English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Penmon - Ardal 7 Llangoed

Prif nodweddion a phrosesau'r dirwedd hanesyddol

. Trefgordd boblog yn nwylo Esgob Bangor yn y Canol Oesoedd.
. Amlinellau gerddi troellog o diroedd âr wedi goroesi.
. Datblygiad pentref ochr ffordd mawr ar ryd yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif.

Ar wahân i Fiwmares, Llangoed yw'r ardal lle mae'r crynodiad mwyaf o bobl yn yr ardal astudiaeth. Ei therfyn gogleddol yw'r gefnen galchfaen ger Tros y Marian; ei therfynau deheuol a dwyreiniol yw Afon Brenhin a therfynau Llanfaes a Threcastell/Aberlleiniog, yn y drefn honno, a'i therfyn gorllewinol yw Penhwnllys.

Hanes
Roedd Llangoed, yn y canol oesoedd, yn un o'r trefgorddau niferus a oedd yn nwylo Esgob Bangor. Roedd yn un o ddaliadau mwyaf poblog yr Esgob ym Môn, yn ail i drefgordd esgobol Conysiog yng nghantref Aberffraw. Roedd pedwar deg a saith o deuluoedd yn denantiaid yn Llangoed ym 1306 mewn un ar ddeg o welyau, neu grwpiau o deuluoedd a oedd yn perthyn i'w gilydd. Roedd pob tenant yn cael mynediad at lain o dir. Roedd rhai'n dal eu tir fel unigolion, ac roedd eraill yn gweithio'r tir âr cyfunol, ar y cyd. Ar gyfartaledd, roedd pob teulu'n amaethu chwe neu saith acer o dir âr. Roedd y tenantiaid yn talu rhent i'r Esgob ym maerdref neu faenor ranbarthol yr Esgob. Yng nghwmwd Dindaethwy, roedd hynny yn Treffos, a oedd yn cael ei rheoli gan ddistain yn absenoldeb yr Esgob. Telid rhywfaint o'r rhent mewn arian parod ar adeg y prif wyliau tymhorol, Gwyl yr Holl Saint ar y cyntaf o Dachwedd a Dydd Sant Phylip a Sant Iago, Apostolion ar y cyntaf o Fai. Telid rhenti eraill mewn nwyddau neu wasanaeth. Roedd angen mynychu llys a gwasanaeth milwrol yr Esgob, yn ôl y galw. Darperid grawn - gwenith, ceirch a mag - fel rhent. Roedd angen cyflawni gwaith amaethyddol hefyd, lladd gwair yn yr hydref am dri diwrnod, ac roedd pob tenant yn rhoi iâr ar adeg y Nadolig.

 

 

Mae'n bosibl bod rhai o denementau canoloesol Llangoed wedi clystyru gyda'i gilydd mewn pentrefannau bychain ond ni fyddai'r rhain yn edrych yn ddim byd tebyg i'r pentref a oedd i ddatblygu yn ystod dechrau'r 19eg ganrif. Yng nghanol y 19eg ganrif roedd y lle'n dal i edrych yn debyg i anheddiad gwasgaredig, gyda chasgliad mwy o dai yn rhan ddeheuol yr ardal gymeriad o bobtu'r bont dros afon Lleiniog ym Mhont y Rhyd. Safai eglwys Cawrdaf Sant yng nghanol y plwyf ond ar derfyn gogleddol yr ardal gymeriad bresennol. Ceir awgrym o wreiddiau cynnar i'r eglwys. Mae yno groes endoredig addurnedig o'r 12fed ganrif a bedyddfaen o'r 14eg ganrif. Ailadeiladwyd yr eglwys yn y 1880au a thransept gogleddol yr 16eg ganrif oedd yr unig ran a adawyd yn gyflawn.

Ceir tystiolaeth glir o gau lleiniau âr mewn meysydd agored ar ochr orllewinol pentref Llangoed ac, yn ôl y dystiolaeth o fapiau dechrau 19eg ganrif, ar hyd ochr orllewinol y ffordd bresennol sy'n mynd drwy'r pentref o'r de i'r gogledd. Sefydlwyd rhai o'r tai cynharaf ar y lleiniau amaethyddol hyn. Galwyd un tenement, yn berpendicwlar i'r ffordd, yn Ty'n Llain, a rhoddwyd yr enw Ty Newydd i ddau arall. Disgrifir tri thy yn y clwstwr bychan fel Ty Pridd. Mae llai na dwsin o dai wedi eu cofnodi i'r de o'r afon ar fap degwm y 1840au. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach roedd pum deg neu chwe deg o dai ar ochr orllewinol y ffordd, gorsaf yr heddlu ger y bont, gefail, a oedd yno ar ddechrau'r 19eg ganrif, ger yr afon, dau gapel anghydffurfiol a gefail arall ym mhen deheuol y pentref.

Mae'r tai teras deulawr gwreiddiol o ddiwedd Oes Fictoria, sydd wedi eu rhannu'n ddarnau byrrach, oherwydd y llethr i lawr at yr afon, wedi goroesi yng nghraidd y pentref. Mae eraill wedi eu hailadeiladu neu eu hymestyn. Yn ystod yr 20fed ganrif mae tai newydd wedi amlyncu'r ardal gyfan ar ochr ddwyreiniol y ffordd i fyny glannau afon Brenhin ac wedi ymestyn i'r de ar yr ochr orllewinol mewn ystadau mwy diweddar o dai teras, gan ychwanegu cyfanswm o ddau gant o dai at y stoc dai.

Nodwedd amlwg o ehangu'r anheddiad yn Llangoed yn niwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif yw darparu lleiniau cefn hir a chul gan ddefnyddio patrwm cyn feysydd âr caeedig.

Cymeriad y Dirwedd Hanesyddol
Roedd Llangoed yn drefgordd sefydlog yn y canol oesoedd ac roedd yn un o'r trefgorddau mwyaf poblog yn nwylo Esgob Bangor. Mae cofnodion wedi goroesi ar gyfer niferoedd, cymdeithasau, rhenti a thaliadau mewn nwyddau ar ddechrau'r 14eg ganrif. Cafodd y Pla Du effaith ddinistriol yng nghanol y 14eg ganrif, ac nid yw'n debygol bod dwysedd y boblogaeth wedi cynyddu llawer tan ganol y 19eg ganrif. Fodd bynnag, roedd newid dramatig ar fin digwydd yn y patrwm anheddu.

Mae Llangoed yn y 19eg ganrif yn bentref ochr ffordd ger llecyn i groesi afon Lleiniog. Safai melin yd, yn cael ei throi gan ddwr y nant, 900m i'r gogledd-orllewin. Er gwaetha'r cynnydd cyflym yn y boblogaeth ac ehangu'r tai yn Llangoed mae modd adnabod gerddi troellog cyn feysydd âr, wedi eu cau a'u parselu gan wrychoedd a chloddiau, y tu draw i ffiniau'r pentref ym mhatrwm cyfosodiad y pentref.

Mae nifer fawr o dai ar y codiad tir i'r gogledd-ddwyrain o'r pentref, gan gynnwys Haulfre â'i stablau ystâd sy'n nodweddiadol o'r 19eg ganrif a'r Plas yn Llangoed, yr honnir bod ei wreiddiau'n deillio o ddechrau'r 17eg ganrif ond a ail-fodelwyd ar ddechrau'r 19eg ganrif.

Mae Tros y Gors, yn agos at Afon Lleiniog, ar ei hochr ddeheuol, hefyd wedi cael ei ailadeiladu a'i foderneiddio yn ystod y cyfnod mwy diweddar. Fodd bynnag, mae rhannau o adain fargodol ty cynharach, o'r 16eg ganrif mae'n debyg, wedi goroesi drwy gael ei hymgorffori o fewn yr adeiladwaith diweddarach. Cofnodwyd cyplau trawstiau croes a thrawstiau siamffrog.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Penmon

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol