar y bryn ond nid yw'r rhain yn dweud wrthym pa bryd yr adeiladwyd y gaer, sef tua canol i ddiwedd y mileniwm cyntaf CC mae'n debyg.

Mae nifer o aneddiadau cytiau crwn a llociau ar lethrau deheuol y gefnen galchfaen, rhwng 70m a 120m, i'r gogledd o eglwys Llaniestyn, i'r gorllewin o Fariandyrys ac ar y llethrau i lawr i'r môr yn Fedw Fawr ac i'r gogledd o Dros y Marian (PRN 2537. 2546, 2599, 2602, 2547 a 2553).

Cofnodwyd celc o bum breichled arian Hiberno-Lychlynaidd o'r ddegfed ganrif yn chwarel galchfaen Dinorben, ychydig islaw bryngaer Din Sylwy.

Mae eglwys, Llanfihangel Din Sylwy, a ffynnon sanctaidd nid nepell o'i gilydd yng nghysgod y fryngaer (PRN 2598, 2597).

 

Y gefnen galchfaen o Ddin Sylwy i Benmon oedd heldir y rhydd-ddeiliaid yn yr ardal astudiaeth hon. Ym 1352 roedd trefgordd Din Sylwy wedi ei rhannu. Roedd hanner y drefgordd yn nwylo Rhys ap Gruffydd a oedd yn ei dal fel rhydd-ddaliad. Roedd yr hanner arall yn gaeth, o natur tir cyfrif. Roedd yn rhaid i denantiaid caeth y Tywysog, nid Rhys ap Gruffydd, falu eu hyd ym melin y Tywysog yn Llanfaes ac roedd yn ofynnol iddynt wneud y cwrs dwr a chario pren a meini melin i'w hatgyweirio. Roeddent hefyd yn cario nwyddau i faerdref Llanfaes ac i Benrhos, Conwy a Chaernarfon, ac oddi yno. Mae presenoldeb tenantiaid demên caeth yn cynrychioli cyfnod olaf patrwm sy'n ymestyn ar hyd y tir uchel uwchben Llanfaes o Grymlyn a Bancenyn i Fodynwy a Din Sylwy, yn y cyfnod cyn i Grymlyn a Bancenyn gael eu rhoi at ddefnydd Penmon.

Ym 1608 roedd Richard Ingram a Henry David yn dal prydles y Goron yn hanner trefgordd Dinsylwy Frenin (y rhan gaeth), gan gynnwys tenementau a oedd yn ymestyn cyn belled â rhan o Farian a'r bryniau uwchben Penhwnllys.

Ym Mhenhwnllys, ym 1352, nid oedd ond un gwely, sef Gwely Tudur ap Madog, a oedd yn cael ei ddal fel rhydd-ddaliad gan William ap Gruffydd a David ap Rhys ac eraill. Roedd eu daliadaeth yn eithriadol o rydd, a'r cyfan y gofynnid amdano oedd mynychu'r llys. Yn Nhwrgarw, i'r de o Benhwnllys, roedd gwely arall o'r un enw, sef Gwely Tudur ap Madog. David ap Rhys unwaith eto oedd prif etifedd y gwely hwnnw. Mae etifeddion y ddwy drefgordd yn amlwg yn perthyn i'w gilydd, o gyff cyffredin, ac arwydd o faint a chyrhaeddiad y teuluoedd hyn yw bod eu dylanwad yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau trefgorddau unigol. Yn gwbl ar wahân i denantiaid caeth y Tywysog yn nhrefgordd Dinsylwy, roedd gan rydd-ddeiliaid y tiriogaethau hyn eu taeogion eu hunain.

Nid oes llawer o boblogaeth ar y gefnen galchfaen ei hun, ond datblygodd clystyrau neu bentrefannau bychain ar lethrau deheuol y gefnen, ar hyd lonydd ac, yn fwyaf arbennig, ar gyffordd ffyrdd a lonydd lle'r oedd cyfathrebu'n ddichonadwy a lle'r agorodd chwareli ar yr ochrau sy'n wynebu'r môr a'r ochrau sy'n wynebu'r tir yn y 19eg ganrif. Datblygodd un clwstwr uwchben eglwys Cawrdaf Sant, ger Plas Newydd. Datblygodd un arall i'r de-ddwyrain o Fariandyrys ger Glan yr Afon. Daeth tai cynharach a mwy sylweddol yn ganolbwynt ystadau bach neu ffermydd mawr. Mae Tros y Marian ac Eirianallt yn ddwy enghraifft ar wahanol raddfeydd gweithredu.

Cymeriad y Dirwedd Hanesyddol
Mae'r caeau sydd ar y gefnen galchfaen yn fwy o glytwaith. Maent yn llai ac mae ganddynt derfynau llai rheolaidd na'r caeau mwy a welir er enghraifft yn ardaloedd Llanfaes, Trecastell a Rhos Llaniestyn. Er hynny, mae llawer o derfynau syth i'w gweld ac mae patrwm y caeau mewn ambell le'n dangos sut y caewyd cyn erddi âr, er enghraifft, mewn rhannau o Langoed. Mae'r gefnen galchfaen yn darparu deunydd da ar gyfer waliau, sydd yn aml iawn â gwrychoedd wedi gordyfu drostynt a digonedd o goed. Fel arall, gwelir clystyrau o goed at ei gilydd yng nghyffiniau tai a lle mae ceunentydd yn torri sianelau tuag at yr arfordir a'r môr neu'n bwydo i mewn i'r nentydd sy'n llifo i'r de-ddwyrain i Fae Trecastell.

Mae Din Sylwy, â'i siâp pen bwrdd, yn dirnod amlwg o sawl cyfeiriad yn ogystal â bod yn rhan weledol bwysig o dirwedd y cyfnod cynhanesyddol diweddar.

Mae gan drefgorddau rhydd-ddaliadol Din Sylwy, Penhwnllys a Thwrgarw ddogfennau sy'n caniatáu i ni ddeall arwyddocâd a maint arglwyddiaethau tiriogaethol breninlinol, sydd wedi eu cysylltu drwy wehelyth, fel tiroedd clan, mewn gwrthgyferbyniad â phatrymau deiliadol daliadau Esgob Bangor yn yr ardal astudiaeth yn gyffredinol, a rheolaeth ystadau brenhinol.

Mae'r gwaith o gloddio'r calchfaen ar y gefnen, ar ochr y tir ac ochr y môr yn dod â'i gymeriad diwydiannol ei hun i'r dirwedd hon ac mae wedi cynhyrchu cnewyll bychain o boblogaeth, o fewn cyrraedd i'r chwarel.

Mae Tros y Marian yn dy o ddiwedd yr 17eg ganrif ar safle uwch ar y gefnen, wedi ei gysgodi gan goedlannau. Mae'r ty wedi ei adeiladu o galchfaen, wedi ei osod mewn brasgyrsiau â cherrig grut wedi eu naddu ar gyfer manylion. Mae'r ffasâd yn cynnwys proffil talcennog yn ganolog i'r ffasâd ac yn wastad â'r wal. Mae'r ffenestri wedi eu gosod yn gymesur, tair bob ochr i'r drws ar y llawr gwaelod, a'r un fath eto ar y llawr cyntaf. Mae'r drws ffrynt yn cynnwys pediment clasurol ac mae'r cyrn simnai wedi eu gosod ar y ddwy wal ben.

Mae Eirianallt yn dy neu fwthyn llai o'r 17eg ganrif â dwy ystafell ar y llawr gwaelod, mynedfa ganolog a chorn simnai canolog. Mae'n debyg bod y ty'n dy un llawr a hanner â ffenestri hanner dormer a tho gwellt. Codwyd uchder y waliau yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif, gan ostwng goleddf y to. Mae'r ddau dy, sy'n gymharol agos at ei gilydd, yn rhoi cymeriad i'r ardal.

 

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Penmon

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol