English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Penmon - Ardal 6 Rhos Llaniestyn


Iestyn Sant, Llaniestyn


Hafotty

Prif nodweddion a phrosesau'r dirwedd hanesyddol


. Rhostir gwlyb, ar dir uwch, yn greigiog mewn rhai mannau ac yn addas i'w bori.
. Eglwys â nodweddion yn dyddio o'r 12fed ganrif a llunddelw pwysig o Iestyn Sant yn y capel deheuol.
. Lleoliad posibl tiroedd pori'r Tywysogion yn y 13eg ganrif.
. Hafoty, ty pwysig o'r 15fed ganrif a'r 16eg ganrif; yr enghraifft orau o dy o'r cyfnod hwnnw sydd wedi goroesi ym Môn.

Mae'r ardal gymeriad hon yn ddarn cymharol uchel o dir, rhwng 100 a 140m uwchlaw'r seilnod ordnans, sy'n ymestyn dros 2000 o aceri. Mae'n terfynu ar y gogledd â'r gefnen galchfaen yn Nin Sylwy; ar y gorllewin â rhostir garw a chreigiog Tir Comin Llanddona a therfyn gorllewinol Hafoty; ar y dwyrain â llethrau serth Coed Cadw ac ar y de â therfyn mympwyol ffordd y B5109 o Fiwmares i Lansadwrn.

Hanes
Mae meini hir cynhanesyddol posibl yng nghornel de-orllewinol yr ardal, yn Lloches Hafoty ac i'r dwyrain oddi yno (PRN 16628; 2642; 2643; 2648). Mae beddrod siambr posibl yn Lloches Hafoty (PRN 241) ac mae siambr gladdu Neolithig bendant yn Hendrefor, 1.7km i'r de-orllewin o'r safle posibl yn Lloches Hafoty.

Mae eglwys Llaniestyn, a oedd yn perthyn ar un adeg i Santes Catrin yn Llanfaes, yn eglwys hynafol. Mae bedyddfaen addurnedig o'r 12fed ganrif yng nghanol yr eglwys a drws bychan o'r 12fed ganrif â phen bwaog hanner crwn yn cael ei gynnal gan arbyst yn ymestyn allan o'r ystlysbyst. Ehangwyd neu ymestynnwyd yr eglwys yn y 14eg ganrif a'r 15fed ganrif a darparwyd transept neu gapel deheuol. Mae cwpl trawstiau croes wedi goroesi o'r 15fed ganrif yng nghanol yr eglwys. Mae gan y cyntedd sydd wedi cael ei ychwanegu ddrws sy'n dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif. Mae llunddelw o Iestyn Sant, mewn cerfwedd isel, yn y capel deheuol, Mae'r llunddelw'n dyddio o ddiwedd y 14eg ganrif. Mae'r fynwent fel pe bai wedi cael ei byrhau ac mae'n bosibl ei bod ar un adeg yn gromliniog ac, efallai, yn gonsentrig o amgylch canolbwynt cynharach

Mae tair trefgordd ganoloesol yn yr ardal gymeriad. Yn y rhan ogleddol mae Bodynwy. Ymddengys bod y drefgordd hon, cyn concwest Gwynedd, wedi ei rhannu'n ddwy ran. Roedd elfen rydd, yn cael ei chynrychioli gan Wely Iorwerth Fychan, ac un carwgad a hanner o dir yn naliad Gwenhwyfar, merch Einion ap Meilir a Lleucu a Gwenllian, merched Carwed. Mae tenement o'r enw Carwed, wedi ei ardystio, o leiaf, o ddechrau'r 17eg ganrif, 600m i'r de o eglwys Llaniestyn. Roedd yr elfen arall yn dal eu tir dan ddaliadaeth gaeth, tir cyfrif, daliadaeth gaeth iawn sydd i'w gweld, neu sy'n cael ei chysylltu, â demên yr arglwydd. Yn ddiweddarach, yn fuan iawn ar ôl y goncwest, rhoddwyd y tir caeth a oedd yn arfer bod yn nwylo Llewelyn ap Gruffydd ac a oedd yn ddiweddarach ym meddiant Edward I, ym Modynwy, yn rhydd i ddeiliaid blaenorol tir lle'r adeiladwyd castell Biwmares, i'w digolledu. Eithriad fyddai i eglwys gynnar gael ei hadeiladu ar dir caeth ac, yn sefyllfa Bodynwy, rhaid inni gymryd yn ganiataol bod eglwys Llaniestyn yn deillio o elfen rydd-ddaliadol y drefgordd.

I'r de-orllewin o'r ardal gymeriad roedd trefgordd Crymlyn, a oedd yn cynnwys dau bentrefan, sef Bodarddar a Chefn Coch. Pentrefan Cefn Coch oedd lleoliad melin y Tywysog yn yr ardal hon ac yma y byddai'r tenantiaid caeth a'u holynwyr yn malu eu grawn.

Rhoi tir i Benmon
Fodd bynnag, roedd agwedd arall i Grymlyn a hepgorwyd o arolwg manwl y Goron ym 1352. Roedd Crymlyn Wastrodion eisoes wedi ei roi i fynachlog Penmon ym 1248 gan Lywelyn ap Iorwerth. Roedd y rhan hon o Grymlyn ym mhen deheuol yr ardal gymeriad, rhwng Bodarddar a Chefn Coch. Rhwng 1551 a 1554 cafwyd cyhuddiadau o lechfeddiannu mewn dau denement ar ochr ddwyreiniol Crymlyn. Disgrifiwyd un o'r rhain, Hafod Hirgwm, fel lleoliad yn nhrefgordd Bancenyn tra oedd y llall yng Nghrymlyn. Yn ogystal â llechfeddiannu, gyrrwyd ugain o bennau o wartheg oddi yno. Roedd Bancenyn wedi ei roi i ganonau Ynys Lannog (Penmon ac Ynys Seiriol) ym 1221 ac roedd y Prior wedi cadw da byw ar y ddau denement hyn cyn y diddymiad. Ym 1552 honnwyd, gan edrych yn ôl, bod yr anifeiliaid wedi eu gyrru oddi yno'n ddirgel ('privily conveyed away') cyn i gomisiynwyr y darostwng gyrraedd.

Mae Hafod Hirgwm yn ddisgrifiad priodol o gulffordd hir Cadnant ac mae'r disgrifiad 'ar ochr ddwyreiniol Crymlyn' yn nodi'r lleoliad ger blaenddyfroedd y cwm yng nghyffiniau Bodgylched. Ceir cadarnhad o'r lleoliad ym mhrydles y Goron dan y Sêl Fawr ym 1595 a oedd yn rhoi Crymlyn Mynach a Hafod Hardwyn (Hirgwm) ym Mancenyn. Mae tenementau Crymlyn Mynach, Bancenyn, Bodynwy ac (y tu allan i'r ardal gymeriad hon) Din Sylwy Frenin, i gyd yn ddaliadau caeth. Mae pentrefan Bodarddar yng Nghrymlyn Heilyn yn bentrefan rhydd ac mae'n cael ei gynrychioli bellach gan y ty, Hafoty. Mae'r dirwedd, a'r systemau ffermio o bosibl, yn ddigon tebyg.

Hafoty
Mae Hafoty mewn lleoliad uwch ar ffiniau plwyfi Llansadwrn a Llanddona. Saif y ty presennol ym mhen gorllewinol brigiad creigiog isel, lle mae'r tir yn gostwng ychydig cyn codi eto tua llethrau Mynydd Llwydiarth i'r gogledd-orllewin. Er ei fod mewn lleoliad uwch, mae'r draeniad yn wael ac mae llawer o'r tir sydd o gwmpas yn wlyb iawn yn ystod y gaeaf. Mae'r dirwedd bresennol yn cynnwys glaswellt gan mwyaf. Mae caeau wedi eu gwella i'r dwyrain o'r ty ond mae rhan helaeth o gyrion y demên yn greigiog, wedi ei orchuddio ag eithin, ac, i ddibenion modern, yn anhydrin. Mae tystiolaeth amlwg o aredig grwn a rhych i'w weld er gwaetha'r brigiadau creigiog. Yn y 18fed ganrif, pan oedd yn nwylo Baron Hill, mae arolwg o'r ystâd yn awgrymu mai dim ond rhan o'r daliad oedd yn cael ei drin. Mae'r caeau anhydrin a chreigiog yn cyd-fynd â'u henwau. Roedd Gwaen Fawr yn dal tri deg a phedair a hanner o aceri; roedd gan Gae Eithin Mawr bedair acer ar hugain; roedd gan Gwaen Arw ddeugain ac wyth o aceri ac roedd Rhos, i'r de, yn ymestyn dros naw deg a naw o aceri. Dim ond naw deg a phedair o'r 299 o aceri oedd yn addas ar gyfer ffermio âr.

Daeth y tenement a adnabyddir fel Hafoty, ym mhentrefan Bodarddar , i ddwylo Thomas Norres o orllewin Derby tua chanol y 15fed ganrif. Roedd yn ymestyn dros 54 acer. Gyda threigl amser casglwyd rhagor o dir, o bosibl pan osodwyd prydlesi mewn tir mynachaidd ar ôl y diddymiad. Erbyn y 1770au roedd Hafoty wedi ehangu i dros 300 acer.

Magu gwartheg yn Hafoty
Ym 1511 trosglwyddwyd y tir i Richard Bulkeley, yr Archddiacon. Ymddengys y cyfeiriadau uniongyrchol nesaf yn ystod y 1570au a'r 1580au. Yn Nhachwedd 1577 rhoddodd Syr Richard Bulkeley brydles i Richard Lewis ap Ieuan ap Rees o Crawgoyd (Crafgoed ger Llanddona) ar fesiwais neu blasty Botyorthergh (Hafoty) am rent blynyddol o £33.6.8d. Darparwyd tri deg a phedwar o wartheg gyda'r brydles. Ym 1585 ceir cyfeiriad at 'dayre house in Llansadwrn', a oedd ym meddiant Edward Lewis Gethin, a gadarnhawyd yn ddiweddarach fel 'Hafodty Ortherch'. Saith mlynedd yn gynharach, roedd Syr Richard Bulkeley wedi rhoi prydles i Owen ap Llywelyn ap Hoell o Lansadwrn, iwmon. Er nad yw'r tenement yn cael ei enwi mae'n cael ei ddisgrifio'n ddigon tebyg fel 'daryie' Syr Richard yn y plwyf hwnnw. Roedd y brydles yn cynnwys darparu 24 buwch a tharw. Roedd y denantiaeth, yn ychwanegol at rent o £25 y flwyddyn, yn galw am gyflenwi menyn da, ffres a dihalen i blasty Baron Hill. Bu Hafoty yn nwylo'r teulu Bulkeley tan yr ugeinfed ganrif.

Mae'n rhaid bod Crymlyn a Bancenyn wedi bod yn nwylo'r Tywysog yn ystod teyrnasiad Llywelyn ap Iorwerth er mwyn iddo allu cael ei roi i Benmon. Mae patrwm yn ymddangos, lle mae trefgordd rydd, yn Nin Sylwy (ardal gymeriad ar wahân), yn cynnwys cydran tir cyfrif caeth o'i mewn. Yn yr un modd, roedd Bodynwy yn cynnwys tenantiaid tir cyfrif rhydd a chaeth. Roedd Crymlyn hefyd yn cynnwys elfennau rhydd a chaeth. Roedd Bancenyn yn amlwg yn gaeth ond nid oes sicrwydd ynglyn â natur y ddaliadaeth gaeth. Roedd Bodarddar (Hafoty) yn rhydd, ond roedd hithau hefyd yn magu gwartheg. Mae'n bosibl bod tenantiaid caeth yn cael eu sefydlu, dan y Tywysogion, â swyddogaeth arbenigol i'w chyflawni, ar dir uwch Rhos Llaniestyn - sef cynnal a chadw ranshys gwartheg, ffriddoedd neu hafodydd, fel elfen atodol at weithrediad demên y faerdref yn Llanfaes, ar dir a oedd yn addas ar gyfer hynny.

Cymeriad y Dirwedd Hanesyddol
Gallai tir uwch Rhos Llaniestyn fod yn bwysig o safbwynt hanesyddol gan fod modd awgrymu bod y gadwyn o ddaliadaethau caeth canoloesol sy'n ymestyn o Grymlyn a Bancenyn yn y de, drwy Bodynwy (sy'n cael ei gynrychioli yn awr gan denement hynafol Carwad) i lethrau Din Sylwy, yn gydran isadeileddol o weithrediad maerdref Llanfaes yn y swyddogaeth arbenigol o ranshio gwartheg.

Mae'r dirwedd yn wastad ar y cyfan ac eithrio'r ceunentydd sy'n rhicio'r llethrau dwyreiniol serth ac yn draenio'r llwyfandir tua'r dwyrain i'r arfordir yn Llanfaes a Threcastell gan droi melinau tan yn gymharol ddiweddar. Mae nentydd hefyd yn draenio i gyfeiriad y de, yn fwyaf arbennig afon Cadnant ar ei thaith hir i lan Afon Menai ym mhen gogleddol Porthaethwy. Tan yr ugeinfed ganrif roedd ardaloedd helaeth o dir garw a thir comin yn y rhan ogleddol o amgylch Carwad a Llaniestyn. Mae rhan ddeheuol yr ardal yn dal yn dir corsiog o amgylch Llyn Bodgylched.

Mae ty Hafoty yn bwysig am lawer o resymau. Mae'n debyg mai hwn yw'r ty canoloesol sydd wedi ei gadw orau ym Môn. Mae'r cyfeiriadau cyntaf ato'n ei ddisgrifio fel ty Neuadd â fframwaith pren, wedi ei orchuddio â cherrig yn ddiweddarach ag ychwanegiadau ac addasiadau. Mae cyplau'r ty cynnar (canol y 15fed ganrif), yn y neuadd a'r adain ddwyreiniol, yn gyplau brenhinbyst a thynlath, yn cael eu cysylltu gan gleddau bwaog i'r walblad a'r pyst. Mae ategion gwynt yn cryfhau'r adeiladwaith. Mae'r mowldin chwarter crwn addurniadol o dan y dynlath a'r cleddau, ynghyd â'r brenhinbyst yn awgrymu dylanwad ardal Swydd Gaerhirfryn a Swydd Gaer. Mae'r nodweddion hyn yn arbennig o ddiddorol gan fod cynifer o newydd-ddyfodiaid wedi cymryd tir bwrdais ym Miwmares yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r cyplau sydd yn yr adain gerrig orllewinol (sy'n dyddio o tua AD 1500) yn drawstiau croes, wedi eu gosod ar ben y waliau ochrol.

Mae'r ty hefyd yn bwysig oherwydd y corn simnai allanol anferth sydd wedi ei ychwanegu ar y wal hir ddeheuol, a'r arysgrifen uwchben bwa pedwar canolbwynt y lle tân sy'n cysylltu'r nodwedd yn bendant â daliadaeth Bulkeley ar ôl 1511.

Ceir caeau mawr â therfynau syth ar y cyfan yn rhan ddeheuol yr ardal (cloddiau a gwrychoedd gan mwyaf), ac ambell awgrym o amaethyddiaeth âr flaenorol. I'r de-ddwyrain o Laniestyn mae lleiniau llai, ond maent wedi eu trefnu ar ffurf patrwm rheolaidd. Mae ffordd syth fwy neu lai, y Ffordd Deg, sy'n anelu'n syth o Fiwmares i derfyn deheuol Tir Comin Llanddona, gan droi i ostwng i lawr o dir uwch Llanddona i'r draethlin yn y Traeth Coch. Mae'r ffordd hon yn torri'n uniongyrchol ar draws yr ardal gymeriad ac yn gwasanaethu llawer o'r adeiladau ar y ffordd.

Nid oes pentrefi na chlystyrau o boblogaeth yn yr ardal gymeriad. Mae tua phymtheg o ffermydd wedi eu gwasgaru ar draws y llwyfandir, ac mae llawer ohonynt yn rhoi cryn gymeriad i'r dirwedd. Mae Tyddyn Isaf, ym mhen gogleddol yr ardal gymeriad, yn ffermdy deulawr brodorol o ddiwedd y 18fed ganrif - dechrau'r 19eg ganrif â stabl ac ysgubor ynghlwm wrtho. Mae wedi ei adeiladu o rwbel â chorn simnai byrdew mawr ac roedd y to gwellt gwreiddiol yn dal arno tan ganol y 19eg ganrif. Mae Cefn Lech, i'r dwyrain o Garwad, yn ffermdy deulawr o'r 18fed ganrif, wedi ei adeiladu o rwbel, a'i rendro a'i wyngalchu. Mae Rhos Isaf yn enghraifft arall o ffermdy deulawr o ddiwedd y 18fed ganrif - dechrau'r 19eg ganrif ag ysgubor ynghlwm wrtho ac ar yr un llinell ag ef. Bwthyn croglofft o'r 19eg ganrif yw Ty'n Rhos, un o'r ychydig fythynnod ar dir comin Llaniestyn, mewn gwrthgyferbyniad â'r llechfeddiannu helaeth heb fod ymhell yn Llanddona. Mae Bryn Bella, ar Ffordd Deg, ger cofeb teulu Bulkeley ar Tower Hill, yn fath gwahanol iawn o ffermdy. Mae'n adeilad deulawr â rhesi o adeiladau amaethyddol ynghlwm wrtho ar yr un llinell, ond mae'r ty yn dalach ac yn llawer mwy sylweddol â chymesuredd wedi ei gynllunio.

Ym mhen de-orllewinol yr ardal gymeriad, saif College, adeilad sy'n cynnwys wyth uned mewn dwy res ar ongl sgwâr i'w gilydd, ag iard llawr cobls yn y cefn. Mae'n bosibl bod yr adeilad hwn yn gartref i denantiaid tlawd y plwyf. Tybir bod yr enw'n deillio o enw'r perchnogion, sef Coleg yr Iesu, Rhydychen.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Penmon

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol