English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Penmon - Ardal 5 Llanddona


Tir Comin Llanddona


Tai Bach


Eglwys Dona Sant a Reithordy

Prif nodweddion a phrosesau'r dirwedd hanesyddol


. Un o'r enghreifftiau gorau sydd wedi goroesi yn ardal yr astudiaeth fel tystiolaeth o leiniau âr, canoloesol, hir.
. Anheddiad gwasgaredig o ffermdai ar denementau hynafol.
. Llechfeddiannu ac anheddu ar raddfa fawr ar dir comin Llanddona o ddechrau'r 19eg ganrif hyd heddiw.

Mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys rhanbarth trionglog o lethrau serth o'r gefnen galchfaen i'r gorllewin o Din Sylwy a Rhos Llaniestyn ar yr ochr ddwyreiniol ac o'r tir creigiog i'r gogledd o Hafoty i'r draethlin ar yr ochr dde-orllewinol. Traethlin y Traeth Coch yw'r terfyn ar yr ochr ogleddol.

Hanes
Mae cylch cytiau ar gwr gorllewinol Tir Comin Llanddona (PRN 2662), ond mae arwyddion eraill o anheddu cynnar yn yr ardal gymeriad yn brin iawn.

Roedd Llanddona, dan yr enw Crafgoed, yn drefgordd gaeth yn nwylo Esgob Bangor yn y canol oesoedd. Roedd 15 teulu yn dal 12 tenement ym 1306 gan drin cyfanswm o tua 100 acer o dir âr. Roeddent yn talu eu rhent yn yr un ffordd i raddau helaeth â thenantiaid yr Esgob yn Llangoed. Roeddent yn rhoi mesurau o wenith a brag adeg y Nadolig, ceirch adeg y Grawys, a thaliadau ariannol ym Mai a Thachwedd, ac yn gwneud gwaith amaethyddol, gan ladd gwair yn yr hydref. Yn ystod y Nadolig, roedd yn ofynnol i bob tenant roi iâr. Roedd yn rhaid iddynt hefyd wneud darpariaeth ar gyfer lle pori i geffylau distain yr Esgob.

Saif eglwys Dona Sant yn rhan ogleddol y drefgordd, 130 m o'r traeth, wrth ochr nant sy'n rhaeadru i lawr y llethrau serth, gan droi melin ger y traeth. Mae cored bysgod fawr ger y marc distyll. Mae'n bosibl bod enw cae, Llain Clas, ger yr eglwys yn nodi tarddiad posibl yr eglwys a rhan o leiaf o'r gymuned fel sefydliad lled-fynachaidd yn y canol oesoedd cynnar. Fodd bynnag, ni allwn fod yn sicr ynglyn â hyn.

Roedd cnewyllyn y gymuned ar y tir is y tu ôl i'r draethlin ac islaw'r llethrau serth a oedd yn arwain i fyny i Fynydd Crafgoed neu Dir Comin Llanddona.

Roedd dwy fferm weddol fawr ar y llethrau is, yn agos at y draethlin, yn yr ardal anheddu hynafol. Roedd y ffermydd hyn, Wern, a oedd yn 318 acer, a Than yr Allt, a adwaenir hefyd fel Carreg y Gwalch, a oedd yn 69 acer, yn ymyl ei gilydd ym mhen gorllewinol y drefgordd. Roedd llawer o'r tir uwch i'r de o'r Wern a Than yr Allt wedi ei orchuddio â choed a phrysgwydd yn y 19eg ganrif ac mae felly o hyd. Erbyn heddiw mae coed aeddfed yn tyfu hefyd yn y caeau i'r gogledd-ddwyrain o'r Wern. Pen yr Allt oedd y drydedd fferm weddol fawr, yn dal 80 acer ar y tir uwch rhwng y tir comin a'r llethr i lawr i'r traeth.

Roedd 24 daliad, yn mesur rhwng chwech a 24 acer, wedi eu dosbarthu bob ochr i'r nant sy'n llifo heibio eglwys Dona Sant ac a oedd ar un adeg yn troi olwyn ddwr y felin yd. Er bod rhywfaint o gyfuno wedi digwydd hefyd ar ffermydd bach Hafod Wen (22 acer) a Than y Gryddyn (20 acer), er enghraifft, yng nghraidd y pentref, parhaodd patrwm nodedig iawn o erddir hir, main wedi eu cydgymysgu ymhlith y daliadau cyfansoddiadol ac yn ymledu oddi wrthynt.

Nid oedd y lleiniau unigol i gyd wedi eu cyfuno yn ôl patrwm dal tir y 1840au ac roedd llawer o'r lleiniau wedi eu gwasgaru o hyd ymhlith ffermydd pentref y 19eg ganrif. Er bod y gerddi wedi eu cau erbyn y 19eg ganrif, mae natur wasgaredig y daliadau hyn yn arwydd clir o broses flaenorol gerddi âr gwasgaredig mewn maes agored. Mae'r patrwm hwn i'w weld o hyd yn nhirwedd Llanddona ym Mhentrellwyn, Ysgubor Fawr a Thyddyn Bach.

Mae'r cyfeiriadau cynharaf sydd wedi eu dogfennu'n nodi Tyddyn Cyndal (eiddo saith acer ym 1848) mewn morgais o'r 16eg ganrif; Bodola a Godrefi, y naill a'r llall i'r gogledd o'r eglwys, ger y traeth, mewn gweithred gyfnewid yn y 1630au, a Phentrellwyn, Corn Yd, Ysgubor Fawr a'r Wern, wedi eu dogfennu yn ail hanner yr 17eg ganrif.

 

 

Roedd y ffermwyr a oedd yn denantiaid yng nghanol y 19eg ganrif yn Llanddona yn ddigon llewyrchus i gyflogi dau neu dri llafurwr amaethyddol ac efallai forwyn fenywaidd o amgylch y ty neu, o leiaf, roeddent yn hunangynhaliol. Roedd y mwyafrif helaeth o'r boblogaeth, fodd bynnag, yn byw mewn bythynnod unllawr dwy ystafell ac yn darparu'r llafurlu amaethyddol ychwanegol angenrheidiol a oedd yn cefnogi'r ffermydd.

Llechfeddiannu
Mae tir uchel Mynydd Crafgoed, i'r de, yn arw ac anhydrin ac arferai gael ei ddefnyddio fel tir comin. Roedd tir comin Llaniestyn gerllaw. Yn nechrau'r 19eg ganrif, ac yn ystod diwedd y 18fed ganrif efallai, roedd rhywfaint o dir yn cael ei feddiannu ar y comin. Ychydig iawn o lechfeddiannu a welwyd ar dir comin Llaniestyn ar y llaw arall. Nid oes tystiolaeth o gau tir comin yn ffurfiol drwy Ddeddf Seneddol yn Llanddona ac mae'n rhaid nad oedd llawer o wrthwynebiad i'r sgwatwyr.

Erbyn 1848 roedd 33 llain gaeedig o dir ar y tir comin, rhai'n cyffwrdd ei gilydd, ond y rhan fwyaf ar wahân a bron y cyfan yn mesur tua hanner acer neu lai. Roedd tua hanner y lleiniau hyn yn cael eu dal gan fythynnod unllawr neu resi o fythynnod erbyn canol y 19eg ganrif. Roedd bron y cyfan o'r tiroedd caeedig gwreiddiol yn cael eu dal yn ystod ail hanner y ganrif. Roedd tua 20 darn arall o dir wedi eu cau ar dir comin Llanddona rhwng 1850 a 1890, yn ychwanegol at y 33 ffridd wreiddiol, ond dim ond saith adeilad newydd oedd wedi eu sefydlu ar y lleiniau diweddarach hyn. Roedd dau o'r rhain yn cael eu dal gan Gapel Peniel (Methodistiaid Calfinaidd) ac Ysgol Brydeinig, a gynigiwyd yn wreiddiol ym 1864, yng nghanol y tir comin. Roedd rhwydwaith o lwybrau a thraciau'n croesi'r comin, gan gysylltu'r gymuned wasgaredig ar y cyfan o tua 19 bwthyn neu resi o fythynnod. Mae'r rhostir garw a chreigiog o ran cymeriad wedi parhau hyd heddiw.

Mae clystyrau o fythynnod ym mhen gogleddol y comin (Pentre Ebolion, Ty'n y Gongl a Than y Pentre, islaw melin wynt Bryn Dona) ac yn y pen deheuol (Gorslwyd). Mae'n bosibl mai'r rhain oedd y llechfeddiannau cynharaf ac roedd rhywbeth yn debyg i bentrefannau bychain wedi ffurfio. Cyfeirir at Gorslwyd mewn dogfen rent o'r 1790au.

Roedd gefail a gof yn y Gorslwyd, masnachwr te, gwneuthurwr rhwydi a llongwr a'i deulu. Yn ystod dechrau'r 19eg ganrif darparodd rhoddion elusennol rywfaint o gyllid ar gyfer ychydig o fythynnod i'r tlodion yn ardal Ty Bach o'r comin. Fodd bynnag, bu'n rhaid i wardeniaid eglwys y plwyf werthu'r bythynnod i dalu costau cyfreithiol yn ymwneud â dyled ddrwg. Mae'r bythynnod i'w gweld o hyd ond nid oes to arnynt ac maent yn dadfeilio. Mae'n bosibl bod bythynnod eraill, yn ardaloedd Pensarn a Phentre Ebolion, mewn rhesi o dri i bump, wedi cael eu hadeiladu gan ffermwyr lleol fel llety i lafurwyr amaethyddol neu i weithwyr diwydiannol. Roedd y chwarel carreg galch ar y draethlin islaw Din Sylwy, yn union i'r gogledd-ddwyrain o Fodola, wedi agor yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Roedd y seiri meini a'r naddwyr yn byw yn ardal Ty'n y Gongl - Tan y Graig, ym mhen gogleddol y comin.

Cymeriad Hanesyddol y Dirwedd
Mae'r patrwm anheddu yng nghnewyllyn hynafol Llanddona wedi cadw nifer o elfennau sy'n nodweddiadol o ddatblygiad hir. Mae cromliniau troellog meysydd âr agored canoloesol wedi eu parselu a'u cau i'w gweld o hyd. Ailadeiladwyd yr eglwys yn y 1870au, ond mae drws o'r 15fed ganrif wedi ei gadw yn wal ddeheuol canol yr eglwys. Mae'n bosibl bod yr enw cae, Llain Clas, yn arwydd o wreiddiau llawer iawn cynharach. Mae'r Rheithordy cyfagos yn dy Sioraidd ac mewn arddull wrthgyferbyniol iawn i'r rhan fwyaf o'r tai eraill sydd yn y pentref.

Mae'r gored bysgod, Gorad Fona, yn agos at aber y nant sy'n llifo heibio'r eglwys. Roedd y nant hon ar un adeg yn troi melin y gymuned. Gellir gweld y gored a mynd ati ar lanw isel ac mae'n ategu nodweddion system ffermio gynharach sydd wedi goroesi, sy'n cynnwys tenementau o'r 16eg ganrif, yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif sydd wedi eu haddasu dros y blynyddoedd. Mae'r rhain yn cynnwys Corn Yd, Cyndal, Maes Mawr a Phentre'r Llwyn. Mae bythynnod unllawr o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif ar y draethlin.

Roedd y dirwedd yn wledig ac yn amaethyddol gan mwyaf, ac mae felly o hyd, ar wahân i grynodiad o dai sengl mawr a adeiladwyd o'r newydd yn niwedd y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif yn fwyaf arbennig ar y comin heb fawr o dir ynghlwm wrthynt, os o gwbl, ar wahân i'w gerddi. Yn y 1850au roedd 27 fferm yn yr ardal dirwedd a 78 llafurwr. Llafurwyr amaethyddol fyddai'r rhan fwyaf o'r rhain ond mae'n bosibl bod rhai'n gweithio yn y chwareli calchfaen arfordirol. Gellir nodi chwech o denantiaid Llanddona fel chwarelwyr, seiri meini a naddwyr. Roedd galwedigaethau eraill yn brin. Ym 1851 roedd dau of, dau wehydd, tri chowper, dau wneuthurwr rhwydi, dwy wniadwraig, crydd, masnachwr te, bydwraig a phedair golchwraig. Roedd yno hefyd bum morwyn, a byddai rhai ohonynt yn perthyn i deulu'r ty lle'r oeddent yn byw. Roedd dau felinydd, cynorthwyydd melinydd a chariwr. Roedd y felin wynt ym Mryn Dona ym mhen gogleddol y comin; roedd yr hen felin ddwr, ger y traeth, yn segur. Roedd yno hefyd gurad a chlerigwr yn y pentref.

Mae nifer o fythynnod unllawr ar y comin, wedi eu hadeiladu â rwbel ar hap, â simneiau cerrig, yn ôl tystiolaeth yr enghreifftiau sy'n adfeilion, ac mae gan bob un do llechi erbyn hyn. Mae'r rhain yn berthnasol i'r cyfnod llechfeddiannu cynnar. Ceir rhesi o bedwar a phum bwthyn bach twt mewn terasau. Bythynnod unllawr, wedi eu rendro yw'r rhain, a byddent wedi eu codi tua chanol y 19eg ganrif. Tua diwedd y ganrif, dechreuwyd adeiladu tai deulawr, mwy uchelgeisiol, rhai wedi eu cynllunio gan bensaer. Yn fwy diweddar, codwyd byngalos mawr iawn a thai deulawr o frics a deunyddiau wedi eu rendro, ynghyd â garejys a thai gwydr.

Mae'r ffordd dde-orllewinol droellog i lawr y llethr, i gyfeiriad y bae, yn estyniad o'r Ffordd Deg sy'n croesi Rhos Llaniestyn o Fiwmares. Ar ochr y ffordd mae cyfadeiladau datblygiad a ysbrydolwyd gan Gelf a Chrefft sy'n cynnwys y gwesty o ddechrau'r 20fed ganrif yn Wern y Wylan. Ni wireddwyd y prosiect uchelgeisiol i ddarparu canolbwynt diwylliannol a chyfleusterau i ymwelwyr ac mae'r gwesty bellach yn cynnig rhandai gwyliau hunangynhwysol. Yn union yn ei ymyl, mae datblygiad tai sy'n cynnwys un ar ddeg o fyngalos sengl mawr modern a thai deulawr wedi ei adeiladu ar y llethrau creigiog, coediog mewn gwrthgyferbyniad llwyr â chymeriad y pentref gwreiddiol ar y draethlin.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Penmon

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol